{"id":22267,"date":"2025-12-01T15:32:46","date_gmt":"2025-12-01T15:32:46","guid":{"rendered":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/?post_type=resource&#038;p=22267"},"modified":"2025-12-01T15:32:49","modified_gmt":"2025-12-01T15:32:49","slug":"nodyn-cyfarwyddyd-ar-gymdeithasau-anghorfforedig","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/nodyn-cyfarwyddyd-ar-gymdeithasau-anghorfforedig\/","title":{"rendered":"Nodyn Cyfarwyddyd ar Gymdeithasau Anghorfforedig"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-bootstrap-blocks-container container mb-2\">\n\t\n<div class=\"wp-bootstrap-blocks-row row\">\n\t\n\n<div class=\"col-12 col-md-9\">\n\t\t\t\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Trosolwg<\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"#summary\">Crynodeb <\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#considerations\">Ystyriaethau Cyffredinol<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#employment\">Cyflogaeth<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#contracts\">Contractau<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#land\">Tir <\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#conversion\">Trosi<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Paratowyd y ddogfen ganllaw hon gyda chefnogaeth Faegre Drinker Biddle &amp; Reath LLP. Mae\u2019r deunydd yn y ddogfen hon at ddibenion gwybodaeth yn unig, yn gyffredinol ei natur, ac nid yw\u2019n gyngor cyfreithiol. Ni ddylid dibynnu ar y deunydd yn y ddogfen hon na\u2019i ddefnyddio heb ymgynghori \u00e2 chyfreithiwr i ystyried eich amgylchiadau penodol. Cyhoeddwyd y ddogfen hon ar y dyddiad a nodir ac nid yw\u2019n cynnwys unrhyw newidiadau i\u2019r pynciau, y cyfreithiau, y rheolau na\u2019r rheoliadau a gwmpesir ers y dyddiad hwnnw.    <\/strong><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"summary\">Crynodeb<\/h2>\n\n\n\n<p>Rydym wedi crynhoi atebion i rai cwestiynau cyfreithiol allweddol y gall fod gan gymdeithasau anghorfforedig mewn perthynas \u00e2 sut maent yn gweithredu.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall cymdeithasau anghorfforedig fod yn syml, yn hyblyg ac yn rhad i\u2019w sefydlu, gan olygu eu bod yn strwythur delfrydol ar gyfer rhai elusennau llai o faint. Fodd bynnag, dylai\u2019r aelodau hynny sy\u2019n ymgymryd \u00e2 chyfrifoldebau rheoli mewn cymdeithasau elusennol anghorfforedig (yr ydym yn eu galw\u2019n \u201c<strong>Ymddiriedolwyr Rheoli<\/strong>\u201d) neu\u2019n dal tir neu eiddo ar ran y gymdeithas elusennol anghorfforedig (yr ydym yn eu galw\u2019n \u201c<strong>Ymddiriedolwyr Daliannol<\/strong>\u201d) fod yn ymwybodol o\u2019r atebolrwydd personol sylweddol a allai ddod gyda\u2019u swydd. O ganlyniad, nid yw hwn yn strwythur elusennol y dylid ei ddefnyddio ar gyfer mudiadau mwy o faint, y rhai sy\u2019n cyflogi gweithwyr, na\u2019r rhai sy\u2019n delio \u00e2 rhoddion neu asedau nodedig  <\/p>\n\n\n\n<p>Mae llawer o gymdeithasau elusennol anghorfforedig yn dechrau\u2019n fach a, thros amser, gallant dyfu ynghynt na\u2019u strwythur anghorfforedig. Mewn achosion o\u2019r fath, dylai Ymddiriedolwyr Rheoli ystyried o ddifrif a ddylid diweddaru ffurf gorfforedig eu cymdeithas, er enghraifft, i fudiad corfforedig elusennol neu gwmni preifat cyfyngedig trwy warant. <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"considerations\">Ystyriaethau Cyffredinol<\/h2>\n\n\n\n<p><strong>Beth yw\u2019r gwahaniaeth rhwng mudiad anghorfforedig a mudiad corfforedig?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae llawer o sefydliadau elusennol bach, fel clybiau chwaraeon cymunedol, yn anghorfforedig. Mae hyn, yn gyffredinol, am eu bod yn hawdd ac yn rhad i\u2019w sefydlu, ac nid yw\u2019n ofynnol iddynt ffeilio ffurflenni a chyfrifon blynyddol gyda Th\u0177\u2019r Cwmn\u00efau fel y byddai cwmni cyfyngedig preifat yn ei wneud (er bod yn rhaid i gymdeithas elusennol anghorfforedig gydymffurfio o hyd \u00e2\u2019u rhwymedigaethau o dan gyfraith elusennau o ran ffeilio ffurflenni ac adroddiadau blynyddol a datganiadau o gyfrifon gyda\u2019r Comisiwn Elusennau). Nid oes gan y gymdeithas elusennol anghorfforedig ei hun hunaniaeth gyfreithiol ar wah\u00e2n ac, yn wahanol i fudiad corfforedig, nid oes ganddi allu cyfreithiol i ddal asedau a delio \u00e2 nhw, ymrwymo i gontractau na chyflogi cyflogeion yn ei rhinwedd ei hun. Yn lle hynny, bydd yn rhaid i unigolion (Ymddiriedolwyr Rheoli a\/neu Ymddiriedolwyr Daliannol fel arfer) gyflawni\u2019r r\u00f4l hon yn bersonol \u201car ran\u201d y gymdeithas anghorfforedig.   <\/p>\n\n\n\n<p>Mewn cyferbyniad, mae gan fudiad corfforedig ei hunaniaeth gyfreithiol ei hun a gall ddal asedau a delio \u00e2 nhw yn ei rinwedd ei hun ac ymrwymo i drefniadau cyfreithiol, gan gynnwys contractau. Fel arfer, mae statws corfforedig yn darparu atebolrwydd cyfyngedig i\u2019w aelodau, ac ni fydd gan gyfarwyddwyr neu ymddiriedolwyr atebolrwydd personol am y mudiad a\u2019i drafodion (ac eithrio mewn amgylchiadau penodol, megis torri dyletswyddau cyfarwyddwr).  <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Beth yw anfanteision strwythur cymdeithas anghorfforedig?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Dyma rai o\u2019r prif anfanteision:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Diffyg hunaniaeth gyfreithiol ar wah\u00e2n:<\/strong> Gan nad oes gan gymdeithasau anghorfforedig hunaniaeth gyfreithiol ar wah\u00e2n (ar wah\u00e2n i\u2019r casgliad o unigolion sy\u2019n ffurfio aelodaeth y mudiad), gall fod yn anodd iddynt ymrwymo i gontractau a delio \u00e2 thrydydd part\u00efon. Bydd aelodau\u2019n dod ar draws problemau tebyg wrth ddelio ag asedau ar ran y gymdeithas, na all fod yn berchen ar asedau yn ei henw ei hun. <\/li>\n\n\n\n<li><strong>Atebolrwydd anghyfyngedig posibl i aelodau: <\/strong>Mae\u2019r diffyg hunaniaeth gyfreithiol ar wah\u00e2n hwn yn golygu bod gan yr unigolion hynny sy\u2019n gyfrifol am reoli\u2019r gymdeithas anghorfforedig neu ddal eiddo ar ei rhan, h.y. Ymddiriedolwyr Rheoli ac Ymddiriedolwyr Daliannol, atebolrwydd anghyfyngedig a\u2019u bod yn atebol ar y cyd ac yn unigol am ddyledion a rhwymedigaethau\u2019r mudiad. O ganlyniad, bydd Ymddiriedolwyr Rheoli ac Ymddiriedolwyr Daliannol yn gyfrifol yn bersonol os caiff y mudiad ei erlyn. Yn amodol ar unrhyw gyfyngiadau cytundebol a negodwyd yn benodol, nid oes unrhyw derfyn ar atebolrwydd Ymddiriedolwyr Rheoli neu Ymddiriedolwyr Daliannol, felly mae eu hamlygiad posibl yn ddiderfyn a gall eu hasedau personol fod mewn perygl. Mae hyn yn ystyriaeth bwysig iawn i unrhyw un sy\u2019n sefydlu neu\u2019n rheoli clwb neu gymdeithas elusennol.   <\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gweinyddiaeth gymhleth \/ anymarferol:<\/strong> Os yw\u2019r mudiad elusennol yn debygol o ymgymryd \u00e2 rhwymedigaethau ac atebolrwydd sylweddol \u2013 er enghraifft, os yw\u2019n gweithredu fel cyflogwr, yn berchennog eiddo neu\u2019n ddarparwr gwasanaeth \u2013 yna, yn gyffredinol, bydd yn fwy priodol i\u2019r mudiad gael ei gorffori er mwyn osgoi atebolrwydd personol o\u2019r fath.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Llai o opsiynau ar gyfer cyllid allanol:<\/strong> Gall y diffyg corffori hefyd olygu bod banciau yn annhebygol o fenthyg arian i\u2019r gymdeithas ac efallai na fydd cyllidwyr grant yn fodlon dyfarnu symiau mawr o arian. Gall hefyd ei gwneud hi\u2019n anoddach derbyn rhoddion unigol a chodi arian trwy ddigwyddiadau gan fod aelodau\u2019r cyhoedd eisiau gweld tystiolaeth yn aml bod eu harian yn mynd i fudiad o sylwedd. <\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"employment\">Cyflogaeth<\/h2>\n\n\n\n<p><strong>A all cymdeithasau anghorfforedig gyflogi cyflogeion?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Gallant, ond dim ond trwy unigolion sy\u2019n gweithredu ar ran y gymdeithas anghorfforedig. Nid oes gan y gymdeithas ei phersonoliaeth gyfreithiol ei hun, felly ni all weithredu fel cyflogwr yn ei rhinwedd ei hun. <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Pwy ddylai lofnodi\u2019r contract cyflogaeth?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Gan nad oes gan gymdeithas anghorfforedig bersonoliaeth gyfreithiol, ni all ymrwymo i gontractau \u2013 gan gynnwys contractau cyflogaeth \u2013 yn ei henw ei hun. Yn hytrach, rhaid i gontractau cyflogaeth gael eu llofnodi gan un neu fwy o unigolion (Ymddiriedolwyr Rheoli fel arfer) \u201car ran\u201d y gymdeithas. Fel arfer, bydd y llysoedd yn ystyried mai contract rhwng y cyflogai ac aelodau\u2019r pwyllgor rheoli neu\u2019r bwrdd ymddiriedolwyr sydd ar waith ar unrhyw adeg yw\u2019r contract cyflogaeth. Felly, er y bydd yr Ymddiriedolwyr Rheoli yn newid dros amser, mae\u2019r rhai sydd yn eu swydd ar yr adeg berthnasol yn debygol o gael eu dwyn yn gyfrifol am y contract cyflogaeth, hyd yn oed os nad oeddent yn ymgymryd \u00e2 swydd Ymddiriedolwr Rheoli pan lofnodwyd y contract cyflogaeth yn wreiddiol.   <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Beth os yw\u2019r gymdeithas anghorfforedig yn dod yn rhan o anghydfod cyfreithiol gyda chyflogai?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Ymddiriedolwyr Rheoli sy\u2019n gyfrifol am y contractau cyflogaeth yn y pen draw. Os na all asedau\u2019r gymdeithas anghorfforedig nac unrhyw bolisi yswiriant a drefnwyd gwmpasu\u2019r atebolrwydd am ddyfarniad llys neu dribiwnlys a wneir o blaid y cyflogai, efallai y bydd yn rhaid i\u2019r Ymddiriedolwyr Rheoli gyfrannu\u2019n bersonol tuag at daliad. <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"contracts\">Contractau<\/h2>\n\n\n\n<p><strong>A all cymdeithas anghorfforedig ymrwymo i gontractau yn ei henw ei hun, neu oes rhaid i unigolion wneud hynny ar ei rhan?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Ni all cymdeithas anghorfforedig ymrwymo i gontractau yn ei henw ei hun ac felly nid yw\u2019n bosibl i drydydd parti ymrwymo i gontract gyda\u2019r gymdeithas anghorfforedig ei hun. Yn lle hynny, rhaid i Ymddiriedolwyr Rheoli lofnodi\u2019r contractau. Fel gyda chontractau cyflogaeth uchod, maent yn gwneud hyn yn eu henw eu hunain, fel arfer ar ran yr aelodau yn eu cyfanrwydd neu\u2019r Ymddiriedolwyr Rheoli eraill (fel gr\u0175p) yn dibynnu ar sail eu hawdurdod i ymrwymo i gontract fel y\u2019i nodir yng nghyfansoddiad y gymdeithas. Wrth wneud hynny, maent yn cymryd cyfrifoldeb personol ac atebolrwydd am y rhwymedigaethau yn y contract (yn amodol ar unrhyw gymal cyfyngu atebolrwydd yn y contract). Yn dibynnu ar y rheolau penodol sy\u2019n llywodraethu\u2019r gymdeithas anghorfforedig a\u2019r ffordd yr ymrwymwyd i gontractau penodol, gall hyn greu beichiau neu anawsterau gweinyddol ychwanegol os bydd unigolion o\u2019r fath yn gadael y mudiad (o ran aseinio\u2019r contractau neu ymrwymo i gontractau newydd).    <\/p>\n\n\n\n<p>Mae hyn yn cyferbynnu \u00e2 hunaniaeth gyfreithiol ar wah\u00e2n mudiad anghorfforedig lle bydd y mudiad yn parhau i fodoli yn yr un ffurf hyd yn oed os bydd unigolion penodol (fel cyfarwyddwyr neu ymddiriedolwyr) yn gadael.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Sut ddylai cymdeithasau anghorfforedig lofnodi contractau?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Byddai\u2019n arferol i\u2019r rheolau neu\u2019r cyfansoddiad sy\u2019n llywodraethu\u2019r gymdeithas anghorfforedig roi awdurdod i rai o\u2019r aelodau (h.y. yr Ymddiriedolwyr Rheoli) lofnodi ar ran y gymdeithas anghorfforedig. Dylai\u2019r cymal gweithredu nodi enwau\u2019r unigolion ac ym mha rinwedd maent yn llofnodi, e.e. fel aelod o bwyllgor rheoli (neu debyg) y gymdeithas anghorfforedig. <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Beth ddylem ei wneud os byddwn yn darganfod ein bod wedi llofnodi contract yn enw\u2019r gymdeithas anghorfforedig?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Gan na all y gymdeithas anghorfforedig fod yn barti i\u2019r contract ac ni all lofnodi contractau yn ei henw ei hun, y ffordd fwyaf priodol o weithredu, fwy na thebyg, yw ail-lofnodi\u2019r contract yn y modd cywir, yn unol \u00e2\u2019i rheolau cyfansoddiadol a\u2019i hegwyddorion cyfreithiol cyffredinol.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Beth ddylai cymdeithas gorfforedig ei wneud os bydd angen iddi amrywio neu aseinio contract, ond mae\u2019r llofnodwr gwreiddiol wedi gadael y gymdeithas neu nad oes modd cysylltu ag ef mwyach?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Nodyn ar yr hyn a olygir wrth \u2018amrywio\u2019 neu \u2018aseinio\u2019 contract. Mae \u2018amrywio\u2019 contract yn golygu newid un rhan neu fwy ohono ar \u00f4l iddo gael ei wneud, er enghraifft, faint o arian sy\u2019n daladwy, yr amserlen y mae rhywbeth yn ddyledus neu\u2019r hyn sydd angen ei wneud. Mae \u2018aseinio\u2019 contract yn golygu trosglwyddo\u2019r hawliau a\u2019r buddion oddi tano i rywun arall.  <\/p>\n\n\n\n<p>Yn gyntaf, mae\u2019n werth gwirio\u2019r contract i gadarnhau a yw\u2019n nodi y gall y contract gael ei amrywio neu ei aseinio gan unigolion eraill (h.y. un o\u2019r Ymddiriedolwyr Rheoli presennol) ar ran pwyllgor rheoli (neu gyfwerth) y gymdeithas anghorfforedig yn hytrach na\u2019r llofnodwr gwreiddiol. Os oedd y llofnodwr gwreiddiol yn gweithredu fel cynrychiolydd neu asiant awdurdodedig ar ran aelodau (neu bwyllgor rheoli) y gymdeithas anghorfforedig yn unol \u00e2\u2019i rheolau neu ei chyfansoddiad, yna efallai y bydd rheolau tebyg sy\u2019n caniat\u00e1u penodi cynrychiolydd neu asiant awdurdodedig newydd a all amrywio, aseinio neu gymryd unrhyw gamau eraill sy\u2019n angenrheidiol mewn cysylltiad \u00e2\u2019r contract. <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Pwy sy\u2019n gyfrifol yn gyfreithiol os bydd y gymdeithas anghorfforedig yn torri contract?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Yn gyffredinol, yr Ymddiriedolwyr Rheoli (y rhai sy\u2019n rheoli ac sydd \u00e2 rheolaeth dros weinyddu\u2019r gymdeithas anghorfforedig) fydd yn wynebu\u2019r risg o atebolrwydd personol, er yn dibynnu ar gyfansoddiad y mudiad a\u2019r contractau y maent wedi ymrwymo iddynt, mae\u2019n bosibl i\u2019r aelodaeth ehangach gael ei chysylltu \u00e2 hyn hefyd mewn rhai amgylchiadau.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>A fydd Ymddiriedolwr Rheoli unigol sy\u2019n llofnodi contract yn atebol yn bersonol, neu a fyddai\u2019n cael ei ystyried yn atebol ar y cyd \u00e2\u2019r aelodau yn eu cyfanrwydd neu\u2019r holl Ymddiriedolwyr Rheoli gyda\u2019i gilydd?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Bydd yr Ymddiriedolwr Rheoli sy\u2019n llofnodi\u2019r contract yn atebol yn bersonol fel llofnodwr sy\u2019n ymrwymo i rwymedigaethau o dan y contract. Bydd p\u2019un a fyddai Ymddiriedolwyr Rheoli eraill neu\u2019r aelodaeth ehangach yn atebol ar y cyd \u00e2\u2019r Ymddiriedolwr Rheoli sy\u2019n llofnodi yn dibynnu ar ffeithiau ac amgylchiadau pob achos penodol. Bydd nifer o ffactorau yn berthnasol. Y cyntaf yw a oes gan y gymdeithas anghorfforedig unrhyw reolau neu unrhyw gytundeb ynghylch sut y dylid rhannu atebolrwydd a beth mae\u2019r rheolau hynny\u2019n ei ddweud. Gall atebolrwydd aelodau\u2019r pwyllgor neu aelodau cyffredinol, er enghraifft, gael ei gyfyngu gan delerau penodol yn y rheolau neu\u2019r cyfansoddiad. Bydd yr amgylchiadau y llofnodwyd y contract oddi tanynt yn berthnasol hefyd. Gall unigolion sy\u2019n ymrwymo i gontract ar ran y gymdeithas fod yn atebol yn bersonol neu gallant fod yn gweithredu fel asiantau i\u2019r aelodau yn eu cyfanrwydd neu\u2019r pwyllgor rheoli (neu gyfwerth). Os rhoddwyd awdurdod i ymrwymo i\u2019r contract gan y pwyllgor rheoli, yna gall yr Ymddiriedolwyr Rheoli fod yn atebol hefyd.       <\/p>\n\n\n\n<p>Dyma un rheswm pam ei bod yn bwysig sicrhau bod \u2018rheolau\u2019 sylfaenol yn cael eu hysgrifennu i lawr sy\u2019n nodi nodau\u2019r gymdeithas anghorfforedig, y pwerau sydd ganddi i gyflawni\u2019r nodau hyn a\u2019r gweithdrefnau rheoli, gan gynnwys sut i gau\u2019r gymdeithas, hyd yn oed os nad oes gan y gymdeithas anghorfforedig gyfansoddiad llawn. Mae gan y Comisiwn Elusennau gyfansoddiad enghreifftiol ar gyfer cymdeithasau anghorfforedig y gellir ei ddefnyddio at y diben hwn. <\/p>\n\n\n\n<p><strong>A yw\u2019n bosibl cyfyngu ar atebolrwydd unigol wrth ymrwymo i gontractau?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Gall y contract gynnwys cymal sy\u2019n cyfyngu atebolrwydd i swm penodol. Gallai atebolrwydd personol yr unigolion gael ei gyfyngu i\u2019r arian sydd gan y gymdeithas anghorfforedig, er enghraifft. Fodd bynnag, mae trydydd part\u00efon yn debygol o wthio\u2019n \u00f4l ar hyn os ydynt o\u2019r farn nad yw\u2019r arian sydd gan y gymdeithas yn ddigonol i gwmpasu unrhyw hawliadau posibl.  <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Os oes gennym hawliad cyfreithiol yn erbyn trydydd parti o dan un o\u2019n contractau, sut allwn ni ei ddwyn? A oes unrhyw risg i\u2019r Ymddiriedolwyr Rheoli? <\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Gan nad oes gan fudiad anghorfforedig ei bersonoliaeth gyfreithiol ei hun, ni all ddwyn hawliad ei hun. Yn lle hynny, byddai\u2019n rhaid i Ymddiriedolwyr Rheoli ddwyn hawliadau yn bersonol ac yn eu henwau nhw eu hunain. Y risg wrth wneud hynny yw, os nad yw\u2019r hawliad yn llwyddiannus, gall y llys orchymyn i\u2019r hawlydd\/hawlwyr dalu costau cyfreithiol y diffynnydd. O ganlyniad, byddai\u2019r Ymddiriedolwyr Rheoli unigol yn atebol am gostau o\u2019r fath. Yn y sefyllfa hon, byddai\u2019n hanfodol sicrhau bod digon o yswiriant wedi\u2019i drefnu i gwmpasu risg atebolrwydd o\u2019r fath.    <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"land\">Tir<\/h2>\n\n\n\n<p><strong>A all cymdeithas anghorfforedig fod yn berchen ar eiddo neu ei brydlesu?