{"id":19800,"date":"2025-04-15T14:04:07","date_gmt":"2025-04-15T13:04:07","guid":{"rendered":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/?post_type=resource&#038;p=19800"},"modified":"2025-06-18T16:53:33","modified_gmt":"2025-06-18T15:53:33","slug":"cyflwyniad-i-rodd-cymorth","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflwyniad-i-rodd-cymorth\/","title":{"rendered":"Cyflwyniad i Rodd Cymorth"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-bootstrap-blocks-container container mb-2\">\n\t\n<div class=\"wp-bootstrap-blocks-row row\">\n\t\n\n<div class=\"col-12 col-md-9\">\n\t\t\t\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Trosolwg<\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"#What-is-Gift-Aid-and-how-can-it-help?\">Beth yw Rhodd Cymorth a sut mae\u2019n gallu helpu?<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#How-to-get-the-most-out-of-Gift-Aid\">Sut i fanteisio i\u2019r eithaf ar Rodd Cymorth<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#Gift-Aid-in-fundraising\">Rhodd Cymorth wrth godi arian<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#GASDS\">Cynllun Rhoddion Bach Rhodd Cymorth (GASDS)<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#What-if-things-go-wrong?\">Beth os aiff pethau o\u2019i le?<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#Simple-tips-to-help-you-increase-your-Gift-Aid-uptake\">Syniadau syml i\u2019ch helpu chi i gael mwy o arian drwy Rodd Cymorth<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#Further-resources\">Adnoddau pellach<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"What-is-Gift-Aid-and-how-can-it-help?\"><strong>Beth yw Rhodd Cymorth a sut mae\u2019n gallu helpu?<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>ae Rhodd Cymorth yn gynllun sy\u2019n galluogi elusennau a Chlybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol (CASCs) i hawlio 25c ychwanegol gan Gyllid a Thollau EF (CthEF) am bob \u00a31 a roddir gan drethdalwr cymwys. Er mwyn hawlio Rhodd Cymorth ar gyfer rhodd, rhaid i\u2019r mudiad sy\u2019n derbyn y rhodd a\u2019r rhoddwr fodloni meini prawf cymhwysedd penodol. <\/p>\n\n\n\n<p>Gall trethdalwyr hawlio\u2019r gwahaniaeth rhwng y gyfradd dreth sylfaenol (20%) a\u2019u cyfradd treth uwch (40% neu 45%) fel bod y rhodd yn costio llai iddynt, er eich bod dim ond yn derbyn 25%.<\/p>\n\n\n\n<p>Er mwyn i chi hawlio Rhodd Cymorth am rodd, rhaid i\u2019r rhoddwr fod yn drethdalwr yn y DU a darparu datganiad sy\u2019n nodi yr hoffent i\u2019r elusen hawlio. Nid yw hawlio Rhodd Cymorth yn costio mwy i\u2019r rhoddwr. <\/p>\n\n\n\n<p>Rhaid i elusennau gadw cofnodion am <strong>chwe blynedd<\/strong> i gefnogi eu hawliadau Rhodd Cymorth<\/p>\n\n\n\n<p>Mudiadau sy\u2019n gymwys i hawlio:<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Elusennau<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Rhaid iddynt fod wedi\u2019u cofrestru gyda rheoleiddiwr elusen (e.e. <strong>y Comisiwn Elusennau ar gyfer Cymru a Lloegr,<\/strong> yr <strong>OSCR <\/strong>yn yr Alban neu\u2019r <strong>CCNI<\/strong> yng Ngogledd Iwerddon) oni bai eu bod yn esempt neu wedi\u2019u heithrio.<\/li>\n\n\n\n<li>Rhaid iddynt fod yn fudiad nid-er-elw a defnyddio\u2019u hincwm at ddibenion elusennol yn unig.<\/li>\n\n\n\n<li>Gallant gynnwys mudiadau crefyddol, elusennau addysgol, elusennau gofal iechyd a mudiadau cymorth rhyngwladol.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Clybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol (CASCs)<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Rhaid iddynt fod wedi\u2019u cofrestru \u00e2 CthEF fel CASC.<\/li>\n\n\n\n<li>Rhaid i\u2019r mudiad hyrwyddo cyfranogiad mewn chwaraeon amatur.<\/li>\n\n\n\n<li>Rhaid iddynt fodloni meini prawf penodol, fel bod ar agor i bawb a gweithredu er budd y gymuned<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p> <strong>Elusennau esempt<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae rhai mudiadau yn esempt rhag cofrestru ond yn parhau i fod yn gymwys am Rodd Cymorth (e.e. prifysgolion, academ\u00efau a sefydliadau crefyddol penodol).