{"id":9833,"date":"2021-05-05T15:18:10","date_gmt":"2021-05-05T14:18:10","guid":{"rendered":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/?post_type=resource&#038;p=9833"},"modified":"2026-06-07T14:22:52","modified_gmt":"2026-06-07T13:22:52","slug":"cydraddoldeb-ac-amrywiaeth","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cydraddoldeb-ac-amrywiaeth\/","title":{"rendered":"Cydraddoldeb ac amrywiaeth"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-bootstrap-blocks-container container mb-2\">\n\t\n<div class=\"wp-bootstrap-blocks-row row\">\n\t\n\n<div class=\"col-12 col-md-9\">\n\t\t\t\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Trosolwg<\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"#cyflwyniad\" type=\"internal\" id=\"#introduction\">Cyflwyniad<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#deddf-cydraddoldeb-2010\" type=\"internal\" id=\"#the-equality-act-2010\">Deddf cydraddoldeb 2010<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#beth-yw-cynhwysiant\" type=\"internal\" id=\"#what-is-inclusion\">Beth yw cynhwysiant?<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#polisi-cydraddoldeb-ac-amrywiaeth\" type=\"internal\" id=\"#equality-and-diversity-policy\">Polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#cydraddoldeb-ac-amrywiaeth-yn-y-gweithle\" type=\"internal\" id=\"#equality-and-diversity-workplace\">Cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#dyletswydd-cydraddoldeb-y-sector-cyhoeddus\" type=\"internal\" id=\"#public-sector-equality\">Dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#adnoddau\" type=\"internal\" id=\"#resources\">Adnoddau<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#ymwadiad\">Ymwadiad<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#atodiad-1\" type=\"internal\" id=\"#appendix-1\">Atodiad 1<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#atodiad-2\" type=\"internal\" id=\"#appendix-2\">Atodiad 2<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"cyflwyniad\">Cyflwyniad<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae pob mudiad yn cynnwys amrywiaeth o bobl sy\u2019n cyfrannu mewn nifer o ffyrdd, fel ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr a staff. Bydd pawb sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r mudiad yn wahanol, a gallan nhw fod:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>O oedrannau, cenedlaethau, rhywedd ac ethnigrwydd gwahanol<\/li>\n\n\n\n<li>O ddiwylliannau, cefndiroedd a chenhedloedd gwahanol<\/li>\n\n\n\n<li>Yn grefyddol, er na fydd rhai ohonyn nhw\u2019n grefyddol<\/li>\n\n\n\n<li>Yn anabl neu ag anghenion cymorth ychwanegol<\/li>\n\n\n\n<li>Mewn perthynas, neu ddim mewn perthynas<\/li>\n\n\n\n<li>Yn rhieni neu\u2019n ofalwyr<\/li>\n\n\n\n<li>Yn gallu siarad ieithoedd gwahanol<\/li>\n\n\n\n<li>Yn byw mewn llety rhent neu lety dan berchnogaeth, mewn dinas, tref neu yng nghefn gwlad<\/li>\n<\/ul>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"alignright size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"684\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/10\/Happy-workplace-1024x684.jpg\" alt=\"Pobl hapus yn gwenu yn sefyll o amgylch bwrdd mewn swyddfa\" class=\"wp-image-21430\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/10\/Happy-workplace-1024x684.jpg 1024w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/10\/Happy-workplace-720x481.jpg 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/10\/Happy-workplace-768x513.jpg 768w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/10\/Happy-workplace-1536x1026.jpg 1536w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/10\/Happy-workplace-360x240.jpg 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/10\/Happy-workplace-1800x1202.jpg 1800w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/10\/Happy-workplace-624x417.jpg 624w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/10\/Happy-workplace.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<p>Pan fydd pobl yn wahanol i\u2019w gilydd, gallwn naill ai feithrin cysylltiadau a gwerthfawrogi eu gwahaniaethau neu eu trin yn llai ffafriol oherwydd eu <strong>gwahaniaethau<\/strong>. Gwahaniaethu yw pan fydd pobl yn trin eraill yn llai ffafriol oherwydd eu nodweddion personol.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn <a href=\"#atodiad-2\">Atodiad 2<\/a> rydym yn nodi\u2019r gwahanol fathau o wahaniaethu. Mae mynd i\u2019r afael \u00e2 gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein galluogi i fodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a moesol fel mudiadau yn y sector gwirfoddol, ac mae hefyd yn arwain at well mor\u00e2l, gwell ymdeimlad o berthyn a gwaith t\u00eem a gwasanaethau gwell sy\u2019n diwallu anghenion y bobl amrywiol rydym yn gweithio gyda nhw.<\/p>\n\n\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-text-align-left\">Diffiniad<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-left\"><strong>Cydraddoldeb<\/strong>: mae\u2019n ymwneud \u00e2 chreu cymdeithas decach lle gall pawb gymryd rhan a chyflawni eu potensial.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Amrywiaeth<\/strong>: yw cydnabod a gwerthfawrogi\u2019r holl ffyrdd rydym yn wahanol. Mae\u2019n ymwneud \u00e2 chreu diwylliant ac arferion yn ein mudiad sy\u2019n cydnabod, yn parchu, yn gwerthfawrogi ac yn croesawu pob un o\u2019n gwahaniaethau, er budd pawb.