{"id":9707,"date":"2021-03-26T15:52:02","date_gmt":"2021-03-26T15:52:02","guid":{"rendered":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/?post_type=resource&#038;p=9707"},"modified":"2026-06-10T07:08:48","modified_gmt":"2026-06-10T06:08:48","slug":"cyflogi-staff-am-y-tro-cyntaf","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflogi-staff-am-y-tro-cyntaf\/","title":{"rendered":"Cyflogi staff am y tro cyntaf"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-bootstrap-blocks-container container mb-2\">\n\t\n<div class=\"wp-bootstrap-blocks-row row\">\n\t\n\n<div class=\"col-12 col-md-9\">\n\t\t\t\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Trosolwg<\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"#cyflwyniad\">Cyflwyniad<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#beth-sydd-angen-ir-staff-ei-wneud\">Beth sydd angen i\u2019r staff ei wneud?<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#gwneud-penderfyniadau\">Gwneud penderfyniadau<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#graddfeydd-a-chyflogau-staff\">Graddfeydd a chyflogau staff<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#cyflog-cyfartal\">Cyflog cyfartal<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#pensiynau\">Pensiynau<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#buddion-a-threuliau\">Buddion a threuliau<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#sefydlu-eich-cyflogres\">Sefydlu eich cyflogres<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#cydymffurfio-a-rhwymedigaethau-cyfreithiol\">Cydymffurfio \u00e2 rhwymedigaethau cyfreithiol<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#casgliad\">Casgliad<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#gwybodaeth-bellach\">Gwybodaeth bellach<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"cyflwyniad\">Cyflwyniad<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae cyflogi pobl yn gyfrifoldeb pwysig. Bydd eich mudiad yn dod yn gyflogwr cyn gynted ag y bydd yn recriwtio staff cyflogedig. Er<br>nad oes disgwyl i\u2019r mudiad fod yn arbenigwr yn yr holl gyfrifoldebau cyfreithiol cysylltiedig, bydd disgwyl iddo fod yn ymwybodol<br>o newidiadau a sicrhau ei fod yn cael cyngor ac arbenigedd pan fydd angen.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar gyfer mudiadau llai neu sefydliadau corfforedig elusennol (CIO), efallai mai ymddiriedolwyr neu uwch wirfoddolwyr fydd yn gyfrifol am faterion adnoddau dynol cychwynnol. Mae cymorth a chyngor ar gael gan Cefnogi Trydydd Sector Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r daflen wybodaeth hon yn gyflwyniad sylfaenol i gyflogi pobl am y tro cyntaf ac mae\u2019n edrych ar yr elfennau allweddol y dylai mudiadau eu rhoi ar waith.<\/p>\n\n\n\n<p>Dylai eich r\u00f4l fel cyflogwr a\u2019r gofynion cyfreithiol cysylltiedig gael eu cymryd o ddifrif:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Rydych chi\u2019n gyfrifol am wneud yn si\u0175r bod y staff yn gweithio\u2019n effeithiol i gyflawni nodau\u2019r mudiad. Os nad ydynt yn gwneud hynny, nid ydych yn rheoli adnoddau\u2019r mudiad yn effeithiol.<\/li>\n\n\n\n<li>Rhaid i\u2019ch mudiad gydymffurfio \u00e2 chyfreithiau cyflogaeth, gan gynnwys:\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Rheolau pensiwn<\/li>\n\n\n\n<li>Y gyflogres a thalu\u2019r isafswm cyflog<\/li>\n\n\n\n<li>Iechyd a diogelwch<\/li>\n\n\n\n<li>Deddfwriaeth cydraddoldeb<\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n\n\n\n<li>Gall eich mudiad wynebu cosbau llym os na fyddwch yn cydymffurfio \u00e2\u2019r cyfreithiau sy\u2019n ymdrin \u00e2 chyflogaeth. Mewn rhai amgylchiadau, gallech wynebu atebolrwydd personol am ddyledion sy\u2019n deillio o gamreoli staff neu fethiant i gydymffurfio \u00e2\u2019r ddeddfwriaeth cyflogaeth.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"beth-sydd-angen-ir-staff-ei-wneud\">Beth sydd angen i\u2019r staff ei wneud?