{"id":21441,"date":"2025-10-23T17:00:41","date_gmt":"2025-10-23T16:00:41","guid":{"rendered":""},"modified":"2025-10-31T15:21:14","modified_gmt":"2025-10-31T15:21:14","slug":"gwiriad-iechyd-cynhyrchu-incwm","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gwiriad-iechyd-cynhyrchu-incwm\/","title":{"rendered":"Gwiriad Iechyd Cynhyrchu Incwm"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-bootstrap-blocks-container container mb-2\">\n\t\n<div class=\"wp-bootstrap-blocks-row row\">\n\t\n\n<div class=\"col-12 col-md-9\">\n\t\t\t\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Trosolwg<\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"#income\">Cynhyrchu Incwm<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#why\">Pam gwneud Gwiriad Iechyd Cynhyrchu Incwm?<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#what\">Pa gwestiynau y dylai gwiriad iechyd eu cynnwys?<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#how\">Sut y dylid defnyddio\u2019r gwiriad iechyd<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#look\">Sut dylai gwiriad iechyd edrych?<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#questions\">Cwestiynau allweddol i&#8217;w cynnwys yn eich Gwiriad Iechyd Cynhyrchu Incwm<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#template\">Templed<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r adnodd hon yn esbonio sut i gynnal gwiriad iechyd cynhyrchu incwm. Drwy gynnal y gwiriad iechyd hwn, gallwch chi sicrhau bod gennych chi\u2019r polis\u00efau, y gweithdrefnau a\u2019r offer cywir ar waith i gryfhau galluoedd cynhyrchu incwm eich mudiad a gwella eich siawns o ddod ag incwm ychwanegol i mewn i&#8217;ch mudiad. <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Income\">Cynhyrchu Incwm<\/h2>\n\n\n\n<p>Pan fyddwn yn siarad am gynhyrchu incwm, rydym yn cyfeirio at unrhyw weithgaredd sy&#8217;n codi arian i&#8217;ch sefydliad, yn amrywio o weithgareddau codi arian &#8220;traddodiadol&#8221; fel rhoddion ac etifeddiaethau, rafflau a boreau coffi, nawdd hyd at geisiadau am grantiau, masnachu a chontractau. Gyda chystadleuaeth gynyddol am arian, ac adnoddau cyfyngedig sydd ar gael i gefnogi cynhyrchu incwm, bydd cynnal gwiriad iechyd yn helpu i gryfhau eich gallu i gynhyrchu arian o ffynonellau mwy a mwy amrywiol. <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"why\">Pam gwneud Gwiriad Iechyd Cynhyrchu Incwm?<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r rhan fwyaf o fudiadau&#8217;r sector gwirfoddol yn dibynnu ar weithgareddau cynhyrchu incwm o ryw fath; mae codi arian yn her barhaus.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gwiriad iechyd, y cyfeirir ato hefyd fel archwiliad, adolygiad neu wiriad cryfder, yn ymarfer hunanasesu gyda rhestr o gwestiynau i&#8217;w hateb, er mwyn sicrhau eich bod yn y sefyllfa orau i allu cynhyrchu incwm. Mae nifer o bethau a ddylai fod ar waith gennych i wneud y broses o gynhyrchu incwm, mewn unrhyw ffordd, yn haws ac yn fwy effeithlon. Bydd cwblhau gwiriad iechyd a mynd i&#8217;r afael ag unrhyw fylchau y byddwch yn eu nodi drwyddo yn helpu i wneud eich gweithgareddau cynhyrchu incwm mor ddidrafferth \u00e2 phosibl, ac yn helpu eich mudiad i wneud y defnydd gorau o&#8217;i allu i gynhyrchu incwm.  <\/p>\n\n\n\n<p>Mae gwiriadau iechyd hefyd yn helpu i nodi meysydd i&#8217;w datblygu drwy dynnu sylw at wendidau a chyfleoedd. Gellir datblygu camau gweithredu ar gyfer y meysydd hyn yn gynllun i weithio arno dros gyfnod o amser sy&#8217;n gweithio i chi ac mewn ffordd sy&#8217;n briodol i&#8217;ch mudiad. <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"what\">Pa gwestiynau y dylai gwiriad iechyd eu cynnwys?<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r gwiriad iechyd yn cydnabod bod cynhyrchu incwm yn weithgaredd sy&#8217;n effeithio ar y mudiad cyfan. Dylai unrhyw weithgareddau cynhyrchu incwm gael eu llywio gan gynlluniau strategol a sefyllfa ariannol bresennol y mudiad, a dylent wneud y defnydd gorau o adnoddau presennol. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r gwiriad iechyd yn cynnwys ystod o gwestiynau sy\u2019n eich herio i fyfyrio ar y trefniadau presennol, a nodi camau gweithredu y gallwch chi weithio arnynt i wneud gwelliannau.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae enghreifftiau o\u2019r meysydd i\u2019w cwmpasu wedi\u2019u nodi yn adran olaf y daflen wybodaeth hon, ac maent yn cynnwys pynciau fel llywodraethu, sefyllfa ariannol, sut mae gweithgarwch codi arian wedi\u2019i wreiddio yn y mudiad, gweithgaredd t\u00eem, rheoli cysylltiadau cwsmeriaid, marchnata a rheoli risg. <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"how\">Sut y dylid defnyddio\u2019r gwiriad iechyd<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae cynhyrchu incwm yn weithgaredd a ddylai gynnwys y mudiad cyfan, ac felly dylid ystyried y gwiriad iechyd yn weithgaredd t\u00eem sy\u2019n cynnwys staff, ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr a buddiolwyr (fel y bo\u2019n berthnasol) i gael amrywiaeth o safbwyntiau ac i wneud y gorau o\u2019r sgiliau a\u2019r profiadau amrywiol yn eich mudiad. Er enghraifft:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae staff y prosiect, pobl sy&#8217;n gweithio&#8217;n uniongyrchol gyda defnyddwyr gwasanaeth a buddiolwyr yn hanfodol i adeiladu&#8217;r achos dros gefnogi a deall y gwahaniaeth sy&#8217;n cael ei wneud.<\/li>\n\n\n\n<li>Gall cyllid ddarparu gwybodaeth ariannol a gosod cyllidebau sy&#8217;n llywio eich targedau codi arian.<\/li>\n\n\n\n<li>Bydd yr arweinydd marchnata yn helpu i feithrin dealltwriaeth o bwy yw eich cynulleidfaoedd a sut rydych chi&#8217;n cyfathrebu \u00e2 nhw.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Defnyddiwch fylchau a nodwyd yn y gwiriad iechyd i ddatblygu camau gweithredu a fydd yn eich helpu i adeiladu sylfaen well ar gyfer eich gweithgareddau cynhyrchu incwm. Anelwch at wneud cynnydd araf a chyson drwy greu tasgau hylaw y gellir eu cyflawni&#8217;n realistig. Nid oes angen i chi wneud y cyfan ar unwaith!  <\/p>\n\n\n\n<p>Cynlluniwch amser i edrych ar y camau gweithredu eto, gwneud yn si\u0175r nad yw pethau wedi disgyn ar fin y ffordd, a diweddaru\u2019r gwiriad iechyd a&#8217;r camau gweithredu wrth i bethau newid. <\/p>\n\n\n\n<p>Unwaith y byddwch wedi datblygu&#8217;r pwyntiau gweithredu a nodwyd gan y gwiriad iechyd, meddyliwch sut y gallai&#8217;r rhain fod yn gam cyntaf tuag at ddatblygu strategaeth codi arian, os nad oes gennych un yn barod.<\/p>\n\n\n\n<p>Peidiwch ag aros nes eich bod mewn sefyllfa newydd neu ar fin colli swm mawr o gyllid. Gellir gwneud y gwiriad iechyd unrhyw bryd \u2013 mae\u2019n ymwneud \u00e2 sicrhau bod gennych chi\u2019r blociau adeiladu ar waith fel bod popeth sydd ei angen arnoch yn barod pan fydd angen i chi gwblhau cais neu gynnal ymgyrch. <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"look\">Sut dylai gwiriad iechyd edrych?<\/h2>\n\n\n\n<p>Nid oes fformat rhagnodedig ar gyfer gwiriad iechyd, ond dylai fod yn glir a dylai ddarparu cynllun gweithredu defnyddiol. Bwriedir iddo fod yn ddogfen weithio y gallwch chi gyfeirio ati a\u2019i diweddaru wrth i chi symud ymlaen. Mae enghraifft o fformat wedi&#8217;i nodi isod, ond gallwch chi ei addasu i weddu i&#8217;ch mudiad.  <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-table\"><table><tbody><tr><td rowspan=\"2\"><strong>CWESTIWN<\/strong><\/td><td colspan=\"3\"><strong>ATEB<\/strong><\/td><td rowspan=\"2\"><strong>TYSTIOLAETH AWGRYMEDIG<\/strong><\/td><td rowspan=\"2\"><strong>SYLW \/ CAM GWEITHREDU SYDD EI ANGEN<\/strong><\/td><\/tr><tr><td>Ie<\/td><td>Na<\/td><td>Yn rhannol \/ Arall (rhowch fanylion)<\/td><\/tr><tr><td><\/td><td><\/td><td><\/td><td><\/td><td><\/td><td><\/td><\/tr><\/tbody><\/table><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>Awgrym da<\/strong> \u2013 dylai pob cam gweithredu fod yn CAMPUS (cyraeddadwy, amserol, mesuradwy, penodol, uchelgeisiol, synhwyrol). Bydd hyn yn eich helpu i fod yn atebol am eu cwblhau.  <em><br><\/em><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"questions\">Cwestiynau allweddol i&#8217;w cynnwys yn eich Gwiriad Iechyd Cynhyrchu Incwm<\/h2>\n\n\n\n<p><strong>Gwybodaeth llywodraethu<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>A ydym yn deall ein gweledigaeth a&#8217;n cenhadaeth ac yn eu mynegi\u2019n glir?<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Pam?<\/strong><em> <\/em>Bydd eich gweledigaethau a&#8217;ch cenhadaeth yn llywio eich cynlluniau cynhyrchu incwm, gan helpu i osgoi ehangu amcanion a darparu&#8217;r ysbrydoliaeth ar gyfer gweithgareddau.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>A yw&#8217;r Bwrdd \/ Pwyllgor Rheoli yn deall eu cyfrifoldebau cyfreithiol?<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Pam?<\/strong> Er na fydd y Bwrdd efallai yn ymwneud \u00e2 gweithgareddau cynhyrchu incwm o ddydd i ddydd, y Bwrdd sy&#8217;n gyfrifol yn y pen draw.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>A ydym yn adrodd yn rheolaidd i&#8217;r Bwrdd \/ Pwyllgor Rheoli ar gynhyrchu incwm?<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Pam?<\/strong> Bydd angen gwybodaeth ar y Bwrdd i sicrhau ei fod yn cynnal trosolwg effeithiol o\u2019r incwm a gynhyrchir. Gallai hyn gynnwys llwyddiannau a methiannau, gwersi a ddysgwyd, a chyfleoedd a bygythiadau. <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>A ydym yn deall darpariaethau cynhyrchu incwm ein dogfen lywodraethu?<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Pam?<\/strong> Mae\u2019n bosibl y bydd cyfyngiadau ar y gweithgareddau cynhyrchu incwm y gallwch eu cyflawni e.e. cyllid benthyciad a chyfyngiadau buddsoddi<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>A oes gennym y set graidd o bolis\u00efau sydd eu hangen i gefnogi cynhyrchu incwm a dangos bod ein mudiad yn cael ei redeg yn dda?<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Pam?<\/strong><em> <\/em>Bydd rhai cyllidwyr yn mynnu bod polis\u00efau allweddol ar waith, ac mae angen eraill i amddiffyn y mudiad a&#8217;i randdeiliaid. Byddem yn argymell y canlynol yn benodol i gefnogi eich gweithgareddau codi arian \u2013 cylch gorchwyl ar gyfer grwpiau codi arian, trin arian parod, <a href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cronfeydd-wrth-gefn\/\">cronfeydd wrth gefn,<\/a> <a href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/y-gwasanaeth-datgelu-a-gwahardd-a-recriwtio-mwy-diogel-2\/\">diogelu<\/a>, cyfle cyfartal a <a href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/creu-polisi-gwirfoddoli\/\">rheoli gwirfoddolwyr<\/a>. <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>A yw ein hyswiriant yn cynnwys ein gweithgareddau cynhyrchu incwm?<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Pam?<\/strong> Mae&#8217;n bwysig amddiffyn eich staff, ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr, cyfranogwyr a buddiolwyr.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>A yw ein hanes ffeilio yn dda?<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Pam?<\/strong> Gall cyllidwyr wirio hanes ffeilio gyda chyrff rheoleiddio (e.e. Comisiwn Elusennau a Th\u0177\u2019r Cwmn\u00efau). Mae cael hanes o ffeilio rheolaidd ac amserol yn dangos bod eich mudiad yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau adrodd. <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Sefyllfa ariannol<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>A ydym yn deall ein sefyllfa ariannol bresennol, ac a allwn ddangos tystiolaeth ohoni?