{"id":13512,"date":"2022-05-18T15:12:14","date_gmt":"2022-05-18T14:12:14","guid":{"rendered":""},"modified":"2026-06-16T09:44:41","modified_gmt":"2026-06-16T08:44:41","slug":"cynnwys-ceiswyr-lloches-a-ffoaduriaid-mewn-gweithgareddau-gwirfoddoli","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-ceiswyr-lloches-a-ffoaduriaid-mewn-gweithgareddau-gwirfoddoli\/","title":{"rendered":"Cynnwys ceiswyr lloches a ffoaduriaid mewn gweithgareddau gwirfoddoli"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-bootstrap-blocks-container container mb-2\">\n\t\n<div class=\"wp-bootstrap-blocks-row row\">\n\t\n\n<div class=\"col-12 col-md-9\">\n\t\t\t\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Trosolwg<\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"#cyflwyniad\">Cyflwyniad<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#gwirfoddoli-i-bobl-syn-ceisio-lloches-a-elwir-hefyd-yn-geiswyr-lloches-neu-ffoaduriaid\">Gwirfoddoli i bobl sy&#8217;n ceisio lloches (a elwir hefyd yn &#8216;geiswyr lloches&#8217; neu &#8216;ffoaduriaid&#8217;)<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#a-all-ceiswyr-lloches-wirfoddoli-yn-y-du\">A all \u2018ceiswyr lloches&#8217; wirfoddoli yn y DU?<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#arferion-da-ar-gyfer-recriwtio-gwirfoddolwyr-ceiswyr-lloches-neu-ffoaduriaid\">Arferion da ar gyfer recriwtio gwirfoddolwyr &#8216;ceiswyr lloches&#8217; neu &#8216;ffoaduriaid&#8217;<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#creu-a-hysbysebu-rolau-priodol-ac-ystyrlon\">Creu a hysbysebu rolau priodol ac ystyrlon<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#prosesau-recriwtio\">Prosesau recriwtio<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#gwirio-hunaniaeth-gwiriadau-dbs-ac-asesu-risg\">Gwirio hunaniaeth, Gwiriadau DBS ac asesu risg<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#hyfforddiant-cynefino-hygyrchedd-a-dealltwriaeth\">Hyfforddiant cynefino, hygyrchedd a dealltwriaeth<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#goruchwyliaeth\">Goruchwyliaeth<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#ad-dalu-treuliau-enghraifft-o-arfer-da-a-mater-o-gydraddoldeb\">Ad-dalu treuliau &#8211; enghraifft o arfer da a mater o gydraddoldeb<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#beth-yw-ceisiwr-lloches-ffoadur-a-mudwr\">Beth yw &#8216;ceisiwr lloches&#8217;, &#8216;ffoadur&#8217; a &#8216;mudwr&#8217;?<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#mewnwelediadau-gan-wirfoddolwyr-a-mudiadau-syn-ymwneud-a-cheiswyr-lloches-a-ffoaduriaid\">Mewnwelediadau gan wirfoddolwyr a mudiadau sy&#8217;n ymwneud \u00e2 &#8216;cheiswyr lloches&#8217; a &#8216;ffoaduriaid&#8217;<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#rhagor-o-wybodaeth\">Rhagor o wybodaeth<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"cyflwyniad\">Cyflwyniad<\/h2>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"alignright size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"681\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2024\/01\/Social-action-1024x681.jpg\" alt=\"Gr\u0175p o bobl yn didoli nwyddau a roddwyd ar fwrdd\" class=\"wp-image-18269\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2024\/01\/Social-action-1024x681.jpg 1024w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2024\/01\/Social-action-720x479.jpg 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2024\/01\/Social-action-768x511.jpg 768w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2024\/01\/Social-action-1536x1022.jpg 1536w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2024\/01\/Social-action-360x240.jpg 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2024\/01\/Social-action-1800x1198.jpg 1800w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2024\/01\/Social-action-624x415.jpg 624w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2024\/01\/Social-action.jpg 2000w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<p>Mae croesawu <strong>ceiswyr lloches a ffoaduriaid<\/strong> i&#8217;ch mudiad yn cyfoethogi eich t\u00eem ac yn darparu cysylltiadau cymunedol hanfodol i&#8217;r rhai sy&#8217;n cyrraedd Cymru. Mae&#8217;r canllaw hwn yn rhoi cyngor ymarferol i <strong>Reolwyr Gwirfoddolwyr<\/strong> ar <strong>reolau gwirfoddoli ceiswyr lloches<\/strong>, recriwtio, a chreu amgylchedd cynhwysol.