{"id":21208,"date":"2025-09-08T15:50:09","date_gmt":"2025-09-08T14:50:09","guid":{"rendered":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/?post_type=resource&#038;p=21208"},"modified":"2025-09-08T15:50:13","modified_gmt":"2025-09-08T14:50:13","slug":"rheoli-adeiladau-gweithrediadau-bob-dydd-1","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-gweithrediadau-bob-dydd-1\/","title":{"rendered":"Rheoli adeiladau &#8211; Gweithrediadau bob dydd (1)"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-bootstrap-blocks-container container mb-2\">\n\t\n<div class=\"wp-bootstrap-blocks-row row\">\n\t\n\n<div class=\"col-12 col-md-9\">\n\t\t\t\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Trosolwg<\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"#introduction\">Cyflwyniad<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#accessibility\">Hygyrchedd<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#health\">lechyd a Diogelwch<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#fire\">Diogelwch t\u00e2n<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#environment\">Yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#information\">Gwybodaeth bellach<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"introduction\">Cyflwyniad<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r adnodd hon wedi\u2019i dylunio i roi trosolwg o\u2019r prif bethau y bydd angen i reolwyr adeiladau cymunedol eu hystyried mewn perthynas \u00e2 rhedeg eu hadeilad(au) bob dydd. Dylid ei darllen ar y cyd \u00e2 &#8216;Rheoli adeiladau \u2013 Rhwymedigaethau cyfreithiol ac atebolrwydd cost\u201d a\u2019r taflenni gwybodaeth \u201cRhestr wirio Adeiladau Cymunedol&#8217; (ar gael yn fuan). <\/p>\n\n\n\n\n\n<p>Mae\u2019r wybodaeth yn ymdrin yn benodol \u00e2\u2019r canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Hygyrchedd<\/li>\n\n\n\n<li>Iechyd a Diogelwch<\/li>\n\n\n\n<li>Diogelwch t\u00e2n<\/li>\n\n\n\n<li>Yr amgylchedd a chynaliadwyedd<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Bydd rhai o\u2019r materion hyn yn gymwys i bob mudiad yn gyffredinol, ond bydd eraill yn amrywio yn \u00f4l y gwasanaethau a\u2019r gweithgareddau penodol a ddarperir.<\/p>\n\n\n\n<p>Noder, trosolwg yw\u2019r wybodaeth a ddarperir yma. Dylai bwrdd ymddiriedolwyr \/ rheolwyr eich mudiad ystyried bob amser eu hymrwymiadau fel y c\u00e2nt eu nodi yn nogfen llywodraethu eu mudiad ac, os oes unrhyw amheuaeth, dylech gael cyngor gan y cyrff perthnasol a \/ neu\u2019r bobl broffesiynol gymwys, yn enwedig lle caiff risgiau eu nodi. Ar ddiwedd y daflen wybodaeth hon, nodir rhai ffynonellau allweddol sy\u2019n darparu gwybodaeth fanylach ychwanegol.  <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"accessibility\">Hygyrchedd<\/h2>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-medium\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"720\" height=\"480\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/08\/accessibility-720x480.jpg\" alt=\"Gr\u0175p o bobl amrywiol sy'n gwenu yn eistedd wrth ymyl ac ar grisiau\" class=\"wp-image-21045\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/08\/accessibility-720x480.jpg 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/08\/accessibility-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/08\/accessibility-768x512.jpg 768w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/08\/accessibility-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/08\/accessibility-360x240.jpg 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/08\/accessibility-1800x1200.jpg 1800w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/08\/accessibility-624x416.jpg 624w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/08\/accessibility.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 720px) 100vw, 720px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae cynllunio ar gyfer \u2018mynediad cynhwysol\u2019 at adeiladau cymunedol yn rhan greiddiol o r\u00f4l rheolwr adeiladau cymunedol \u2013 wedi\u2019r cwbl, diben adeiladau cymunedol yn eu hanfod yw bod yn hygyrch i bawb <br>dylid edrych y tu hwnt i\u2019r mynediad ffisegol at adeilad yn eu cymuned. Fodd bynnag, wrth ystyried hygyrchedd, adeilad, mynediad ffisegol at adeilad, ac ystyried y ffordd y caiff eich adeilad ei reoli a sut y caiff eich staff a\u2019ch gwirfoddolwyr eu hyfforddi hefyd. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (DDA) 1995, sydd bellach yn rhan o Ddeddf Cydraddoldeb (2010), yn ei gwneud hi\u2019n anghyfreithlon i unrhyw un wahaniaethu yn erbyn unigolyn ar sail ei anabledd. O dan y Ddeddf, mae gan bwyllgorau rheoli sy\u2019n gyfrifol am adeiladau cymunedol ddyletswydd gyfreithiol i wneud \u2018addasiadau rhesymol\u2019 i\u2019w hadeilad(au) er mwyn sicrhau nad yw rhywun anabl yn cael ei drin yn llai ffafriol na rhywun arall. <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Archwiliadau Mynediad<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Byddai\u2019n syniad da i reolwyr adeiladau sydd eisiau cydymffurfio \u00e2\u2019r Ddeddf gynnal \u2018Archwiliad Mynediad\u2019 fel man cychwyn. Gall cynnal archwiliad llawn fod yn broses gymhleth sy\u2019n cymryd amser \u2013 byddai\u2019n well gadael y broses hon i rywun proffesiynol sydd \u00e2\u2019r wybodaeth a\u2019r profiad gofynnol. Mae adnoddau gwych ar gael gan Anabledd Cymru i helpu gyda hyn.  <\/p>\n\n\n\n<p>Fodd bynnag, nid yw hynny\u2019n golygu na allwch ddechrau edrych ar rai o\u2019r materion allweddol mwy amlwg sy\u2019n gymharol hawdd i\u2019w datrys tra eich bod yn aros i archwiliad llawn gael ei gynnal. Mae digonedd o lenyddiaeth a chanllawiau ar gael ar sut i fynd ati, a darperir rhai cyfeiriadau at arferion gorau ar ddiwedd y Daflen Wybodaeth hon. <\/p>\n\n\n\n<p>Pan fydd eich mudiad yn adolygu (archwilio) hygyrchedd y gwasanaethau rydych chi\u2019n eu darparu, bydd angen i chi ystyried sut mae eich adeilad yn gweithio o ran pethau fel:<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Materion hygyrchedd ffisegol:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cyrraedd a pharcio. Y dirwedd a chelfi stryd. Llwybrau at y fynedfa.  <\/li>\n\n\n\n<li>Grisiau, rampiau a newidiadau eraill i lefel y tir. Arwynebau. Mynedfeydd a throthwyon.  <\/li>\n\n\n\n<li>Cyfleusterau derbynfa a chynteddau. Cynllun mewnol a hwylustod symud o gwmpas y tu mewn <\/li>\n\n\n\n<li>Lifftiau, grisiau, rampiau a newidiadau eraill i lefel y tir.<\/li>\n\n\n\n<li>Drysau mewnol. Arwynebau mewnol. <\/li>\n\n\n\n<li>Arwyddion a dynodi llwybrau.<\/li>\n\n\n\n<li>Celfi.<\/li>\n\n\n\n<li>Gwasanaethau a chyfleusterau.<\/li>\n\n\n\n<li>Toiledau, ystafelloedd newid ac ati.<\/li>\n\n\n\n<li>Gwresogi, golau, awyru ac aerdymheru. Acwsteg. <\/li>\n\n\n\n<li>Cyfarpar a gweithdrefnau brys. Allanfeydd a mannau lloches. <\/li>\n\n\n\n<li>Cynnal a chadw.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Materion hygyrchedd ehangach:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Diwallu anghenion aelodau staff\/gwirfoddolwyr ag anableddau.<\/li>\n\n\n\n<li>Gwasanaeth cwsmeriaid er mwyn sicrhau bod eich staff a\u2019ch gwirfoddolwyr yn groesawgar ac yn gymwynasgar.<\/li>\n\n\n\n<li>Sicrhau bod holl bolis\u00efau eraill eich mudiad yn mynd i\u2019r afael \u00e2 hygyrchedd.<\/li>\n\n\n\n<li>Hyrwyddo a marchnata eich gwasanaeth a chyfleuster cymunedol mewn modd cynhwysol sydd wedi\u2019i ddylunio i fod yn addas i bawb.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae cynnwys hygyrchedd yn ystyriaeth allweddol wrth wneud penderfyniadau prynu.<\/li>\n\n\n\n<li>Darparu\u2019r holl wybodaeth mewn fformatau hygyrch yn \u00f4l yr angen a sicrhau bod digon o wybodaeth ar gael i bobl nad ydynt wedi ymweld \u00e2\u2019r lle eto.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l i chi gynnal archwiliad, neu o leiaf adolygiad, o hygyrchedd eich adeilad gan ystyried yr uchod, mae\u2019n si\u0175r y byddwch wedi nodi nifer mawr o faterion a chamau gweithredu y gallwch eu cymryd i roi sylw iddynt. Mae\u2019n bosibl na fydd eich mudiad yn gallu cyflawni\u2019r holl gamau gweithredu ar unwaith, ond dylech allu dangos bod gennych gynllun clir ar waith gydag amserlenni i fodloni ysbryd y Ddeddf. <\/p>\n\n\n\n<p>Hefyd, bydd asesu pa mor bell y byddwch chi\u2019n mynd i wneud \u2018addasiadau rhesymol\u2019 yn benderfyniad y bydd angen i chi ei wneud drosoch chi\u2019ch hun. Mae amrywiaeth o gyrff cyllido a fydd yn fodlon ystyried cefnogi\u2019r addasiadau drytach sydd angen i chi eu gwneud, ac mae consesiynau TAW ar gael hefyd ar nwyddau a gwasanaethau a gyflenwir i elusen at ddibenion gwella\u2019r mynediad i bobl ag anableddau. <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Prosiectau i godi estyniadau ac adeiladau newydd<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Os yw eich mudiad yn awyddus i ymestyn eich adeilad(au) cymunedol neu ddatblygu cyfleuster cymunedol newydd, bydd ystyried hygyrchedd hefyd yn dod o dan gylch gwaith Rhan M y Rheoliadau Adeiladu, sy\u2019n gofyn i adeiladau fod yn \u2018ddiogel ac yn gyfleus o fewn rheswm ar gyfer pobl anabl\u2019 o ran mynediad ffisegol i\u2019r adeilad, y tu mewn i\u2019r adeilad ac o ran defnyddio ei gyfleusterau.