{"id":3092,"date":"2020-08-11T16:23:31","date_gmt":"2020-08-11T15:23:31","guid":{"rendered":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/?post_type=resource&#038;p=3092"},"modified":"2026-06-12T08:12:05","modified_gmt":"2026-06-12T07:12:05","slug":"dirwyn-i-ben","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/dirwyn-i-ben\/","title":{"rendered":"Dirwyn i ben &#8211; y camau ac opsiynau eraill"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-bootstrap-blocks-container container mb-2\">\n\t\n<div class=\"wp-bootstrap-blocks-row row\">\n\t\n\n<div class=\"col-12 col-md-9\">\n\t\t\t\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Trosolwg<\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"#beth-y-mae-dirwyn-i-ben-yn-ei-olygu\">Beth y mae \u2018dirwyn i ben\u2019 yn ei olygu?<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#a-all-elusen-gael-ei-dirwyn-i-ben\">A all elusen gael ei dirwyn i ben?<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#pam-fyddai-angen-i-elusen-ystyried-dirwyn-i-ben\">Pam fyddai angen i elusen ystyried dirwyn i ben?<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#pa-ddewisiadau-eraill-sydd-yn-hytrach-na-dirwyn-i-ben\">Pa ddewisiadau eraill sydd yn hytrach na dirwyn i ben?<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#tynnur-elusen-oddi-ar-y-gofrestr-elusennau\">Tynnu\u2019r elusen oddi ar y gofrestr elusennau<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#cadw-cofnodion-ar-ol-dirwyn-i-ben\">Cadw cofnodion ar \u00f4l dirwyn i ben<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#gwybodaeth-bellach\">Gwybodaeth bellach<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#ymwadiad\">Ymwadiad<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"alignright size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"680\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/casual-buainessman-signing-contract-7UC8FX4-1024x680.jpg\" alt=\"Unigolyn yn llofnodi gwaith papur\" class=\"wp-image-3089\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/casual-buainessman-signing-contract-7UC8FX4-1024x680.jpg 1024w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/casual-buainessman-signing-contract-7UC8FX4-720x478.jpg 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/casual-buainessman-signing-contract-7UC8FX4-768x510.jpg 768w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/casual-buainessman-signing-contract-7UC8FX4-1536x1020.jpg 1536w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/casual-buainessman-signing-contract-7UC8FX4-2048x1360.jpg 2048w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/casual-buainessman-signing-contract-7UC8FX4-360x239.jpg 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/casual-buainessman-signing-contract-7UC8FX4-1800x1195.jpg 1800w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/casual-buainessman-signing-contract-7UC8FX4-624x414.jpg 624w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"beth-y-mae-dirwyn-i-ben-yn-ei-olygu\">Beth y mae \u2018dirwyn i ben\u2019 yn ei olygu?<\/h2>\n\n\n\n<p>Yr oll yw \u2018dirwyn i ben\u2019 yw term arall am \u2018ddiddymu\u2019 sef y broses<br>o ddirwyn mudiad i ben, a chaiff asedau ac eiddo\u2019r mudiad eu hailddosbarthu.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"a-all-elusen-gael-ei-dirwyn-i-ben\">A all elusen gael ei dirwyn i ben?<\/h2>\n\n\n\n<p>Mewn sefyllfaoedd penodol gall elusen naill ai gael ei dirwyn i ben neu gall ei hasedau gael eu trosglwyddo i elusen arall. Mae hwn yn faes cymhleth o\u2019r gyfraith, a rhaid i ymddiriedolwyr sicrhau eu bod yn gweithredu\u2019n gyfreithlon. Dylid cyfeirio at ddogfen lywodraethu\u2019r elusen i weld a sefydlwyd \u2018cymal diddymu\u2019, yn amlinellu\u2019r camau sy\u2019n ofynnol i gau\u2019r elusen i lawr.<\/p>\n\n\n\n<p>Fodd bynnag, os na cheir cymal diddymu yn y ddogfen lywodraethu bydd angen i\u2019r <strong>Comisiwn Elusennau<\/strong> weithredu un ar gyfer yr elusen. Os yw hyn yn angenrheidiol dylai\u2019r bwrdd ymddiriedolwyr\/pwyllgor rheoli (\u2018y bwrdd\u2019) gysylltu \u00e2\u2019r <strong>Comisiwn Elusennau<\/strong> am gyngor cyn gwneud unrhyw argymhellion i aelodau\u2019r mudiad neu gymryd unrhyw gamau pellach.