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"deddf-cydraddoldeb-2010\">Deddf cydraddoldeb 2010 (gan gynnwys diwygiadau o ddeddf diogelu gweithwyr (diwygio deddf cydraddoldeb 2010) 2023)<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (fel y\u2019i diwygiwyd gan Ddeddf Diogelu Gweithwyr 2023) yn cynnwys dyletswydd newydd ar gyflogwyr i gymryd camau rhagweithiol, rhesymol i atal aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Mae\u2019r newid hwn yn golygu bod yn rhaid i fudiadau ddangos bod ganddyn nhw bolis\u00efau, hyfforddiant a gweithdrefnau ar waith i leihau\u2019r risg y bydd aflonyddu yn digwydd yn y lle cyntaf.<\/p>\n\n\n\n<p>Cefnogir cydraddoldeb gan ddeddfwriaeth drwy <strong>Ddeddf Cydraddoldeb 2010<\/strong>. Nod y Ddeddf yw mynd i\u2019r afael \u00e2 gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth annheg.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n darparu fframwaith cyfreithiol i ddiogelu hawliau unigolion ac i hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb. Mae\u2019r Ddeddf yn amddiffyn unigolion rhag triniaeth annheg ac yn hyrwyddo cymdeithas deg a mwy cyfartal.<\/p>\n\n\n\n<p>O dan y Ddeddf, mae naw nodwedd warchodedig:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Oedran<\/li>\n\n\n\n<li>Anabledd<\/li>\n\n\n\n<li>Pennu rhywedd \u2013 y broses o newid o un rhywedd i\u2019r llall. Mae hyn yn cynnwys unigolion sy\u2019n bwriadu mynd drwy broses, sy\u2019n mynd drwy broses neu sydd wedi mynd drwy broses i ailbennu eu rhywedd.<\/li>\n\n\n\n<li>Priodas a phartneriaeth sifil<\/li>\n\n\n\n<li>Beichiogrwydd a mamolaeth<\/li>\n\n\n\n<li>Hil<\/li>\n\n\n\n<li>Crefydd a chred<\/li>\n\n\n\n<li>Rhyw<\/li>\n\n\n\n<li>Cyfeiriadedd rhywiol<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r naw nodwedd warchodedig yn cael eu disgrifio\u2019n fanylach yn<br><a href=\"#atodiad-1\">Atodiad 1<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Er nad yw amrywiaeth yn nodwedd warchodedig o dan <strong>Ddeddf Cydraddoldeb 2010<\/strong>, mae llawer o fanteision ynghlwm wrth gael mudiad amrywiol. Rydym yn byw ac yn gweithio mewn cymdeithas amrywiol ac mae\u2019n bwysig ein bod yn ymdrechu i sicrhau amrywiaeth ym mhob agwedd ar ein mudiad.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n bwysig adlewyrchu\u2019r cymunedau rydym yn gweithio ynddynt a chyda nhw. Mae gwahaniaeth yn mynd y tu hwnt i\u2019r naw nodwedd warchodedig ac efallai y byddwch yn dymuno mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r meysydd eraill hyn yn eich polisi a\u2019ch arferion.<\/p>\n\n\n\n<p>Efallai bod agweddau ar eich mudiad lle mae diffyg amrywiaeth ac mae\u2019n bosibl y bydd angen blaenoriaethu\u2019r meysydd hyn, yn ogystal ag annog a chymryd camau cadarnhaol i gefnogi mwy o amrywiaeth.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"beth-yw-cynhwysiant\">Beth yw cynhwysiant?<\/h2>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"alignright size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/06\/pexels-keira-burton-6147138-1024x683.jpg\" alt=\"Cydweithwyr yn siarad yn gyfrinachol\" class=\"wp-image-10724\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/06\/pexels-keira-burton-6147138-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/06\/pexels-keira-burton-6147138-720x480.jpg 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/06\/pexels-keira-burton-6147138-768x512.jpg 768w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/06\/pexels-keira-burton-6147138-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/06\/pexels-keira-burton-6147138-2048x1365.jpg 2048w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/06\/pexels-keira-burton-6147138-360x240.jpg 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/06\/pexels-keira-burton-6147138-1800x1200.jpg 1800w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/06\/pexels-keira-burton-6147138-624x416.jpg 624w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<p>Mae cynhwysiant yn ymdeimlad o berthyn, a theimlo eich bod yn cael eich parchu a\u2019ch gwerthfawrogi am bwy ydych chi. Mae\u2019n ymwneud \u00e2 theimlo eich bod yn cael cefnogaeth ac yn gallu gwneud eich gorau.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae cynhwysiant yn cyfeirio at brofiad unigolyn yn y gweithle ac yn y gymdeithas ehangach, a\u2019r graddau y mae\u2019n teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a\u2019i gynnwys.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Mae cynhwysiant yn ymwneud \u00e2\u2019r canlynol:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cydnabod hawliau pobl<\/li>\n\n\n\n<li>Lleihau\u2019r rhwystrau i gyfranogi<\/li>\n\n\n\n<li>Galluogi pobl i gymryd rhan<\/li>\n\n\n\n<li>Addasu polis\u00efau ac arferion i ddiwallu anghenion amrywiol<\/li>\n\n\n\n<li>Dysgu am atebion, a\u2019u cynllunio, er mwyn galluogi ymgysylltiad<\/li>\n\n\n\n<li>Datblygu a chynnal cysylltiadau rhwng y mudiad, ein cymuned a\u2019n cleientiaid.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn bethau gwahanol ac mae angen gweithio arnynt gyda\u2019i gilydd. Dim ond pan fyddwn yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth ac yn gweithio gyda\u2019n gilydd i sicrhau cynhwysiant y ceir cyfle cyfartal.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Pam mae cydraddoldeb ac amrywiaeth yn bwysig?<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae tystiolaeth yn dangos bod pobl mewn cymdeithasau mwy cyfartal yn byw\u2019n hirach, bod ganddynt well iechyd meddwl a\u2019u bod yn gwneud yn well mewn addysg waeth beth fo\u2019u cefndir. Pan fydd llai o anghydraddoldeb, mae bywyd cymunedol yn gryfach.