{"id":20449,"date":"2025-06-11T10:55:26","date_gmt":"2025-06-11T09:55:26","guid":{"rendered":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/?post_type=resource&#038;p=20449"},"modified":"2025-06-11T11:27:45","modified_gmt":"2025-06-11T10:27:45","slug":"codi-arian-digwyddiadau","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/codi-arian-digwyddiadau\/","title":{"rendered":"Codi Arian &#8211; Digwyddiadau"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-bootstrap-blocks-container container mb-2\">\n\t\n<div class=\"wp-bootstrap-blocks-row row\">\n\t\n\n<div class=\"col-12 col-md-9\">\n\t\t\t\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Trosolwg<\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"#introduction\">Cyflwyniad<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#planning\">Trefnu Digwyddiad Codi Arian<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#management\">Rheoli Digwyddiad<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#vat\">TAW a Threth Incwm<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#promotion\">Hyrwyddo<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#guidance\">Canllawiau Pellach<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"introduction\">Cyflwyniad<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae digwyddiadau yn ffyrdd cyhoeddus iawn o godi arian a gallant fod yn gyfle gwerthfawr i godi proffil eich elusen yn ogystal \u00e2 chodi arian.<\/p>\n\n\n\n<p>Er nad digwyddiadau codi arian sy\u2019n darparu\u2019r ffynhonnell fwyaf o incwm i fudiadau yn aml, gallant fod yn rhan werthfawr o\u2019ch strategaeth codi arian a\u2019ch cymysgedd o incwm, gan sicrhau manteision nad ydynt yn rhai ariannol neu arwain at gyfleoedd anuniongyrchol eraill.<\/p>\n\n\n\n<p>Elfennau allweddol digwyddiadau codi arian llwyddiannus yw gwaith trefnu da, gwaith hyrwyddo effeithiol ac, yn anad dim, dychymyg. Y diben sylfaenol yw cynnig profiad hwyliog i\u2019r cyfranogwyr yn gyfnewid am arian; os bydd pawb yn mwynhau\u2019r digwyddiad, byddant yn debygol o gyfrannu mwy a chefnogi digwyddiadau yn y dyfodol. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae digwyddiadau yn ffordd boblogaidd o godi arian, a dau o\u2019r prif fathau o ddigwyddiadau yw digwyddiadau cyfranogiad torfol noddedig neu ddigwyddiadau \u00e2 thocynnau, a gallant fod o unrhyw faint neu gymhlethdod. Y digwyddiadau elusennol mwyaf cyffredin yw: <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Digwyddiadau chwaraeon neu weithgareddau<\/li>\n\n\n\n<li>Digwyddiadau cerddorol a diwylliannol<\/li>\n\n\n\n<li>Dawnsfeydd, ciniawau, ocsiynau a digwyddiadau adloniant eraill<\/li>\n\n\n\n<li>Arddangosfeydd, gwyliau a ffeiriau<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Bydd y daflen wybodaeth hon yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau \u00e2 thocynnau. Mae angen ystyriaethau iechyd a diogelwch mwy penodol, megis swyddogion cymorth cyntaf, cau ffyrdd, caniat\u00e2d y Cyngor ac ati ar gyfer digwyddiadau cyfranogiad torfol noddedig (yn enwedig digwyddiadau chwaraeon megis rhedeg, teithiau cerdded, nofio ac ati). <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Amcanion<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l gwneud gwaith ymchwil priodol (gan gynnwys canfod pa adnoddau sydd gennych ar gyfer eich gweithgareddau codi arian) a dod i\u2019r casgliad eich bod am gynnal digwyddiad codi arian, mae\u2019n rhaid i chi fod yn glir ynghylch beth yw amcanion y digwyddiad fel y gallwch benderfynu beth i\u2019w wneud i gyflawni\u2019r nodau hyn. Ai\u2019r nod yw codi arian a dim arall, neu ddenu sylw\u2019r cyfryngau, diolch i gefnogwyr neu ddenu pobl newydd i gefnogi eich elusen (neu fwy nag un o\u2019r rhain efallai)? <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Y manteision a\u2019r anfanteision<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gall digwyddiadau gynnig manteision sylweddol, megis:<\/li>\n\n\n\n<li>Codi incwm.