{"id":3082,"date":"2020-08-11T16:19:22","date_gmt":"2020-08-11T15:19:22","guid":{"rendered":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/?post_type=resource&#038;p=3082"},"modified":"2026-06-16T10:29:48","modified_gmt":"2026-06-16T09:29:48","slug":"egwyddorion-llywodraethu","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/egwyddorion-llywodraethu\/","title":{"rendered":"Egwyddorion llywodraethu"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-bootstrap-blocks-container container mb-2\">\n\t\n<div class=\"wp-bootstrap-blocks-row row\">\n\t\n\n<div class=\"col-12 col-md-9\">\n\t\t\t\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Trosolwg<\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"#cyflwyniad\">Cyflwyniad<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#beth-yw-llywodraethu\">Beth yw \u2018llywodraethu\u2019?<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#dulliau-llywodraethu\">Dulliau llywodraethu<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#y-cod-llywodraethu-i-elusennau\">Y cod llywodraethu i elusennau<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#gwybodaeth-bellach\">Gwybodaeth bellach<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#ymwadiad\">Ymwadiad<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"cyflwyniad\">Cyflwyniad<\/h2>\n\n\n\n<p>Yn y daflen wybodaeth hon defnyddir \u2018ymddiriedolwr\u2019 i ddisgrifio aelodau corff llywodraethu mudiadau gwirfoddol anelusennol, ac ymddiriedolwyr elusennau. Defnyddir y term \u2018ymddiriedolwr elusen\u2019 pan fod angen gwahaniaethu rhwng aelodau corff llywodraethu elusennau a rhai anelusennol. Defnyddir y term \u2018bwrdd\u2019 i ddisgrifio\u2019r gwahanol fathau o gyrff llywodraethu a geir mewn elusennau a mudiadau gwirfoddol.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"beth-yw-llywodraethu\">Beth yw \u2018llywodraethu\u2019?<\/h2>\n\n\n\n<p>\u2018Llywodraethu\u2019 yw\u2019r term cyffredinol a ddefnyddir i ddisgrifio\u2019r cyfrifoldebau cyfreithiol, goruchwylio a moesol sy\u2019n deillio o fod yn ymddiriedolwr. Nod llywodraethu yw sicrhau:<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote has-text-align-right is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p class=\"has-text-align-left\">Y systemau a\u2019r prosesau sydd ynghlwm wrth sicrhau cyfeiriad, goruchwylio ac atebolrwydd cyffredinol y mudiad.<\/p>\n<cite>Chris Cornforth<\/cite><\/blockquote>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Bod y mudiad yn cydymffurfio \u00e2 gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol<\/li>\n\n\n\n<li>Bod y mudiad yn cael ei redeg yn unol \u00e2\u2019r amcanion, y pwerau a\u2019r gweithdrefnau a amlinellwyd yn ei ddogfen lywodraethu<\/li>\n\n\n\n<li>Bod cynllun strategol yn cael ei lunio gan yr ymddiriedolwyr i sicrhau goroesiad a thwf y mudiad<\/li>\n\n\n\n<li>Bod gweithdrefnau gweithredol yn cael eu datblygu i gyflawni amcanion y mudiad<\/li>\n\n\n\n<li>Bod yr ymddiriedolwyr yn gweinyddu eu dyletswydd gofal trwy ddilyn arferion busnes cadarn wrth redeg y mudiad<\/li>\n\n\n\n<li>Bod yr ymddiriedolwyr yn gweithredu\u2019n ddarbodus trwy sicrhau bod y mudiad yn parhau\u2019n ddiddyled, yn gwneud y defnydd gorau o\u2019i asedau ac yn rheoli risgiau.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae gan bob ymddiriedolwr gyfrifoldebau llywodraethu, ac mae un sylwedydd blaenllaw yn y maes wedi disgrifio llywodraethu fel:<\/p>\n\n\n\n<p><em>\u2018Y systemau a\u2019r prosesau sydd ynghlwm wrth sicrhau cyfeiriad, goruchwylio ac atebolrwydd cyffredinol y mudiad.\u2019<\/em> &#8211; Chris Cornforth<\/p>\n\n\n\n<p>Felly, heblaw am gydymffurfio \u00e2\u2019r gyfraith a gweithgareddau strategol lefel uchel, mae llywodraethu hefyd yn ymdrin \u00e2 materion dyddiol mwy ymarferol o ran y ffordd y mae\u2019r ymddiriedolwyr yn gweithio gyda\u2019u prif swyddog, staff a rhanddeiliaid eraill i gyflawni amcanion y mudiad.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n golygu cymryd cyfrifoldeb am redeg y mudiad a gwneud popeth o fewn y gyfraith i sicrhau ei lwyddiant. Mae hynny\u2019n gofyn am ffordd amlddisgyblaeth o weithio a dyna pam ei bod mor bwysig bod<br>ymddiriedolwyr yn deall beth yn union yw llywodraethu \u2013 a\u2019r hyn nad ydyw.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n bwysig gwahaniaethu rhwng y cysyniadau o \u2018lywodraethu\u2019 a \u2018rheoli\u2019:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Llywodraethu<\/strong> yw\u2019r term a ddefnyddir ar gyfer y pethau hynny y mae\u2019n rhaid i ymddiriedolwyr ymdrin \u00e2 hwy eu hunain, o\u2019u cymharu \u00e2\u2019r pethau hynny y gallant eu dirprwyo i staff ac eraill. Mae\u2019n ymwneud \u00e2 rheoli\u2019r mudiad a chymryd cyfrifoldeb cyffredinol drosto.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Rheoli<\/strong> yw\u2019r gwaith bob dydd o reoli materion gweithredol nad ydynt yn gorfod cael eu gwneud gan yr ymddiriedolwyr ac y gellir eu dirprwyo i staff neu wirfoddolwyr. Mae\u2019n ymwneud \u00e2 rhedeg y mudiad, ond mae rheolaeth dros y mudiad yn parhau i fod ar ysgwyddau\u2019r ymddiriedolwyr.