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae pobl mewn cymunedau llai cyfartal yn llai tebygol o ymddiried yn ei gilydd, yn llai tebygol o gymryd rhan mewn cymdeithas ddinesig ac yn llai tebygol o ddweud eu bod yn hapus.<\/p>\n\n\n\n<p>Os ydym am greu cymdeithas well, mae\u2019n bwysig ein bod yn lleihau anghydraddoldeb ac yn dathlu amrywiaeth. I lawer o fudiadau yn y sector gwirfoddol, mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn gerrig sylfaen i\u2019w bodolaeth a\u2019u gweithgareddau.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"polisi-cydraddoldeb-ac-amrywiaeth\">Polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth<\/h2>\n\n\n\n<p>Dylai eich Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth nodi\u2019r gwerthoedd a\u2019r arferion y byddwch yn eu dilyn i fynd i\u2019r afael \u00e2 gwahaniaethu ac i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ar draws y mudiad.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote has-text-align-right is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p class=\"has-text-align-left\">Cofiwch, dim ond os caiff ei gefnogi gan Gynllun Gweithredu cyfredol y bydd Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn gwneud gwahaniaeth.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n arfer da i gyflogwyr gael polisi i ddangos eu hymrwymiad i hyrwyddo a chynnal cyfle cyfartal ac amrywiaeth i staff. Yn y sector gwirfoddol, rhaid<br>i ni gofio bod gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hanfodol a dylent gael eu cynnwys yn ein harferion cydraddoldeb ac amrywiaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Efallai y bydd ein polisi hefyd yn nodi sut y byddwn yn cynllunio ac yn darparu gwasanaethau a gweithgareddau sy\u2019n agored i bawb ac sy\u2019n hyrwyddo ymgysylltiad llawn gan bob buddiolwr.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall polis\u00efau cyfle cyfartal a weithredir yn briodol wella\u2019r mudiad a helpu i osgoi gwahaniaethu sy\u2019n arwain at niwed posibl i staff, buddiolwyr a gwirfoddolwyr, niwed i\u2019n henw da a chostau.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Nodau Polisi a Chynllun Gweithredu Cydraddoldeb ac Amrywiaeth<\/h3>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"alignright size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/03\/Checklist-1024x683.jpg\" alt=\"Llaw person yn ticio eitemau oddi ar restr\" class=\"wp-image-22867\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/03\/Checklist-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/03\/Checklist-720x480.jpg 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/03\/Checklist-768x512.jpg 768w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/03\/Checklist-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/03\/Checklist-360x240.jpg 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/03\/Checklist-1800x1200.jpg 1800w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/03\/Checklist-624x416.jpg 624w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/03\/Checklist.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<p>Nodau polisi a chynllun gweithredu ategol yw:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gosod y d\u00f4n a ddisgwylir yn y mudiad<\/li>\n\n\n\n<li>Nodi rolau a chyfrifoldebau pobl o ran cael gwared ar wahaniaethu, ymarfer cydraddoldeb a hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant<\/li>\n\n\n\n<li>Nodi meysydd lle bydd angen mwy o amrywiaeth o bosibl<\/li>\n\n\n\n<li>Darparu fframwaith ar gyfer trafod a chytuno ar newid<\/li>\n\n\n\n<li>Darparu cyfleoedd ar gyfer trafod, dysgu ar y cyd a gwella arferion<\/li>\n\n\n\n<li>Monitro cynnydd tuag at fudiad mwy cynhwysol<\/li>\n\n\n\n<li>Nodi anghenion dysgu a datblygu ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr a staff.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Sicrhewch fod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael eu cynnwys yn eich polis\u00efau cyflogaeth a gweithredol eraill. Dyma\u2019r meysydd i\u2019w hystyried:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Recriwtio<\/strong> &#8211; ffynhonnell gyffredin o wahaniaethu ac felly dylai polis\u00efau recriwtio fod yn gysylltiedig ag arferion cydraddoldeb<\/li>\n\n\n\n<li><strong>T\u00e2l, buddion a thelerau ac amodau<\/strong> \u2013 gwnewch yn si\u0175r eich bod yn adolygu cyflogau, buddion ac amodau o bryd i\u2019w gilydd i sicrhau eu bod yn cefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gweithdrefnau cwyno a disgyblu<\/strong> &#8211; dyma\u2019r ddau ddull rheoli mwyaf uniongyrchol ar gyfer delio \u00e2 gwahaniaethu, bwlio ac aflonyddu. Gwnewch yn si\u0175r bod eich gweithdrefnau disgyblu yn amlinellu ymateb y mudiad i aflonyddu, bwlio a gwahaniaethu<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Ymddiriedolwyr a\u2019r Bwrdd<\/strong> &#8211; mae\u2019n bwysig bod y Bwrdd yn dangos ei ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth. Edrychwch ar gyfansoddiad eich Bwrdd i sicrhau ei fod yn adlewyrchu\u2019r gymuned rydych chi\u2019n gweithio ynddi<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Dysgu a datblygu<\/strong> \u2013 dyma lle gall y mudiad gyfrannu\u2019n rhagweithiol at gydraddoldeb ac amrywiaeth a chefnogi newid<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gwirfoddoli<\/strong> &#8211; gall cwmpas rhwymedigaethau cyfreithiol tuag at wirfoddolwyr fod yn aneglur, ond mae\u2019n arfer da a dderbynnir