<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Pam?<\/strong> Mae hyn yn rhoi\u2019r cyd-destun ar gyfer unrhyw weithgarwch codi arian ac efallai y bydd cyllidwyr yn gofyn am gael gweld eich cyfrifon diweddar.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>A ydym wedi nodi ac asesu ein ffrydiau incwm o ran sicrwydd a hyd?<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Pam?<\/strong> Mae&#8217;n helpu i nodi cryfderau a gwendidau llinynnau cynhyrchu incwm presennol a llinellau amser ar gyfer gweithgareddau cynhyrchu incwm newydd.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>A oes llwybr clir rhwng ein prosiectau ac unrhyw geisiadau am gyllid parhad\/adnewyddu?<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Pam?<\/strong> Mae hyn yn cefnogi rheolaeth briodol ar lif arian a\u2019r defnydd effeithiol o adnoddau sydd eu hangen i baratoi ceisiadau, ac mae\u2019n sicrhau bod cyn lleied o darfu \u00e2 phosibl ar wasanaethau.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>A oes gennym reolaethau a systemau ariannol cadarn ar waith i reoli&#8217;r incwm a gynhyrchir?<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Pam?<\/strong> Er mwyn amddiffyn y mudiad, gwneud y defnydd gorau o&#8217;r incwm a gynhyrchir, a dangos i randdeiliaid a chyllidwyr bod y mudiad yn cael ei redeg yn dda.<\/p>\n\n\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>A ydym yn cofnodi grantiau a rhoddion a wnaed, gan bwy a&#8217;u gwerth?<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Pam?<\/strong> Mae cadw cofnod o grantiau a rhoddion yn eich helpu i reoli eich perthynas \u00e2 chyllidwyr a rhoddwyr. Er enghraifft, mae gan rai cyllidwyr gyfyngiadau o ran pryd y byddant yn derbyn ceisiadau pellach. Mae gwybod pwy sydd wedi rhoi beth yn eich helpu i wneud yn si\u0175r eich bod yn gofyn yn briodol iddynt yn y dyfodol, ac yn sicrhau eich bod yn cydymffurfio \u00e2 GDPR.  <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>A oes gennym ddarlun clir o faint y mae angen i brosiect gyfrannu at ein gorbenion er mwyn iddo fod yn hyfyw?<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Pam?<\/strong> Er mwyn deall a fydd prosiect a ariennir yn dod ag adnoddau ychwanegol, yn adennill costau, neu angen buddsoddiad, a pha mor fforddiadwy a gwerth chweil yw\u2019r buddsoddiad hwnnw. <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>A oes gennym ddulliau ar waith ar gyfer cyflwyno adroddiadau ariannol i\u2019r Bwrdd Ymddiriedolwyr \/ Pwyllgor Rheoli?<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Pam?<\/strong> Mae gan y Bwrdd Ymddiriedolwyr gyfrifoldeb cyfreithiol am hyfywedd ariannol y mudiad ac mae angen y wybodaeth hon arnynt i wneud penderfyniadau effeithiol.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Achos dros gefnogaeth<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>A ydym wedi creu \u2018Achos dros gefnogaeth\u2019 sy\u2019n gryf ac yn berthnasol?<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Pam?<\/strong> Mae \u2018achos dros gefnogaeth\u2019 yn ddogfen sy\u2019n nodi eich dadl ynghylch pam y dylai cyllidwyr a rhoddwyr eich cynorthwyo. Dylai roi dealltwriaeth glir i ddarpar gefnogwyr o&#8217;r hyn rydych yn ei wneud, yr angen am eich gwaith a pham y dylent eich cefnogi. Gellir addasu achos da dros gefnogaeth i\u2019w ddefnyddio ar draws eich dulliau cynhyrchu incwm ac ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd.   <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>A ydym yn casglu data da am ein gweithgareddau a&#8217;n heffaith?<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Pam?<\/strong> Dylai gwybodaeth monitro, gwerthuso ac effaith lywio a chryfhau eich achos dros gefnogaeth. Bydd hyn yn eich galluogi i ddangos effaith eich gwaith a pham y dylid ei gefnogi&#8217;n ariannol. <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>A yw pawb ar draws y mudiad (gwirfoddolwyr, staff ac ymddiriedolwyr) yn gwybod ein hachos dros gefnogaeth?