{"id":9997,"date":"2021-05-12T14:31:14","date_gmt":"2021-05-12T13:31:14","guid":{"rendered":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/?post_type=resource&#038;p=9997"},"modified":"2026-06-10T14:15:27","modified_gmt":"2026-06-10T13:15:27","slug":"llunio-manyleb-swydd","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/llunio-manyleb-swydd\/","title":{"rendered":"Llunio manyleb swydd"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-bootstrap-blocks-container container mb-2\">\n\t\n<div class=\"wp-bootstrap-blocks-row row\">\n\t\n\n<div class=\"col-12 col-md-9\">\n\t\t\t\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Trosolwg<\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"#cyflwyniad\">Cyflwyniad<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#ailasesur-rol\">Ailasesu\u2019r r\u00f4l<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#disgrifiad-swydd\">Disgrifiad swydd<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#manyleb-unigolyn\">Manyleb unigolyn<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#cyflog\">Cyflog<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#gwybodaeth-bellach\">Gwybodaeth bellach<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#ymwadiad\">Ymwadiad<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"cyflwyniad\">Cyflwyniad<\/h2>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"alignright size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"682\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/10\/pexels-burst-374720-1024x682.jpg\" alt=\"Person yn teipio ar liniadur\" class=\"wp-image-3318\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/10\/pexels-burst-374720-1024x682.jpg 1024w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/10\/pexels-burst-374720-720x480.jpg 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/10\/pexels-burst-374720-768x512.jpg 768w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/10\/pexels-burst-374720-360x240.jpg 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/10\/pexels-burst-374720-624x416.jpg 624w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/10\/pexels-burst-374720.jpg 1280w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<p>Os oes gennych swydd wag yn eich mudiad ac yn chwilio am rywun i\u2019w llenwi, bydd angen i chi greu disgrifiad swydd a manyleb unigolyn i\u2019ch helpu i benodi\u2019r unigolyn cywir ar gyfer y r\u00f4l.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd angen i chi egluro beth yw union ofynion y swydd a sut y bydd hynny\u2019n cyd-fynd \u00e2 gweddill y mudiad neu\u2019r adran.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ysgrifennu disgrifiad swydd neu fanyleb unigolyn da hefyd yn helpu\u2019r broses o ddadansoddi anghenion y swydd.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"ailasesur-rol\">Ailasesu\u2019r r\u00f4l<\/h2>\n\n\n\n<p>Os yw\u2019r swydd wag yn llenwi swydd bresennol neu\u2019n swydd newydd, bydd yn gyfle i ystyried ailstrwythuro rolau, neu i ailasesu gofynion y swydd.<br>Gofynnwch gwestiynau fel:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>A yw swyddogaeth y swydd wedi newid?<\/li>\n\n\n\n<li>A oes patrymau gwaith, technoleg neu gynnyrch, gwasanaethau neu brosiectau newydd wedi newid y swydd?<\/li>\n\n\n\n<li>A oes newidiadau\u2019n cael eu rhagweld a fydd yn gofyn am sgiliau gwahanol, mwy hyblyg gan ddeiliad y swydd?<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Gall cyfweliadau cyn ymadael, neu ymgynghori \u00e2 deiliad presennol y swydd a chydweithwyr arwain at syniadau da ar gyfer newidiadau defnyddiol.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"disgrifiad-swydd\">Disgrifiad swydd<\/h2>\n\n\n\n<p>Dylai hwn gynnwys diben, tasgau a chyfrifoldebau\u2019r swydd. Dylai disgrifiad swydd da gynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Prif ddiben y swydd<\/strong> &#8211; ceisiwch ddisgrifio hyn mewn un frawddeg<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Prif dasgau\u2019r swydd<\/strong> &#8211; defnyddiwch ferfau gweithredol, fel \u2018ysgrifennu\u2019, \u2018trwsio\u2019, \u2018peiriannu\u2019, \u2018cyfrifo\u2019, yn hytrach na thermau mwy amwys fel \u2018delio \u00e2\u2019, \u2018yng ngofal\u2019<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Cwmpas y swydd<\/strong> &#8211; ymhelaethu ar y prif dasgau a phwysigrwydd y swydd. Gellir dangos pwysigrwydd y swydd drwy roi gwybodaeth fel nifer y bobl a fydd yn cael eu goruchwylio, graddfa\u2019r manylder fydd ei angen, a gwerth unrhyw ddeunyddiau a chyfarpar a ddefnyddir<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae disgrifiad swydd da\u2019n ddefnyddiol ar gyfer pob swydd. Gall helpu gyda chynefino a hyfforddiant. Gall fod yn sail i lunio manyleb unigolyn \u2013 proffil o\u2019r sgiliau a\u2019r galluoedd y bernir sy\u2019n hanfodol a dymunol ar gyfer deiliad swydd. Mae\u2019n galluogi darpar ymgeiswyr i asesu eu hunain ar gyfer y swydd ac mae\u2019n gweithredu fel meincnod wrth edrych ar gyflawniadau.