yn gyffredinol i integreiddio gwirfoddolwyr yn y Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Dileu swyddi a diswyddo<\/strong> \u2013 mae\u2019n bwysig gwneud yn si\u0175r nad yw\u2019r gweithdrefnau\u2019n wahaniaethol<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Rheoli newid<\/strong> \u2013 gwnewch yn si\u0175r eich bod yn adolygu a yw\u2019r newidiadau arfaethedig yn debygol o gael effaith negyddol anghymesur ar rai grwpiau o fuddiolwyr yn fwy nag eraill<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Cynllunio a darparu gwasanaethau<\/strong> \u2013 a yw\u2019r gwasanaethau ar gael i\u2019r holl fuddiolwyr? A oes angen addasiadau er mwyn gwella cyfranogiad? A oes bylchau yn y gwasanaeth y gallech eu llenwi? Beth yw barn grwpiau gwahanol o fuddiolwyr ar eich gwasanaethau? Wrth gynllunio, darparu a monitro gwasanaethau, gwnewch yn si\u0175r eich bod yn ystyried agweddau ar gydraddoldeb ac amrywiaeth. Ni ddylai cydraddoldeb ac amrywiaeth fod yn ychwanegiad, dylent fod yn rhan annatod o\u2019r ffordd rydym yn ymgynghori, yn cynllunio, yn dylunio ac yn cyflawni ein gwaith.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein dull gweithredu yn cyd-fynd \u00e2 Chynllun Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru 2024\u20132028. Mae hyn yn cynnwys mabwysiadu dull croestoriadol o fynd i\u2019r afael ag anghydraddoldeb systematig, ymwreiddio arweinyddiaeth gynhwysol, a gwella\u2019r ffordd y caiff data cydraddoldeb ei gasglu ar draws ein gwasanaethau.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"cydraddoldeb-ac-amrywiaeth-yn-y-gweithle\">Cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae cydraddoldeb ac amrywiaeth yn faterion sy\u2019n effeithio ar bob un ohonom. Mae gan fudiadau ac unigolion gyfrifoldeb i ddeall ac ymarfer egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae amrywiaeth yn y gweithle o fudd i unigolion, eu timau a\u2019r mudiad cyfan. Trwy werthfawrogi pawb am y sgiliau, y gallu a\u2019r profiad maen nhw\u2019n eu cynnig i\u2019r mudiad, mae pawb yn elwa. Bydd gan y mudiad y bobl orau yn y rolau cywir a bydd pawb yn gallu ymgysylltu\u2019n llawn, cyfrannu\u2019n dda a chyflawni eu potensial.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym yn cydnabod hawl yr unigolyn i ofyn am gael gweithio\u2019n hyblyg o ddiwrnod cyntaf ei gyflogaeth, yn unol \u00e2 Deddf Cysylltiadau Cyflogaeth (Gweithio\u2019n Hyblyg) 2023, ac rydym wedi ymrwymo i asesu pob cais yn deg.<\/p>\n\n\n\n<p>Gallwn hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle drwy wneud y canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Trin pawb yn deg drwy ein polis\u00efau, gweithdrefnau a systemau<\/li>\n\n\n\n<li>Creu diwylliant sy\u2019n gynhwysol ac yn estyn croeso i bawb<\/li>\n\n\n\n<li>Modelu\u2019r ymddygiad a ddisgwylir<\/li>\n\n\n\n<li>Gwneud yn si\u0175r bod pawb yn cael cyfle i ddatblygu i\u2019w llawn botensial<\/li>\n\n\n\n<li>Sicrhau bod yr un cyfleoedd ar gael i bawb <em>e.e. dysgu a datblygu a dyrchafiad<\/em><\/li>\n\n\n\n<li>Sicrhau ein bod yn cyfathrebu\u2019n dda ac yn rhoi cyfle i bawb ymgysylltu\u2019n llawn<\/li>\n\n\n\n<li>Darparu hyfforddiant i staff, gwirfoddolwyr a buddiolwyr fel eu bod yn gallu adnabod a herio anghydraddoldeb a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth<\/li>\n\n\n\n<li>Darparu lleoliadau, mannau a deunyddiau sy\u2019n hygyrch ac yn gynhwysol<\/li>\n\n\n\n<li>Gorfodi\u2019r polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth<\/li>\n\n\n\n<li>Monitro cynnydd yn erbyn ein cynllun gweithredu cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac adrodd i\u2019r Bwrdd ynghylch y cynnydd<\/li>\n\n\n\n<li>Diweddaru\u2019r cynllun gweithredu bob blwyddyn<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cynllun gweithredu cydraddoldeb ac amrywiaeth<\/h3>\n\n\n\n<p>Er mwyn dangos eich ymrwymiad i gynnwys cydraddoldeb a mynd i\u2019r afael \u00e2 gwahaniaethu, mae\u2019n ddefnyddiol cael cynllun gweithredu blynyddol.<\/p>\n\n\n\n<p>Gallai them\u00e2u yn y Cynllun Gweithredu gynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Llywodraethu<\/li>\n\n\n\n<li>Deall anghenion buddiolwyr<\/li>\n\n\n\n<li>Llunio a newid gwasanaethau<\/li>\n\n\n\n<li>Cyflogaeth<\/li>\n\n\n\n<li>Gwirfoddoli<\/li>\n\n\n\n<li>Adeiladau, cyfleusterau ac adnoddau<\/li>\n\n\n\n<li>Systemau a phrosesau<\/li>\n\n\n\n<li>Cyllid<\/li>\n\n\n\n<li>Monitro a gwerthuso<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Amcanion CAMPUS<\/h3>\n\n\n\n<p>Rhan bwysig o\u2019r cynllun gweithredu yw cynnwys amcanion CAMPUS gyda chanlyniadau clir fel bod pobl yn gwybod beth a ddisgwylir ohonynt ac er mwyn i ni allu adolygu a monitro cynnydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Dylai\u2019r amcanion fod yn rhai CAMPUS:<\/p>\n\n\n\n<p>Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol a Synhwyrol<\/p>\n\n\n\n<p>Gallwch wneud amcanion yn rhai mesuradwy drwy gynnwys y canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Nifer neu ganran \u2013 <em>e.e. cynyddu nifer y cleientiaid sy\u2019n fuddiolwyr 20%<\/em><\/li>\n\n\n\n<li>Mesur ansawdd \u2013 <em>e.e. rhagorol, hygyrch, cyfranogol, wedi\u2019i gyd-gynhyrchu, cywir<\/em><\/li>\n\n\n\n<li>Syniad o ganlyniadau\u2019r gwaith neu\u2019r hyn y bydd yn arwain ato <em>e.e. \u201cy gallu i gyfrannu ym mhob cyfarfod yn arwain at well cydraddoldeb ac amrywiaeth o ran cynllunio gwasanaethau.\u201d<\/em> Os ydych chi\u2019n defnyddio\u2019r math hwn o fesur, yna mae\u2019n bwysig eich bod yn gallu disgrifio beth yn union yw \u2018gwell\u2019.