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"health\">Iechyd a Diogelwch<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae gan reolwyr adeiladau ddyletswydd gyfreithiol i gydymffurfio \u00e2 darpariaethau dau ddarn pwysig o ddeddfwriaeth: Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith a Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith yn gymwys i\u2019ch adeilad cymunedol hyd yn oed os nad oes gennych chi staff cyflogedig, oherwydd mae hefyd yn ymwneud \u00e2 phobl eraill sy\u2019n defnyddio adeilad a chyfarpar mudiad, gan gynnwys aelodau o\u2019r cyhoedd, gwirfoddolwyr ac aelodau pwyllgor. Mae\u2019r rheoliadau o dan y Ddeddf yn ymdrin \u00e2 saith maes: <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Rheoli iechyd a diogelwch<\/li>\n\n\n\n<li>Iechyd, diogelwch a llesiant yn y gweithle<\/li>\n\n\n\n<li>Sgriniau arddangos (er enghraifft, sgriniau cyfrifiaduron)<\/li>\n\n\n\n<li>Cyfarpar diogelu personol<\/li>\n\n\n\n<li>Darparu a defnyddio cyfarpar gwaith<\/li>\n\n\n\n<li>Codi a chario<\/li>\n\n\n\n<li>Rhagofalon t\u00e2n<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn cynhyrchu amrywiaeth eang o wybodaeth sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019ch cyfrifoldebau o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith a dylech gyfeirio at ei lenyddiaeth i gael trosolwg mwy cynhwysfawr nad yw\u2019n bosibl yma. Wedi dweud hynny, isod ceir crynodeb byr o rai o\u2019r prif ddarpariaethau a fydd yn berthnasol i reolwyr adeiladau cymunedol: <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Dylech gynnal ymarfer \u2018asesu risg\u2019. Mae\u2019r HSE wedi cynhyrchu taflen wybodaeth \u2018Rhestr Wirio Iechyd a Diogelwch ar gyfer Neuaddau Pentref a Chymunedol\u2019 sy\u2019n darparu man cychwyn gwych ar gyfer hyn. Bydd hyn yn eich helpu i gynllunio a\/neu gymryd camau yn erbyn y risg a achosir gan asbestos, clefyd y llengfilwyr a Phrofion PAT Blynyddol. Mae angen llawer o bolis\u00efau a gweithdrefnau i gydymffurfio \u00e2\u2019r gwahanol reoliadau, a thrwy fynd drwy\u2019r rhestr wirio byddwch yn sicrhau eich bod yn cydymffurfio.   <\/li>\n\n\n\n<li>Dylid adolygu\u2019r trefniadau ar gyfer iechyd a diogelwch yn rheolaidd a nodi\u2019n ysgrifenedig os oes gennych chi bum cyflogai neu fwy.<\/li>\n\n\n\n<li>Dylai fod gennych weithdrefnau priodol ar waith hefyd os bydd argyfwng \u2013 gan gynnwys darpariaeth ar gyfer pobl anabl yn ogystal \u00e2 phobl nad ydynt yn anabl.<\/li>\n\n\n\n<li>Rhaid cadw eich adeilad cymunedol a\u2019i gyfarpar mewn cyflwr da.<\/li>\n\n\n\n<li>Rhaid i\u2019r system awyru fod yn effeithiol ac yn addas, a rhaid cadw tymheredd rhesymol (yn y rhan fwyaf o achosion, mae hyn yn golygu tymheredd o 16\u00b0C o leiaf) a rhaid cael thermomedr ar y safle.<\/li>\n\n\n\n<li>Rhaid i\u2019r golau fod yn addas ac yn ddigonol \u2014 gyda golau naturiol lle bynnag y bo\u2019n bosibl.<\/li>\n\n\n\n<li>Rhaid cadw eich safle\u2019n l\u00e2n, ac ni ddylid gadael i sbwriel gasglu.<\/li>\n\n\n\n<li>Rhaid i\u2019ch staff a\u2019ch gwirfoddolwyr allu mynd a dod o\u2019u desgiau a symud o amgylch eu hystafelloedd gwaith yn hawdd ac yn ddiogel. Rhaid i unrhyw weithfan (e.e. desg, cadair, cyfrifiadur) fod yn addas i\u2019r defnyddiwr a\u2019i waith. <\/li>\n\n\n\n<li>Rhaid i\u2019r lloriau fod yn addas ac yn ddiogel; rhaid cael canllawiau ar risiau (os na fyddant yn achosi rhwystr). Rhaid cymryd camau i atal unrhyw un rhag cael ei anafu gan wrthrych sy\u2019n cwympo a rhaid nodi unrhyw ardaloedd peryglus yn glir. <\/li>\n\n\n\n<li>Rhaid gallu agor a chau ffenestri, ffenestri to ac awyrwyr a\u2019u glanhau yn ddiogel ac yn hawdd.<\/li>\n\n\n\n<li>Sicrhau bod Boeleri Nwy yn cael eu gwasanaethu&#8217;n flynyddol.<\/li>\n\n\n\n<li>Ni ddylai cerddwyr fod mewn perygl oherwydd cerbydau.<\/li>\n\n\n\n<li>Rhaid cael toiledau addas sydd wedi\u2019u hawyru a\u2019u goleuo\u2019n ddigonol.<\/li>\n\n\n\n<li>Rhaid darparu d\u0175r yfed hygyrch a chwpanau a chael arwyddion clir ar eu cyfer.<\/li>\n\n\n\n<li>Lle y bo\u2019n briodol, rhaid darparu cyfarpar a dillad diogelu personol (PPE) i staff a gwirfoddolwyr er mwyn eu diogelu rhag risgiau iechyd a diogelwch, a rhaid i gyflogwyr gymryd camau rhesymol er mwyn sicrhau bod y cyfarpar a\u2019r dillad yn cael eu defnyddio.<\/li>\n\n\n\n<li>Rhaid i gyfarpar gwaith fod yn briodol ar gyfer ei ddiben a\u2019i gadw mewn cyflwr da. Rhaid cadw cofnod cynnal a chadw llawn a rhaid rhoi hyfforddiant llawn i ddefnyddwyr a\u2019u rheolwyr. <\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Dylai cyflogwyr, lle bynnag y bo\u2019n bosibl, osgoi\u2019r angen i staff godi a chario pethau a allai achosi anaf.