{"id":3253,"date":"2020-10-09T11:09:03","date_gmt":"2020-10-09T10:09:03","guid":{"rendered":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/?post_type=resource&#038;p=3253"},"modified":"2026-06-12T14:29:37","modified_gmt":"2026-06-12T13:29:37","slug":"gweithio-gydar-prif-swyddog","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gweithio-gydar-prif-swyddog\/","title":{"rendered":"Gweithio gyda\u2019r prif swyddog"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-bootstrap-blocks-container container mb-2\">\n\t\n<div class=\"wp-bootstrap-blocks-row row\">\n\t\n\n<div class=\"col-12 col-md-9\">\n\t\t\t\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Trosolwg<\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"#cyflwyniad\">Cyflwyniad<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#llywodraethu-yn-erbyn-rheoli\">Llywodraethu yn erbyn rheoli<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#strwythur-rheoli\">Strwythur rheoli<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#dirprwyo\">Dirprwyo<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#rol-y-prif-swyddog\">R\u00f4l y prif swyddog<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#y-gydberthynas-rhwng-y-bwrdd-ar-prif-swyddog\">Y gydberthynas rhwng y bwrdd a\u2019r prif swyddog<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#goruchwylio-a-chefnogi-r-prif-swyddog\">Goruchwylio a chefnogi\u2019r prif swyddog<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#gwybodaeth-bellach\">Gwybodaeth bellach<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#ymwadiad\">Ymwadiad<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"cyflwyniad\">Cyflwyniad<\/h2>\n\n\n\n<p>Gall strwythur rheoli mudiadau gwirfoddol amrywio\u2019n fawr, ac yn aml, caiff ffurfioldeb y strwythur hwn ei bennu yn \u00f4l maint ac adnoddau. <\/p>\n\n\n\n<p>Ond hyd yn oed yn y mudiadau symlaf, bydd bwrdd, neu bwyllgor o bobl a fydd yn cymryd cyfrifoldeb cyffredinol am ochr gyfreithiol ac ariannol y mudiad cyfan. Gelwir y r\u00f4l hon yn \u2018llywodraethu\u2019.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn dibynnu ar strwythur cyfreithiol y mudiad, gallai\u2019r gr\u0175p hwn o bobl gael eu hadnabod wrth amrywiaeth o enwau, megis: y pwyllgor rheoli,<br>bwrdd, ymddiriedolwyr ac ati, ond waeth beth y\u2019u gelwir nhw, nhw sydd \u00e2\u2019r cyfrifoldeb cyffredinol dros redeg y mudiad yn unol \u00e2\u2019u dogfen lywodraethu, y gyfraith gyffredinol a\u2019r arferion rheoli gorau.<\/p>\n\n\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"llywodraethu-yn-erbyn-rheoli\">Llywodraethu yn erbyn rheoli<\/h2>\n\n\n\n<p>Yn gyntaf, mae\u2019n bwysig gwahaniaethu rhwng y cysyniad o \u2018lywodraethu\u2019 a \u2018rheoli\u2019, er mwyn deall y gydberthynas rhwng y bwrdd a\u2019r staff uwch:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Llywodraethu<\/strong> yw\u2019r term a ddefnyddir ar gyfer y materion y mae\u2019n rhaid i ymddiriedolwyr ymdrin \u00e2 nhw eu hunain, yn hytrach na\u2019r rheini y gallant eu dirprwyo i staff a phobl eraill. Mae\u2019n ymwneud \u00e2 rheoli\u2019r mudiad ac yn cynnwys gosod y strategaeth, hyrwyddo\u2019r amcanion a diogelu asedau.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Rheoli<\/strong> yw\u2019r gwaith o reoli\u2019r mudiad o ddydd i ddydd a materion gweithredol nad oes angen i ymddiriedolwyr ymdrin \u00e2 nhw\u2019n uniongyrchol, a all felly cael eu dirprwyo i staff. Mae\u2019n ymwneud \u00e2 rhedeg y mudiad mewn ystyr mwy \u2018ymarferol\u2019, ac mae\u2019n cynnwys rheoli staff, darparu gwasanaethau a gweinyddiaeth gyffredinol.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae ymddiriedolwyr yn parhau i fod yn atebol yn y pen draw am yr elusen o dan ganllawiau CC3 y Comisiwn Elusennau: <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/publications\/the-essential-trustee-what-you-need-to-know-cc3\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">The essential trustee CC3<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"strwythur-rheoli\">Strwythur rheoli<\/h2>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"alignright size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/11\/multicultural-group-of-marketing-managers-working-SPYAQES-1-1024x683.jpg\" alt=\"Pobl yn cydweithio mewn cyfarfod, yn adolygu dogfennau ac yn trafod syniadau o amgylch bwrdd\" class=\"wp-image-12697\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/11\/multicultural-group-of-marketing-managers-working-SPYAQES-1-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/11\/multicultural-group-of-marketing-managers-working-SPYAQES-1-720x481.jpg 