{"id":22737,"date":"2026-02-23T15:41:10","date_gmt":"2026-02-23T15:41:10","guid":{"rendered":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/?post_type=resource&#038;p=22737"},"modified":"2026-02-24T09:54:54","modified_gmt":"2026-02-24T09:54:54","slug":"archwilio-ffrydiau-incwm-amrywiol","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/archwilio-ffrydiau-incwm-amrywiol\/","title":{"rendered":"Archwilio ffrydiau incwm amrywiol"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-bootstrap-blocks-container container mb-2\">\n\t\n<div class=\"wp-bootstrap-blocks-row row\">\n\t\n\n<div class=\"col-12 col-md-9\">\n\t\t\t\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Trosolwg<\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"#introduction\">Cyflwyniad<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#who\">Ar gyfer pwy mae&#8217;r daflen wybodaeth hon?<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#what\">Beth yw cynhyrchu incwm?<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#sustainable\">Cyllid cynaliadwy: ar draws y sbectrwm incwm<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#gift\">Economi roddion<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#grant\">Cyllid grant<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#structured\">Marchnad strwythuredig<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#open\">Marchnad agored<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#tool\">Offeryn Cymysgedd Codi Arian Cyfredol (Taenlen Excel)<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#diverse\">Pam mae\u2019n bwysig cael ffrwd incwm amrywiol?<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#starting\">Man cychwyn<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#generation\">Gwiriad Iechyd Cynhyrchu Incwm<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"introduction\">Cyflwyniad<\/h2>\n\n\n\n<p>Cynhyrchwyd y daflen wybodaeth hon fel rhan o waith y Rhwydwaith Ymarferwyr Ariannu Cynaliadwy, CGGC a Swyddogion Datblygu Cynghorau Gwirfoddol Sirol, gan weithio fel rhan o bartneriaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru i gefnogi mudiadau\u2019r trydydd sector. Gyda&#8217;i gilydd, mae&#8217;r bartneriaeth hon yn gweithio ar adnoddau a rennir i gefnogi&#8217;r sector gwirfoddol ledled Cymru. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r adnodd hon yn defnyddio&#8217;r Offeryn Sbectrwm Incwm, a ddatblygwyd yn wreiddiol gan NCVO, sy&#8217;n cynnig canllaw gweledol defnyddiol i&#8217;r mathau allweddol o incwm y gall mudiad eu harchwilio.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"who\">Ar gyfer pwy mae&#8217;r adnodd hon?<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r daflen hon wedi&#8217;i hanelu at fudiadau bach a chanolig, gan gynnwys y rhai a arweinir gan wirfoddolwyr ac sy&#8217;n canolbwyntio ar ddarpariaeth leol neu ranbarthol gyda th\u00eem llai o faint. Gall hefyd fod yn offeryn gweledol defnyddiol i fudiadau mwy o faint \u00e2 staff cyflogedig sy\u2019n cael cymorth gan rwydwaith cenedlaethol neu riant elusen. <\/p>\n\n\n\n<p>Un her y mae grwpiau\u2019n ei hwynebu\u2019n aml yw cydbwyso\u2019r ddarpariaeth bresennol \u00e2 chynllunio ar gyfer y dyfodol. Gall cymryd amser i adolygu adnoddau fel hyn helpu i daro&#8217;r cydbwysedd hwn. Mae sicrhau bod cyllid ar gael yn ystyriaeth allweddol wrth gytuno ar gynlluniau a nodau ar gyfer y dyfodol.  <\/p>\n\n\n\n<p>Dywed Karen Chalk, Cyfarwyddwr Circus Eruption:<\/p>\n\n\n\n<p>&#8216;Mae arallgyfeirio incwm yn hollbwysig, ond nid yw byth yn &#8216;ateb sydyn&#8217;, ac mae llawer o bethau i&#8217;w hystyried. Mae ein taith &#8216;fasnachu&#8217; yn enghraifft dda o hyn. Dechreuodd Eruption gynnig gweithdai syrcas i grwpiau a mudiadau eraill ar ddechrau\u2019r 2010au, pan oeddem eisoes wedi bod yn rhedeg ers 20 mlynedd, ond doedd e ddim yn benderfyniad &#8216;ad hoc&#8217;. Fe&#8217;i datblygwyd o strategaeth ac roedd y twf cynlluniedig yn araf, gyda sylw yn cael ei roi i gapasiti. Yn gyffredinol, mae wedi darparu tua 1\/3 i 1\/4 o gyfanswm ein hincwm blynyddol yn weddol gyson yn ystod cyfnod o 10 mlynedd lle mae ein hincwm\/gwariant refeniw, staffio ac ati wedi treblu.    <\/p>\n\n\n\n<p>Yn 2024, cawsom 10 sesiwn diwrnod llawn o hyfforddiant \u2018hyfforddi\u2019r hyfforddwyr\u2019 er mwyn gallu cyflwyno cynnig masnachu newydd \u2013 hyfforddiant cynhwysiant\/cyfranogiad \u2013 oherwydd rydym yn brofiadol iawn yn hyn o beth yn ymarferol, ond nid oeddem wedi gweithio ar rannu\u2019r neges o\u2019r blaen mewn gwirionedd. Roeddem yn gobeithio cynnig hwn yn barod (dechrau 2025) ond mae angen gwneud mwy o waith marchnata \/ adnoddau dynol cyn i ni lansio &#8216;cynnyrch&#8217; newydd. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n hanfodol sicrhau bod unrhyw ymdrechion i sicrhau ffrydiau incwm cynaliadwy newydd yn cael effaith gadarnhaol ar eich mudiad ac nad yw byth ar draul eich amcanion elusennol. Dylai cynaliadwyedd cyffredinol fod yn gyson \u00e2\u2019ch amcanion bob amser, ac mae&#8217;n rhaid i unrhyw incwm a gynhyrchir gyd-fynd \u00e2 hynny, mewn theori ac yn ymarferol. Mae cymryd amser i feddwl am effeithiau yn y ffordd hon a sicrhau hyd eithaf eich gallu y byddant yn gadarnhaol &#8211; nid dim ond yn ariannol &#8211; yn allweddol i gynaliadwyedd sefydliadol\/ariannol.&#8217; <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"what\">Beth yw cynhyrchu incwm? <\/h2>\n\n\n\n<p>Cynhyrchu incwm yw&#8217;r weithred o wneud arian i&#8217;ch mudiad ac mae&#8217;n digwydd mewn gwahanol ffyrdd. Gall yr Offeryn Sbectrwm Incwm fod yn ddefnyddiol ar gyfer ystyried cynhyrchu incwm a pha ffynonellau eraill y gallai fod yn briodol eu harchwilio. <\/p>\n\n\n\n<p>Ystyriwch y canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Beth yw eich ffynonellau incwm presennol fel mudiad<\/li>\n\n\n\n<li>Beth yw eich asedau presennol \u2013 ystyriwch bobl a sgiliau yn ogystal ag adnoddau ffisegol<\/li>\n\n\n\n<li>Cyfleoedd posibl i gynhyrchu incwm gyda&#8217;r rhain<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae angen adnoddau ar bob mudiad i gyrraedd a chyflawni ei nodau a&#8217;i amcanion ymhellach. Gall archwilio opsiynau gynnig cyfleoedd newydd i dyfu. <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Beth yw\u2019r manteision?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Cyllid cynaliadwy ar gyfer mudiad yw lle mae gr\u0175p yn archwilio cymysgedd o opsiynau incwm ac yn elw arnynt, gan wasgaru dibyniaeth dros nifer o wahanol ffynonellau incwm. Mae mudiadau sydd \u00e2 chymysgedd o linynnau incwm yn fwy cadarn os bydd ffactorau allanol yn effeithio ar y ffynhonnell ariannu.  <\/p>\n\n\n\n<p>Manteision incwm amrywiol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gallu cynllunio ymlaen llaw<\/li>\n\n\n\n<li>Mudiad cryfach<\/li>\n\n\n\n<li>Llai dibynnol ar un ffynhonnell incwm os caiff honno ei thynnu\u2019n \u00f4l<\/li>\n\n\n\n<li>Efallai y bydd rhai ffynonellau incwm yn cyd-fynd yn dda \u00e2\u2019r gwasanaethau a ddarperir gennych, ac yn helpu i rannu\u2019r neges\/angen am eich gwasanaeth hefyd h.y. darparu cyrsiau hyfforddi mewn maes rydych chi\u2019n arbenigo ynddo<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>(Mae\u2019r wybodaeth ganlynol yn cyfeirio at offeryn sbectrwm incwm NCVO) <\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Nodweddion allweddol offeryn sbectrwm incwm NCVO<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae\u2019n disgrifio&#8217;r prif ffrydiau incwm sydd ar gael<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019n diffinio\u2019r perthnasoedd sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 phob ffynhonnell incwm h.y. pobl neu fudiad<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019n egluro\u2019r disgwyliad sy&#8217;n ymwneud \u00e2&#8217;r hyn mae&#8217;r mudiad yn ei wneud ar gyfer yr incwm. Mae angen mwy o ddisgwyliad\/ mewnbwn wrth i chi symud o\u2019r chwith i&#8217;r dde ar y sbectrwm <\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019n helpu i nodi o ble mae cyllid yn dod\/o ble y gallai ddod<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Egluro\u2019r adrannau<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>O&#8217;i ddefnyddio&#8217;n weithredol, gall yr Offeryn Sbectrwm Incwm helpu i nodi camau gweithredu i&#8217;ch mudiad eu cymryd. Allech chi ddefnyddio hwn fel rhan o Gyfarfod Bwrdd neu fel sesiwn datblygu wedi&#8217;i hwyluso? <\/p>\n\n\n\n<p>Gallwch chi ei ddefnyddio i:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Asesu eich \u2018cymysgedd\u2019 ariannu presennol<\/li>\n\n\n\n<li>Nodi ffrydiau incwm cyfredol<\/li>\n\n\n\n<li>Dechrau myfyrio ar nodweddion y ffynonellau a&#8217;u haddasrwydd<\/li>\n\n\n\n<li>Asesu a oes angen dull ariannu mwy amrywiol<\/li>\n\n\n\n<li>Ystyried pa mor ddibynnol y gallech chi fod ar unrhyw ffynhonnell<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Pa ffynonellau incwm allai fod yn addas i&#8217;ch gr\u0175p eu harchwilio?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"sustainable\">Cyllid cynaliadwy: ar draws y sbectrwm incwm<\/h2>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"728\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Cyllid-Cynaliadwy-Ar-draws-y-Sbectrwm-Incwm--1024x728.