{"id":20035,"date":"2025-05-14T14:54:44","date_gmt":"2025-05-14T13:54:44","guid":{"rendered":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/?post_type=resource&#038;p=20035"},"modified":"2025-06-18T16:55:04","modified_gmt":"2025-06-18T15:55:04","slug":"cynnwys-pobl-ifanc-fel-gwirfoddolwyr","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-pobl-ifanc-fel-gwirfoddolwyr\/","title":{"rendered":"Cynnwys Pobl Ifanc fel Gwirfoddolwyr"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-bootstrap-blocks-container container mb-2\">\n\t\n<div class=\"wp-bootstrap-blocks-row row\">\n\t\n\n<div class=\"col-12 col-md-9\">\n\t\t\t\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Trosolwg<\/strong> <\/h2>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r daflen wybodaeth hon wedi&#8217;i chynllunio i helpu eich mudiad i gydnabod gwerth cynnwys pobl ifanc (14\u201325 oed) fel gwirfoddolwyr a chynnig cyngor ymarferol ar sut i greu amgylchedd cynhwysol, sy&#8217;n gyfeillgar i ieuenctid. P&#8217;un a ydych chi&#8217;n newydd i gynnwys pobl ifanc neu&#8217;n bwriadu gwella eich dull presennol, bydd yr wybodaeth hon yn eich helpu i ddenu, ymgysylltu, amddiffyn a chefnogi gwirfoddolwyr ifanc mewn ffyrdd ystyrlon.  <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Ar y dudalen hon<\/strong> <\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"#why\">Pam cynnwys pobl ifanc fel gwirfoddolwyr? <\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#benefits-of-volunteering\">Manteision gwirfoddoli i bobl ifanc <\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#benefits-of-involving\">Manteision i fudiadau wrth gynnwys gwirfoddolwyr ifanc<\/a> <\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#getting-ready\">Paratoi i gynnwys gwirfoddolwyr iau (dan 18 oed)<\/a> <\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#ideas\">Syniadau ar gyfer cynnwys pobl ifanc fel gwirfoddolwyr<\/a> <\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#youth-led\">Prosiectau gwirfoddoli dan arweiniad ieuenctid<\/a> <\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#how\">Sut i recriwtio gwirfoddolwyr ifanc<\/a> <\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#ensuring\">Sicrhau bod pobl ifanc yn deall y r\u00f4l ac yn cytuno bod hon yn addas iddyn nhw <\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#satisfaction\">Boddhad gwirfoddoli i bobl ifanc <\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"why\"><strong>Pam cynnwys pobl ifanc fel gwirfoddolwyr?<\/strong> <\/h2>\n\n\n\n<p>Meddyliwch y tu hwnt i&#8217;r prosiect. Gall cynnwys pobl ifanc helpu&#8217;ch mudiad i gyrraedd ei genhadaeth a&#8217;i nodau mewn ffyrdd arloesol. Mae gwirfoddolwyr ifanc yn dod \u00e2 syniadau newydd, egni, a safbwyntiau ffres. Pan fyddant yn gwirfoddoli yn ifanc, maen nhw hefyd yn fwy tebygol o barhau i wirfoddoli fel oedolion &#8211; dod yn gefnogwyr, ymddiriedolwyr ac eiriolwyr yn y dyfodol.    <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"benefits-of-volunteering\"><strong>Manteision gwirfoddoli i bobl ifanc <\/strong> <\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ennill profiadau ystyrlon a chael hwyl<\/li>\n\n\n\n<li>Cael effaith gadarnhaol yn eu cymuned <\/li>\n\n\n\n<li>Datblygu sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu <\/li>\n\n\n\n<li>Hybu iechyd meddwl a llesiant <\/li>\n\n\n\n<li>Meithrin cysylltiadau ar draws cenedlaethau <\/li>\n\n\n\n<li>Archwilio llwybrau gyrfa ac ennill profiad ymarferol <\/li>\n\n\n\n<li>Dysgu sgiliau newydd a meithrin hunanhyder <\/li>\n\n\n\n<li>Mynediad at hyfforddiant, achrediad neu gymwysterau <\/li>\n\n\n\n<li>Cryfhau gobeithion addysg a chyflogaeth yn y dyfodol <\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"benefits-of-involving\"><strong>Manteision i fudiadau wrth gynnwys gwirfoddolwyr