{"id":26788,"date":"2026-11-03T15:06:11","date_gmt":"2026-11-03T15:06:11","guid":{"rendered":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/?post_type=resource&#038;p=26788"},"modified":"2026-11-03T16:09:26","modified_gmt":"2026-11-03T16:09:26","slug":"yswiriant-i-wirfoddolwyr-canllaw-i-fudiadau","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/yswiriant-i-wirfoddolwyr-canllaw-i-fudiadau\/","title":{"rendered":"Yswiriant i wirfoddolwyr: canllaw i fudiadau"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-bootstrap-blocks-container container mb-2\">\n\t\n<div class=\"wp-bootstrap-blocks-row row\">\n\t\n\n<div class=\"col-12 col-md-9\">\n\t\t\t\n\n\n\n<p>Nod y wybodaeth hon yw helpu mudiadau i ddeall y prif fathau o yswiriant a all fod yn berthnasol i wirfoddolwyr. Ni ddylid ei defnyddio yn lle cyngor proffesiynol a dylai mudiadau wirio eu polis\u00efau eu hunain gyda\u2019u hyswiriwr bob amser.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae yswiriant yn rhan o reoli risg yn dda. Mae\u2019n cefnogi mesurau ymarferol fel gweithdrefnau iechyd a diogelwch, asesiadau risg, recriwtio effeithiol, cynefino, hyfforddiant, cymorth a goruchwyliaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae yswiriant yn helpu i ddiogelu gwirfoddolwyr, ymddiriedolwyr, staff, buddiolwyr, y cyhoedd a\u2019r mudiad os bydd rhywbeth yn mynd o\u2019i le. <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Ar y dudalen hon<\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"#matters\">Pam mae yswiriant yn bwysig<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#core\">Yswiriant craidd i\u2019w wirio<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#drivers\">Gyrwyr gwirfoddol ac yswiriant cerbydau<\/a><\/li>\n\n\n\n<li id=\"additional\"><a href=\"#additional\">Yswiriant ychwanegol i\u2019w ystyried<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#special\">Digwyddiadau a gweithgareddau untro <\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#esv\">Gwirfoddoli a lleoliadau a gefnogir gan gyflogwyr<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#checklist\">Rhestr wirio ymarferol ar gyfer yswiriant<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#questions\">Cwestiynau i\u2019w gofyn i\u2019ch yswiriwr<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#information\">Rhagor o wybodaeth<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"matters\">Pam mae yswiriant yn bwysig<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae gan fudiadau sy\u2019n cynnwys gwirfoddolwyr ddyletswydd gofal i\u2019w hamddiffyn rhag niwed y gellir ei osgoi. Mae\u2019n <strong>hanfodo<\/strong>l sicrhau yswiriant digonol i wirfoddolwyr, staff ac ymddiriedolwyr ac i ddiogelu pobl, asedau ac enw da\u2019r mudiad. Mae mudiadau\u2019n gyfrifol am ddarparu yswiriant, nid yn unig am golled, difrod neu anaf y gallai gwirfoddolwyr ei ddioddef, ond hefyd am unrhyw golled, difrod neu anaf i eraill a allai ddeillio o weithgarwch gwirfoddolwyr. Nid yw yswiriant yn dileu dyletswydd gofal, ond gall helpu i dalu costau ymchwilio, amddiffyn neu setlo hawliadau os bydd anaf, colled neu ddifrod yn digwydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Dylai yswiriant gael ei adolygu\u2019n rheolaidd, yn enwedig pan fydd rolau gwirfoddolwyr, gweithgareddau, lleoliadau neu fuddiolwyr yn newid. Dylai mudiadau sicrhau bod gan yswirwyr wybodaeth gywir am yr hyn y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud, ble maen nhw\u2019n ei wneud a gyda phwy maen nhw\u2019n gwirfoddoli.