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Felly, nid yw llywodraethu o reidrwydd yn golygu gwneud pethau. Yn hytrach, mae\u2019n golygu sicrhau bod pethau\u2019n cael eu gwneud. Gwneir hyn fel arfer drwy ddirprwyo awdurdod i\u2019r prif swyddog a\u2019r staff.<\/p>\n\n\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"dulliau-llywodraethu\">Dulliau llywodraethu<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r cyhoedd erbyn hyn yn disgwyl gonestrwydd, didwylledd ac atebolrwydd ym mhob sector, a rhoddwyd sylw i hyn yn sgil datblygu codau a safonau llywodraethu penodol i fesur ymddygiad mudiadau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.<\/p>\n\n\n\n<p>Enghraifft gynnar o hyn oedd canfyddiadau\u2019r <strong>Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus<\/strong> o dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Nolan. Arweiniodd hyn at \u2018Egwyddorion Nolan\u2019 a gafodd eu mabwysiadu gan lawer o ymddiriedolwyr a oedd am wneud datganiad pendant ynghylch y ffordd yr oeddent yn llywodraethu eu mudiadau.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Dyma\u2019r saith egwyddor:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\">\n<li>Anhunanoldeb<\/li>\n\n\n\n<li>Didwylledd<\/li>\n\n\n\n<li>Gwrthrychedd<\/li>\n\n\n\n<li>Atebolrwydd<\/li>\n\n\n\n<li>Tryloywder<\/li>\n\n\n\n<li>Gonestrwydd<\/li>\n\n\n\n<li>Arweinyddiaeth<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<p>Yn y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd ymdrech i geisio dadansoddi a phennu safonau ymarfer yn y sector gwirfoddol er mwyn helpu gyda phrosesau penderfynu, atebolrwydd a gwaith y bwrdd.<\/p>\n\n\n\n<p>Aeth hyn law yn llaw \u00e2 gwerthfawrogiad cynyddol ymhlith ymddiriedolwyr o ran eu dyletswyddau a\u2019u cyfrifoldebau.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae pwysau allanol hefyd wedi arwain y broses hon, gan gynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ymgyrch y Comisiwn Elusennau i godi ymwybyddiaeth o gyfrifoldebau ymddiriedolwyr<\/li>\n\n\n\n<li>Cyllidwyr yn cyflwyno mwy o ofynion monitro<\/li>\n\n\n\n<li>Cysylltiad mwy rhagweithiol gyda rhanddeiliaid<\/li>\n\n\n\n<li>Gofynion adrodd manwl o dan gontractau cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"alignright size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"684\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/08\/pexels-christina-morillo-1181611-1024x684-1.jpg\" alt=\"Menywod yn eistedd o amgylch bwrdd mewn ystafell gyfarfod yn cynnal trafodaeth\" class=\"wp-image-21098\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/08\/pexels-christina-morillo-1181611-1024x684-1.jpg 1024w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/08\/pexels-christina-morillo-1181611-1024x684-1-720x481.jpg 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/08\/pexels-christina-morillo-1181611-1024x684-1-768x513.jpg 768w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/08\/pexels-christina-morillo-1181611-1024x684-1-360x240.jpg 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/08\/pexels-christina-morillo-1181611-1024x684-1-624x417.jpg 624w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<p>Er ei bod yn hawdd dadansoddi elfennau diriaethol gweithgarwch y sector gwirfoddol megis gofynion cyfreithiol perthnasol, mae\u2019n llawer anos dadansoddi\u2019r cyfrifoldebau llai diriaethol sydd ynghlwm wrth redeg mudiad gwirfoddol modern. Cynigiwyd llawer o ddisgrifiadau a damcaniaethau<br>o lywodraethu, ond mae\u2019n ddoethach canolbwyntio ar y rhai mwyaf cyffredinol.<\/p>\n\n\n\n<p>Wrth i\u2019r momentwm gynyddu, gwelwyd bod angen safon gytunedig ar y sector a daeth criw o sefydliadau seilwaith, gan gynnwys y Comisiwn<br>Elusennau, at ei gilydd gyda\u2019r nod o ddatblygu cod ar gyfer y sector cyfan.<\/p>\n\n\n\n<p>Arweiniodd hyn at gyhoeddi <strong>Llywodraethu Da \u2013 Cod i\u2019r Sector Gwirfoddol a Chymunedol <\/strong>(\u2018y Cod\u2019) yn 2005, gyda rhifynnau wedi\u2019u diweddaru a fersiynau cysylltiol o\u2019r <strong>Cod<\/strong> yn cael eu rhyddhau ers hynny. Cyhoeddwyd y fersiwn ddiweddaraf, <strong>Y Cod Llywodraethu i Elusennau<\/strong>, yn 2017.<\/p>\n\n\n\n<p>The 2023 update to the Charity Governance Code places greater emphasis on Equality, Diversity, and Inclusion (EDI), encouraging boards to reflect the communities they serve and to take steps to identify and reduce barriers to participation.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Cod bellach hefyd yn cynnwys cyfeiriadau penodol at r\u00f4l ymddiriedolwyr wrth feithrin diwylliant sefydliadol cadarnhaol a goruchwylio diogelu.