<\/p>\n\n\n\n<p><em><strong>Noder<\/strong>: Mae&#8217;n well gennym ddefnyddio&#8217;r term &#8216;pobl sy&#8217;n ceisio lloches&#8217; wrth gyfeirio at &#8216;geiswyr lloches&#8217; neu &#8216;ffoaduriaid&#8217; gan ei fod yn adlewyrchu dull croesawgar Cymru yn well ac yn canolbwyntio ar y daith i ddiogelwch, perthyn, ac integreiddio yn hytrach na statws cyfreithiol. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod ein bod mewn cyfnod o newid iaith ac er mwyn galluogi cynulleidfaoedd i ddod o hyd i&#8217;r wybodaeth hon, rydym yn defnyddio&#8217;r term &#8216;ceisiwr lloches&#8217; a &#8216;ffoaduriaid&#8217; o bryd i&#8217;w gilydd yn y fersiwn hon o wybodaeth.<\/em><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"gwirfoddoli-i-bobl-syn-ceisio-lloches-a-elwir-hefyd-yn-geiswyr-lloches-neu-ffoaduriaid\">Gwirfoddoli i bobl sy&#8217;n ceisio lloches (a elwir hefyd yn &#8216;geiswyr lloches&#8217; neu &#8216;ffoaduriaid&#8217;)<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae Cymru&#8217;n falch o fod yn <a href=\"https:\/\/wales.cityofsanctuary.org\/\" type=\"link\" id=\"https:\/\/wales.cityofsanctuary.org\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Genedl Noddfa<\/a>, sy\u2019n croesawu&#8217;r rhai sy&#8217;n ffoi rhag rhyfel neu erledigaeth ac yn gwerthfawrogi eu cyfraniadau. I bobl sy&#8217;n chwilio am noddfa, gall gwirfoddoli fod yn arbennig o bwysig &#8211; ffordd o deimlo&#8217;n rhan o gymuned, adennill pwrpas, ac ailadeiladu bywyd gydag urddas. Mae gwirfoddoli o fudd i fudiadau, cymunedau ac unigolion.<\/p>\n\n\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"a-all-ceiswyr-lloches-wirfoddoli-yn-y-du\">A all \u2018ceiswyr lloches&#8217; wirfoddoli yn y DU?<\/h2>\n\n\n\n<p><strong>Gallant. Caniateir i bobl sy&#8217;n ceisio lloches yn y DU wirfoddoli.<\/strong> Mae&#8217;r Swyddfa Gartref yn annog gwirfoddoli i elusennau neu fudiadau\u2019r sector cyhoeddus fel ffordd gadarnhaol i geiswyr noddfa integreiddio i&#8217;w cymunedau lleol.<\/p>\n\n\n\n<p>Er nad yw polisi lloches wedi&#8217;i ddatganoli i Gymru, mae dull &#8216;Cenedl Noddfa&#8217; Cymru yn cefnogi&#8217;n llawn cynnwys ceiswyr noddfa yn y sector gwirfoddol.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">&#8216;Gwirfoddoli&#8217; v &#8216;gwaith gwirfoddol&#8217;<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n hanfodol defnyddio&#8217;r derminoleg gywir. Mae&#8217;r Swyddfa Gartref yn gwneud gwahaniaeth cyfreithiol rhwng bod yn <strong>wirfoddolwr<\/strong> a bod yn <strong>weithiwr gwirfoddol<\/strong>.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Gwirfoddoli<\/strong>: Di-d\u00e2l, dim contract, a dim disgwyliad o ran taliad. Caniateir hyn i geiswyr lloches.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gwaith Gwirfoddol<\/strong>: Yn aml yn cynnwys contract neu &#8220;daliad mewn nwyddau&#8221; (buddion heblaw treuliau). Gellir dosbarthu hwn fel gwaith ac efallai <strong>na chaiff ei ganiat\u00e1u<\/strong> yn dibynnu ar statws yr unigolyn.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Dulliau gweithredu allweddol ar gyfer rheolwyr gwirfoddolwyr<\/h3>\n\n\n\n<p>Er mwyn cydymffurfio \u00e2 chanllawiau&#8217;r Swyddfa Gartref, gwnewch yn si\u0175r bod eich mudiad yn dilyn y tair rheol hyn:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Dim taliadau na gwobrau<\/strong> &#8211; Rhaid i unigolion beidio \u00e2 derbyn arian na &#8220;buddion mewn nwyddau&#8221; (fel talebau rhodd).