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/11\/multicultural-group-of-marketing-managers-working-SPYAQES-1-768x513.jpg 768w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/11\/multicultural-group-of-marketing-managers-working-SPYAQES-1-1536x1025.jpg 1536w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/11\/multicultural-group-of-marketing-managers-working-SPYAQES-1-2048x1367.jpg 2048w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/11\/multicultural-group-of-marketing-managers-working-SPYAQES-1-360x240.jpg 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/11\/multicultural-group-of-marketing-managers-working-SPYAQES-1-1800x1201.jpg 1800w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/11\/multicultural-group-of-marketing-managers-working-SPYAQES-1-400x267.jpg 400w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/11\/multicultural-group-of-marketing-managers-working-SPYAQES-1-624x416.jpg 624w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<p>Mae&#8217;r berthynas waith rhwng ymddiriedolwyr a Phrif Swyddog yn gweithredu orau pan fydd rolau wedi&#8217;u diffinio&#8217;n glir. Mae ymddiriedolwyr yn gyfrifol am osod cyfeiriad strategol yr elusen a sicrhau llywodraethu da, tra bod y Prif Swyddog fel arfer yn gyfrifol am weithredu strategaeth a goruchwylio gweithrediadau o ddydd i ddydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mewn rhai mudiadau, gall y Prif Swyddog hefyd ddwyn y teitl Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr<br>neu Reolwr. Ni waeth beth fo&#8217;r teitl, mae&#8217;r r\u00f4l yn bont rhwng y bwrdd a&#8217;r staff, gan drosi<br>penderfyniadau strategol yn weithgaredd gweithredol.<\/p>\n\n\n\n<p>Pan fo timau staff yn fach neu&#8217;n rhan-amser, gall y Prif Swyddog hefyd ymgymryd \u00e2 chyfrifoldebau darparu gwasanaethau uniongyrchol neu godi arian. Dylai ymddiriedolwyr barhau i fod yn ymwybodol o&#8217;r pwysau gweithredol hyn wrth gytuno ar ddisgwyliadau perfformiad.<\/p>\n\n\n\n<p>Er mwyn cefnogi eglurder, anogir mudiadau i ddatblygu Cynllun Dirprwyo (gweler yr adran ganlynol), sy&#8217;n helpu i ffurfioli pa gyfrifoldebau sy&#8217;n cael eu cadw gan y bwrdd a pha gyfrifoldebau sy&#8217;n cael eu dirprwyo i&#8217;r Prif Swyddog neu&#8217;r staff.<\/p>\n\n\n\n<p>Mewn mudiadau lle mae\u2019r cyfrifoldebau llywodraethu a rheoli wedi\u2019u rhannu, mae\u2019r gydberthynas rhwng y bwrdd a\u2019r prif swyddog yn hanfodol i lwyddiant y mudiad. Mae\u2019n ddefnyddiol meddwl am y gydberthynas hon fel a ganlyn:<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"750\" height=\"520\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/10\/strwythur-arheoli-1.png\" alt=\"Diagram yn dangos y berthynas rhwng y Bwrdd, y Prif Swyddog, yr Uwch D\u00eem Rheoli (SMT), a Staff\/Gwirfoddolwyr, gan ddarlunio sut mae cyfrifoldebau llywodraethu, rheoli a gweithredol yn cysylltu o fewn mudiad.\" class=\"wp-image-25714\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/10\/strwythur-arheoli-1.png 750w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/10\/strwythur-arheoli-1-720x499.png 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/10\/strwythur-arheoli-1-360x250.png 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/10\/strwythur-arheoli-1-624x433.png 624w\" sizes=\"auto, (max-width: 750px) 100vw, 750px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae r\u00f4l y prif swyddog yn dyngedfennol felly, ac mae\u2019n hanfodol fod y gydberthynas rhwng y bwrdd ar un llaw a\u2019r staff ac ati ar y llaw arall, yn cael ei diffinio\u2019n glir. Os na chaiff hyn ei wneud, gall y broses ddirprwyo ac effeithiolrwydd y mudiad yn y pen draw, gael eu tanseilio.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"dirprwyo\">Dirprwyo<\/h2>\n\n\n\n<p>Saif y cyfrifoldeb a\u2019r awdurdod dros y mudiad gyda\u2019r bwrdd. Er na ellir dirprwyo\u2019r cyfrifoldeb cyffredinol, gellir dirprwyo swyddogaethau penodol. Mewn mudiadau mwy o faint lle ceir prif swyddog neu reolwr ar wah\u00e2n, mae\u2019n rhaid dirprwyo materion bob dydd i staff fel y gallant weithredu ar ran y bwrdd o ran rhedeg agweddau amrywiol ar y mudiad.<\/p>\n\n\n\n<p>Am resymau cyfreithiol, cymhleth, mae angen pwerau penodol ar y bwrdd i ddirprwyo rhai o\u2019i swyddogaethau, a gellir gweld y pwerau hyn fel arfer yn nogfen lywodraethu mudiad (er y gellir hefyd eu rhoi gan Statud neu gan yr aelodaeth mewn rhai achosion). Gan mai\u2019r bwrdd sy\u2019n parhau i fod yn gyfrifol am ei holl swyddogaethau dirprwyedig dylid, gan hynny, reoli\u2019r<br>broses ddirprwyo\u2019n llym, fel y gall y bwrdd fod yn sicr bod y swyddogaethau hynny\u2019n cael eu cyflawni\u2019n briodol o fewn telerau\u2019r ddogfen lywodraethu, y gyfraith gyffredinol ac arferion gorau. Gellir dim ond gwneud hyn os yw\u2019r broses wedi\u2019i gwneud yn ffurfiol.