<\/h2>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"alignright size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"682\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/06\/pexels-andrea-piacquadio-3863757-e1602500915818-1024x682.jpg\" alt=\"Gr\u0175p o bobl yn eistedd gyda\u2019i gilydd ac yn adolygu dogfennau\" class=\"wp-image-20634\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/06\/pexels-andrea-piacquadio-3863757-e1602500915818-1024x682.jpg 1024w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/06\/pexels-andrea-piacquadio-3863757-e1602500915818-720x480.jpg 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/06\/pexels-andrea-piacquadio-3863757-e1602500915818-768x512.jpg 768w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/06\/pexels-andrea-piacquadio-3863757-e1602500915818-360x240.jpg 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/06\/pexels-andrea-piacquadio-3863757-e1602500915818-624x416.jpg 624w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/06\/pexels-andrea-piacquadio-3863757-e1602500915818.jpg 1280w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<p>Mae llawer o fudiadau sector gwirfoddol yn cychwyn ar delerau cwbl wirfoddol. Mae\u2019n debyg y bydd bwrdd ymddiriedolwyr neu bwyllgor rheoli ac efallai rhai gwirfoddolwyr di-d\u00e2l eraill. Ond wrth i\u2019r mudiad dyfu, efallai y bydd angen iddo gyflogi staff i gyflawni ei nodau.<\/p>\n\n\n\n<p>Cam cyntaf y broses hon yw penderfynu i ba ddiben rydych chi eisiau cyflogi staff a pha oriau gwaith fydd eu hangen er mwyn iddynt gyflawni eu dyletswyddau\u2019n effeithiol. I wneud hyn, bydd angen i chi lunio disgrifiadau swydd a manylebau unigolyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd angen i chi hefyd lunio contract cyflogaeth a rhoi polis\u00efau cyflogaeth fel polisi cyfle cyfartal, iechyd a diogelwch, gweithdrefnau disgyblu a chwyno ac ati ar waith.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd angen i chi wedyn sicrhau cyllid ar gyfer y swydd(i). I wneud hyn, bydd angen i chi gyfrifo faint fydd cyflogi gweithiwr yn ei gostio i chi. Edrychir ar hyn, a materion cysylltiedig, isod.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"gwneud-penderfyniadau\">Gwneud penderfyniadau<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae cyflogi gweithiwr am y tro cyntaf yn gam mawr i unrhyw fudiad.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall hefyd fod yn ddigon anodd newid i fod \u00e2 staff a throsglwyddo cyfrifoldebau. Mae\u2019n hanfodol felly bod cymeradwyaeth y bwrdd ymddiriedolwyr, neu\u2019r pwyllgor rheoli neu weithredol yn cael ei sicrhau yn ystod pob cam allweddol o\u2019r broses.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cytuno ar y disgrifiad swydd ac ati<\/li>\n\n\n\n<li>Cytuno ar y telerau ac amodau<\/li>\n\n\n\n<li>Cytuno ar y broses recriwtio<\/li>\n\n\n\n<li>Paratoi cynigion cyllido<\/li>\n\n\n\n<li>Llunio rhestr fer a dewis<\/li>\n\n\n\n<li>Adolygu\u2019r cyfnod prawf a chadarnhau\u2019r swydd<\/li>\n\n\n\n<li>Cytuno ar broses oruchwylio ac arfarnu<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Gellir dirprwyo rhai o\u2019r camau hyn i is-bwyllgor. Dylid cael cyngor arbenigol ym mhob un o\u2019r camau os bydd angen.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"graddfeydd-a-chyflogau-staff\">Graddfeydd a chyflogau staff<\/h2>\n\n\n\n<p>Elfen allweddol o gyflogi staff yw cyflogau. Mewn ceisiadau am gyllid, bydd angen i chi wneud cais am y cyflog a delir i\u2019r cyflogai, ynghyd \u00e2 chyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr, ac unrhyw argostau eraill y cytunwyd arnynt \u00e2\u2019ch cyllidwr neu fudiad contractio.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae rhai cyflogeion yn y sector gwirfoddol yn cael eu talu\u2019n \u00f4l yr hyn a elwir yn Raddfeydd Cyflog yr NJC. Fel arfer, mae\u2019r rhain yn cael eu diwygio o <strong>1 Ebrill bob blwyddyn<\/strong>.<\/p>\n\n\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-left\">Mae grwpiau gwirfoddol bach yn debygol o fod yn talu staff ar lefelau isaf y graddfeydd hyn. Os ydych chi\u2019n gwneud cais am gyllid am swydd a fydd yn para am fwy na blwyddyn, dylech ystyried a ddylech ganiat\u00e1u ar gyfer rhywfaint o gynnydd cyflog mewn bandiau cyflog a chynnydd mewn costau byw.