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"pam-fyddai-angen-i-elusen-ystyried-dirwyn-i-ben\">Pam fyddai angen i elusen ystyried dirwyn i ben?<\/h2>\n\n\n\n<p>Gallai elusen sy\u2019n parhau i weithredu heb ddyfodol hyfyw fod yn gwastraffu arian a allai gael ei ddefnyddio\u2019n well drwy ddirwyn yr elusen i ben a throsglwyddo ei hasedau i elusen arall.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall dirwyn elusen i ben fod yn gam cadarnhaol naill ai i gydnabod bod cenhadaeth yr elusen bellach wedi\u2019i chwblhau neu wedi darfod \u00e2 bod, neu na ellir defnyddio arian elusennol yn effeithiol yn y mudiad hwnnw mwyach. Neu, mae\u2019n bosib y bydd ar ymddiriedolwyr angen ystyried dirwyn yr elusen i ben os yw\u2019n debygol o fynd yn ansolfent.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n anghyfreithlon i gwmni fasnachu pan mae\u2019n ansolfent, felly rhaid i ymddiriedolwyr cwmn\u00efau elusennol fod yn ymwybodol o ba bryd y mae\u2019r cwmni maent yn rhan ohono wedi cyrraedd y pwynt hwn er mwyn osgoi<br>gweithredu\u2019n anghyfreithlon. Yn ymarferol ceir dau brawf ar wah\u00e2n ar gyfer methdaliad, a gall methu\u2019r naill brawf neu\u2019r llall ddynodi methdaliad:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\">\n<li>mae\u2019r elusen yn methu \u00e2 thalu ei dyledion pan maent yn ddyledus; <\/li>\n\n\n\n<li>mae gwerth ei rhwymedigaethau (hynny yw, ei gwariant neu ei dyledion) yn fwy na gwerth ei hasedau.<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Eich atebolrwydd chi fel ymddiriedolwr\/aelod<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae ymlyniad emosiynol ag elusen neu achos yn aml yn rhwystro ymddiriedolwyr rhag dirwyn eu helusen i ben, hyd yn oed pan ddaw\u2019n amlwg nad oes iddi ddyfodol hyfyw mwyach.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn dechnegol, ni all elusen anghorfforedig fod yn ansolfent er hynny oherwydd nad oes iddi hunaniaeth gyfreithlon ar wah\u00e2n i\u2019w haelodau a\u2019i hymddiriedolwyr. Mae hyn yn golygu bod atebolrwydd yr elusen yn atebolrwydd i\u2019w hymddiriedolwyr a\u2019i haelodau, pa un a ydynt wedi gweithredu\u2019n briodol ai peidio. Yn yr un modd, dylai ymddiriedolwyr cwmni elusennol leihau ei wariant pan ddaw\u2019n amlwg na ellir osgoi methdaliad, fel arall gallant gael eu gorfodi i gyfrannu at dalu dyledion yr elusen.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"pa-ddewisiadau-eraill-sydd-yn-hytrach-na-dirwyn-i-ben\">Pa ddewisiadau eraill sydd yn hytrach na dirwyn i ben?<\/h2>\n\n\n\n<p>Cyn i fwrdd elusen benderfynu\u2019n derfynol i ddirwyn yr elusen i ben, dylid ystyried yr opsiynau amgen hyn:<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"alignright size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"682\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/01\/Financial-wellbeing-1024x682.jpg\" alt=\"Person yn adolygu derbynebau ac yn gwneud nodiadau wrth ddefnyddio ff\u00f4n clyfar a gliniadur, gyda chyfrifiannell ar y ddesg, gan awgrymu cyllidebu neu reoli treuliau\" class=\"wp-image-19297\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/01\/Financial-wellbeing-1024x682.jpg 1024w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/01\/Financial-wellbeing-720x480.jpg 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/01\/Financial-wellbeing-768x512.jpg 768w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/01\/Financial-wellbeing-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/01\/Financial-wellbeing-360x240.jpg 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/01\/Financial-wellbeing-1800x1200.jpg 1800w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/01\/Financial-wellbeing-624x416.jpg 624w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/01\/Financial-wellbeing.jpg 2000w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cwtogi neu dorri ar unrhyw wariant a fwriadwyd er mwyn lleihau lefel y gwariant yn is na lefel yr incwm\/asedau.