{"id":21332,"date":"2025-10-01T15:13:44","date_gmt":"2025-10-01T14:13:44","guid":{"rendered":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/?post_type=resource&#038;p=21332"},"modified":"2025-10-01T15:18:32","modified_gmt":"2025-10-01T14:18:32","slug":"trosglwyddo-asedau-cymunedol","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/trosglwyddo-asedau-cymunedol\/","title":{"rendered":"Trosglwyddo Asedau Cymunedol"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-bootstrap-blocks-container container mb-2\">\n\t\n<div class=\"wp-bootstrap-blocks-row row\">\n\t\n\n<div class=\"col-12 col-md-9\">\n\t\t\t\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Trosolwg<\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"#what\">Beth yw Trosglwyddo Asedau Cymunedol (TAC)?<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#ready\">Is your organisation CAT ready?<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#process\">The CAT process<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#issues\">Issues and risks<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#information\">Rhagor o wybodaeth a chefnogaeth<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r daflen wybodaeth hon wedi ei chynllunio i roi trosolwg o\u2019r prif bethau y bydd angen i reolwyr mudiadau cymunedol eu hystyried mewn cysylltiad ag ymroi i brosiect Trosglwyddo Asedau Cymunedol (TAC).<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"what\">Beth yw Trosglwyddo Asedau Cymunedol (TAC)?<\/h2>\n\n\n\n<p>Proses lle mae cyrff cyhoeddus yn trosglwyddo rheolaeth eu tir, eu hadeiladau a\/neu wasanaethau i fudiad cymunedol yw Trosglwyddo Asedau Cymunedol (TAC). Negodir y telerau trosglwyddo a gallent fod ar sail; rhydd-ddaliad, lesddaliad, trwydded neu gytundeb rheoli. <\/p>\n\n\n\n<p>Cynigir TAC weithiau (nid bob amser) am lai na gwerth y farchnad h.y. am bris gofyn gostyngedig neu gyda lefel rent sy\u2019n \u2018ffafriol\u2019, ond yn gyffredinol dim ond pan fo budd lleol, cymunedol, cymdeithasol, economaidd a\/neu amgylcheddol i\u2019w ennill.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cyd-destun TAC yng Nghymru<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi bod Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn rhywbeth y dylai cyrff cyhoeddus yng Nghymru ei gefnogi; er mwyn helpu i gyflwyno ffyrdd newydd a mwy effeithlon o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, ond hefyd oherwydd y cydnabyddir y gall perchnogaeth gymunedol a rheoli tir lleol, adeiladau a gwasanaethau helpu i greu cadernid hirdymor, a chefnogi cymunedau i ffynnu. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi nodi\u2019r swyddogaeth sylweddol y gall TAC ei chwarae wrth gyflawni saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol (Cymru) 2015. <\/p>\n\n\n\n<p>O dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 1972: Cydsyniad Gwaredu Cyffredinol (Cymru) 2003, caiff Awdurdod Lleol waredu ased am bris is na gwerth llawn y farchnad, fel arfer pan fydd gwarediad o fudd i\u2019r gymuned drwy \u2018hybu neu wella\u2019 llesiant economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol yr ardal a\/neu pan fo gwerth yr ased a waredir yn llai na \u00a32 miliwn.<\/p>\n\n\n\n<p>Felly, mae\u2019r cyd-destun presennol ar gyfer prosiectau TAC yn dda, ac mae mwy o awydd a pharodrwydd i weld prosiectau o\u2019r fath yn llwyddo nag a fo ddegawd yn \u00f4l. Fodd bynnag, dylid nodi ar y dechrau, fod y broses yn heriol, yn cymryd llawer o amser ac nad yw heb ei materion a\u2019i risgiau. <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Pwy a gaiff ymgymryd \u00e2 phrosiect TAC?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Yn gyffredinol, mae prosiectau TAC ar gael i gynghorau tref a chymuned, elusennau, mudiadau gwirfoddol a chymunedol a busnesau cymdeithasol. Fodd bynnag, bydd y corff trosglwyddo fel arfer yn diffinio pwy y mae\u2019n credu sy\u2019n gymwys a bydd yn nodi\u2019r gofynion sylfaenol o ran: statws cyfreithiol, trefniadau llywodraethu, sgiliau a chapasiti, dogfennau gorfodol e.e. cyfansoddiad, adroddiadau blynyddol a chyfrifon ac ati. Yn gyffredinol, nid yw mudiadau newydd yn cael eu hatal rhag ymgymryd \u00e2 phrosiect TAC, ond mae lefel y gwaith craffu gan y corff sy\u2019n trosglwyddo yn debygol o gynyddu a gellid rhoi amodau\/mesurau diogelu ychwanegol ar waith i leihau\u2019r risg i\u2019r ddau barti.  <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Pam y dylid ymgymryd \u00e2 phrosiect tac?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y cymhelliant sydd gennych chi \/ eich mudiad wrth ystyried ymgymryd \u00e2 gwasanaeth neu ased cymunedol yn gyntaf yn bwysig. Mewn byd delfrydol, bydd y potensial y gellir ei wireddu yn y prosiect cymunedol yr ydych wedi ei nodi yn cyd-fynd yn gryf \u00e2 diben craidd eich gr\u0175p neu mudiad. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae trafferthion i\u2019w hosgoi. Os ydych yn gr\u0175p newydd, bydd yn bwysig sicrhau, er enghraifft; nad prosiect personol rhywun yw\u2019r fenter. Os ydych yn fudiad sydd eisoes yn bodoli, efallai y byddwch yn dymuno osgoi sefyllfa lle byddwch yn dechrau ceisio mowldio diben eich mudiad o amgylch eich prosiect arfaethedig. Bydd hyn yn achos o \u2018wyro o\u2019r nod wreiddiol\u2019 &#8211; lle mae\u2019r gynffon yn dechrau siglo\u2019r ci!   <\/p>\n\n\n\n<p>Felly, y cwestiwn y gallech ofyn i chi eich hun cyn i chi ddechrau yw beth yw eich gwir gymhellion. Os bydd ymgymryd \u00e2\u2019r ased yn eich helpu i hybu eich dibenion elusennol, yna rydych ar y trywydd iawn. Canfyddir prosiectau sydd \u00e2 chymhelliant gwael yn ddieithriad, ond gallwch arbed llawer o amser ac ymdrech drwy sylwi ar unrhyw arwyddion o hyn o\u2019r cychwyn cyntaf.  <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Rhydd-ddaliad, Lesddaliad, Trwydded neu Gytundeb Rheoli?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae pob cyfle TAC yn wahanol ac mae angen ei ystyried yn \u00f4l ei rinweddau yn ogystal ag o\u2019i gymharu \u00e2 statws cyfreithiol eich mudiad, ei alluoedd a\u2019i ddyheadau. Fodd bynnag, mae pedwar prif fath o drosglwyddiadau y mae gan bob un ohonynt eu manteision a\u2019u hanfanteision cysylltiedig. Yn gyffredinol, mae\u2019r rhain fel a ganlyn:  <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Rhydd-ddaliad &#8211; pan fo eich mudiad yn prynu\u2019r ased ac yn dod yn berchen arno. Ni ymgymerir \u00e2 llawer o brosiectau TAC ar y sail hon, oherwydd bod y corff sy\u2019n trosglwyddo, yn gyffredinol, yn hoffi cadw teitl yr eiddo a\/neu\u2019r tir. Fodd bynnag, os oes cyfle i ennill teitl rhydd-ddaliad a\u2019ch bod yn gallu sicrhau trosglwyddiad am lai na gwerth y farchnad (er enghraifft, ar y sail eich bod mewn sefyllfa well i sicrhau cyfalaf i ymgymryd \u00e2 gwaith ailwampio\/ailddatblygu) yna, hwn yw\u2019r dewis gorau yn gyffredinol oherwydd yr hyblygrwydd cynyddol i wneud fel y mynnoch \u00e2\u2019r eiddo.  <\/li>\n\n\n\n<li>Lesddaliad &#8211; math o ddeiliadaeth tir neu eiddo yw hwn lle mae eich mudiad yn prynu\u2019r hawl i feddiannu tir neu adeilad am gyfnod penodol o amser. Mae angen negodi telerau y les a bydd hyd y les, yn arbennig, o ddiddordeb (gweler yn ddiweddarach). <\/li>\n\n\n\n<li>Trwydded &#8211; mae\u2019r math hwn o gytundeb yn gallu bod yn ffordd dda o \u2018dreialu\u2019 prosiect TAC &#8211; un sy\u2019n rhoi cyfle i\u2019r ddwy ochr \u2018ddod i adnabod ei gilydd\u2019 cyn ymrwymo i gytundeb mwy sylweddol megis les hirdymor. Yn gyffredinol, rhoddir trwydded am gyfnod byr (3\u201318 mis fel arfer) ac mae ganddo rwymedigaethau llai beichus hefyd o ran atgyweirio, cynnal a chadw ac addurno. Wrth gytuno i drwydded fel man cychwyn, efallai nad yw\u2019n syniad da bod mewn sefyllfa lle mae\u2019r drwydded yn cael ei \u2018hadnewyddu\u2019 yn barhaus &#8211; gwell yw sicrhau les ar ddiwedd tymor cyntaf y drwydded os yw hynny\u2019n bosibl.  <\/li>\n\n\n\n<li>Cytundeb Rheoli &#8211; bydd y math hwn o gytundeb yn caniat\u00e1u i\u2019ch mudiad ddarparu rhai gwasanaethau neu weithgareddau ar safle y corff cyhoeddus, yn gyfnewid am ryw fath o gefnogaeth gan y corff hwnnw &#8211; a allai fod yn ariannol, yn gymorth mewn adnoddau ymarferol neu ddynol. Mae llai o gostau, ond hefyd nid oes hawl i feddiannu\u2019r adeilad. Mae rhai mudiadau sy\u2019n ymwneud \u00e2 phrosiectau TAC yn sicrhau\u2019r ased fel y disgrifir uchod, ac mae ganddynt gytundeb rheoli i ddarparu gwasanaeth hefyd.  <\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"ready\">A yw eich mudiad yn barod am TAC?<\/h2>\n\n\n\n<p>Heb amheuaeth, bydd eich parodrwydd fel mudiad i ymgymryd \u00e2 phrosiect TAC yn cael ei sbarduno, yn rhannol o leiaf, gan y broses ymgeisio ei hun (a ddisgrifir isod).<\/p>\n\n\n\n<p>Fodd bynnag, mae rhai pethau y dylech eu gwneud a phethau eraill y byddech yn ddoeth i\u2019w gwneud cyn cychwyn ar y daith. Bydd sut yr ydych yn mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r tasgau hyn yn dibynnu ar y sgiliau a\u2019r profiad sydd gennych ar gael. Mae rhestr o fudiadau a all eich helpu ar hyd y ffordd ar ddiwedd y daflen wybodaeth hon. Dyma\u2019r tasgau allweddol:   <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Gwirio eich statws cyfreithiol<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Bydd yn bwysig ichi wirio a yw dogfennau llywodraethu eich mudiad yn caniat\u00e1u ichi ymgymryd \u00e2 deiliadaeth tir neu eiddo yn rhan o Brosiect TAC.<\/p>\n\n\n\n<p>Os yw eich mudiad wedi ei strwythuro fel cymdeithas anghorfforedig ar hyn o bryd, nid oes unrhyw beth yn eich atal rhag ymgymryd \u00e2 les neu drwydded, ond bydd angen ichi sicrhau eich bod yn enwebu dim llai na phedwar unigolyn (a dynnir o\u2019r pwyllgor rheoli pwyllgor rheoli, yn gyffredinol) i ymrwymo i\u2019r cytundeb ar ran eich cymdeithas &#8211; gelwir y rhain yn \u2018Ymddiriedolwyr Daliadol\u2019. Gall hyn achosi cymhlethdodau yn y dyfodol os\/pan fydd yr ymddiriedolwyr daliadol yn gadael y mudiad. <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Noder &#8211;<\/strong> mae ymrwymo i les neu drwydded fel mudiad anghorfforedig yn dod \u00e2 risg personol ychwanegol. Mae hyn oherwydd y bydd yr unigolyn sy\u2019n llofnodi\u2019r les\/drwydded yn atebol yn bersonol. Am y rheswm hwn, strwythur corfforedig fel arfer yw\u2019r strwythur cyfreithiol a ffefrir fel arfer.  <\/p>\n\n\n\n<p>Mae Deddf Ymddiriedolwyr 2000 yn rhoi p\u0175er cyfreithiol i bob elusen gaffael eiddo. Ceir dal yr eiddo fel buddsoddiad neu er mwyn cyflawni amcanion yr elusen (neu\u2019r ddau). Fodd bynnag, wrth arfer y p\u0175er hwn, rhaid i ymddiriedolwyr wneud yr hyn a ganlyn:  <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gweithredu bob amser er budd gorau yr elusen<\/li>\n\n\n\n<li>Sicrhau\u2019r telerau gorau y gellir eu cyflawni\u2019n rhesymol<\/li>\n\n\n\n<li>Derbyn cyngor proffesiynol ar faterion sy\u2019n gofyn amdano<\/li>\n\n\n\n<li>Diogelu gwerth a chywirdeb asedau yr elusen yn awr ac yn y dyfodol<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Bydd mathau eraill o strwythur cyfreithiol, megis Cwmni Cyfyngedig drwy Warant neu Mudiad Corfforedig Elusennol, yn caniat\u00e1u ichi ymgymryd \u00e2 thir neu eiddo yn gyffredinol, ond dylech wirio eich dogfennau corffori bob amser a chael cyngor proffesiynol ar y mater hwn.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cadarnhau nodau ac amcanion clir ar gyfer eich prosiect<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Yn rhan o\u2019r broses hon a chyda\u2019r ased yr ydych yn bwriadu ei gaffael, mae\u2019n bosibl yr hoffech gymryd y camau ymarferol canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ymweld \u00e2\u2019r adeilad. Cymryd golwg feirniadol ar y posibilrwydd o adeiladu ar y sefyllfa bresennol a\/neu ddatblygu defnyddiau cymunedol newydd, yn enwedig y rhai a allai fynd i\u2019r afael ag angen heb ei ddiwallu neu lenwi bwlch yn y ddarpariaeth gwasanaethau lleol. <\/li>\n\n\n\n<li>Mynd i weld prosiectau tebyg eraill mewn mannau eraill. Siarad \u00e2 rheolwyr gwasanaethau a chyfleusterau sy\u2019n cynnig yr un mathau o weithgareddau \u00e2\u2019r hyn yr ydych yn bwriadu ei gynnig ar gyfer eich prosiect cymunedol. <\/li>\n\n\n\n<li>Nodi unrhyw \u2018gystadleuaeth\u2019 leol. Dysgu am y gweithgareddau a\u2019r cyfleusterau sydd ganddynt i\u2019w cynnig. Chwilio am gyfleoedd i gydweithio a rhannu adnoddau.  <\/li>\n\n\n\n<li>Ymgysylltu \u00e2\u2019ch \u2018rhanddeiliaid allweddol\u2019. Gallai\u2019r rhain gynnwys; preswylwyr lleol, defnyddwyr presennol y gwasanaeth, tir neu adeilad, defnyddwyr newydd posibl, cymdogion a phartneriaid cyflawni prosiectau posibl eraill. Pan fo hynny\u2019n briodol, siarad \u00e2 nhw i ganfod beth maen nhw\u2019n ei ddymuno a\u2019r hyn sydd ei angen arnynt. Eu cynnwys yn uniongyrchol i\u2019ch helpu i ddatblygu eich cynigion prosiect.   <\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Pan fyddwch wedi gwneud hyn, byddwch mewn sefyllfa well i gadarnhau\u2019r nodau a\u2019r amcanion ar gyfer eich prosiect TAC arfaethedig na ddylai fod yn fwy na\u2019n llai na rhestr syml o\u2019r pethau yr hoffech i\u2019ch prosiect eu cyflawni.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Datblygu eich capasiti<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae hyn yn ymwneud \u00e2 chael y cymysgedd cywir o alluoedd, sgiliau, gwybodaeth a phrofiad, ynghyd \u00e2\u2019r amser a\u2019r adnoddau ariannol sy\u2019n angenrheidiol i ymrwymo i brosiect cymunedol. Ar y dechrau, gallai\u2019r dasg ymddangos yn anoresgynnol. Fodd bynnag, pe byddech yn gofyn i fudiad a oedd eisoes wedi bod drwy\u2019r broses yn llwyddiannus, byddai\u2019n sicr yn dweud wrthych fod llawer ohoni yn newydd iddo hefyd ar y dechrau, a\u2019i bod yn fwy o fater o ddatblygu ei gapasiti ar hyd y ffordd.  <\/p>\n\n\n\n<p>Un ystyriaeth allweddol cyn ichi ddechrau yw peidio ag amcangyfrif yn rhy isel yr ymrwymiad amser sydd ei angen. Mae\u2019r broses o sicrhau trosglwyddiad gwasanaeth neu ased o gorff cyhoeddus yn un hir, hyd yn oed pan fo popeth yn mynd yn unol \u00e2\u2019r cynllun! A phan fydd wedi ei gwblhau, bydd cyfrifoldebau ychwanegol am reoli\u2019r ased.  <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Profi dichonoldeb yr hyn yr ydych yn ei gynnig<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae trosfeddiannu gwasanaeth neu adeilad cymunedol yn ymrwymiad sylweddol, felly dylai eich mudiad fod yn sicr y gall eich syniadau da eu bwriad wrthsefyll archwiliad.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar gyfer prosiectau syml (lle nad fo llawer mwy na newid yn y ffordd mae\u2019r gwasanaeth neu\u2019r adeilad yn cael ei reoli), efallai y byddwch yn gwneud y broses profi dichonoldeb hon, gyda chefnogaeth eich rhanddeiliaid allweddol efallai.<\/p>\n\n\n\n<p>Er hynny, efallai y bydd angen ymchwiliad manylach ar brosiectau mwy cymhleth &#8211; \u2018Astudiaeth o Ddichonoldeb\u2019 &#8211; a wneir gan ymgynghorydd annibynnol neu d\u00eem ymgynghori. Bydd hyn yn wir yn aml pan fydd cynnig eich prosiect yn cynnwys unrhyw ailgyflunio neu ailddatblygu tir neu adeiladau sylweddol. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae hefyd yn werth cynnal Ymgynghoriad Cymunedol cyn ystyried neu ymgymryd ag ased. Bydd hyn yn helpu i gadarnhau\u2019r angen a nodi beth arall sydd yna\u2019n lleol\/pa fylchau sydd mewn darpariaethau eraill. Ac yn helpu i ddangos yr angen a fyddai\u2019n cael ei ddiwallu drwy ymgymryd \u00e2\u2019r ased hwn.  <\/p>\n\n\n\n<p>Dylai hyn edrych ar y ffordd orau o ddarparu\u2019r gwasanaeth\/gweithgareddau yr ydych yn dymuno eu darparu. Nid posibilrwydd o TAC yn golygu mai hwn yw\u2019r dewis gorau o reidrwydd. Mae\u2019n bwysig bod gennych feddwl agored ynghylch yr ateb gorau ac nad ydych yn ceisio gwneud i\u2019r TAC weithio ichi heb ystyried dewisiadau eraill yn llawn.  <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Datblygu achos busnes amlinellol<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Hyd yn oed yn y cam \u2018Datganiad o Ddiddordeb\u2019 o\u2019r broses (a ddisgrifir isod), disgwylir ichi allu cyflwyno amlinelliad o\u2019r achos busnes eich mudiad ar gyfer ymgymryd \u00e2\u2019r ased.