<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Elusennau wedi\u2019u heithrio<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae\u2019n bosibl nad oes angen i elusennau penodol, fel mudiadau crefyddol llai, gofrestru ond maen nhw\u2019n gymwys os ydynt yn bodloni\u2019r meini prawf Rhodd Cymorth.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"682\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/02\/Collection-tin-1024x682.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-19692\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/02\/Collection-tin-1024x682.jpg 1024w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/02\/Collection-tin-720x480.jpg 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/02\/Collection-tin-768x512.jpg 768w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/02\/Collection-tin-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/02\/Collection-tin-360x240.jpg 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/02\/Collection-tin-1800x1200.jpg 1800w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/02\/Collection-tin-624x416.jpg 624w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/02\/Collection-tin.jpg 2000w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"How-to-get-the-most-out-of-Gift-Aid\"><strong>Sut i fanteisio i\u2019r eithaf ar Rodd Cymorth<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae cefnogwyr yn fwy tebygol o ddefnyddio Rhodd Cymorth os gofynnir iddynt wneud hynny ac os byddant yn deall y budd ychwanegol gwerthfawr y bydd hwnnw\u2019n ei roi i\u2019ch elusen heb iddynt orfod talu\u2019r un geiniog yn fwy.<\/p>\n\n\n\n<p>Defnyddiwch enghreifftiau ymarferol i egluro beth fydd yr arian Rhodd Cymorth yn eich galluogi chi i\u2019w wneud mewn termau real. Os bydd elusennau yn egluro hyn mewn modd cyson ac yn gwneud hynny bob tro y gofynnir i\u2019r rhoddwr roi, bydd yn cynyddu ymwybyddiaeth gyffredinol ac yn cynyddu nifer y cyhoedd a fydd yn cytuno i roi Rhodd Cymorth. <\/p>\n\n\n\n<p>Gallai hyrwyddo Rhodd Cymorth i\u2019ch rhoddwyr edrych yn debyg i hyn:<\/p>\n\n\n\n<p>\u2018Defnyddiwch Rodd Cymorth a bydd eich rhodd yn werth mwy. Am bob punt y byddwch chi\u2019n ei roi i ni, gallwn ni hawlio 25c yn \u00f4l o Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi. Felly ticiwch yma. Mae mor syml \u00e2 hynny\u2019.   <\/p>\n\n\n\n<p>neu<\/p>\n\n\n\n<p>&#8216;Mae defnyddio Rhodd Cymorth yn golygu y gallwn hawlio 25c yn \u00f4l o Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi am bob \u00a31 y byddwch chi\u2019n ei roi, sy\u2019n helpu eich rhodd i fynd ymhellach. Mae hyn yn golygu y gall \u00a3100 droi\u2019n \u00a3125, cyn belled \u00e2 bod rhoddion yn cael eu gwneud drwy Rodd Cymorth. Dychmygwch y gwahaniaeth y gallai hynny ei wneud, ac ni fydd yn rhaid i chi dalu\u2019r un geiniog. Felly, os ydych chi eisiau i\u2019ch rhodd fynd ymhellach, gwnewch ef drwy Rodd Gymorth. Ticiwch yma. Mae mor syml \u00e2 hynny\u2019.     <\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych chi\u2019n talu\u2019r gyfradd dreth uwch (40% neu 45%), rydych chi <strong>hefyd yn elwa<\/strong> drwy hawlio\u2019r gwahaniaeth rhwng eich cyfradd dreth uwch a\u2019r gyfradd sylfaenol o 20%. Mae hyn yn golygu y byddwch chi, fel <strong>trethdalwr 40%<\/strong>, er enghraifft, yn gallu hawlio\u2019n \u00f4l 20% o\u2019r rhodd gros (\u00a3125), a fydd yn arbed \u00a325 i chi. Felly bydd eich rhodd o \u00a3100 dim ond yn costio <strong>\u00a375 <\/strong>i chi, ond bydd yr elusen yn parhau i dderbyn \u00a3125  <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Gift-Aid-in-fundraising\"><strong>Rhodd<\/strong> <strong>Cymorth wrth godi arian<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Gall Rhodd Cymorth gael ei ddefnyddio\u2019n llwyddiannus gyda gwahanol ddulliau codi arian, a gellir ei weld fel ychwanegiad i\u2019ch strategaeth codi arian gyfredol. <\/p>\n\n\n\n\n\n<p>Mae llwyddiant Rhodd Cymorth yn dibynnu ar sicrhau ei fod yn cael ei hyrwyddo\u2019n rheolaidd ac yn gyson, felly meddyliwch am y dulliau cyfathrebu rydych chi eisoes yn eu defnyddio lle gallech chi hyrwyddo Rhodd Cymorth.