{"id":19622,"date":"2025-02-27T11:02:51","date_gmt":"2025-02-27T11:02:51","guid":{"rendered":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/?post_type=resource&#038;p=19622"},"modified":"2025-06-18T16:34:58","modified_gmt":"2025-06-18T15:34:58","slug":"prisio-eich-tendr","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/prisio-eich-tendr\/","title":{"rendered":"Prisio eich tendr"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-bootstrap-blocks-container container mb-2\">\n\t\n<div class=\"wp-bootstrap-blocks-row row\">\n\t\n\n<div class=\"col-12 col-md-9\">\n\t\t\t\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Trosolwg<\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"#Key-stages-of-costing\">Prif gamau prisio<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#costing-models\">Modelau prisio<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#Working-out-a-surplus-on-the-contract\">Cyfrifo gwarged ar y contract<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#Partnership-delivery\">Darparu mewn partneriaeth<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#VAT\">TAW<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#TUPE\">TUPE<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#How-do-we-avoid-cashflow-problems?\">Sut gallwn osgoi problemau llif arian?<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#Clawback\">Adfachu<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#top-tips\">Awgrymiadau da<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#Further-information\">Rhagor o wybodaeth<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae mudiadau trydydd sector yn ceisio amrywio eu ffynonellau incwm fwy a mwy drwy gynnwys strategaethau a thechnegau i gyflawni sylfaen gyllido gynaliadwy. Tendro ar gyfer darparu nwyddau neu wasanaethau o dan delerau contract yw un o\u2019r lliaws o opsiynau y gellir eu hystyried i gynhyrchu incwm. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae angen meddwl am nifer o bethau wrth brisio tendr. Diben y daflen wybodaeth hon yw rhoi trosolwg o\u2019r prif faterion i\u2019w hystyried. <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Key-stages-of-costings\">Prif gamau prisio<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae dau gam eglur i brisio eich tendr.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cam 1: Deall costau llawn darparu gwasanaeth<\/strong><strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Yn gyntaf, mae angen i chi fod yn glir ynghylch y costau llawn o ddarparu eich gwasanaeth. Mae\u2019n hanfodol eich bod yn cynnwys yr holl orbenion perthnasol yn eich cyfrifiadau ac nid y costau uniongyrchol neu ymylol yn unig. <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cam 2: Pennu sut i brisio eich gwasanaeth ar gyfer y cynnig<\/strong><strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Efallai y byddwch yn penderfynu sybsideiddio gwasanaeth i ddechrau er mwyn bod yn fwy cystadleuol (gelwir hyn yn \u2018abwyd\u2019) neu efallai y byddwch yn penderfynu mynd am fwy o elw fel y gallwch roi arian yn eich cronfeydd wrth gefn. <\/p>\n\n\n\n<p>Neu gallech benderfynu prisio eich tendr ar <strong>sail adennill costau llawn<\/strong>. Waeth beth fyddwch yn penderfynu ei wneud, dylech wybod pam eich bod yn ei wneud a dylech asesu\u2019r gystadleuaeth a blaenoriaethau\u2019r Comisiynydd. Er enghraifft, gallech deimlo bod yr ansawdd uwch a\u2019r gwerth ychwanegol rydych yn eu cynnig yn cyfiawnhau pris uwch.  <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Costing-models\">Modelau prisio<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n bwysig nodi bod y ddogfen a gyflwynir gennych yn debygol o ffurfio rhan o\u2019r contract. Mae\u2019n bosibl na fyddwch yn cael yr opsiwn i newid unrhyw beth yn ddiweddarach os bydd eich mudiad yn llwyddiannus. Felly, rhaid ystyried eich costau, lefelau staffio a manylion yr hyn y byddwch chi\u2019n eu darparu\u2019n ofalus, yn geidwadol a chyda\u2019r gymeradwyaeth briodol. Gall defnyddio gwirfoddolwyr ffurfio agwedd bwysig ar eich model cyflawni a\u2019ch helpu chi i fod yn gystadleuol yn ariannol. Ond, gwnewch yn si\u0175r eich bod yn cynnwys y gost am eu rheoli, eu hyfforddi a\u2019u goruchwylio.    <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Model y Comisiynydd<\/strong> \u2013 mae\u2019r Comisiynydd yn debygol o nodi sut dylech ddadansoddi eich cyllid. Gallai hyn fod yn syml iawn, er enghraifft: <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Costau staff rheng flaen<\/li>\n\n\n\n<li>Costau rheoli<\/li>\n\n\n\n<li>Gorbenion (a all gynnwys eich costau gwirfoddolwyr)<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Dilynwch eich proses chi o brisio\u2019r contract cyn cwblhau model y Comisiynydd. Trwy wneud hyn, byddwch yn gwybod eich bod wedi cynnwys eich holl gostau. Noder: Efallai y byddant yn nodi uchafswm ar gyfer costau gorbenion a rheoli.  <\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/adennill-costau-llawn\/\"><strong>Adennill Costau Llawn<\/strong><\/a><strong> <\/strong>&#8211; mae\u2019r model hwn yn prisio pob gwasanaeth yn llawn, gan gynnwys y gyfran berthnasol o orbenion. Mae\u2019n sicrhau bod gorbenion yn cael eu cynnwys, a bod pob prosiect neu wasanaeth yn cael ei brisio\u2019n llawn. <\/p>\n\n\n\n<p>Os na fyddwch chi\u2019n adennill eich costau\u2019n llawn, bydd hyn yn golygu bod angen i\u2019ch mudiad sybsideiddio cost y contract o ffynonellau eraill.<\/p>\n\n\n\n<p>Os byddwch yn dewis sybsideiddio gwasanaeth ar y dechrau i\u2019ch helpu i ymddangos yn fwy cystadleuol, yna dylech wybod pam eich bod yn ei wneud, beth yw\u2019r costau go iawn, a sut byddwch yn talu am y costau hyn yn yr hirdymor.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall cyflwyno dull adennill costau llawn fod yn broses sy\u2019n mynd ag amser, ond eto i gyd, mae\u2019n hanfodol bod gennych y math hwn o system reoli ariannol ar waith os yw eich mudiad yn mynd i fod yn tendro\u2019n rheolaidd am gontractau. Mae hon yn ffordd fwy cywir o nodi gorbenion na defnyddio lefel benodol fel 10 neu 15%. Ond byddwch yn ymwybodol y gall rhai contractau ofyn am gop\u00efau o\u2019r cyfrifiadau.  <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Working-out-a-surplus-on-the-contract\">Cyfrifo gwarged ar y contract<\/h2>\n\n\n\n<p>Dyma\u2019r meysydd cyffredin y byddwch angen gwarged ar eu cyfer:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Diben cymdeithasol<\/strong> \u2013 efallai y byddwch yn defnyddio rhan o\u2019ch gwarged i ddatblygu diben cymdeithasol eich mudiad..<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Datblygiad yn y dyfodol<\/strong> \u2013 dylai eich mudiad feddwl yn strategol. Mae cynllunio strategaeth ar gyfer y dyfodol yn costio amser ac arian. <\/li>\n\n\n\n<li><strong>Cynaliadwyedd <\/strong>\u2013 bydd sicrhau eich bod yn gweithredu contractau sy\u2019n dwyn elw yn cynyddu cynaliadwyedd eich mudiad.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Adeiladu \u2018cronfeydd wrth gefn\u2019<\/strong> \u2013 Dylech fod yn adeiladu cronfeydd wrth gefn i dalu am eich costau gweithredol a gwella eich hylifedd.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n amhosibl nodi union faint y gwarged y dylech fod yn anelu amdano ar gontract. Yn ystod y cam cynllunio, dylech ystyried pob un o\u2019r meysydd uchod mewn perthynas \u00e2\u2019r tendr. Os bydd cyflawni\u2019r tendr yn golygu mynd \u00e2 staff o brosiect arall, bydd angen i chi ystyried y goblygiadau cost o wneud hyn a sicrhau eu bod wedi\u2019u cynnwys mewn unrhyw warged a nodwyd. Ystyriwch hefyd unrhyw beth a allai godi rhag ofn y bydd costau cyflawni na ragwelwyd.   <\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-media-text is-stacked-on-mobile\"><figure class=\"wp-block-media-text__media\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"557\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/02\/computer-work-1024x557.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-19592 size-full\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/02\/computer-work-1024x557.jpg 1024w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/02\/computer-work-720x392.jpg 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/02\/computer-work-768x418.jpg 768w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/02\/computer-work-360x196.jpg 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/02\/computer-work-624x339.jpg 624w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/02\/computer-work.jpg 1280w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure><div class=\"wp-block-media-text__content\">\n<p><strong>Cofiwch<\/strong> adolygu gwarged arfaethedig pob contract ac edrych ar a gafodd hwn ei gyflawni. Edrychwch yn ofalus ar unrhyw ffactorau a leihaodd eich gwarged. Bydd hyn yn eich helpu i gynllunio\u2019n fwy effeithiol y tro nesaf.  <\/p>\n<\/div><\/div>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Partnership-delivery\">Darparu mewn partneriaeth<\/h2>\n\n\n\n<p>Mewn marchnad fyth gynyddol, mae llawer o fuddion i gyflawni tendr mewn partneriaeth \u00e2 mudiad arall\/mudiadau eraill. Gellir manteisio ar gryfderau unigol mudiadau a sicrhau eich bod yn llwyr fodloni\/mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau\u2019r comisiynydd. Gall hyn hefyd gynyddu eich siawns o lwyddo drwy weithio gyda mudiadau a allai fod yn gystadleuwyr fel arall. Fodd bynnag, mae hyn hefyd yn golygu na fydd cymaint o gyfle i wneud gwarged (na chymaint o warged) o\u2019r ddarpariaeth.   <\/p>\n\n\n\n<p>Rhaid cyfrifo\u2019r costau a pha warged fydd yn cael ei wneud yn ofalus er mwyn sicrhau bod hyn yn gyfartal ar draws yr holl bartneriaid. Os mai dim ond un partner sy\u2019n gwneud gwared, a\u2019i fod yn ymddangos, yn \u00f4l pob golwg, ei fod yn elwa ar waith partneriaid eraill, bydd yn niweidio gwaith partneriaeth yn y dyfodol ac o bosibl cyflawniad y contract. <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"VAT\">TAW<\/h2>\n\n\n\n<p>Un o\u2019r materion y bydd yn rhaid i chi ei ystyried yw\u2019r goblygiadau TAW o rwymo i gontractau. Efallai y bydd angen i chi godi TAW ar gyfer y nwyddau a\u2019r gwasanaethau rydych yn eu cyflenwi. Gallech hefyd fod yn talu TAW y byddwch eisiau ei hadennill.  <\/p>\n\n\n\n<p>Gellir cael gwybodaeth sylfaenol am faterion TAW ar <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/charities-and-tax\">wefan Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF):<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Pan fyddwch yn codi TAW ar y nwyddau a\u2019r gwasanaethau rydych yn eu cyflenwi, cofiwch gynnwys hyn wrth anfonebu. Hefyd, cofiwch nodi\u2019r manylion TAW yn y tendr. Os ydych yn ansicr ynghylch goblygiadau TAW unrhyw gontract rydych yn cyflwyno tendr ar ei gyfer, ymgynghorwch ag arbenigwr TAW.  <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"TUPE\">TUPE<\/h2>\n\n\n\n<p>Ystyr TUPE yw Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006. Yn aml, bydd TUPE yn berthnasol pan fydd gwasanaeth yn cael ei dendro a\u2019r darparwr presennol yn cael ei newid am un newydd. Mae\u2019n golygu\u2019n aml y bydd gan gyflogeion y gwasanaeth gwreiddiol yr hawl i gael eu trosglwyddo i\u2019r mudiad newydd. Trwy wneud hyn, bydd eu holl hawliau blaenorol wedi\u2019u diogelu, fel oriau gwaith, cyflog, gwyliau a phensiwn.  <\/p>\n\n\n\n<p>Bydd angen i fudiadau sy\u2019n cyflwyno tendrau ar gyfer gwasanaethau edrych ar a fydd TUPE yn berthnasol os byddant yn ennill tendr ac ystyried beth fydd hyn yn ei olygu yn y dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n bwysig iawn bod darparwyr yn ystyried risg TUPE wrth ymgeisio am gontractau a\u2019u bod yn cael yr holl wybodaeth angenrheidiol i allu asesu eu hymrwymiadau a\u2019u costau\u2019n briodol. Weithiau, bydd gofyn i\u2019r darparwr gwblhau <strong>Cytundeb Cyfrinachedd<\/strong> cyn y bydd yr adran gaffael yn rhyddhau gwybodaeth o\u2019r fath. <\/p>\n\n\n\n<p>Gwiriwch a ddylai\u2019r cyflwyniad gynnwys costau TUPE. Efallai na fydd unrhyw beth amdano yn y pecyn tendro. Ystyriwch a yw\u2019r costau TUPE yn arwain at bris anghystadleuol. Ewch ati i asesu\u2019r effaith debygol ar y mudiad a\u2019r amser a\u2019r buddsoddiad y bydd eu hangen i ymdrin \u00e2 newid diwylliannol a newidiadau mewn arferion gweithio.   <\/p>\n\n\n\n<p>Ystyriwch nifer y staff a fydd yn trosglwyddo. Edrychwch ar nifer y staff y bydd eu hangen i gyflawni\u2019r contract yn erbyn nifer y staff sy\u2019n gymwys i drosglwyddo, a chyfrifwch unrhyw gostau dileu swyddi sy\u2019n deillio o hyn yn briodol yn y tendr. <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"How-do-we-avoid-cashflow-problems?\">Sut gallwn osgoi problemau llif arian?<\/h2>\n\n\n\n<p>Wrth gynllunio\u2019r contract, dylech ystyried yr amserlen dalu y bydd y contractwr yn ei chynnig. Ochr yn ochr \u00e2\u2019ch cyllideb, mae\u2019n ddefnyddiol llunio amcanestyniad llif arian. Bydd hwn yn eich helpu i ddadansoddi lle gallai problemau llif arian godi.  <\/p>\n\n\n\n<p>Dyma\u2019r cwestiynau i\u2019w hystyried wrth lunio eich amcanestyniad llif arian:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Pryd ydym yn cael ein talu?<\/li>\n\n\n\n<li>Sut mae\u2019r amserlen dalu hon yn effeithio ar ein gallu i gyflawni\u2019r contract?