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"dyletswydd-cydraddoldeb-y-sector-cyhoeddus\">Dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus<\/h2>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote has-text-align-right is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p class=\"has-text-align-left\">Enghraifft, mae awdurdod lleol yn dymuno newid ei wasanaeth bysiau lleol. Mae\u2019n ymgynghori \u00e2\u2019r bobl sy\u2019n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac yn darganfod mai ychydig iawn o fenywod sy\u2019n defnyddio bysiau gyda\u2019r nos am eu bod yn poeni ynghylch aflonyddu. Mae\u2019r awdurdod lleol yn penderfynu gweithio gyda\u2019r heddlu, y cwmni bysiau a\u2019r trigolion i ddod o hyd i ffyrdd o fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r broblem hon a gwneud y gwasanaeth bysiau yn fwy cynhwysol.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Ddeddf Cydraddoldeb yn mynnu bod cyrff cyhoeddus (fel cynghorau lleol, ysbytai a darparwyr gwasanaethau sy\u2019n cael eu cyllido\u2019n gyhoeddus) yn ystyried sut mae eu penderfyniadau a\u2019u polis\u00efau\u2019n effeithio ar bobl \u00e2 nodweddion gwarchodedig gwahanol. Dylai\u2019r corff cyhoeddus hefyd gael tystiolaeth i ddangos sut y mae wedi gwneud hyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych chi\u2019n cael eich cyllido gan gorff cyhoeddus, mae\u2019n werth cofio efallai y bydd disgwyl i chi ddilyn yr un Ddyletswydd Cydraddoldeb. Yng Nghymru, mae\u2019r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol (2021) yn berthnasol i rai mudiadau a chyrff cyhoeddus sy\u2019n darparu gwasanaethau cyhoeddus. Gall fod angen i elusennau a ariennir ddangos sut mae\u2019r penderfyniadau a wneir ganddynt yn helpu i leihau anghydraddoldebau sy\u2019n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol. Hyd yn oed os nad ydych yn rhwym wrth y ddyletswydd yn gyfreithiol, mae\u2019n arfer da asesu sut mae eich polis\u00efau a\u2019ch gwasanaethau yn cefnogi tegwch, yn enwedig o ran recriwtio, mynediad at wasanaethau ac ymgysylltu \u00e2\u2019r gymuned.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"adnoddau\">Adnoddau<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Beth yw\u2019r ddeddf cydraddoldeb?<\/h3>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Y comisiwn cydraddoldeb a hawliau dynol<\/h4>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.equalityhumanrights.com\/cy\/cydraddoldeb\/equality-act-2010\/beth-ywr-ddeddf-cydraddoldeb\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/www.equalityhumanrights.com\/cy\/cydraddoldeb\/equality-act-2010\/beth-ywr-ddeddf-cydraddoldeb<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol \u2013 hyrwyddo a chynnal delfrydau a chyfreithiau cydraddoldeb a hawliau dynol ledled Cymru, Lloegr a\u2019r Alban.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">CIPD<\/h3>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Y sefydliad siartredig person\u00e9l a datblygu<\/h4>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.cipd.co.uk\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/www.cipd.co.uk<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Y Sefydliad Siartredig Person\u00e9l a Datblygu (CIPD) yw corff proffesiynol siartredig mwyaf y byd ym maes datblygu ac adnoddau dynol. Er ei fod yn seiliedig ar aelodaeth, mae\u2019n darparu adnoddau da ar-lein, gan gynnwys nifer o bolis\u00efau adnoddau dynol safonol.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Diverse Cymru<\/h3>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.diversecymru.org.uk\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/www.diversecymru.org.uk<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Mae Diverse Cymru yn elusen unigryw yng Nghymru sydd wedi ymrwymo i gefnogi pobl sy\u2019n wynebu anghydraddoldeb a gwahaniaethu oherwydd oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">The Equality Trust<\/h3>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.equalitytrust.org.uk\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/www.equalitytrust.org.uk<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Equality Trust yn gweithio i wella ansawdd bywyd yn y DU drwy leihau anghydraddoldeb economaidd a chymdeithasol.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Race Council Cymru<\/h3>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/racecouncilcymru.org.uk\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/racecouncilcymru.org.uk<\/a> <\/p>\n\n\n\n<p>Mae Race Council Cymru yn gweithio i hyrwyddo gweithgareddau cydraddoldeb hiliol, celf, treftadaeth a diwylliannol ar gyfer cymunedau du ac ethnig leiafrifol ledled Cymru. Sefydlwyd Race Council Cymru (RCC) yn 2010 fel corff ambar\u00e9l cyffredinol gyda\u2019r nod o ddwyn mudiadau allweddol yng Nghymru ynghyd i gydweithio ar hyrwyddo integreiddio, hybu cyfiawnder a chydraddoldeb hiliol mewn sefydliadau a chymdeithas.