<\/p>\n\n\n\n<p>Er mwyn cyflawni dirprwyaeth effeithiol, dylai\u2019r bwrdd sicrhau:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Bod polisi\u2019n cael ei lunio sy\u2019n nodi pwerau\u2019r bwrdd a\u2019r paramedrau dirprwyo<\/li>\n\n\n\n<li>Bod telerau pob swyddogaeth a ddirprwywyd wedi\u2019u nodi\u2019n ysgrifenedig, gan gynnwys gofynion monitro, goruchwyliaeth ac adrodd perthnasol<\/li>\n\n\n\n<li>Bod disgrifiadau swyddi\u2019n nodi\u2019n glir yr holl swyddogaethau dirprwyedig sydd wedi\u2019u cynnwys ym mhob r\u00f4l<\/li>\n\n\n\n<li>Bod gan yr aelodau staff perthnasol y sgiliau a\u2019r cymorth gofynnol i gyflawni\u2019r swyddogaethau dirprwyedig, a derbyn hyfforddiant yn \u00f4l yr angen.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"rol-y-prif-swyddog\">R\u00f4l y prif swyddog<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae r\u00f4l y prif swyddog yn hanfodol, oherwydd ef fydd yn bennaf gyfrifol am reoli\u2019r mudiad ar ran yr ymddiriedolwyr.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote has-text-align-right is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p class=\"has-text-align-left\">The Chief Officer is responsible for implementing the organisation\u2019s safeguarding policies, and escalating any serious incidents to the board or regulators, as required.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p>Fel y mae\u2019r <strong>Cod Llywodraethu i Elusennau\u2019r DU<\/strong> yn nodi, \u2018Bydd y bwrdd, drwy ei berthynas \u00e2\u2019r uwch aelod o staff, yn creu amgylchiadau lle mae staff yr elusen yn hyderus ac yn gallu rhoi\u2019r wybodaeth, y cyngor a\u2019r adborth angenrheidiol i\u2019r bwrdd.\u2019<\/p>\n\n\n\n<p>Fel arfer, mae cyfrifoldebau\u2019r prif swyddog yn cynnwys y canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gweithredu a goruchwylio\u2019r gwaith o reoli\u2019r mudiad o ddydd i ddydd<\/li>\n\n\n\n<li>Cyflawni gwaith y mudiad yn erbyn amcanion a osodir gan y bwrdd<\/li>\n\n\n\n<li>Gwneud penderfyniadau pan fydd yr awdurdod wedi\u2019i ddirprwyo gan y bwrdd<\/li>\n\n\n\n<li>Ymddwyn fel y rhyngwyneb rhwng y bwrdd a\u2019r staff<\/li>\n\n\n\n<li>Cynrychioli\u2019r mudiad yn allanol ar ran y bwrdd<\/li>\n\n\n\n<li>Adrodd cynnydd a chyflawniadau i\u2019r bwrdd yn rheolaidd, gan hysbysu a chynghori\u2019r bwrdd er mwyn iddo allu cyflawni ei r\u00f4l lywodraethu<\/li>\n\n\n\n<li>Cyflwyno gwybodaeth am faterion gweithredol, problemau a materion polisi, a gwneud argymhellion i\u2019r bwrdd eu hystyried<\/li>\n\n\n\n<li>Llunio cynigion ynghylch datblygiad strategol gwaith y mudiad yn y dyfodol i\u2019w hystyried gan y bwrdd.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae&#8217;r Prif Swyddog yn gyfrifol am weithredu polis\u00efau diogelu&#8217;r mudiad, ac uwchgyfeirio unrhyw ddigwyddiadau difrifol i&#8217;r bwrdd neu&#8217;r rheoleiddwyr, yn \u00f4l yr angen.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Y cynllun dirprwyo<\/h3>\n\n\n\n<p>Er mwyn cefnogi eglurder wrth wneud penderfyniadau, mae llawer o sefydliadau yn dewis mabwysiadu <em>Cynllun Dirprwyo<\/em>. Mae hon yn ddogfen ysgrifenedig sy&#8217;n nodi pa gyfrifoldebau a phenderfyniadau sy&#8217;n cael eu cadw gan y bwrdd a pha rai sy&#8217;n cael eu dirprwyo i&#8217;r Prif Swyddog a staff eraill.<\/p>\n\n\n\n<p>Cynllun Dirprwyo Clir:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Hyrwyddo atebolrwydd<\/li>\n\n\n\n<li>Atal camddealltwriaeth<\/li>\n\n\n\n<li>Sicrhau goruchwyliaeth briodol<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Er enghraifft, gall y bwrdd gadw cyfrifoldeb am gymeradwyo&#8217;r gyllideb, a gall y Prif Swyddog gael awdurdod dirprwyedig i gymeradwyo gwariant o fewn y gyllideb honno hyd at drothwy y cytunwyd arno.<\/p>\n\n\n\n<p>Efallai y bydd mudiadau hefyd yn dymuno ystyried creu templed syml sy&#8217;n amlinellu meysydd dirprwyo cyffredin, fel penderfyniadau AD, cyfathrebu, a rheolaethau ariannol, gyda lefelau cymeradwyo wedi&#8217;u nodi&#8217;n glir.