<\/li>\n\n\n\n<li>Sut bydd yn effeithio ar daliadau cyflog staff?<\/li>\n\n\n\n<li>Sut bydd yn effeithio ar ein gallu i dalu ein cyflenwyr (neu isgontractwyr)?<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Os ydych yn credu y byddwch yn cael problemau llif arian, efallai y byddai\u2019n werth dod i gytundeb ar gynllun talu gwahanol neu gynnwys yn eich tendr y byddwch yn cael cyfran o\u2019r costau wedi\u2019i thalu ymlaen llaw.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n bosibl na fyddwch yn derbyn balans cost y contract ar ddiwedd y contract tan fydd y contractwr yn fodlon \u00e2\u2019r ddarpariaeth neu\u2019r cyflenwad. Bydd hyn yn golygu, os nad oes gennych ddigon o arian wrth gefn ar gyfer y llif arian, bydd yn rhaid i chi gael gorddrafft neu fenthyciad i dalu\u2019r costau. <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cofiwch<\/strong> gynnwys costau cyllido gorddrafft neu ad-dalu benthyciad yng nghost y contract.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Clawback\">Adfachu<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae adfachu yn amod a gysylltir yn bennaf \u00e2 chyllid grant. Mae\u2019n caniat\u00e1u i\u2019r cyllidwr adennill cyfran o\u2019r grant os na fydd amodau penodol yn cael eu bodloni, fel pan fydd ased a brynwyd gan gyllid grant yn cael ei werthu, neu pan fydd cyllid heb ei wario ar \u00f4l ar ddiwedd y prosiect. Fodd bynnag, nid yw adfachu yn berthnasol i gontractau caffael, oherwydd unwaith y bydd y gwasanaeth neu\u2019r nwyddau wedi\u2019u darparu a\u2019r telerau cytunedig wedi\u2019u bodloni, bydd y rhwymedigaeth i\u2019r cyllidwr wedi\u2019i chyflawni\u2019n llawn.  <\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Nid yw adfachu yn berthnasol i gaffael nwyddau a gwasanaethau oherwydd byddai unrhyw rwymedigaeth wedi\u2019u chyflawni\u2019n ddigonol unwaith y byddai\u2019r nwyddau\/gwasanaethau wedi\u2019u darparu, ac mae trafod y pris a gwerthuso yn rhan annatod o\u2019r broses gaffael. Unwaith y bydd contract wedi\u2019i ddyfarnu, dylid beirniadu\u2019r perfformiad ar allbynnau a chanlyniadau. Cyfrifoldeb y darparwr yw pennu a ellir darparu\u2019r rhain o fewn y pris y cytunwyd arno neu beidio. Os bydd yn digwydd cynhyrchu gwarged, mae\u2019n rhydd i ddefnyddio\u2019r gwarged hwn fel y dymuna.   <\/p>\n<cite>Canllawiau Trysorlys EF<\/cite><\/blockquote>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Top-tips\">Awgrymiadau da<\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Os yw\u2019r contract yn para am fwy na blwyddyn, cofiwch brisio unrhyw chwyddiant yng nghostau\u2019r staff a\u2019r cyflenwyr.<\/li>\n\n\n\n<li>Eglurwch unrhyw ragdybiaethau rydych wedi\u2019u gwneud. Trwy wneud hyn, os na fydd y comisiynydd yn cytuno \u00e2\u2019r rhagdybiaeth, gall herio hwnnw yn hytrach na\u2019r pris. <\/li>\n\n\n\n<li>Cofiwch os yw eich staff neu eich swyddfa yn cael eu cyllido gan fwy nag un prosiect, dyrannwch y prisiau\u2019n deg ar draws y cyllidwyr gwahanol.<\/li>\n\n\n\n<li>Canfyddwch beth fydd y telerau talu ar gyfer y contract. Bydd pob pedair wythnos ymlaen llaw neu bob chwarter fel \u00f4l-daliadau yn gwneud gwahaniaeth enfawr i lif arian eich mudiad. <\/li>\n\n\n\n<li>Byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio ffigurau crynion, er enghraifft, dweud y bydd y cyfraniadau pensiwn yn \u00a33,000. Mae ffigurau crynion yn awgrymu eich bod wedi dyfalu\u2019r ffigur yn hytrach na\u2019i gyfrifo! <\/li>\n\n\n\n<li>Cofiwch adolygu pob tendr a chontract. Edrychwch yn \u00f4l ar beth ddigwyddodd i weld beth sydd wedi\u2019i ddysgu. Bydd hyn yn eich helpu i wella eich gwaith prisio yn y dyfodol.  <\/li>\n\n\n\n<li>Os oes gennych dendrau neu gontractau blaenorol, defnyddiwch yr wybodaeth o\u2019r rhain i\u2019ch helpu i baratoi eich prisiau.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Cash-flow-projections\">Amcanestyniadau llif arian<\/h2>\n\n\n\n<p>Rydym wedi siarad am amcanestyniadau llif arian, ac i lawer o fudiadau, gall hwn fod yn adnodd ariannol newydd. Isod, ceir cyflwyniad byr i sut i\u2019w paratoi ynghyd \u00e2 thempled enghreifftiol. <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Beth yw amcanestyniadau llif arian?