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y gwaith y mae eich mudiad yn ei wneud i ddatblygu ei \u2018achos busnes\u2019 yn barhad o\u2019r gwaith yr ydych wedi ei wneud i brofi bod eich prosiect TAC yn ddichonadwy yn y lle cyntaf. Ar y cyfan mae eich achos busnes yn ymwneud \u00e2 dau beth &#8211; yr \u2018hyfywedd ariannol\u2019 a \u2018chynaliadwyedd\u2019 eich cynigion prosiect. <\/p>\n\n\n\n<p>Wedi ei aralleirio &#8211; a allwch chi wneud i\u2019ch prosiect dalu ac a allwch chi gadw eich prosiect i fynd? Proses o \u2018gynllunio busnes ydyw sy\u2019n helpu i ddod \u00e2\u2019r ddau beth hyn at ei gilydd. <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"process\">Y broses TAC<\/h2>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/09\/CAT-process-1024x576.jpg\" alt=\"Pobl yn sefyll o amgylch bwrdd yn ysgrifennu ar ddarnau o bapur wedi'u gorchuddio \u00e2 nodiadau gludiog\" class=\"wp-image-21326\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/09\/CAT-process-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/09\/CAT-process-720x405.jpg 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/09\/CAT-process-768x432.jpg 768w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/09\/CAT-process-1536x864.jpg 1536w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/09\/CAT-process-360x203.jpg 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/09\/CAT-process-1800x1013.jpg 1800w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/09\/CAT-process-624x351.jpg 624w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/09\/CAT-process.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Nodir y broses TAC gan y corff sy\u2019n trosglwyddo (un o\u2019r 22 awdurdod unedol yng Nghymru fel arfer) yn ei bolisi TAC. Adroddodd Swyddfa Archwilio Cymru yn 2018 fod gan y mwyafrif helaeth o awdurdodau lleol yng Nghymru bolisi TAC ar waith erbyn hyn. Felly, dylech gyfeirio at y polisi sy\u2019n cwmpasu eich ardal ddaearyddol o ddiddordeb yn y lle cyntaf.  <\/p>\n\n\n\n<p>Er mwyn arwain cyrff cyhoeddus yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Ystadau Cymru &#8211; (a elwid gynt yn Weithgor Asedau Cenedlaethol) a sefydlwyd er mwyn \u2018annog rhagoriaeth o ran rheoli ystad sector cyhoeddus Cymru yn weithredol.\u2019<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Ystadau Cymru wedi cynhyrchu cyfres o ddogfennau canllawiau TAC ardderchog, a darperir dolen ar eu cyfer ar ddiwedd y daflen wybodaeth hon.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Canllawiau Llywodraeth Cymru i gyrff sy\u2019n trosglwyddo<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Ceir trosolwg byr o ganllawiau Ystadau Cymru i gyrff sy\u2019n trosglwyddo isod. Dylai proses TAC: <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Fod yn agored ac yn dryloyw.<\/li>\n\n\n\n<li>Canolbwyntio ar fudd cyffredin gyda gweledigaeth gydgysylltiedig a nod a rennir.<\/li>\n\n\n\n<li>Cael ei rheoli gan d\u00eem rhyngadrannol, sy\u2019n canolbwyntio ar TAC, dan arweiniad Uwch-reolwr (megis y Prif Swyddog Ystadau) a chan gynnwys pan fo hynny\u2019n briodol, cyfranogiad rhanddeiliaid ehangach sy\u2019n cynrychioli\u2019r gymuned.<\/li>\n\n\n\n<li>Cael ei gosod yn fframwaith polisi ehangach y corff cyhoeddus dan sylw e.e. cyd-fynd yn gryf \u00e2\u2019i Gynllun Corfforaethol.<\/li>\n\n\n\n<li>Cael ei hyrwyddo drwy sianelau priodol e.e. gwefannau Awdurdodau Lleol, hysbysebion yn y wasg leol\/sianeli cyfryngau cymdeithasol, gwefan \u2018Space Cymru\u2019 ac ati.<\/li>\n\n\n\n<li>Dilyn dull synnwyr cyffredin a bod yn gymesur \u00e2\u2019r prosiect dan sylw &#8211; nid un ateb sy\u2019n gweddu i bawb.<\/li>\n\n\n\n<li>Galluogi\u2019r ymgeisydd i gael gafael ar wybodaeth perthnasol a chyfredol am yr ased dan sylw e.e. Arolygon cyflwr, cynnal a chadw hanesyddol a chostau rhedeg (a gwybodaeth gytundebol sy\u2019n berthnasol yn gyfreithiol am ddarparwyr gwasanaeth i\u2019r eiddo), y data sgorio ynni a defnydd o ynni ar gyfer yr ased, cyfrifoldebau atgyweirio, amodau cynllunio, cyfamodau cyfyngedig, gofynion mynediad, trefniadau TUPE (pan fo hynny\u2019n briodol) ac ati.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae profiad ar lawr gwlad yn dweud wrthym nad yw hyn bob amser yn wir, ond mae\u2019n debyg ei bod yn deg dweud bod y sefyllfa&#8217;n gwella, a bod mwy o\u2019r canllawiau uchod yn cael eu hystyried.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Gwneud cais TAC<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Un o\u2019r pethau yr ymddengys sydd wedi dod yn fwy cyson ar draws awdurdodau yng Nghymru yw proses ymgeisio mwy cydlynol a diffiniedig, y mae elfennau allweddol ohoni fel a ganlyn:<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cyn gwneud cais<\/strong> &#8211; dylai cyrff cyhoeddus eich croesawu\u2019n rhagweithiol drwy gysylltu i drafod cyfleoedd TAC posibl ac mewn rhai achosion gallent gysylltu \u00e2 mudiadau penodol y maent yn credu y gallent fod yn y sefyllfa orau i ddarparu gwasanaeth arbennig i\u2019r gymuned. Fodd bynnag, dylai\u2019r corff sy\u2019n trosglwyddo hysbysebu\u2019r ased neu\u2019r gwasanaeth, gan ddarparu cyfle ichi fynegi diddordeb. <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Datganiad o