<\/p>\n\n\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"manyleb-unigolyn\">Manyleb unigolyn<\/h2>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote has-text-align-right alignright is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p class=\"has-text-align-left\">Dylai\u2019r broses o ysgrifennu manyleb swydd ac unigolyn helpu\u2019r cyflogwr i ddatblygu a gweithredu polisi cyfle cyfartal wrth recriwtio a dethol cyflogeion.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p>Mae llunio manyleb unigolyn yn galluogi\u2019r mudiad i gael proffil o\u2019r unigolyn delfrydol i lenwi\u2019r swydd. Mae\u2019n bwysig dros ben bod y sgiliau, y galluoedd a\u2019r wybodaeth sy\u2019n cael eu cynnwys yn y fanyleb yn gwbl berthnasol i anghenion y swydd: os ydynt wedi\u2019u gor-ddweud i\u2019r graddau eu bod y tu hwnt i\u2019r hyn sy\u2019n angenrheidiol i gyflawni\u2019r swydd yn effeithiol, y perygl yw y bydd rhywun yn cael ei gyflogi ar sail gobeithion a dyheadau ffug, ac y bydd y cyflogwr a\u2019r cyflogai yn cael eu siomi yn ei gilydd yn y diwedd.<\/p>\n\n\n\n<p>Rheswm da arall dros beidio \u00e2 phennu gofynion diangen yw osgoi\u2019r posibilrwydd o wahaniaethu yn erbyn grwpiau penodol o ymgeiswyr posibl.<br>Dylai\u2019r broses o ysgrifennu manyleb swydd ac unigolyn helpu\u2019r cyflogwr i ddatblygu a gweithredu polisi cyfle cyfartal wrth recriwtio a dethol cyflogeion.<\/p>\n\n\n\n<p>Ceisiwch osgoi meini prawf diangen a allai wahaniaethu\u2019n anuniongyrchol yn erbyn grwpiau sydd wedi\u2019u tangynrychioli (e.e. cymwysterau gormodol nad ydynt yn ofynnol ar gyfer y r\u00f4l).<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Meini prawf hanfodol neu ddymunol<\/h3>\n\n\n\n<p>Wrth ysgrifennu manyleb unigolyn, rhannwch y meini prawf yn ddau gategori: <strong>Hanfodol<\/strong> a <strong>Dymunol<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Meini prawf <strong>hanfodol<\/strong> yw\u2019r cymwysterau, y profiad neu\u2019r sgiliau na ellir cyflawni\u2019r r\u00f4l hebddynt. Os nad yw ymgeisydd yn bodloni\u2019r rhain, ni ddylid ei gynnwys ar y rhestr fer.<\/p>\n\n\n\n<p>Enghraifft:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>\u201cRhaid meddu ar drwydded yrru ddilys a mynediad at gerbyd ar gyfer r\u00f4l sy\u2019n gofyn am deithio rheolaidd.\u201d<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Meini prawf <strong>dymunol<\/strong> yw\u2019r rhai a fyddai\u2019n fuddiol i\u2019r r\u00f4l ond nad ydynt yn angenrheidiol ar gyfer ei chyflawni. Mae\u2019r rhestr hon yn aml yn hirach na\u2019r rhestr hanfodol.<\/p>\n\n\n\n<p>Enghraifft:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>\u201cProfiad o ddefnyddio cronfeydd data codi arian fel Donorfy neu Raiser\u2019s Edge.\u201d<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Byddwch yn realistig<\/strong> yngl\u0177n \u00e2\u2019r hyn rydych chi\u2019n ei gynnwys fel hanfodol. Gall pennu\u2019n ormodol atal ymgeiswyr galluog o gefndiroedd sydd wedi\u2019u tangynrychioli neu nad ydynt yn draddodiadol rhag ymgeisio. Dylai\u2019r fanyleb unigolyn helpu ymgeiswyr i hunanasesu a ydynt yn addas heb eu digalonni\u2019n ddiangen.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r ffactorau i\u2019w hystyried wrth lunio manyleb unigolyn yn cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Sgiliau, gwybodaeth, galluoedd sy\u2019n ymwneud yn benodol \u00e2\u2019r swydd<\/li>\n\n\n\n<li>Y math o brofiad sydd ei angen<\/li>\n\n\n\n<li>Y cymwyseddau sydd eu hangen<\/li>\n\n\n\n<li>Addysg a hyfforddiant ond dim ond yr hyn sydd ei angen i gyflawni\u2019r swydd yn foddhaol, oni bai fod yr unigolyn yn cael ei recriwtio ar sail potensial ar gyfer y dyfodol (e.e. hyfforddeion \u00e2 gradd), lle bydd modd nodi lefel addysg uwch<\/li>\n\n\n\n<li>Rhaid i unrhyw feini prawf sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 nodweddion neu amgylchiadau personol fod yn rhai hanfodol sy\u2019n ymwneud yn benodol \u00e2\u2019r swydd, a rhaid eu cymhwyso\u2019n gyfartal i bob ymgeisydd. Fel arall gallech fod yn gwahaniaethu yn erbyn rhywun<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Er enghraifft, gellir cynnwys cymal sy\u2019n dweud y gallai fod angen i\u2019r ymgeisydd llwyddiannus symud ei leoliad gwaith ond dim ond pan fydd hynny\u2019n gwbl hanfodol, gan ei fod yn debygol o wneud i ymgeiswyr ag ymrwymiadau gofal teulu beidio ag ymgeisio.