<\/li>\n\n\n\n<li>Datblygu ffynonellau nawdd amgen neu lansio ap\u00eal frys. Rhaid cymryd gofal digonol i sicrhau nad oes cyfyngiadau ar y cyfryw arian yn ei rwystro rhag cael ei ddefnyddio i dalu i\u2019r credydwyr presennol. Rhaid i\u2019r ymddiriedolwyr sicrhau yr hysbysir y rhoddwyr y gallai\u2019r arian newydd a godir gael ei ddefnyddio i dalu dyledion yr elusen.<\/li>\n\n\n\n<li>Cynnal adolygiad o ymrwymiadau\u2019r elusen i weld a ydynt yn gyfreithiol orfodol ynteu\u2019n ddewisol. Hyd yn oed os oes cytundebau contractyddol yn bodoli mae\u2019n bosib bod lle i drafod.<\/li>\n\n\n\n<li>Rhoi\u2019r gorau i rai o weithgareddau\u2019r elusen neu drosglwyddo rhai gweithgareddau i elusennau neu gwmn\u00efau eraill. Mae\u2019n bosib bod modd rhyddhau gwerth asedau sefydlog a buddsoddiadau (h.y. eu troi\u2019n arian) i dalu credydwyr.<\/li>\n\n\n\n<li>Benthyca arian gan gefnogwyr yr elusen, o bosib yn ddi-log. Neu gellid benthyca arian o fanc ar delerau masnachol, neu gallai\u2019r elusen ymrwymo i drefniadau gwerthu neu adlesu ar gyfer rhai o\u2019i hasedau.<\/li>\n\n\n\n<li>Edrych ar y posibilrwydd o ehangu amcanion yr elusen, os yw\u2019n briodol gwneud hynny. Er enghraifft, gall elusen fod wedi cael ei sefydlu gyda tharged penodol ond gallai ganfod yn ystod ei gwaith bod anghenion ychwanegol wedi dod i\u2019r golwg. Os yw hyn yn digwydd mae sawl ffordd o ymateb i\u2019r sefyllfa. Dylai dogfen lywodraethu elusen gynnwys p\u0175er diwygio, ond os nad yw\u2019n cynnwys y p\u0175er hwn gall ymddiriedolwyr elusen anghorfforedig geisio caniat\u00e2d y Comisiwn Elusennau i ehangu ei hamcanion. Dylai elusen sydd \u00e2 ph\u0175er diwygio sicrhau bod yr amcanion newydd yn cyd-fynd ag amcanion eu hymddiriedolaeth. Mae\u2019r buddiolwyr yn allweddol; dylai amcanion newydd fod o fantais i\u2019r buddiolwyr presennol ac ni ddylent wrthdaro ag amcanion eraill.<\/li>\n\n\n\n<li>Uno ag elusen arall\/elusennau eraill sydd ag amcanion tebyg, neu negodi gyda nhw i helpu i dalu ymrwymiadau sydd heb eu talu. Rhaid cymryd gofal i sicrhau bod unrhyw gynlluniau o\u2019r fath yn arwain at i\u2019r credydwyr gael eu talu\u2019n foddhaol. Gallai trosglwyddo asedau allan o elusen, fel arall, gynyddu risg atebolrwydd personol i\u2019r ymddiriedolwyr.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Beth y mae arnoch angen ei ystyried os ydych chi\u2019n bwriadu<br>uno?<\/h3>\n\n\n\n<p>Os yw elusen yn ystyried posibilrwydd uno, y prif feysydd i\u2019w hystyried yw:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Mathau o uno<\/strong> &#8211; y canlyniad a geisir fydd yn pennu\u2019r broses. Gellir ffurfio elusen newydd i gymryd asedau dwy elusen sy\u2019n bodoli eisoes, gellir diddymu un a throsglwyddo ei hasedau i un arall, neu gall un elusen fod yn is elusen i un arall.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Amcanion elusennol<\/strong> \u2013 rhaid i elusen weithredu o fewn telerau ei hamcanion bob amser. Mae\u2019n bwysig i elusennau sy\u2019n uno fod ag amcanion cydnaws, felly os ydynt yn wahanol bydd angen diwygio\u2019r amcanion.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>R\u00f4l y Comisiwn Elusennau<\/strong> \u2013 os oes problemau gyda gallu elusen i ddiwygio ei hamcanion, gall y <strong>Comisiwn Elusennau<\/strong> weithredu cynllun cy pres. Gall y <strong>Comisiwn Elusennau<\/strong> fod yn gysylltiedig \u00e2 gwneud cynllun os delir gwaddol parhaol ac os yw\u2019r elusen sy\u2019n derbyn yn gwmni.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Materion i\u2019w hystyried<\/strong> \u2013 mae angen rhoi sylw i faterion strwythurol ac ymarferol, megis cyfansoddiad bwrdd yr ymddiriedolwyr, aelodaeth, trefniant mewnol ac wrth gwrs enw.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Rhwymedigaethau posib i\u2019r dyfodol<\/strong> \u2013 gall elusen sy\u2019n derbyn asedau a gweithgareddau elusen arall gymryd y cyfrifoldeb dros y rhwymedigaethau. Ymysg y meysydd sy\u2019n peri pryder yn benodol y mae TAW, trosglwyddo gweithwyr, a chynllun pensiwn buddion diffiniedig gyda rhwymedigaethau parhaus.