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-22715\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Cyllid-Cynaliadwy-Ar-draws-y-Sbectrwm-Incwm--1024x728.jpg 1024w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Cyllid-Cynaliadwy-Ar-draws-y-Sbectrwm-Incwm--720x512.jpg 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Cyllid-Cynaliadwy-Ar-draws-y-Sbectrwm-Incwm--768x546.jpg 768w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Cyllid-Cynaliadwy-Ar-draws-y-Sbectrwm-Incwm--1536x1092.jpg 1536w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Cyllid-Cynaliadwy-Ar-draws-y-Sbectrwm-Incwm--2048x1457.jpg 2048w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Cyllid-Cynaliadwy-Ar-draws-y-Sbectrwm-Incwm--360x256.jpg 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Cyllid-Cynaliadwy-Ar-draws-y-Sbectrwm-Incwm--1800x1280.jpg 1800w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Cyllid-Cynaliadwy-Ar-draws-y-Sbectrwm-Incwm--624x444.jpg 624w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Cyllid-Cynaliadwy-Ar-draws-y-Sbectrwm-Incwm-.pdf\">Mae fersiwn PDF o&#8217;r infograffig ar gael yma.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>O&#8217;r chwith i&#8217;r dde ar y Sbectrwm Incwm, mae&#8217;r adran ganlynol yn archwilio&#8217;r gwahanol ffynonellau ariannu.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"gift\">Economi roddion<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r Economi Roddion yn ymwneud \u00e2 rhoddion gan roddwyr. Gall rhoddwyr fod yn unigol neu&#8217;n gorfforaethol. Fel arfer, <strong>cyllid anghyfyngedig<\/strong> ydyw i gefnogi eich gwaith, sy&#8217;n golygu y gall y mudiad ei ddefnyddio yn \u00f4l ei ddisgresiwn i hyrwyddo ei nodau a&#8217;i weithgareddau cyffredinol. Mae cyllid anghyfyngedig yn ddefnyddiol iawn i fudiadau gan ei fod yn gallu talu costau sy\u2019n llai deniadol i gyllidwyr grantiau h.y. costau rhedeg o ddydd i ddydd gan gynnwys amnewid eitemau sy\u2019n angenrheidiol i ddarparu gwasanaethau a allai fod yn anghymwys o dan geisiadau grant. Mae hefyd yn ddefnyddiol iawn ar gyfer costau annisgwyl sy&#8217;n codi, ar gyfer costau fel offer swyddfa neu gostau rhedeg a all fod yn fwy heriol i&#8217;w talu o ffynonellau ariannu eraill.    <\/p>\n\n\n\n<p>Mae ffynonellau economi roddion yn cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>incwm a gynhyrchir o roddion dyngarol<\/li>\n\n\n\n<li>rhoddion gwirfoddol<\/li>\n\n\n\n<li>codi arian cymunedol<\/li>\n\n\n\n<li>rhoddion unigol<\/li>\n\n\n\n<li>rhoddion corfforaethol<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Cofiwch fod y rhain yn wahanol i grantiau ar gyfer rhywbeth penodol y disgwylir iddynt gael eu gwario ar brosiect penodol i gyflawni canlyniadau sy&#8217;n cyd-fynd \u00e2 blaenoriaethau diffiniedig. Fel arfer lefel o adrodd ariannol a thelerau ac amodau gwariant. <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Awgrymiadau:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Ystyriwch a ydych chi\u2019n rhoi cyfleoedd ar gyfer rhoddion \u201ceconomi roddion\u201d megis rhoddion untro, debyd uniongyrchol rheolaidd ac ati.<\/p>\n\n\n\n<p>Perthynas \u00e2 rhoddwr yw hon. Mae ganddo ddisgwyliadau isel\/y disgwyliadau lleiaf posibl ac nid yw\u2019n disgwyl llawer yn gyfnewid am ei fod yn awyddus fel arfer i gefnogi&#8217;r hyn rydych yn ei wneud a&#8217;ch ethos fel mudiad. Efallai y gallech chi ystyried sut i roi&#8217;r wybodaeth ddiweddaraf iddo am y gwaith cadarnhaol mae eich mudiad yn ei wneud er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i ymgysylltu a&#8217;ch bod yn cadw ei gefnogaeth. <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"grant\">Cyllid Grant<\/h2>\n\n\n\n<p>Fel arfer, caiff cyllid grant ei ddyrannu drwy broses ymgeisio ffurfiol lle mae gr\u0175p yn dangos ei fod yn bodloni blaenoriaethau penodol a diffiniedig y ffynhonnell ariannu ac yn gofyn am swm penodol o arian i gyflawni hyn. Rhoddir cyllid ar gyfer costau diffiniedig i gyflawni allbynnau\/canlyniadau penodol fel y nodir yn y cais cymeradwy. Cyllid <strong>cyfyngedig<\/strong> yw hwn fel arfer, sy\u2019n golygu ei fod yn cael ei roi i\u2019w wario\u2019n benodol iawn ar y costau a\u2019r gweithgareddau a nodir yn y cais y\u2019i dyrannwyd ar ei gyfer, yn unol \u00e2 blaenoriaethau cyllidwyr.  <\/p>\n\n\n\n<p>Perthynas \u00e2 <strong>chyllidwr<\/strong> yw hon. Mae\u2019n debygol o fod eisiau monitro&#8217;r hyn sy&#8217;n cael ei wneud gyda&#8217;r arian a fuddsoddir. Mae disgwyliad clir ynghylch yr hyn a gaiff ei gyflawni gyda\u2019r cyllid. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae ffynonellau grant yn cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<p>Grantiau statudol, grantiau loteri, ymddiriedolaethau a sefydliadau, grantiau corfforaethol, sefydliadau cymunedol<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Awgrymiadau:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/funding.cymru\/\">Cyllido Cymru<\/a> &#8211; cofrestrwch yma i ddysgu mwy am y grantiau a all fod ar gael.