<\/p>\n\n\n\n<p>Hylendid Bwyd Yng Nghymru, rhaid i grwpiau cymunedol sy\u2019n darparu bwyd i\u2019r cyhoedd, boed hynny drwy gaffis, digwyddiadau, neu fentrau elusennol, gydymffurfio \u00e2 chyfreithiau hylendid bwyd i sicrhau diogelwch bwyd. Mae\u2019r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (FHRS) a chofrestru busnes bwyd yn ofynion allweddol: <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Cofrestru Busnes Bwyd:<\/strong><ul><li>Rhaid i unrhyw fudiad sy\u2019n trin, yn paratoi, neu\u2019n gweini bwyd yn rheolaidd (e.e., caffis neu ddigwyddiadau cymunedol) gofrestru fel busnes bwyd gyda\u2019i awdurdod lleol.<\/li><\/ul>\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae cofrestru am ddim a rhaid ei gwblhau o leiaf 28 diwrnod cyn dechrau gweithrediadau bwyd.<\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n\n\n\n<li>Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (FHRS):<ul><li>Ar \u00f4l cofrestru, mae awdurdodau lleol yn archwilio&#8217;r safle i asesu arferion hylendid, gan gynnwys glendid, storio bwyd, paratoi, a chadw cofnodion.<\/li><\/ul>\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Rhoddir sg\u00f4r hylendid bwyd rhwng 0 (angen gwella ar frys) a 5 (da iawn), y mae&#8217;n rhaid ei harddangos yn gyhoeddus.<\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Pwy Sydd Angen Cofrestru?<\/strong><ul><li>Grwpiau cymunedol sy\u2019n darparu gwasanaethau bwyd rheolaidd neu ddigwyddiadau untro yn ymwneud \u00e2 bwyd.<\/li><\/ul>\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae&#8217;n arbennig o ofynnol i grwpiau sy&#8217;n paratoi bwydydd risg uchel (e.e. prydau wedi&#8217;u coginio) gofrestru.<\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Hyfforddiant a Chydymffurfedd:<\/strong><ul><li>Dylai gwirfoddolwyr a staff sy&#8217;n trin bwyd gwblhau hyfforddiant hylendid bwyd sylfaenol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio.<\/li><\/ul>\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Efallai y bydd angen dogfennaeth briodol, megis gwybodaeth am alergenau a chofnodion rheoli tymheredd.<\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Cymorth Cyntaf<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Fel rheolwr adeilad cymunedol, mae\u2019n ofyniad cyfreithiol arnoch i gael rhyw fath o ddarpariaeth cymorth cyntaf, ond gall lefel y ddarpariaeth honno amrywio\u2019n fawr. Felly, fe\u2019ch cynghorir i gael o leiaf un (dau yn ddelfrydol) o swyddogion cymorth cyntaf cymwys yn yr adeilad (neu o leiaf ar alwad) lle y bo\u2019n bosibl. <\/p>\n\n\n\n<p>Rhaid i focsys cymorth cyntaf gynnwys eitemau y mae swyddog cymorth cyntaf wedi\u2019i hyfforddi i\u2019w defnyddio yn unig, ac ni ddylent gynnwys unrhyw feddyginiaeth (er enghraifft, aspirin neu <br>baracetamol). Gwnewch yn si\u0175r bod rhywun yn gyfrifol am sicrhau bod y bocs cymorth cyntaf yn llawn (cadwch restr ar y bocs yn nodi\u2019r hyn y dylai ei gynnwys). <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cofiwch<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Sicrhewch fod yr holl ddefnyddwyr yn gwybod lle mae\u2019r bocs cymorth cyntaf yn cael ei gadw ac, os oes yna swyddogion cymorth cyntaf cymwys, eu bod yn gwybod pwy ydynt a sut i gysylltu \u00e2 nhw.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Rheoliadau\u2019n gosod dyletswydd ar reolwyr adeiladau cymunedol i asesu a oes unrhyw sylweddau peryglus neu risgiau yn y gweithle ac, os felly, i ymdrin \u00e2 nhw\u2019n ddiogel.<\/p>\n\n\n\n<p>Rhaid i chi sicrhau nad oes neb yn dod i gysylltiad ag unrhyw sylweddau peryglus sy\u2019n bresennol ar eich safle neu, os nad yw hyn yn bosibl, fod y cysylltiad yn cael ei reoli.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"fire\">Diogelwch t\u00e2n<\/h2>\n\n\n\n<p>Ymdrinnir \u00e2 diogelwch t\u00e2n mewn adeiladau cymunedol yng Ngorchymyn Diogelwch T\u00e2n 2005. O dan y Gorchymyn, pwyllgor rheoli eich adeilad(au) sy\u2019n gyfrifol am gynnal ei asesiad risg diogelwch t\u00e2n ei hun, a gallai eich Gwasanaeth T\u00e2n ac Achub lleol gadarnhau hwn a\u2019ch safle er mwyn sicrhau eich bod yn cydymffurfio. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae angen i\u2019r asesiad risg gael ei gynnal gan un neu fwy o \u2018Unigolion Cymwys\u2019 fel y\u2019u penodir gan eich \u2018Unigolyn Cyfrifol\u2019 &#8211; y pwyllgor rheoli fydd hwn ar gyfer adeilad cymunedol.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar ddiwedd y Daflen Wybodaeth hon, cyfeirir at ganllaw manwl ar gyfer pobl cymwys ar gynnal Asesiad Risg Diogelwch T\u00e2n ar gyfer eich adeilad.<\/p>\n\n\n\n<p>Wedyn, mae angen i\u2019r unigolyn\/unigolion cymwys a benodir wneud y canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Sicrhau bod yr adeilad a\u2019r cyfarpar diogelwch t\u00e2n angenrheidiol yn cael eu cadw mewn cyflwr effeithlon ac yn gweithio\u2019n iawn ac, os bydd angen, yn cael eu trwsio gan rywun cymwys ac yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau gan y gwneuthurwyr.