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"y-gydberthynas-rhwng-y-bwrdd-ar-prif-swyddog\">Y gydberthynas rhwng y bwrdd a\u2019r prif swyddog<\/h2>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"alignright size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Social-Prescribing-Digital-Learning-Manager-scaled-1-1024x683.jpg\" alt=\"Dau berson yn ysgwyd llaw yn ystod cyfarfod, gydag un person yn gwenu wrth drafod dogfennau ar draws desg\" class=\"wp-image-22667\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Social-Prescribing-Digital-Learning-Manager-scaled-1-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Social-Prescribing-Digital-Learning-Manager-scaled-1-720x480.jpg 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Social-Prescribing-Digital-Learning-Manager-scaled-1-768x512.jpg 768w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Social-Prescribing-Digital-Learning-Manager-scaled-1-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Social-Prescribing-Digital-Learning-Manager-scaled-1-2048x1366.jpg 2048w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Social-Prescribing-Digital-Learning-Manager-scaled-1-360x240.jpg 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Social-Prescribing-Digital-Learning-Manager-scaled-1-1800x1200.jpg 1800w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Social-Prescribing-Digital-Learning-Manager-scaled-1-624x416.jpg 624w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<p>Mae angen fframwaith clir ar y prif swyddog lle y gall fwrw ati i gyfeirio gwaith y mudiad a defnyddio ei grebwyll a\u2019i sgiliau proffesiynol.<\/p>\n\n\n\n<p>Dylid cadw\u2019r gwahaniad rhwng llywodraethu a rheoli, gan sicrhau nad yw\u2019r prif swyddog yn cael ei lesteirio na\u2019i rwystro gan ymyriadau\u2019r bwrdd wrth redeg y mudiad o ddydd i ddydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Er mwyn cael cydberthynas effeithiol, dylai fod gan aelodau\u2019r bwrdd y canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gweledigaeth ar gyfer y mudiad a rennir gan y prif swyddog<\/li>\n\n\n\n<li>Ymrwymiad i gyflawni amcanion y mudiad o fewn y strwythur llywodraethu a rheoli cyfredol<\/li>\n\n\n\n<li>Rolau a gaiff eu deall yn dda, fel nad ydynt yn gwrthdaro \u00e2 r\u00f4l y prif swyddog, nac yn ymyrryd \u00e2\u2019r gwaith bob dydd o redeg y mudiad<\/li>\n\n\n\n<li>Hyder yng ngallu\u2019r prif swyddog a pharodrwydd i gefnogi ei benderfyniadau dilys (e.e. disgyblu\u2019r staff)<\/li>\n\n\n\n<li>Parodrwydd i gadw cysylltiad dwy ffordd \u00e2\u2019r prif swyddog a rhannu gwybodaeth sy\u2019n berthnasol i gyflawni\u2019r swyddogaethau a ddirprwywyd ganddo<\/li>\n\n\n\n<li>Cydnabyddiaeth y dylai\u2019r bwrdd ymddwyn fel un endyd, a, fel arfer, cyfathrebu \u00e2\u2019r prif swyddog mewn modd strwythurol (heblaw mewn argyfyngau), drwy\u2019r cadeirydd yn ddelfrydol<\/li>\n\n\n\n<li>Parodrwydd i gael cydbwysedd rhwng y blaenoriaethau arfaethedig a bennwyd ymlaen llaw gan y bwrdd, a\u2019r hyblygrwydd gweithredol sydd ei angen ar y prif swyddog i ymateb yn gyflym i amgylchiadau newidiol a manteisio i\u2019r eithaf ar gyfleoedd<\/li>\n\n\n\n<li>Proses ffurfiol lle gellir arfarnu perfformiad y prif swyddog, a dull y gall ef ei ddefnyddio yn ei dro i fwydo\u2019n \u00f4l i\u2019r bwrdd.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r gydberthynas rhwng y Cadeirydd a\u2019r prif swyddog yn bwysig ofnadwy, oherwydd bydd angen iddynt weithio\u2019n agos gyda\u2019i gilydd, ac mae\u2019r Cadeirydd yn debygol o fod yn gyfrifol am oruchwylio\u2019r Prif Swyddog.<\/p>\n\n\n\n<p>Os bydd y gydberthynas hon yn chwalu, bydd yn achosi problemau sylweddol i\u2019r mudiad, a gallai olygu y bydd angen i\u2019r cadeirydd neu\u2019r prif swyddog adael. Er mwyn gweithio\u2019n dda gyda\u2019i gilydd, mae\u2019n bwysig bod y Cadeirydd a\u2019r Prif Swyddog:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Yn gallu ymddiriedaeth yn ei gilydd<\/li>\n\n\n\n<li>Gyda dealltwriaeth eglur o rolau ei gilydd (ac yn parchu\u2019r rolau hyn)<\/li>\n\n\n\n<li>Gyda gweledigaeth gyffredin ar gyfer y mudiad<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae hefyd yn bwysig bod y bwrdd yn cydnabod y gall personoliaeth y prif swyddog ddylanwadu ar y pwyslais a roddir ar wybodaeth a adroddir, a chynnwys yr wybodaeth hon.<\/p>\n\n\n\n<p>Er enghraifft, gall fod tuedd gan y prif swyddog i wneud y canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>rhoi newyddion da yn unig, gan guddio unrhyw broblemau a dangos agwedd gadarnhaol iawn at bopeth<\/li>\n\n\n\n<li>bod yn wyliadwrus a thueddu i ganolbwyntio ar broblemau, risgiau a newyddion drwg, fel ei fod bob amser yn cyflwyno\u2019r pethau gwaethaf y gallai ddigwydd, neu<\/li>\n\n\n\n<li>mynd ati bob amser i roi barn gytbwys a gonest ar y sefyllfa gyfredol a\u2019r hyn sydd o flaen y mudiad<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Drwy ddeall hyn, gall y bwrdd ddehongli\u2019r wybodaeth y maen nhw\u2019n eu derbyn yn well a phwyso a mesur yr wybodaeth hon er mwyn sicrhau eu bod yn cael darlun realistig o sut mae\u2019r mudiad yn perfformio.