<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Ad-dalu treuliau yn unig<\/strong> &#8211; Gallwch (a dylech) ad-dalu treuliau \u2018allan o boced\u2019 gwirioneddol, fel teithio a bwyd. Cadwch dderbynebau bob amser.<\/li>\n\n\n\n<li>Am fanylion swyddogol, gweler canllawiau Fis\u00e2u\u2019r DU a Chanllawiau Mewnfudo ar GOV.UK.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"arferion-da-ar-gyfer-recriwtio-gwirfoddolwyr-ceiswyr-lloches-neu-ffoaduriaid\">Arferion da ar gyfer recriwtio gwirfoddolwyr &#8216;ceiswyr lloches&#8217; neu &#8216;ffoaduriaid&#8217;<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae pobl sy&#8217;n ceisio noddfa yng Nghymru yn aml yn dod \u00e2 llawer o sgiliau, llawer o brofiad, amser a brwdfrydedd sydd o fudd i fudiadau.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Ymwybyddiaeth<\/h3>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"alignright size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Social-Prescribing-Digital-Learning-Manager-scaled-1-1024x683.jpg\" alt=\"Person yn ysgwyd llaw \u00e2 pherson arall ar draws desg yn ystod cyfarfod\" class=\"wp-image-22667\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Social-Prescribing-Digital-Learning-Manager-scaled-1-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Social-Prescribing-Digital-Learning-Manager-scaled-1-720x480.jpg 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Social-Prescribing-Digital-Learning-Manager-scaled-1-768x512.jpg 768w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Social-Prescribing-Digital-Learning-Manager-scaled-1-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Social-Prescribing-Digital-Learning-Manager-scaled-1-2048x1366.jpg 2048w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Social-Prescribing-Digital-Learning-Manager-scaled-1-360x240.jpg 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Social-Prescribing-Digital-Learning-Manager-scaled-1-1800x1200.jpg 1800w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/02\/Social-Prescribing-Digital-Learning-Manager-scaled-1-624x416.jpg 624w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Byddwch yn wybodus<\/strong> &#8211; Datblygwch ddiwylliant o groeso drwy ddarparu hyfforddiant i&#8217;r holl staff, ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr ynghylch ceisio noddfa, cynyddu dealltwriaeth ynghylch y broses loches, cydlyniant a chwalu mythau. Canfyddwch ragor o wybodaeth am gymorth arall er mwyn i chi allu cyfeirio at wasanaethau lleol.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Deall<\/strong> &#8211; Efallai bod llawer wedi ffoi rhag profiadau trawmatig neu erledigaeth a gallent fod yn wynebu prosesau cyfreithiol hir a chymhleth yma yn y DU. Mae bod yn ystyriol o drawma ac yn sensitif yn ddiwylliannol yn hanfodol i gydnabod heriau y gall gwirfoddolwyr eu hwynebu. Dathlu amrywiaeth, parchu ffiniau, ac osgoi rhagdybiaethau. Dylech gydnabod y gallai ansicrwydd cyfreithiol effeithio ar hwyliau eich gwirfoddolwr.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Byddwch yn groesawgar<\/h3>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Cr\u00ebwch amgylchedd cyfeillgar, parchus.<\/strong> Gwnewch yn glir eich bod yn croesawu pawb yn eich negeseuon recriwtio, gan gynnwys pobl sy&#8217;n dysgu Saesneg. Sicrhewch fod gwirfoddolwyr yn rhannu eu straeon dim ond os ydynt yn dewis gwneud hynny. Cofiwch fod cyfleoedd cyfnewid diwylliannol yn cyfoethogi&#8217;r t\u00eem ond heb roi pwysau ar unigolion.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><em>Ystyriwch y pethau ymarferol isod<\/em><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"creu-a-hysbysebu-rolau-priodol-ac-ystyrlon\">Creu a hysbysebu rolau priodol ac ystyrlon<\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cynigiwch rolau sy&#8217;n cyd-fynd \u00e2 sgiliau a diddordebau i wneud i wirfoddolwyr deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a\u2019u bod yn effeithiol.