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Ni all cymdeithas anghorfforedig fod yn berchen ar eiddo na\u2019i brydlesu. Yn hytrach, rhaid i eiddo gael ei ddal gan unigolion ar ran y gymdeithas. Gall hyn gael ei wneud mewn sawl ffordd, gan gynnwys, yn aml, gan rai o\u2019r aelodau fel ymddiriedolwyr ar ymddiriedolaeth ar gyfer yr holl aelodau.  <\/p>\n\n\n\n<p>Mae sut mae tir yn cael ei ddal, ac unrhyw rwymedigaethau cysylltiedig, yn dibynnu ar amgylchiadau penodol y gymdeithas anghorfforedig a\u2019r contractau perthnasol. Dylid gofyn am gyngor cyfreithiol os yw\u2019r gymdeithas anghorfforedig yn dal unrhyw eiddo. <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Pwy sy\u2019n atebol am rwymedigaethau o dan brydles neu gytundeb eiddo?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Bydd yr unigolion a lofnododd y brydles neu\u2019r cytundeb eiddo perthnasol, sef Ymddiriedolwyr Daliannol, yn atebol yn bersonol am y rhwymedigaethau o dan y cytundeb (er enghraifft, taliadau rhent).<\/p>\n\n\n\n<p><strong>A all cymdeithas anghorfforedig forgeisio tir?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Os nad oes gan gymdeithas anghorfforedig b\u0175er penodol o dan ei rheolau i fenthyca arian, ni all roi morgais dros ei heiddo i sicrhau gorddrafft neu fenthyciad gan fanc neu drydydd parti (gan gynnwys ei haelodau ei hun). Os oes gan y gymdeithas anghorfforedig b\u0175er penodol, yna gall benthyciwr ofyn am brawf o\u2019r p\u0175er hwnnw a phrawf o sut mae\u2019r teitl i\u2019r eiddo yn cael ei ddal. <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Beth fydd yn digwydd i\u2019r eiddo os caiff y gymdeithas anghorfforedig ei diddymu?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Os caiff y gymdeithas anghorfforedig ei diddymu ac na fydd yn bodoli mwyach, yna mae\u2019r cwestiwn ynghylch beth fydd yn digwydd i unrhyw asedau sy\u2019n weddill (gan gynnwys eiddo) yn dibynnu ar amgylchiadau penodol y gymdeithas anghorfforedig. Os yw rheolau\u2019r gymdeithas anghorfforedig yn ymdrin yn benodol \u00e2 dosbarthu ei heiddo ar yr adeg y caiff ei diddymu (er enghraifft, ei fod yn cael ei gymhwyso at ddiben elusennol arall), yna y rheolau hynny fydd drechaf. Fel arfer, byddai dogfen lywodraethu cymdeithas elusennol anghorfforedig yn cynnwys geiriad i atal unrhyw asedau rhag cael eu dosbarthu i\u2019r aelodau. Yn ymarferol, mae\u2019n debygol y bydd yr eiddo yn cael ei werthu, a byddai\u2019r arian sy\u2019n deillio o hynny yn cael ei roi tuag at ddiben elusennol arall, tebyg unwaith y bydd holl rwymedigaethau\u2019r gymdeithas anghorfforedig wedi\u2019u bodloni.   <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Beth ddylem ei wneud os byddwn yn darganfod bod tir\/eiddo\u2019r gymdeithas anghorfforedig yn cael ei ddal yn enw Ymddiriedolwr Daliannol sydd wedi marw neu y mae\u2019r gymdeithas wedi colli cysylltiad ag ef?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Pan fydd Ymddiriedolwyr Daliannol yn newid (er enghraifft, am eu bod yn ymddeol neu\u2019n marw), mae\u2019r gyfraith gyffredinol ar newid ymddiriedolwyr yn berthnasol. Os nad yw\u2019r Ymddiriedolwyr Daliannol ymadawol yn trosglwyddo\u2019r tir, gall achosi problemau sylweddol yn ddiweddarach, yn enwedig os oes mwy nag un newid wedi bod o ran Ymddiriedolwyr Daliannol neu os yw cyn-Ymddiriedolwr Daliannol yn marw. Er enghraifft, os yw Ymddiriedolwyr Daliannol eisiau gwerthu neu drosglwyddo tir sydd wedi\u2019i gofrestru yn enwau cyn-Ymddiriedolwyr Daliannol, rhaid iddynt ddod o hyd i\u2019r Ymddiriedolwyr Daliannol hynny neu gael tystiolaeth o\u2019u marwolaeth. Byddai hyn yn golygu cysylltu \u00e2 chynrychiolwyr personol neu ysgutorion yr Ymddiriedolwr ymadawedig. Fel arall, efallai y bydd angen i\u2019r Ymddiriedolwyr Daliannol sy\u2019n weddill wneud cais i\u2019r llys am orchymyn breinio i drosglwyddo perchnogaeth y tir i Ymddiriedolwr arall. Nid yw\u2019r un o\u2019r senarios hyn yn arbennig o ddymunol.     <\/p>\n\n\n\n<p>Gellir osgoi rhai o\u2019r anawsterau posibl hyn drwy wneud cais i\u2019r Comisiwn Elusennau am orchymyn i freinio tir a ddelir ar ymddiriedolaeth ar gyfer cymdeithas elusennol anghorfforedig yn y Ceidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau. Bydd y Ceidwad Swyddogol yn dal teitl i dir yr elusen ar ei rhan ac mae\u2019n golygu nad oes angen i Ymddiriedolwyr Daliannol ddal tir yn eu henwau eu hunain (er ar gyfer cymdeithasau anghorfforedig, rhaid i\u2019r Ymddiriedolwyr Daliannol fod yn barti i\u2019r dogfennau cyfreithiol perthnasol, e.e. trawsgludo neu drosglwyddo, prydles neu forgais). Mae hyn yn symleiddio teitl i\u2019r tir ac yn osgoi:  <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Yr angen i drosglwyddo\u2019r tir bob tro y penodir Ymddiriedolwr Daliannol newydd i\u2019r elusen;<\/li>\n\n\n\n<li>Y risg y bydd tir elusennol yn parhau i gael ei freinio mewn unigolion nad ydynt yn ymwneud \u00e2\u2019r elusen mwyach ac y gallai fod yn anodd dod o hyd iddynt.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Pan fo tir elusennol wedi\u2019i freinio mewn unigolion sydd wedi marw neu na ellir dod o hyd iddynt, efallai mai gwneud cais llwyddiannus am orchymyn i freinio tir elusennol yn y Ceidwad Swyddogol fydd y ffordd orau o berffeithio teitl yr elusen i\u2019r tir. Gwasanaeth rhad ac am ddim yw hwn a ddarperir gan y Ceidwad Swyddogol, a gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/guidance\/transfer-charity-land-or-property-to-the-official-custodian\">wefan y llywodraeth.<\/a> <\/p>\n\n\n\n<p>Sylwer, hyd yn oed lle mae tir wedi\u2019i freinio yn y Ceidwad Swyddogol, mae\u2019r p\u0175er a\u2019r ddyletswydd i reoli\u2019r tir yn aros gyda\u2019r Ymddiriedolwyr Rheoli. Hefyd, nid yw\u2019r ffaith bod y tir wedi\u2019i freinio yn y Ceidwad Swyddogol yn rhyddhau\u2019r Ymddiriedolwyr Rheoli o\u2019u rhwymedigaethau mewn perthynas \u00e2\u2019r tir. Mae rhwymedigaethau sy\u2019n orfodadwy gan neu yn erbyn y Ceidwad Swyddogol oherwydd bod y tir wedi\u2019i freinio yn y Ceidwad Swyddogol yn orfodadwy gan neu yn erbyn yr Ymddiriedolwyr Rheoli fel pe bai\u2019r tir wedi\u2019i freinio ynddyn nhw.  <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"conversion\">Trosi<\/h2>\n\n\n\n<p><strong>Os yw cymdeithas anghorfforedig yn dymuno corffori, beth all ei wneud?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Os yw cymdeithas elusennol yn penderfynu nad strwythur anghorfforedig yw\u2019r ffurf gyfreithiol orau ar ei chyfer mwyach, yna gall gorffori i ffurfio strwythur arall, megis cwmni cyfyngedig trwy warant, neu fudiad corfforedig elusennol (<strong>CIO<\/strong>), er enghraifft. Mae gan y strwythurau hyn bersonoliaeth gyfreithiol ar wah\u00e2n ac maent yn elwa o atebolrwydd cyfyngedig. Gall yr elusen ymrwymo i gontractau yn ei henw ei hun yn gyfreithlon, yn hytrach nag yn enwau ei hymddiriedolwyr unigol.  <\/p>\n\n\n\n<p>I drosi i CIO, byddai angen i chi sefydlu a chofrestru CIO newydd, trosglwyddo asedau a rhwymedigaethau eich elusen i\u2019r CIO newydd a chau\u2019r gymdeithas anghorfforedig. Dylid cymryd cyngor cyfreithiol wrth ystyried trosi, gan fod ystyriaethau cyfreithiol ychwanegol yn debygol lle mae cyflogeion a thir yn cael eu trosglwyddo. <\/p>\n\n\n\n<p>Sylwch y bydd y penderfyniad i gorffori yn cynnwys sefydlu endid corfforedig, trosglwyddo asedau\u2019r gymdeithas anghorfforedig iddo, a diddymu\u2019r gymdeithas anghorfforedig. Yn dibynnu ar y rheolau sy\u2019n llywodraethu cymdeithas anghorfforedig, mae\u2019n debygol y bydd angen cymeradwyaeth aelodau\u2019r gymdeithas anghorfforedig ymlaen llaw i wneud hyn. Dylid gofyn am gyngor cyfreithiol cyn bwrw ymlaen lle bo angen.   <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Beth fydd yn digwydd i gontractau cymdeithas anghorfforedig os bydd yn penderfynu corffori?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Byddai angen i\u2019r contractau hyn gael eu trosglwyddo i\u2019r endid sydd newydd ei gorffori. Gellir gwneud hyn trwy \u201cnewyddu\u2019r\u201d contractau perthnasol. Mae newyddiad yn ffordd o drosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau parti o dan gontract i drydydd parti. Mae\u2019r broses hon yn gymharol syml a bydd angen caniat\u00e2d yr holl bart\u00efon i\u2019r contract gwreiddiol a\u2019r endid newydd y mae\u2019r contract yn trosglwyddo iddo. Fel arall, gellid terfynu\u2019r contractau (os yn bosibl) a llunio contractau newydd gyda\u2019r endid newydd.    <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Os nad yw cymdeithas anghorfforedig yn corffori, a all yr Ymddiriedolwyr Daliannol neu\u2019r Ymddiriedolwyr Rheoli ddibynnu ar yswiriant i dalu eu rhwymedigaeth bersonol?