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn yr un modd, gall personoliaeth prif bwynt cyswllt y prif swyddog \u2013 fel arfer y cadeirydd \u2013 gael dylanwad tebyg. Yn ogystal \u00e2\u2019r modd hwn o<br>gyfathrebu, dylid cael rhaglen o gyfarfodydd rheolaidd gyda\u2019r bwrdd cyfan, er mwyn sicrhau bod eu penderfyniadau a\u2019u ceisiadau\u2019n cael eu cyfleu\u2019n gywir i\u2019r prif swyddog.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n bwysig bod aelodau bwrdd yn gwahaniaethu rhwng eu r\u00f4l llywodraethu gwirfoddol fel aelodau bwrdd ac unrhyw waith gwirfoddol arall y gallent fod yn ei wneud ar ran y mudiad, fel codi arian a hyd yn oed darparu gwasanaeth y mudiad. Bydd yr un olaf yn cael ei reoli gan y prif swyddog neu aelod arall o\u2019r staff, ac yn y capasiti hwn, bydd yr aelod bwrdd yn derbyn cyfarwyddyd yn hytrach na\u2019i roi.<\/p>\n\n\n\n<p>Er mwyn osgoi tensiwn a gwrthdaro, dylai\u2019r bwrdd a\u2019r prif swyddog barchu rolau ei gilydd a chadw ffiniau eglur. Er enghraifft, ni ddylai ymddiriedolwyr ymweld \u00e2 safleoedd yn annisgwyl a chwestiynu staff heb yn wybod i\u2019r<br>prif swyddog, ac ni ddylent chwaith gysylltu \u00e2 staff yn unigol i ofyn am wybodaeth y tu hwnt i\u2019r hyn sydd ei hangen mewn cyfarfodydd bwrdd. Waeth pa mor dda yw\u2019r bwriad, mae\u2019r ymddygiadau hyn yn dueddol o achosi straen i\u2019r staff ac edrych fel tanseilio i\u2019r Prif Swyddog.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"goruchwylio-a-chefnogi-r-prif-swyddog\">Goruchwylio a chefnogi\u2019r prif swyddog<\/h2>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"alignright size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/11\/Shares-or-bonds-1024x683.jpg\" alt=\"Pobl yn adolygu siartiau, adroddiadau a data perfformiad yn ystod cyfarfod busnes\" class=\"wp-image-21656\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/11\/Shares-or-bonds-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/11\/Shares-or-bonds-720x480.jpg 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/11\/Shares-or-bonds-768x512.jpg 768w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/11\/Shares-or-bonds-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/11\/Shares-or-bonds-360x240.jpg 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/11\/Shares-or-bonds-1800x1200.jpg 1800w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/11\/Shares-or-bonds-624x416.jpg 624w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/11\/Shares-or-bonds.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<p>Yn \u00f4l y <strong>Cod Llywodraethu i Elusennau<\/strong>, dylai\u2019r bwrdd wneud yn si\u0175r fod trefniadau priodol ar waith ar gyfer penodi, goruchwylio, cefnogi, arfarnu, talu ac, os bydd angen, diswyddo\u2019r Prif Swyddog.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn amlach na heb, y cadeirydd sy\u2019n goruchwylio\u2019r Prif Swyddog, ond gall aelod bwrdd arall wneud hyn yn lle neu yn ogystal \u00e2\u2019r cadeirydd, os oes ganddyn nhw sgiliau arbenigol yn y maes hwn. Os defnyddir gr\u0175p, rhaid cael cyn lleied \u00e2 phosibl o bobl (o bosibl, is-bwyllgor staffio arbenigol), ond gall hyn achosi problemau oherwydd gall rwystro\u2019r prif swyddog rhag gallu bod yn agored am unrhyw bryderon ynghylch y ffordd y mae\u2019r bwrdd neu aelodau unigol yn gweithredu.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn gyffredinol, ni chynghorir defnyddio\u2019r bwrdd cyfan, ymgynghorydd allanol na chymheiriaid o fudiad arall i gyflawni\u2019r swyddogaeth hon os yn bosibl.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae pedair elfen allweddol i\u2019r gwaith goruchwylio:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Gosod y safonau perfformio<\/strong> \u2013 gan gynnwys gosod amcanion a dyddiadau cau<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Monitro a gwerthuso\u2019r perfformiad<\/strong> \u2013 gan gynnwys asesu\u2019r cynnydd yn erbyn targedau ac adolygu gwaith<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Adborth<\/strong>\u2013 gan gynnwys gwrando ar bryderon a datrys problemau<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Datblygu<\/strong> \u2013 gan gynnwys mynd i\u2019r afael ag anghenion hyfforddi a datblygu gyrfa. Mae\u2019r ddau gyntaf yn ymwneud \u00e2 mesur perfformiad, a\u2019r ddau olaf wedi\u2019u strwythuro i ddarparu cymorth ar gyfer y prif swyddog. Gallant wrthdaro \u00e2\u2019i gilydd, ond gellir lleihau hyn drwy wahanu\u2019r ddwy swyddogaeth o fewn y sesiwn oruchwylio.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n bwysig cofio fod bod yn Brif Swyddog mudiad gwirfoddol yn dod \u00e2 boddhad mawr, ond gall achosi straen ar adegau, felly dylai\u2019r bwrdd wneud yn si\u0175r bod systemau ar waith i gefnogi\u2019r Prif Swyddog, gan gynnwys ei iechyd meddwl a\u2019i lesiant pan fo\u2019n briodol.