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae angen rhywfaint o yswiriant yn \u00f4l y gyfraith; mae yswiriant arall yn ddewisol. Mater i\u2019ch mudiad chi yw penderfynu beth sy\u2019n briodol a dylai penderfyniadau gael eu gwneud ochr yn ochr ag asesiadau risg. <\/p>\n\n\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"core\">Yswiriant craidd i\u2019w wirio<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r canlynol yn fathau cyffredin o yswiriant y gall fod gan fudiadau sy\u2019n cynnwys gwirfoddolwyr. Cofiwch \u2013 mae polis\u00efau yswiriant ac eithriadau yn amrywio, felly cadarnhewch a yw gwirfoddolwyr yn cael eu cwmpasu\u2019n benodol.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Yswiriant atebolrwydd cyflogwyr ar gyfer gwirfoddolwyr<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n ofynnol yn gyfreithiol i fudiadau sydd \u00e2 staff cyflogedig gael Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwyr. Mae hyn yn cwmpasu cyflogeion yn achos damwain, salwch neu anaf a ddioddefir yn ystod eu gwaith. Nid yw gwirfoddolwyr bob amser yn cael eu cynnwys yn awtomatig, felly dylai mudiadau wirio a yw\u2019r polisi yn ymestyn i wirfoddolwyr ac a yw\u2019n cwmpasu\u2019r holl rolau a gweithgareddau y mae gwirfoddolwyr yn ymgymryd \u00e2 nhw.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ar gyfer gwirfoddolwyr<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, a elwir weithiau\u2019n yswiriant trydydd parti, yn cwmpasu hawliadau a wneir gan aelodau o\u2019r cyhoedd neu fudiadau eraill am anaf damweiniol, colled neu ddifrod sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 gweithgareddau\u2019r mudiad. Dim ond mewn achosion lle gellir dangos bod damwain neu golled yn deillio o esgeulustod ar ran y mudiad y mae\u2019n darparu iawndal.<\/p>\n\n\n\n<p>Sicrhewch fod yr yswiriant yn cwmpasu\u2019r gweithgareddau gwirfoddol yn benodol, gan gynnwys unrhyw weithgareddau a gynhelir i ffwrdd oddi wrth brif safle\u2019r mudiad, er enghraifft yng nghartrefi cleientiaid, lleoliadau preswyl neu gymunedol neu fannau awyr agored. Heb yswiriant priodol, gallai\u2019r mudiad neu\u2019r unigolion gael eu dal yn atebol yn bersonol.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Yswiriant damweiniau personol ar gyfer gwirfoddolwyr<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae hyn yn darparu yswiriant os bydd rhywun yn cael ei anafu neu\u2019n marw wrth weithio neu wirfoddoli, p\u2019un a oes atebolrwydd cyfreithiol ai peidio. Gall y polisi gynnwys eithriadau, fel terfynau neu gyfyngiadau oedran neu gyfyngiadau ar fathau penodol o weithgareddau. Mae\u2019r yswiriant hwn yn ddewisol ond efallai y bydd yn werth ei ystyried ar gyfer rolau gwirfoddoli risg uwch.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"drivers\"><strong>Gyrwyr gwirfoddol ac yswiriant cerbydau<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cerbydau sy\u2019n eiddo i\u2019r mudiad<\/h3>\n\n\n\n<p>Os yw gwirfoddolwyr yn gyrru cerbydau mudiad, rhaid i\u2019r mudiad drefnu yswiriant priodol a gwirio bod gwirfoddolwyr yn gallu gyrru\u2019r cerbydau ar gyfer y gweithgareddau sydd eu hangen.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwirfoddolwyr sy\u2019n defnyddio eu cerbydau eu hunain<\/h3>\n\n\n\n<p>Dylai gwirfoddolwyr sy\u2019n defnyddio eu cerbyd eu hunain ar gyfer gwirfoddoli feddu ar yswiriant modur dilys, MOT lle y bo angen a thrwydded yrru ddilys.