<\/li>\n\n\n\n<li>Negeseuon recriwtio \u2013 meddyliwch am ddefnyddio iaith glir ar hysbysebion a phosteri recriwtio gwirfoddolwyr. Bloeddiwch am eich diwylliant croesawgar a&#8217;ch dull hyblyg<\/li>\n\n\n\n<li>Darparwch amrywiaeth o rolau hyblyg addas.<\/li>\n\n\n\n<li>Cr\u00ebwch rolau pwrpasol lle bo angen a chaniat\u00e1u i wirfoddolwyr feithrin cyfrifoldebau.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"prosesau-recriwtio\">Prosesau recriwtio<\/h2>\n\n\n\n<p>Recriwtio yw&#8217;r cam cyntaf i wneud i wirfoddolwyr deimlo bod croeso iddynt. Mae proses glir, gefnogol a hygyrch yn helpu gwirfoddolwyr i deimlo\u2019n hyderus a\u2019u bod yn cael eu gwerthfawrogi.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Negeseuon recriwtio:<\/h3>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Byddwch yn glir ac yn dryloyw<\/strong> &#8211; Amlinellwch rolau, tasgau, ymrwymiadau amser, hyfforddiant a chefnogaeth.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Cefnogaeth gydag iaith<\/strong> &#8211; Defnyddiwch iaith syml, heb jargon, deunyddiau wedi&#8217;u cyfieithu, neu amser ychwanegol ar gyfer trafodaeth i wneud gwybodaeth yn hygyrch.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gwnewch y broses yn un groesawgar<\/strong> &#8211; Symleiddiwch geisiadau a chynnig sgyrsiau un-i-un neu sesiynau anffurfiol.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Annog cwestiynau<\/strong> &#8211; Sicrhewch wirfoddolwyr ei bod hi\u2019n iawn i beidio \u00e2 bod \u00e2 gwybodaeth am bopeth ar y dechrau.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"gwirio-hunaniaeth-gwiriadau-dbs-ac-asesu-risg\">Gwirio hunaniaeth, Gwiriadau DBS ac asesu risg<\/h2>\n\n\n\n<p>Efallai y bydd rhai ceiswyr noddfa yn cael trafferth darparu geirda lleol neu gwblhau gwiriadau safonol. Mae dull hyblyg, meddylgar yn helpu i osgoi eithrio gwirfoddolwyr parod yn anfwriadol.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Awgrymiadau:<\/h3>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Bod yn greadigol<\/strong>: Derbyniwch eirdaon tramor, cymuned, neu gymeriad.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Addasu i ofynion<\/strong>: Gofynnwch am wiriadau neu eirdaon sy&#8217;n hanfodol ar gyfer y r\u00f4l yn unig.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Cynnig dewisiadau amgen<\/strong>: Defnyddiwch broses gysgodi, cyfnodau prawf, neu gynllun cyfeillio i adeiladu ymddiriedaeth.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Cyfathrebu\u2019n agored<\/strong>: Esboniwch yn glir beth yw diben gwiriadau, mae&#8217;n ymwneud \u00e2 diogelu, nid gwahardd.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n\n\n<p>Trwy fabwysiadu dull hyblyg sy\u2019n canolbwyntio ar y person, gall mudiadau gynnig cyfleoedd i ystod ehangach o bobl, gan barhau i gynnal amgylcheddau gwirfoddoli diogel a chefnogol.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwiriadau DBS (gwasanaeth datgelu a gwahardd)<\/h3>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Mae tryloywder yn hanfodol<\/strong>. Bydd gan bob mudiad ei bolis\u00efau DBS ei hun, ond mae&#8217;n bwysig bod yn glir ac yn onest am y broses o&#8217;r cychwyn cyntaf.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Byddwch yn ymwybodol o drawma<\/strong>. Gall y broses DBS fod yn heriol i geiswyr noddfa, gan y gall sbarduno trawma o\u2019r gorffennol neu gynnwys biwrocratiaeth gymhleth sy\u2019n llawn straen. Pan fo&#8217;n bosibl, darparwch gefnogaeth sensitif i helpu i lywio&#8217;r broses.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Mae llwybrau amgen ar gael<\/strong>. Os nad oes gan geiswyr noddfa y dogfennau adnabod safonol sy&#8217;n ofynnol ar gyfer gwiriad DBS, efallai y byddant yn gallu defnyddio&#8217;r llwybr olion bysedd i gadarnhau eu hunaniaeth. Efallai y bydd llawer yn gyfarwydd \u00e2&#8217;r dull hwn ac yn barod i&#8217;w ddefnyddio wrth wneud cais am r\u00f4l.