<\/p>\n\n\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Arwyddion rhybudd a phroblemau gyda pherfformiad y prif swyddog<\/h3>\n\n\n\n<p>Er ei bod yn bwysig fod byrddau\u2019n gwneud eu gorau i gefnogi eu haelod staff uwch, yn anffodus, nid yw rhai penodiadau\u2019n llwyddiannus a gall fod problemau o ran perfformiad. Mewn achosion o\u2019r fath, dylai\u2019r bwrdd gymryd camau brys i geisio mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r problemau a nodi a oes angen cymryd camau pellach.<\/p>\n\n\n\n<p>Dyma rai arwyddion a allai eich rhybuddio bod problemau gyda\u2019r penodiad:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Nid yw\u2019r bwrdd yn derbyn yr wybodaeth y maen nhw wedi gofyn amdani yn gyson, neu\u2019n canfod nad yw\u2019r wybodaeth a ddarparwyd yn gywir<\/li>\n\n\n\n<li>Nid yw\u2019r amcanion cytunedig yn cael eu bodloni\u2019n gyson heb reswm eglur<\/li>\n\n\n\n<li>Cwynion ac achwynion di-ri gan staff neu wirfoddolwyr ynghylch y prif swyddog, neu drosiant staff uchel na ellir ei esbonio<\/li>\n\n\n\n<li>Pryderon yn cael eu lleisio gan gyllidwyr neu bartneriaid ynghylch perfformiad neu ymddygiad y prif swyddog<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Dylai\u2019r materion hyn gael sylw drwy systemau goruchwylio ac arfarnu\u2019r mudiad i ddechrau, ond os bydd y bwrdd yn penderfynu bod angen cymryd camau disgyblu, neu ddiswyddo, argymhellir cael cyngor cyfreithiol gan rywun proffesiynol a chymwys.<\/p>\n\n\n\n<p>Pan fydd pryderon heb eu datrys yn parhau, gall y bwrdd geisio cyfryngu allanol, defnyddio ymgynghorwyr AD, neu ddilyn gweithdrefnau cwyno a gallu mewnol cyn symud at ddiswyddo ffurfiol.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Aelodau uwch eraill o\u2019r staff<\/h3>\n\n\n\n<p>Mewn elusen fwy o faint, mae\u2019n debygol y bydd t\u00eem uwch-reolwyr (SMT) yn ei le sy\u2019n gyfrifol am agweddau allweddol ar y mudiad ac yn gweithio gyda\u2019r Prif Swyddog. Un o\u2019r aelodau pwysicaf o\u2019r staff fydd y Cyfarwyddwr Cyllid a fydd yn gyfrifol am gyflwyno gwybodaeth i\u2019r bwrdd am sefyllfa ariannol y mudiad, a bydd angen iddo weithio\u2019n agos gyda\u2019r trysorydd a\u2019r archwilwyr allanol.<\/p>\n\n\n\n<p>Aelodau eraill o\u2019r staff sydd mewn cysylltiad rheolaidd \u00e2\u2019r bwrdd yw\u2019r Cyfarwyddwyr a\u2019r Cyfarwyddwyr Cynorthwyol o fewn y mudiad. Gallant wneud cyflwyniadau i\u2019r bwrdd ar eu meysydd gwaith a bod yn rhan o weithgorau ac is-bwyllgorau amrywiol. Os oes gan y mudiad d\u00eem uwch-reolwyr, mae\u2019n bwysig meithrin cydberthynas waith dda rhwng y bwrdd a\u2019r holl d\u00eem uwch, ond heb danseilio\u2019r Prif Swyddog. Gallai ffyrdd o gyflawni hyn gynnwys trefnu diwrnodau cwrdd i ffwrdd ar gyfer y bwrdd a\u2019r staff<br>a phroses sefydlu gadarn ar gyfer aelodau bwrdd newydd, sy\u2019n cynnwys cyfarfodydd strwythuredig gyda staff uwch.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"gwybodaeth-bellach\">Gwybodaeth bellach<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cod Llywodraethu i Elusennau &#8211; Egwyddor 2 \u2018Arwain\u2019 Cod Llywodraethu i Elusennau<\/h3>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.charitygovernancecode.org\/en\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/www.charitygovernancecode.org\/en<\/a><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Faith and hope don\u2019t run charities (trustees do)<\/h3>\n\n\n\n<p><strong>Wales Council of Voluntary Action<\/strong><br><a href=\"https:\/\/wcva.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/wcva__maen_syniad_ond_a_ywn_fusnes.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/wcva.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/wcva__maen_syniad_ond_a_ywn_fusnes.pdf<\/a><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr<\/h3>\n\n\n\n<p><strong>Comisiwn Elusennau<\/strong><br><a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/organisations\/charity-commission\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/www.gov.uk\/government\/organisations\/charity-commission<\/a><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">ICSA: Y Sefydliad Llywodraethu<\/h3>\n\n\n\n<p><strong>ICSA<\/strong><br><a href=\"http:\/\/www.icsa.org.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">www.icsa.org.uk<\/a><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Recriwtio Prif Weithredwr, Cadeirydd ac Ymddiriedolwyr<\/h3>\n\n\n\n<p><strong>ACEVO<\/strong><br><a href=\"https:\/\/acevocommunity.force.com\/s\/store%23\/store\/browse\/detail\/a303z000000FknvAAC\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/acevocommunity.force.com\/s\/store#\/store\/browse\/detail\/<\/a>&nbsp; <a href=\"https:\/\/acevocommunity.force.com\/s\/store%23\/store\/browse\/detail\/a303z000000FknvAAC\">a303z000000FknvAAC<\/a><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cymdeithas y Cadeiryddion<\/h3>\n\n\n\n<p><strong>Cymdeithas y Cadeiryddion<\/strong><br><a href=\"https:\/\/www.associationofchairs.org.