{"id":9966,"date":"2021-05-12T13:01:32","date_gmt":"2021-05-12T12:01:32","guid":{"rendered":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/?post_type=resource&#038;p=9966"},"modified":"2026-06-07T13:04:40","modified_gmt":"2026-06-07T12:04:40","slug":"polisi-a-gweithdrefn-mabwysiadu","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mabwysiadu\/","title":{"rendered":"Polisi a gweithdrefn mabwysiadu"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-bootstrap-blocks-container container mb-2\">\n\t\n<div class=\"wp-bootstrap-blocks-row row\">\n\t\n\n<div class=\"col-12 col-md-9\">\n\t\t\t\n\n\n\n<p>Dylai mudiadau fod \u00e2 pholisi sy\u2019n nodi hawliau cyflogeion i absenoldeb mabwysiadu a th\u00e2l mabwysiadu, sy\u2019n ystyried y lleiafswm y mae ganddynt hawl statudol iddo. Ni ddylai cyflogwr roi cyflogai dan anfantais neu ei ddiswyddo ef neu hi am gymryd, neu geisio cymryd, absenoldeb mabwysiadu. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n bosibl y bydd cyflogeion yn gymwys i gael Absenoldeb Mabwysiadu Statudol neu D\u00e2l Mabwysiadu Statudol os ydynt yn:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mabwysiadu plentyn<\/li>\n\n\n\n<li>Maethu plentyn yn barhaol ac yn dod yn rhiant cyfreithiol (\u2018maethu i fabwysiadu\u2019)<\/li>\n\n\n\n<li>Ymrwymo i drefniant i eni babi ar ran rhywun arall<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Canllaw yn unig yw\u2019r polisi enghreifftiol canlynol, ac ni ddylid ystyried ei fod yn ddatganiad awdurdodol o\u2019r gyfraith.<\/p>\n\n\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Trosolwg<\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"#polisi-a-gweithdrefn-mabwysiadu\">Polisi a Gweithdrefn Mabwysiadu<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#hawliau-ychwanegol\">Hawliau ychwanegol<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#buddion-cytundebol\">Buddion cytundebol<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#gwybodaeth-bellach\">Gwybodaeth bellach<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"polisi-a-gweithdrefn-mabwysiadu\">Polisi a gweithdrefn mabwysiadu<\/h2>\n\n\n\n<p>Polisi [ENW\u2019R MUDIAD] yw cydymffurfio \u00e2 llythyren ac ysbryd y gyfraith ar hawliau mabwysiadu. Yn hyn o beth, y nod yw rhoi gwybod i bob cyflogai am ei hawliau mabwysiadu statudol a sicrhau bod yr hawliau hynny yn cael eu deall gan gyflogeion cymwys. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae gan gyflogai hawl i gymryd 52 wythnos o absenoldeb mabwysiadu statudol a chael t\u00e2l mabwysiadu statudol (SAP) am 39 wythnos pan fydd yn mabwysiadu plentyn, os yw\u2019n bodloni\u2019r meini prawf cymhwyso isod.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">1. Hawl i absenoldeb mabwysiadu statudol (SAL)<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae gan y cyflogai hawl i gymryd hyd at 52 wythnos o absenoldeb mabwysiadu statudol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae cyfnod yr absenoldeb mabwysiadu statudol yn cynnwys 26 wythnos o absenoldeb mabwysiadu arferol, ac yna 26 wythnos o absenoldeb mabwysiadu ychwanegol yn union ar \u00f4l hynny.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">2. Cymhwysedd i gael absenoldeb mabwysiadu statudol (SAL)<\/h3>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Mabwysiadu yn y DU<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae gan gyflogai hawl i absenoldeb mabwysiadu statudol pan fydd: <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Wedi cael ei baru gyda phlentyn i\u2019w leoli gydag ef gan asiantaeth fabwysiadu yn y DU<\/li>\n\n\n\n<li>Wedi rhoi gwybod i\u2019r asiantaeth ei fod yn cytuno y dylai\u2019r plentyn gael ei leoli gydag ef ac yn cytuno ar ddyddiad lleoli<\/li>\n\n\n\n<li>Wedi cael ei gyflogi gan y mudiad hwn am o leiaf 26 wythnos yn parhau i\u2019r wythnos pan fydd yn cael gwybod bod y plentyn wedi\u2019i baru ag ef<\/li>\n\n\n\n<li>Wedi rhoi gwybod i\u2019r mudiad hwn pryd y mae\u2019n awyddus i gymryd ei absenoldeb mabwysiadu statudol heb fod yn hwyrach na saith diwrnod ar \u00f4l cael gwybod ei fod wedi\u2019i baru \u00e2 