<\/p>\n\n\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"y-cod-llywodraethu-i-elusennau\">Y cod llywodraethu i elusennau<\/h2>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote has-text-align-right is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p class=\"has-text-align-left\">\u2018Mae elusen yn y sefyllfa orau i wireddu ei dyheadau a\u2019i hamcanion os oes ganddi drefn lywodraethu effeithiol a\u2019r strwythurau arwain cywir. Bydd ymddiriedolwyr medrus a galluog yn helpu elusen i ddenu adnoddau a\u2019u defnyddio yn y ffordd orau. Mae llywodraethu da yn galluogi ac yn cefnogi cydymffurfiaeth elusen \u00e2 deddfwriaeth a<br>rheoliadau perthnasol. Mae hefyd yn hyrwyddo agweddau a diwylliant lle mae popeth yn gweithio tuag at wireddu gweledigaeth elusen\u2019<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p>Ysgrifennwyd y Cod yn benodol i ddiwallu anghenion mudiadau yn y sectorau elusennol, gwirfoddol a chymunedol, ac mae\u2019r Comisiwn Elusennau yn cefnogi\u2019r Cod, gan annog pob elusen i\u2019w ddefnyddio.<\/p>\n\n\n\n<p>Ceir dwy fersiwn o\u2019r Cod, y naill i elusennau llai a\u2019r llall i elusennau sydd ag incwm dros \u00a31 miliwn. Nod y Cod yw helpu elusennau a\u2019u hymddiriedolwyr i ddatblygu safonau uchel wrth lywodraethu.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae llywodraethu da mewn elusennau yn hanfodol i\u2019w llwyddiant.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n galluogi elusen i gydymffurfio \u00e2\u2019r gyfraith a rheoliadau perthnasol a\u2019u cefnogi. Mae hefyd yn hyrwyddo diwylliant lle y mae popeth yn gweithio tuag at wireddu gweledigaeth yr elusen.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"http:\/\/www.charitygovernancecode.org\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Cod Llywodraethu i Elusennau<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Cod yn uchelgeisiol yn fwriadol. Ceir ynddo gyfres o saith egwyddor allweddol sy\u2019n sicrhau bod y safonau llywodraethu uchaf posibl yn cael eu gosod gan y trydydd sector ac mae\u2019r egwyddorion hynny wedi\u2019u cynllunio i fod yn gyffredinol ac yn gymwys i bob mudiad gwirfoddol, cymunedol a nid-er-elw. Ynghyd \u00e2 phob egwyddor ceir rhesymeg, canlyniadau allweddol ac arfer a argymhellir.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Dyma\u2019r saith egwyddor a\u2019u canlyniadau allweddol<\/h3>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">1. Pwrpas y mudiad<\/h4>\n\n\n\n<p>Bydd y bwrdd yn glir ynghylch amcanion yr elusen ac yn sicrhau y cyflawnir y rhain mewn ffordd effeithiol a chynaliadwy.<\/p>\n\n\n\n<p>Canlyniadau allweddol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Bydd gan y bwrdd gyd-ddealltwriaeth o ddibenion yr elusen, ymrwymiad iddynt, a\u2019r gallu i fynegi\u2019r rhain yn glir.<\/li>\n\n\n\n<li>Bydd y bwrdd yn gallu dangos bod yr elusen yn effeithiol wrth gyflawni ei dibenion elusennol a\u2019i chanlyniadau y cytunwyd arnynt.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">2. Arwain<\/h4>\n\n\n\n<p>Arweinir pob elusen gan fwrdd effeithiol sy\u2019n rhoi arweinyddiaeth strategol yn unol ag amcanion a gwerthoedd yr elusen.<\/p>\n\n\n\n<p>Canlyniadau allweddol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Bydd y bwrdd yn ei gyfanrwydd, ac ymddiriedolwyr yn unigol, yn ysgwyddo cyfrifoldeb ar y cyd dros sicrhau bod gan yr elusen set glir a pherthnasol o amcanion a strategaeth briodol i\u2019w cyflawni.<\/li>\n\n\n\n<li>Bydd y bwrdd yn cytuno ar weledigaeth, gwerthoedd ac enw da\u2019r elusen ac yn arwain drwy esiampl, gan ei gwneud yn ofynnol i unrhyw un sy\u2019n cynrychioli\u2019r elusen adlewyrchu ei gwerthoedd mewn modd cadarnhaol.<\/li>\n\n\n\n<li>Bydd y bwrdd yn sicrhau bod gwerthoedd yr elusen yn cael eu hadlewyrchu yn ei holl waith, a bod ethos a diwylliant y mudiad yn sail i\u2019w holl weithgareddau.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">3. Uniondeb<\/h4>\n\n\n\n<p>Bydd y bwrdd yn gweithredu ag uniondeb, gan fabwysiadu gwerthoedd a diwylliant sy\u2019n helpu i gyflawni dibenion elusennol y mudiad. Bydd y bwrdd yn ymwybodol o bwysigrwydd hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd mewn elusennau, a bydd ymddiriedolwyr yn cyflawni eu dyletswyddau yn unol \u00e2 hynny.<\/p>\n\n\n\n<p>Canlyniadau allweddol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Bydd y bwrdd yn gweithredu er budd yr elusen a\u2019i buddiolwyr. Ni fydd y rheini \u00e2 buddiannau arbennig yn dylanwadu\u2019n ormodol ar y bwrdd a bydd y bwrdd yn blaenoriaethu buddiannau\u2019r elusen cyn unrhyw fudd personol. Bydd hyn yn wir p\u2019un a yw ymddiriedolwyr wedi\u2019u hethol, eu henwebu, neu eu penodi. Bydd y bwrdd ar y cyd yn annibynnol wrth wneud penderfyniadau.<\/li>\n\n\n\n<li>Bydd y bwrdd yn gwarchod ac yn hyrwyddo enw da\u2019r elusen a, thrwy hynny, yn hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y sector ehangach.<\/li>\n\n\n\n<li>Bydd aelodau o\u2019r bwrdd a\u2019r rheini sy\u2019n gweithio i\u2019r mudiad neu\u2019n ei gynrychioli yn gweithredu ag uniondeb amlwg ac yn unol \u00e2 gwerthoedd yr elusen.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">4. Gwneud penderfyniadau, risg a rheolaeth<\/h4>\n\n\n\n<p>Bydd y bwrdd yn sicrhau bod ei brosesau ar gyfer gwneud penderfyniadau wedi\u2019u seilio ar wybodaeth, yn drylwyr ac yn amserol, a bod systemau effeithiol yn cael eu sefydlu a\u2019u monitro ar gyfer dirprwyo, asesu a rheoli risgiau.