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/www.associationofchairs.org.uk\/<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"ymwadiad\">Ymwadiad<\/h2>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"alignright size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1800\" height=\"1200\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw.jpg\" alt=\"Pobl mewn cae yn edrych tua'r machlud haul\" class=\"wp-image-24064\" style=\"object-fit:cover\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw.jpg 1800w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw-720x480.jpg 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw-768x512.jpg 768w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw-360x240.jpg 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw-624x416.jpg 624w\" sizes=\"auto, (max-width: 1800px) 100vw, 1800px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<p>Rhwydwaith o fudiadau cymorth i\u2019r trydydd sector cyfan yng Nghymru yw Cefnogi Trydydd Sector Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Ceir ynddo\u2019r 19 corff cymorth lleol a rhanbarthol ledled Cymru, y Cynghorau Gwirfoddol Sirol, a\u2019r corff cymorth cenedlaethol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC).<br>Am ragor o wybodaeth cysylltwch \u00e2<br><a href=\"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/cysylltu\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/cysylltu\/<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r wybodaeth a ddarperir yn y daflen hon ar gyfer cyfarwyddyd yn unig. Nid yw\u2019n amnewid am gyngor proffesiynol ac ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled o ganlyniad i unrhyw un sy\u2019n gweithredu neu\u2019n gwrthod gweithredu arno.<\/p>\n\n\t<\/div>\n\n\n\n<div class=\"col-12 col-md-3\">\n\t\t\t\n\n\t<\/div>\n\n<\/div>\n\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gall strwythur rheoli mudiadau gwirfoddol amrywio\u2019n fawr, ac yn aml, caiff ffurfioldeb y strwythur hwn ei bennu yn \u00f4l maint ac adnoddau.<\/p>\n","protected":false},"author":5934,"featured_media":3251,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"ep_exclude_from_search":false,"footnotes":""},"categories":[759],"tags":[723,770],"class_list":["post-3253","resource","type-resource","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llywodraethu-da","tag-good-governance","tag-hr","pillar-llywodraethu-da"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Gweithio gyda\u2019r prif swyddog | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Mae\u2019r daflen wybodaeth hon yn darparu canllawiau ar gyfer ymddiriedolwyr ac aelodau bwrdd ar greu perthynas waith adeiladol \u00e2\u2019u Prif Swyddog, a chydag aelodau uwch eraill o\u2019r staff, er mwyn sicrhau y gall y mudiad ffynnu.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gweithio-gydar-prif-swyddog\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Gweithio gyda\u2019r prif swyddog | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae\u2019r daflen wybodaeth hon yn darparu canllawiau ar gyfer ymddiriedolwyr ac aelodau bwrdd ar greu perthynas waith adeiladol \u00e2\u2019u Prif Swyddog, a chydag aelodau uwch eraill o\u2019r staff, er mwyn sicrhau y gall y mudiad ffynnu.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gweithio-gydar-prif-swyddog\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-06-12T13:29:37+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/10\/pexels-fauxels-3183197-scaled.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1708\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"13 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gweithio-gydar-prif-swyddog\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gweithio-gydar-prif-swyddog\/\",\"name\":\"Gweithio gyda\u2019r prif swyddog | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gweithio-gydar-prif-swyddog\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gweithio-gydar-prif-swyddog\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/10\/pexels-fauxels-3183197-scaled.jpg\",\"datePublished\":\"2020-10-09T10:09:03+00:00\",\"dateModified\":\"2026-06-12T13:29:37+00:00\",\"description\":\"Mae\u2019r daflen wybodaeth hon yn darparu canllawiau ar gyfer ymddiriedolwyr ac aelodau bwrdd ar greu perthynas waith adeiladol \u00e2\u2019u Prif Swyddog, a chydag aelodau uwch eraill o\u2019r staff, er mwyn sicrhau y gall y mudiad ffynnu.