<\/p>\n\n\n\n<p>Os na fyddwch yn llwyddo i gael cyllid llawn, bydd angen i chi adolygu\u2019r sefyllfa a phenderfynu a allwch leihau\u2019r oriau neu\u2019r raddfa fel y bydd eich costau wedi\u2019u cynnwys.<\/p>\n\n\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-text-align-left\" id=\"cyflog-cyfartal\">Cyflog cyfartal<\/h2>\n\n\n\n<p>Os ydych chi\u2019n cyflogi pobl am y tro cyntaf, mae\u2019n debyg na fyddwch yn gwybod eto faint o ddynion neu fenywod y byddwch yn eu cyflogi yn eich mudiad, ond mae\u2019n bwysig bod yn ymwybodol o ddeddfwriaeth cyflog cyfartal o\u2019r cychwyn cyntaf rhag i chi gael eich dal gan unrhyw arferion gwahaniaethol.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn \u00f4l y gyfraith, rhaid i ddynion a menywod gael cyflog cyfartal am wneud \u2018gwaith cyfartal\u2019 (gwaith y mae cyfraith cyflog cyfartal yn ei gyfrif fel yr un fath o waith, gwaith tebyg, gwaith cyfatebol neu waith o\u2019r un gwerth).<\/p>\n\n\n\n<p>Mae hyn yn golygu na ddylai rywun gael cyflog llai o\u2019i gymharu \u00e2 rhywun sydd:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>O\u2019r rhyw arall ac<\/li>\n\n\n\n<li>Yn gwneud yr un gwaith i\u2019r un cyflogwr<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"pensiynau\">Pensiynau<\/h2>\n\n\n\n<p>Os yw eich mudiad yn cyflogi staff, bydd angen i chi hefyd gofrestru eich cyflogeion cymwys ar gynllun pensiwn a gwneud cyfraniad tuag ato.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r canllaw hwn wedi\u2019i deilwra ar gyfer mudiadau yn y sector gwirfoddol a\u2019r sector cymunedol yng Nghymru sy\u2019n gwneud trefniadau cyflogaeth ffurfiol am y tro cyntaf.<\/p>\n\n\n\n<p>Defnyddiwch restr wirio ar-lein y Rheoleiddiwr Pensiynau i gadarnhau eich dyletswyddau cofrestru a therfynau amser:<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.thepensionsregulator.gov.uk\/en\/employers\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/www.thepensionsregulator.gov.uk\/en\/employers<\/a><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gweithwyr cymwys<\/h3>\n\n\n\n<p>Workers employed and paid by the Mae gweithwyr a gyflogir ac a delir gan yr elusen am y gwaith maen nhw\u2019n ei wneud yn gymwys i gael pensiynau os ydynt:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Yn ennill mwy na\u2019r isafswm cyflog cyfredol<\/li>\n\n\n\n<li>Rhwng 22 oed ac oedran pensiwn y wladwriaeth<\/li>\n\n\n\n<li>Yn gweithio yn y DU<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae \u2018gweithwyr\u2019 yn cynnwys contractwyr a staff asiantaethau, yn ogystal \u00e2 phobl sy\u2019n gweithio o dan brentisiaeth. Nid yw gwirfoddolwyr a staff di-d\u00e2l yn gymwys.<\/p>\n\n\n\n\n\n<p>Fel cyflogwr, rhaid i chi gyfrannu o leiaf 3% o enillion eich gweithwyr cymwys tuag at gynllun pensiwn, a byddan nhw\u2019n talu\u2019r gweddill. Rhaid i gyfanswm y cyfraniad gyfateb i o leiaf 8% o enillion pob gweithiwr.<\/p>\n\n\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"buddion-a-threuliau\">Buddion a threuliau<\/h2>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"alignright size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/06\/Benefits-1024x683.jpg\" alt=\"Gweithiwr gofal yn cerdded gydag aelod h\u0177n o\u2019r gymuned sy\u2019n cario bag o fwydydd a blodau\" class=\"wp-image-24233\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/06\/Benefits-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/06\/Benefits-720x480.jpg 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/06\/Benefits-768x512.jpg 768w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/06\/Benefits-1536x1025.jpg 1536w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/06\/Benefits-360x240.jpg 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/06\/Benefits-1800x1201.jpg 1800w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/06\/Benefits-624x416.jpg 624w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/06\/Benefits.