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.threesixtygiving.org\/\">360Giving &#8211; 360Giving (threesixtygiving.org)<\/a> adnodd defnyddiol i weld tueddiadau rhoi a gwybodaeth am y sawl sy\u2019n rhoi grantiau<\/p>\n\n\n\n<p>Yn aml, mae grantiau yn fwyaf addas ar gyfer:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>prosiectau peilot<\/li>\n\n\n\n<li>datblygu gwasanaeth\/ongl gwasanaeth newydd<\/li>\n\n\n\n<li>sicrhau newid sylweddol yn y ffordd rydych chi\u2019n gwneud rhywbeth<\/li>\n\n\n\n<li>eitem neu brosiect sy\u2019n gyfyngedig o ran amser wedi&#8217;i nodi&#8217;n glir<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n debygol y bydd cyllidwyr grant eisiau monitro adenillion i ddangos yr hyn mae&#8217;r buddsoddiad hwn wedi cyfrannu ato. Efallai y bydd ganddynt ofynion o ran cyhoeddusrwydd a disgwyliadau clir ynghylch adroddiad ar yr hyn a gyflawnwyd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-medium\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"720\" height=\"480\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/income-streams-720x480.jpg\" alt=\"Dwylo person yn dal pen wrth ymyl rhywfaint o arian, gan ddefnyddio cyfrifiannell\" class=\"wp-image-22700\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/income-streams-720x480.jpg 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/income-streams-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/income-streams-768x512.jpg 768w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/income-streams-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/income-streams-360x240.jpg 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/income-streams-1800x1200.jpg 1800w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/income-streams-624x416.jpg 624w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/income-streams.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 720px) 100vw, 720px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"structured\">Marchnad strwythuredig<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae cyllid drwy&#8217;r farchnad strwythuredig yn golygu talu am nwyddau neu wasanaethau a ddarperir o dan delerau contract neu gytundeb lefel gwasanaeth rhwng mudiad a phrynwr trydydd parti. Fel arfer, parti o\u2019r sector cyhoeddus ydyw. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r Farchnad Strwythuredig yn cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Darparu eich gwasanaethau craidd h.y. cymorth cwnsela<\/li>\n\n\n\n<li>Contractau i\u2019w cyflawni gyda phartneriaid sector cyhoeddus h.y. awdurdod lleol\/bwrdd iechyd<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Awgrymiadau<\/strong><br>I fanteisio i\u2019r eithaf ar gyfleoedd ariannu posibl drwy\u2019r llwybr hwn, dewch i adnabod cylchoedd contractio gwahanol bartneriaid a\u2019r llwyfannau a ddefnyddir i hysbysebu manylebau contract<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cyrsiau gan asiantaethau<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Fel &#8216;Sut i Dendro&#8217; gyda Busnes Cymru a&#8217;i d\u00eem o Gynghorwyr Tendro<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.gwerthwchigymru.llyw.cymru\/default.aspx\">Cofrestru ar GwerthwchiGymru<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Porth caffael Llywodraeth Cymru yw gwefan GwerthwchiGymru. Mae\u2019n hysbysebu cyfleoedd gwerth biliynau o bunnoedd mewn contractau ar gyfer nwyddau a gwasanaethau\u2019r sector cyhoeddus.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/etenderwales.bravosolution.co.uk\/web\/login.shtml\">edendrocymru: porth e-dendro Gwerth Cymru<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>eDendroCymru yw lle rydych chi&#8217;n gwneud cais am y cyfleoedd hyn. Mae gwefan Bravo Solutions eDendroCymru yn eich galluogi i gyflwyno cyfleoedd tendro ar-lein mewn amgylchedd diogel (noder: nid dyma eich manylion mewngofnodi GwerthwchiGymru). <\/p>\n\n\n\n<p>Perthynas \u00e2 <strong>phrynwr\/comisiynydd<\/strong> y gwasanaeth hwnnw yw hon ac mae&#8217;r contract i ddarparu&#8217;r gwasanaeth hwn yn gyfreithiol rwymol. Un peth sydd wedi\u2019i gynnwys yn y contract hwn yw swm yr incwm a ddarperir ar gyfer y gwasanaeth hwnnw. Gan fod contractau&#8217;n gyfreithiol rwymol, mae&#8217;r cyflenwr wedi&#8217;i rwymo gan y contract i gyflawni targedau penodol, o fewn amserlenni penodol ac yn unol \u00e2 chyllideb benodol. <strong>Incwm cyfyngedig<\/strong> yw hwn h.y. incwm a roddir i gyflawni\u2019r contract gyda nifer o ddisgwyliadau cysylltiedig gan gynnwys targedau, amserlen a chyllideb benodol.   <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"open\">Marchnad agored<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae cynhyrchu cyllid drwy&#8217;r farchnad agored yn ymwneud \u00e2 gweithgaredd masnachu ac yn cynnwys gwerthu nwyddau neu wasanaethau i ennill incwm. Mae hwn yn faes twf ac ymwybyddiaeth gynyddol yn y trydydd sector lle mae llawer o botensial. Efallai y bydd angen newid meddylfryd o gynnig pethau am ddim, ond gall olygu archwilio marchnadoedd newydd megis darparu gwasanaeth y telir amdano ochr yn ochr \u00e2&#8217;r rhai a gynigir am gost isel neu ddim cost o gwbl. Weithiau gall gweithgaredd masnachu gael ei alw\u2019n fenter gymdeithasol hefyd \u2013 menter gyda model busnes cadarn a budd cymunedol.   <\/p>\n\n\n\n<p>Un o\u2019r pethau cadarnhaol go iawn yngl\u0177n \u00e2 chynhyrchu incwm ar y farchnad agored yw\u2019r ffaith mai <strong>incwm anghyfyngedig<\/strong> ydyw. Gall masnachu helpu i ddatblygu dulliau newydd a gwella sgiliau mudiad hefyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Os yw masnachu yn rhywbeth yr hoffech ei archwilio, yna byddai angen i chi benderfynu ar y canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Y categori masnachu y mae eich gweithgaredd yn perthyn iddo h.y. prif ddiben, ategol neu ansylfaenol<\/li>\n\n\n\n<li>A all gael ei gyflwyno gan yr elusen ei hun neu a oes angen is-gwmni masnachu<\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.ncvo.org.uk\/help-and-guidance\/running-a-charity\/financial-management\/tax-and-trading\/trading-and-charities\/\">Y sefyllfa dreth sy&#8217;n ymwneud ag elusennau sy&#8217;n masnachu <\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/guidance\/charities-and-trading\">Pryd i sefydlu is-gwmni masnachu<\/a> <\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Ystyriwch a oes angen y canlynol arnoch a rhowch nhw ar waith:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cyfrif banc os ydych yn sefydlu mudiad ar wah\u00e2n<\/li>\n\n\n\n<li>Sgiliau ar y bwrdd, set sgiliau gwahanol o bosibl gyda bwrdd gwahanol neu ehangu&#8217;r un presennol<\/li>\n\n\n\n<li>Archwilio sgiliau staff i weld beth sydd ganddynt i&#8217;w gynnig\/masnachu<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Rhai cwestiynau i&#8217;w gofyn wrth ystyried cyfleoedd incwm sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r Farchnad Agored:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Allwch chi werthu eich sgiliau, wedi&#8217;u cyflwyno mewn ffordd wahanol o bosibl i&#8217;ch gwasanaeth craidd\/i gynulleidfa wahanol?<\/li>\n\n\n\n<li>Allwch chi gynnig fersiwn y telir amdano o unrhyw wasanaethau am ddim neu \u00e2 chymhorthdal?<\/li>\n\n\n\n<li>Allwch chi gynnig rhywbeth o werth\/defnydd i gynulleidfa wahanol?<\/li>\n\n\n\n<li>Allwch chi ddefnyddio&#8217;ch asedau mewn ffordd fwy effeithlon?<\/li>\n\n\n\n<li>Allwch chi godi t\u00e2l am ddarparu eich gwasanaethau craidd h.y. cymorth cwnsela?<\/li>\n\n\n\n<li>Beth yw&#8217;r costau sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2 datblygu&#8217;r cynnyrch\/gwasanaeth, helpu i reoli unrhyw risg ariannol?<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Awgrymiadau: <\/strong>gall archwilio sgiliau ac asedau fod yn ffordd ddefnyddiol o archwilio cyfleoedd i gael incwm o&#8217;r farchnad agored<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Mae enghreifftiau\u2019n cynnwys:<\/strong> siopau elusennau: cangen fasnachu, siop ar-lein, gwasanaeth siopa, hyfforddiant arbenigol, nwyddau<\/p>\n\n\n\n<p>Mae masnachu yn cynhyrchu <strong>incwm anghyfyngedig<\/strong> i fudiad.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gwahanol fathau o fasnachu, rhai er mwyn cynhyrchu elw yn unig (masnachu digyswllt) ac eraill sy\u2019n ymwneud \u00e2 masnachu fel rhan o\u2019r gwaith o gyflawni\u2019r nodau a\u2019r amcanion (masnachu sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 chenhadaeth neu fasnachu craidd) yn ogystal \u00e2 chwmn\u00efau cymdeithasol sy\u2019n creu swyddi cynhwysol a chyfleoedd hyfforddi i\u2019r rhai sydd angen amgylchedd gwaith \u00e2 mwy o gefnogaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Pan fydd incwm yn cael ei gynhyrchu ar y farchnad agored, y bobl rydym yn ymgysylltu \u00e2 nhw yw <strong>defnyddwyr<\/strong>, sy&#8217;n gwneud dewis i brynu&#8217;r nwyddau neu&#8217;r gwasanaethau. Mae gan ddefnyddwyr ddisgwyliadau pan fyddant yn prynu ar y farchnad agored i gael safon benodol o gynnyrch neu wasanaeth yn gyfnewid am yr arian sy&#8217;n newid dwylo. Mae ymdeimlad o brynu i mewn i nodau&#8217;r hyn mae&#8217;r mudiad yn ei wneud yn ychwanegu gwerth ychwanegol, tra ei bod yn bwysig o hyd ystyried cystadleuaeth ehangach ochr yn ochr ag ansawdd er mwyn meithrin teyrngarwch defnyddwyr. Gall hyn helpu i sicrhau cynaliadwyedd y ffynhonnell incwm hon.   <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Deunydd darllen ychwanegol<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>CGS a CWMPAS: Busnes Cymdeithasol Cymru (sicrhau bod gofynion yn cael eu bodloni).<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Good Finance<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.goodfinance.org.uk\/resources\">Resources | Good Finance<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Busnes Cymdeithasol Cymru<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/busnescymru.llyw.cymru\/busnescymdeithasolcymru\/\">https:\/\/busnescymru.llyw.cymru\/busnescymdeithasolcymru\/<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/busnescymru.llyw.cymru\/busnescymdeithasolcymru\/ffynonellau-cymorth-eraill-i-fusnesau-cymdeithasol\">https:\/\/busnescymru.llyw.cymru\/busnescymdeithasolcymru\/ffynonellau-cymorth-eraill-i-fusnesau-cymdeithasol<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/busnescymru.llyw.cymru\/busnescymdeithasolcymru\/ffynonellau-cyllid\">https:\/\/busnescymru.llyw.cymru\/busnescymdeithasolcymru\/ffynonellau-cyllid<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/busnescymru.llyw.cymru\/busnescymdeithasolcymru\/cyllido-busnes-cymdeithasol\">https:\/\/busnescymru.llyw.cymru\/busnescymdeithasolcymru\/cyllido-busnes-cymdeithasol<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"tool\">Offeryn Cymysgedd Codi Arian Cyfredol (Taenlen Excel)<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Offeryn hwn yn cynnig ffordd ddefnyddiol o asesu a oes gan eich mudiad incwm amrywiol, gan nodi\u2019r meysydd mae eich mudiad yn dibynnu arnynt ar hyn o bryd.<\/p>\n\n\n\n<p>Gellir defnyddio\u2019r offeryn fel man cychwyn ar gyfer datblygu strategaeth, nodi enillion cyflym, neu fel tystiolaeth ar gyfer sgyrsiau \u00e2 Bwrdd Ymddiriedolwyr eich elusen.<\/p>\n\n\n\n<p>Cyfarwyddiadau defnyddio:<\/p>\n\n\n\n<p>Gallwch chi ddefnyddio rhagamcanion y flwyddyn gyfredol neu eich cyfrifon o flwyddyn flaenorol (bydd y wybodaeth ar y dudalen elw\/colled. Mae&#8217;r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn y golofn Elw). Gallwch chi hefyd ddefnyddio&#8217;ch Cyfrif Rheoli i ddod o hyd i&#8217;r wybodaeth berthnasol ar gyfer y Rhesi canlynol. <\/p>\n\n\n\n<p>O\u2019ch gwybodaeth ariannol, darganfyddwch werth y ffynonellau incwm canlynol ar gyfer eich mudiad, yna nodwch y gwerth (\u00a3) yn y golofn berthnasol:<\/p>\n\n\n\n<p>RHODDION<\/p>\n\n\n\n<p>1. Unigolion (rhoddion unigol, digwyddiadau a nawdd, cymynroddion, rhoddwr mawr)<\/p>\n\n\n\n<p>2. Sector preifat\/Corfforaethol <\/p>\n\n\n\n<p>GRANTIAU<\/p>\n\n\n\n<p>1. Ymddiriedolaethau a Sefydliadau<\/p>\n\n\n\n<p>2. Asiantaethau\u2019r sector cyhoeddus<\/p>\n\n\n\n<p>3. Sector preifat <\/p>\n\n\n\n<p>CONTRACTAU<\/p>\n\n\n\n<p>1. Mudiadau gwirfoddol <\/p>\n\n\n\n<p>2. Sector cyhoeddus <\/p>\n\n\n\n<p>3. Sector preifat <\/p>\n\n\n\n<p>MASNACHU<\/p>\n\n\n\n<p>1. Unigolion <\/p>\n\n\n\n<p>2. Gwirfoddol<\/p>\n\n\n\n<p>3. Sector cyhoeddus <\/p>\n\n\n\n<p>4. Sector preifat<\/p>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l nodi\u2019r gwerthoedd, gallwch chi ddefnyddio&#8217;r wybodaeth hon i gwblhau SWOT (Cryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd, Bygythiadau) ar gyfer eich mudiad. Cyfeiriwch at y Daflen Waith Sampl am enghraifft. <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"diverse\">Pam mae\u2019n bwysig cael ffrwd incwm amrywiol?<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae elusennau, grwpiau cymunedol a chwmn\u00efau budd cymunedol o bob lliw a llun wedi crynhoi rhai o&#8217;u pryderon ynghylch dibynnu ar un ffynhonnell incwm (arian grant fel arfer).<\/p>\n\n\n\n<p>Arallgyfeirio: beth allai ei olygu o ran ffynonellau cyllid?<\/p>\n\n\n\n<p>&#8216;Mae hyd yn oed ein cyllid anghyfyngedig amlflwyddyn yn dod i ben. Allwn ni ddim dibynnu ar hwnna.&#8217; <\/p>\n\n\n\n<p>&#8216;Dydy ein prif gyllidwr ddim yn fodlon ariannu mwy na 25% o gyfanswm ein hincwm. Drwy gael arian yn dod i mewn o wahanol ffynonellau, gallwn ni liniaru&#8217;r risg.&#8217; <\/p>\n\n\n\n<p>&#8216;Mae bron pob un o\u2019n ceisiadau am gyllid yn holi nawr am gynaliadwyedd y prosiect\/mudiad pan ddaw\u2019r cyllid i ben. Mae\u2019n amlwg bod angen ffynonellau incwm gwahanol arnom er mwyn helpu i egluro sut y gallwn ni barhau \u00e2\u2019r gwaith hwn, yn hytrach na dweud y byddwn ni\u2019n gwneud cais am fwy o gyllid.