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Y gofrestr o elusennau sydd wedi uno<\/strong> \u2013 cyflwynwyd gan <strong>Ddeddf Elusennau 2006<\/strong>, mae hon yn trosglwyddo rhoddion neu gymynroddion a wnaed i\u2019r elusen gyfunol i\u2019r elusen olynol.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Os penderfynwch mai dirwyn yr elusen i ben yw\u2019r opsiwn gorau, sut y gellir dechrau\u2019r drefn ddiddymu?<\/h2>\n\n\n\n<p>I ddechrau mae\u2019n rhaid canfod sut y gall yr elusen dan sylw gael ei dirwyn i ben. Bydd hyn yn dibynnu ar ba fath o strwythur cyfreithiol sydd gan yr elusen, yr hyn a ddywed yn y ddogfen lywodraethu ac a oes gan yr elusen \u2018waddol parhaol\u2019 (eiddo na ellir ei wario fel incwm).<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n debygol y bydd yr elusen yn syrthio i un o\u2019r categor\u00efau canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Mae\u2019r elusen hefyd yn gwmni:<\/strong> Mae gan gwmni elusennol hawl awtomatig i wario\u2019i holl asedau ar ei ddibenion, felly unwaith y gwneir hyn gellir diddymu\u2019r elusen a\u2019i thynnu oddi ar gofrestr T\u0177\u2019r Cwmn\u00efau.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Elusen anghorfforedig ydyw a cheir cymal diddymu yn y ddogfen lywodraethu (fel y crybwyllir uchod)<\/strong>: Os ceir cymal yn y ddogfen lywodraethu a fydd yn dweud sut y dylid dirwyn yr elusen i ben a\u2019r hyn a ddylai ddigwydd i\u2019r asedau sy\u2019n weddill, rhaid i\u2019r ymddiriedolwyr ei ddilyn.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Elusen anghorfforedig ydyw ac ni cheir cymal diddymu yn y ddogfen lywodraethu ac nid oes gwaddol parhaol:<\/strong> Os na cheir cymal diddymu penodol ond mae modd gwario holl asedau\u2019r elusen, caiff yr ymddiriedolwyr wario\u2019r holl asedau sy\u2019n weddill ar amcanion yr elusen. Neu, mae\u2019n bosib y gallai\u2019r ymddiriedolwyr drosglwyddo\u2019r asedau i elusen arall sydd ag amcanion tebyg.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Elusen anghorfforedig ydyw, ni cheir cymal diddymu yn y ddogfen lywodraethu a cheir gwaddol parhaol:<\/strong> Os oes gan elusen waddol parhaol ni ellir ei dirwyn i ben nes delio \u00e2\u2019r gwaddol parhaol. Gallai\u2019r ymddiriedolwyr geisio cymeradwyaeth gan y Comisiwn Elusennau i wario\u2019r gwaddol parhaol, neu gallent ei drosglwyddo i elusen arall sydd ag amcanion tebyg. Neu, os oedd yr ymddiriedolwyr eisiau dirwyn i ben oherwydd na allent gyflawni amcanion cyfredol yr elusen, gallent ystyried newid yr amcanion.<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Beth sy\u2019n digwydd ar \u00f4l i\u2019r elusen gael ei dirwyn i ben?<\/h3>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l penderfynu sut y dylai\u2019r elusen gael ei dirwyn i ben, gall y broses dirwyn i ben fwrw ymlaen. Yna, ar \u00f4l i\u2019r mudiad gael ei ddirwyn i ben yn ffurfiol, mae angen gwneud y canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>dylid cau\u2019r cyfrif banc<\/li>\n\n\n\n<li>dylai\u2019r holl gofnodion papur nad oes angen eu cadw gael eu rhwygo (nid dim ond eu taflu ymaith)<\/li>\n\n\n\n<li>dylid glanhau neu ailfformatio holl yriannau caled y cyfrifiaduron fel nad yw\u2019r dogfennau sy\u2019n gysylltiedig \u00e2\u2019r sefydliad ar gael mwyach<\/li>\n\n\n\n<li>dylid dinistrio\u2019r holl bapurau pennawd, dalenni cyfarchion ayb<\/li>\n\n\n\n<li>dylid cau\u2019r wefan i lawr<\/li>\n\n\n\n<li>dylid cau pob cyfrif e-bost<\/li>\n\n\n\n<li>rhaid i\u2019r ymddiriedolwyr hysbysu\u2019r <strong>Comisiwn Elusennau<\/strong> (gweler isod)<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"tynnur-elusen-oddi-ar-y-gofrestr-elusennau\">Tynnu\u2019r elusen oddi ar y gofrestr elusennau<\/h2>\n\n\n\n<p>Un o ofynion <strong>Y Ddeddf Elusennau<\/strong> yw bod ymddiriedolwyr elusen gofrestredig yn hysbysu\u2019r <strong>Comisiwn Elusennau<\/strong> nad yw\u2019r elusen yn bodoli mwyach, ac yna rhaid i\u2019r <strong>Comisiwn Elusennau<\/strong> dynnu enw\u2019r elusen honno oddi ar y <strong>Gofrestr Elusennau<\/strong> (\u2018y Gofrestr\u2019).