ifanc<\/strong> <\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Dod \u00e2 syniadau ffres, creadigrwydd, a safbwyntiau amrywiol<\/li>\n\n\n\n<li>Cynyddu amrywiaeth yn eich sylfaen wirfoddolwyr<\/li>\n\n\n\n<li>Ymgysylltu \u00e2 rhwydweithiau newydd, gan gynnwys teuluoedd ac ysgolion<\/li>\n\n\n\n<li>Cael mynediad at gyfleoedd cyllido amgen ar gyfer prosiectau sy&#8217;n canolbwyntio ar ieuenctid <\/li>\n\n\n\n<li>Datblygu arweinwyr ac eiriolwyr y dyfodol dros eich achos <\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"getting-ready\"><strong>Paratoi i gynnwys gwirfoddolwyr iau (dan 18 oed)<\/strong> <\/h2>\n\n\n\n<p><strong>A all pobl dan 18 oed wirfoddoli?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Gallant! Nid oes <strong>unrhyw gyfyngiadau oedran cyfreithiol ar gyfer gwirfoddolwyr<\/strong>. Fodd bynnag, mae&#8217;n bwysig sicrhau bod y rolau yn addas ac yn ymarferol i bobl ifanc, gan ystyried eu hymrwymiadau fel ysgol neu waith.   <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Iechyd a Diogelwch<\/strong> <\/p>\n\n\n\n<p>Mae gennych &#8216;ddyletswydd gofal&#8217; i bob gwirfoddolwr, gan gynnwys pobl dan 18 oed. Argymhellir y canlynol:  <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cwblhewch asesiadau risg unigol ar gyfer gwirfoddolwyr ifanc<\/li>\n\n\n\n<li>Ystyriwch eu haeddfedrwydd a&#8217;u lefel o brofiad <\/li>\n\n\n\n<li>Gwiriwch is-ddeddfau neu ganllawiau lleol gyda&#8217;ch awdurdod lleol <\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Yswiriant<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Gwnewch yn si\u0175r bod eich yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus neu Gyflogwyr yn cynnwys eich gwirfoddolwyr. Os oes gan eich polisi derfyn oedran, fel o leiaf 18 oed, siaradwch \u00e2&#8217;ch yswiriwr gan esbonio&#8217;r rolau y byddai gwirfoddolwyr iau yn ymgymryd \u00e2 nhw a&#8217;u hoedran. Efallai y gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth am yr oruchwyliaeth a fydd yn cael ei darparu. Gall hyn fod yn broses syml ac yn aml fe\u2019i gwneir heb unrhyw gost ychwanegol.    <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Diogelu<\/strong> <\/p>\n\n\n\n<p>Mae angen diogelu gwirfoddolwyr ifanc wrth iddyn nhw wirfoddoli. Bydd angen DBS ar staff neu wirfoddolwyr a fydd yn cael eu gadael ar eu pennau eu hunain gyda gwirfoddolwyr iau a byddant yn elwa ar hyfforddiant a chefnogaeth ynghylch goruchwylio gwirfoddolwyr iau. Yn yr un modd, mae yna faterion diogelu pan fydd y person ifanc ei hun yn gwirfoddoli gyda grwpiau agored i niwed gan gynnwys plant eraill. Mae&#8217;n arfer da cael polisi diogelu ar waith pan fyddwch yn cynnwys unrhyw un o dan 18 oed, boed fel gwirfoddolwr neu&#8217;n ddefnyddiwr gwasanaethau.    <\/p>\n\n\n\n<p>Cynghorir nad yw unrhyw weithgaredd gwirfoddoli sydd \u00e2 mynediad heb oruchwyliaeth i grwpiau agored i niwed, gan gynnwys plant, yn addas i wirfoddolwyr dan 18 oed. <\/p>\n\n\n\n<p>Fodd bynnag, os yw gwirfoddolwr ifanc dros 16 oed yn ymwneud \u00e2 gweithgareddau o&#8217;r fath, bydd angen i chi ystyried a ddylid mynd trwy weithdrefnau recriwtio mwy diogel eraill fel <strong>gwiriadau Gwasanaethau Datgelu a Gwahardd (DBS)<\/strong>. Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau gwirio darparwyr <strong>DBS<\/strong> ar gael ar wefan <strong>CGGC<\/strong>.  <\/p>\n\n\n\n\n\n<p><strong>Caniat\u00e2d rhieni<\/strong> <\/p>\n\n\n\n<p>Ar gyfer gwirfoddolwyr dan 18 oed, ymgysylltwch \u00e2 rhieni neu warcheidwaid drwy wneud y canlynol: <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Rhannu gwybodaeth am y r\u00f4l, gan gynnwys amseroedd a lleoliadau <\/li>\n\n\n\n<li>Cael caniat\u00e2d ar gyfer cymryd rhan ac ar gyfer lluniau (os o dan 16) Gall pobl ifanc sy&#8217;n byw&#8217;n annibynnol (16+) roi eu caniat\u00e2d eu hunain. <\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Ideas\"><strong>Syniadau ar gyfer cynnwys pobl ifanc fel gwirfoddolwyr<\/strong> <\/h2>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n bwysig gofyn i bobl ifanc ym mha ffordd y maen nhw eisiau cymryd rhan. Mae rhoi llais i bobl ifanc yn dangos eich bod chi&#8217;n parchu eu barn ac eisiau gwrando arnyn nhw.  <br>Mae cyd-gynhyrchu rolau a phrosiectau gyda phobl ifanc yn creu ymdeimlad o berchnogaeth a chysylltiad \u00e2&#8217;ch mudiad a&#8217;ch achos. Gall eu mewnbwn arwain at syniadau arloesol a mwy o foddhad i&#8217;r ddau barti.  <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Examples\"><strong>Enghreifftiau o rolau<\/strong> <\/h2>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\" start=\"1\">\n<li>Cyfleoedd creadigol \u2013 gallai person ifanc sydd \u00e2 diddordeb mewn dylunio weithio fel &#8216;Dylunydd Arddangosfa Gwirfoddol&#8217; mewn siop elusen.<\/li>\n\n\n\n<li>Cyfleoedd tymor byr \u2013 r\u00f4l wirfoddol ym maes marchnata chwe wythnos i fyfyrwyr gymhwyso eu sgiliau i&#8217;ch strategaeth cyfryngau cymdeithasol. <\/li>\n\n\n\n<li>Cyfleoedd gr\u0175p \u2013 Gall rolau fel garddio, casglu sbwriel, neu greu parseli bwyd fod yn briodol ar gyfer grwpiau cyfoedion neu deuluoedd. <\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"youth-led\"><strong>Prosiectau gwirfoddoli dan arweiniad ieuenctid<\/strong> <\/h2>\n\n\n\n<p>Ystyriwch wahodd gwirfoddolwyr ifanc i arwain prosiect, fel trefnu digwyddiad codi arian neu ddatblygu ymgyrch ymwybyddiaeth. Mae prosiectau gweithredu cymdeithasol dan arweiniad ieuenctid yn aml yn gymwys i gael cyllid penodol, gan greu cyfle lle mae pawb ar ei ennill i&#8217;ch mudiad a&#8217;r bobl ifanc sy&#8217;n cymryd rhan.  <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"recruit\"><strong>Sut i recriwtio gwirfoddolwyr ifanc<\/strong> <\/h2>\n\n\n\n<p>Mae pobl ifanc ym mhobman! Dyma rai ffyrdd i&#8217;w cyrraedd:  <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ysgolion, colegau a phrifysgolion \u2013 creu partneriaeth ag athrawon a chynghorwyr gyrfa ac archwilio cyfleoedd i ymuno \u00e2 ffeiriau neu arddangosfeydd gyrfaoedd (mae&#8217;r rhain fel arfer ym mis Medi a mis Hydref)<\/li>\n\n\n\n<li>Grwpiau a chlybiau ieuenctid \u2013 meithrin perthynas \u00e2 chanolfannau ieuenctid lleol neu unedau ieuenctid mewn lifrai fel Sgowtiaid neu Geidiaid <\/li>\n\n\n\n<li>Cyfryngau cymdeithasol \u2013 defnyddio llwyfannau sy&#8217;n gyfeillgar i ieuenctid i hyrwyddo cyfleoedd. <\/li>\n\n\n\n<li>Ar lafar \u2013 annog gwirfoddolwyr ifanc presennol i ledaenu&#8217;r gair. <\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/volunteering-wales.net\/cy\/get-in-touch\">Cysylltwch \u00e2&#8217;ch Canolfan Wirfoddoli leol<\/a> i ddarganfod pa rwydweithiau sydd ganddynt eisoes <\/li>\n\n\n\n<li>Defnyddio\u2019r gronfa ddata wirfoddoli genedlaethol, <a href=\"https:\/\/volunteering-wales.net\/cy\">Gwirfoddoli Cymru<\/a>, i hyrwyddo eich cyfleoedd gwirfoddoli <\/li>\n\n\n\n<li>Gwirio eich cyhoeddusrwydd presennol, a yw\u2019n ddeniadol i bobl ifanc ac yn cyrraedd y gynulleidfa ieuenctid? Os nad yw\u2019n cyflawni hyn, gall rhai deunyddiau penodol ac wedi\u2019u targedu fod yn ddefnyddiol. (Os nad yw pobl ifanc yn gallu gweld eu hunain yn eich cyhoeddusrwydd, efallai y byddant yn cymryd yn ganiataol nad yw ar eu cyfer nhw)   <\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Ensuring\"><strong>Sicrhau bod pobl ifanc yn deall y r\u00f4l ac yn cytuno bod hon yn addas iddyn nhw<\/strong> <\/h2>\n\n\n\n<p>Myth cyffredin yw bod pobl ifanc yn annibynadwy ac yn anaeddfed. Nid yw hyn yn wir, mae darparu rolau ystyrlon a darparu cefnogaeth wych yn arwain at gyfraniadau gwerthfawr.  <\/p>\n\n\n\n<p>Mae pobl ifanc yn bobl; fel pawb arall, nid oes dau yr un fath. Os nad ydych yn si\u0175r a ydyn nhw&#8217;n deall y r\u00f4l yn ystod y cyfnod recriwtio, beth am eu gwahodd i sesiwn flasu a rhoi cyfle iddynt ddarganfod mwy ac i weld a yw&#8217;r r\u00f4l yn addas iddyn nhw?  <\/p>\n\n\n\n<p>Bydd angen i chi ystyried pwysau gwaith ysgol, swyddi ac amser cymdeithasol. Gellir trafod hyn yn ystod y sgwrs gychwynnol neu ar \u00f4l sesiwn flasu neu hyfforddiant (a gellir ailymweld \u00e2 hyn yn y sesiwn oruchwylio i wirio am unrhyw newidiadau) fel y gallwch drafod r\u00f4l, pa mor aml bydd rhywun yn cymryd rhan ac anghenion cymorth. Mae&#8217;n arfer gorau bod mor hyblyg \u00e2 phosibl fel mudiad fel y gallwch gael gwared ar unrhyw rwystrau posibl a sicrhau&#8217;r profiad gorau i&#8217;ch gwirfoddolwyr.   <\/p>\n\n\n\n<p>Byddai&#8217;n well gan rai pobl ifanc wirfoddoli gyda&#8217;u grwpiau cyfeillion, felly mae&#8217;n werth ystyried a oes rolau a allai fod ar gael i barau neu grwpiau o wirfoddolwyr er mwyn eu cynnwys gyda&#8217;i gilydd. <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Satisfaction\"><strong>Boddhad gwirfoddoli i bobl ifanc<\/strong> <\/h2>\n\n\n\n<p>Sut allwch chi ddangos i&#8217;ch gwirfoddolwyr ifanc eich bod chi&#8217;n eu gwerthfawrogi a&#8217;u hannog i barhau i wirfoddoli gyda chi? <\/p>\n\n\n\n<p>Yn gyntaf, cael y pethau sylfaenol yn iawn! Ad-dalu costau teithio, darparu byrbrydau, cynnig cymorth croesawgar a goruchwyliaeth barhaus.  <\/p>\n\n\n\n<p>Ystyriwch pam eu bod yn gwirfoddoli. A yw oherwydd eu bod eisiau,  <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>gwneud rhywbeth hwyliog?<\/li>\n\n\n\n<li>ennill sgiliau newydd? <\/li>\n\n\n\n<li>gwneud ffrindiau neu gysylltiadau? <\/li>\n\n\n\n<li>ychwanegu at eu CV neu fel rhan o raglen? (h.y. Bagloriaeth Cymru neu Wobr Dug Caeredin) <\/li>\n\n\n\n<li>rhoi rhywbeth yn \u00f4l neu deimlo eu bod yn gwneud gwahaniaeth? <\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Allwch chi helpu i ddiwallu&#8217;r anghenion hyn yn y ffordd rydych chi&#8217;n creu a llunio\u2019r r\u00f4l? <\/p>\n\n\n\n<p>Os yw gwirfoddolwyr yn chwilio am hwyl, neu wneud ffrindiau newydd, allech chi greu cyfleoedd ar gyfer sgyrsiau anffurfiol, efallai trwy ddefnyddio dechreuwyr sgwrs hwyliog, neu annog ffyrdd o gwblhau tasgau mewn ffordd fwy doniol? Efallai y byddwch yn cynnig digwyddiadau cymdeithasol, a all helpu gwirfoddolwyr i ymgartrefu ac i feithrin cysylltiadau. Gall pobl ifanc fod yn wych am ddod o hyd i syniadau ar gyfer hyn.   <\/p>\n\n\n\n<p>Os yw gwirfoddolwyr yn awyddus i ddatblygu eu sgiliau neu gael mynediad at hyfforddiant neu gymwysterau, allech chi gynnig hyfforddiant a chymwysterau? Os nad yw&#8217;r hyfforddiant wedi&#8217;i achredu&#8217;n allanol, gallech ei achredu&#8217;n fewnol trwy osod sawl safon a chanlyniad i&#8217;r person ifanc eu cyflawni.  <\/p>\n\n\n\n<p>Os yw gwirfoddolwyr eisiau gwneud gwahaniaeth, sut allwch chi alluogi gwirfoddolwyr i ddeall y cyfraniad maen nhw&#8217;n ei wneud? Er enghraifft, a wnaeth arddangosfa ffenestr siop elusen ddod \u00e2 50% o gwsmeriaid ychwanegol, a helpu&#8217;r elusen i godi \u00a3100 ychwanegol a fydd yn darparu sawl noson o ofal i anifail mewn lloches?  <\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r cymhellion a&#8217;r ffyrdd y mae pobl yn gwirfoddoli, yn enwedig pobl ifanc, wedi newid. Mae&#8217;n dod yn fwy nodweddiadol i unigolion wirfoddoli mewn arddull sydd fwy fel &#8216;portffolio&#8217;, gan ddewis mathau o wirfoddoli, neu brosiectau penodol sy&#8217;n galluogi gwirfoddolwyr i ennill profiadau penodol neu i ddangos eu gallu. Gall newid neu rannu eich rolau gwirfoddoli yn dasgau hygyrch a dymunol fod yn fwy deniadol i rai unigolion. Gallai hyn fod yn berthnasol i fyfyrwyr, gweithwyr sy&#8217;n chwilio am ymyrraeth tymor byr i gefnogi gwirfoddolwr sy&#8217;n cynnwys mudiad neu rywun sy\u2019n cymryd blwyddyn i ffwrdd neu sydd ar gynllun sabothol sy&#8217;n ceisio cael amrywiaeth o brofiadau.    <\/p>\n\n\n\n<p>Mae cydnabod cyflawniadau gwirfoddolwyr ifanc yn ffordd wych o wneud i wirfoddolwyr deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac i ddathlu eu llwyddiant. Gallwch gynnal gwobrau gwirfoddoli mewnol y gallech enwebu gwirfoddolwyr ar eu cyfer.  <\/p>\n\n\n\n<p>Gan fod pob mudiad yn wahanol, efallai y byddwch chi&#8217;n gallu dathlu a chydnabod eich gwirfoddolwyr mewn ffyrdd eraill hefyd. Lle bo hynny&#8217;n bosibl, mae bob amser yn werth gofyn i&#8217;ch gwirfoddolwyr sut yr hoffent ddathlu eu cyflawniadau er mwyn sicrhau&#8217;r hapusrwydd a&#8217;r boddhad mwyaf posibl yn eich mudiad.  <\/p>\n\n\n\n<p>Yn olaf, peidiwch ag anghofio rhoi gwybod i bobl ifanc eich bod chi ac unrhyw fuddiolwyr yn gwerthfawrogi eu bod yn rhoi o\u2019u hamser. Gall gweld y gwahaniaeth maen nhw&#8217;n ei wneud a gwybod ei fod yn cael ei werthfawrogi, helpu person ifanc i ddod yn fwy hyderus, ei helpu i deimlo&#8217;n rhan o&#8217;r gymuned a chael ymdeimlad o gyfrifoldeb amdani. Gall dangos gwerthfawrogiad fod mor syml \u00e2 dweud diolch, rhoi cerdyn neu dystysgrif, neu rywbeth sy\u2019n fwy o sbloets fel trefnu seremoni wobrwyo i ddathlu cyfraniadau gwirfoddolwyr.   <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Further\"><strong>Darllen ychwanegol<\/strong> <\/h2>\n\n\n\n\t<\/div>\n\n\n\n<div class=\"col-12 col-md-3\">\n\t\t\t\n\n\t<\/div>\n\n<\/div>\n\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae&#8217;r daflen wybodaeth hon wedi&#8217;i chynllunio i helpu eich sefydliad i gydnabod gwerth cynnwys pobl ifanc (14\u201325 oed) fel gwirfoddolwyr a chynnig cyngor ymarferol ar sut i greu amgylchedd cynhwysol, sy&#8217;n gyfeillgar i ieuenctid. <\/p>\n","protected":false},"author":2205,"featured_media":20029,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"ep_exclude_from_search":false,"footnotes":""},"categories":[760],"tags":[1203],"class_list":["post-20035","resource","type-resource","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-gwirfoddoli","tag-gwirfoddoli","pillar-gwirfoddoli"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Cynnwys Pobl Ifanc fel Gwirfoddolwyr | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-pobl-ifanc-fel-gwirfoddolwyr\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Cynnwys Pobl Ifanc fel Gwirfoddolwyr | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae&#039;r daflen wybodaeth hon wedi&#039;i chynllunio i helpu eich sefydliad i gydnabod gwerth cynnwys pobl ifanc (14\u201325 oed) fel gwirfoddolwyr a chynnig cyngor ymarferol ar sut i greu amgylchedd cynhwysol, sy&#039;n gyfeillgar i ieuenctid.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-pobl-ifanc-fel-gwirfoddolwyr\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-06-18T15:55:04+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/05\/Young-volunteers.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2000\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1333\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"9 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-pobl-ifanc-fel-gwirfoddolwyr\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-pobl-ifanc-fel-gwirfoddolwyr\/\",\"name\":\"Cynnwys Pobl Ifanc fel Gwirfoddolwyr | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-pobl-ifanc-fel-gwirfoddolwyr\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-pobl-ifanc-fel-gwirfoddolwyr\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/05\/Young-volunteers.jpg\",\"datePublished\":\"2025-05-14T13:54:44+00:00\",\"dateModified\":\"2025-06-18T15:55:04+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-pobl-ifanc-fel-gwirfoddolwyr\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-pobl-ifanc-fel-gwirfoddolwyr\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-pobl-ifanc-fel-gwirfoddolwyr\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/05\/Young-volunteers.