{"id":22762,"date":"2026-03-02T14:30:50","date_gmt":"2026-03-02T14:30:50","guid":{"rendered":""},"modified":"2026-03-18T15:05:37","modified_gmt":"2026-03-18T15:05:37","slug":"rheoli-adeiladau-rhwymedigaethau-cyfreithiol-ac-atebolrwydd-cost","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-rhwymedigaethau-cyfreithiol-ac-atebolrwydd-cost\/","title":{"rendered":"Rheoli adeiladau &#8211; rhwymedigaethau cyfreithiol ac atebolrwydd cost"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-bootstrap-blocks-container container mb-2\">\n\t\n<div class=\"wp-bootstrap-blocks-row row\">\n\t\n\n<div class=\"col-12 col-md-9\">\n\t\t\t\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Ar y dudalen hon<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"#Overview\">Trosolwg<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#Introduction\">Cyflwyniad<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#Rates\">Ardrethi a threthi<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#Fuel\">Cyflenwadau tanwydd ac ynni<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#Water\">Costau d\u0175r a charthffosiaeth<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#Insurance\">Yswiriant<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#Further\">Gwybodaeth Bellach<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Overview\"><strong>Trosolwg<\/strong> <\/h2>\n\n\n\n<p>Bwriad yr adnodd hon yw rhoi trosolwg o\u2019r prif bethau y bydd angen i reolwyr adeiladau cymunedol eu hystyried mewn perthynas \u00e2 chyflawni eu hymrwymiadau cyfreithiol ac atebolrwydd cost wrth redeg eu hadeilad(au). <\/p>\n\n\n\n<p>Dylid darllen y dudalen hon ar y cyd \u00e2 \u2018Rheoli adeiladu &#8211; Gweithrediadau o ddydd i ddydd\u2019 sy\u2019n ymdrin \u00e2 chyfrifoldebau cyfreithiol eraill megis Iechyd a Diogelwch. <\/p>\n\n\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Introduction\"><strong>Cyflwyniad<\/strong> <\/h2>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r wybodaeth yn ymdrin yn benodol \u00e2\u2019r canlynol: <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ardrethi a threthi <\/li>\n\n\n\n<li>Cyflenwadau tanwydd ac ynni <\/li>\n\n\n\n<li>Yswiriant <\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Bydd rhai o\u2019r goblygiadau cyfreithiol a\u2019r atebolrwydd cost hyn yn bethau cyffredinol i bob mudiad, ond bydd eraill yn amrywio yn \u00f4l statws cyfreithiol eich mudiad. Caiff unrhyw amrywiadau eu hesbonio. <\/p>\n\n\n\n<p>Noder, trosolwg yw\u2019r wybodaeth a ddarperir yma. Dylai bwrdd ymddiriedolwyr \/ rheolwyr eich mudiad ystyried bob amser eu hymrwymiadau fel y c\u00e2nt eu nodi yn nogfen llywodraethu eu mudiad ac, os oes unrhyw amheuaeth, dylid cael cyngor gan y cyrff perthnasol a \/ neu\u2019r bobl broffesiynol gymwys, yn enwedig lle caiff risgiau eu nodi. Ar ddiwedd y daflen wybodaeth hon, rhestrir rhai ffynonellau allweddol sy\u2019n darparu gwybodaeth fanylach ychwanegol.   <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Rates\"><strong>Ardrethi a Threthi<\/strong> <\/h2>\n\n\n\n<p>Fel rheolwyr adeilad cymunedol, rhaid i chi ystyried eich atebolrwydd i dalu ardrethi a threthi i un neu fwy o gyrff cyhoeddus. <\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Ardrethi<\/strong> <\/h3>\n\n\n\n<p>Caiff ardrethi eu casglu gan eich awdurdod lleol ac mae pob mudiad y mae ei amcanion yn rhai elusennol (pa un a yw\u2019n elusen gofrestredig ai peidio) yn gymwys i gael rhyddhad gorfodol o 80% ar <strong>Ardrethi Annomestig Cenedlaethol<\/strong> lle defnyddir yr adeilad yn gyfan gwbl neu\u2019n bennaf at ddibenion elusennol. Rhaid gwneud cais am y rhyddhad ardrethi hwn ac mae gan awdurdodau lleol y pwerau i roi rhyddhad ardrethi ychwanegol yn \u00f4l disgresiwn hyd at 100%. Bydd yr awdurdod perthnasol yn penderfynu ar bob achos ar sail teilyngdod. Mae\u2019r meini prawf ar gyfer gwneud penderfyniad yn cynnwys pethau fel:   <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Hygyrchedd \u2013 ar gyfer yr ystod lawn o bobl \/ grwpiau o fewn cymuned; <\/li>\n\n\n\n<li>Y mathau o wasanaethau a ddarperir \u2013 er enghraifft, er mwyn helpu i ddatblygu sgiliau pobl sy\u2019n byw\u2019n lleol, yn enwedig y rheini sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd; <\/li>\n\n\n\n<li>A yw ei ddarpariaeth yn rhyddhau&#8217;r awdurdod o&#8217;r angen i wneud ei ddarpariaeth ei hun, yn uniongyrchol neu\u2019n anuniongyrchol. <\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae angen gwneud ceisiadau i\u2019r awdurdod lleol am y rhyddhad ychwanegol yn \u00f4l disgresiwn bob blwyddyn hefyd. <\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Treth Gorfforaeth<\/strong> <\/h3>\n\n\n\n<p>Treth gorfforaeth yw\u2019r dreth a osodir ar elw busnesau a mudiadau sy\u2019n ymwneud \u00e2 masnachu. Mae\u2019r gyfradd yn amrywio ac fe\u2019i hamlinellir yng nghyllidebau\u2019r llywodraeth. O fis Ebrill 2023\/4, gosodwyd y gyfradd ar 25%. Gallai elusennau sy\u2019n ymgymryd \u00e2 masnach gael eu heithrio o dalu Treth Gorfforaeth mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig:    <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae\u2019r gweithgareddau masnachu yn cyd-fynd yn uniongyrchol ag amcanion eich elusen \u2013 gelwir hyn yn \u2018masnachu prif ddiben\u2019 <\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019r gweithgaredd masnachu yn ymwneud yn uniongyrchol \u00e2\u2019ch buddiolwyr, er enghraifft; pan fyddwch yn gwerthu nwyddau wedi\u2019u gwneud ganddyn nhw mewn gweithdy gwarchod neu gynllun hyfforddi. <\/li>\n\n\n\n<li>Pan fyddwch yn \u2018masnachu\u2019n achlysurol\u2019, megis mewn ffair sborion fel rhan o ddigwyddiad codi arian.<\/li>\n\n\n\n<li>Pan na fydd eich masnachu yn \u2018brif ddiben\u2019 ond ar raddfa fach yn ei hanfod a heb fod yn fwy na \u2018Therfynau Trosiant Blynyddol\u2019 penodedig \u2013 ar hyn o bryd, mae\u2019r rhain wedi\u2019u gosod ar <strong>\u00a35,000 neu 25% o incwm gros yr elusen hyd at uchafswm o \u00a350,000.<\/strong> <\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Os yw incwm masnachu elusen yn fwy na\u2019r terfynau hyn, gall fod yn ddarostyngedig i Dreth Gorfforaeth ar yr elw o\u2019r gweithgareddau masnachu sydd y tu allan i brif ddiben yr elusen. Bydd masnachu gan fusnesau corfforedig (gan gynnwys Cwmn\u00efau Buddiannau Cymunedol) sydd \u00e2 nodau cymdeithasol neu fel arall, yn ddarostyngedig i Dreth Gorfforaeth yn naturiol.  <\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r gyfraith sy\u2019n ymwneud \u00e2 Threth Gorfforaeth a masnachu ar gyfer elusennau a chwmn\u00efau elusennol yn gymhleth a dylid ond defnyddio\u2019r crynodeb uchod o\u2019r prif ddarpariaethau fel man cychwyn i\u2019ch ymchwil ar nodi atebolrwydd eich mudiad i dalu Treth Gorfforaeth. Mae gan <strong>CThEF<\/strong> dudalen benodol ar gyfer elusennau ar ei wefan \u2013 gweler \u2018Gwybodaeth Bellach\u2019 isod. Fe\u2019ch cynghorir yn gryf i gael cyngor proffesiynol yn y maes hwn bob amser.  <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Gwybodaeth bwysig<\/strong> <\/p>\n\n\n\n<p>Os bydd CThEF yn gofyn i chi lenwi Ffurflen Treth Gorfforaeth, rhaid i chi ymateb hyd yn oed os nad oes treth yn ddyledus gennych. Os na fyddwch yn cyflwyno ffurflen mewn pryd, gallech gael dirwy.  <\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>TAW<\/strong> <\/h3>\n\n\n\n<p>Yn aml, mae camsyniad nad yw elusennau yn talu TAW. Er bod rhai eitemau a all fod wedi&#8217;u heithrio rhag TAW ar gyfer elusen, nid oes eithriad cyffredinol.  <\/p>\n\n\n\n<p><strong>TAW ar Bryniannau:<\/strong> Ychwanegir TAW at bryniannau ar gyfer defnydd personol a busnes, gan gynnwys y rhai ar gyfer adeiladau cymunedol neu elusennau. Fodd bynnag, gall elusennau a mudiadau nid-er-elw fod yn gymwys ar gyfer eithriadau TAW neu ryddhad ar rai pryniannau, megis costau ynni neu nwyddau cymwys. Y cwestiwn allweddol yw a oes angen i chi godi TAW ar gwsmeriaid ar gyfer y nwyddau a\u2019r gwasanaethau a ddarperir gennych chi ai peidio?   <\/p>\n\n\n\n<p>Yr ateb syml yw y bydd angen i chi gofrestru i gasglu a thalu TAW:<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Trothwy Cofrestru TAW:<\/strong> os yw cyfanswm trosiant trethadwy eich mudiad yn fwy na\u2019r trothwy cofrestru TAW (sef \u00a385,000 ym mis Ebrill 2020), yna rhaid i chi gofrestru ar gyfer TAW. Mae hyn yn cynnwys yr holl incwm o weithgareddau nad ydynt wedi&#8217;u heithrio rhag TAW, megis gwerthu nwyddau neu wasanaethau (ond nid yw&#8217;n cynnwys grantiau, rhoddion, ac ati). Mae&#8217;n hanfodol monitro trosiant yn ofalus i sicrhau cydymffurfedd.   <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Incwm wedi\u2019i Eithrio ac Incwm Di-dreth:<\/strong> Pan fyddwch yn cyfrifo trosiant, mae incwm o weithgareddau fel llogi ystafelloedd, grantiau, rhoddion, ac incwm buddsoddi fel arfer wedi&#8217;i eithrio rhag TAW. Mae bob amser yn syniad da cadarnhau hyn gyda CThEF neu arbenigwr TAW, oherwydd gall rheolau TAW fod yn gymhleth iawn, yn enwedig yn achos incwm defnydd cymysg (e.e. llogi a gosod ystafelloedd).  <\/p>\n\n\n\n<p>Fe\u2019ch cynghorir i ofyn cyngor <strong>CThEF<\/strong> neu rywun proffesiynol sydd \u00e2 gwybodaeth arbenigol. Os yw cyfanswm eich trosiant yn agos\u00e1u at y trothwy a\/neu os nad ydych yn si\u0175r a oes angen i chi gofrestru ai peidio, byddai\u2019n werth holi <strong>CThEF<\/strong> gan fod y dirwyon am beidio \u00e2 chofrestru neu gofrestru\u2019n hwyr yn gallu bod yn sylweddol.  <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Ffurflenni TAW a Chadw Cofnodion:<\/strong> Ar \u00f4l cofrestru ar gyfer TAW, rhaid i fudiadau gadw cofnodion manwl o\u2019r TAW a dalwyd ar bryniannau (TAW wrth brynu) a\u2019r TAW a godir ar werthiannau (TAW wrth werthu). Fel arfer caiff ffurflenni TAW eu ffeilio bob chwarter, a byddwch yn talu\u2019r gwahaniaeth rhwng TAW wrth werthu a TAW wrth brynu i CThEF. Os ydych wedi talu mwy o TAW wrth brynu na\u2019r TAW a godwyd wrth werthu, gallwch adennill y gwahaniaeth.   <\/p>\n\n\n\n<p>Mae faint o TAW rydych yn ei chodi ar eich cwsmeriaid yn dibynnu ar yr hyn rydych chi\u2019n ei werthu. Ym mis Ebrill 2020 ceir tair cyfradd TAW:  <\/p>\n\n\n\n<p>Y \u2018gyfradd safonol\u2019 a osodir ar 20%, <\/p>\n\n\n\n<p>\u2018Cyfradd is\u2019 o 5% <\/p>\n\n\n\n<p>\u2018Cyfradd sero\u2019 sy\u2019n golygu bod TAW yn dechnegol berthnasol ond y gyfradd yw 0%. Mae angen i chi gofnodi pryniannau cyfradd sero ar eich ffurflenni TAW o hyd.  <\/p>\n\n\n\n<p>Mae nifer o fudiadau\u2019n cael eu dal allan gyda TAW pan fyddant yn gwneud prosiectau wedi\u2019u cyllido gan grant ac, yn achosion prosiectau adeiladu, gall hyn weithiau ddod i ddegau o filoedd o bunnoedd. Felly, mae\u2019n hanfodol eich bod yn astudio\u2019r canllawiau gan gyllidwyr ar TAW pan fyddwch yn gwneud cais am y grant. Dylech hefyd ystyried sut y gallai prosiect wedi\u2019i gyllido gan grant effeithio ar statws cofrestru TAW eich mudiad. Unwaith eto, dylech geisio\u2019r cyngor perthnasol gan <strong>CThEF<\/strong> a siarad \u00e2 chyfrifydd neu arbenigwr TAW.    <\/p>\n\n\n\n<p>Os mai elusen yw eich mudiad, yna bydd gofyn i chi dalu TAW o hyd os bydd eich mudiad wedi cyrraedd y trothwy trosiant, ond gallai rhai o\u2019r nwyddau a\u2019r gwasanaethau a gyflenwir gennych fod \u00e2 chyfradd sero. Mae\u2019r rhain yn cynnwys consesiynau ar ddigwyddiadau codi arian penodol, gwerthu nwyddau a roddwyd, mathau penodol o brosiectau adeiladu, cymhorthion anabledd, hysbysebu, ac ati (am ragor o arweiniad ar hyn dylech gysylltu \u00e2 <strong>CThEF<\/strong>). Hefyd, mae\u2019n werth cadarnhau nad yw\u2019r gyfradd safonol yn cael ei chodi ar yr eitemau hyn.   <\/p>\n\n\n\n<p>I grynhoi &#8211; mae TAW ar gyfer elusennau a mudiadau cymunedol yn gymhleth, yn enwedig o ran yr hyn sydd wedi&#8217;i eithrio neu sydd ar gyfradd sero. Mae&#8217;n hanfodol deall eich rhwymedigaethau TAW penodol, yn enwedig os yw eich incwm yn nes\u00e1u at y trothwy cofrestru TAW, neu os ydych yn ymgymryd \u00e2 phrosiectau adeiladu sylweddol neu brosiectau sylweddol a ariennir gan grantiau. Cofiwch bob amser ofyn cyngor CThEF neu arbenigwr TAW i sicrhau cydymffurfedd ac i osgoi costau annisgwyl.   <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-medium\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"720\" height=\"481\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Community-building-720x481.jpg\" alt=\"Dyn yn gwneud DIY mewn ystafell mewn t\u0177 wrth i gi bach ei wylio\" class=\"wp-image-22756\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Community-building-720x481.jpg 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Community-building-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Community-building-768x513.jpg 768w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Community-building-360x240.jpg 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Community-building-624x416.jpg 624w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Community-building.jpg 1290w\" sizes=\"auto, (max-width: 720px) 100vw, 720px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>Gwybodaeth<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Os oes gennych chi is-gorff masnachol, bydd yn elwa ar rai ond nid pob un o freiniau TAW ei riant elusen, cyhyd \u00e2 bod cytundeb ffurfiol i elw masnachol ar werthiannau perthnasol gael ei drosglwyddo i\u2019r elusen. <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Fuel\"><strong>Cyflenwadau tanwydd ac ynni<\/strong> <\/h2>\n\n\n\n<p>Caiff cyflenwadau tanwydd ac ynni adeilad a ddefnyddir yn gyfan gwbl at ddibenion domestig neu ar gyfer gweithgareddau elusennol nad ydynt yn rhai busnes (\u2018dibenion cymwys\u2019) eu trethu ar 5% (mae llogi ystafelloedd yn weithgaredd busnes, felly hefyd aelodaeth sy\u2019n rhoi buddion sylweddol). <\/p>\n\n\n\n<p>Os defnyddir o leiaf 60% o\u2019r adeilad at ddiben cymwys, yna gellir prisio\u2019r cyflenwadau tanwydd ac ynni ar 5%; os defnyddir llai, gellir dosrannu cyflenwadau tanwydd ac ynni rhwng defnyddiau cymwys ac anghymwys, gyda\u2019r gyfran anghymwys wedi\u2019i threthu ar 20%. Yn ogystal \u00e2\u2019r enghreifftiau hyn, caiff cyflenwadau tanwydd ac ynni o dan symiau isel penodol a nodir eu trethu ar 5%, beth bynnag fo\u2019r defnydd a wneir o\u2019r adeilad.  <\/p>\n\n\n\n<p>Treth yw\u2019r <strong>Ardoll Newid yn yr Hinsawdd (CCL)<\/strong> a osodir ar yr ynni a ddefnyddir gan fusnesau a\u2019r sector cyhoeddus. Daeth i rym ar 1 Ebrill 2001, a chafodd ei chyflwyno fel rhan o ymrwymiad Prydain o dan <strong>Gytundeb Kyoto<\/strong> i leihau ei hallyriadau nwyon t\u0177 gwydr. Fel arfer, mae\u2019r <strong>CCL<\/strong> yn daladwy ar gyflenwadau trydan, nwy (gan gynnwys nwy petroliwm hylifol &#8211; LPG) a glo i fusnesau.  <\/p>\n\n\n\n<p>Nid yw olew tanwydd yn ddarostyngedig i <strong>CCL<\/strong>, gan ei fod eisoes yn ddarostyngedig i dollau cartref. Mae\u2019r rheolau atebolrwydd i dalu\u2019r dreth hon yn dilyn rheolau TAW cyfredol, fel na fydd CCL yn cael ei chodi ar gyflenwadau y codir treth ar gyfradd o 5% arnynt ar hyn o bryd, ond bydd cyflenwadau y codir t\u00e2l o 20% arnynt ar hyn o bryd yn ddarostyngedig i <strong>CCL<\/strong>.  <\/p>\n\n\n\n<p>Felly, nid yw\u2019r ardoll yn berthnasol i ynni a ddefnyddir gan elusennau cofrestredig at ddibenion nad ydynt yn rhai busnes. Caiff y dreth ei chasglu gan gyflenwyr ynni a\u2019i thalu ganddynt i <strong>Dollau Tramor a Chartref EF<\/strong>. Caiff ei hychwanegu at filiau ynni cyn TAW ac, er nad oes gofyniad cyfreithiol i wneud hynny, mae\u2019n debygol y bydd cyflenwyr yn ei dangos fel eitem ar wah\u00e2n ar filiau.   <\/p>\n\n\n\n<p>Ni chodir <strong>CCL<\/strong> ar gyflenwadau tanwydd at ddefnydd domestig, a chaiff safleoedd busnes eu heithrio lle mai dim ond ychydig o danwydd a ddefnyddir. Gellir lliniaru atebolrwydd i dalu <strong>CCL<\/strong> hefyd drwy fesurau i leihau defnydd o ynni \u2013 drwy well inswleiddio, gosod ffenestri gwydr dwbl, defnyddio bylbiau golau sy\u2019n defnyddio ynni\u2019n effeithlon, prynu cyfarpar sy\u2019n defnyddio ynni\u2019n effeithlon, ac yn y blaen. Gellir hefyd leihau atebolrwydd i dalu <strong>CCL<\/strong> drwy dderbyn opsiwn i gymryd cyflenwad trydan cyfan, neu ran ohono, o ffynonellau ynni adnewyddadwy sydd wedi\u2019u hieithrio.   <\/p>\n\n\n\n<p>Bydd <strong>CThEF<\/strong> yn pennu union ddiffiniad y ffynonellau hyn, a bydd y diffiniad yn newid o bryd i\u2019w gilydd wrth i dechnoleg ddatblygu. Byddant yn cynnwys ffynonellau megis ynni gwynt ar y tir ac ar y m\u00f4r, ynni d\u0175r ar raddfa fach, cnydau ynni, ynni o wastraff, nwyon tirlenwi, ynni tonnau ac ynni\u2019r haul.  <\/p>\n\n\n\n<p>Fel arfer, mae trydan a gynhyrchir yn y ffyrdd hyn yn ddrytach na thrydan a gynhyrchir drwy ddulliau mwy confensiynol, o ganlyniad i\u2019r costau cyfalaf uchel a (fel arfer) graddfa gymharol fach gosodiadau newydd, ond bwriedir i\u2019r eithriad rhag talu <strong>CCL<\/strong> wrthbwyso\u2019r costau hyn. <\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych yn credu nad oes angen i chi dalu CCL ond mae eich cyflenwr ynni yn codi amdani, dylech gysylltu \u00e2\u2019ch cyflenwr yn y lle cyntaf. <\/p>\n\n\n\n<p>Yn yr un modd, dylai eich cyflenwr allu rhoi cyngor a chymorth i chi ar faterion eraill yn ymwneud \u00e2 <strong>CCL<\/strong>. Fel arall, dylai eich swyddfa <strong>CThEF<\/strong> allu eich helpu.  <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Water\"><strong>Costau d\u0175r a charthffosiaeth<\/strong> <\/h2>\n\n\n\n<p>Codir costau d\u0175r a charthffosiaeth gan gwmn\u00efau d\u0175r wedi\u2019u preifateiddio. Mae gennych chi\u2019r opsiwn o gael eich cyflenwad d\u0175r drwy fesurydd er mwyn talu am y d\u0175r a ddefnyddir gennych. Bydd angen i chi dalu t\u00e2l sefydlog o hyd, waeth faint o dd\u0175r rydych yn ei ddefnyddio. Does dim cyfradd dreth ar gyflenwadau d\u0175r, oni bai bod y cyflenwad ar gyfer cwsmer diwydiannol.    <\/p>\n\n\n\n<p>Mae angen i chi wneud cais bob blwyddyn i\u2019r cwmni d\u0175r er mwyn cael eich cyflenwad d\u0175r ar y gyfradd sero. Cyfrifoldeb y cyflenwr d\u0175r yw penderfynu a yw\u2019r cwsmer yn defnyddio d\u0175r mewn cysylltiad \u00e2 gweithgaredd diwydiannol ai peidio. Os ydych yn credu bod TAW yn cael ei hychwanegu\u2019n anghywir, dylech gysylltu \u00e2\u2019r cwmni d\u0175r perthnasol yn y lle cyntaf.   <\/p>\n\n\n\n<p>Dylai eich cwmni d\u0175r allu rhoi syniad bras i chi o faint o dd\u0175r y byddwch yn ei ddefnyddio, a\u2019r gost. Mae\u2019n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu am osod y mesurydd hefyd, ond bydd rhai cwmn\u00efau\u2019n gosod mesurydd yn rhad ac am ddim, ac yn caniat\u00e1u blwyddyn i chi gymharu costau.  <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Gwybodaeth<\/strong> <\/p>\n\n\n\n<p>Gall naill ai\u2019r awdurdod d\u0175r neu beirianwyr preifat osod y mesurydd d\u0175r. Mae rhai cwmn\u00efau\u2019n cynnig arbedion gwarantedig.  <\/p>\n\n\n\n<p>Argymhellir eich bod yn darllen y \u2018print m\u00e2n\u2019 cyn llofnodi unrhyw gytundeb. <\/p>\n\n\n\n<p>OFWAT \u2013 y Swyddfa Gwasanaethau D\u0175r \u2013 yw\u2019r mudiad sy\u2019n gwarchod buddiannau defnyddwyr d\u0175r. Mae ganddi 11 o swyddfeydd rhanbarthol. <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Insurance\"><strong>Yswiriant<\/strong> <\/h2>\n\n\n\n<p>Mae angen i fudiadau drefnu yswiriant ar gyfer adeiladau sy\u2019n eiddo iddynt. Os oes ganddynt brydles, y landlord sydd fel arfer yn yswirio\u2019r adeilad, ond dylid cadarnhau telerau\u2019r brydles bob amser er mwyn nodi\u2019r sawl sy\u2019n gyfrifol am yswiriant. Y risgiau neu\u2019r peryglon yr yswirir yn eu herbyn fel arfer yw: dinistr neu ddifrod a achosir gan d\u00e2n, mellt, ffrwydrad, storm a thymestl, llifogydd ac ymsuddiant.   <\/p>\n\n\n\n<p>Wrth drefnu yswiriant ar gyfer adeilad dylid ystyried y canlynol: <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Rhaid yswirio yn erbyn cost adfer llawn yr adeilad, sy\u2019n ymgorffori eitemau megis cynnydd mewn costau o ganlyniad i chwyddiant (e.e. os caiff y gwaith adeiladu ei atal tra ymgeisir am ganiat\u00e2d cynllunio); cost ffioedd proffesiynol (e.e. penseiri), a chost dymchwel\/clirio safle. <\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae ymddiriedolwyr elusennau o dan rwymedigaeth gyfreithiol i gymryd yr holl gamau rhesymol i amddiffyn asedau\u2019r elusen, gan gynnwys darparu yswiriant digonol. Mae ganddynt bwerau o dan <strong>Ddeddf Ymddiriedolwyr 1925, a.19(1)<\/strong> a  <\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Deddf Ymddiriedolwyr 2000<\/strong> i yswirio unrhyw adeilad elusennol a thalu\u2019r premiymau o gronfeydd yr elusen. <\/p>\n\n\n\n<p>Pan fo\u2019r mudiad yn landlord ac yn gyfrifol am yswirio\u2019r adeilad, neu\u2019n denant sydd am gadarnhau addasrwydd yr yswiriant a ddarperir gan y landlord, dylid ystyried y canlynol: <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Os nad oes modd i rywun ddefnyddio\u2019r adeilad, mae\u2019r polisi yn gwarchod colledion rhent am gyfnod rhesymol (e.e. 2 flynedd). Caiff y landlord sicrwydd o rent, a delir yn uniongyrchol gan yr yswirwyr, ac ni fydd y tenant yn gorfod ysgwyddo\u2019r baich o dalu am adeilad nad yw\u2019n gallu ei ddefnyddio.  <\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Dylid gwneud darpariaeth ar gyfer rhannu arian yswiriant rhwng y landlord am gost adfer yr adeilad a\u2019r tenant i wneud yn iawn am gostau unrhyw welliannau. <\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Yswiriant cynnwys<\/strong> <\/h3>\n\n\n\n<p>Dylid yswirio cynnwys adeiladau busnes yn erbyn difrod a cholled. Gallai fod yn well trefnu polisi \u2018pob risg\u2019 ar gyfer yswirio eitemau gwerthfawr, sy\u2019n gwarchod yn erbyn difrod a achosir gan y rhan fwyaf o ddigwyddiadau (ac sy\u2019n gallu yswirio eiddo pan fo y tu allan i\u2019r adeilad), ond nad yw, yn gyffredinol, yn gwarchod yn erbyn rhyfel; halogiad niwclear; \u00f4l traul, cythrwfl a therfysg sifil.  <\/p>\n\n\n\n<p>Mae ymddiriedolwyr elusennau o dan rwymedigaeth gyfreithiol i drefnu yswiriant digonol, ond mewn sefyllfaoedd penodol gallai hyn fod yn rhy ddrud os yw gwerth yr eitemau i\u2019w hyswirio yn rhy uchel (e.e. arddangosfeydd mewn amgueddfa). Mewn sefyllfaoedd o\u2019r fath, rhaid cael arweiniad gan y Comisiwn Elusennol.  <\/p>\n\n\n\n<p>Wrth drefnu yswiriant cynnwys bydd angen i chi benderfynu a ddylai\u2019r polisi: <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Fod ar sail \u2018hen am newydd\u2019 <\/li>\n\n\n\n<li>Bod yn gysylltiedig \u00e2 mynegai <\/li>\n\n\n\n<li>Cynnwys colledion a achoswyd drwy ladrad <\/li>\n\n\n\n<li>Cynnwys difrod damweiniol <\/li>\n\n\n\n<li>Cynnwys nwyddau neu arian parod wrth gael eu cludo <\/li>\n\n\n\n<li>Cynnwys eitemau penodol o werth uchel, megis cyfrifiaduron. <\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Yswiriant atebolrwydd cyhoeddus<\/strong> <\/h3>\n\n\n\n<p>Nid yw yswiriant atebolrwydd cyhoeddus yn orfodol ond caiff ei ystyried yn hanfodol os yw\u2019ch mudiad yn ymwneud \u00e2\u2019r cyhoedd drwy ddefnyddio\u2019i adeilad, y gwasanaethau a ddarperir ganddo neu ei weithwyr. Mae\u2019r math hwn o yswiriant yn cynnwys marwolaeth, anaf, salwch neu ddifrod i eiddo gan aelodau o\u2019r cyhoedd o ganlyniad i weithgarwch y mudiad.  <\/p>\n\n\n\n<p>Mae nifer o gontractau gwasanaeth yn gofyn i ddarparwr drefnu yswiriant atebolrwydd cyhoeddus. Fel arfer, ni fydd yn cynnwys atebolrwydd a gynhwysir mewn polis\u00efau eraill, megis:  <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Atebolrwydd cyflogwr <\/li>\n\n\n\n<li>Cerbydau modur <\/li>\n\n\n\n<li>Atebolrwydd sy\u2019n codi o dan gontract <\/li>\n\n\n\n<li>Esgeuluster proffesiynol <\/li>\n\n\n\n<li>Atebolrwydd cynnyrch <\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Fel arfer, mae yswiriant atebolrwydd cyhoeddus yn ymestyn i wirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr (er y dylid cadarnhau hyn gyda\u2019ch brocer\/cynghorydd). <\/p>\n\n\n\n<p>Pan gaiff gwirfoddolwyr eu cynnwys, mae\u2019n bwysig bod yr yswiriant yn eu gwarchod pan fyddant yn gweithio yn nhai pobl eraill, neu mewn eiddo arall neu wrth ymgymryd \u00e2 gweithgareddau allanol, megis cynlluniau chwarae neu brosiectau amgylcheddol. <\/p>\n\n\n\n<p>Dylech gadarnhau hefyd nad yw gwirfoddolwyr sy\u2019n h\u0177n neu\u2019n iau nag oed penodol wedi\u2019u hepgor o dan y polisi, yn ogystal \u00e2 hysbysu gwirfoddolwyr bob amser yngl\u0177n \u00e2\u2019r yswiriant sy\u2019n berthnasol iddyn nhw\u2019n gyffredinol. <\/p>\n\n\n\n<p>Fel arfer, <strong>nid yw<\/strong> <strong>yswiriant atebolrwydd cyhoeddus<\/strong> yn cynnwys contractwyr sy&#8217;n darparu gwasanaeth i elusen yn awtomatig. Fel arfer, mae contractwyr yn gyfrifol am eu hyswiriant eu hunain, gan gynnwys atebolrwydd cyhoeddus, oni nodir fel arall yn y contract gyda&#8217;r elusen. Mewn rhai achosion pan fo\u2019r yswiriant yn cynnwys contractwr, fe\u2019i cynghorir i gael ei yswiriant ei hun oherwydd gallai\u2019r elusen wneud hawliad yn erbyn y contractwr.   <\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\" id=\"Further\"><strong>Gwybodaeth bellach <\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/charities-and-tax\">Elusennau a Threth (Saesneg yn unig) CThEF<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/organisations\/charity-commission\">Comisiwn Elusennau (Saesneg yn unig)<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cydnabyddiaeth:<\/strong> Mae rhywfaint o\u2019r canllaw uchod wedi\u2019i dynnu a\u2019i grynhoi at ein defnydd o \u2018Managing Your Community Building\u2019 gan Community Matters a Peter Hudson (2000)<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Ymwadiad: <\/strong>Mae\u2019r wybodaeth a ddarperir yn y daflen hon ar gyfer cyfarwyddyd yn unig. Ni ddylid ei defnyddio yn lle cyngor proffesiynol ac ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled o ganlyniad i unrhyw un yn gweithredu neu\u2019n gwrthod gweithredu arni.  <\/p>\n\n\t<\/div>\n\n\n\n<div class=\"col-12 col-md-3\">\n\t\t\t\n\n\t<\/div>\n\n<\/div>\n\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae&#8217;r adnodd hon yn rhoi trosolwg o\u2019r prif bethau y bydd angen i reolwyr adeiladau cymunedol eu hystyried wrth redeg eu hadeilad(au).<\/p>\n","protected":false},"author":12499,"featured_media":2526,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"ep_exclude_from_search":false,"footnotes":""},"categories":[761,761],"tags":[3036,3036,775,3039,3040],"class_list":{"0":"post-22762","1":"resource","2":"type-resource","3":"status-publish","4":"format-standard","5":"has-post-thumbnail","6":"hentry","7":"category-cyllid-cynaliadwy","9":"tag-iechyd-a-diogelwch","11":"tag-legal","12":"tag-management","13":"tag-property","14":"pillar-cyllid-cynaliadwy","15":"pillar-llywodraethu-da"},"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Rheoli adeiladau - rhwymedigaethau cyfreithiol ac atebolrwydd cost | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Mae&#039;r adnodd hon yn rhoi trosolwg o\u2019r prif bethau y bydd angen i reolwyr adeiladau cymunedol eu hystyried wrth redeg eu hadeilad(au).\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-rhwymedigaethau-cyfreithiol-ac-atebolrwydd-cost\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Rheoli adeiladau - rhwymedigaethau cyfreithiol ac atebolrwydd cost | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae&#039;r adnodd hon yn rhoi trosolwg o\u2019r prif bethau y bydd angen i reolwyr adeiladau cymunedol eu hystyried wrth redeg eu hadeilad(au).\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-rhwymedigaethau-cyfreithiol-ac-atebolrwydd-cost\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-03-18T15:05:37+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/meeting-room-PZ4YC9U-scaled.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1709\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"14 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-rhwymedigaethau-cyfreithiol-ac-atebolrwydd-cost\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-rhwymedigaethau-cyfreithiol-ac-atebolrwydd-cost\/\",\"name\":\"Rheoli adeiladau - rhwymedigaethau cyfreithiol ac atebolrwydd cost | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-rhwymedigaethau-cyfreithiol-ac-atebolrwydd-cost\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-rhwymedigaethau-cyfreithiol-ac-atebolrwydd-cost\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/meeting-room-PZ4YC9U-scaled.jpg\",\"datePublished\":\"2026-03-02T14:30:50+00:00\",\"dateModified\":\"2026-03-18T15:05:37+00:00\",\"description\":\"Mae'r adnodd hon yn rhoi trosolwg o\u2019r prif bethau y bydd angen i reolwyr adeiladau cymunedol eu hystyried wrth redeg eu hadeilad(au).\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-rhwymedigaethau-cyfreithiol-ac-atebolrwydd-cost\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-rhwymedigaethau-cyfreithiol-ac-atebolrwydd-cost\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-rhwymedigaethau-cyfreithiol-ac-atebolrwydd-cost\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/meeting-room-PZ4YC9U-scaled.