<\/strong><br\/>Mae amcanestyniadau llif arian yn amcangyfrif swm yr arian y disgwylir i lifo i mewn ac allan o\u2019ch elusen dros gyfnod penodol (fel arfer bob mis neu bob chwarter). Maen nhw\u2019n eich helpu i ragweld gormodedd neu brinder arian posibl a sicrhau bod gennych ddigon o arian i dalu am eich gweithgareddau. <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Camau i greu amcanestyniadau llif arian<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Nodwch ffynonellau incwm:<\/strong> \n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cofiwch gynnwys yr holl daliadau sy\u2019n mynd allan, fel cyflogau, rhent, cyfleustodau, costau\u2019r rhaglen a threuliau codi arian.<\/li>\n\n\n\n<li>Noder yr adegau y bydd yr incwm yn cael eu derbyn (e.e. efallai bydd grant yn cyrraedd mewn rhandaliadau).<\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Rhestrwch y treuliau:<\/strong>\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cofiwch gynnwys yr holl daliadau sy\u2019n mynd allan, fel cyflogau, rhent, cyfleustodau, costau\u2019r rhaglen a threuliau codi arian.<\/li>\n\n\n\n<li>Ystyriwch gostau afreolaidd neu dymhorol (e.e. premiwm neu dreuliau digwyddiad).<\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Lluniwch amserlen:<\/strong>\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Defnyddiwch ddadansoddiad misol i roi darlun clir o\u2019r llif arian ar draws y flwyddyn.<\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Cyfrifwch y llif arian net:<\/strong>\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Tynnwch y treuliau o incwm pob cyfnod i bennu eich llif arian net.<\/li>\n\n\n\n<li>Amlygwch fisoedd \u00e2 diffygion neu wargedion.<\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Ewch ati\u2019n rheolaidd i fonitro a diweddaru:<\/strong>\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cymharwch yr amcanestyniadau \u00e2\u2019r ffigurau misol gwirioneddol ac addaswch y rhain ar gyfer newidiadau annisgwyl.<\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-table\"><table><thead><tr><td><ins>Mis<\/ins><ins><\/ins><\/td><td><ins>Incwm (Rhoddion\/Grantiau)<\/ins><ins><\/ins><\/td><td><ins>Incwm (Digwyddiadau codi arian)<\/ins><ins><\/ins><\/td><td><ins>Incwm arall<\/ins><ins><\/ins><\/td><td><strong><ins>Cyfanswm incwm<\/ins><\/strong><strong><ins><\/ins><\/strong><\/td><td><ins>Treuliau (Cyflogau)<\/ins><ins><\/ins><\/td><td><ins>Treuliau (Rhent<\/ins><ins>\/ <\/ins><ins>Cyfleustodau)<\/ins><ins><\/ins><\/td><td><ins>Costau<\/ins> <ins>prosiect<\/ins><ins><\/ins><\/td><td><ins>Costau codi arian<\/ins><ins><\/ins><\/td><td><ins>Treuliau eraill<\/ins><ins><\/ins><\/td><td><strong><ins>Cyfanswm treuliau<\/ins><\/strong><strong><ins><\/ins><\/strong><\/td><td><ins>Llif arian net (Incwm &#8211; treuliau)<\/ins><ins><\/ins><\/td><td><ins>Llif arian cronnol<\/ins><ins><\/ins><\/td><\/tr><\/thead><tbody><tr><td><ins>Ionawr<\/ins><\/td><td><ins>\u00a33,000<\/ins><\/td><td><ins>\u00a31,000<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3500<\/ins><\/td><td><strong><ins>\u00a34,500<\/ins><\/strong><strong><ins><\/ins><\/strong><\/td><td><ins>\u00a32,500<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3800<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3600<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3200<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3400<\/ins><\/td><td><strong><ins>\u00a34,500<\/ins><\/strong><strong><ins><\/ins><\/strong><\/td><td><ins>\u00a30<\/ins><\/td><td><ins>\u00a30<\/ins><\/td><\/tr><tr><td><ins>Chwefror<\/ins><\/td><td><ins>\u00a32,500<\/ins><\/td><td><ins>\u00a31,500<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3400<\/ins><\/td><td><strong><ins>\u00a34,400<\/ins><\/strong><strong><ins><\/ins><\/strong><\/td><td><ins>\u00a32,500<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3800<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3500<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3200<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3400<\/ins><\/td><td><strong><ins>\u00a34,400<\/ins><\/strong><strong><ins><\/ins><\/strong><\/td><td><ins>\u00a30<\/ins><\/td><td><ins>\u00a30<\/ins><\/td><\/tr><tr><td><ins>Mawrth<\/ins><\/td><td><ins>\u00a35,000<\/ins><\/td><td><ins>\u00a32,000<\/ins><\/td><td><ins>\u00a31,000<\/ins><\/td><td><strong><ins>\u00a38,000<\/ins><\/strong><strong><ins><\/ins><\/strong><\/td><td><ins>\u00a32,500<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3800<\/ins><\/td><td><ins>\u00a31,500<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3300<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