<\/p>\n\n\n\n<p>Er mwyn cyflawni\u2019r gofynion cyfreithiol hyn dylai\u2019r ymddiriedolwyr, ar \u00f4l defnyddio holl eiddo\u2019r elusen, anfon at y <strong>Comisiwn Elusennau<\/strong>:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>gopi o\u2019r penderfyniad i ddirwyn yr elusen i ben<\/li>\n\n\n\n<li>y cyfrifon olaf sydd, i elusennau ag incwm neu wariant dros \u00a310,000 yn y cyfnod y mae\u2019r cyfrifon yn berthnasol iddo, yn gorfod mynd drwy\u2019r broses graffu allanol statudol briodol (bydd angen hysbysu\u2019r Comisiwn Elusennau os nad oes arian digonol i dalu costau craffu allanol os caiff elusen ei dirwyn i ben oherwydd ansolfedd)<\/li>\n\n\n\n<li>datganiad o ddosbarthiad terfynol yr asedau os na ddangosir hyn yn y cyfrifon (dylai hwn gael ei lofnodi gan yr ymddiriedolwyr a, gorau oll, gan yr archwiliwr neu\u2019r archwilydd allanol). Pan fydd y Comisiwn Elusennau yn fodlon gyda\u2019r wybodaeth a anfonwyd atynt caiff enw\u2019r elusen ei dynnu oddi ar y Gofrestr. Gall peidio \u00e2 hysbysu\u2019r Comisiwn Elusennau bod elusen wedi cael ei dirwyn i ben neu ei diddymu arwain at ymholiadau\u2019n cael eu gwneud am yr hyn a ddigwyddodd i\u2019r elusen a\u2019i hasedau.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"cadw-cofnodion-ar-ol-dirwyn-i-ben\">Cadw cofnodion ar \u00f4l dirwyn i ben<\/h2>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l i elusen gael ei dirwyn i ben neu ei diddymu, rhaid i\u2019r ymddiriedolwyr<br>drefnu i\u2019w chofnodion a\u2019i llyfrau cyfrifon gael eu cadw:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>am o leiaf dair blynedd ar \u00f4l y flwyddyn y\u2019u gwnaed os yw\u2019n gwmni elusennol<\/li>\n\n\n\n<li>am o leiaf chwe blynedd ar \u00f4l y flwyddyn y\u2019u gwnaed os yw\u2019n elusen anghorfforedig.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r cofnodion cyfrifo y mae\u2019n rhaid eu cadw yn cynnwys llyfrau arian, anfonebau, derbynebau ac unrhyw gofnod tebyg o weithgareddau ariannol yr elusen.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"gwybodaeth-bellach\">Gwybodaeth bellach<\/h2>\n\n\n\n<p>Am ragor o gyngor am y camau ymarferol sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 dirwyn elusen i ben ewch i\u2019r canllawiau canlynol gan y Comisiwn Elusennau:<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Rheoli trafferthion ariannol a methdaliad mewn elusennau<br>(CC12)<\/h3>\n\n\n\n<p><strong>Y Comisiwn Elusennau<\/strong><br><a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/publications\/managing-financial-difficulties-insolvency-in-charities-cc12\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/www.gov.uk\/government\/publications\/managing-financial-difficulties-insolvency-in-charities-cc12<\/a><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cau elusen<\/h3>\n\n\n\n<p><strong>Y comisiwn elusennau<\/strong><br><a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/guidance\/how-to-close-a-charity\">https:\/\/www.gov.uk\/guidance\/how-to-close-a-charity<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Gwneud cais i gael eich ychwanegu at y gofrestr uno<br>Y comisiwn elusennau<\/strong><br><a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/guidance\/how-to-merge-charities\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/www.gov.uk\/guidance\/how-to-merge-charities<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"ymwadiad\">Ymwadiad<\/h2>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"alignright size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1800\" height=\"1200\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw.jpg\" alt=\"Pobl mewn cae yn edrych tua'r machlud haul\" class=\"wp-image-24064\" style=\"object-fit:cover\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw.jpg 1800w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw-720x480.jpg 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw-768x512.jpg 768w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw-360x240.jpg 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw-624x416.jpg 624w\" sizes=\"auto, (max-width: 1800px) 100vw, 1800px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<p>Rhwydwaith o fudiadau cymorth i\u2019r trydydd sector cyfan yng Nghymru yw Cefnogi Trydydd Sector Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Ceir ynddo\u2019r 19 corff cymorth lleol a rhanbarthol ledled Cymru, y Cynghorau Gwirfoddol Sirol, a\u2019r corff cymorth cenedlaethol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC).<br>Am ragor o wybodaeth cysylltwch \u00e2<br><a href=\"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/cysylltu\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/cysylltu\/<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r wybodaeth a ddarperir yn y daflen hon ar gyfer cyfarwyddyd yn unig. Nid yw\u2019n amnewid am gyngor proffesiynol ac ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled o ganlyniad i unrhyw un sy\u2019n gweithredu neu\u2019n gwrthod gweithredu arno.<\/p>\n\n\t<\/div>\n\n\n\n<div class=\"col-12 col-md-3\">\n\t\t\t\n\n\t<\/div>\n\n<\/div>\n\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Y camau ac opsiynau eraill<\/p>\n","protected":false},"author":5934,"featured_media":3090,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"ep_exclude_from_search":false,"footnotes":""},"categories":[759],"tags":[723,775],"class_list":["post-3092","resource","type-resource","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llywodraethu-da","tag-good-governance","tag-legal","pillar-llywodraethu-da"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Dirwyn i ben - y camau ac opsiynau eraill | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Yr oll yw \u2018dirwyn i ben\u2019 yw term arall am \u2018ddiddymu\u2019 sef y broseso ddirwyn mudiad i ben, a chaiff asedau ac eiddo\u2019r mudiad eu hailddosbarthu.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/dirwyn-i-ben\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Dirwyn i ben - y camau ac opsiynau eraill | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Yr oll yw \u2018dirwyn i ben\u2019 yw term arall am \u2018ddiddymu\u2019 sef y broseso ddirwyn mudiad i ben, a chaiff asedau ac eiddo\u2019r mudiad eu hailddosbarthu.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/dirwyn-i-ben\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-06-12T07:12:05+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/casual-buainessman-signing-contract-7UC8FX4-scaled.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1700\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"10 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/dirwyn-i-ben\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/dirwyn-i-ben\/\",\"name\":\"Dirwyn i ben - y camau ac opsiynau eraill | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/dirwyn-i-ben\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/dirwyn-i-ben\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/casual-buainessman-signing-contract-7UC8FX4-scaled.jpg\",\"datePublished\":\"2020-08-11T15:23:31+00:00\",\"dateModified\":\"2026-06-12T07:12:05+00:00\",\"description\":\"Yr oll yw \u2018dirwyn i ben\u2019 yw term arall am \u2018ddiddymu\u2019 sef y broseso ddirwyn mudiad i ben, a chaiff asedau ac eiddo\u2019r mudiad eu hailddosbarthu.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/dirwyn-i-ben\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/dirwyn-i-ben\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/dirwyn-i-ben\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/casual-buainessman-signing-contract-7UC8FX4-scaled.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/casual-buainessman-signing-contract-7UC8FX4-scaled.jpg\",\"width\":2560,\"height\":1700,\"caption\":\"Closeup of businessman hand signing on formal paper during a meeting in boardroom. African american business man signing a contract. Closeup of a businessperson sign contract and making a deal.