<\/li>\n\n\n\n<li>Gwneud yn si\u0175r bod yr holl bwyllgor yn cael eu hymgynghori a\u2019u hysbysu ynghylch materion sy\u2019n ymwneud \u00e2 diogelwch t\u00e2n, yn benodol; darparu cyfarwyddiadau priodol ar sut i ddefnyddio\u2019r cyfarpar, sicrhau bod y pwyllgor yn ymwybodol o unrhyw risgiau a nodwyd a\u2019r camau a gymerwyd i leihau\u2019r risg, sicrhau bod y pwyllgor yn ymwybodol o unrhyw gynigion ar gyfer gwella rhagofalon t\u00e2n, presenoldeb sylweddau peryglus a\u2019r risg i ddefnyddwyr ar y safle, y system y cytunwyd arni ar gyfer cysylltu \u00e2\u2019r gwasanaethau brys a gadael yr adeilad os oes angen, sicrhau bod y pwyllgor yn cydweithio i gadw\u2019r adeilad yn ddiogel rhag t\u00e2n a\u2019i effeithiau, a pheidio \u00e2 gwneud dim sy\u2019n rhoi eu hunain, pobl eraill neu\u2019r adeilad mewn perygl.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Dylai\u2019r rhai sy\u2019n llogi\u2019r adeilad gael cyfarwyddiadau ar y gweithdrefnau t\u00e2n a sut i ddefnyddio\u2019r cyfarpar. Mae\u2019r Pwyllgor Rheoli yn gyfrifol am sicrhau bod y rhai sy\u2019n llogi\u2019r adeilad yn ymwybodol o\u2019r gweithdrefnau hyn a\u2019u bod yn penodi rhywun i fod yn gyfrifol am hyn yn y digwyddiad. Mae\u2019n arfer da i gynnwys hyn yn eich Cytundeb Llogi a sicrhau bod y rhai sy\u2019n llogi\u2019r adeilad yn llofnodi copi ohono ac yn ei ddychwelyd i\u2019r pwyllgor.  <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"environment\">Yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd<\/h2>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-medium\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"720\" height=\"480\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/08\/Environment-sustainable-720x480.jpg\" alt=\"Dyn yn dal merch ifanc yn pwyntio at baneli solar\" class=\"wp-image-21048\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/08\/Environment-sustainable-720x480.jpg 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/08\/Environment-sustainable-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/08\/Environment-sustainable-768x512.jpg 768w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/08\/Environment-sustainable-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/08\/Environment-sustainable-360x240.jpg 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/08\/Environment-sustainable-1800x1200.jpg 1800w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/08\/Environment-sustainable-624x416.jpg 624w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/08\/Environment-sustainable.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 720px) 100vw, 720px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Gall gwneud gwelliannau i berfformiad amgylcheddol y gwasanaethau a\u2019r cyfleusterau rydych chi\u2019n eu cynnig yn eich adeiladau cymunedol nid yn unig helpu i leihau eich \u00f4l-troed amgylcheddol, ac felly effaith eich mudiad ar yr amgylchedd, ond gall hefyd arbed arian i\u2019ch mudiad \u2013 llawer o arian mewn rhai amgylchiadau.<\/p>\n\n\n\n<p>Os nad ydych eisoes wedi dechrau mynd ati i wneud hyn, yna\u2019r peth cyntaf i\u2019w wneud yw cynnal \u2018Prawf Iechyd Cynaliadwyedd\u2019 \u2013 adolygiad syml o\u2019ch sefyllfa bresennol o ran amrediad o ffactorau sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r amgylchedd a chynaliadwyedd. Gallai fod yn ddefnyddiol gofyn am gymorth gweithiwr proffesiynol i wneud hyn, ond bydd y rhan fwyaf o\u2019r problemau y byddwch chi\u2019n ymdrin \u00e2 nhw ond yn gofyn am synnwyr cyffredin, felly ni fydd angen gwybodaeth arbenigol bob amser. <\/p>\n\n\n\n<p>Gweler wedi\u2019u rhestru isod y prif bethau y dylech edrych arnynt gyda\u2019ch gilydd, ynghyd \u00e2 rhai awgrymiadau defnyddiol ar sut i fwrw ati:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Defnydd o ynni<\/strong> \u2013 Dewch i ddeall faint o ynni rydych chi\u2019n ei ddefnyddio drwy ddarllen eich mesuryddion yn rheolaidd neu gael mesuryddion deallus wedi\u2019u gosod. Edrychwch ar batrymau\u2019r defnydd o ynni (bob dydd \/ wythnos \/ tymor) a nodwch lle gellid gwneud arbedion. Gosodwch reolyddion ynni a defnyddiwch nhw\u2019n gyson \u2013 thermostatau ystafell a\/neu falfiau thermostat ar reiddiaduron. Ewch ati i raglennu amserau gwresogi ar eich boeler a gosodwch dymheredd eich d\u0175r poeth ar 60\u00b0C (dim mwy, dim llai). Newidiwch hen osodiadau golau ac offer eraill sy\u2019n defnyddio ynni am fodelau newydd sy\u2019n arbed ynni. Uwchlaw popeth, anogwch eich holl staff, gwirfoddolwyr a chwsmeriaid i \u2018leihau a diffodd\u2019.     <\/li>\n\n\n\n<li><strong>Ffynonellau ynni adnewyddadwy<\/strong> &#8211; gallai fod potensial ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y safle ar raddfa fach e.e. solar thermol neu baneli solar ffotofoltaig gyda lle i gadw batri, neu o bosibl cynnwys boeler biomas. Fodd bynnag, argymhellir bod asesiad dichonoldeb manwl yn cael ei gomisiynu sy\u2019n cynnwys: arfarniad o\u2019r safle a\u2019r cyfleoedd posibl, asesiad o dechnolegau penodol, dadansoddiad ariannol ar gyfer pob technoleg hyfyw sy\u2019n seiliedig ar amcangyfrifon cost cyfalaf ac arbedion posibl. Gallai gwasanaeth Ynni Lleol Llywodraeth Cymru fod yn fan cychwyn da.  <\/li>\n\n\n\n<li><strong>Defnydd o dd\u0175r<\/strong> \u2013 Darllenwch eich mesurydd d\u0175r yn rheolaidd a gwirio\u2019ch system am ollyngiadau. Ystyriwch osod dyfeisiau arbed d\u0175r ar dapiau d\u0175r, toiledau, troethfeydd, cawodydd ac ati. Ceisiwch annog eich holl staff, gwirfoddolwyr a chwsmeriaid i \u2018arbed d\u0175r\u2019 lle bynnag y gallant. Dylech ymgyfarwyddo \u00e2 ble mae eich draeniau\u2019n arllwys ac atal unrhyw un rhag taflu unrhyw beth i lawr y sinc neu\u2019r draen a allai fod yn niweidiol \/ gwenwynig.   <\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gwastraff<\/strong> \u2013 Cofiwch y tri pheth hyn &#8211; \u2018Lleihau, Ailddefnyddio, Ailgylchu\u2019 &#8211; wrth gyflawni pob un o\u2019ch gweithgareddau a gwasanaethau. Yn y swyddfa, ceisiwch leihau gwastraff pan allwch chi drwy argraffu llai a mynd yn ddi-bapur lle bynnag y bo\u2019n bosibl. <ul><li>Pan fydd angen i chi argraffu dogfen, defnyddiwch y swyddogaeth argraffu dwy ochr ar eich argraffydd ac ailddefnyddiwch hen bapur lle y bo\u2019n bosibl.<\/li><\/ul><ul><li>Ewch ati i gael gwared \u00e2\u2019r defnydd o blastigau untro.<\/li><\/ul><ul><li>Pan fydd gwastraff, gwnewch yn si\u0175r bod gan eich staff, gwirfoddolwyr a chwsmeriaid gyfle i\u2019w ailgylchu drwy ddarparu biniau i\u2019w wahanu.<\/li><\/ul>\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Trefnwch fod eich holl wastraff ailgylchu a gwastraff \u2018bin du\u2019 yn cael eu gwaredu gan gludydd gwastraff trwyddedig. Sicrhewch fod unrhyw wastraff peryglus posibl, e.e. batris wedi\u2019u defnyddio, tiwbiau fflworolau, hen baent, yn cael ei waredu ar wah\u00e2n ac yn unol \u00e2\u2019r canllawiau a ddarparwyd gan eich cludydd gwastraff trwyddedig.  <\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Pryniadau <\/strong>\u2013 Rhowch bolisi \u2018prynu gwyrdd\u2019 ar waith ar gyfer yr holl nwyddau swyddfa a brynir a phrynwch bapur wedi\u2019i ailgylchu. Os oes gennych chi gaffi, prynwch gyflenwadau o siopau lleol a phrynwch fwydydd organig a masnach deg pan fyddan nhw ar gael. Amnewidiwch unrhyw gemegau cryf y gallech chi fod yn eu defnyddio ar hyn o bryd i lanhau am fersiynau sy\u2019n fwy ecogyfeillgar. Ceisiwch weithio tuag at sicrhau bod eich holl ddeunyddiau crai yn 100% naturiol ac yn dod o ffynonellau moesegol.   <\/li>\n\n\n\n<li><strong>Teithio<\/strong> \u2013 Os ydych chi\u2019n rhedeg cerbydau \u2018cwmni\u2019 o\u2019ch adeiladau, gwnewch yn si\u0175r bod eich staff a\u2019ch gwirfoddolwyr yn cynllunio llwybrau er mwyn osgoi teithiau diangen, ac anogwch nhw i yrru mewn modd sy\u2019n arbed tanwydd (ac yn ddiogel!). Gwnewch wiriadau cynnal a chadw rheolaidd ar eich cerbydau \u2013 gan wneud gwiriad wythnosol hanfodol o bwysedd teiars. Anogwch staff, gwirfoddolwyr a chwsmeriaid i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, rhannu ceir, cerdded neu feicio yn \u00f4l ac ymlaen i\u2019ch adeilad pan fo\u2019n ymarferol i wneud hynny.  <\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Yr unig ddeddfwriaeth bwysig sydd angen i reolwyr adeiladau fod yn ymwybodol ohoni yw <strong>Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011<\/strong>, y mae angen iddynt gydymffurfio \u00e2 hi, sy\u2019n ei gwneud hi\u2019n ofynnol i bob mudiad sy\u2019n cynhyrchu gwastraff sicrhau ei fod yn cael gwared ag ef drwy <strong>Gludydd Gwastraff Trwyddedig<\/strong> \u2013 gallai hwn olygu\u2019r awdurdod lleol drwy ei wasanaeth \u2018gwastraff busnes\u2019 neu gontractwr gwastraff preifat.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae cael rheolaeth dros yr holl bethau uchod yn hanfodol. Byddai\u2019n syniad da i enwebu rhywun \u2013 aelod o staff neu wirfoddolwr \u2013 i fod yn \u2018Hyrwyddwr Gwyrdd\u2019 i\u2019r mudiad. Rhywun a fyddai\u2019n gallu helpu i ysgogi\u2019r \u2018gwelliant parhaus\u2019 sydd wrth wraidd arfer da wrth reoli\u2019r amgylchedd.  <\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych chi eisiau mynd gam ymhellach wedyn, mae nifer o systemau rheoli amgylcheddol achrededig y gallech edrych arnynt, ond bydd eich camau mewnol eich hun yn ddigonol gan amlaf. Wedi dweud hynny, dylech sicrhau bod gan eich mudiad \u2018Bolisi Amgylchedd a Chynaliadwyedd\u2019 sy\u2019n nodi\u2019r hyn rydych chi\u2019n ei wneud i atal llygredd, lleihau eich effaith ar yr amgylchedd a chydymffurfio \u00e2\u2019r rhwymedigaethau cyfreithiol. <\/p>\n\n\n\n<p>Gall materion gwyrdd fod yn blatfform ar gyfer cysylltu \u00e2 phobl hefyd. Mae pobl yn llawer mwy ymwybodol o\u2019r materion y dyddiau hyn ac, o ganlyniad, maen nhw\u2019n llawer mwy tebygol o gymryd rhan mewn ymgyrch werdd wedi\u2019i chynllunio\u2019n dda. Ceir digonedd o syniadau da ar y rhyngrwyd os oes angen ysbrydoliaeth arnoch, felly ewch ati o ddifrif i arbed arian wrth achub y blaned!  <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"information\">Gwybodaeth bellach<\/h2>\n\n\n\n<p><strong>Hygyrchedd<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.disabilitywales.org\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/WAY-TO-GO-Toolkit-E-with-links.pdf\">Pecyn Cymorth Y Ffordd Ymlaen (Saesneg yn unig) &#8211; Anabledd Cymru<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.disabilitywales.org\/resources\/\">Adnoddau (Saesneg yn unig) &#8211; Anabledd Cymru<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.gov.wales\/approved-document-m-access-and-use-buildings\">Canllawiau ar y rheoliadau adeiladu: Rhan M (Saesneg yn unig) &#8211; Llywodraeth Cymru<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Iechyd a Diogelwch<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.hse.gov.uk\/voluntary\/assets\/docs\/village-hall.pdf\">Rhestr Wirio Iechyd a Diogelwch ar gyfer Neuaddau Pentref a Chymuned (Saesneg yn unig) &#8211; Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Diogelwch t\u00e2n<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/publications\/fire-safety-risk-assessment-small-and-medium-places-of-assembly\">Asesiad Risg Diogelwch T\u00e2n: Mannau Ymgynnull Bach a Chanolig (Saesneg yn unig) &#8211; Llywodraeth y DU<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.cat.org.uk\/info-resources\/\">Gwybodaeth ac Adnoddau (Saesneg yn unig) &#8211; Canolfan y Dechnoleg Amgen <\/a><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.cse.org.uk\/resources\">Adnoddau (Saesneg yn unig) &#8211; Centre of Sustainable Energy<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.carbontrust.com\/our-work-and-impact\/guides-reports-and-videos\">Adnoddau (Saesneg yn unig) &#8211; Yr Ymddiriedolaeth Garbon<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cydnabyddiaeth:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae rhywfaint o\u2019r canllaw uchod wedi\u2019i dynnu a\u2019i grynhoi at ein defnydd o:<br>\u2018Managing Your Community Building\u2019 gan Community Matters a Peter Hudson (2000)<\/p>\n\n\t<\/div>\n\n\n\n<div class=\"col-12 col-md-3\">\n\t\t\t\n\n\t<\/div>\n\n<\/div>\n\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r adnodd hon wedi\u2019i dylunio i roi trosolwg o\u2019r prif bethau y bydd angen i reolwyr adeiladau cymunedol eu hystyried mewn perthynas \u00e2 rhedeg eu hadeilad(au) bob dydd.<\/p>\n","protected":false},"author":2205,"featured_media":21054,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"ep_exclude_from_search":false,"footnotes":""},"categories":[761],"tags":[725],"class_list":["post-21208","resource","type-resource","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyllid-cynaliadwy","tag-sustainable-funding","pillar-cyllid-cynaliadwy"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Rheoli adeiladau - Gweithrediadau bob dydd (1) | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Mae\u2019r adnodd hon wedi\u2019i dylunio i roi trosolwg o\u2019r prif bethau y bydd angen i reolwyr adeiladau cymunedol eu hystyried\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-gweithrediadau-bob-dydd-1\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Rheoli adeiladau - Gweithrediadau bob dydd (1) | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae\u2019r adnodd hon wedi\u2019i dylunio i roi trosolwg o\u2019r prif bethau y bydd angen i reolwyr adeiladau cymunedol eu hystyried\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-gweithrediadau-bob-dydd-1\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-09-08T14:50:13+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/08\/Community-building.