<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Pam?<\/strong> Os gall pawb (staff\/gwirfoddolwyr\/ymddiriedolwyr) siarad am eich mudiad, yr effaith mae\u2019n ei chael a\u2019i anghenion cymorth, bydd pob cyswllt sydd gan y bobl hynny \u00e2 phobl o\u2019r tu allan i\u2019ch mudiad yn gyfle i ennill eu cefnogaeth, boed yn ariannol neu o ran eu hamser neu sgiliau.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Rhodd Cymorth (os ydych yn derbyn unrhyw fath o rodd)<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>A ydym wedi cofrestru ar gyfer Rhodd Cymorth ac a oes gennym y prosesau ar waith i wneud hawliadau Rhodd Cymorth?<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Pam?<\/strong> Gall elusen yn y DU gofrestru ar gyfer Rhodd Cymorth i wneud y mwyaf o\u2019r incwm a roddwyd drwy adennill 25% ychwanegol mewn treth ar bob rhodd gymwys a wneir gan drethdalwr yn y DU.<\/p>\n\n\n\n\n\n<p><strong>Ymrwymiad y t\u00eem<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>A yw pobl o bob rhan o&#8217;n mudiad yn cyfrannu at ein gweithgareddau cynhyrchu incwm?<\/strong> <\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Pam?<\/strong> Ni ddylai cynhyrchu incwm weithredu mewn seilo ac mae angen iddo gael ei integreiddio i weithgareddau eich mudiad i\u2019w wneud yn fwy effeithiol. Po fwyaf y bobl sy&#8217;n meddwl amdano, gorau oll fydd y syniadau! Mae hefyd yn rhoi cyfle i bobl yn y mudiad ddatblygu sgiliau newydd.  <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>A oes unrhyw un mewnol (cydweithwyr neu aelodau Bwrdd) yn prawfddarllen ceisiadau grant?<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Pam?<\/strong> Bydd hyn yn helpu i wella ansawdd eich ceisiadau, ac yn cynyddu ymwybyddiaeth o weithgareddau cynhyrchu incwm ar draws y mudiad.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Perthnasoedd a brandio<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>A oes gennym ni broses (neu system) ar waith i reoli a chofnodi ein gohebiaeth \u00e2 chefnogwyr?<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Pam?<\/strong> Bydd dod i adnabod eich cefnogwyr a rheoli gohebiaeth yn dda yn eich helpu i \u201cstiwardio\u201d rhoddwyr a darpar roddwyr i wahanol fathau o roi a\u2019ch helpu i feithrin perthnasoedd cadarn, tymor hwy. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau eich bod yn cydymffurfio \u00e2 GDPR. (Gallech chi gyfuno&#8217;r wybodaeth hon \u00e2 rhoddion a grantiau fel yr uchod)  <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>A ydym yn defnyddio dulliau brandio cyson ar draws ein mudiad?<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Pam?<\/strong> Bydd hyn yn helpu i adeiladu cydnabyddiaeth rhwng eich gwasanaethau a\u2019ch digwyddiadau codi arian \u2013 cyswllt pwysig os oes angen cymorth y cyhoedd arnoch i ariannu\u2019r gwasanaethau hynny.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>A yw eich staff\/ymddiriedolwyr\/gwirfoddolwyr yn rhwydweithio \u00e2 mudiadau eraill?<\/strong><em><\/em><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Pam?<\/strong> Gall cael perthynas \u00e2 mudiadau eraill fod yn fuddiol mewn nifer o ffyrdd, er enghraifft ceisiadau grant neu weithgareddau codi arian ar y cyd, rhannu adnoddau a nodi cyfleoedd nad ydynt yn addas ar gyfer un mudiad, ond a allai weithio i fudiad arall.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Rheoli Risgiau<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>A yw eich gweithgareddau cynhyrchu incwm ar gofrestr risg ein mudiad?<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Pam?