Ddiddordeb<\/strong> &#8211; bydd cyrff cyhoeddus yn eich gwahodd i fynegi diddordeb mewn ased penodol, drwy ofyn ichi gwblhau ffurflen sy\u2019n cynnwys pethau fel:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Amlinelliad o\u2019ch \u2018achos busnes\u2019 a pham mae angen yr ased arnoch<\/li>\n\n\n\n<li>Crynodeb o\u2019r buddion a welwch i\u2019ch cymuned<\/li>\n\n\n\n<li>Llywodraeth, strwythur a hanes eich mudiad<\/li>\n\n\n\n<li>Y telerau trosglwyddo yr ydych yn chwilio amdanynt<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Yn rhan o broses asesu y Datganiad o Ddiddordeb, bydd y corff cyhoeddus yn naturiol yn dymuno ymgynghori \u00e2 rhanddeiliaid allweddol a gallai ofyn am ragor o wybodaeth neu eglurhad. Os yw\u2019n fodlon, mae\u2019n bosibl y byddwch yn cael eich gwahodd i gyflwyno cais llawn. <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cais llawn<\/strong> &#8211; ar y cam hwn, efallai eich bod wedi eich rhoi ar \u2018restr fer\u2019 o gynigwyr neu efallai mai chi yw\u2019r \u2018cynigydd a ffefrir\u2019 gan y corff cyhoeddus i bob pwrpas, y naill ffordd neu\u2019r llall, gofynnir ichi ddarparu tystiolaeth ychwanegol sylweddol mai chi sydd yn y sefyllfa orau i ymgymryd \u00e2\u2019r ased neu\u2019r gwasanaeth. Bydd hyn yn cynnwys llenwi ffurflen gais mwy helaeth a darparu amrywiaeth o ddogfennaeth ychwanegol. Gallai\u2019r mathau o bethau y gellid disgwyl ichi eu cyflwyno gynnwys:  <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Achos busnes llawn gyda gwybodaeth ariannol.<\/li>\n\n\n\n<li>Asesiad risg mewn cysylltiad \u00e2\u2019ch capasiti ariannol a sefydliadol, eich llywodraeth a\u2019ch gallu i reoli\u2019r ased.<\/li>\n\n\n\n<li>Eich hanes o gyflawni prosiectau a mentrau gwasanaethau cymunedol tebyg.<\/li>\n\n\n\n<li>Pa mor bell y bydd eich defnydd arfaethedig yn sicrhau ymgysylltiad cymunedol.<\/li>\n\n\n\n<li>Sut y byddwch yn sicrhau cynaliadwyedd busnes e.e. drwy gynhyrchu incwm.<\/li>\n\n\n\n<li>Eich trefniadau rheoli ariannol.<\/li>\n\n\n\n<li>Cydymffurfio \u00e2 Chymorth Gwladwriaethol, Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) (TUPE) a Chaffael yr UE fel y bo\u2019n briodol.<\/li>\n\n\n\n<li>Y rheolau y bydd angen ichi gadw atynt fel y bo\u2019n berthnasol, e.e. unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol, cyfamodau cyfyngol a darpariaethau adfachu.<\/li>\n\n\n\n<li>Eich trefniadau monitro a gwerthuso.<\/li>\n\n\n\n<li>Efallai y byddwch hefyd yn cael eich gwahodd i gyfweliad\/cyfarfod i drafod eich cais.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae profiad ar lawr gwlad yn dweud wrthym nad yw hyn bob amser yn wir, ond mae\u2019n debyg ei bod yn deg dweud bod y sefyllfa&#8217;n gwella, a bod mwy o\u2019r canllawiau uchod yn cael eu hystyried.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Negodi telerau y trosglwyddiad<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych yn llwyddiannus yn y broses hon yna mae\u2019n debyg y byddwch yn cael penderfyniad \u2018mewn egwyddor\u2019 y caiff y trosglwyddiad ddigwydd. Fodd bynnag, dyma\u2019r cyfnod lle bydd angen i chi a\u2019r corff sy\u2019n trosglwyddo negodi telerau y trosglwyddiad a chynnal rownd derfynol o wiriadau \u2018diwydrwydd dyladwy\u2019. Mae\u2019r canlynol yn nodedig pan fo les yn cael ei negodi:  <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Rhent<\/strong>\u2013 chwiliwch am ostyngiad sylweddol neu swm rhent rhad (nominal \u00a31) fesul blwyddyn, yn enwedig pan fo eich mudiad yn helpu i gynnal parhad gwasanaeth i\u2019ch cymuned, a allai fod wedi dod i ben fel arall a\/neu sy\u2019n cadw tir neu adeiladau a allai fod wedi eu colli i ddefnydd cymunedol fel arall. Yr allwedd yma yw darparu tystiolaeth o fudd cymunedol ychwanegol sylweddol heb unrhyw gost ychwanegol i\u2019r pwrs cyhoeddus. <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Hyd <\/strong>&#8211; dim ond ar gyfer hyd les sy\u2019n addas ar gyfer amgylchiadau penodol eich mudiad y dylech gofrestru, ond mae les hirach yn well yn amlach a chydnabyddir cyfnod o 28 mlynedd yn gyffredinol fel yr hyd lleiaf y dylech geisio ei sicrhau os ydych yn bwriadu ailwampio neu ailddatblygu\u2019r eiddo (mae\u2019r mwyafrif o\u2019r cyrff cyllido yn chwilio am 25 mlynedd o leiaf ar adeg cais am grant).<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Is-osod a llogi<\/strong> &#8211; dylai eich les ganiat\u00e1u\u2019r eiddo i gael ei is-osod a\u2019i logi heb gyfyngiadau gormodol gan y landlord.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae rhai lesoedd yn gwahardd is-osod yn benodol, er bod llawer o fudiadau sy\u2019n dal i wneud hynny\u2019n ymarferol. Mae\u2019n syniad da gwirio gyda\u2019ch awdurdod lleol cyn bwrw ymlaen. <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Atgyweirio a chynnal a chadw<\/strong> &#8211; yn y mwyafrif o\u2019r achosion, y landlord sy\u2019n gyfrifol am y tu allan i\u2019r eiddo, a\u2019r tenant sy\u2019n ysgwyddo cyfrifoldeb am y tu mewn. Fodd bynnag, os yw\u2019r rhent yn cael ei leihau\u2019n sylweddol neu ei osod ar lefel nominal, efallai y bydd angen ichi ymgymryd \u00e2 les atgyweirio llawn. Os yw hyn yn berthnasol, mae\u2019n hanfodol nodi unrhyw ddiffygion mawr cyn llofnodi\u2019r les a sicrhau bod y landlord yn mynd i\u2019r afael \u00e2 nhw cyn i\u2019r trosglwyddiad ddigwydd.  <\/p>\n\n\n\n<p>Nid yw lesoedd atgyweirio llawn yn anghyffredin ac, weithiau, dyma\u2019r unig ddewis sydd ar gael ar gyfer ymgymryd \u00e2 chyfleuster yn yr hirdymor. Mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, hyn yw\u2019r trefniad safonol yn aml yn hytrach na\u2019r eithriad. <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Terfynu<\/strong> &#8211; efallai y byddwch neu efallai na fyddwch yn dymuno cynnwys cymal terfynu yn eich les, ond dylech sicrhau ei bod yn bosibl terfynu mewn amgylchiadau eithafol. Mae\u2019r mwyafrif o\u2019r awdurdodau lleol yn deall y gallai mudiadau cymunedol wynebu heriau wrth gynnal darpariaeth gwasanaethau. Er hynny, mae\u2019n fuddiol sefydlu partneriaeth gref gyda\u2019r corff sy\u2019n trosglwyddo, oherwydd bod cyfathrebu da yn allweddol.  <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Noder:<\/strong> gallai cytuno i gymal terfynu rwystro eich siawns o sicrhau cyllid grant. Mae\u2019n werth nodi hefyd, er eich bod yn cael les, mai\u2019r Awdurdod Lleol yw\u2019r landlord corfforaethol o hyd, felly gellir trosglwyddo\u2019r cyfleuster yn \u00f4l i\u2019r Awdurdod Lleol. <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Diwydrwydd dyladwy<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae dwy agwedd bwysig ar hyn:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Ymgynghori \u00e2 syrf\u00ebwr<\/strong> &#8211; dylai eich mudiad gyflogi syrf\u00ebwr cymwys i asesu cyflwr yr eiddo, ei addasrwydd ar gyfer eich defnydd arfaethedig, a phriodoldeb y pris neu\u2019r rhent y gofynnir amdano.<br><br>Hefyd, ystyriwch ofyn i\u2019ch awdurdod lleol gynnal arolwg o\u2019r cyflwr. Mae awdurdodau lleol yn darparu\u2019r gwasanaeth hwn mewn rhai achosion, a gall fod yn amhrisiadwy wrth werthuso\u2019r eiddo. <br><br><\/li>\n\n\n\n<li><strong>Defnyddio gwasanaethau cyfreithiwr <\/strong>&#8211; dylai eich mudiad gyflogi cyfreithiwr sydd \u00e2 chymwysterau priodol &#8211; yn enwedig pan ystyrir les hir. Dylai cyfreithiwr allu eich cynghori ar: geiriad y les, ei delerau a\u2019i amodau, cynnal chwiliadau perthnasol (awdurdod lleol a\u2019r Gofrestrfa Tir) ar eich rhan, ymdrin \u00e2 Chyllid y Wlad ar dreth tir y dreth stamp, a chofrestru\u2019r les gyda\u2019r Gofrestrfa Tir. Dewiswch gyfreithiwr sy\u2019n gyfarwydd \u00e2 chyfraith elusennol.  <\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Yn amlwg, bydd y ddau wasanaeth hyn yn dwyn costau sylweddol posibl, ond mae ennill persbectif proffesiynol annibynnol yn amhrisiadwy ac mae\u2019n ddyletswydd ar ymddiriedolwyr ymgymryd \u00e2 diwydrwydd dyladwy wrth benderfynu ar fuddsoddiadau mor sylweddol.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"issues\">Materion a risgiau<\/h2>\n\n\n\n<p>Nid oes amheuaeth nad yw ymgymryd \u00e2 phrosiect TAC yn cymryd llawer o amser a bydd hyd yn oed y prosiectau lleiaf yn gofyn am lawer o ymrwymiad, amynedd a dyfalbarhad. Mae materion a risgiau gwirioneddol a sylweddol a wynebir ar hyd y ffordd hefyd. Mae rhai o\u2019r rhai mwyaf cyffredin yn cynnwys:  <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Sgiliau a chapasiti<\/strong> &#8211; Mae ymgymryd ag ased newydd yn ymrwymiad sylweddol ac mae\u2019n dwyn rhwymedigaethau cyfreithiol ac ariannol ychwanegol. Bydd y rhain yn cymryd amser i\u2019w rheoli, ac i sicrhau cydymffurfiaeth. Felly, mae\u2019n bwysig iawn sicrhau bod y sgiliau a\u2019r capasiti yn y mudiad i fabwysiadu\u2019r ased, ac i\u2019w reoli\u2019n briodol i\u2019r dyfodol.  <\/li>\n\n\n\n<li><strong>Cynaliadwyedd<\/strong><\/li>\n\n\n\n<li><strong>Yr amser a gymerir\/cael eich gorlethu<\/strong> &#8211; ni ellir gorbwysleisio pa mor hir a faint o amser y bydd angen ei dreulio ar y broses o sicrhau ased yn llwyddiannus &#8211; hyd yn oed ar gyfer y prosiectau sy\u2019n ymddangos yn syml ac yn rhwydd ar eu golwg gyntaf. Yn anaml y profodd yr awdur drosglwyddiad a aeth drwodd mewn llai na blwyddyn ac mae\u2019r amser hyd at ddwy flynedd o\u2019r ymholiad cychwynnol yn amlach. Anodd yw datblygu a chynnal brwdfrydedd t\u00eem o wirfoddolwyr sy\u2019n gallu gweld y broses hon yn mynd rhagddi heb iddi fod yn straen mawr. Bydd yn bwysig cael cymaint o\u2019r math cywir o help a chyngor ar hyd y ffordd (gweler isod).   <\/li>\n\n\n\n<li><strong>Rheoli gwirfoddolwyr<\/strong> &#8211; ymgysylltu gwirfoddolwyr yw\u2019r hyn sy\u2019n ffurfio gwaith Prosiectau TAC &#8211; yn enwedig y bobl hynny sy\u2019n helpu i reoli\u2019r cyfleuster a\/neu ddarparu\u2019r gwasanaeth o ddydd i ddydd. Ar wah\u00e2n i\u2019r budd cost, mae ymgysylltu \u00e2 gwirfoddolwyr yn dwyn llawer o fuddion ehangach i unigolion a chymunedau. Fodd bynnag, gall recriwtio a datblygu gwirfoddolwyr fod yn heriol iawn. I wneud hyn yn llwyddiannus, dylai eich mudiad ddatblygu polisi a gweithdrefnau cadarn sy\u2019n dilyn arferion gorau.   <\/li>\n\n\n\n<li><strong>Cyflwr yr asedau sy\u2019n cael eu trosglwyddo<\/strong> &#8211; mae llawer o adeiladau sy\u2019n destun Prosiectau TAC yn hen ac angen eu diweddaru. Mae angen i\u2019ch mudiad sicrhau ei fod yn gwybod yn union beth y mae\u2019n ymgymryd ag ef. Ar wah\u00e2n i\u2019r diffygion mawr y dylid ymdrin \u00e2 nhw cyn i drosglwyddiad ddigwydd, mae\u2019n ddefnyddiol cael gwybodaeth fewnol am y pethau y gellid eu hailwampio neu eu huwchraddio. Gallai siarad \u00e2\u2019r rheolwr adeiladu presennol\/blaenorol helpu yn hyn o beth.   <\/li>\n\n\n\n<li><strong>Ymdrin \u00e2 \u2018gwrthdaro\u2019 lleol<\/strong> &#8211; cynigir Prosiectau TAC ar sail tendr cystadleuol weithiau ac oherwydd hyn gallent greu cystadleuaeth ymhlith gwahanol mudiadau cymunedol lleol. Gall fod yn heriol chwilio am ffyrdd o weithio gyda\u2019n gilydd helpu er mwyn ymdrin \u00e2 chanlyniadau proses dendro llwyddiannus\/aflwyddiannus. <\/li>\n\n\n\n<li><strong>Newid hinsawdd gwleidyddol<\/strong> &#8211; nid yw hyn o reidrwydd yn rhywbeth y gall eich mudiad wneud unrhyw beth yn ei gylch, ond oherwydd y cyfnod hir y gall TAC ei gymryd, mae perygl y gall agweddau tuag at drosglwyddo\u2019r eiddo dan sylw newid ymhlith y rhai sydd \u00e2\u2019r gair terfynol wrth gymeradwyo\u2019r trosglwyddiad. Efallai y bydd rhoi\u2019r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau y cyngor am eich cynlluniau yn helpu i sicrhau nad yw eich prosiect yn cwympo oherwydd diffyg cyfathrebu da ar eich rhan. <\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Rheoli Ariannol &#8211; Gallai costau newid yn ystod y broses, ac efallai na fydd cyflawni cyllid ar gyfer unrhyw newidiadau yn bosibl neu y bydd yn cymryd mwy o amser na\u2019r disgwyl. Sicrhewch fod digwyddiadau o\u2019r fath wedi eu hystyried a bod gennych \u201cGynllun B\u201d ar waith yn ogystal \u00e2 digon o arian wrth gefn i leddfu llif arian yn ystod unrhyw anawsterau. <\/p>\n\n\n\n<p>Gwrthwynebiad cymunedol &#8211; Os ydych yn newid defnydd adeilad neu\u2019n ehangu yr hyn a allai fod yn wasanaeth dadleuol, ystyriwch sut y byddwch yn ymdrin \u00e2 gwrthwynebiad gan y gymuned leol. Sut y byddwch yn dangos budd cymunedol ehangach ac yn mynd i\u2019r afael ag unrhyw faterion diogelwch cymunedol posibl. <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"information\">Rhagor o wybodaeth a chefnogaeth<\/h2>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/gov.wales\/ystadau-cymru\">Ystadau Cymru<\/a> (Gweithgor Asedau Cenedlaethol gynt) &#8211; Llywodraeth Cymru<\/p>\n\n\n\n<p>(Chwilier am \u2018Trosglwyddo Asedau Cymunedol: canllawiau i ymgeiswyr\u2019)<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"http:\/\/www.onevoicewales.org.uk\/OVWWeb\/Default.aspx\">Un Llais Cymru<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Llais cynghorau cymuned a thref yng Nghymru &#8211; chwiliwch am \u2018Assets and Services Toolkit\u2019<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.coalfields-regen.org.uk\/programmes\">Ymddiriedolaeth Adfywio\u2019r Meysydd Glo<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Yn ymroddedig i gefnogi hen drefi a phentrefi mwyngloddio ledled y DU.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/dtawales.org.uk\">CYD Cymru<br>Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Mudiad aelodaeth annibynnol ar sail ymarferwyr sy\u2019n hyrwyddo gwaith rhwydwaith cynyddol o ymddiriedolaethau datblygu yng Nghymru gan eu cefnogi yw Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Asedau Cymunedol a Pherchnogaeth<br><\/strong><a href=\"https:\/\/mycommunity.org.uk\/community-assets-and-ownership\">My Community<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Cr\u00ebir My Community gan 12 mudiad cymorth cymunedol blaenllaw. Mae pob un ohonynt wedi rhoi eu holl gymorth a chyngor mewn un lle. Deall Trosglwyddo Asedau Cymunedol<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/cy.cwmpas.coop\/\">Cwmpas<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Mae Cwmpas yn cefnogi datblygiad a thwf entrepreneuriaeth gymdeithasol, Mentrau Cymdeithasol a Chwmn\u00efau Cydweithredol yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cydnabyddiaeth:<\/strong> Mae peth o\u2019r canllawiau uchod wedi cael eu tynnu a\u2019u talfyrru i\u2019w defnyddio o \u2018Camu i Fyny \u2013 Pecyn cymorth ar gyfer datblygu a rheoli gwasanaethau ac asedau\u2019 a gynhyrchwyd gan Gyngor Dinas Caerdydd<\/p>\n\n\t<\/div>\n\n\n\n<div class=\"col-12 col-md-3\">\n\t\t\t\n\n\t<\/div>\n\n<\/div>\n\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r daflen wybodaeth hon wedi ei chynllunio i roi trosolwg o\u2019r prif bethau y bydd angen i reolwyr mudiadau cymunedol eu hystyried mewn cysylltiad ag ymroi i brosiect Trosglwyddo Asedau Cymunedol (TAC).<\/p>\n","protected":false},"author":2205,"featured_media":8985,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"ep_exclude_from_search":false,"footnotes":""},"categories":[761],"tags":[725],"class_list":["post-21332","resource","type-resource","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyllid-cynaliadwy","tag-sustainable-funding","pillar-cyllid-cynaliadwy"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Trosglwyddo Asedau Cymunedol | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Trosolwg o\u2019r prif bethau y bydd angen i reolwyr mudiadau cymunedol eu hystyried mewn cysylltiad ag ymroi i brosiect Trosglwyddo Asedau Cymunedol (TAC).\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/trosglwyddo-asedau-cymunedol\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Trosglwyddo Asedau Cymunedol | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Trosolwg o\u2019r prif bethau y bydd angen i reolwyr mudiadau cymunedol eu hystyried mewn cysylltiad ag ymroi i brosiect Trosglwyddo Asedau Cymunedol (TAC).