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<p>Yn ychwanegol at gost unrhyw gynllun pensiwn a fydd gennych, bydd angen i chi hefyd benderfynu faint fydd cyflogai yn ei gostio i chi o ran:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Costau hyfforddi<\/li>\n\n\n\n<li>Costau teithio a threuliau<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Nid yn unig y bydd yn rhaid i chi gynnwys y costau hyn mewn ceisiadau am gyllid, ond rhaid i chi hefyd gadw o fewn terfynau Refeniw. Mae\u2019n syniad da i gadarnhau unrhyw lwfansau gyda <strong>Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF)<\/strong> a gwneud cais am oddefeb o ran talu treuliau.<\/p>\n\n\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"sefydlu-eich-cyflogres\">Sefydlu eich cyflogres<\/h2>\n\n\n\n<p>Bydd angen i chi sefydlu system gyflogres. Os nad ydych yn si\u0175r am hyn, gall Cefnogi Trydydd Sector Cymru (thirdsectorsupport.wales) eich helpu i ddod o hyd i ddarparwyr cyflogres neu adolygu contractau swyddi.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae dau opsiwn:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cyflogi biwro cyflogres arbenigol<\/li>\n\n\n\n<li>Gweithredu\u2019r gyflogres eich hun<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Oni bai bod gennych chi brofiad o redeg cyflogres, fe\u2019ch cynghorir i ddefnyddio biwro cyflogres. Gall Cefnogi Trydydd Sector Cymru eich helpu i ddod o hyd i gyflenwr.<\/p>\n\n\n\n<p>Beth bynnag y byddwch chi\u2019n ei wneud, bydd angen i chi gofrestru \u00e2 <strong>CThEF<\/strong> fel cyflogwr newydd ar eu llinell gofrestru (<a href=\"tel:03002003211\">0300 200 3211<\/a>). Rhaid gwneud hyn cyn y diwrnod talu cyntaf. Byddant wedyn yn anfon cofnod cyflogres atoch ar gyfer PAYE Online.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"cydymffurfio-a-rhwymedigaethau-cyfreithiol\">Cydymffurfio \u00e2 rhwymedigaethau cyfreithiol<\/h2>\n\n\n\n<p>Cyn gynted ag y byddwch chi\u2019n gyflogwr, bydd yn rhaid i chi gydymffurfio \u00e2 nifer o rwymedigaethau ariannol a threthiant allweddol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Talu o leiaf yr <strong>Isafswm Cyflog Cenedlaethol<\/strong> i\u2019ch staff<\/li>\n\n\n\n<li>Cofrestru eich cyflogeion yn awtomatig ar gynllun pensiwn, fel y nodwyd uchod<\/li>\n\n\n\n<li>Sicrhau bod <strong>cyfraniadau Treth Incwm<\/strong> ac <strong>Yswiriant Gwladol TWE (Talu Wrth Ennill)<\/strong> yn cael eu talu i <strong>Gyllid y Wlad<\/strong> erbyn y dyddiadau pan fyddant yn ddyledus (misol neu chwarterol yn unol \u00e2\u2019r hyn a gytunwyd gyda\u2019ch swyddfa dalu)<\/li>\n\n\n\n<li>Anfon ffurflenni penodol at gyflogeion a\/neu <strong>Gyllid y Wlad<\/strong> erbyn y dyddiadau penodedig<\/li>\n\n\n\n<li>Sicrhau bod gan y bobl rydych chi\u2019n eu cyflogi yr hawl gyfreithiol i weithio yn y DU (<a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/publications\/right-to-work-checks-employers-guide\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">gweler y canllaw yma<\/a>) a\u2019ch bod yn cadw tystiolaeth o hynny<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Rhaid i gyflogwyr baratoi datganiad cyflog ysgrifenedig unigol cyn neu ar yr adeg y byddant yn cael eu talu. Rhaid i\u2019r datganiad ddangos y cyflog gros a\u2019r cyflog net (cyflog mynd adref), gyda swm pob didyniad amrywiol a\u2019r rheswm amdano.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"casgliad\">Casgliad<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae cyflogi pobl am y tro cyntaf yn gam cyffrous yn natblygiad eich mudiad, ond mae hefyd yn fuddsoddiad sylweddol o ran adnoddau ac nid yw heb risgiau, felly mae\u2019n bwysig cymryd amser ar y dechrau i wneud pethau\u2019n iawn ac i wneud yn si\u0175r bod y broses yn rhedeg yn esmwyth i\u2019ch mudiad a\u2019i staff newydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Caiff yr wybodaeth hon ei darparu fel canllaw cyffredinol ac ni fwriedir iddi fod yn gyngor proffesiynol.