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sgiliau neu nodweddion<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae hefyd yn ddefnyddiol gwahanu <strong>sgiliau<\/strong> a <strong>nodweddion<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae <strong>sgiliau<\/strong> yn alluoedd mesuradwy y gellir eu dangos.<\/p>\n\n\n\n<p>Enghreifftiau:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>\u201cY gallu i ddefnyddio Microsoft Excel hyd at lefel ganolradd\u201d<\/li>\n\n\n\n<li>\u201cProfiadol ar gyfer darparu hyfforddiant i grwpiau\u201d<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae <strong>nodweddion<\/strong> yn nodweddion neu briodoleddau personol sy\u2019n cyfrannu at sut mae person yn gweithio neu\u2019n rhyngweithio ag eraill.<\/p>\n\n\n\n<p>Enghreifftiau:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>\u201cCyfeillgar ac agos atoch\u201d<\/li>\n\n\n\n<li>\u201cYn drylwyr iawn\u201d<\/li>\n\n\n\n<li>\u201cYn gydnerth a hyblyg o dan bwysau\u201d<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae cyflwyno\u2019r rhain yn glir yn helpu\u2019r cyflogwr a\u2019r ymgeisydd i ddeall beth sy\u2019n ddisgwyliedig ac yn annog ystod ehangach o geisiadau addas.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae manyleb unigolyn yn helpu\u2019r broses ddethol a\u2019r cyfweliad fydd yn dilyn i gael eu cynnal mewn ffordd systematig, ac mor ddiragfarn \u00e2 phosibl.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"cyflog\">Cyflog<\/h2>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"alignright size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Payroll-giving-1024x683.jpg\" alt=\"Dwylo person yn llenwi ffurflen ac yn defnyddio cyfrifiannell gyda darnau arian.\" class=\"wp-image-22594\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Payroll-giving-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Payroll-giving-720x480.jpg 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Payroll-giving-768x512.jpg 768w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Payroll-giving-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Payroll-giving-360x240.jpg 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Payroll-giving-1800x1200.jpg 1800w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Payroll-giving-624x416.jpg 624w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Payroll-giving.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<p>Ar \u00f4l cytuno ar y manylebau swydd ac unigolyn, rhaid wedyn ystyried graddfeydd cyflog. Gall ffactorau fel graddfeydd a chytundebau a negodir, yn ogystal \u00e2 chyfraddau\u2019r farchnad a phrinder sgiliau, effeithio ar y cyflog neu\u2019r t\u00e2l, a dylai mudiadau fod yn ymwybodol o ofynion y ddeddfwriaeth cyflog cyfartal a gwahaniaethu.<\/p>\n\n\n\n<p>Oni bai fod system ffurfiol ar gyfer cynyddrannau neu hyd gwasanaeth, gallai talu cyfradd sy\u2019n wahanol i\u2019r hyn a dalwyd i ddeiliad blaenorol y swydd i gyflogai newydd fynd yn groes i\u2019r ddeddfwriaeth berthnasol. Rhaid i gyflogeion sicrhau bod y r\u00f4l yn cydymffurfio \u00e2 <strong>Deddf Isafswm Cyflog Cenedlaethol 1998<\/strong> ac \u00e2 chyfraddau\u2019r Isafswm Cyflog Cenedlaethol presennol.<\/p>\n\n\n\n<p>I gael canllawiau cyfredol, ewch i: <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/national-minimum-wage-rates\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/www.gov.uk\/national-minimum-wage-rates<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Efallai yr hoffech chi ddod yn gyflogwr Cyflog Byw ac efallai y byddwch yn gweld bod rhai cyllidwyr yn gofyn am hyn. Mae gwybodaeth am hyn ar gael yma:<\/p>\n\n\n\n<p>Ymchwiliwch i fudiadau eraill (yn eich ardal ddaearyddol) sy\u2019n hysbysebu swyddi gwag \u2018tebyg\u2019 i weld a ydych chi\u2019n talu\u2019r gyfradd gyfredol am y swydd dan sylw. Cofiwch gymharu\u2019r sgiliau sydd eu hangen a\u2019r disgrifiadau swydd.<\/p>\n\n\n\n<p>I gael cyngor ar strwythurau cyflog moesegol cysylltwch \u00e2\u2019ch Cyngor Gwirfoddol Sirol neu \u00e2 Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"gwybodaeth-bellach\">Gwybodaeth bellach<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Llywodraeth y DU<\/h3>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/browse\/working\" type=\"link\" id=\"https:\/\/www.gov.uk\/browse\/working\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">www.gov.uk\/browse\/working<\/a><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">ACAS<\/h3>\n\n\n\n<p>Ff\u00f4n: <a href=\"tel:08457474747\" type=\"tel\" id=\"tel:08457474747\">08457 474747<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.acas.org.