\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/dirwyn-i-ben\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Dirwyn i ben &#8211; y camau ac opsiynau eraill\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"description\":\"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"width\":512,\"height\":512,\"caption\":\"Hwb Gwybodaeth\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Dirwyn i ben - y camau ac opsiynau eraill | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","description":"Yr oll yw \u2018dirwyn i ben\u2019 yw term arall am \u2018ddiddymu\u2019 sef y broseso ddirwyn mudiad i ben, a chaiff asedau ac eiddo\u2019r mudiad eu hailddosbarthu.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/dirwyn-i-ben\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Dirwyn i ben - y camau ac opsiynau eraill | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","og_description":"Yr oll yw \u2018dirwyn i ben\u2019 yw term arall am \u2018ddiddymu\u2019 sef y broseso ddirwyn mudiad i ben, a chaiff asedau ac eiddo\u2019r mudiad eu hailddosbarthu.","og_url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/dirwyn-i-ben\/","og_site_name":"Hwb Gwybodaeth","article_modified_time":"2026-06-12T07:12:05+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1700,"url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/casual-buainessman-signing-contract-7UC8FX4-scaled.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"10 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/dirwyn-i-ben\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/dirwyn-i-ben\/","name":"Dirwyn i ben - y camau ac opsiynau eraill | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","isPartOf":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/dirwyn-i-ben\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/dirwyn-i-ben\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/casual-buainessman-signing-contract-7UC8FX4-scaled.jpg","datePublished":"2020-08-11T15:23:31+00:00","dateModified":"2026-06-12T07:12:05+00:00","description":"Yr oll yw \u2018dirwyn i ben\u2019 yw term arall am \u2018ddiddymu\u2019 sef y broseso ddirwyn mudiad i ben, a chaiff asedau ac eiddo\u2019r mudiad eu hailddosbarthu.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/dirwyn-i-ben\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/dirwyn-i-ben\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/dirwyn-i-ben\/#primaryimage","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/casual-buainessman-signing-contract-7UC8FX4-scaled.jpg","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/casual-buainessman-signing-contract-7UC8FX4-scaled.jpg","width":2560,"height":1700,"caption":"Closeup of businessman hand signing on formal paper during a meeting in boardroom. African american business man signing a contract. Closeup of a businessperson sign contract and making a deal."},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/dirwyn-i-ben\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Dirwyn i ben &#8211; y camau ac opsiynau eraill"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","name":"Hwb Gwybodaeth","description":"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.","publisher":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization","name":"Hwb Gwybodaeth","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","width":512,"height":512,"caption":"Hwb Gwybodaeth"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/3092","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5934"}],"version-history":[{"count":12,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/3092\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":25768,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/3092\/revisions\/25768"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3090"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3092"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3092"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3092"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}