<\/p>\n\n\n\n<p>Dyma rai ffyrdd o gynnwys Rhodd Cymorth mewn gweithgareddau y gallech chi fod yn eu defnyddio eisoes:<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Aelodaeth<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Gallwch chi hawlio Rhodd Cymorth ar ffioedd aelodaeth, ar yr amod nad yw\u2019r buddion yn fwy na <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/publications\/charities-detailed-guidance-notes\/chapter-3-gift-aid#chapter-319-things-that-are-not-a-benefit\">Rheolau buddion CThEF (Saesneg yn unig)<\/a>. Cofiwch fod Rhodd Cymorth yn berthnasol i roddion lle na chaiff y rhoddwr unrhyw fudd yn gyfnewid am y rhodd, h.y. nid yw\u2019n berthnasol pan mae arian yn cael ei dalu am nwyddau neu wasanaethau fel tocyn i ddigwyddiad. <\/p>\n\n\n\n<p>Fodd bynnag, caniateir rhoi rhywbeth bach i ddangos gwerthfawrogiad neu i ddweud \u2018diolch\u2019, er enghraifft, cylchlythyr ar gyfer aelodau neu anrheg rad. Ar gyfer rhoddion hyd at \u00a3100, ni all gwerth y buddion fod yn fwy na 25% o\u2019r rhodd <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Digwyddiadau a noddir<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Gwnewch yn si\u0175r fod gan ffurflenni noddi flwch ticio ar gyfer Rhodd Cymorth ac eich bod yn cael enw a chyfeiriad cartref yr holl noddwyr, gan gynnwys y cod post.<\/p>\n\n\n\n<p>Gellir adhawlio Rhodd Cymorth ar y rhan fwyaf o ddigwyddiadau a noddir, oni bai bod y cyfranogwr yn derbyn budd (fel teithiau tramor neu ddigwyddiadau her). Os mai hyn yw\u2019r achos, ni ellir hawlio Rhodd Cymorth ar gyfer rhoddion gan eu hunain nac \u2018unigolion cysylltiedig\u2019.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Atyniadau elusennol<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Daeth rheolau newydd<strong> <\/strong>ar gyfer hawlio Rhodd Cymorth ar roddion a gyflwynir i eiddo elusennol gan ymwelwyr i rym ar 6 Ebrill 2006. Mae\u2019r canllawiau\u2019n berthnasol i unrhyw elusen sy\u2019n codi t\u00e2l yn draddodiadol i bobl weld eiddo sy\u2019n cael ei warchod, cynnal a chadw, cadw neu ei greu gan yr elusen er mwyn ehangu ei diben elusennol. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r canllawiau\u2019n galluogi mwy o elusennau sy\u2019n codi t\u00e2l mynediad, fel gerddi, galer\u00efau celf a chanolfannau anifeiliaid, i fanteisio ar Rodd Cymorth.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd rhoddion a wneir yn lle t\u00e2l mynediad dim ond yn gymwys ar gyfer Rhodd Cymorth os yw\u2019r ymwelydd yn talu o leiaf 10% yn fwy na\u2019r pris mynediad arferol, neu os ydynt yn rhoi\u2019r hawl i ymwelwyr gael mynediad i atyniad pryd bynnag y maen nhw ar agor dros gyfnod o 12 mis, er enghraifft, drwy gynllun aelodaeth, er enghraifft, pe bai\u2019r t\u00e2l mynediad yn \u00a310, byddai hwn dim ond yn gymwys ar gyfer Rhodd Cymorth pe bai\u2019r ymwelydd yn talu \u00a311 neu\u2019n fwy, neu os oedd y t\u00e2l o \u00a310 yn caniat\u00e1u mynediad am o leiaf 12 mis. <\/p>\n\n\n\n<p>Rhaid i elusennau gynnig dewis i ymwelwyr dalu\u2019r t\u00e2l mynediad arferol yn unig neu\u2019r pris mynediad a rhodd wrth iddynt gael mynediad, ac ni fydd dewis peidio \u00e2 thalu rhodd yn effeithio ar eu hawl i gael mynediad.