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae llawer o gymdeithasau anghorfforedig yn trefnu yswiriant i amddiffyn unigolion rhag atebolrwydd personol. Mae yswiriant indemniad ymddiriedolwyr a chynhyrchion yswiriant atebolrwydd cyhoeddus yn opsiwn i geisio cwmpasu rhai o\u2019r risgiau. Fodd bynnag, mae amrywiaeth o risgiau ariannol nad yw yswiriant ar gael ar eu cyfer fel arfer. Er enghraifft, efallai na fydd atebolrwydd o dan gontractau cyflogaeth, cytundebau masnachol neu brydles yn cael ei gwmpasu gan y cynhyrchion yswiriant rydych chi wedi\u2019u dewis. Mae\u2019n hanfodol gwirio a deall cwmpas eich polisi yn ofalus.    <\/p>\n\n\n\n<p>Un o\u2019r anfanteision allweddol sydd ynghlwm wrth ddibynnu ar gynhyrchion yswiriant yw y gall trydydd part\u00efon ochel rhag ymrwymo i gontract gyda chymdeithas anghorfforedig (neu roi arian iddi). O ganlyniad, efallai y byddant yn gofyn am fanylion y polisi yswiriant (er mwyn deall i ba raddau y mae\u2019r rhwymedigaethau posibl yn cael eu cwmpasu), yn gofyn am warantau personol gan Ymddiriedolwyr Rheoli, neu hyd yn oed yn gwrthod ymrwymo i gontract gyda\u2019r gymdeithas anghorfforedig. <\/p>\n\n\n\n<p>Er y gall dibynnu ar gynhyrchion yswiriant fod yn ymarferol, y risg gynhenid yw bod atebolrwydd terfynol yn parhau i fod gyda\u2019r Ymddiriedolwyr Rheoli a\/neu\u2019r Ymddiriedolwyr Daliannol (yn \u00f4l y digwydd). Yn ymarferol, gall y cwmni yswiriant oedi neu wrthod taliad mewn achos o hawliad neu efallai na fydd unrhyw daliad yswiriant yn cwmpasu\u2019r holl atebolrwydd a wynebir, a allai gael effeithiau ariannol difrifol i\u2019r Ymddiriedolwyr Rheoli neu\u2019r Ymddiriedolwyr Daliannol dan sylw. <\/p>\n\n\t<\/div>\n\n\n\n<div class=\"col-12 col-md-3\">\n\t\t\t\n\n\t<\/div>\n\n<\/div>\n\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rydym wedi crynhoi atebion i rai cwestiynau cyfreithiol allweddol y gall fod gan gymdeithasau anghorfforedig mewn perthynas \u00e2 sut maent yn gweithredu.<\/p>\n","protected":false},"author":2205,"featured_media":22265,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"ep_exclude_from_search":false,"footnotes":""},"categories":[759],"tags":[723],"class_list":["post-22267","resource","type-resource","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llywodraethu-da","tag-good-governance","pillar-llywodraethu-da"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Nodyn Cyfarwyddyd ar Gymdeithasau Anghorfforedig | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Rydym wedi crynhoi atebion i rai cwestiynau cyfreithiol allweddol y gall fod gan gymdeithasau anghorfforedig mewn perthynas \u00e2 sut maent yn gweithredu.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/nodyn-cyfarwyddyd-ar-gymdeithasau-anghorfforedig\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Nodyn Cyfarwyddyd ar Gymdeithasau Anghorfforedig | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Rydym wedi crynhoi atebion i rai cwestiynau cyfreithiol allweddol y gall fod gan gymdeithasau anghorfforedig mewn perthynas \u00e2 sut maent yn gweithredu.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/nodyn-cyfarwyddyd-ar-gymdeithasau-anghorfforedig\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-12-01T15:32:49+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/12\/AB-Trust-1.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1920\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1280\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"16 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/nodyn-cyfarwyddyd-ar-gymdeithasau-anghorfforedig\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/nodyn-cyfarwyddyd-ar-gymdeithasau-anghorfforedig\/\",\"name\":\"Nodyn Cyfarwyddyd ar Gymdeithasau Anghorfforedig | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/nodyn-cyfarwyddyd-ar-gymdeithasau-anghorfforedig\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/nodyn-cyfarwyddyd-ar-gymdeithasau-anghorfforedig\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/12\/AB-Trust-1.jpg\",\"datePublished\":\"2025-12-01T15:32:46+00:00\",\"dateModified\":\"2025-12-01T15:32:49+00:00\",\"description\":\"Rydym wedi crynhoi atebion i rai cwestiynau cyfreithiol allweddol y gall fod gan gymdeithasau anghorfforedig mewn perthynas \u00e2 sut maent yn gweithredu.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/nodyn-cyfarwyddyd-ar-gymdeithasau-anghorfforedig\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/nodyn-cyfarwyddyd-ar-gymdeithasau-anghorfforedig\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/nodyn-cyfarwyddyd-ar-gymdeithasau-anghorfforedig\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/12\/AB-Trust-1.