<\/strong> Dylid cymhwyso dulliau rheoli risg i gynhyrchu incwm yn union fel pob agwedd arall ar eich mudiad. Bydd cofnodi a gwerthuso risgiau yn eich helpu i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch ble i ddefnyddio adnoddau ar gyfer cynhyrchu incwm, a lliniaru&#8217;r risgiau a ddaw yn eu sgil. <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cydymffurfedd<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>A yw ein gweithgareddau cynhyrchu incwm yn dilyn y<\/strong><strong> <a href=\"https:\/\/www.fundraisingregulator.org.uk\/code\">Cod Ymarfer Codi Arian<\/a>? <\/strong><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Pam?<\/strong> Mae\u2019r Cod hwn, a ddelir gan y Rheoleiddiwr Codi Arian, yn amlinellu\u2019r hyn y \u2018dylech\u2019 (arfer da) a\u2019r hyn y mae\u2019n \u2018rhaid\u2019 (gofynion cyfreithiol) i chi ei wneud i sicrhau bod eich gweithgareddau codi arian yn cydymffurfio \u00e2 chyfraith elusennau ac arfer da. Gallai methu \u00e2 dilyn y Cod arwain at niwed i enw da neu achos cyfreithiol. Byrddau Ymddiriedolwyr sydd \u00e2&#8217;r cyfrifoldeb cyfreithiol terfynol ac felly dylent fod yn ymwybodol o&#8217;u rhwymedigaethau.   <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"template\">Templed<\/h2>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/10\/Templed-Gwiriad-Iechyd-Cynhyrchu-Incwm.docx\">Fersiwn i lawrlytho<\/a><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-table\"><table><tbody><tr><td rowspan=\"2\"><strong>CWESTIWN<\/strong><\/td><td colspan=\"3\"><strong>ATEB<\/strong><\/td><td rowspan=\"2\"><strong>TYSTIOLAETH AWGRYMEDIG<\/strong><\/td><td rowspan=\"2\"><strong>SYLW \/ CAM GWEITHREDU SYDD EI ANGEN<\/strong><\/td><\/tr><tr><td>Ie<\/td><td>Na<\/td><td>Yn rhannol \/ Arall (rhowch fanylion)<\/td><\/tr><tr><td><strong>A ydym yn deall ein gweledigaeth a&#8217;n cenhadaeth ac yn eu mynegi\u2019n glir?<\/strong><\/td><td><\/td><td><\/td><td><\/td><td><\/td><td><\/td><\/tr><tr><td><strong>A ydym yn deall darpariaethau cynhyrchu incwm ein dogfen lywodraethu?<\/strong><\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><\/tr><tr><td><strong>A oes gennym y set graidd o bolis\u00efau sydd eu hangen i gefnogi cynhyrchu incwm a dangos bod ein mudiad yn cael ei redeg yn dda?<\/strong><\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><\/tr><tr><td><strong>A ydym yn deall ein sefyllfa ariannol bresennol, ac a allwn ddangos tystiolaeth ohoni?<\/strong><\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><\/tr><tr><td><strong>A ydym wedi nodi ac asesu ein ffrydiau incwm o ran sicrwydd a hyd?<\/strong><\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><\/tr><tr><td><strong>A oes llwybr clir rhwng ein prosiectau ac unrhyw geisiadau am gyllid parhad\/adnewyddu?<\/strong><\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><\/tr><tr><td><strong>A oes gennym reolaethau a systemau ariannol cadarn ar waith i reoli&#8217;r incwm a gynhyrchir?<\/strong><\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><\/tr><tr><td><strong>A oes gennym ddarlun clir o faint mae angen i brosiect gyfrannu at ein gorbenion er mwyn iddo fod yn hyfyw?<\/strong><\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><\/tr><tr><td><strong>A oes gennym ddulliau ar waith ar gyfer cyflwyno adroddiadau ariannol i\u2019r Bwrdd Ymddiriedolwyr \/ Pwyllgor Rheoli?<\/strong><\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><\/tr><tr><td><strong>A ydym wedi creu \u2018Achos dros gefnogaeth\u2019 sy\u2019n gryf ac yn berthnasol?<\/strong><\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><\/tr><tr><td><strong>A ddefnyddir gwybodaeth monitro, gwerthuso ac effaith gan staff y prosiect i lywio ein hachos dros gefnogaeth? <\/strong><\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><\/tr><tr><td><strong>A yw pawb ar draws y mudiad (gwirfoddolwyr, staff ac ymddiriedolwyr) yn gwybod ein hachos dros gefnogaeth?<\/strong><\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><\/tr><tr><td><strong>A yw&#8217;r Bwrdd \/ Pwyllgor Rheoli yn deall eu cyfrifoldebau cyfreithiol?