phlentyn<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Mabwysiadu dramor<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae gan gyflogai hawl i absenoldeb mabwysiadu statudol os yw: <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Wedi cael <strong>hysbysiad swyddogol<\/strong> gan yr awdurdod perthnasol yn y DU am ei gymhwysedd i fabwysiadu plentyn o dramor<\/li>\n\n\n\n<li>Wedi cael ei gyflogi gan y mudiad hwn am o leiaf 26 wythnos erbyn yr amser y mae wedi derbyn yr hysbysiad swyddogol, neu erbyn yr amser y mae\u2019r absenoldeb mabwysiadu statudol i fod i ddechrau, pa un bynnag sydd hwyrach<\/li>\n\n\n\n<li>Wedi rhoi hysbysiad priodol i chi<\/li>\n\n\n\n<li>Yn mabwysiadu\u2019r plentyn. Dyma\u2019r person fydd yn mabwysiadu\u2019r plentyn neu sydd wedi mabwysiadu\u2019r plentyn, neu mewn achos lle bydd y plentyn yn cael ei fabwysiadu neu lle mae\u2019r plentyn wedi cael ei fabwysiadu gan ddau berson ar y cyd, pa un bynnag o\u2019r mabwysiadwyr ar y cyd sydd wedi dewis cymryd absenoldeb mabwysiadu mewn perthynas \u00e2\u2019r plentyn<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Mabwysiadu\u2019n Unigol ac ar y cyd<\/h3>\n\n\n\n<p>Os yw cwpl yn mabwysiadu ar y cyd, gallant benderfynu pwy fydd yn cymryd yr absenoldeb mabwysiadu statudol a phwy (waeth beth fo\u2019i ryw) fydd yn cymryd absenoldeb tadolaeth statudol (SPL).<\/p>\n\n\n\n<p>Os yw cyflogai yn mabwysiadu\u2019n unigol, dim ond ef\/hi sy\u2019n gymwys i gael absenoldeb mabwysiadu statudol, er y gall partner y cyflogai (waeth beth fo\u2019i ryw) fod yn gymwys i gael absenoldeb tadolaeth statudol.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Rhieni maeth sy\u2019n mabwysiadu plentyn<\/h3>\n\n\n\n<p>Gall rhiant maeth gymryd absenoldeb mabwysiadu statudol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Os yw\u2019r plentyn y mae cyflogai\u2019n ei faethu yn cael ei baru ag ef i\u2019w fabwysiadu gan asiantaeth fabwysiadu yn y DU. Nid yw mabwysiadu drwy orchymyn llys yn berthnasol.<\/li>\n\n\n\n<li>Os yw\u2019r plentyn yn cael ei leoli gydag ef wedyn i gael ei fabwysiadu.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019r meini prawf hysbysu a gwasanaeth arferol yn dal i fod yn berthnasol. Mae\u2019r absenoldeb mabwysiadu ond yn berthnasol i\u2019r lleoliad mabwysiadu gwirioneddol &#8211; nid yw unrhyw gyfnod o ofal maeth yn cyfrif.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwarcheidiaeth arbennig<\/h3>\n\n\n\n<p>Nid yw absenoldeb mabwysiadu statudol ar gael i warcheidiaethau arbennig.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Geni babi ar ran rhywun arall<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r gofynion yr un peth os yw\u2019r cyflogai wedi ymrwymo i drefniant i eni plentyn ar ran rhywun arall, ond mae\u2019n rhaid ei fod wedi bod mewn cyflogaeth barhaus am o leiaf 26 wythnos erbyn y 15fed wythnos cyn y disgwylir i\u2019r babi gael ei eni.<\/p>\n\n\n\n<p>Rhaid iddo hefyd:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Fwriadu gwneud cais am <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/become-a-childs-legal-parent\" type=\"link\" id=\"https:\/\/www.gov.uk\/become-a-childs-legal-parent\">orchymyn rhianta<\/a> o fewn 6 mis i enedigaeth y plentyn<\/li>\n\n\n\n<li>Disgwyl i\u2019r gorchymyn gael ei gadarnhau (er enghraifft gan nad oes ganddo unrhyw euogfarnau\u2019n ymwneud \u00e2 phlant, a chan fod y fam a\u2019r tad biolegol yn cytuno i\u2019r trefniant)<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Os yw\u2019n berthynas biolegol i\u2019r plentyn (rhoddwr y sberm neu\u2019r \u0175y), gall ddewis cael <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/paternity-pay-leave\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">absenoldeb a th\u00e2l tadolaeth<\/a> yn lle. Does dim modd cael y ddau. <\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">3. Pryd y gall absenoldeb mabwysiadu statudol ddechrau<\/h3>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Mabwysiadu yn y DU<\/h4>\n\n\n\n<p>Gall cyflogai ddewis dechrau ei absenoldeb (a\u2019i d\u00e2l) mabwysiadu ar y naill