&#8217; <\/p>\n\n\n\n<p>&#8216;Dim ond \u00a35k oedd ei angen arnom, roedd yn haws ac yn gyflymach i wneud cais am grant ar gyfer hynny. Ond wrth feddwl am y peth, pe baen ni wedi codi arian mewn gwahanol ffyrdd, byddai wedi bod yno i ni ei ddefnyddio ac wedi achosi llai o straen i&#8217;r mudiad.&#8217; <\/p>\n\n\n\n<p>&#8216;Mae angen help arnom i gyfiawnhau i&#8217;n Bwrdd y bydd buddsoddi mewn codi arian o ffynonellau eraill yn gweithio. Ond mae\u2019r holl waith ymchwil rydw i wedi\u2019i weld yn dangos elw ar fuddsoddiad o rhwng \u00a37 ac \u00a320 am bob \u00a31 sy\u2019n cael ei gwario ar godi arian. Ac mae\u2019n ymddangos bod y rhan fwyaf o&#8217;r incwm hwn yn anghyfyngedig.&#8217;  <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"starting\">Man cychwyn<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae pob mudiad yn wahanol, a bydd eich incwm yn debygol o ddod o amrywiaeth o ffynonellau. Mae&#8217;n werth cymryd yr amser i gyfrifo&#8217;r ganran o gyfanswm eich incwm am y flwyddyn a gawsoch o&#8217;r ffynonellau hyn. Mae\u2019r <a href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Income-generation-worksheet.xlsx\">Offeryn Cymysgedd Codi Arian Cyfredol <\/a>yn adnodd sy\u2019n rhoi cipolwg ar yr hyn mae eich mudiad yn dibynnu arno fwyaf. Mae&#8217;n eich helpu i gynnal dadansoddiad SWOT cyflym ar y pedwar maes cynhyrchu incwm sef rhoddion, grantiau, contractau a masnachu. Mae sampl o&#8217;r gweithgaredd wedi&#8217;i wneud i chi.   <\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Income-generation-worksheet.xlsx\">Lawrlwythwch yr offeryn yma.<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"generation\">Gwiriad Iechyd Cynhyrchu Incwm<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae gwiriad iechyd, y cyfeirir ato hefyd fel archwiliad, adolygiad neu wiriad cryfder, yn ymarfer hunanasesu gyda rhestr o gwestiynau i&#8217;w hateb, er mwyn sicrhau eich bod yn y sefyllfa orau i allu cynhyrchu incwm. Mae nifer o bethau a ddylai fod ar waith gennych i wneud y broses o gynhyrchu incwm, drwy unrhyw lwybr, yn haws ac yn fwy effeithlon. Bydd cwblhau gwiriad iechyd a mynd i&#8217;r afael ag unrhyw fylchau y byddwch yn eu nodi drwyddo yn helpu i wneud eich gweithgareddau cynhyrchu incwm mor ddidrafferth \u00e2 phosibl, ac yn helpu eich mudiad i wneud y defnydd gorau o&#8217;i allu i gynhyrchu incwm.  <\/p>\n\n\n\n<p>Mae gwiriadau iechyd hefyd yn helpu i nodi meysydd i&#8217;w datblygu drwy dynnu sylw at wendidau a chyfleoedd. Gellir datblygu camau gweithredu ar gyfer y meysydd hyn yn gynllun i weithio arno dros gyfnod o amser sy&#8217;n gweithio i chi ac mewn ffordd sy&#8217;n briodol i&#8217;ch mudiad. <\/p>\n\n\n\n\n\n<p><strong><br><\/strong><\/p>\n\n\t<\/div>\n\n\n\n<div class=\"col-12 col-md-3\">\n\t\t\t\n\n\t<\/div>\n\n<\/div>\n\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae&#8217;r adnodd hon yn cynnig canllaw gweledol defnyddiol i&#8217;r mathau allweddol o incwm y gall mudiad eu harchwilio.<\/p>\n","protected":false},"author":2205,"featured_media":22718,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"ep_exclude_from_search":false,"footnotes":""},"categories":[761],"tags":[3034,3035,3033,725],"class_list":["post-22737","resource","type-resource","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyllid-cynaliadwy","tag-codi-arian","tag-cynhyrchu-incwm","tag-incwm","tag-sustainable-funding","pillar-cyllid-cynaliadwy"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Archwilio ffrydiau incwm amrywiol | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Mae&#039;r adnodd hon yn cynnig canllaw gweledol defnyddiol i&#039;r mathau allweddol o incwm y gall mudiad eu harchwilio.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/archwilio-ffrydiau-incwm-amrywiol\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Archwilio ffrydiau incwm amrywiol | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae&#039;r adnodd hon yn cynnig canllaw gweledol defnyddiol i&#039;r mathau allweddol o incwm y gall mudiad eu harchwilio.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/archwilio-ffrydiau-incwm-amrywiol\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-02-24T09:54:54+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Income-sources.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1920\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1281\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"14 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/archwilio-ffrydiau-incwm-amrywiol\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/archwilio-ffrydiau-incwm-amrywiol\/\",\"name\":\"Archwilio ffrydiau incwm amrywiol | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/archwilio-ffrydiau-incwm-amrywiol\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/archwilio-ffrydiau-incwm-amrywiol\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Income-sources.jpg\",\"datePublished\":\"2026-02-23T15:41:10+00:00\",\"dateModified\":\"2026-02-24T09:54:54+00:00\",\"description\":\"Mae'r adnodd hon yn cynnig canllaw gweledol defnyddiol i'r mathau allweddol o incwm y gall mudiad eu harchwilio.