<\/strong><\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><\/tr><tr><td><strong>A ydym yn adrodd yn rheolaidd i&#8217;r Bwrdd \/ Pwyllgor Rheoli ar gynhyrchu incwm?<\/strong><\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><\/tr><tr><td><strong>A ydym wedi cofrestru ar gyfer Rhodd Cymorth ac a oes gennym y prosesau ar waith i wneud hawliadau Rhodd Cymorth?<\/strong><\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><\/tr><tr><td><strong>A yw pobl o bob rhan o&#8217;n mudiad yn cyfrannu at ein gweithgareddau cynhyrchu incwm?<\/strong> <\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><\/tr><tr><td><strong>A oes unrhyw un mewnol (cydweithwyr neu aelodau Bwrdd) yn prawfddarllen ceisiadau grant?<\/strong><\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><\/tr><tr><td><strong>A oes gennym ni broses (neu system) ar waith i reoli a chofnodi ein gohebiaeth \u00e2 chefnogwyr?<\/strong><\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><\/tr><tr><td><strong>A ydym yn defnyddio dulliau brandio cyson ar draws ein mudiad?<\/strong><\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><\/tr><tr><td><strong>A yw eich gweithgareddau cynhyrchu incwm ar gofrestr risg ein mudiad?<\/strong><\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><\/tr><tr><td><strong>A yw ein gweithgareddau cynhyrchu incwm yn dilyn y Cod Ymarfer Codi Arian?<\/strong><\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><td>&nbsp;<\/td><\/tr><\/tbody><\/table><\/figure>\n\n\t<\/div>\n\n\n\n<div class=\"col-12 col-md-3\">\n\t\t\t\n\n\t<\/div>\n\n<\/div>\n\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae&#8217;r adnodd hon yn esbonio sut i gynnal gwiriad iechyd cynhyrchu incwm<\/p>\n","protected":false},"author":2205,"featured_media":21437,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"ep_exclude_from_search":false,"footnotes":""},"categories":[761],"tags":[725],"class_list":["post-21441","resource","type-resource","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyllid-cynaliadwy","tag-sustainable-funding","pillar-cyllid-cynaliadwy"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Gwiriad Iechyd Cynhyrchu Incwm | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Mae&#039;r adnodd hon yn esbonio sut i gynnal gwiriad iechyd cynhyrchu incwm.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gwiriad-iechyd-cynhyrchu-incwm\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Gwiriad Iechyd Cynhyrchu Incwm | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae&#039;r adnodd hon yn esbonio sut i gynnal gwiriad iechyd cynhyrchu incwm.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gwiriad-iechyd-cynhyrchu-incwm\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-10-31T15:21:14+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/10\/Funding-code.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1920\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1080\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"12 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gwiriad-iechyd-cynhyrchu-incwm\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gwiriad-iechyd-cynhyrchu-incwm\/\",\"name\":\"Gwiriad Iechyd Cynhyrchu Incwm | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gwiriad-iechyd-cynhyrchu-incwm\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gwiriad-iechyd-cynhyrchu-incwm\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/10\/Funding-code.jpg\",\"datePublished\":\"2025-10-23T16:00:41+00:00\",\"dateModified\":\"2025-10-31T15:21:14+00:00\",\"description\":\"Mae'r adnodd hon yn esbonio sut i gynnal gwiriad iechyd cynhyrchu incwm.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gwiriad-iechyd-cynhyrchu-incwm\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gwiriad-iechyd-cynhyrchu-incwm\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gwiriad-iechyd-cynhyrchu-incwm\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/10\/Funding-code.