<\/li>\n\n\n\n<li>Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o faterion a sicrhau cyhoeddusrwydd yn y cyfryngau.<\/li>\n\n\n\n<li>Y cyfle i ddenu rhoddwyr mwy neu enwogion yn ogystal \u00e2 diolch i gefnogwyr a gwirfoddolwyr gyda digwyddiad difyr.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Ar y llaw arall, gall gymryd llawer o adnoddau i drefnu digwyddiad a gall y risg fod yn uchel. Gall y buddsoddiad cychwynnol fod yn uchel (e.e. llogi ystafell, arlwyo, trwyddedau ac ati) ac mae posibilrwydd o hyd y bydd yr elw\u2019n isel iawn os na fydd y digwyddiad wedi cael ei gynllunio a\u2019i hyrwyddo\u2019n ddigonol. <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"682\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/06\/Fun-run-1024x682.jpg\" alt=\"Pobl hapus yn gwenu wedi'u gorchuddio \u00e2 phaent mewn digwyddiad rhedeg hwyl elusennol \" class=\"wp-image-20424\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/06\/Fun-run-1024x682.jpg 1024w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/06\/Fun-run-720x480.jpg 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/06\/Fun-run-768x512.jpg 768w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/06\/Fun-run-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/06\/Fun-run-360x240.jpg 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/06\/Fun-run-1800x1200.jpg 1800w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/06\/Fun-run-624x416.jpg 624w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/06\/Fun-run.jpg 2000w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"planning\">Trefnu Digwyddiad Codi Arian<\/h2>\n\n\n\n<p>Y cam cyntaf wrth drefnu digwyddiad codi arian yw pennu beth fydd amcanion y digwyddiad a sicrhau bod y digwyddiad yn gweddu i amcanion elusennol y mudiad.<\/p>\n\n\n\n<p>Yna, dylid gwneud gwaith ymchwil priodol; pa ddigwyddiadau tebyg sydd eisoes yn cael eu cynnal gan elusennau eraill yn yr un ardal, a oes bwlch yn y farchnad digwyddiadau, pwy yw eich cynulleidfa darged (a pham)?<\/p>\n\n\n\n<p>Dylai\u2019r digwyddiad fod yn addas i\u2019r gynulleidfa darged a dylid ystyried beth fydd maint posibl y gr\u0175p a pha fath o weithgareddau codi arian allai apelio i\u2019r gr\u0175p targed. Efallai y byddwch angen trwydded gan yr Awdurdod Lleol hefyd ar gyfer digwyddiadau fel rasys hwyl. <\/p>\n\n\n\n<p>Dylid dadansoddi\u2019r manteision posibl a rhagfynegi amcangyfrif o\u2019r elw ar y buddsoddiad a phwyntiau adennill costau. Er enghraifft, a fyddai&#8217;n well treulio&#8217;r amser a&#8217;r ymdrech i gynnal digwyddiad ar ddatblygu ffrwd ariannu arall? Pa mor arwyddocaol yw manteision anariannol rhedeg y digwyddiad?  <\/p>\n\n\n\n<p>Mae angen nodi cyllideb glir, gan sicrhau bod yr holl gostau posibl yn cael eu cynnwys. Os nad yw eich digwyddiad yn debygol o dalu\u2019ch costau, dylech ystyried o ddifrif a fydd manteision anariannol rhedeg y digwyddiad yn ddigon i sicrhau ei fod yn werth chweil. <\/p>\n\n\n\n<p>Penderfynwch ar yr elfennau a fydd yn hanfodol i lwyddiant y digwyddiad a sut y bydd y rhain yn cael eu sicrhau ac ystyriwch y risg bosibl i enw da\u2019r mudiad a allai godi o fod yn gysylltiedig \u00e2 rhai digwyddiadau penodol, cwmn\u00efau cysylltiedig ac os aiff pethau o chwith.<\/p>\n\n\n\n<p>Dylech sicrhau cefnogaeth gan yr holl staff, rheolwyr ac ymddiriedolwyr perthnasol ac ystyried yr amseru.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Awgrym Cynllunio<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Os yw\u2019r buddsoddiad\/elw ar eich digwyddiad yn edrych yn isel, ystyriwch ofyn i gyflenwyr y digwyddiad neu fusnesau eraill a fyddent yn fodlon noddi agweddau penodol ar y digwyddiad er mwyn lleihau costau, e.e. a allai bragdy lleol ddarparu\u2019r holl ddiodydd, neu rai ohonynt, yn gyfnewid am hysbyseb yn rhaglen y digwyddiad.