<\/p>\n\n\n\n<p>Canlyniadau allweddol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Bydd y bwrdd yn glir mai\u2019r prif bethau y mae\u2019n canolbwyntio arnynt yw strategaeth, perfformiad a sicrwydd, yn hytrach na materion gweithredol, ac yn adlewyrchu hyn yn y pethau mae\u2019n eu dirprwyo.<\/li>\n\n\n\n<li>Bydd gan y bwrdd fframwaith penderfynu a monitro cadarn sy\u2019n helpu\u2019r mudiad i gyflawni ei ddibenion elusennol. Bydd yn ymwybodol o\u2019r ystod o risgiau ariannol a\u2019r risgiau eraill y mae angen iddo eu monitro a\u2019u rheoli.<\/li>\n\n\n\n<li>Bydd y bwrdd yn hyrwyddo diwylliant o reoli adnoddau yn synhwyrol ond gan ddeall hefyd y gall bod yn orofalus ac yn gyndyn o fentro fod yn risg ynddo\u2019i hun ac atal arloesedd.<\/li>\n\n\n\n<li>Pan fo agweddau ar r\u00f4l y bwrdd yn cael eu dirprwyo i ymddiriedolwyr, staff, gwirfoddolwyr neu gontractwyr, bydd y bwrdd yn cadw cyfrifoldeb ac yn parhau i oruchwylio.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">5. Effeithiolrwydd y bwrdd<\/h4>\n\n\n\n<p>Bydd y bwrdd yn gweithio fel t\u00eem effeithiol, gan ddefnyddio\u2019r cydbwysedd priodol o sgiliau, profiad, cefndiroedd a gwybodaeth i wneud penderfyniadau doeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Canlyniadau allweddol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Bydd diwylliant, ymddygiad a phrosesau\u2019r bwrdd yn ei helpu i fod yn effeithiol; gan gynnwys derbyn a datrys heriau neu wahanol safbwyntiau.<\/li>\n\n\n\n<li>Bydd gan bob ymddiriedolwr sgiliau a gwybodaeth briodol am yr elusen a gall pob un ymroi digon o amser i fod yn effeithiol yn ei r\u00f4l<\/li>\n\n\n\n<li>Bydd y cadeirydd yn galluogi\u2019r bwrdd i weithio fel t\u00eem effeithiol drwy ddatblygu perthynas waith gref rhwng aelodau o\u2019r bwrdd a bydd yn creu diwylliant lle caiff gwahaniaethau eu mynegi a\u2019u datrys.<\/li>\n\n\n\n<li>Bydd y bwrdd yn gwneud penderfyniadau ar y cyd ac yn hyderus. Unwaith y gwneir penderfyniadau bydd y bwrdd yn cefnogi\u2019r rhain ac yn eu derbyn fel penderfyniadau rhwymol.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">6. Amrywiaeth<\/h4>\n\n\n\n<p>Bydd ymagwedd y bwrdd at amrywiaeth yn cefnogi ei effeithiolrwydd, ei arweinyddiaeth a\u2019i benderfyniadau.<\/p>\n\n\n\n<p>Canlyniadau allweddol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Bydd y bwrdd yn fwy effeithiol os yw\u2019n cynnwys safbwyntiau, profiadau a sgiliau amrywiol.<\/li>\n\n\n\n<li>Bydd y bwrdd yn sicrhau bod yr elusen yn dilyn egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth, gan wneud mwy na dim ond yr isafswm cyfreithiol lle mae hynny\u2019n briodol.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">7. Bod yn agored ac yn atebol<\/h4>\n\n\n\n<p>Bydd y bwrdd yn arwain y mudiad i fod yn dryloyw ac yn atebol. Bydd yr elusen yn agored yn ei gwaith, oni bai bod rheswm da iddi beidio \u00e2 bod.<\/p>\n\n\n\n<p>Canlyniadau allweddol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Bydd holl randdeiliaid y mudiad yn gwerthfawrogi ei waith a\u2019i effaith.<\/li>\n\n\n\n<li>Bydd y bwrdd yn sicrhau bod perfformiad yr elusen a\u2019r modd y mae\u2019n ymwneud \u00e2\u2019i rhanddeiliaid yn cael eu harwain gan y gwerthoedd, y foeseg a\u2019r diwylliant y rhoddir yn eu lle gan y bwrdd.<\/li>\n\n\n\n<li>Bydd ymddiriedolwyr yn sicrhau bod yr elusen yn cydweithio \u00e2 rhanddeiliaid er mwyn hyrwyddo ymddygiad moesegol.<\/li>\n\n\n\n<li>Bydd yr elusen yn cymryd o ddifrif ei chyfrifoldeb i feithrin ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn ei gwaith.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Gellir defnyddio prif egwyddorion y Cod, a\u2019i fanylion, i helpu ymddiriedolwyr i ddeall eu r\u00f4l yn well, ei datblygu, bod yn hyderus eu bod yn gwneud gwaith da a chanfod meysydd y gellid eu datblygu ymhellach.<\/p>\n\n\n\n<p>Nid yw\u2019r Cod yn ofyniad rheoleiddiol ond gall y mudiadau hynny sy\u2019n cydymffurfio ag ef wneud datganiad diamwys am eu hymrwymiad i safonau llywodraethu uchel trwy gyfeirio ato yn eu Hadroddiad Blynyddol a deunydd cyhoeddedig perthnasol arall.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">CC3: Yr ymddiriedolwr hanfodol<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Cod Llywodraethu i Elusennau yn cymryd yn ganiataol y bydd ymddiriedolwyr eisoes yn gyfarwydd \u00e2 chyhoeddiad y Comisiwn Elusennau, <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/publications\/the-essential-trustee-what-you-need-to-know-cc3\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Yr Ymddiriedolwr Hanfodol (CC3)<\/a>. Mae\u2019r canllaw hwn yn egluro<br>dyletswyddau allweddol pob ymddiriedolwr mewn elusennau yng Nghymru a Lloegr, a\u2019r hyn y mae angen i ymddiriedolwyr ei wneud i gyflawni\u2019r dyletswyddau hyn yn effeithiol. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae Yr Ymddiriedolwr Hanfodol yn:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Crynhoi dyletswyddau ymddiriedolwyr<\/li>\n\n\n\n<li>Egluro pwy all fod yn ymddiriedolwr yn \u00f4l y gyfraith<\/li>\n\n\n\n<li>Egluro dyletswyddau allweddol ymddiriedolwyr yn fwy manwl<\/li>\n\n\n\n<li>Egluro pryd y gall ymddiriedolwyr fod yn atebol a sut i leihau\u2019r risg<\/li>\n\n\n\n<li>Rhoi mwy o fanylion am strwythurau elusennau, a r\u00f4l swyddogion elusennau<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Addas i lywodraethu: rhestr wirio ddeg pwynt<\/h3>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"alignright size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"500\" height=\"333\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2022\/10\/Getting-on-Board-aE-Call-to-Action-on-Trustee-Diversity-small.jpg\" alt=\"Pobl yn eistedd o amgylch bwrdd cyfarfod mewn swyddfa olau yn ystod trafodaeth\" class=\"wp-image-14334\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2022\/10\/Getting-on-Board-aE-Call-to-Action-on-Trustee-Diversity-small.jpg 500w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2022\/10\/Getting-on-Board-aE-Call-to-Action-on-Trustee-Diversity-small-360x240.jpg 360w\" sizes=\"auto, (max-width: 500px) 100vw, 500px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<p>Mae\u2019r rhestr wirio ddeg pwynt ddefnyddiol iawn hon yn helpu i rannu\u2019r elfennau llywodraethu lefel uchel amrywiol yn weithgareddau mwy cadarn.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">1. Gwerthoedd, gweledigaeth, a pholisi<\/h4>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae\u2019r mudiad yn ail-asesu\u2019n rheolaidd y pwrpas y cafodd ei sefydlu i roi sylw iddynt.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae gwerthoedd y mudiad yn ddealladwy ac wedi\u2019u nodi.<\/li>\n\n\n\n<li>Ceir gweledigaeth eglur ac ymdeimlad o bwrpas.<\/li>\n\n\n\n<li>Ceir datganiad o fwriad neu nodau, sy\u2019n ddigon hysbys.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019r genhadaeth wedi\u2019i halinio \u00e2\u2019r amcanion a amlinellwyd yn y ddogfen lywodraethu.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae gan y bwrdd bolis\u00efau diffiniedig i lywio gweithgareddau\u2019r mudiad.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">2. Blaenoriaethau a strategaeth<\/h4>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae\u2019r bwrdd wedi cytuno ar y prif flaenoriaethau ar gyfer gwaith y mudiad.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019r bwrdd wedi cytuno ar strategaeth dymor hir i gyflawni\u2019i flaenoriaethau.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019r bwrdd yn adolygu\u2019r hinsawdd allanol ar gyfer newid a all effeithio ar y strategaeth yn rheolaidd.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae gan y mudiad amcanion a chynlluniau realistig i roi\u2019r strategaeth ar waith.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019r awdurdod a roddwyd i staff i weithredu cynlluniau wedi\u2019u diffinio\u2019n eglur.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">3. Monitro a safonau<\/h4>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae gan y bwrdd safonau y cytunwyd arnynt i fesur gwerth gwaith y mudiad.<\/li>\n\n\n\n<li>Defnyddir safonau mewn ffordd systematig i fonitro cynnydd y mudiad.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019r systemau ar gyfer monitro perfformiad yn arwain at gynhyrchu gwybodaeth ddibynadwy, ddilys ac amserol.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae strwythur gweithredol y mudiad yn ateb y gofynion ac mae\u2019n ychwanegu gwerth at y mudiad.<\/li>\n\n\n\n<li>Ceir cod ymddygiad y cytunwyd arno ar gyfer aelodau\u2019r bwrdd, sy\u2019n cael ei fonitro gan y bwrdd.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">4. System a llywodraethu<\/h4>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ceir strwythur pendant i lywodraethu\u2019r mudiad.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae r\u00f4l y bwrdd, yr is-bwyllgorau a\u2019r gweithgorau wedi\u2019u diffinio\u2019n eglur.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae rolau\u2019r cadeirydd, yr is-gadeiryddion a\u2019r trysorydd wedi\u2019u diffinio\u2019n eglur.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019r bwrdd, yr is-bwyllgorau a\u2019r gweithgorau\u2019n ychwanegu gwerth mesuradwy at y mudiad.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae cyfarfodydd y bwrdd yn effeithiol pan fyddant wedi eu mesur yn erbyn y safonau a bennwyd gan y bwrdd.<\/li>\n\n\n\n<li>Ceir cyllideb ar gyfer costau llawn cyfarfodydd y bwrdd a\u2019r is-bwyllgorau, sy\u2019n cael ei hadolygu\u2019n rheolaidd.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">5. Y gallu i lywodraethu<\/h4>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae\u2019r bwrdd yn cynnwys cydbwysedd addas o ran sgiliau a phrofiad i gyflawni ei r\u00f4l yn effeithiol.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019r cadeirydd a\u2019r swyddogion anrhydeddus eraill yn meddu ar sgiliau a phrofiad priodol i gyflawni eu rolau\u2019n effeithiol.<\/li>\n\n\n\n<li>Ceir strategaeth i recriwtio, datblygu a hyfforddi aelodau\u2019r bwrdd.<\/li>\n\n\n\n<li>Ceir cyllideb ar gyfer hyfforddiant a datblygiad aelodau\u2019r bwrdd.