\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/trosglwyddo-asedau-cymunedol\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-10-01T14:18:32+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/10\/pexels-fauxels-3184292.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1280\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"719\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"20 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/trosglwyddo-asedau-cymunedol\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/trosglwyddo-asedau-cymunedol\/\",\"name\":\"Trosglwyddo Asedau Cymunedol | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/trosglwyddo-asedau-cymunedol\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/trosglwyddo-asedau-cymunedol\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/10\/pexels-fauxels-3184292.jpg\",\"datePublished\":\"2025-10-01T14:13:44+00:00\",\"dateModified\":\"2025-10-01T14:18:32+00:00\",\"description\":\"Trosolwg o\u2019r prif bethau y bydd angen i reolwyr mudiadau cymunedol eu hystyried mewn cysylltiad ag ymroi i brosiect Trosglwyddo Asedau Cymunedol (TAC).\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/trosglwyddo-asedau-cymunedol\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/trosglwyddo-asedau-cymunedol\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/trosglwyddo-asedau-cymunedol\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/10\/pexels-fauxels-3184292.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/10\/pexels-fauxels-3184292.jpg\",\"width\":1280,\"height\":719,\"caption\":\"Cyfrifo costau\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/trosglwyddo-asedau-cymunedol\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Trosglwyddo Asedau Cymunedol\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"description\":\"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"width\":512,\"height\":512,\"caption\":\"Hwb Gwybodaeth\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Trosglwyddo Asedau Cymunedol | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","description":"Trosolwg o\u2019r prif bethau y bydd angen i reolwyr mudiadau cymunedol eu hystyried mewn cysylltiad ag ymroi i brosiect Trosglwyddo Asedau Cymunedol (TAC).","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/trosglwyddo-asedau-cymunedol\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Trosglwyddo Asedau Cymunedol | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","og_description":"Trosolwg o\u2019r prif bethau y bydd angen i reolwyr mudiadau cymunedol eu hystyried mewn cysylltiad ag ymroi i brosiect Trosglwyddo Asedau Cymunedol (TAC).","og_url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/trosglwyddo-asedau-cymunedol\/","og_site_name":"Hwb Gwybodaeth","article_modified_time":"2025-10-01T14:18:32+00:00","og_image":[{"width":1280,"height":719,"url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/10\/pexels-fauxels-3184292.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"20 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/trosglwyddo-asedau-cymunedol\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/trosglwyddo-asedau-cymunedol\/","name":"Trosglwyddo Asedau Cymunedol | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","isPartOf":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/trosglwyddo-asedau-cymunedol\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/trosglwyddo-asedau-cymunedol\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/10\/pexels-fauxels-3184292.jpg","datePublished":"2025-10-01T14:13:44+00:00","dateModified":"2025-10-01T14:18:32+00:00","description":"Trosolwg o\u2019r prif bethau y bydd angen i reolwyr mudiadau cymunedol eu hystyried mewn cysylltiad ag ymroi i brosiect Trosglwyddo Asedau Cymunedol (TAC).","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/trosglwyddo-asedau-cymunedol\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/trosglwyddo-asedau-cymunedol\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/trosglwyddo-asedau-cymunedol\/#primaryimage","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/10\/pexels-fauxels-3184292.jpg","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/10\/pexels-fauxels-3184292.jpg","width":1280,"height":719,"caption":"Cyfrifo costau"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/trosglwyddo-asedau-cymunedol\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Trosglwyddo Asedau Cymunedol"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","name":"Hwb Gwybodaeth","description":"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.","publisher":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization","name":"Hwb Gwybodaeth","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","width":512,"height":512,"caption":"Hwb Gwybodaeth"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/21332","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2205"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/21332\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":21341,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/21332\/revisions\/21341"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8985"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=21332"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=21332"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=21332"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}