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"gwybodaeth-bellach\">Gwybodaeth bellach<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi<\/h3>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/organisations\/hm-revenue-customs\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">www.hmrc.gov.uk<\/a><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gweithio llywodraeth y DU<\/h3>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/browse\/working\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">www.gov.uk\/browse\/working<\/a><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC)<\/h3>\n\n\n\n<p>Ff\u00f4n: <a href=\"tel:08088000082\" type=\"tel\" id=\"tel:08088000082\">0808 800 0082<\/a><br>Ff\u00f4n testun: 0808 800 0084<br><a href=\"mailto:wales@equalityhumanrights.com\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">wales@equalityhumanrights.com<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.equalityhumanrights.com\/en\/commission-wales\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">www.equalityhumanrights.com\/wales\/<\/a><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Pay Connect \u2013 Gwasanaeth Cyflogres i\u2019r Trydydd Sector<\/h3>\n\n\n\n<p>Ff\u00f4n: <a href=\"tel:01745357588\" type=\"tel\" id=\"tel:01745357588\">01745 357588<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/wcva.cymru\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">www.wcva.cymru<\/a><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">ACAS<\/h3>\n\n\n\n<p>Ff\u00f4n: <a href=\"tel:08457474747\" type=\"tel\" id=\"tel:08457474747\">08457 474747<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.acas.org.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">www.acas.org.uk<\/a><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Y Rheoleiddiwr Pensiynau<\/h3>\n\n\n\n<p>Ff\u00f4n: <a href=\"tel:03456000707\" type=\"tel\" id=\"tel:03456000707\">0345 600 0707<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"http:\/\/www.thepensionsregulator.gov.uk\/cy\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">www.thepensionsregulator.gov.uk\/cy<\/a><\/p>\n\n\t<\/div>\n\n\n\n<div class=\"col-12 col-md-3\">\n\t\t\t\n\n\t<\/div>\n\n<\/div>\n\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r daflen wybodaeth hon yn gyflwyniad sylfaenol i gyflogi pobl am y tro cyntaf ac mae\u2019n edrych ar yr elfennau allweddol y dylai mudiadau eu rhoi ar waith.<\/p>\n","protected":false},"author":5934,"featured_media":9703,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"ep_exclude_from_search":false,"footnotes":""},"categories":[759],"tags":[723,770],"class_list":["post-9707","resource","type-resource","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llywodraethu-da","tag-good-governance","tag-hr","pillar-llywodraethu-da"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Cyflogi staff am y tro cyntaf | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Mae\u2019r daflen wybodaeth hon yn gyflwyniad sylfaenol i gyflogi pobl am y tro cyntaf ac mae\u2019n edrych ar yr elfennau allweddol y dylai mudiadau eu rhoi ar waith.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflogi-staff-am-y-tro-cyntaf\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Cyflogi staff am y tro cyntaf | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae\u2019r daflen wybodaeth hon yn gyflwyniad sylfaenol i gyflogi pobl am y tro cyntaf ac mae\u2019n edrych ar yr elfennau allweddol y dylai mudiadau eu rhoi ar waith.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflogi-staff-am-y-tro-cyntaf\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-06-10T06:08:48+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/03\/6.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1028\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"626\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"8 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflogi-staff-am-y-tro-cyntaf\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflogi-staff-am-y-tro-cyntaf\/\",\"name\":\"Cyflogi staff am y tro cyntaf | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflogi-staff-am-y-tro-cyntaf\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflogi-staff-am-y-tro-cyntaf\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/03\/6.jpg\",\"datePublished\":\"2021-03-26T15:52:02+00:00\",\"dateModified\":\"2026-06-10T06:08:48+00:00\",\"description\":\"Mae\u2019r daflen wybodaeth hon yn gyflwyniad sylfaenol i gyflogi pobl am y tro cyntaf ac mae\u2019n edrych ar yr elfennau allweddol y dylai mudiadau eu rhoi ar waith.