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Eglurwch beth yw diben gwiriadau hunaniaeth<\/strong>. Er y gofynnir i wirfoddolwyr ddarparu dogfennau adnabod at ddibenion DBS, dylai mudiadau roi sicrwydd i ymgeiswyr mai dim ond i gadarnhau hunaniaeth yw diben hyn, nid i wirio neu ddatgelu statws mewnfudo.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"hyfforddiant-cynefino-hygyrchedd-a-dealltwriaeth\">Hyfforddiant cynefino, hygyrchedd a dealltwriaeth<\/h2>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"alignright size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/10\/Trustees-week-1-1024x683.jpg\" alt=\"Gr\u0175p o bobl yn eistedd o amgylch bwrdd yn cydweithio ar ddogfennau yn ystod trafodaeth\" class=\"wp-image-21447\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/10\/Trustees-week-1-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/10\/Trustees-week-1-720x480.jpg 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/10\/Trustees-week-1-768x512.jpg 768w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/10\/Trustees-week-1-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/10\/Trustees-week-1-360x240.jpg 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/10\/Trustees-week-1-1800x1200.jpg 1800w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/10\/Trustees-week-1-624x416.jpg 624w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/10\/Trustees-week-1.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<p>Mae proses gynefino hygyrch, gynhwysol yn gosod y naws ar gyfer profiad gwirfoddoli cadarnhaol yn cefnogi amrywiaeth ac yn dangos bod cyfraniad pob gwirfoddolwr yn cael ei werthfawrogi.<\/p>\n\n\n\n<p>Trwy wneud hyfforddiant cynefino yn gynhwysol ac yn hygyrch, mae mudiadau&#8217;n dangos o&#8217;r cychwyn cyntaf bod cyfraniad pob gwirfoddolwr yn cael ei werthfawrogi. Mae hyn nid yn unig yn cefnogi ceiswyr noddfa i setlo yn eu r\u00f4l ond hefyd yn cryfhau diwylliant agored ac o amrywiaeth y mudiad.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Lleoliad hygyrch<\/strong> &#8211; Dewiswch leoliadau hawdd eu cyrraedd neu gynnig opsiynau teithio neu ar-lein.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Cyfathrebu clir<\/strong> &#8211; Defnyddiwch iaith syml gan osgoi jargon, a darparu cyfieithiadau neu gymorth gan gymheiriaid.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Cyflawni hyblyg<\/strong> &#8211; Cynigiwch sesiynau gr\u0175p, sesiynau un-i-un, neu systemau cyfeillio wrth gynefino.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Awyrgylch croesawgar<\/strong> &#8211; Cr\u00ebwch amgylchedd cyfeillgar, cefnogol lle mae gwirfoddolwyr yn teimlo&#8217;n gyfforddus wrth ofyn cwestiynau.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Ystyriwch gynnwys cynlluniau cyfeillio<\/strong> \u2013 gwirfoddolwyr profiadol i&#8217;w cefnogi. A oes yna wirfoddolwyr presennol sy&#8217;n siarad yr un iaith a fyddant yn gallu bod yn bartneriaid er mwyn helpu mynediad at yr wybodaeth a ddarperir a helpu gyda dealltwriaeth?<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"goruchwyliaeth\">Goruchwyliaeth<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae darparu cyfarfodydd gwirio byr cyfeillgar a rheolaidd, yn ffordd syml ond pwerus o ddod i adnabod eich gwirfoddolwyr a meithrin ymddiriedaeth. Mae&#8217;n gyfle i wirio bod gwirfoddolwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a&#8217;u cefnogi, a bod \u00e2 lefelau cymhelliant sy&#8217;n helpu eu cadw. Ar gyfer ceiswyr noddfa, a allai fod yn llywio drwy lawer o brofiadau newydd, gall y sgyrsiau hyn wneud gwahaniaeth mawr wrth adeiladu ymddiriedaeth a hyder.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gwnewch amser i bawb! Darparwch gyfarfodydd byr gyda&#8217;r holl wirfoddolwyr; cydnabod eu cyflawniadau a chynnig unrhyw hyfforddiant neu gymorth sydd ei angen. Cyfeiriwch at eraill os oes angen.