<\/p>\n\n\n\n<p>Dylai gwirfoddolwyr roi gwybod i\u2019w cwmni yswiriant eu bod yn defnyddio\u2019r cerbyd i wirfoddoli ac ni ddylai hyn arwain at unrhyw bremiwm ychwanegol os yw\u2019r yswiriwr wedi cofrestru i <a href=\"https:\/\/www.abi.org.uk\/products-and-issues\/choosing-the-right-insurance\/motor-insurance\/volunteer-drivers\/\">Ymrwymiad Gyrwyr Gwirfoddol Cymdeithas Yswirwyr Prydain (ABI)<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Dylai mudiadau ofyn i wirfoddolwyr gadarnhau bod eu hyswiriwr wedi derbyn bod y cerbyd yn cael ei ddefnyddio i wirfoddoli.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n bwysig nad yw\u2019r gwirfoddolwr yn derbyn mwy na chyfradd milltiroedd safonol CThEF ar gyfer milltiroedd gwirfoddoli. Fel arall, gallai hyn annilysu\u2019r polisi a gallai fod angen iddo dalu treth.<\/p>\n\n\n\n<p>Os oes gan wirfoddolwr yswiriant trydydd parti yn unig, efallai na fydd hyn yn cwmpasu dwyn eiddo\u2019r mudiad o gar y gwirfoddolwr.<\/p>\n\n\n\n<p>Os bydd gyrrwr yn cael damwain wrth wirfoddoli a bod problem gydag yswiriant y cerbyd, gallai\u2019r mudiad gael ei ddal yn gyfrifol, p\u2019un a yw\u2019n berchen ar y cerbyd ai peidio.<\/p>\n\n\n\n<p>Dylai mudiadau hefyd wirio a oes yswiriant ychwanegol ar gael i ddiogelu bonws dim hawliadau gwirfoddolwr yn dilyn digwyddiad wrth wirfoddoli.<\/p>\n\n\n\n<p>Efallai yr hoffech ystyried ychwanegu gyrwyr gwirfoddol at eich polisi atebolrwydd cyhoeddus.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Bysiau mini a cherbydau arbenigol<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/driving-a-minibus\">Cymerwch ofal arbennig gyda bysiau mini,<\/a> cerbydau wedi\u2019u haddasu a cherbydau arbenigol. Efallai y bydd angen trwydded benodol ar yrwyr. Dylai\u2019r mudiad wirio yswiriant, gofynion o ran y drwydded ac unrhyw gyfyngiadau cyn i\u2019r gweithgaredd ddigwydd.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"additional\"><strong>Yswiriant ychwanegol i\u2019w ystyried<\/strong><strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Yswiriant indemniad proffesiynol<\/h3>\n\n\n\n<p>Os yw gwirfoddolwyr yn ymwneud \u00e2 rhoi cyngor, arweiniad neu gymorth proffesiynol i\u2019r cyhoedd, efallai yr hoffech ystyried yswiriant indemniad proffesiynol. Gall yr yswiriant hwn helpu i gwmpasu hawliadau am anaf, difrod neu golled sy\u2019n deillio o gyngor anghywir neu wael neu gamgymeriad. Os oes gan eich mudiad y math hwn o bolisi, gwiriwch fod gwirfoddolwyr wedi\u2019u cwmpasu\u2019n benodol.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn dibynnu ar y polisi, gall yswiriant atebolrwydd proffesiynol hefyd gynnwys materion fel difenwi, torri hawlfraint yn anfwriadol, torri cyfrinachedd a cholli dogfennau.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Yswiriant atebolrwydd \/ indemniad ymddiriedolwyr<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n bosibl trefnu yswiriant i gwmpasu ymddiriedolwyr yn achos colled ariannol sy\u2019n deillio o weithredoedd ymddiriedolwr. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn cwmpasu gweithredoedd diofal, anonest neu droseddol felly ni ddylid ei ddefnyddio yn lle llywodraethu cadarn a goruchwyliaeth briodol.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Yswiriant atebolrwydd cynnyrch<\/h3>\n\n\n\n<p>Os yw eich mudiad yn cynhyrchu, yn atgyweirio, yn gosod neu\u2019n gwerthu nwyddau, ystyriwch a oes angen yswiriant atebolrwydd cynnyrch. Gall hyn gynnwys nwyddau fel bwyd a brynir trwy gaffi cymunedol, lluniaeth mewn digwyddiad, cynhyrchion wedi\u2019u gwneud \u00e2 llaw neu nwyddau a roddir i\u2019r cyhoedd.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"special\">Digwyddiadau arbennig a gweithgareddau untro<\/h2>\n\n\n\n<p>Os yw digwyddiad y tu allan i\u2019ch ystod arferol o weithgareddau, efallai na fydd yswiriant presennol yn ei gwmpasu. Gwiriwch gyda\u2019ch yswiriwr cyn cynnal digwyddiadau fel gwyliau, part\u00efon stryd cymunedol, caffis atgyweirio, teithiau gr\u0175p, heriau noddedig neu ddigwyddiadau cyhoeddus untro mawr.