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflogi-staff-am-y-tro-cyntaf\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflogi-staff-am-y-tro-cyntaf\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflogi-staff-am-y-tro-cyntaf\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/03\/6.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/03\/6.jpg\",\"width\":1028,\"height\":626,\"caption\":\"Llun: cyfarfod arfarnu ar waith\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflogi-staff-am-y-tro-cyntaf\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Cyflogi staff am y tro cyntaf\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"description\":\"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"width\":512,\"height\":512,\"caption\":\"Hwb Gwybodaeth\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Cyflogi staff am y tro cyntaf | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","description":"Mae\u2019r daflen wybodaeth hon yn gyflwyniad sylfaenol i gyflogi pobl am y tro cyntaf ac mae\u2019n edrych ar yr elfennau allweddol y dylai mudiadau eu rhoi ar waith.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflogi-staff-am-y-tro-cyntaf\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Cyflogi staff am y tro cyntaf | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","og_description":"Mae\u2019r daflen wybodaeth hon yn gyflwyniad sylfaenol i gyflogi pobl am y tro cyntaf ac mae\u2019n edrych ar yr elfennau allweddol y dylai mudiadau eu rhoi ar waith.","og_url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflogi-staff-am-y-tro-cyntaf\/","og_site_name":"Hwb Gwybodaeth","article_modified_time":"2026-06-10T06:08:48+00:00","og_image":[{"width":1028,"height":626,"url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/03\/6.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"8 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflogi-staff-am-y-tro-cyntaf\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflogi-staff-am-y-tro-cyntaf\/","name":"Cyflogi staff am y tro cyntaf | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","isPartOf":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflogi-staff-am-y-tro-cyntaf\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflogi-staff-am-y-tro-cyntaf\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/03\/6.jpg","datePublished":"2021-03-26T15:52:02+00:00","dateModified":"2026-06-10T06:08:48+00:00","description":"Mae\u2019r daflen wybodaeth hon yn gyflwyniad sylfaenol i gyflogi pobl am y tro cyntaf ac mae\u2019n edrych ar yr elfennau allweddol y dylai mudiadau eu rhoi ar waith.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflogi-staff-am-y-tro-cyntaf\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflogi-staff-am-y-tro-cyntaf\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflogi-staff-am-y-tro-cyntaf\/#primaryimage","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/03\/6.jpg","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/03\/6.jpg","width":1028,"height":626,"caption":"Llun: cyfarfod arfarnu ar waith"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflogi-staff-am-y-tro-cyntaf\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Cyflogi staff am y tro cyntaf"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","name":"Hwb Gwybodaeth","description":"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.","publisher":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization","name":"Hwb Gwybodaeth","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","width":512,"height":512,"caption":"Hwb Gwybodaeth"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/9707","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5934"}],"version-history":[{"count":22,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/9707\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":25377,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/9707\/revisions\/25377"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9703"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9707"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9707"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9707"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}