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/meeting-room-PZ4YC9U-scaled.jpg\",\"width\":2560,\"height\":1709,\"caption\":\"meeting office room with white modern table and orange chairs with glass wall\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-rhwymedigaethau-cyfreithiol-ac-atebolrwydd-cost\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Rheoli adeiladau &#8211; rhwymedigaethau cyfreithiol ac atebolrwydd cost\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"description\":\"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"width\":512,\"height\":512,\"caption\":\"Hwb Gwybodaeth\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Rheoli adeiladau - rhwymedigaethau cyfreithiol ac atebolrwydd cost | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","description":"Mae'r adnodd hon yn rhoi trosolwg o\u2019r prif bethau y bydd angen i reolwyr adeiladau cymunedol eu hystyried wrth redeg eu hadeilad(au).","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-rhwymedigaethau-cyfreithiol-ac-atebolrwydd-cost\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Rheoli adeiladau - rhwymedigaethau cyfreithiol ac atebolrwydd cost | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","og_description":"Mae'r adnodd hon yn rhoi trosolwg o\u2019r prif bethau y bydd angen i reolwyr adeiladau cymunedol eu hystyried wrth redeg eu hadeilad(au).","og_url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-rhwymedigaethau-cyfreithiol-ac-atebolrwydd-cost\/","og_site_name":"Hwb Gwybodaeth","article_modified_time":"2026-03-18T15:05:37+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1709,"url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/meeting-room-PZ4YC9U-scaled.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"14 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-rhwymedigaethau-cyfreithiol-ac-atebolrwydd-cost\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-rhwymedigaethau-cyfreithiol-ac-atebolrwydd-cost\/","name":"Rheoli adeiladau - rhwymedigaethau cyfreithiol ac atebolrwydd cost | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","isPartOf":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-rhwymedigaethau-cyfreithiol-ac-atebolrwydd-cost\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-rhwymedigaethau-cyfreithiol-ac-atebolrwydd-cost\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/meeting-room-PZ4YC9U-scaled.jpg","datePublished":"2026-03-02T14:30:50+00:00","dateModified":"2026-03-18T15:05:37+00:00","description":"Mae'r adnodd hon yn rhoi trosolwg o\u2019r prif bethau y bydd angen i reolwyr adeiladau cymunedol eu hystyried wrth redeg eu hadeilad(au).","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-rhwymedigaethau-cyfreithiol-ac-atebolrwydd-cost\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-rhwymedigaethau-cyfreithiol-ac-atebolrwydd-cost\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-rhwymedigaethau-cyfreithiol-ac-atebolrwydd-cost\/#primaryimage","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/meeting-room-PZ4YC9U-scaled.jpg","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/08\/meeting-room-PZ4YC9U-scaled.jpg","width":2560,"height":1709,"caption":"meeting office room with white modern table and orange chairs with glass wall"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-rhwymedigaethau-cyfreithiol-ac-atebolrwydd-cost\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Rheoli adeiladau &#8211; rhwymedigaethau cyfreithiol ac atebolrwydd cost"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","name":"Hwb Gwybodaeth","description":"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.","publisher":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization","name":"Hwb Gwybodaeth","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","width":512,"height":512,"caption":"Hwb Gwybodaeth"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/22762","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/12499"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/22762\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":22864,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/22762\/revisions\/22864"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2526"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=22762"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=22762"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=22762"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}