{"id":2061,"date":"2020-06-11T16:47:15","date_gmt":"2020-06-11T15:47:15","guid":{"rendered":""},"modified":"2026-06-16T10:04:19","modified_gmt":"2026-06-16T09:04:19","slug":"canllaw-i-godwyr-arian","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/canllaw-i-godwyr-arian\/","title":{"rendered":"Canllaw i godwyr arian"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-bootstrap-blocks-container container mb-2\">\n\t\n<div class=\"wp-bootstrap-blocks-row row\">\n\t\n\n<div class=\"col-12 col-md-9\">\n\t\t\t\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Trosolwg<\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"#beth-yw-codwyr-arian\">Beth yw codwyr arian?<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#pam-defnyddio-codwyr-arian\">Pam defnyddio codwyr arian?<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#sut-allwch-chi-helpu\">Sut allwch chi helpu?<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#recriwtio-codwyr-arian\">Recriwtio codwyr arian<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#digwyddiadau-codi-arian-trydydd-parti\">Digwyddiadau codi arian trydydd parti<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#digwyddiadau-codi-arian-dan-arweiniad-cefnogwyr\">Digwyddiadau codi arian dan arweiniad cefnogwyr<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#digwyddiadau-codi-arian-dan-arweiniad-elusennau\">Digwyddiadau codi arian dan arweiniad elusennau<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#cael-y-gorau-o-godwyr-arian\">Cael y gorau o godwyr arian<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#sut-alla-i-fynd-ati-i-godi-arian-ar-gyfer-elusen\">Sut alla i fynd ati i godi arian ar gyfer elusen<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#adnoddau\">Adnoddau<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"beth-yw-codwyr-arian\">Beth yw codwyr arian?<\/h2>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"alignright size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"682\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/07\/Fundraising-1024x682.png\" alt=\"Gr\u0175p o fenywod yn dal dwylo wrth groesi llinell derfyn ras redeg\" class=\"wp-image-17128\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/07\/Fundraising-1024x682.png 1024w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/07\/Fundraising-720x480.png 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/07\/Fundraising-768x512.png 768w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/07\/Fundraising-1536x1024.png 1536w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/07\/Fundraising-360x240.png 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/07\/Fundraising-1800x1200.png 1800w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/07\/Fundraising-624x416.png 624w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/07\/Fundraising.png 2000w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<p>Mae codwyr arian yn unigolion sy\u2019n ymrwymo i godi arian ar ran mudiad neu gefnogi achos da. Gall codwyr arian hefyd fod yn gr\u0175p cymhellol o unigolion sy\u2019n dod ynghyd i gael mwy o effaith a chodi mwy o arian.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall codwyr arian fod yn rhan ffurfiol o fudiad, neu gallan nhw fod yn unigolion sy\u2019n ymgymryd \u00e2 her codi arian. Efallai y bydd gan fudiadau eu prosesau eu hunain ar gyfer sicrhau bod y rhai sy\u2019n codi arian ar eu rhan yn cadw at ddulliau penodol y cytunwyd arnynt neu efallai y bydd unigolion yn creu eu tudalen ar-lein eu hunain i ddenu rhoddion a rhoi\u2019r wybodaeth ddiweddaraf i roddwyr am eu hymdrechion.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"pam-defnyddio-codwyr-arian\">Pam defnyddio codwyr arian?