<\/p>\n\n\n\n<p>Os yw offer yn cael ei logi e.e. castell bownsio, pabell neu lwyfan (gyda neu heb weithredwr), gwiriwch pwy sy\u2019n gyfrifol am yswiriant a goruchwyliaeth. Hyd yn oed os yw gweithredwr yn bresennol, efallai y bydd gan y mudiad gyfrifoldebau o hyd. Darllenwch ac adolygwch unrhyw ymwadiadau sydd angen eu llofnodi yn ofalus.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"esv\">Gwirfoddoli \u00e2 chymorth cyflogwyr<\/h2>\n\n\n\n\n\n<p>Fel y mudiad lletyol, gwnewch yn si\u0175r bod yswiriant priodol ar waith i gyflogeion mudiadau allanol ymgymryd \u00e2 gweithgarwch gwirfoddoli i\u2019ch mudiad. Hefyd, cadarnhewch a ydynt wedi\u2019u cwmpasu gan eich polis\u00efau, polis\u00efau eu cyflogwr neu\u2019r ddau.<\/p>\n\n\n\n<p>Os yw myfyriwr ar leoliad gwirfoddol, mae angen i\u2019r cwmni yswiriant wybod oherwydd efallai y bydd cyfyngiadau oedran, gofynion goruchwylio neu eithriadau sy\u2019n effeithio ar eich yswiriant.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"checklist\">Rhestr wirio ymarferol ar gyfer yswiriant<\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gwiriwch a yw gwirfoddolwyr wedi\u2019u cwmpasu\u2019n benodol gan bolis\u00efau yswiriant presennol.<\/li>\n\n\n\n<li>Cadarnhewch fod yr holl weithgareddau, lleoliadau a rolau gwirfoddoli yn cael eu cwmpasu.<\/li>\n\n\n\n<li>Adolygwch yr yswiriant pryd bynnag y bydd rolau gwirfoddoli, grwpiau buddiolwyr neu weithgareddau yn newid.<\/li>\n\n\n\n<li>Siaradwch \u00e2\u2019ch yswiriwr cyn dechrau gweithgareddau newydd, anarferol neu risg uwch.<\/li>\n\n\n\n<li>Gwiriwch a oes terfynau oedran neu a oes unrhyw eithriadau neu weithgareddau risg uchel yn berthnasol.<\/li>\n\n\n\n<li>Cadwch gofnodion o wiriadau ar gyfer gyrwyr gwirfoddol, gan gynnwys trwydded yrru, MOT a chadarnhad yswiriant.<\/li>\n\n\n\n<li>Sicrhewch fod gwirfoddolwyr yn gwybod pa weithgareddau sy\u2019n cael eu cwmpasu a phwy i gysylltu \u00e2 nhw os nad ydynt yn si\u0175r.<\/li>\n\n\n\n<li>Gwnewch yn si\u0175r bod ymddiriedolwyr yn deall beth sy\u2019n cael ei gwmpasu a beth nad yw\u2019n cael ei gwmpasu gan yswiriant indemniad ymddiriedolwyr.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"questions\">Cwestiynau i\u2019w gofyn i\u2019ch yswiriwr<\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>A yw gwirfoddolwyr wedi\u2019u cwmpasu\u2019n benodol o dan ein polis\u00efau?<\/li>\n\n\n\n<li>A yw ymddiriedolwyr wedi\u2019u cwmpasu ar wah\u00e2n neu o dan yr un polis\u00efau?<\/li>\n\n\n\n<li>A yw gwirfoddolwyr wedi\u2019u cwmpasu oddi ar y safle, ar-lein, yn yr awyr agored, yng nghartrefi pobl ac mewn digwyddiadau?<\/li>\n\n\n\n<li>A oes terfynau oedran neu unrhyw eithriadau neu gyfyngiadau ar weithgareddau risg uwch?<\/li>\n\n\n\n<li>A yw gyrwyr gwirfoddol wedi\u2019u cwmpasu wrth ddefnyddio cerbydau sy\u2019n eiddo i\u2019r mudiad neu eu cerbydau eu hunain?<\/li>\n\n\n\n<li>A oes angen yswiriant ychwanegol arnom ar gyfer digwyddiadau, teithiau neu weithgareddau cyhoeddus untro?<\/li>\n\n\n\n<li>Pa gofnodion sydd angen i ni eu cadw i ddangos bod yr yswiriant yn ddilys?<\/li>\n\n\n\n<li>A yw\u2019r terfynau polisi yn ddigonol ar gyfer y risgiau sy\u2019n gysylltiedig \u00e2\u2019n gweithgareddau?