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/archwilio-ffrydiau-incwm-amrywiol\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/archwilio-ffrydiau-incwm-amrywiol\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/archwilio-ffrydiau-incwm-amrywiol\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Income-sources.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Income-sources.jpg\",\"width\":1920,\"height\":1281,\"caption\":\"Group of people stand around table covered in laptops and paper charts and graphs\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/archwilio-ffrydiau-incwm-amrywiol\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Archwilio ffrydiau incwm amrywiol\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"description\":\"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"width\":512,\"height\":512,\"caption\":\"Hwb Gwybodaeth\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Archwilio ffrydiau incwm amrywiol | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","description":"Mae'r adnodd hon yn cynnig canllaw gweledol defnyddiol i'r mathau allweddol o incwm y gall mudiad eu harchwilio.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/archwilio-ffrydiau-incwm-amrywiol\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Archwilio ffrydiau incwm amrywiol | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","og_description":"Mae'r adnodd hon yn cynnig canllaw gweledol defnyddiol i'r mathau allweddol o incwm y gall mudiad eu harchwilio.","og_url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/archwilio-ffrydiau-incwm-amrywiol\/","og_site_name":"Hwb Gwybodaeth","article_modified_time":"2026-02-24T09:54:54+00:00","og_image":[{"width":1920,"height":1281,"url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Income-sources.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"14 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/archwilio-ffrydiau-incwm-amrywiol\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/archwilio-ffrydiau-incwm-amrywiol\/","name":"Archwilio ffrydiau incwm amrywiol | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","isPartOf":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/archwilio-ffrydiau-incwm-amrywiol\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/archwilio-ffrydiau-incwm-amrywiol\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Income-sources.jpg","datePublished":"2026-02-23T15:41:10+00:00","dateModified":"2026-02-24T09:54:54+00:00","description":"Mae'r adnodd hon yn cynnig canllaw gweledol defnyddiol i'r mathau allweddol o incwm y gall mudiad eu harchwilio.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/archwilio-ffrydiau-incwm-amrywiol\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/archwilio-ffrydiau-incwm-amrywiol\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/archwilio-ffrydiau-incwm-amrywiol\/#primaryimage","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Income-sources.jpg","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Income-sources.jpg","width":1920,"height":1281,"caption":"Group of people stand around table covered in laptops and paper charts and graphs"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/archwilio-ffrydiau-incwm-amrywiol\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Archwilio ffrydiau incwm amrywiol"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","name":"Hwb Gwybodaeth","description":"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.","publisher":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization","name":"Hwb Gwybodaeth","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","width":512,"height":512,"caption":"Hwb Gwybodaeth"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/22737","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2205"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/22737\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":22749,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/22737\/revisions\/22749"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/22718"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=22737"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=22737"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=22737"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}