<\/p>\n\n\n\n<p>Os na fyddwch chi\u2019n rhoi dewis clir i ymwelwyr i dalu\u2019r t\u00e2l mynediad safonol neu dalu 10% neu ragor fel rhodd, yna ni fydd unrhyw daliad sy\u2019n fwy na 10% neu ragor o\u2019r t\u00e2l mynediad safonol yn rhodd y gwnaethant ddewis eu rhoi. Felly, ni fydd y taliad yn gymwys ar gyfer Rhodd Cymorth. <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Nwyddau a roddwyd<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Rhodd Cymorth<strong> <\/strong>ar eitemau a roddir i siopau elusen. Mae hyn yn golygu trosi\u2019r eitem yn rhodd ariannol, gyda\u2019r elusen fel asiant ar gyfer y rhoddwr, yn gwerthu\u2019r eitem ac yna\u2019n cynnig yr arian yn \u00f4l i\u2019r rhoddwr. Os bydd y rhoddwr wedyn yn dewis rhoi\u2019r arian i\u2019r elusen,  <strong> <\/strong>gellir hawlio Rhodd Cymorth.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd yn rhaid cael cofnod eglur sy\u2019n cysylltu\u2019r rhoddwyr \u00e2 phob eitem a\u2019r arian y maen nhw wedi\u2019i godi, yn ogystal \u00e2 chaniat\u00e2d i hawlio Rhodd Cymorth ar yr arian a godwyd ar yr eitem honno. Gall y gwaith gweinyddol fod yn drwm felly, ond mae pecynnau meddalwedd i helpu i reoli\u2019r broses. <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Sue Ryder Care<\/strong> wnaeth gyflwyno\u2019r syniad o hawlio Rhodd Cymorth ar nwyddau a roddir. Gellir gweld sut maen nhw\u2019n cofrestru rhoddwyr ar gyfer y math hwn o Rodd Cymorth <a href=\"https:\/\/www.sueryder.org\/donate\/about-gift-aid\/sign-up-for-retail-gift-aid\/\">ar eu gwefan (Saesneg yn unig)<\/a>. <\/p>\n\n\n\n<p>Byddwch yn ymwybodol na ellir hawlio Rhodd Cymorth ar daliadau i brynu nwyddau fel cardiau Nadolig, ond gellir hawlio Rhodd Cymorth ar roddion gwirfoddol ychwanegol.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Casgliadau<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Ni ellir hawlio Rhodd Cymorth ar gasgliadau bwced neu din ar hyn o bryd lle nad oes datganiad Rhodd Cymorth na llwybr archwilio sy\u2019n cysylltu\u2019r rhoddwr \u00e2\u2019i rodd, oni bai yr hawlir hyn o dan Gynllun Rhoddion Bach Rhodd Cymorth (gweler isod).<\/p>\n\n\n\n<p>Fodd bynnag, os byddwch chi\u2019n defnyddio amlenni casglu \u00e2 s\u00eal gyda\u2019r datganiad Rhodd Cymorth wedi\u2019i argraffu arnyn nhw ac yn cadw cofnodion priodol, yna gallwch hawlio Rhodd Cymorth ar gasgliadau. Yn yr un modd, gallwch chi hawlio Rhodd Cymorth ar flychau casglu sydd wedi\u2019u dylunio i\u2019w defnyddio yng nghartrefi\u2019r rhoddwyr iddynt roi eu harian m\u00e2n ynddyn nhw. <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Ocsiynau<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mewn rhai achosion, gellir cynyddu rhan o\u2019r arian a gynigir am eitem mewn ocsiwn elusennol drwy Rodd Cymorth. Gellir dim ond gwneud hyn ar gyfer eitem sydd \u00e2 gwerth marchnadol clir, a rhaid nodi hyn ar adeg yr ocsiwn. Er enghraifft, os caiff \u00a3700 ei gynnig am b\u00e2r o docynnau teithio sy\u2019n costio \u00a3500 yn y siop deithio ar y stryd fawr, yna gellir trin y \u00a3200 sy\u2019n weddill fel rhodd sy\u2019n gymwys ar gyfer Rhodd Cymorth.  <\/p>\n\n\n\n<p>Dylech chi gael datganiad Rhodd Cymorth gan y rhoddwr o ran yr elfen rodd hon, os nad oes gennych chi un eisoes. Nid oes gan eitemau a lofnodwyd gan bobl enwog nac eitemau unigryw werth marchnadol clir, ond maen nhw\u2019n werth faint bynnag y telir amdanynt. Nid yw\u2019r pris a gynigir am y rhain, felly, yn cynnwys elfen a roddwyd ac nid yw Rhodd Cymorth yn gymwys.  <\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n werth nodi na ellir hawlio Rhodd Cymorth ar rafflau na loter\u00efau. Mae prynu tocyn ar gyfer raffl, loteri neu wobr \u2018Clwb 100\u2019 yn talu am yr hawl i roi cynnig ar gystadleuaeth, waeth pwy sy\u2019n ennill a waeth beth yw gwerth y wobr. Nid yw\u2019n rhodd felly ac ni ellir defnyddio Rhodd Cymorth.  <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"GASDS\"><strong>Cynllun Rhoddion Bach Rhodd Cymorth (GASDS)<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r <strong>Cynllun Rhoddion Bach Rhodd Cymorth<\/strong> yn galluogi\u2019r Rhodd Cymorth i gael ei hawlio heb ddatganiad Rhodd Cymorth ar roddion o \u00a330 neu\u2019n llai mewn arian parod a rhoddion o \u00a330 neu\u2019n llai ar gardiau digyffwrdd a gesglir ar neu ar \u00f4l 6 Ebrill 2019.