<\/h2>\n\n\n\n<p>Gall codwyr arian fod yn llysgenhadon hefyd a gallan nhw helpu i recriwtio rhoddwyr newydd i ddatblygu sylfaen rhoddwyr yr elusen a chyrraedd rhwydweithiau cymdeithasol newydd trwy eu cysylltiadau personol. Maen nhw hefyd yn ychwanegu capasiti i\u2019ch t\u00eem\/adnoddau codi arian. Ni fydd pob codwr arian mor rhagweithiol \u00e2 hyn, efallai y bydd rhai eisiau rhoi drwy arian a roddwyd iddynt fel cais pen-blwydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae rhai codwyr arian yn cael eu talu hefyd. Unigolion yw\u2019r rhain fydd yn trefnu ac yn cynnal digwyddiadau ar eich rhan ond yn codi ffi a\/neu ganran o\u2019r incwm a gynhyrchir. Gall hyn leihau\u2019r baich ar y mudiad yn sylweddol, ond rhaid i chi hefyd sicrhau bod y codwr arian yn cadw at eich polis\u00efau\/arferion ac yn hyrwyddo\u2019ch mudiad yn \u00f4l eich dymuniad. Heb reolaethau o\u2019r fath, gall fod risg i enw da\u2019r mudiad os na fydd yn cadw at y neges a\/neu os bydd y digwyddiad yn mynd o chwith.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"sut-allwch-chi-helpu\">Sut allwch chi helpu?<\/h2>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote has-text-align-right is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p class=\"has-text-align-left\">Darparwch becyn cymorth gyda\u2019ch logos, deunyddiau hyrwyddo, testun, datganiadau cenhadaeth, ac awgrymiadau ar gyfer postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol.&nbsp;<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p>Gallwch chi helpu eich codwyr arian i ddod yn fwy effeithiol a chael profiad cadarnhaol mewn nifer o ffyrdd. Gall cadw mewn cysylltiad \u00e2 nhw\u2019n rheolaidd a\u2019u cysylltu \u00e2 chodwyr arian eraill helpu i\u2019w hysgogi a\u2019i gwneud yn haws iddyn nhw ofyn am gyngor neu syniadau ar hyd eu taith codi arian.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y rhan fwyaf o godwyr arian yn defnyddio rhyw fath o dudalen codi arian ar-lein, fel y rhai a gynigir gan JustGiving neu GoFundMe. Ewch ati i annog codwyr arian i bersonoli eu tudalen gyda lluniau a\u2019r newyddion diweddaraf wrth i\u2019w hymgyrch fynd rhagddi. Darparwch becyn cymorth gyda\u2019ch logos, deunyddiau hyrwyddo, testun, datganiadau cenhadaeth, ac awgrymiadau ar gyfer postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol.<\/p>\n\n\n\n<p>Gallwch chi hefyd ddathlu eu cerrig milltir, gan ddiolch i godwyr arian a\u2019u rhoddwyr ar eich gwefan\/cyfryngau cymdeithasol eich hun i hyrwyddo eu hymdrechion ymhellach.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"recriwtio-codwyr-arian\">Recriwtio codwyr arian<\/h2>\n\n\n\n<p>Gwahoddwch godwyr arian mewnol ac allanol, gan gynnwys gwirfoddolwyr, buddiolwyr a\u2019u teuluoedd. Mae codi arian mewn gr\u0175p yn caniat\u00e1u ar gyfer her ar y cyd, gan leihau\u2019r pwysau a dod \u00e2 sawl rhwydweithiau at ei gilydd. Mae digwyddiadau codi arian yn gyfle i bobl ddiolch i elusennau am eu help. Awgrymwch dargedau codi arian ystyrlon sy\u2019n cyfateb i ganlyniadau gwirioneddol i\u2019r achos, i gryfhau [darn ar goll?]<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"digwyddiadau-codi-arian-trydydd-parti\">Digwyddiadau codi arian trydydd parti<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae hyn fel arfer yn cyfeirio at ddigwyddiadau her blynyddol presennol y gall unigolion gofrestru\u2019n annibynnol ar eu cyfer, fel digwyddiadau rhedeg. Gall elusennau gyfeirio pobl at y rhain, eu hannog neu brynu lleoedd noddedig ar gyfer codwyr arian sy\u2019n ymrwymo i godi isafswm penodol. Mae gan rai digwyddiadau mwy (fel Marathon Llundain a\u2019r Great North Run) restrau aros hir o bobl sydd eisiau cymryd rhan, felly gall fod yn well cyfeirio pobl at ddigwyddiadau mwy lleol.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"digwyddiadau-codi-arian-dan-arweiniad-cefnogwyr\">Digwyddiadau codi arian dan arweiniad cefnogwyr<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae unigolion yn cyflwyno eu syniad codi arian eu hunain sydd o ddiddordeb iddynt ac sy\u2019n cael ei drefnu\u2019n llwyr ganddynt. Nhw sy\u2019n dewis y ffocws, y raddfa a\u2019r capasiti. Gallant fod mor lleol a rhad ag y bo angen, gyda\u2019r codwr arian yn galw am weithredu. Fodd bynnag, er mwyn bod yn fwyaf effeithiol, bydd rhywfaint o fewnbwn gan eich elusen o gymorth mawr, fel y nodwyd uchod.