<\/p>\n\n\n\n<p>Os yw&#8217;r digwyddiad yn cael ei drefnu gan drydydd parti; ystyriwch pa bolis\u00efau sydd gennych ar waith i reoli a hyrwyddo hyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Beth bynnag fo natur y digwyddiad, mae pum prif gr\u0175p o bobl i&#8217;w cynnwys neu feddwl amdanynt wrth gynllunio&#8217;r digwyddiad, sef:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Y Gynulleidfa; efallai y bydd pobl am ddod i\u2019r digwyddiad am eu bod eisiau cymryd rhan neu am eu bod yn dymuno cefnogi elusen. Ystyriwch sut y gellir gwneud y digwyddiad yn gynhwysol er mwyn peidio ag eithrio unigolion. <\/li>\n\n\n\n<li>Y Gwirfoddolwyr; efallai fod gennych bwyllgor yn trefnu\u2019r digwyddiad neu\u2019n dibynnu ar d\u00eem o wirfoddolwyr i gynorthwyo \u00e2\u2019r gwaith o redeg y digwyddiad. Sut byddwch chi&#8217;n recriwtio ac yn cefnogi&#8217;r gwirfoddolwyr? Allwch chi warantu y bydd digon ohonynt ar gael i redeg y digwyddiad yn ddiogel?  <\/li>\n\n\n\n<li>Y Noddwyr; gall busnesau gefnogi\u2019r digwyddiad er mwyn helpu i gyflawni eu hamcanion eu hunain. Beth allwch chi ei gynnig i noddwr; a fyddant yn noddi&#8217;r digwyddiad cyfan neu elfen benodol ohono? <\/li>\n\n\n\n<li>Y Perfformwyr; mae\u2019r rhain yn ganolog i\u2019r digwyddiad ei hun. A fyddant yn cael eu talu, neu\u2019n wirfoddolwyr e.e. cyflwynydd, arwerthwr, t\u00eem p\u00eal-droed, DJ. <\/li>\n\n\n\n<li>Y Cyfryngau; gwaith y cyfryngau yw adrodd am ddigwyddiadau fel digwyddiadau codi arian. Sut y byddwch chi&#8217;n defnyddio\u2019r cyfryngau yn y cyfnod paratoi, yn ystod y digwyddiad, ac i adrodd ar ei lwyddiant. Meddyliwch hefyd am sut y gellir defnyddio\u2019r cyfryngau cymdeithasol yn y ffordd fwyaf effeithiol.  <\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Sicrhewch eich bod yn neilltuo amser i ddiolch i\u2019r holl bobl hyn naill ai yn ystod y digwyddiad neu wedyn (yn gyhoeddus neu\u2019n breifat fel y bo\u2019n briodol).<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Asesiad Risg<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Dylech hefyd gynnal asesiad risg ar gyfer y digwyddiad. Dylai\u2019r asesiad hwn nodi&#8217;n glir y risg allweddol, pa gamau a gymerwyd i&#8217;w lliniaru a phwy sy&#8217;n gyfrifol. Mae llawer o enghreifftiau da ar gael o chwiliad ar-lein a gynhyrchwyd gan elusennau cenedlaethol mawr.  <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"682\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/06\/Health-and-Safety-1024x682.jpg\" alt=\"Dyn yn gwisgo siaced fflachar yn eistedd wrth y bwrdd yn llenwi ffurflenni\" class=\"wp-image-20426\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/06\/Health-and-Safety-1024x682.jpg 1024w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/06\/Health-and-Safety-720x480.jpg 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/06\/Health-and-Safety-768x512.jpg 768w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/06\/Health-and-Safety-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/06\/Health-and-Safety-360x240.jpg 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/06\/Health-and-Safety-1800x1200.jpg 1800w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/06\/Health-and-Safety-624x416.jpg 624w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/06\/Health-and-Safety.jpg 2000w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"management\">Rheoli Digwyddiad<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae tair ffordd o reoli digwyddiad ac, ar gyfer pob un, mae\u2019n rhaid sicrhau bod digon o amser yn cael ei neilltuo ar gyfer trefnu a recriwtio cefnogwyr:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Bydd angen neilltuo amser sylweddol ar gyfer rheoli\u2019r digwyddiad o\u2019r tu mewn i\u2019ch mudiad, er y bydd y profiad yn cynnig sgiliau gwerthfawr a all fod o fantais i\u2019r mudiad yn y dyfodol. Os ydych chi&#8217;n cynllunio&#8217;r digwyddiad eich