neu\u2019r llall o\u2019r canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Y dyddiad y bydd y plentyn yn cael ei leoli gydag ef i\u2019w fabwysiadu<\/li>\n\n\n\n<li>Dyddiad a bennir ymlaen llaw heb fod yn gynt na 14 diwrnod cyn y dyddiad y disgwylir i\u2019r lleoliad ddechrau, a heb fod yn hwyrach na\u2019r dyddiad y disgwylir i\u2019r lleoliad ddechrau<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Mabwysiadu dramor<\/h4>\n\n\n\n<p>Gall cyflogeion ddewis dechrau eu habsenoldeb (a\u2019u t\u00e2l) mabwysiadu naill ai:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>O\u2019r dyddiad y bydd y plentyn yn dod o mewn i\u2019r DU; neu<\/li>\n\n\n\n<li>O ddyddiad penodol (yr ydych wedi cael gwybod amdano) heb fod yn hwyrach na 28 diwrnod ar \u00f4l i\u2019r plentyn ddod i mewn i\u2019r DU<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-left\"><em>(NODER: Ni fwriedir i absenoldeb mabwysiadu statudol gael ei ddefnyddio ar gyfer y cyfnod y bydd cyflogeion yn ei dreulio\u2019n teithio dramor i drefnu\u2019r mabwysiadu neu ymweld \u00e2\u2019r plentyn. Fodd bynnag, gallech ganiat\u00e1u i\u2019r cyflogai gymryd gwyliau blynyddol neu absenoldeb heb d\u00e2l i wneud hyn)<\/em><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">4. Pryd y gall absenoldeb mabwysiadu statudol ddod i ben<\/h3>\n\n\n\n<p>Fel arfer, bydd Absenoldeb Mabwysiadu Statudol y cyflogai\u2019n dod i ben 52 wythnos o\u2019r dyddiad y disgwylir i\u2019w absenoldeb mabwysiadu ddechrau. <\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">5. Gweithdrefnau hysbysu<\/h3>\n\n\n\n<p>Fel arfer, bydd Absenoldeb Mabwysiadu Statudol y cyflogai\u2019n dod i ben 52 wythnos o\u2019r dyddiad y disgwylir i\u2019w absenoldeb mabwysiadu ddechrau. <\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Mabwysiadu yn y DU<\/h4>\n\n\n\n<p>Dylai\u2019r cyflogai roi gwybod i [NODWCH BWY E.E. RHEOLWR LLINELL\/RHEOLWR ADNODDAU DYNOL] saith diwrnod fan bellaf ar \u00f4l iddo gael ei baru \u00e2 phlentyn:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ei fod yn bwriadu cymryd absenoldeb mabwysiadu<\/li>\n\n\n\n<li>Pryd y mae\u2019n bwriadu dechrau\u2019r cyfnod hwnnw o absenoldeb<\/li>\n\n\n\n<li>Y dyddiad y mae disgwyl i\u2019r plentyn gael ei leoli gydag ef i\u2019w fabwysiadu<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Mabwysiadu dramor<\/h4>\n\n\n\n<p>Rhaid i\u2019r cyflogai roi gwybod i [NODWCH BWY E.E. RHEOLWR LLINELL\/RHEOLWR ADNODDAU DYNOL] mewn tri cham<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Y cam cyntaf<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Rhaid i\u2019r cyflogai wneud y canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Rhoi gwybod i [NODWCH BWY E.E. RHEOLWR LLINELL\/RHEOLWR ADNODDAU DYNOL] am y dyddiad pan gafodd hysbysiad swyddogol; a<\/li>\n\n\n\n<li>Y dyddiad y mae disgwyl i\u2019r plentyn ddod i mewn i\u2019r DU<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Yr ail gam<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Rhaid i\u2019r cyflogai wneud y canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Rhoi o leiaf 28 diwrnod o rybudd i [NODWCH BWY E.E. RHEOLWR LLINELL\/RHEOLWR ADNODDAU DYNOL] o\u2019r dyddiad yr hoffai i\u2019W absenoldeb mabwysiadu statudol (a\u2019r SAP os yw\u2019n berthnasol) ddechrau. (Gall y cyflogai roi gwybod am hyn yn ystod y cam hysbysu cyntaf os yw\u2019n gwybod y dyddiad)<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Y trydydd cam<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Rhaid i\u2019r cyflogai hysbysu:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Rhoi gwybod i [NODWCH BWY E.E. RHEOLWR LLINELL\/RHEOLWR ADNODDAU DYNOL] am y dyddiad y daeth y plentyn i mewn i\u2019r DU o fewn 28 diwrnod i\u2019r dyddiad hwnnw. Ni all yr absenoldeb mabwysiadu statudol ddechrau cyn i\u2019r plentyn ddod i mewn i\u2019r DU<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">6. Newid dyddiad dechrau\u2019r absenoldeb mabwysiadu statudol<\/h3>\n\n\n\n<p>Gall cyflogai newid y dyddiad dechrau bwriadedig os yw\u2019n rhoi gwybod i [NODWCH BWY E.E. RHEOLWR LLINELL\/RHEOLWR ADNODDAU DYNOL] am y dyddiad dechrau newydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Rhaid i\u2019r cyflogai wneud hyn erbyn pa un bynnag o\u2019r canlynol sydd gynharaf:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>28 diwrnod cyn ei ddyddiad dechrau mabwysiadu<\/li>\n\n\n\n<li>28 diwrnod cyn ei ddyddiad dechrau mabwysiadu newydd<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Os nad yw\u2019n rhesymol ymarferol i\u2019r cyflogai roi cymaint o rybudd \u00e2 hyn, dylai\u2019r cyflogai roi cymaint o rybudd ag sy\u2019n bosibl.