<\/p>\n\n\n\n<p>O\u2019r 6 Ebrill 2016, gallwch hawlio hyd at \u00a32,000 mewn blwyddyn dreth neu \u00a31,250 ar flynyddoedd cynt.<\/p>\n\n\n\n<p>Er mwyn hawlio\u2019r arian hyn, mae angen i chi gofnodi cyfanswm y rhoddion ariannol a gasglwyd, dyddiad y casgliad a\u2019r dyddiad y cafodd ei dalu i mewn i gyfrif banc (neu fod ym meddiant cofnodion o\u2019r fath).<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd angen i chi gadw cofnod o unrhyw roddion rydych chi wedi\u2019u cymryd drwy gardiau digyffwrdd, er enghraifft, derbynebau o\u2019ch peiriant cardiau. Gallwch dim ond hawlio GASDS os ydych wedi gwneud hawliadau Rhodd Cymorth llwyddiannus mewn o leiaf dwy o\u2019r pedair blwyddyn dreth flaenorol, heb broblemau mawr. <\/p>\n\n\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"What-if-things-go-wrong?\"><strong>Beth os aiff pethau o\u2019i le?<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Pan mae gennych chi ddatganiad <strong>Rhodd Cymorth<\/strong>, ond nad yw\u2019r rhoddwr wedi talu digon o dreth i dalu\u2019r dreth rydych chi wedi\u2019i hadhawlio gan <strong>CThEF<\/strong>, y rhoddwr fydd \u00e2\u2019r atebolrwydd treth am y diffyg.<\/p>\n\n\n\n<p>Nid yw hawliad treth yr elusen yn cael ei effeithio\u2019n gyfreithiol. Ond efallai yr hoffech chi drafod y mater gyda <strong>CThEF<\/strong> i weld a ellir trefnu unrhyw beth ar ran y rhoddwr. <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Simple-tips-to-help-you-increase-your-Gift-Aid-uptake\"><strong>Syniadau syml i\u2019ch helpu chi i gael mwy o arian drwy Rodd Cymorth<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p><strong>Enwebwch lysgennad Rhodd Cymorth (staff neu wirfoddolwr)<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Enwebwch rywun yn eich elusen i fod yn gyfrifol am sicrhau bod y mudiad yn cael cymaint \u00e2 phosibl o arian drwy Rodd Cymorth, ac efallai hyd yn oed cael rhoddion treth-effeithiol yn gyffredinol.<\/p>\n\n\n\n<p>Dylai\u2019r unigolyn friffio\u2019r holl staff a gwirfoddolwyr, hen a newydd, am fuddion Rhodd Cymorth ac effeithiolrwydd treth. Byddai hwn yn bwnc defnyddiol mewn cyfarfodydd staff a chynadleddau. <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Ysgrifennwch gyflwyniad syml ar Rodd Cymorth (a ffyrdd eraill treth-effeithiol o roi) ar gyfer pob cefnogwr.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Yn aml, caiff Rhodd Cymorth ei gamddeall neu ei osgoi oherwydd anwybodaeth. Mae\u2019n naturiol y gallai fod gan roddwyr gwestiynau neu bryderon ynghylch Rhodd Cymorth, ac mae cyflwyniad ar ffurf cwestiwn ac ateb yn ffordd hawdd o fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r pryderon hyn. <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Ystyriwch ddatblygu ffrydiau incwm sy\u2019n gymwys am Rodd Cymorth<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Ewch ati i ddatblygu ffrydiau incwm ar bethau y gellir hawlio Rhodd Cymorth arnynt, e.e. digwyddiadau a noddir, rhoddion rheolaidd ac ocsiynau.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cynhwyswch eich targedau Rhodd Cymorth yn eich strategaeth codi arian<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Gellid cynnwys targedau Rhodd Cymorth yn eich adroddiad blynyddol, mewn cynlluniau strategol ac mewn amcanion perfformiad unigol pobl.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Pa darged sy\u2019n briodol ar gyfer Rhodd Cymorth?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae rhai elusennau cenedlaethol wedi llwyddo i gyrraedd cyfradd drosi o 80% o roddion (sy\u2019n gymwys ar gyfer Rhodd Cymorth). Er nad yw hyn yn realistig i fudiadau llai o faint, mae llawer o godwyr arian proffesiynol yn credu bod 75% (o roddwyr cymwys) yn darged realistig a chyraeddadwy.  <\/p>\n\n\n\n<p>Er nad yw hawlio Rhodd Cymorth yn costio unrhyw beth i chi\u2019n ariannol, bydd angen amser staff. Cofiwch gynnwys hwn yn eich cynlluniau gwaith, disgrifiadau r\u00f4l staff\/gwirfoddolwyr neu\u2019ch amcanion er mwyn sicrhau ei fod yn cael yr adnoddau priodol. Gweler y canllawiau isod am gyfarwyddiadau ac arweiniad ar sut i hawlio Rhodd Cymorth.  <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Further-resources\">Adnoddau pellach<\/h2>\n\n\n\n<p><strong><a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/claim-gift-aid\">Canllawiau ar Rodd Cymorth &#8211; Hawlio Rhodd Cymorth fel Elusen<br><\/a><\/strong>Llywodraeth y DU<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/guidance\/gift-aid-what-donations-charities-and-cascs-can-claim-on#viewing-charity-property\"><strong>Canllawiau ar Rodd Cymorth &#8211; Hawliadau Rhodd Cymorth ar gyfer Elusennau (Saesneg yn unig)<br><\/strong><\/a>Llywodraeth y DU<\/p>\n\n\t<\/div>\n\n\n\n<div class=\"col-12 col-md-3\">\n\t\t\t\n\n\t<\/div>\n\n<\/div>\n\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Rhodd Cymorth yn gynllun sy\u2019n galluogi elusennau a Chlybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol (CASCs) i hawlio 25c ychwanegol gan Gyllid a Thollau EF (CthEF) am bob \u00a31 a roddir gan drethdalwr cymwys. <\/p>\n","protected":false},"author":2205,"featured_media":19693,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"ep_exclude_from_search":false,"footnotes":""},"categories":[761],"tags":[1170,725],"class_list":["post-19800","resource","type-resource","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyllid-cynaliadwy","tag-rhodd-cymorth","tag-sustainable-funding","pillar-cyllid-cynaliadwy"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Cyflwyniad i Rodd Cymorth | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Mae Rhodd Cymorth yn gynllun sy\u2019n galluogi elusennau a Chlybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol (CASCs) i hawlio 25c ychwanegol gan Gyllid a Thollau EF (CthEF) am bob \u00a31 a roddir gan drethdalwr cymwys.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflwyniad-i-rodd-cymorth\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Cyflwyniad i Rodd Cymorth | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae Rhodd Cymorth yn gynllun sy\u2019n galluogi elusennau a Chlybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol (CASCs) i hawlio 25c ychwanegol gan Gyllid a Thollau EF (CthEF) am bob \u00a31 a roddir gan drethdalwr cymwys.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflwyniad-i-rodd-cymorth\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-06-18T15:53:33+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/02\/Collection-tin.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2000\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1333\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"11 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflwyniad-i-rodd-cymorth\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflwyniad-i-rodd-cymorth\/\",\"name\":\"Cyflwyniad i Rodd Cymorth | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflwyniad-i-rodd-cymorth\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflwyniad-i-rodd-cymorth\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/02\/Collection-tin.jpg\",\"datePublished\":\"2025-04-15T13:04:07+00:00\",\"dateModified\":\"2025-06-18T15:53:33+00:00\",\"description\":\"Mae Rhodd Cymorth yn gynllun sy\u2019n galluogi elusennau a Chlybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol (CASCs) i hawlio 25c ychwanegol gan Gyllid a Thollau EF (CthEF) am bob \u00a31 a roddir gan drethdalwr cymwys.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflwyniad-i-rodd-cymorth\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflwyniad-i-rodd-cymorth\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflwyniad-i-rodd-cymorth\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/02\/Collection-tin.