hun, bydd cynnal adolygiad o&#8217;r broses a sut y gellir ei gwella ar gyfer digwyddiad yn y dyfodol yn creu adnodd gwerthfawr i&#8217;r mudiad. <\/li>\n\n\n\n<li>Mae trefnydd proffesiynol neu gwmni rheoli digwyddiadau yn debygol o godi ffi am drefnu digwyddiad o ddydd i ddydd neu efallai y bydd am gymryd cyfran o bris y tocyn. Os mai\u2019r olaf sy\u2019n wir, mae\u2019n cael ei ystyried yn \u2018drefnydd neu\u2019n gwmni codi arian proffesiynol\u2019 o dan y Ddeddf Elusennau a bydd angen bodloni rhai gofynion penodol er mwyn cydymffurfio \u00e2\u2019r Ddeddf. <\/li>\n\n\n\n<li>Sefydlwch bwyllgor o wirfoddolwyr gydag amrywiaeth o sgiliau. Byddai\u2019n ddoeth dewis cadeirydd sydd \u00e2 phrofiad blaenorol o reoli digwyddiad; yna gall y cadeirydd ddirprwyo tasgau i aelodau\u2019r pwyllgor sydd \u00e2\u2019r sgiliau priodol, megis cyfrifydd i gynghori ar faterion cyllidebol. Cofiwch ystyried cynulleidfa\u2019r digwyddiad wrth ddewis eich pwyllgor. Os mai busnesau lleol yw cynulleidfa darged y digwyddiad, yna gallai pwyllgor o fewn y rhwydweithiau busnes hynny ddenu eu cyfoedion i\u2019r digwyddiad a noddi\u2019r digwyddiad\/rhoi gwobrau raffl ac ati efallai. Hyd yn oed os caiff ei redeg gan wirfoddolwyr, mae&#8217;n debygol y bydd angen rhywfaint o fewnbwn gan staff.    <\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Pedair Agwedd Bwysig ar Reoli Digwyddiadau\u2019n Llwyddiannus:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Bydd <strong>cyllideb gywir<\/strong> yn dangos faint o bobl a ddisgwylir fel amcangyfrif uchel ac isel, gan gynnwys pris pob tocyn. Bydd y gyllideb yn gwneud asesiad cynnar o\u2019r holl gostau posibl a ffynonellau incwm, gan gynnwys cronfeydd wrth gefn. <br><br>Po fwyaf o <strong>amser<\/strong> a gaiff ei neilltuo i drefnu\u2019r digwyddiad, mwya\u2019n byd fydd y siawns o lwyddo.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae <strong>contractau cyfreithiol rwymol<\/strong> sy\u2019n cael eu llofnodi gan y ddwy ochr yn hanfodol, a phan fydd symiau mawr o arian dan sylw, mae\u2019n ddoeth ymgynghori \u00e2 chyfreithiwr.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd <strong>trefniadau gweinyddol a chadw cofnodion da<\/strong> yn helpu i adeiladu ar brofiad o\u2019r naill flwyddyn i\u2019r llall. Dylid cadw cofnodion o bopeth, o dystysgrifau yswiriant i dderbynebau, gan y bydd hyn yn ei gwneud yn haws cynnal digwyddiadau yn y dyfodol. <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"vat\">TAW a Threth Incwm<\/h2>\n\n\n\n<p>Nid yw treth yn daladwy ar roddion a roddir am ddim i elusen. Fodd bynnag, ystyrir bod gwerthu tocynnau i\u2019r cyhoedd yn waith masnachu yn hytrach na chodi arian, a gall fod angen talu treth arnynt. Gall prisiau tocynnau gael eu rhannu\u2019n ddwy elfen; pris rhesymol am fynediad i ddigwyddiad a rhodd. Os yw\u2019r geiriad yn glir bod   <\/p>\n\n\n\n<p>yr elfen o rodd yn ddewisol, yna dim ond y pris mynediad fyddai\u2019n cael ei drin fel incwm trethadwy at ddibenion TAW.<\/p>\n\n\n\n<p>Er enghraifft:<\/p>\n\n\n\n<p>Mae eich tocyn yn cynnwys rhodd ddewisol o \u00a320 i&#8217;n helpu ni i barhau \u00e2&#8217;n gwaith hanfodol yn y gymuned. Os byddai&#8217;n well gennych beidio \u00e2 rhoi y tro hwn, gallwch addasu swm y rhodd isod. Diolch am eich cefnogaeth, mae pob cyfraniad yn gwneud gwahaniaeth!  <\/p>\n\n\n\n<p>Mae consesiwn (ESCC4) ar gyfer y rhai sy\u2019n trefnu digwyddiadau achlysurol sy\u2019n caniat\u00e1u i\u2019r incwm gael ei drin fel rhodd ac yn ddi-dreth.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Gwybodaeth<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch gyhoeddiad Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, Gweithgareddau masnachu a busnes.