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019r mudiad yn darparu cefnogaeth ymarferol resymol i alluogi aelodau\u2019r bwrdd i gyflawni eu rolau.<\/li>\n\n\n\n<li>Ceir safonau y cytunwyd arnynt ar gyfer perfformiad y bwrdd a\u2019i aelodau.<\/li>\n\n\n\n<li>Ceir system i arfarnu perfformiad y bwrdd, a\u2019i aelodau.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">6. Atebolrwydd<\/h4>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae\u2019r bwrdd yn gwybod yn union pwy yw buddiolwyr y mudiad.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae gan y bwrdd ddealltwriaeth eglur o bwy yw\u2019r rhanddeiliaid eraill.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019r mudiad yn atebol yn systematig i\u2019w holl randdeiliaid.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019r mudiad yn cyfathrebu\u2019n effeithiol gyda\u2019i holl randdeiliaid.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall y bwrdd ddangos yn eglur sut y mae\u2019r mudiad yn cyfrannu at les cymdeithas yn gyffredinol.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">7. Partneriaeth \u00e2\u2019r prif weithredwr<\/h4>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae prosesau addas ar waith i sicrhau partneriaeth effeithiol rhwng y bwrdd a\u2019r prif swyddog gweithredol (CEO).<\/li>\n\n\n\n<li>Mae r\u00f4l y cadeirydd fel dolen gyswllt rhwng y bwrdd a\u2019r CEO wedi\u2019i diffinio\u2019n eglur.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae r\u00f4l y CEO wedi\u2019i diffinio\u2019n eglur.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019r ffiniau rhwng r\u00f4l y bwrdd a r\u00f4l y CEO yn eglur ac maent yn cael eu hadolygu\u2019n ysbeidiol.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019r bwrdd yn gosod cyfyngiadau pendant ar awdurdod y staff, yr is-bwyllgorau a\u2019r gweithgorau.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019r CEO yn derbyn cefnogaeth a goruchwyliaeth effeithiol.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae perfformiad y CEO yn cael ei arfarnu\u2019n flynyddol.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">8. Cyfranogiad y rhanddeiliaid<\/h4>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae rhanddeiliaid yn cyfrannu at ddiffinio\u2019r safonau ar gyfer mesur gwaith y mudiad.<\/li>\n\n\n\n<li>Ceir prosesau effeithiol i sicrhau bod gan ddefnyddwyr gwasanaethau\u2019r mudiad lais credadwy yn y penderfyniadau a wneir ynghylch y gwasanaethau. Cesglir barn y rhanddeiliaid yn rheolaidd a byddant yn cael eu hystyried gan y bwrdd.<\/li>\n\n\n\n<li>Os yw\u2019n briodol, ceir systemau eglur ar gyfer ethol neu benodi rhanddeiliaid allweddol fel ymddiriedolwyr.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">9. Cyflwr ariannol<\/h4>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae\u2019r mudiad yn ddiddyled.<\/li>\n\n\n\n<li>Ceir cronfeydd digonol wrth gefn.<\/li>\n\n\n\n<li>Ceir system effeithiol ar gyfer rheolaeth ariannol a chyfrifo.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae trefniadau ar waith i sicrhau bod gwybodaeth ariannol yn cael ei hadrodd yn \u00f4l i\u2019r bwrdd.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019r bwrdd yn ei gyfanrwydd yn gymwys i wneud penderfyniadau ariannol.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019r asedau\u2019n cael eu rheoli\u2019n dda.<\/li>\n\n\n\n<li>Ceir perthynas effeithiol rhwng y bwrdd ac archwilwyr y mudiad.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae effeithiolrwydd yr archwilwyr yn cael ei adolygu\u2019n rheolaidd.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae gan y mudiad yswiriant digonol, sy\u2019n cael ei adolygu\u2019n flynyddol.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">10. Cyfreithlondeb<\/h4>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"alignright size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"680\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/casual-buainessman-signing-contract-7UC8FX4-1024x680.jpg\" alt=\"Person yn llofnodi dogfen wrth ddesg yn ystod cyfarfod\" class=\"wp-image-3089\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/casual-buainessman-signing-contract-7UC8FX4-1024x680.jpg 1024w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/casual-buainessman-signing-contract-7UC8FX4-720x478.jpg 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/casual-buainessman-signing-contract-7UC8FX4-768x510.jpg 768w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/casual-buainessman-signing-contract-7UC8FX4-1536x1020.jpg 1536w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/casual-buainessman-signing-contract-7UC8FX4-2048x1360.jpg 2048w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/casual-buainessman-signing-contract-7UC8FX4-360x239.jpg 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/casual-buainessman-signing-contract-7UC8FX4-1800x1195.jpg 1800w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/casual-buainessman-signing-contract-7UC8FX4-624x414.jpg 624w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae\u2019r bwrdd yn cael ei hysbysu\u2019n briodol o\u2019i gyfrifoldebau cyfreithiol.