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cynghrair Hil Cymru<\/h3>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">T\u00eem cymorth lleiafrifoedd ethnig ac ieuenctid cymru<\/h4>\n\n\n\n<p><a href=\"http:\/\/www.eyst.org.uk\/bame-map.php\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">http:\/\/www.eyst.org.uk\/bame-map.php<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Mae Cynghrair Hil Cymru yn rhwydwaith newydd o unigolion a mudiadau sy\u2019n gweithio i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol yng Nghymru. Mae\u2019n fenter gydweithredol a hunangyfeiriedig heb unrhyw fudiad arweiniol ffurfiol a chadeiryddiaeth sy\u2019n cael ei chylchdroi<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Anabledd Cymru<\/h3>\n\n\n\n<p><a href=\"http:\/\/www.disabilitywales.org\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">http:\/\/www.disabilitywales.org\/<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Anabledd Cymru yw cymdeithas genedlaethol mudiadau pobl anabl yng Nghymru sy\u2019n ymdrechu i sicrhau hawliau a chydraddoldeb i bob unigolyn anabl.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Stonewall Cymru<\/h3>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.stonewallcymru.org.uk\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/www.stonewallcymru.org.uk<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Nod Stonewall Cymru yw sicrhau cydraddoldeb cyfreithiol a chyfiawnder cymdeithasol i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Age Cymru<\/h3>\n\n\n\n<p><strong>Age UK<\/strong><br><a href=\"https:\/\/www.ageuk.org.uk\/cymru\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/www.ageuk.org.uk\/cymru<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Nod Age Cymru yw cynnig gwasanaethau sy\u2019n cyfoethogi bywyd a chymorth hollbwysig i bobl yn ddiweddarach yn eu bywydau. \u201cRydym ni a\u2019n partneriaid lleol yn darparu ystod o wasanaethau ledled y DU.\u201d<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Employing people<\/h3>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Llywodraeth y DU<\/h4>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/browse\/employing-people\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/www.gov.uk\/browse\/employing-people<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Gwefan llywodraeth y DU sydd ag amrywiaeth eang o nodiadau cyngor ar agweddau ar gyfraith cyflogaeth gan gynnwys contractau; diswyddo; iechyd a diogelwch; pensiynau; recriwtio a budd-daliadau. Does dim llinell gymorth wedi\u2019i theilwra i\u2019r unigolyn.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"ymwadiad\">Ymwadiad<\/h2>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"alignright size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1800\" height=\"1200\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw.jpg\" alt=\"Pobl mewn cae yn edrych tua'r machlud haul\" class=\"wp-image-24064\" style=\"object-fit:cover\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw.jpg 1800w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw-720x480.jpg 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw-768x512.jpg 768w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw-360x240.jpg 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw-624x416.jpg 624w\" sizes=\"auto, (max-width: 1800px) 100vw, 1800px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<p>Rhwydwaith o fudiadau cymorth i\u2019r trydydd sector cyfan yng Nghymru yw Cefnogi Trydydd Sector Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Ceir ynddo\u2019r 19 corff cymorth lleol a rhanbarthol ledled Cymru, y Cynghorau Gwirfoddol Sirol, a\u2019r corff cymorth cenedlaethol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC).<br>Am ragor o wybodaeth cysylltwch \u00e2<br><a href=\"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/cysylltu\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/cysylltu\/<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r wybodaeth a ddarperir yn y daflen hon ar gyfer cyfarwyddyd yn unig. Nid yw\u2019n amnewid am gyngor proffesiynol ac ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled o ganlyniad i unrhyw un sy\u2019n gweithredu neu\u2019n gwrthod gweithredu arno.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-text-align-left\" id=\"atodiad-1\">Atodiad 1<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Deddf cydraddoldeb 2010<\/h3>\n\n\n\n<p>Dyma\u2019r naw nodwedd warchodedig yn fanwl:<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Oedran<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae hyn yn cyfeirio at unigolyn sy\u2019n perthyn i oedran penodol (er enghraifft, 70 mlwydd oed) neu ystod o oedrannau (er enghraifft, 18-30 mlwydd oed).<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Anabledd<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae gan rywun anabledd os oes ganddo nam corfforol neu feddyliol sy\u2019n cael effaith negyddol hirdymor a sylweddol ar ei allu i ymgymryd \u00e2 gweithgareddau cyffredin o ddydd i ddydd.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Ailbennu rhywedd<\/h4>\n\n\n\n<p>Y broses o drawsnewid o un rhywedd i\u2019r llall.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Priodas a phartneriaeth sifil<\/h4>\n\n\n\n<p>Caiff priodas ei diffinio fel \u2018uniad rhwng dyn a menyw\u2019. Gall perthynas cwpl o\u2019r un rhyw gael ei chydnabod yn gyfreithiol fel \u2018partneriaeth sifil\u2019. Mae\u2019n rhaid trin partneriaid sifil yr un fath \u00e2 chyplau priod mewn perthynas ag ystod eang o faterion cyfreithiol.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Beichiogrwydd a mamolaeth<\/h4>\n\n\n\n<p>Beichiogrwydd yw\u2019r cyflwr o fod yn feichiog neu ddisgwyl babi. Mae mamolaeth yn cyfeirio at y cyfnod ar \u00f4l geni, ac mae\u2019n gysylltiedig ag absenoldeb mamolaeth yng nghyd- destun cyflogaeth. Caiff menywod eu hamddiffyn rhag i rywun wahaniaethu yn eu herbyn ar sail mamolaeth am 18 mis ar \u00f4l y dyddiad geni neu fabwysiadu, ar yr amod bod y cyflogai wedi cymryd o leiaf 6 wythnos o absenoldeb mamolaeth \/ mabwysiadu \/ rhiant a rennir \u2013 mae hyn yn cynnwys trin menyw yn llai ffafriol am ei bod yn bwydo ar y fron.