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"promotion\">Hyrwyddo<\/h2>\n\n\n\n<p>Un o wir fanteision digwyddiad llwyddiannus yw\u2019r gallu i lunio rhestr (sy\u2019n ystyriol o GDPR) o gysylltiadau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol. Penderfynwch pwy yw\u2019r farchnad darged ar gyfer eich digwyddiad, y ffordd orau o\u2019i chyrraedd, ac ystyriwch sut i ddenu cynulleidfaoedd newydd. <\/p>\n\n\n\n<p>Enghreifftiau o dechnegau hyrwyddo:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cofiwch gynnwys yr orsaf radio leol, cynigiwch docynnau am ddim fel gwobrau a gwahoddwch ohebwyr i&#8217;r digwyddiad. Wrth eu gwahodd, sicrhewch eich bod yn s\u00f4n wrthynt am y stori y tu \u00f4l i\u2019r digwyddiad a pham rydych yn codi arian yn hytrach na dim ond eu gwahodd i ginio (er enghraifft). <\/li>\n\n\n\n<li>Rhowch hysbysebion yn y wasg leol\/ar wefannau lleol, radio ac unrhyw gyfryngau eraill a dargedwyd.<\/li>\n\n\n\n<li>Defnyddiwch enwogion (lleol neu \u201cgo iawn\u201d) pan fo\u2019n bosibl; naill ai i gyflwyno, i berfformio neu i gyhoeddi\u2019r raffl. Sicrhewch eu bod yn defnyddio eu llwyfannau eu hunain i hyrwyddo\u2019r digwyddiad. <\/li>\n\n\n\n<li>Rhowch docynnau am ddim drwy grwpiau a rhwydweithiau lleol, megis grwpiau ysgol neu\u2019r ysbyty lleol i ennyn diddordeb.<\/li>\n\n\n\n<li>Defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol &#8211; cysylltwch ag unrhyw rwydweithiau lleol lle mae eich digwyddiad yn cael ei gynnal neu sy\u2019n berthnasol i\u2019ch achos. Tagiwch \u2018ddylanwadwyr\u2019 lleol a pherthnasol ac arweinwyr cymunedol, a gofynnwch iddyn nhw rannu\u2019r digwyddiad. <\/li>\n\n\n\n<li>Ewch ati i lunio taflenni, posteri a lluniau deniadol ar-lein a fydd yn tynnu sylw, a\u2019u dangos mewn cynifer o fannau cyhoeddus \u00e2 phosibl. (Defnyddiwch ddelweddau i adlewyrchu&#8217;r gynulleidfa rydych chi&#8217;n gobeithio ei denu). <\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>O.N.: <\/strong>gwnewch yn si\u0175r eich bod yn cyllidebu ar gyfer lwfansau tocynnau am ddim fel na fydd yn effeithio ar eich incwm cyffredinol<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"reducing\">Lleihau\u2019r Risg<\/h2>\n\n\n\n<p>Hyd yn oed gyda chyllidebu, cynllunio a marchnata cywir, nid yw rhai digwyddiadau\u2019n taro\u2019r nod ac mae ffyrdd o leihau\u2019r risgiau hyn:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gofyn i noddwr (neu noddwyr) dalu am yr holl gostau sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 chynnal y digwyddiad, fel bod 100% o bris y tocynnau yn mynd i\u2019r elusen.<\/li>\n\n\n\n<li>Trefnu pwyllgor o gefnogwyr sy\u2019n gyfrifol am werthu canran o\u2019r tocynnau er mwyn sicrhau isafswm presenoldeb.<\/li>\n\n\n\n<li>Sicrhau bod cymaint o&#8217;r offer, y dodrefn, y lleoliad, yr arlwyo ac ati wedi&#8217;i roi, ei fenthyg neu ei noddi i leihau costau cyffredinol.<\/li>\n\n\n\n<li>Yswiriant; os ydych yn cynnal digwyddiad cyhoeddus, dylech sicrhau bod gennych chi neu\u2019r lleoliad yswiriant atebolrwydd cyhoeddus. Gall hefyd fod yn bosibl yswirio yn erbyn lladrad, difrod a hyd yn oed tywydd gwael. Mae&#8217;n werth cadarnhau eto gyda&#8217;ch yswiriwr a fydd eich digwyddiad wedi\u2019i yswirio rhag ofn bod unrhyw waharddiadau y gallech fod wedi&#8217;u methu yn y print m\u00e2n.  <\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"making\">Manteisio i\u2019r Eithaf ar y Cyfle<\/h2>\n\n\n\n<p>Gall codi arian mewn digwyddiad codi arian greu incwm ychwanegol i\u2019ch mudiad. Gall gemau lle rydych yn talu i gymryd rhan, raffl, ac ocsiwn fod yn ffyrdd gwych o sicrhau incwm ychwanegol yn ystod eich digwyddiad. Os oes gennych chi gynlluniau rhoddion unigol neu gymynroddion, cofiwch sicrhau bod y rhai sy\u2019n bresennol yn cael cyfle i gofrestru os ydynt am gefnogi eich achos ar \u00f4l y digwyddiad. Gallech hefyd hysbysebu cyfleoedd i wirfoddolwyr neu ymddiriedolwyr.   <\/p>\n\n\n\n<p>Gallwch hefyd ddefnyddio\u2019r cyfle i gasglu gwybodaeth am y bobl sy\u2019n bresennol ar gyfer digwyddiadau ac ymgyrchoedd yn y dyfodol. Os ydych yn gwneud hyn, cofiwch sicrhau bod eich ffurflenni cofrestru yn cydymffurfio \u00e2 GDPR a chofiwch gael y caniat\u00e2d priodol. <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"guidance\">Canllawiau Pellach<\/h2>\n\n\n\n<p>Gellir cael canllawiau pellach am faterion statudol a rheoleiddiol gan y mudiadau canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"http:\/\/www.charity-commission.gov.uk\">Comisiwn Elusennau (Saesneg yn unig)<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"http:\/\/www.fundraisingregulator.org.uk\/code\">Y Rheoleiddiwr Codi Arian (Saesneg yn unig)<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"http:\/\/www.institute-of-fundraising.org.uk\">Y Sefydliad Codi Arian (Saesneg yn unig)<\/a>\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"http:\/\/www.institute-of-fundraising.org.uk\/guidance\/events-and-community\/\">Digwyddiadau<\/a><\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"http:\/\/www.hmrc.gov.uk\/charities\">Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (Saesneg yn unig)<\/a> <\/li>\n<\/ul>\n\n\t<\/div>\n\n\n\n<div class=\"col-12 col-md-3\">\n\t\t\t\n\n\t<\/div>\n\n<\/div>\n\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae digwyddiadau yn ffyrdd cyhoeddus iawn o godi arian a gallant fod yn gyfle gwerthfawr i godi proffil eich elusen yn ogystal \u00e2 chodi arian.<\/p>\n","protected":false},"author":2205,"featured_media":1876,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"ep_exclude_from_search":false,"footnotes":""},"categories":[761],"tags":[1204,725,724],"class_list":["post-20449","resource","type-resource","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyllid-cynaliadwy","tag-cyllid-cynaliadwy","tag-sustainable-funding","tag-volunteering","pillar-cyllid-cynaliadwy","pillar-gwirfoddoli"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Codi Arian - Digwyddiadau | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Mae digwyddiadau yn ffyrdd cyhoeddus iawn o godi arian a gallant fod yn gyfle gwerthfawr i godi proffil eich elusen yn ogystal \u00e2 chodi arian.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/codi-arian-digwyddiadau\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Codi Arian - Digwyddiadau | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae digwyddiadau yn ffyrdd cyhoeddus iawn o godi arian a gallant fod yn gyfle gwerthfawr i godi proffil eich elusen yn ogystal \u00e2 chodi arian.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/codi-arian-digwyddiadau\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-06-11T10:27:45+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/Unsplash_sherise-Atohf63B8Dg-unsplash-scaled.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1707\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"11 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/codi-arian-digwyddiadau\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/codi-arian-digwyddiadau\/\",\"name\":\"Codi Arian - Digwyddiadau | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/codi-arian-digwyddiadau\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/codi-arian-digwyddiadau\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/Unsplash_sherise-Atohf63B8Dg-unsplash-scaled.jpg\",\"datePublished\":\"2025-06-11T09:55:26+00:00\",\"dateModified\":\"2025-06-11T10:27:45+00:00\",\"description\":\"Mae digwyddiadau yn ffyrdd cyhoeddus iawn o godi arian a gallant fod yn gyfle gwerthfawr i godi proffil eich elusen yn ogystal \u00e2 chodi arian.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/codi-arian-digwyddiadau\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/codi-arian-digwyddiadau\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/codi-arian-digwyddiadau\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/Unsplash_sherise-Atohf63B8Dg-unsplash-scaled.