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/02\/Collection-tin.jpg\",\"width\":2000,\"height\":1333},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflwyniad-i-rodd-cymorth\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Cyflwyniad i Rodd Cymorth\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"description\":\"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"width\":512,\"height\":512,\"caption\":\"Hwb Gwybodaeth\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Cyflwyniad i Rodd Cymorth | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","description":"Mae Rhodd Cymorth yn gynllun sy\u2019n galluogi elusennau a Chlybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol (CASCs) i hawlio 25c ychwanegol gan Gyllid a Thollau EF (CthEF) am bob \u00a31 a roddir gan drethdalwr cymwys.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflwyniad-i-rodd-cymorth\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Cyflwyniad i Rodd Cymorth | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","og_description":"Mae Rhodd Cymorth yn gynllun sy\u2019n galluogi elusennau a Chlybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol (CASCs) i hawlio 25c ychwanegol gan Gyllid a Thollau EF (CthEF) am bob \u00a31 a roddir gan drethdalwr cymwys.","og_url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflwyniad-i-rodd-cymorth\/","og_site_name":"Hwb Gwybodaeth","article_modified_time":"2025-06-18T15:53:33+00:00","og_image":[{"width":2000,"height":1333,"url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/02\/Collection-tin.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"11 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflwyniad-i-rodd-cymorth\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflwyniad-i-rodd-cymorth\/","name":"Cyflwyniad i Rodd Cymorth | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","isPartOf":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflwyniad-i-rodd-cymorth\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflwyniad-i-rodd-cymorth\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/02\/Collection-tin.jpg","datePublished":"2025-04-15T13:04:07+00:00","dateModified":"2025-06-18T15:53:33+00:00","description":"Mae Rhodd Cymorth yn gynllun sy\u2019n galluogi elusennau a Chlybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol (CASCs) i hawlio 25c ychwanegol gan Gyllid a Thollau EF (CthEF) am bob \u00a31 a roddir gan drethdalwr cymwys.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflwyniad-i-rodd-cymorth\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflwyniad-i-rodd-cymorth\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflwyniad-i-rodd-cymorth\/#primaryimage","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/02\/Collection-tin.jpg","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/02\/Collection-tin.jpg","width":2000,"height":1333},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cyflwyniad-i-rodd-cymorth\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Cyflwyniad i Rodd Cymorth"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","name":"Hwb Gwybodaeth","description":"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.","publisher":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization","name":"Hwb Gwybodaeth","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","width":512,"height":512,"caption":"Hwb Gwybodaeth"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/19800","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2205"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/19800\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":20583,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/19800\/revisions\/20583"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/19693"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=19800"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=19800"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=19800"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}