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">7. Absenoldeb mabwysiadu gwell<\/h3>\n\n\n\n<p>Gellid gwella trefniadau absenoldeb mabwysiadu i ddenu neu gadw cyflogeion. Dylai\u2019r trefniadau hyn fod yn hawl gytundebol yn hytrach nag ar sail achosion unigol yn \u00f4l disgresiwn i osgoi gwahaniaethu uniongyrchol neu anuniongyrchol.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"hawliau-ychwanegol\">Hawliau ychwanegol<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">8. Cymhwysedd i gael T\u00e2l Mabwysiadu Statudol (SAP)<\/h3>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"alignright size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/10\/multi-generation-family-toasting-marshmallows-arou-2ULBMHN-1024x683.jpg\" alt=\"Teulu aml-genhedlaeth o amgylch t\u00e2n gwersyll\" class=\"wp-image-10709\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/10\/multi-generation-family-toasting-marshmallows-arou-2ULBMHN-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/10\/multi-generation-family-toasting-marshmallows-arou-2ULBMHN-720x480.jpg 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/10\/multi-generation-family-toasting-marshmallows-arou-2ULBMHN-768x512.jpg 768w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/10\/multi-generation-family-toasting-marshmallows-arou-2ULBMHN-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/10\/multi-generation-family-toasting-marshmallows-arou-2ULBMHN-2048x1365.jpg 2048w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/10\/multi-generation-family-toasting-marshmallows-arou-2ULBMHN-360x240.jpg 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/10\/multi-generation-family-toasting-marshmallows-arou-2ULBMHN-1800x1200.jpg 1800w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/10\/multi-generation-family-toasting-marshmallows-arou-2ULBMHN-624x416.jpg 624w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Mabwysiadu yn y DU<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae cyflogai\u2019n gymwys i gael t\u00e2l mabwysiadu statudol (SAP) os yw:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Wedi cael ei gyflogi gan y mudiad am o leiaf 26 wythnos yn parhau i\u2019r wythnos y mae\u2019n cael gwybod ei fod wedi cael ei baru \u00e2\u2019r plentyn (yr \u2018wythnos baru\u2019)<\/li>\n\n\n\n<li>Wedi rhoi gwybod i [NODWCH BWY E.E. RHEOLWR LLINELL\/RHEOLWR ADNODDAU DYNOL] ei fod eisiau cael SAP o leiaf 28 diwrnod, neu cyn gynted ag sy\u2019n rhesymol ymarferol, cyn yr hoffai i\u2019r taliad ddechrau<\/li>\n\n\n\n<li>Yn derbyn enillion wythnosol gros cyfartalog (enillion cyn Treth ac Yswiriant Gwladol) o \u00a3120.00<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Mabwysiadu dramor<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae cyflogai\u2019n gymwys i gael t\u00e2l mabwysiadu statudol (SAP) os yw:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Wedi derbyn hysbysiad swyddogol<\/li>\n\n\n\n<li>Wedi cael ei gyflogi gan y mudiad am o leiaf 26 wythnos yn parhau i\u2019r wythnos y mae\u2019n derbyn yr hysbysiad swyddogol neu erbyn yr amser yr hoffai i\u2019r SAP ddechrau, pa un bynnag sydd hwyraf<\/li>\n\n\n\n<li>Wedi rhoi gwybod i [NODWCH BWY E.E. RHEOLWR LLINELL\/RHEOLWR ADNODDAU DYNOL] ei fod am gael SAP o leiaf 28 diwrnod, neu cyn gynted ag sy\u2019n rhesymol ymarferol, cyn yr hoffai i\u2019r taliad ddechrau<\/li>\n\n\n\n<li>Yn derbyn enillion gros wythnosol cyfartalog (enillion cyn Treth ac Yswiriant Gwladol) o \u00a3120.00<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Mabwysiadu\u2019n unigol ac ar y cyd<\/h4>\n\n\n\n<p>Os yw cwpl yn mabwysiadu ar y cyd, gallant ddewis pwy fydd yn cymryd yr absenoldeb a\u2019r t\u00e2l mabwysiadu statudol a phwy (waeth beth fo\u2019i ryw) fydd yn cymryd absenoldeb a th\u00e2l tadolaeth statudol.