3500<\/ins><\/td><td><strong><ins>\u00a35,600<\/ins><\/strong><strong><ins><\/ins><\/strong><\/td><td><ins>\u00a32,400<\/ins><\/td><td><ins>\u00a32,400<\/ins><\/td><\/tr><tr><td><ins>Ebrill<\/ins><\/td><td><ins>\u00a32,000<\/ins><\/td><td><ins>\u00a31,000<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3500<\/ins><\/td><td><strong><ins>\u00a33,500<\/ins><\/strong><strong><ins><\/ins><\/strong><\/td><td><ins>\u00a32,500<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3800<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3600<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3200<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3400<\/ins><\/td><td><strong><ins>\u00a34,500<\/ins><\/strong><strong><ins><\/ins><\/strong><\/td><td><ins>-\u00a31,000<\/ins><\/td><td><ins>\u00a31,400<\/ins><\/td><\/tr><tr><td><ins>Mai<\/ins><\/td><td><ins>\u00a34,000<\/ins><\/td><td><ins>\u00a32,000<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3500<\/ins><\/td><td><strong><ins>\u00a36,500<\/ins><\/strong><strong><ins><\/ins><\/strong><\/td><td><ins>\u00a32,500<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3800<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3800<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3300<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3400<\/ins><\/td><td><strong><ins>\u00a34,800<\/ins><\/strong><strong><ins><\/ins><\/strong><\/td><td><ins>\u00a31,700<\/ins><\/td><td><ins>\u00a33,100<\/ins><\/td><\/tr><tr><td><ins>Mehefin<\/ins><\/td><td><ins>\u00a33,500<\/ins><\/td><td><ins>\u00a31,500<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3400<\/ins><\/td><td><strong><ins>\u00a35,400<\/ins><\/strong><strong><ins><\/ins><\/strong><\/td><td><ins>\u00a32,500<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3800<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3700<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3300<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3400<\/ins><\/td><td><strong><ins>\u00a34,700<\/ins><\/strong><strong><ins><\/ins><\/strong><\/td><td><ins>\u00a3700<\/ins><\/td><td><ins>\u00a33,800<\/ins><\/td><\/tr><tr><td><ins>Gorffennaf<\/ins><\/td><td><ins>\u00a32,000<\/ins><\/td><td><ins>\u00a31,000<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3300<\/ins><\/td><td><strong><ins>\u00a33,300<\/ins><\/strong><strong><ins><\/ins><\/strong><\/td><td><ins>\u00a32,500<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3800<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3600<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3200<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3400<\/ins><\/td><td><strong><ins>\u00a34,500<\/ins><\/strong><strong><ins><\/ins><\/strong><\/td><td><ins>-\u00a31,200<\/ins><\/td><td><ins>\u00a32,600<\/ins><\/td><\/tr><tr><td><ins>Awst<\/ins><\/td><td><ins>\u00a36,000<\/ins><\/td><td><ins>\u00a31,000<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3500<\/ins><\/td><td><strong><ins>\u00a37,500<\/ins><\/strong><strong><ins><\/ins><\/strong><\/td><td><ins>\u00a32,500<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3800<\/ins><\/td><td><ins>\u00a31,000<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3300<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3400<\/ins><\/td><td><strong><ins>\u00a35,000<\/ins><\/strong><strong><ins><\/ins><\/strong><\/td><td><ins>\u00a32,500<\/ins><\/td><td><ins>\u00a35,100<\/ins><\/td><\/tr><tr><td><ins>Medi<\/ins><\/td><td><ins>\u00a33,500<\/ins><\/td><td><ins>\u00a32,000<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3400<\/ins><\/td><td><strong><ins>\u00a35,900<\/ins><\/strong><strong><ins><\/ins><\/strong><\/td><td><ins>\u00a32,500<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3800<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3600<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3200<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3400<\/ins><\/td><td><strong><ins>\u00a34,500<\/ins><\/strong><strong><ins><\/ins><\/strong><\/td><td><ins>\u00a31,400<\/ins><\/td><td><ins>\u00a36,500<\/ins><\/td><\/tr><tr><td><ins>Hydref<\/ins><\/td><td><ins>\u00a34,000<\/ins><\/td><td><ins>\u00a31,500<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3500<\/ins><\/td><td><strong><ins>\u00a36,000<\/ins><\/strong><strong><ins><\/ins><\/strong><\/td><td><ins>\u00a32,500<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3800<