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"digwyddiadau-codi-arian-dan-arweiniad-elusennau\">Digwyddiadau codi arian dan arweiniad elusennau<\/h2>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"alignright size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/group-of-volunteers-with-tree-seedlings-in-park-P7SJ7GF-1024x683.jpg\" alt=\"Group of volunteers\" class=\"wp-image-1850\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/group-of-volunteers-with-tree-seedlings-in-park-P7SJ7GF-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/group-of-volunteers-with-tree-seedlings-in-park-P7SJ7GF-720x480.jpg 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/group-of-volunteers-with-tree-seedlings-in-park-P7SJ7GF-768x512.jpg 768w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/group-of-volunteers-with-tree-seedlings-in-park-P7SJ7GF-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/group-of-volunteers-with-tree-seedlings-in-park-P7SJ7GF-2048x1365.jpg 2048w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/group-of-volunteers-with-tree-seedlings-in-park-P7SJ7GF-360x240.jpg 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/group-of-volunteers-with-tree-seedlings-in-park-P7SJ7GF-1800x1200.jpg 1800w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/group-of-volunteers-with-tree-seedlings-in-park-P7SJ7GF-624x416.jpg 624w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<p>Gall yr elusen ei hun gynnal digwyddiad codi arian er mwyn i eraill ymuno. Rhaid i\u2019r rhain fod yn effeithlon o ran amser a rhaid gofyn i gefnogwyr bleidleisio dros eu hoff syniad, gan sicrhau bod diddordeb. (Gweler y daflen wybodaeth <a href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/codi-arian-digwyddiadau\/\" type=\"link\" id=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/codi-arian-digwyddiadau\/\">Digwyddiadau Codi Arian<\/a>)<\/p>\n\n\n\n<p>Efallai y bydd pobl yn codi arian ar eich cyfer heb yn wybod i chi hefyd. Mewn rhai achosion, gall hyn fod yn dwyll, lle mae unigolyn yn esgus codi arian ar eich rhan, ond yn cadw\u2019r arian iddyn nhw eu hunain. Fodd bynnag, mae\u2019n fwy tebygol eu bod eisiau gwneud rhywbeth cadarnhaol i chi a mynd ati i godi arian yn annibynnol. Er bod hyn yn beth da, mae angen i chi hefyd sicrhau bod unrhyw negeseuon maen nhw\u2019n eu hyrwyddo yn adlewyrchu eich gwaith. Os ydych chi\u2019n canfod bod pobl yn ymgymryd \u00e2 gweithgareddau o\u2019r fath ar eich rhan, dydych chi ddim eisiau eu rhwystro ond dylech chi roi deunydd ac adnoddau cywir iddyn nhw i gefnogi eu hymdrechion.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"cael-y-gorau-o-godwyr-arian\">Cael y gorau o godwyr arian<\/h2>\n\n\n\n<p>I gael y gorau o\u2019ch codwyr arian, meddyliwch am y rhwydweithiau sydd ganddyn nhw a\/neu\u2019r rhwydweithiau maen nhw\u2019n rhoi mynediad atyn nhw. Sut allwch chi fanteisio i\u2019r eithaf ar y rhain? Gallai hyn fod trwy roddwyr newydd, noddwyr gweithgareddau neu wirfoddolwyr i gymryd rhan mewn tasgau. Dysgwch am yr hyn sy\u2019n eu cymell i\u2019ch cefnogi, a oes unrhyw beth y gall codi arian i chi ei wneud i helpu gyda\u2019u diddordebau; er enghraifft, ydyn nhw eisiau dysgu sut i redeg\/rheoli digwyddiadau?<\/p>\n\n\n\n<p>A chofiwch ddiolch i\u2019ch codwyr arian am eu holl ymdrechion; gallai hyn fod yn llythyr personol gan y Cadeirydd neu ddiolch cyhoeddus ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae methu \u00e2 diolch iddyn nhw\u2019n briodol yn sicr yn ffordd o golli eu cefnogaeth.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"sut-alla-i-fynd-ati-i-godi-arian-ar-gyfer-elusen\">Sut alla i fynd ati i godi arian ar gyfer elusen<\/h2>\n\n\n\n<p>Os hoffech chi godi arian ar gyfer elusen neu fudiad, yna eich cam cyntaf fyddai cysylltu \u00e2 nhw i esbonio\u2019ch cynlluniau\/syniadau. Rhowch wybod iddyn nhw pam rydych chi eisiau eu cefnogi ac a oes targed gennych o ran faint rydych chi\u2019n credu y byddwch chi\u2019n ei godi.<\/p>\n\n\n\n<p>Byddan nhw eisiau gwybod beth rydych chi\u2019n ei gynllunio, a phryd, er mwyn sicrhau bod eich gweithgaredd yn cyd-fynd ag arferion y mudiad ac nad yw\u2019n gwrthdaro \u00e2 digwyddiadau neu weithgareddau codi arian eraill maen nhw\u2019n eu cynllunio.