<\/p>\n\n\n\n<p>Os yw cyflogai\u2019n mabwysiadu\u2019n unigol, dim ond ef\/hi sy\u2019n gymwys i gael t\u00e2l mabwysiadu statudol, er y gall partner y cyflogai (waeth beth fo\u2019i ryw) fod yn gymwys i gael absenoldeb a th\u00e2l tadolaeth statudol.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">9. Cyfraddau a hyd<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae t\u00e2l mabwysiadu statudol yn daladwy naill ai ar:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Y <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/adoption-pay-leave\/pay\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">gyfradd wythnosol safonol<\/a> (Saesneg yn unig), neu<\/li>\n\n\n\n<li>90 y cant o\u2019i enillion wythnosol cyfartalog os yw\u2019r swm hwn yn is na\u2019r gyfradd wythnosol safonol<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Ni ellir talu t\u00e2l mabwysiadu statudol am fwy na 39 wythnos.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">10. Gweithio yn ystod absenoldeb mabwysiadu (Diwrnodau cadw mewn cysylltiad)<\/h3>\n\n\n\n<p>Gall cyflogeion ar Absenoldeb Mabwysiadu weithio hyd at ddeng diwrnod yn ystod eu Habsenoldeb Mabwysiadu heb effeithio ar ei hawl i gael SAP. Gellir defnyddio\u2019r diwrnodau hyn, sy\u2019n cael eu galw\u2019n \u2018Ddiwrnodau Cadw mewn Cysylltiad\u2019 neu \u2018Ddiwrnodai KIT\u2019, ar gyfer unrhyw waith a gyflawnir dan gontract cyflogaeth y cyflogai, hyfforddiant neu unrhyw weithgareddau a gyflawnir at ddibenion cadw mewn cysylltiad \u00e2\u2019r gweithle. Rhaid i\u2019r cyflogai gael ei dalu am y gwaith y mae\u2019n ei wneud ar gyfradd sydd wedi\u2019i chytuno ar y cyd. Rhaid i\u2019r math o waith a wneir gael ei drafod a\u2019i gytuno ymlaen llaw gyda [NODWCH BWY E.E. RHEOLWR LLINELL\/RHEOLWR ADNODDAU DYNOL].<\/p>\n\n\n\n<p>Ni all [ENW\u2019R MUDIAD] fynnu bod cyflogai yn cwblhau unrhyw waith yn ystod ei absenoldeb mabwysiadu, ac mae\u2019r cyflogai\u2019n cael ei amddiffyn rhag unrhyw anfantais neu gael ei ddiswyddo drwy wrthod cwblhau diwrnod KIT. Yn yr un modd, ni all cyflogai fynnu ei fod yn gweithio ar unrhyw adeg yn ystod ei gyfnod o absenoldeb mabwysiadu.<\/p>\n\n\n\n<p>At ddibenion y weithdrefn hon, bydd rhan o ddiwrnod neu ddiwrnod llawn yn cyfrif fel un diwrnod KIT. Ni fydd cyfnod absenoldeb mabwysiadu cyflogai\u2019n cael ei ymestyn os bydd diwrnod KIT yn cael ei ddefnyddio.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">11. T\u00e2l mabwysiadu statudol uwch<\/h3>\n\n\n\n<p>Gellir talu mwy na\u2019r t\u00e2l mabwysiadu statudol er mwyn denu neu gadw cyflogeion. Dylai\u2019r trefniadau hyn fod yn hawl gytundebol yn hytrach nag ar sail achosion unigol yn \u00f4l disgresiwn er mwyn osgoi gwahaniaethu uniongyrchol neu anuniongyrchol.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"buddion-cytundebol\">Buddion cytundebol<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">12. Gwyliau blynyddol<\/h3>\n\n\n\n<p>Yn ystod Absenoldeb Mabwysiadu, bydd y cyflogai yn dal i gronni gwyliau blynyddol yn yr un modd ag y byddai petai\u2019n gweithio. [NODWCH PRYD MAE&#8217;R FLWYDDYN WYLIAU&#8217;N DECHRAU AC YN GORFFEN]. Rhaid i\u2019r cyflogai gymryd diwrnodau o wyliau blynyddol yn yr un flwyddyn ag y cawsant eu cronni. [NODWCH Y RHEOLAU YNGHYLCH CARIO GWYLIAU BLYNYDDOL DROSODD I&#8217;R FLWYDDYN NESAF. SYLWCH NAD OES MODD CARIO GWYLIAU BLYNYDDOL STATUDOL DROSODD I&#8217;R FLWYDDYN NESAF].<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-left\"><em>(NODER: Pa un a yw\u2019r cyflogai\u2019n cael t\u00e2l mabwysiadu statudol a\/neu d\u00e2l mabwysiadu uwch ai peidio, dylech gyfrifo cyfraniad y cyflogwr at Gynllun Pensiwn Galwedigaethol yn yr un modd ag y byddech petai\u2019r cyflogai\u2019n cael cyflog llawn tra ei fod ar absenoldeb mabwysiadu)<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Yn ystod unrhyw gyfnod y mae eich cyflogai ar absenoldeb mabwysiadu ychwanegol ond nad yw\u2019n cael unrhyw d\u00e2l mabwysiadu e.e. yn ystod y 13 wythnos olaf o absenoldeb mabwysiadu ychwanegol, nid oes angen i chi dalu unrhyw gyfraniadau cyflogwr i Gynllun Pensiwn Galwedigaethol oni bai bod y contract cyflogaeth yn nodi fel arall.