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1290\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"861\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"16 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-gweithrediadau-bob-dydd-1\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-gweithrediadau-bob-dydd-1\/\",\"name\":\"Rheoli adeiladau - Gweithrediadau bob dydd (1) | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-gweithrediadau-bob-dydd-1\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-gweithrediadau-bob-dydd-1\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/08\/Community-building.jpg\",\"datePublished\":\"2025-09-08T14:50:09+00:00\",\"dateModified\":\"2025-09-08T14:50:13+00:00\",\"description\":\"Mae\u2019r adnodd hon wedi\u2019i dylunio i roi trosolwg o\u2019r prif bethau y bydd angen i reolwyr adeiladau cymunedol eu hystyried\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-gweithrediadau-bob-dydd-1\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-gweithrediadau-bob-dydd-1\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-gweithrediadau-bob-dydd-1\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/08\/Community-building.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/08\/Community-building.jpg\",\"width\":1290,\"height\":861,\"caption\":\"Man measures inside wall of building while a small dog watches on\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-gweithrediadau-bob-dydd-1\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Rheoli adeiladau &#8211; Gweithrediadau bob dydd (1)\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"description\":\"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"width\":512,\"height\":512,\"caption\":\"Hwb Gwybodaeth\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Rheoli adeiladau - Gweithrediadau bob dydd (1) | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","description":"Mae\u2019r adnodd hon wedi\u2019i dylunio i roi trosolwg o\u2019r prif bethau y bydd angen i reolwyr adeiladau cymunedol eu hystyried","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-gweithrediadau-bob-dydd-1\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Rheoli adeiladau - Gweithrediadau bob dydd (1) | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","og_description":"Mae\u2019r adnodd hon wedi\u2019i dylunio i roi trosolwg o\u2019r prif bethau y bydd angen i reolwyr adeiladau cymunedol eu hystyried","og_url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-gweithrediadau-bob-dydd-1\/","og_site_name":"Hwb Gwybodaeth","article_modified_time":"2025-09-08T14:50:13+00:00","og_image":[{"width":1290,"height":861,"url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/08\/Community-building.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"16 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-gweithrediadau-bob-dydd-1\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-gweithrediadau-bob-dydd-1\/","name":"Rheoli adeiladau - Gweithrediadau bob dydd (1) | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","isPartOf":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-gweithrediadau-bob-dydd-1\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-gweithrediadau-bob-dydd-1\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/08\/Community-building.jpg","datePublished":"2025-09-08T14:50:09+00:00","dateModified":"2025-09-08T14:50:13+00:00","description":"Mae\u2019r adnodd hon wedi\u2019i dylunio i roi trosolwg o\u2019r prif bethau y bydd angen i reolwyr adeiladau cymunedol eu hystyried","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-gweithrediadau-bob-dydd-1\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-gweithrediadau-bob-dydd-1\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-gweithrediadau-bob-dydd-1\/#primaryimage","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/08\/Community-building.jpg","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/08\/Community-building.jpg","width":1290,"height":861,"caption":"Man measures inside wall of building while a small dog watches on"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/rheoli-adeiladau-gweithrediadau-bob-dydd-1\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Rheoli adeiladau &#8211; Gweithrediadau bob dydd (1)"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","name":"Hwb Gwybodaeth","description":"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.","publisher":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization","name":"Hwb Gwybodaeth","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","width":512,"height":512,"caption":"Hwb Gwybodaeth"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/21208","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2205"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/21208\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":21214,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/21208\/revisions\/21214"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/21054"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=21208"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=21208"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=21208"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}