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Hil<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n cyfeirio at gr\u0175p o bobl a ddiffinnir yn \u00f4l eu hil, eu lliw, eu cenedl (gan gynnwys dinasyddiaeth), a\u2019u tarddiad ethnig neu genedlaethol.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Crefydd a chred<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae hyn yn cynnwys credoau crefyddol ac athronyddol, gan gynnwys diffyg cred (er enghraifft, anffyddiaeth). Yn gyffredinol, dylai cred gael effaith ar eich dewisiadau mewn bywyd neu\u2019r ffordd rydych chi\u2019n byw er mwyn iddi gael ei chynnwys yn y diffiniad.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Rhyw<\/h4>\n\n\n\n<p>Dyn neu fenyw.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Cyfeiriadedd rhywiol<\/h4>\n\n\n\n<p>P\u2019un a oes gan rywun atyniad rhywiol at bobl o\u2019r un rhyw ag ef, pobl o\u2019r rhyw arall, neu bobl o\u2019r ddau ryw.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-text-align-left\" id=\"atodiad-2\">Atodiad 2<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Beth yw gwahaniaethu?<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae pedwar prif fath o wahaniaethu.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Gwahaniaethu uniongyrchol<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae hyn yn golygu trin unigolyn yn llai ffafriol nag unigolyn arall oherwydd nodwedd warchodedig. Er enghraifft, os bydd cyfle i gael dyrchafiad yn y gwaith a bod y cyflogwr o\u2019r farn bod gan bobl h\u0177n lai o allu wrth iddynt fynd yn h\u0177n ac yn penderfynu peidio \u00e2 siarad \u00e2\u2019r staff h\u0177n am y cyfle, byddai hynny\u2019n wahaniaethu uniongyrchol.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Gwahaniaethu anuniongyrchol<\/h4>\n\n\n\n<p>Gall hyn ddigwydd pan fydd mudiad yn rhoi rheol neu bolisi neu ffordd o wneud pethau ar waith sy\u2019n cael effaith negyddol ar rywun sydd \u00e2 nodwedd warchodedig o\u2019i gymharu \u00e2 phobl eraill, ac ni ellir ei gyfiawnhau. Er enghraifft, mae\u2019r mudiad yn bwriadu adolygu ei strategaeth ac yn penderfynu cynnal digwyddiadau ymgynghori \u00e2 chleientiaid gyda\u2019r nos. Mae llawer o\u2019r cleientiaid benywaidd yn cwyno nad oes modd iddyn nhw fynd i\u2019r cyfarfodydd hyn oherwydd cyfrifoldebau gofal plant. Pe bai\u2019r mudiad yn bwrw ymlaen \u00e2\u2019r dull hwn o ymgynghori, byddai hynny\u2019n wahaniaethu anuniongyrchol oherwydd bod gan fenywod, yn gyffredinol, fwy o ymrwymiad gofal plant na dynion, oni fyddai modd ei gyfiawnhau.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Aflonyddu<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae hyn yn golygu na all pobl eich trin mewn ffordd sy\u2019n sathru ar eich urddas, neu\u2019n creu awyrgylch gelyniaethus, diraddiol, dilornus neu dramgwyddus. Mae\u2019n cynnwys aflonyddu rhywiol ac ymddygiad diangen arall sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 nodwedd warchodedig. Er enghraifft, os yw g\u0175r ifanc mewn cadair olwyn yn ymweld \u00e2\u2019ch caffi cymunedol gyda\u2019i ffrindiau a bod gwirfoddolwr yn y caffi yn gwneud sylwadau difr\u00efol amdano, sy\u2019n ei ypsetio a\u2019i ddigio, gallai hynny fod yn aflonyddu ar sail anabledd ac oedran.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Erledigaeth<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae hyn yn golygu na all pobl drin eraill yn annheg os ydynt yn cymryd camau dan y Ddeddf Cydraddoldeb (e.e. cwyno am wahaniaethu), neu os ydynt yn cefnogi rhywun arall sy\u2019n gwneud hynny. Er enghraifft, pe bai gweithiwr yn cwyno am aflonyddu rhywiol yn y gweithle ac yn colli ei swydd o\u2019r herwydd, byddai hynny\u2019n cael ei ystyried yn erledigaeth.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Effeithiau stereoteipio<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n bwysig osgoi stereoteipio; mae pob unigolyn yn unigryw ac yn wahanol. Felly, pan fyddwn am recriwtio rhywun i swydd, dylem ddewis yr ymgeisydd gorau ar sail ei allu a pha mor dda mae\u2019n cyfateb i\u2019r sgiliau, yr wybodaeth, y profiad a\u2019r cymwDisclaimer<\/p>\n\n\t<\/div>\n\n\n\n<div class=\"col-12 col-md-3\">\n\t\t\t\n\n\t<\/div>\n\n<\/div>\n\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae pob mudiad yn cynnwys amrywiaeth o bobl sy\u2019n cyfrannu mewn nifer o<br \/>\nffyrdd, fel ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr a staff. Bydd pawb sy\u2019n ymwneud<br \/>\n\u00e2\u2019r mudiad yn wahanol.<\/p>\n","protected":false},"author":1175,"featured_media":1999,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"ep_exclude_from_search":false,"footnotes":""},"categories":[759],"tags":[728,723,730],"class_list":["post-9833","resource","type-resource","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llywodraethu-da","tag-edi","tag-good-governance","tag-resilience","pillar-llywodraethu-da"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Cydraddoldeb ac amrywiaeth | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cydraddoldeb-ac-amrywiaeth\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Cydraddoldeb ac amrywiaeth | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae pob mudiad yn cynnwys amrywiaeth o bobl sy\u2019n cyfrannu mewn nifer o ffyrdd, fel ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr a staff. Bydd pawb sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r mudiad yn wahanol.