<\/p>\n\n\n\n<p><em>(Felly, bydd cyfraniadau\u2019r cyflogai yn dod i ben yn ystod unrhyw gyfnod o absenoldeb mabwysiadu heb d\u00e2l)<\/em><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">13. Codiadau cyflog<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae gan gyflogai ar absenoldeb mabwysiadu hawl i elwa ar unrhyw welliannau cyffredinol i\u2019r gyfradd gyflog. Bydd unrhyw godiad cyflog a roddir yn ystod y cyfnod o absenoldeb mabwysiadu\u2019n dod i rym pan fydd y cyflogai\u2019n dychwelyd i\u2019r gwaith.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">14. Cyfleoedd hyfforddi a datblygu<\/h3>\n\n\n\n<p>Rhaid rhoi gwybod i gyflogeion ar absenoldeb mabwysiadu am unrhyw gyfleoedd hyfforddi neu ddatblygu.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">15. Cyfnod o gyflogaeth barhaus<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae absenoldeb mabwysiadu statudol yn cyfrif tuag at gyfnod o gyflogaeth barhaus y cyflogai at ddibenion cymhwysedd ar gyfer hawliau cyflogaeth statudol eraill e.e. yr hawl i gael taliad diswyddo.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">16. Hawl i ofyn am batrymau gweithio hyblyg<\/h3>\n\n\n\n<p>Bydd gan rieni sydd wedi bod yn gyflogeion i [ENW\u2019R MUDIAD] am o leiaf 26 wythnos ac sy\u2019n gyfrifol, neu sy\u2019n disgwyl bod yn gyfrifol am fagu plentyn hyd at 6 oed, neu 18 oed os yw\u2019r plentyn yn anabl, yr hawl i ofyn am batrymau gweithio hyblyg. Bydd [ENW\u2019R MUDIAD] yn ystyried ceisiadau o\u2019r fath o ddifrif. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer yr hawl hon, rhaid i rieni fodloni meini prawf penodol.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-text-align-center\"><\/h2>\n\n\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">17. Amddiffyn rhag anfantais neu ddiswyddo<\/h3>\n\n\n\n<p>Caiff cyflogeion eu hamddiffyn rhag dioddef anfantais neu gael eu diswyddo am gymryd, neu geisio cymryd, absenoldeb mabwysiadu.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">18. Dychwelyd i\u2019r gwaith ar \u00f4l absenoldeb mabwysiadu<\/h3>\n\n\n\n<p>Nid oes rhaid i\u2019r cyflogai roi rhybudd ymlaen llaw i [ENW\u2019R MUDIAD] o\u2019i fwriad i ddychwelyd i\u2019r gwaith ar ddiwedd ei absenoldeb mabwysiadu. Tybir y bydd y cyflogai yn dychwelyd i\u2019r gwaith ar y dyddiad y nododd [ENW\u2019R MUDIAD] fel diwedd y cyfnod absenoldeb mabwysiadu.<\/p>\n\n\n\n<p>Rhaid i gyflogeion sydd am ddychwelyd i\u2019r gwaith yn gynnar roi 8 wythnos o rybudd i [NODWCH BWY E.E. RHEOLWR LLINELL\/RHEOLWR ADNODDAU DYNOL] am eu dyddiad dychwelyd. Os nad yw ef\/hi yn rhoi 8 wythnos o rybudd, mae gan [ENW\u2019R MUDIAD] yr hawl i ohirio\u2019r dyddiad dychwelyd nes bod 8 wythnos wedi mynd heibio, neu tan y dyddiad dychwelyd gwreiddiol (pa un bynnag sydd gynharaf).<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gan gyflogai sy\u2019n dychwelyd i\u2019r gwaith ar \u00f4l absenoldeb mabwysiadu arferol yr hawl i ddychwelyd i\u2019r un swydd ag yr oedd ynddi cyn ei absenoldeb, ar yr un telerau ac amodau cyflogaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gan gyflogai sy\u2019n dychwelyd i\u2019r gwaith ar \u00f4l absenoldeb mabwysiadu ychwanegol yr hawl i ddychwelyd i\u2019r un swydd ag yr oedd ynddi cyn ei absenoldeb, ar yr un telerau ac amodau cyflogaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Os nad yw\u2019n rhesymol ymarferol i wneud hyn, dylai ddychwelyd i swydd arall sy\u2019n addas ac yn briodol iddo dan yr amgylchiadau ac nad yw\u2019n llai ffafriol na\u2019r swydd wreiddiol.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-text-align-left\">19. Cyflogeion nad ydynt yn awyddus i ddychwelyd i\u2019r gwaith ar \u00f4l absenoldeb mabwysiadu<\/h3>\n\n\n\n<p>Rhaid i gyflogai nad yw\u2019n awyddus i ddychwelyd i\u2019r gwaith ar \u00f4l absenoldeb mabwysiadu roi gwybod i [NODWCH BWY E.E. RHEOLWR LLINELL\/RHEOLWR ADNODDAU DYNOL] am hyn fel sy\u2019n ofynnol o dan ei gontract cyflogaeth.