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3700<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3200<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3400<\/ins><\/td><td><strong><ins>\u00a34,600<\/ins><\/strong><strong><ins><\/ins><\/strong><\/td><td><ins>\u00a31,400<\/ins><\/td><td><ins>\u00a37,900<\/ins><\/td><\/tr><tr><td><ins>Tachwedd<\/ins><\/td><td><ins>\u00a32,500<\/ins><\/td><td><ins>\u00a31,000<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3400<\/ins><\/td><td><strong><ins>\u00a33,900<\/ins><\/strong><strong><ins><\/ins><\/strong><\/td><td><ins>\u00a32,500<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3800<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3600<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3200<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3400<\/ins><\/td><td><strong><ins>\u00a34,500<\/ins><\/strong><strong><ins><\/ins><\/strong><\/td><td><ins>-\u00a3600<\/ins><\/td><td><ins>\u00a37,300<\/ins><\/td><\/tr><tr><td><ins>Rhagfyr<\/ins><\/td><td><ins>\u00a37,000<\/ins><\/td><td><ins>\u00a33,000<\/ins><\/td><td><ins>\u00a31,000<\/ins><\/td><td><strong><ins>\u00a311,000<\/ins><\/strong><strong><ins><\/ins><\/strong><\/td><td><ins>\u00a32,500<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3800<\/ins><\/td><td><ins>\u00a31,500<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3300<\/ins><\/td><td><ins>\u00a3500<\/ins><\/td><td><strong><ins>\u00a35,600<\/ins><\/strong><strong><ins><\/ins><\/strong><\/td><td><ins>\u00a35,400<\/ins><\/td><td><ins>\u00a312,700<\/ins><\/td><\/tr><\/tbody><\/table><\/figure>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Further-information\">Rhagor o wybodaeth<\/h2>\n\n\n\n<p><strong>Materion Cyfreithiol<\/strong><br\/><strong><a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/publications\/charities-and-public-service-delivery-an-introduction-cc37\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">CC37: Elusennau a darparu gwasanaeth cyhoeddus<\/a><\/strong><br\/>Y Comisiwn Elusennau<br\/>Mae CC37: Elusennau a darparu gwasanaeth cyhoeddus, a gynhyrchwyd gan y Comisiwn Elusennau, yn nodi\u2019r ystyriaethau i elusennau wrth rwymo i gontract.<br\/><br\/><a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/vat-charities\"><strong>TAW ar gyfer elusennau (Saesneg yn unig)<\/strong><\/a><br\/>CThEF<br\/>Dylid cyfeirio cwestiynau ar oblygiadau treth at Gyllid a Thollau EF.<br\/>0845 302 0203<br\/><br\/><a href=\"https:\/\/knowhow.ncvo.org.uk\/organisation\/financial-management\/planning-and-budgeting\/project-budgeting-and-full-cost-recovery\"><strong>Adennill costau llawn<\/strong><\/a><br\/>NCVO<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cymorth<\/strong><br\/><a href=\"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/contact\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><strong>Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs) Cymru Cefnogi Trydydd Sector Cymru<\/strong><\/a><br\/>County Voluntary Councils (CVCs) in Wales provide information on a wide range of funding and financial issues including tendering.<\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\t<\/div>\n\n\n\n<div class=\"col-12 col-md-3\">\n\t\t\t\n\n\t<\/div>\n\n<\/div>\n\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae mudiadau trydydd sector yn ceisio amrywio eu ffynonellau incwm fwy a mwy drwy gynnwys strategaethau a thechnegau i gyflawni sylfaen gyllido gynaliadwy. <\/p>\n","protected":false},"author":2205,"featured_media":19608,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"ep_exclude_from_search":false,"footnotes":""},"categories":[761],"tags":[725],"class_list":["post-19622","resource","type-resource","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyllid-cynaliadwy","tag-sustainable-funding","pillar-cyllid-cynaliadwy"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Prisio eich tendr | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/prisio-eich-tendr\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Prisio eich tendr | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae mudiadau trydydd sector yn ceisio amrywio eu ffynonellau incwm fwy a mwy drwy gynnwys strategaethau a thechnegau i gyflawni sylfaen gyllido gynaliadwy.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/prisio-eich-tendr\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-06-18T15:34:58+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/02\/demonstrating-impact.