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gweithio-gydar-prif-swyddog\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gweithio-gydar-prif-swyddog\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gweithio-gydar-prif-swyddog\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/10\/pexels-fauxels-3183197-scaled.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/10\/pexels-fauxels-3183197-scaled.jpg\",\"width\":2560,\"height\":1708,\"caption\":\"Ystafell cyfarfod\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gweithio-gydar-prif-swyddog\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Gweithio gyda\u2019r prif swyddog\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"description\":\"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"width\":512,\"height\":512,\"caption\":\"Hwb Gwybodaeth\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Gweithio gyda\u2019r prif swyddog | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","description":"Mae\u2019r daflen wybodaeth hon yn darparu canllawiau ar gyfer ymddiriedolwyr ac aelodau bwrdd ar greu perthynas waith adeiladol \u00e2\u2019u Prif Swyddog, a chydag aelodau uwch eraill o\u2019r staff, er mwyn sicrhau y gall y mudiad ffynnu.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gweithio-gydar-prif-swyddog\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Gweithio gyda\u2019r prif swyddog | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","og_description":"Mae\u2019r daflen wybodaeth hon yn darparu canllawiau ar gyfer ymddiriedolwyr ac aelodau bwrdd ar greu perthynas waith adeiladol \u00e2\u2019u Prif Swyddog, a chydag aelodau uwch eraill o\u2019r staff, er mwyn sicrhau y gall y mudiad ffynnu.","og_url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gweithio-gydar-prif-swyddog\/","og_site_name":"Hwb Gwybodaeth","article_modified_time":"2026-06-12T13:29:37+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1708,"url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/10\/pexels-fauxels-3183197-scaled.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"13 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gweithio-gydar-prif-swyddog\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gweithio-gydar-prif-swyddog\/","name":"Gweithio gyda\u2019r prif swyddog | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","isPartOf":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gweithio-gydar-prif-swyddog\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gweithio-gydar-prif-swyddog\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/10\/pexels-fauxels-3183197-scaled.jpg","datePublished":"2020-10-09T10:09:03+00:00","dateModified":"2026-06-12T13:29:37+00:00","description":"Mae\u2019r daflen wybodaeth hon yn darparu canllawiau ar gyfer ymddiriedolwyr ac aelodau bwrdd ar greu perthynas waith adeiladol \u00e2\u2019u Prif Swyddog, a chydag aelodau uwch eraill o\u2019r staff, er mwyn sicrhau y gall y mudiad ffynnu.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gweithio-gydar-prif-swyddog\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gweithio-gydar-prif-swyddog\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gweithio-gydar-prif-swyddog\/#primaryimage","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/10\/pexels-fauxels-3183197-scaled.jpg","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/10\/pexels-fauxels-3183197-scaled.jpg","width":2560,"height":1708,"caption":"Ystafell cyfarfod"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gweithio-gydar-prif-swyddog\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Gweithio gyda\u2019r prif swyddog"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","name":"Hwb Gwybodaeth","description":"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.","publisher":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization","name":"Hwb Gwybodaeth","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","width":512,"height":512,"caption":"Hwb Gwybodaeth"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/3253","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5934"}],"version-history":[{"count":22,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/3253\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":25825,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/3253\/revisions\/25825"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3251"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3253"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3253"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3253"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}