<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"information\">Gwybodaeth bellach<\/h2>\n\n\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/investinginvolunteers.co.uk\/\"> <\/a><\/p>\n\n\t<\/div>\n\n\n\n<div class=\"col-12 col-md-3\">\n\t\t\t\n\n\t<\/div>\n\n<\/div>\n\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Nod y wybodaeth hon yw helpu mudiadau i ddeall y prif fathau o yswiriant a all fod yn berthnasol i wirfoddolwyr. Ni ddylid ei defnyddio yn lle cyngor proffesiynol a dylai mudiadau wirio eu polis\u00efau eu hunain gyda\u2019u hyswiriwr bob amser.<\/p>\n","protected":false},"author":2205,"featured_media":1975,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"ep_exclude_from_search":false,"footnotes":""},"categories":[760],"tags":[770,3099,724],"class_list":["post-26788","resource","type-resource","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-gwirfoddoli","tag-hr","tag-insurance","tag-volunteering","pillar-gwirfoddoli"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Yswiriant i wirfoddolwyr: canllaw i fudiadau | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Nod y wybodaeth hon yw helpu mudiadau i ddeall y prif fathau o yswiriant a all fod yn berthnasol i wirfoddolwyr.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/yswiriant-i-wirfoddolwyr-canllaw-i-fudiadau\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Yswiriant i wirfoddolwyr: canllaw i fudiadau | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Nod y wybodaeth hon yw helpu mudiadau i ddeall y prif fathau o yswiriant a all fod yn berthnasol i wirfoddolwyr.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/yswiriant-i-wirfoddolwyr-canllaw-i-fudiadau\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-11-03T16:09:26+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/person-in-white-long-sleeve-shirt-using-a-tablet-computer-3740190.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1707\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"7 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/yswiriant-i-wirfoddolwyr-canllaw-i-fudiadau\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/yswiriant-i-wirfoddolwyr-canllaw-i-fudiadau\/\",\"name\":\"Yswiriant i wirfoddolwyr: canllaw i fudiadau | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/yswiriant-i-wirfoddolwyr-canllaw-i-fudiadau\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/yswiriant-i-wirfoddolwyr-canllaw-i-fudiadau\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/person-in-white-long-sleeve-shirt-using-a-tablet-computer-3740190.jpg\",\"datePublished\":\"2026-11-03T15:06:11+00:00\",\"dateModified\":\"2026-11-03T16:09:26+00:00\",\"description\":\"Nod y wybodaeth hon yw helpu mudiadau i ddeall y prif fathau o yswiriant a all fod yn berthnasol i wirfoddolwyr.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/yswiriant-i-wirfoddolwyr-canllaw-i-fudiadau\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/yswiriant-i-wirfoddolwyr-canllaw-i-fudiadau\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/yswiriant-i-wirfoddolwyr-canllaw-i-fudiadau\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/person-in-white-long-sleeve-shirt-using-a-tablet-computer-3740190.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/person-in-white-long-sleeve-shirt-using-a-tablet-computer-3740190.jpg\",\"width\":2560,\"height\":1707,\"caption\":\"Cydweithwyr yn mynd drwy ddogfennau\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/yswiriant-i-wirfoddolwyr-canllaw-i-fudiadau\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Yswiriant i wirfoddolwyr: canllaw i fudiadau\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"description\":\"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"width\":512,\"height\":512,\"caption\":\"Hwb Gwybodaeth\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Yswiriant i wirfoddolwyr: canllaw i fudiadau | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","description":"Nod y wybodaeth hon yw helpu mudiadau i ddeall y prif fathau o yswiriant a all fod yn berthnasol i wirfoddolwyr.