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1280\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"853\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"11 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/prisio-eich-tendr\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/prisio-eich-tendr\/\",\"name\":\"Prisio eich tendr | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/prisio-eich-tendr\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/prisio-eich-tendr\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/02\/demonstrating-impact.jpg\",\"datePublished\":\"2025-02-27T11:02:51+00:00\",\"dateModified\":\"2025-06-18T15:34:58+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/prisio-eich-tendr\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/prisio-eich-tendr\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/prisio-eich-tendr\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/02\/demonstrating-impact.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/02\/demonstrating-impact.jpg\",\"width\":1280,\"height\":853,\"caption\":\"Woman shows a man a piece of paper with a chart\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/prisio-eich-tendr\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Prisio eich tendr\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"description\":\"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"width\":512,\"height\":512,\"caption\":\"Hwb Gwybodaeth\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Prisio eich tendr | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/prisio-eich-tendr\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Prisio eich tendr | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","og_description":"Mae mudiadau trydydd sector yn ceisio amrywio eu ffynonellau incwm fwy a mwy drwy gynnwys strategaethau a thechnegau i gyflawni sylfaen gyllido gynaliadwy.","og_url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/prisio-eich-tendr\/","og_site_name":"Hwb Gwybodaeth","article_modified_time":"2025-06-18T15:34:58+00:00","og_image":[{"width":1280,"height":853,"url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/02\/demonstrating-impact.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"11 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/prisio-eich-tendr\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/prisio-eich-tendr\/","name":"Prisio eich tendr | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","isPartOf":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/prisio-eich-tendr\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/prisio-eich-tendr\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/02\/demonstrating-impact.jpg","datePublished":"2025-02-27T11:02:51+00:00","dateModified":"2025-06-18T15:34:58+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/prisio-eich-tendr\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/prisio-eich-tendr\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/prisio-eich-tendr\/#primaryimage","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/02\/demonstrating-impact.jpg","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/02\/demonstrating-impact.jpg","width":1280,"height":853,"caption":"Woman shows a man a piece of paper with a chart"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/prisio-eich-tendr\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Prisio eich tendr"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","name":"Hwb Gwybodaeth","description":"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.","publisher":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization","name":"Hwb Gwybodaeth","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","width":512,"height":512,"caption":"Hwb Gwybodaeth"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/19622","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2205"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/19622\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":20577,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/19622\/revisions\/20577"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/19608"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=19622"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=19622"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=19622"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}