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cydraddoldeb-ac-amrywiaeth\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-06-07T13:22:52+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/diverse-business-people-sitting-together-and-havin-86UJHV7-scaled.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1707\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"16 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cydraddoldeb-ac-amrywiaeth\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cydraddoldeb-ac-amrywiaeth\/\",\"name\":\"Cydraddoldeb ac amrywiaeth | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cydraddoldeb-ac-amrywiaeth\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cydraddoldeb-ac-amrywiaeth\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/diverse-business-people-sitting-together-and-havin-86UJHV7-scaled.jpg\",\"datePublished\":\"2021-05-05T14:18:10+00:00\",\"dateModified\":\"2026-06-07T13:22:52+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cydraddoldeb-ac-amrywiaeth\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cydraddoldeb-ac-amrywiaeth\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cydraddoldeb-ac-amrywiaeth\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/diverse-business-people-sitting-together-and-havin-86UJHV7-scaled.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/diverse-business-people-sitting-together-and-havin-86UJHV7-scaled.jpg\",\"width\":2560,\"height\":1707,\"caption\":\"Front view of diverse business people sitting together and having a group discussion in a modern office\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cydraddoldeb-ac-amrywiaeth\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Cydraddoldeb ac amrywiaeth\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"description\":\"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"width\":512,\"height\":512,\"caption\":\"Hwb Gwybodaeth\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Cydraddoldeb ac amrywiaeth | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cydraddoldeb-ac-amrywiaeth\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Cydraddoldeb ac amrywiaeth | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","og_description":"Mae pob mudiad yn cynnwys amrywiaeth o bobl sy\u2019n cyfrannu mewn nifer o ffyrdd, fel ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr a staff. Bydd pawb sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r mudiad yn wahanol.","og_url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cydraddoldeb-ac-amrywiaeth\/","og_site_name":"Hwb Gwybodaeth","article_modified_time":"2026-06-07T13:22:52+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1707,"url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/diverse-business-people-sitting-together-and-havin-86UJHV7-scaled.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"16 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cydraddoldeb-ac-amrywiaeth\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cydraddoldeb-ac-amrywiaeth\/","name":"Cydraddoldeb ac amrywiaeth | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","isPartOf":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cydraddoldeb-ac-amrywiaeth\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cydraddoldeb-ac-amrywiaeth\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/diverse-business-people-sitting-together-and-havin-86UJHV7-scaled.jpg","datePublished":"2021-05-05T14:18:10+00:00","dateModified":"2026-06-07T13:22:52+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cydraddoldeb-ac-amrywiaeth\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cydraddoldeb-ac-amrywiaeth\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cydraddoldeb-ac-amrywiaeth\/#primaryimage","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/diverse-business-people-sitting-together-and-havin-86UJHV7-scaled.jpg","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/diverse-business-people-sitting-together-and-havin-86UJHV7-scaled.jpg","width":2560,"height":1707,"caption":"Front view of diverse business people sitting together and having a group discussion in a modern office"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cydraddoldeb-ac-amrywiaeth\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Cydraddoldeb ac amrywiaeth"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","name":"Hwb Gwybodaeth","description":"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.","publisher":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization","name":"Hwb Gwybodaeth","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","width":512,"height":512,"caption":"Hwb Gwybodaeth"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/9833","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1175"}],"version-history":[{"count":28,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/9833\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":24922,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/9833\/revisions\/24922"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1999"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9833"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9833"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9833"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}