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/12\/AB-Trust-1.jpg\",\"width\":1920,\"height\":1280,\"caption\":\"Person's hands filling in a form on a table with scales and documents on it\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/nodyn-cyfarwyddyd-ar-gymdeithasau-anghorfforedig\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Nodyn Cyfarwyddyd ar Gymdeithasau Anghorfforedig\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"description\":\"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"width\":512,\"height\":512,\"caption\":\"Hwb Gwybodaeth\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Nodyn Cyfarwyddyd ar Gymdeithasau Anghorfforedig | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","description":"Rydym wedi crynhoi atebion i rai cwestiynau cyfreithiol allweddol y gall fod gan gymdeithasau anghorfforedig mewn perthynas \u00e2 sut maent yn gweithredu.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/nodyn-cyfarwyddyd-ar-gymdeithasau-anghorfforedig\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Nodyn Cyfarwyddyd ar Gymdeithasau Anghorfforedig | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","og_description":"Rydym wedi crynhoi atebion i rai cwestiynau cyfreithiol allweddol y gall fod gan gymdeithasau anghorfforedig mewn perthynas \u00e2 sut maent yn gweithredu.","og_url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/nodyn-cyfarwyddyd-ar-gymdeithasau-anghorfforedig\/","og_site_name":"Hwb Gwybodaeth","article_modified_time":"2025-12-01T15:32:49+00:00","og_image":[{"width":1920,"height":1280,"url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/12\/AB-Trust-1.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"16 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/nodyn-cyfarwyddyd-ar-gymdeithasau-anghorfforedig\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/nodyn-cyfarwyddyd-ar-gymdeithasau-anghorfforedig\/","name":"Nodyn Cyfarwyddyd ar Gymdeithasau Anghorfforedig | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","isPartOf":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/nodyn-cyfarwyddyd-ar-gymdeithasau-anghorfforedig\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/nodyn-cyfarwyddyd-ar-gymdeithasau-anghorfforedig\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/12\/AB-Trust-1.jpg","datePublished":"2025-12-01T15:32:46+00:00","dateModified":"2025-12-01T15:32:49+00:00","description":"Rydym wedi crynhoi atebion i rai cwestiynau cyfreithiol allweddol y gall fod gan gymdeithasau anghorfforedig mewn perthynas \u00e2 sut maent yn gweithredu.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/nodyn-cyfarwyddyd-ar-gymdeithasau-anghorfforedig\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/nodyn-cyfarwyddyd-ar-gymdeithasau-anghorfforedig\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/nodyn-cyfarwyddyd-ar-gymdeithasau-anghorfforedig\/#primaryimage","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/12\/AB-Trust-1.jpg","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/12\/AB-Trust-1.jpg","width":1920,"height":1280,"caption":"Person's hands filling in a form on a table with scales and documents on it"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/nodyn-cyfarwyddyd-ar-gymdeithasau-anghorfforedig\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Nodyn Cyfarwyddyd ar Gymdeithasau Anghorfforedig"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","name":"Hwb Gwybodaeth","description":"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.","publisher":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization","name":"Hwb Gwybodaeth","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","width":512,"height":512,"caption":"Hwb Gwybodaeth"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/22267","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2205"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/22267\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":22269,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/22267\/revisions\/22269"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/22265"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=22267"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=22267"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=22267"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}