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"gwybodaeth-bellach\">Gwybodaeth bellach<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Absenoldeb a th\u00e2l mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu (saesneg yn unig)<\/h3>\n\n\n\n<p><strong>ACAS<\/strong><br>Ff\u00f4n: <a href=\"tel:08457474747\">08457 474747<\/a><br><a href=\"https:\/\/www.acas.org.uk\/maternity-paternity-and-adoption-leave-and-pay\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/www.acas.org.uk\/maternity-paternity-and-adoption-leave-and-pay<\/a><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Absenoldeb a th\u00e2l mabwysiadu (saesneg yn unig)<\/h3>\n\n\n\n<p><strong>Llywodraeth y DU<\/strong><br><a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/adoption-pay-leave\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/www.gov.uk\/adoption-pay-leave<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Llinell Cymorth i Gyflogwyr CThEF<\/strong><br>Ff\u00f4n: <a href=\"tel:08457143143\">0845 7143143<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><strong>TUC Cymru<\/strong><br>Ff\u00f4n: <a href=\"tel:02920347010\">029 20 347010<\/a><br><a href=\"mailto:wtuc@tuc.org.uk\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">wtuc@tuc.org.uk<\/a><br><a href=\"http:\/\/www.wtuc.org.uk\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">www.wtuc.org.uk<\/a><\/p>\n\n\n\n\t<\/div>\n\n\n\n<div class=\"col-12 col-md-3\">\n\t\t\t\n\n\t<\/div>\n\n<\/div>\n\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bwriedir i\u2019r enghraifft hon fod yn ganllaw a dylid ei haddasu ar gyfer eich mudiad arbennig chi.<\/p>\n","protected":false},"author":1175,"featured_media":9964,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"ep_exclude_from_search":false,"footnotes":""},"categories":[759],"tags":[723,770],"class_list":["post-9966","resource","type-resource","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llywodraethu-da","tag-good-governance","tag-hr","pillar-llywodraethu-da"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Polisi a gweithdrefn mabwysiadu | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Dylai mudiadau fod \u00e2 pholisi sy\u2019n nodi hawliau cyflogeion i absenoldeb mabwysiadu a th\u00e2l mabwysiadu, sy\u2019n ystyried y lleiafswm y mae ganddynt hawl statudol iddo.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mabwysiadu\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Polisi a gweithdrefn mabwysiadu | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Dylai mudiadau fod \u00e2 pholisi sy\u2019n nodi hawliau cyflogeion i absenoldeb mabwysiadu a th\u00e2l mabwysiadu, sy\u2019n ystyried y lleiafswm y mae ganddynt hawl statudol iddo.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mabwysiadu\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-06-07T12:04:40+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/05\/pexels-keira-burton-6624259-scaled.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1707\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"12 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mabwysiadu\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mabwysiadu\/\",\"name\":\"Polisi a gweithdrefn mabwysiadu | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mabwysiadu\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mabwysiadu\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/05\/pexels-keira-burton-6624259-scaled.jpg\",\"datePublished\":\"2021-05-12T12:01:32+00:00\",\"dateModified\":\"2026-06-07T12:04:40+00:00\",\"description\":\"Dylai mudiadau fod \u00e2 pholisi sy\u2019n nodi hawliau cyflogeion i absenoldeb mabwysiadu a th\u00e2l mabwysiadu, sy\u2019n ystyried y lleiafswm y mae ganddynt hawl statudol iddo.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mabwysiadu\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mabwysiadu\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mabwysiadu\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/05\/pexels-keira-burton-6624259-scaled.