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/Unsplash_sherise-Atohf63B8Dg-unsplash-scaled.jpg\",\"width\":2560,\"height\":1707,\"caption\":\"Ras hwyl\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/codi-arian-digwyddiadau\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Codi Arian &#8211; Digwyddiadau\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"description\":\"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"width\":512,\"height\":512,\"caption\":\"Hwb Gwybodaeth\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Codi Arian - Digwyddiadau | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","description":"Mae digwyddiadau yn ffyrdd cyhoeddus iawn o godi arian a gallant fod yn gyfle gwerthfawr i godi proffil eich elusen yn ogystal \u00e2 chodi arian.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/codi-arian-digwyddiadau\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Codi Arian - Digwyddiadau | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","og_description":"Mae digwyddiadau yn ffyrdd cyhoeddus iawn o godi arian a gallant fod yn gyfle gwerthfawr i godi proffil eich elusen yn ogystal \u00e2 chodi arian.","og_url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/codi-arian-digwyddiadau\/","og_site_name":"Hwb Gwybodaeth","article_modified_time":"2025-06-11T10:27:45+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1707,"url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/Unsplash_sherise-Atohf63B8Dg-unsplash-scaled.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"11 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/codi-arian-digwyddiadau\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/codi-arian-digwyddiadau\/","name":"Codi Arian - Digwyddiadau | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","isPartOf":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/codi-arian-digwyddiadau\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/codi-arian-digwyddiadau\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/Unsplash_sherise-Atohf63B8Dg-unsplash-scaled.jpg","datePublished":"2025-06-11T09:55:26+00:00","dateModified":"2025-06-11T10:27:45+00:00","description":"Mae digwyddiadau yn ffyrdd cyhoeddus iawn o godi arian a gallant fod yn gyfle gwerthfawr i godi proffil eich elusen yn ogystal \u00e2 chodi arian.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/codi-arian-digwyddiadau\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/codi-arian-digwyddiadau\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/codi-arian-digwyddiadau\/#primaryimage","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/Unsplash_sherise-Atohf63B8Dg-unsplash-scaled.jpg","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2020\/06\/Unsplash_sherise-Atohf63B8Dg-unsplash-scaled.jpg","width":2560,"height":1707,"caption":"Ras hwyl"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/codi-arian-digwyddiadau\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Codi Arian &#8211; Digwyddiadau"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","name":"Hwb Gwybodaeth","description":"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.","publisher":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization","name":"Hwb Gwybodaeth","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","width":512,"height":512,"caption":"Hwb Gwybodaeth"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/20449","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2205"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/20449\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":20455,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/20449\/revisions\/20455"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1876"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=20449"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=20449"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=20449"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}