<\/p>\n\n\n\n<p>Efallai y bydd ganddyn nhw ddeunydd cyhoeddusrwydd awgrymedig, geiriad y gallwch chi ei ddefnyddio i roi cyhoeddusrwydd i\u2019ch ymdrechion, ac mae gan rai o\u2019r elusennau mwy becynnau codi arian maen nhw\u2019n eu rhoi i unigolion sy\u2019n codi arian ar eu rhan.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"adnoddau\">Adnoddau<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">JustGiving<\/h3>\n\n\n\n<p>Adnoddau am ddim y gellir eu lawrlwytho i helpu a chefnogi codwyr arian<br><a href=\"https:\/\/www.justgiving.com\/for-charities\/resources\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/www.justgiving.com\/for-charities\/resources<\/a><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sefydliad Siartredig y Codwyr Arian<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae llawer o adnoddau ac offer am ddim ar gael<br><a href=\"https:\/\/ciof.org.uk\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/ciof.org.uk<\/a><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">British Heart Foundation<\/h3>\n\n\n\n<p>Er bod y wefan wedi\u2019i hanelu at eu codwyr arian eu hunain, mae\u2019n cynnig adnoddau a syniadau am ddim sy\u2019n addas i\u2019r rhan fwyaf o fudiadau eu mabwysiadu neu eu defnyddio.<br><a href=\"https:\/\/www.bhf.org.uk\/how-you-can-help\/fundraise\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/www.bhf.org.uk\/how-you-can-help\/fundraise<\/a><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cancer Research UK<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae gan Cancer Research UK (fel llawer o elusennau mawr eraill) becynnau codi arian ar-lein a all helpu i ysbrydoli eich cefnogwyr.<br><a href=\"https:\/\/www.cancerresearchuk.org\/get-involved\/do-your-own-fundraising\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/www.cancerresearchuk.org\/get-involved\/do-your-own-fundraising<\/a><\/p>\n\n\t<\/div>\n\n\n\n<div class=\"col-12 col-md-3\">\n\t\t\t\n\n\t<\/div>\n\n<\/div>\n\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gall unigolion ymgymryd \u00e2 her codi arian, gan greu eu tudalen ar-lein eu hunain i ddenu rhoddion.<\/p>\n","protected":false},"author":5934,"featured_media":9180,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"ep_exclude_from_search":false,"footnotes":""},"categories":[761],"tags":[725],"class_list":["post-2061","resource","type-resource","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyllid-cynaliadwy","tag-sustainable-funding","pillar-cyllid-cynaliadwy"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Canllaw i godwyr arian | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Gall codwyr arian hefyd fod yn gr\u0175p cymhellol o unigolion sy\u2019n dod ynghyd i gael mwy o effaith a chodi mwy o arian.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/canllaw-i-godwyr-arian\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Canllaw i godwyr arian | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Gall codwyr arian hefyd fod yn gr\u0175p cymhellol o unigolion sy\u2019n dod ynghyd i gael mwy o effaith a chodi mwy o arian.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/canllaw-i-godwyr-arian\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-06-16T09:04:19+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/pexels-sora-shimazaki-5668829.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1280\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"853\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"6 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/canllaw-i-godwyr-arian\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/canllaw-i-godwyr-arian\/\",\"name\":\"Canllaw i godwyr arian | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/canllaw-i-godwyr-arian\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/canllaw-i-godwyr-arian\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/pexels-sora-shimazaki-5668829.jpg\",\"datePublished\":\"2020-06-11T15:47:15+00:00\",\"dateModified\":\"2026-06-16T09:04:19+00:00\",\"description\":\"Gall codwyr arian hefyd fod yn gr\u0175p cymhellol o unigolion sy\u2019n dod ynghyd i gael mwy o effaith a chodi mwy o arian.