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/10\/Funding-code.jpg\",\"width\":1920,\"height\":1080,\"caption\":\"People sat around table shaking hands\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gwiriad-iechyd-cynhyrchu-incwm\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Gwiriad Iechyd Cynhyrchu Incwm\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"description\":\"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"width\":512,\"height\":512,\"caption\":\"Hwb Gwybodaeth\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Gwiriad Iechyd Cynhyrchu Incwm | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","description":"Mae'r adnodd hon yn esbonio sut i gynnal gwiriad iechyd cynhyrchu incwm.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gwiriad-iechyd-cynhyrchu-incwm\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Gwiriad Iechyd Cynhyrchu Incwm | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","og_description":"Mae'r adnodd hon yn esbonio sut i gynnal gwiriad iechyd cynhyrchu incwm.","og_url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gwiriad-iechyd-cynhyrchu-incwm\/","og_site_name":"Hwb Gwybodaeth","article_modified_time":"2025-10-31T15:21:14+00:00","og_image":[{"width":1920,"height":1080,"url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/10\/Funding-code.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"12 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gwiriad-iechyd-cynhyrchu-incwm\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gwiriad-iechyd-cynhyrchu-incwm\/","name":"Gwiriad Iechyd Cynhyrchu Incwm | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","isPartOf":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gwiriad-iechyd-cynhyrchu-incwm\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gwiriad-iechyd-cynhyrchu-incwm\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/10\/Funding-code.jpg","datePublished":"2025-10-23T16:00:41+00:00","dateModified":"2025-10-31T15:21:14+00:00","description":"Mae'r adnodd hon yn esbonio sut i gynnal gwiriad iechyd cynhyrchu incwm.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gwiriad-iechyd-cynhyrchu-incwm\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gwiriad-iechyd-cynhyrchu-incwm\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gwiriad-iechyd-cynhyrchu-incwm\/#primaryimage","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/10\/Funding-code.jpg","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/10\/Funding-code.jpg","width":1920,"height":1080,"caption":"People sat around table shaking hands"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/gwiriad-iechyd-cynhyrchu-incwm\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Gwiriad Iechyd Cynhyrchu Incwm"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","name":"Hwb Gwybodaeth","description":"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.","publisher":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization","name":"Hwb Gwybodaeth","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","width":512,"height":512,"caption":"Hwb Gwybodaeth"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/21441","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2205"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/21441\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":21472,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/21441\/revisions\/21472"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/21437"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=21441"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=21441"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=21441"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}