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/05\/pexels-keira-burton-6624259-scaled.jpg\",\"width\":2560,\"height\":1707,\"caption\":\"Llun: oedolyn a phlentyn yn chwarae gyda theganau ar y llawr\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mabwysiadu\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Polisi a gweithdrefn mabwysiadu\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"description\":\"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"width\":512,\"height\":512,\"caption\":\"Hwb Gwybodaeth\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Polisi a gweithdrefn mabwysiadu | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","description":"Dylai mudiadau fod \u00e2 pholisi sy\u2019n nodi hawliau cyflogeion i absenoldeb mabwysiadu a th\u00e2l mabwysiadu, sy\u2019n ystyried y lleiafswm y mae ganddynt hawl statudol iddo.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mabwysiadu\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Polisi a gweithdrefn mabwysiadu | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","og_description":"Dylai mudiadau fod \u00e2 pholisi sy\u2019n nodi hawliau cyflogeion i absenoldeb mabwysiadu a th\u00e2l mabwysiadu, sy\u2019n ystyried y lleiafswm y mae ganddynt hawl statudol iddo.","og_url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mabwysiadu\/","og_site_name":"Hwb Gwybodaeth","article_modified_time":"2026-06-07T12:04:40+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1707,"url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/05\/pexels-keira-burton-6624259-scaled.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"12 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mabwysiadu\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mabwysiadu\/","name":"Polisi a gweithdrefn mabwysiadu | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","isPartOf":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mabwysiadu\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mabwysiadu\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/05\/pexels-keira-burton-6624259-scaled.jpg","datePublished":"2021-05-12T12:01:32+00:00","dateModified":"2026-06-07T12:04:40+00:00","description":"Dylai mudiadau fod \u00e2 pholisi sy\u2019n nodi hawliau cyflogeion i absenoldeb mabwysiadu a th\u00e2l mabwysiadu, sy\u2019n ystyried y lleiafswm y mae ganddynt hawl statudol iddo.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mabwysiadu\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mabwysiadu\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mabwysiadu\/#primaryimage","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/05\/pexels-keira-burton-6624259-scaled.jpg","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/05\/pexels-keira-burton-6624259-scaled.jpg","width":2560,"height":1707,"caption":"Llun: oedolyn a phlentyn yn chwarae gyda theganau ar y llawr"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mabwysiadu\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Polisi a gweithdrefn mabwysiadu"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","name":"Hwb Gwybodaeth","description":"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.","publisher":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization","name":"Hwb Gwybodaeth","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","width":512,"height":512,"caption":"Hwb Gwybodaeth"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/9966","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1175"}],"version-history":[{"count":18,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/9966\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":24856,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/9966\/revisions\/24856"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9964"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9966"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9966"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9966"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}