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/05\/Young-volunteers.jpg\",\"width\":2000,\"height\":1333,\"caption\":\"A group of teenagers plant a tree sapling in a field\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-pobl-ifanc-fel-gwirfoddolwyr\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Cynnwys Pobl Ifanc fel Gwirfoddolwyr\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"description\":\"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"width\":512,\"height\":512,\"caption\":\"Hwb Gwybodaeth\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Cynnwys Pobl Ifanc fel Gwirfoddolwyr | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-pobl-ifanc-fel-gwirfoddolwyr\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Cynnwys Pobl Ifanc fel Gwirfoddolwyr | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","og_description":"Mae'r daflen wybodaeth hon wedi'i chynllunio i helpu eich sefydliad i gydnabod gwerth cynnwys pobl ifanc (14\u201325 oed) fel gwirfoddolwyr a chynnig cyngor ymarferol ar sut i greu amgylchedd cynhwysol, sy'n gyfeillgar i ieuenctid.","og_url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-pobl-ifanc-fel-gwirfoddolwyr\/","og_site_name":"Hwb Gwybodaeth","article_modified_time":"2025-06-18T15:55:04+00:00","og_image":[{"width":2000,"height":1333,"url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/05\/Young-volunteers.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"9 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-pobl-ifanc-fel-gwirfoddolwyr\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-pobl-ifanc-fel-gwirfoddolwyr\/","name":"Cynnwys Pobl Ifanc fel Gwirfoddolwyr | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","isPartOf":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-pobl-ifanc-fel-gwirfoddolwyr\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-pobl-ifanc-fel-gwirfoddolwyr\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/05\/Young-volunteers.jpg","datePublished":"2025-05-14T13:54:44+00:00","dateModified":"2025-06-18T15:55:04+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-pobl-ifanc-fel-gwirfoddolwyr\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-pobl-ifanc-fel-gwirfoddolwyr\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-pobl-ifanc-fel-gwirfoddolwyr\/#primaryimage","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/05\/Young-volunteers.jpg","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/05\/Young-volunteers.jpg","width":2000,"height":1333,"caption":"A group of teenagers plant a tree sapling in a field"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-pobl-ifanc-fel-gwirfoddolwyr\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Cynnwys Pobl Ifanc fel Gwirfoddolwyr"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","name":"Hwb Gwybodaeth","description":"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.","publisher":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization","name":"Hwb Gwybodaeth","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","width":512,"height":512,"caption":"Hwb Gwybodaeth"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/20035","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2205"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/20035\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":20100,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/20035\/revisions\/20100"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/20029"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=20035"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=20035"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=20035"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}