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019r mudiad yn cyflawni ei holl rwymedigaethau cyfreithiol.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae aelodau\u2019r bwrdd yn ymwybodol o\u2019u cyfrifoldebau cyfreithiol eu hunain.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae cyngor cyfreithiol a phroffesiynol priodol ar gael i\u2019r bwrdd.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Efallai y byddai hefyd yn ddefnyddiol i chi gwblhau gwiriad iechyd llywodraethu CGGC, sef offeryn hunanasesu sydd wedi\u2019i gynllunio i helpu byrddau ymddiriedolwyr i weithio tuag at gadw at egwyddorion<br>llywodraethu da. Dylai hefyd gynorthwyo byrddau o unrhyw faint i ddangos eu harferion llywodraethu da i reoleiddwyr, cyllidwyr, buddiolwyr a rhanddeiliaid.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"gwybodaeth-bellach\">Gwybodaeth bellach<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwiriad iechyd llywodraethu<\/h3>\n\n\n\n<p><strong>CGGC (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru)<\/strong><br><a href=\"https:\/\/wcva.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/01\/Archwiliad-iechyd-llywodraethu.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/wcva.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/01\/Archwiliad-iechyd-llywodraethu.pdf<\/a><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Adeiladu ar graig nid ar dywod<\/h3>\n\n\n\n<p><strong>CGGC (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru)<\/strong><br><a href=\"https:\/\/wcva.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/wcva__maen_syniad_ond_a_ywn_fusnes.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/wcva.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/wcva__maen_syniad_ond_a_ywn_fusnes.pdf<\/a><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Y Comisiwn Elusennau &#8211; Cynllun Cyhoeddi<\/h3>\n\n\n\n<p><strong>Y Comisiwn Elusennau<\/strong><br><a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/organisations\/charity-commission\/about\/publication-scheme\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/www.gov.uk\/government\/organisations\/charity-commission\/about\/publication-scheme<\/a><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">ICSA: Y Sefydliad Llywodraethu<\/h3>\n\n\n\n<p><strong>ICSA<\/strong><br><a href=\"https:\/\/www.icsa.org.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/www.icsa.org.uk\/<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"ymwadiad\">Ymwadiad<\/h2>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"alignright size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1800\" height=\"1200\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw.jpg\" alt=\"Pobl mewn cae yn edrych tua'r machlud haul\" class=\"wp-image-24064\" style=\"object-fit:cover\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw.jpg 1800w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw-720x480.jpg 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw-768x512.jpg 768w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw-360x240.jpg 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw-624x416.jpg 624w\" sizes=\"auto, (max-width: 1800px) 100vw, 1800px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<p>Rhwydwaith o fudiadau cymorth i\u2019r trydydd sector cyfan yng Nghymru yw Cefnogi Trydydd Sector Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Ceir ynddo\u2019r 19 corff cymorth lleol a rhanbarthol ledled Cymru, y Cynghorau Gwirfoddol Sirol, a\u2019r corff cymorth cenedlaethol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC).<br>Am ragor o wybodaeth cysylltwch \u00e2<br><a href=\"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/cysylltu\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/cysylltu\/<\/a><\/p>\n\n\n\n<p id=\"disclaimer\">Mae\u2019r wybodaeth a ddarperir yn y daflen hon ar gyfer cyfarwyddyd yn unig. Nid yw\u2019n amnewid am gyngor proffesiynol ac ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled o ganlyniad i unrhyw un sy\u2019n gweithredu neu\u2019n gwrthod gweithredu arno.<\/p>\n\n\t<\/div>\n\n\n\n<div class=\"col-12 col-md-3\">\n\t\t\t\n\n\t<\/div>\n\n<\/div>\n\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>\u2018Llywodraethu\u2019 yw\u2019r term cyffredinol a ddefnyddir i ddisgrifio\u2019r cyfrifoldebau cyfreithiol, goruchwylio a moesol sy\u2019n deillio o fod yn ymddiriedolwr.<\/p>\n","protected":false},"author":5934,"featured_media":3080,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"ep_exclude_from_search":false,"footnotes":""},"categories":[759],"tags":[723,775,730],"class_list":["post-3082","resource","type-resource","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llywodraethu-da","tag-good-governance","tag-legal","tag-resilience","pillar-llywodraethu-da"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Egwyddorion llywodraethu | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/egwyddorion-llywodraethu\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Egwyddorion llywodraethu | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"\u2018Llywodraethu\u2019 yw\u2019r term cyffredinol a ddefnyddir i ddisgrifio\u2019r cyfrifoldebau cyfreithiol, goruchwylio a moesol sy\u2019n deillio o fod yn ymddiriedolwr.