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/canllaw-i-godwyr-arian\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/canllaw-i-godwyr-arian\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/canllaw-i-godwyr-arian\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/pexels-sora-shimazaki-5668829.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/pexels-sora-shimazaki-5668829.jpg\",\"width\":1280,\"height\":853,\"caption\":\"Canllaw i godwyr arian\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/canllaw-i-godwyr-arian\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Canllaw i godwyr arian\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"description\":\"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"width\":512,\"height\":512,\"caption\":\"Hwb Gwybodaeth\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Canllaw i godwyr arian | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","description":"Gall codwyr arian hefyd fod yn gr\u0175p cymhellol o unigolion sy\u2019n dod ynghyd i gael mwy o effaith a chodi mwy o arian.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/canllaw-i-godwyr-arian\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Canllaw i godwyr arian | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","og_description":"Gall codwyr arian hefyd fod yn gr\u0175p cymhellol o unigolion sy\u2019n dod ynghyd i gael mwy o effaith a chodi mwy o arian.","og_url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/canllaw-i-godwyr-arian\/","og_site_name":"Hwb Gwybodaeth","article_modified_time":"2026-06-16T09:04:19+00:00","og_image":[{"width":1280,"height":853,"url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/pexels-sora-shimazaki-5668829.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"6 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/canllaw-i-godwyr-arian\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/canllaw-i-godwyr-arian\/","name":"Canllaw i godwyr arian | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","isPartOf":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/canllaw-i-godwyr-arian\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/canllaw-i-godwyr-arian\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/pexels-sora-shimazaki-5668829.jpg","datePublished":"2020-06-11T15:47:15+00:00","dateModified":"2026-06-16T09:04:19+00:00","description":"Gall codwyr arian hefyd fod yn gr\u0175p cymhellol o unigolion sy\u2019n dod ynghyd i gael mwy o effaith a chodi mwy o arian.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/canllaw-i-godwyr-arian\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/canllaw-i-godwyr-arian\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/canllaw-i-godwyr-arian\/#primaryimage","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/pexels-sora-shimazaki-5668829.jpg","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/pexels-sora-shimazaki-5668829.jpg","width":1280,"height":853,"caption":"Canllaw i godwyr arian"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/canllaw-i-godwyr-arian\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Canllaw i godwyr arian"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","name":"Hwb Gwybodaeth","description":"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.","publisher":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization","name":"Hwb Gwybodaeth","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","width":512,"height":512,"caption":"Hwb Gwybodaeth"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/2061","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5934"}],"version-history":[{"count":8,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/2061\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":26139,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/2061\/revisions\/26139"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9180"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2061"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2061"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2061"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}