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/yswiriant-i-wirfoddolwyr-canllaw-i-fudiadau\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Yswiriant i wirfoddolwyr: canllaw i fudiadau | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","og_description":"Nod y wybodaeth hon yw helpu mudiadau i ddeall y prif fathau o yswiriant a all fod yn berthnasol i wirfoddolwyr.","og_url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/yswiriant-i-wirfoddolwyr-canllaw-i-fudiadau\/","og_site_name":"Hwb Gwybodaeth","article_modified_time":"2026-11-03T16:09:26+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1707,"url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/person-in-white-long-sleeve-shirt-using-a-tablet-computer-3740190.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"7 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/yswiriant-i-wirfoddolwyr-canllaw-i-fudiadau\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/yswiriant-i-wirfoddolwyr-canllaw-i-fudiadau\/","name":"Yswiriant i wirfoddolwyr: canllaw i fudiadau | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","isPartOf":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/yswiriant-i-wirfoddolwyr-canllaw-i-fudiadau\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/yswiriant-i-wirfoddolwyr-canllaw-i-fudiadau\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/person-in-white-long-sleeve-shirt-using-a-tablet-computer-3740190.jpg","datePublished":"2026-11-03T15:06:11+00:00","dateModified":"2026-11-03T16:09:26+00:00","description":"Nod y wybodaeth hon yw helpu mudiadau i ddeall y prif fathau o yswiriant a all fod yn berthnasol i wirfoddolwyr.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/yswiriant-i-wirfoddolwyr-canllaw-i-fudiadau\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/yswiriant-i-wirfoddolwyr-canllaw-i-fudiadau\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/yswiriant-i-wirfoddolwyr-canllaw-i-fudiadau\/#primaryimage","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/person-in-white-long-sleeve-shirt-using-a-tablet-computer-3740190.jpg","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/person-in-white-long-sleeve-shirt-using-a-tablet-computer-3740190.jpg","width":2560,"height":1707,"caption":"Cydweithwyr yn mynd drwy ddogfennau"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/yswiriant-i-wirfoddolwyr-canllaw-i-fudiadau\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Yswiriant i wirfoddolwyr: canllaw i fudiadau"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","name":"Hwb Gwybodaeth","description":"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.","publisher":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization","name":"Hwb Gwybodaeth","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","width":512,"height":512,"caption":"Hwb Gwybodaeth"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/26788","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2205"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/26788\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":26791,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/26788\/revisions\/26791"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1975"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=26788"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=26788"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=26788"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}