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">www.acas.org.uk<\/a><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">TUC Cymru<\/h3>\n\n\n\n<p>Ff\u00f4n: <a href=\"tel:02920347010\" type=\"tel\" id=\"tel:02920347010\">029 2034 7010<\/a><br><a href=\"mailto:wtuc@tuc.org.uk\">wtuc@tuc.org.uk<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.tuc.org.uk\/wales\" type=\"link\" id=\"https:\/\/www.tuc.org.uk\/wales\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">www.tuc.org.uk\/wales<\/a><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC)<\/h3>\n\n\n\n<p>Ff\u00f4n: <a href=\"tel:08088000082\" type=\"tel\" id=\"tel:08088000082\">0808 800 0082<\/a><br>Ff\u00f4n testun: 0808 800 0084 <a href=\"mailto:wales@equalityhumanrights.com\">wales@equalityhumanrights.com<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.equalityhumanrights.com\/wales\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/www.equalityhumanrights.com\/wales<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"ymwadiad\">Ymwadiad<\/h2>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"alignright size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1800\" height=\"1200\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw.jpg\" alt=\"Pobl mewn cae yn edrych tua'r machlud haul\" class=\"wp-image-24064\" style=\"object-fit:cover\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw.jpg 1800w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw-720x480.jpg 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw-768x512.jpg 768w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw-360x240.jpg 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw-624x416.jpg 624w\" sizes=\"auto, (max-width: 1800px) 100vw, 1800px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<p>Rhwydwaith o fudiadau cymorth i\u2019r trydydd sector cyfan yng Nghymru yw Cefnogi Trydydd Sector Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Ceir ynddo\u2019r 19 corff cymorth lleol a rhanbarthol ledled Cymru, y Cynghorau Gwirfoddol Sirol, a\u2019r corff cymorth cenedlaethol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC).<br>Am ragor o wybodaeth cysylltwch \u00e2<br><a href=\"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/cysylltu\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/cysylltu\/<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r wybodaeth a ddarperir yn y daflen hon ar gyfer cyfarwyddyd yn unig. Nid yw\u2019n amnewid am gyngor proffesiynol ac ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled o ganlyniad i unrhyw un sy\u2019n gweithredu neu\u2019n gwrthod gweithredu arno.<\/p>\n\n\t<\/div>\n\n\n\n<div class=\"col-12 col-md-3\">\n\t\t\t\n\n\t<\/div>\n\n<\/div>\n\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r enghraifft hon at ddibenion canllaw yn unig, a dylid ei haddasu i siwtio eich mudiad penodol.<\/p>\n","protected":false},"author":1175,"featured_media":9934,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"ep_exclude_from_search":false,"footnotes":""},"categories":[759],"tags":[723,770],"class_list":["post-9997","resource","type-resource","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llywodraethu-da","tag-good-governance","tag-hr","pillar-llywodraethu-da"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Llunio manyleb swydd | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Os oes gennych swydd wag yn eich mudiad ac yn chwilio am rywun i\u2019w llenwi, bydd angen i chi greu disgrifiad swydd a manyleb unigolyn i\u2019ch helpu i benodi\u2019r unigolyn cywir ar gyfer y r\u00f4l.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/llunio-manyleb-swydd\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Llunio manyleb swydd | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Os oes gennych swydd wag yn eich mudiad ac yn chwilio am rywun i\u2019w llenwi, bydd angen i chi greu disgrifiad swydd a manyleb unigolyn i\u2019ch helpu i benodi\u2019r unigolyn cywir ar gyfer y r\u00f4l.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/llunio-manyleb-swydd\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-06-10T13:15:27+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/05\/6.