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/egwyddorion-llywodraethu\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-06-16T09:29:48+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/pexels-tirachard-kumtanom-601170.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1280\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"854\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"14 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/egwyddorion-llywodraethu\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/egwyddorion-llywodraethu\/\",\"name\":\"Egwyddorion llywodraethu | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/egwyddorion-llywodraethu\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/egwyddorion-llywodraethu\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/pexels-tirachard-kumtanom-601170.jpg\",\"datePublished\":\"2020-08-11T15:19:22+00:00\",\"dateModified\":\"2026-06-16T09:29:48+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/egwyddorion-llywodraethu\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/egwyddorion-llywodraethu\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/egwyddorion-llywodraethu\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/pexels-tirachard-kumtanom-601170.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/pexels-tirachard-kumtanom-601170.jpg\",\"width\":1280,\"height\":854},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/egwyddorion-llywodraethu\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Egwyddorion llywodraethu\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"description\":\"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"width\":512,\"height\":512,\"caption\":\"Hwb Gwybodaeth\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Egwyddorion llywodraethu | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/egwyddorion-llywodraethu\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Egwyddorion llywodraethu | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","og_description":"\u2018Llywodraethu\u2019 yw\u2019r term cyffredinol a ddefnyddir i ddisgrifio\u2019r cyfrifoldebau cyfreithiol, goruchwylio a moesol sy\u2019n deillio o fod yn ymddiriedolwr.","og_url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/egwyddorion-llywodraethu\/","og_site_name":"Hwb Gwybodaeth","article_modified_time":"2026-06-16T09:29:48+00:00","og_image":[{"width":1280,"height":854,"url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/pexels-tirachard-kumtanom-601170.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"14 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/egwyddorion-llywodraethu\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/egwyddorion-llywodraethu\/","name":"Egwyddorion llywodraethu | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","isPartOf":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/egwyddorion-llywodraethu\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/egwyddorion-llywodraethu\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/pexels-tirachard-kumtanom-601170.jpg","datePublished":"2020-08-11T15:19:22+00:00","dateModified":"2026-06-16T09:29:48+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/egwyddorion-llywodraethu\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/egwyddorion-llywodraethu\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/egwyddorion-llywodraethu\/#primaryimage","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/pexels-tirachard-kumtanom-601170.jpg","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/pexels-tirachard-kumtanom-601170.jpg","width":1280,"height":854},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/egwyddorion-llywodraethu\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Egwyddorion llywodraethu"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","name":"Hwb Gwybodaeth","description":"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.","publisher":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization","name":"Hwb Gwybodaeth","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","width":512,"height":512,"caption":"Hwb Gwybodaeth"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/3082","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5934"}],"version-history":[{"count":23,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/3082\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":25985,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/3082\/revisions\/25985"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3080"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3082"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3082"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3082"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}