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1028\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"626\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"7 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/llunio-manyleb-swydd\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/llunio-manyleb-swydd\/\",\"name\":\"Llunio manyleb swydd | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/llunio-manyleb-swydd\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/llunio-manyleb-swydd\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/05\/6.jpg\",\"datePublished\":\"2021-05-12T13:31:14+00:00\",\"dateModified\":\"2026-06-10T13:15:27+00:00\",\"description\":\"Os oes gennych swydd wag yn eich mudiad ac yn chwilio am rywun i\u2019w llenwi, bydd angen i chi greu disgrifiad swydd a manyleb unigolyn i\u2019ch helpu i benodi\u2019r unigolyn cywir ar gyfer y r\u00f4l.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/llunio-manyleb-swydd\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/llunio-manyleb-swydd\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/llunio-manyleb-swydd\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/05\/6.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/05\/6.jpg\",\"width\":1028,\"height\":626,\"caption\":\"Llun: ysgrifennu ar glipfwrdd\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/llunio-manyleb-swydd\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Llunio manyleb swydd\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"description\":\"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"width\":512,\"height\":512,\"caption\":\"Hwb Gwybodaeth\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Llunio manyleb swydd | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","description":"Os oes gennych swydd wag yn eich mudiad ac yn chwilio am rywun i\u2019w llenwi, bydd angen i chi greu disgrifiad swydd a manyleb unigolyn i\u2019ch helpu i benodi\u2019r unigolyn cywir ar gyfer y r\u00f4l.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/llunio-manyleb-swydd\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Llunio manyleb swydd | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","og_description":"Os oes gennych swydd wag yn eich mudiad ac yn chwilio am rywun i\u2019w llenwi, bydd angen i chi greu disgrifiad swydd a manyleb unigolyn i\u2019ch helpu i benodi\u2019r unigolyn cywir ar gyfer y r\u00f4l.","og_url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/llunio-manyleb-swydd\/","og_site_name":"Hwb Gwybodaeth","article_modified_time":"2026-06-10T13:15:27+00:00","og_image":[{"width":1028,"height":626,"url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/05\/6.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"7 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/llunio-manyleb-swydd\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/llunio-manyleb-swydd\/","name":"Llunio manyleb swydd | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","isPartOf":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/llunio-manyleb-swydd\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/llunio-manyleb-swydd\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/05\/6.jpg","datePublished":"2021-05-12T13:31:14+00:00","dateModified":"2026-06-10T13:15:27+00:00","description":"Os oes gennych swydd wag yn eich mudiad ac yn chwilio am rywun i\u2019w llenwi, bydd angen i chi greu disgrifiad swydd a manyleb unigolyn i\u2019ch helpu i benodi\u2019r unigolyn cywir ar gyfer y r\u00f4l.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/llunio-manyleb-swydd\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/llunio-manyleb-swydd\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/llunio-manyleb-swydd\/#primaryimage","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/05\/6.jpg","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/05\/6.jpg","width":1028,"height":626,"caption":"Llun: ysgrifennu ar glipfwrdd"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/llunio-manyleb-swydd\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Llunio manyleb swydd"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","name":"Hwb Gwybodaeth","description":"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.","publisher":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization","name":"Hwb Gwybodaeth","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","width":512,"height":512,"caption":"Hwb Gwybodaeth"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/9997","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1175"}],"version-history":[{"count":15,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/9997\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":25524,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/9997\/revisions\/25524"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9934"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9997"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9997"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9997"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}