<\/li>\n\n\n\n<li>Anogwch amgylchedd agored: Cr\u00ebwch le diogel ar gyfer cwestiynau neu bryderon.<\/li>\n\n\n\n<li>Gwiriwch i sicrhau bod gwirfoddolwyr wedi derbyn eu had-daliadau o dreuliau<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"ad-dalu-treuliau-enghraifft-o-arfer-da-a-mater-o-gydraddoldeb\">Ad-dalu treuliau &#8211; enghraifft o arfer da a mater o gydraddoldeb<\/h2>\n\n\n\n<p>Gall gwirfoddolwyr sy&#8217;n ceisio noddfa wynebu heriau ariannol penodol, felly mae&#8217;n bwysig gwneud ad-daliad treuliau yn syml, yn brydlon ac yn hyblyg. Ni ddylai unrhyw wirfoddolwr fyth fod allan o boced am roi eu hamser a&#8217;u sgiliau.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Ad-dalwch yn brydlon ac yn deg<\/strong>: Ad-dalwch gyda derbynneb bob amser gan osgoi oedi. Mae ad-daliad prydlon yn dangos parch.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Systemau hyblyg<\/strong>: Efallai nad oes gan lawer o geiswyr noddfa gyfrif banc eto, felly ystyriwch arian parod ar gyfer ad-daliadau llai, yr un diwrnod.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Amseru<\/strong>: Pan fo&#8217;n bosibl, ad-dalwch ar y diwrnod neu&#8217;n wythnosol yn hytrach na misol, gan helpu&#8217;r rhai ar incwm isel iawn.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Cymorth ymarferol<\/strong>: Darparwch fwyd mewn sesiynau neu docynnau teithio ymlaen llaw i leihau costau ymlaen llaw.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Byddwch yn gefnogol ac yn glir<\/strong>: Gwnewch yn si\u0175r bod gwirfoddolwyr yn deall y broses ac yn teimlo&#8217;n sicr na fyddant allan o boced.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae diwylliant o ad-daliadau i bob gwirfoddolwr, yn sicrhau bod eich mudiad yn deall gwir gost gwirfoddoli ac nad oes neb yn cael ei ystyried yn wahanol am wneud cais amdano.<\/p>\n\n\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"beth-yw-ceisiwr-lloches-ffoadur-a-mudwr\">Beth yw &#8216;ceisiwr lloches&#8217;, &#8216;ffoadur&#8217; a &#8216;mudwr&#8217;?<\/h2>\n\n\n\n<p><strong>Ceisiwr Lloches<\/strong> &#8211; Rhywun sydd wedi ffoi o&#8217;i wlad gartref ac sy&#8217;n ceisio amddiffyniad rhyngwladol. Yn y DU, nid yw&#8217;r rhan fwyaf o geiswyr lloches yn gallu gweithio ond caniateir iddynt wirfoddoli.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Ffoadur<\/strong> &#8211; Person y mae ei gais am loches wedi&#8217;i gymeradwyo o dan y Confensiwn Ffoaduriaid. Gall ffoaduriaid weithio, gwirfoddoli, a chael mynediad at wasanaethau fel dinasyddion y DU.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Mudwr<\/strong> &#8211; Rhywun sy&#8217;n dewis symud am resymau gwaith, astudio neu deuluol, yn hytrach na ffoi rhag erledigaeth. Mae mudwyr yn aml yn gweithio mewn sectorau allweddol a gallant wirfoddoli i ennill profiad. Gall mudwyr wirfoddoli fel arfer, ond mae&#8217;n arfer da gwirio amodau fisa<\/p>\n\n\n\n<p><strong>NRPF (Heb Hawl i Gyllid Cyhoeddus)<\/strong> &#8211; Ni all rhai sydd \u00e2 statws mewnfudo cyfyngedig gael mynediad at rai budd-daliadau gwladwriaethol neu dai, ond nid yw hyn yn effeithio ar gymhwysedd i wirfoddoli.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote has-text-align-right is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p class=\"has-text-align-left\">Bydd dod \u00e2 cheiswyr noddfa i&#8217;ch mudiad yn cyfoethogi safbwyntiau, yn meithrin cydlyniant diwylliannol, ac yn gwella amrywiaeth eich t\u00eem.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p>Mae sawl statws arall yn bodoli, fel Amddiffyniad Dyngarol, Cynlluniau Ailsefydlu, neu Absenoldeb yn \u00f4l Disgresiwn, ond caniateir gwirfoddoli ar draws pob categori.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd gwneud newidiadau tuag at well cynhwysiant ym maes recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr o fudd i bawb. Mae galluogi ceiswyr noddfa i wasanaethu fel gwirfoddolwyr yn fuddsoddiad nid yn unig yn nyfodol yr unigolyn ond yn nyfodol eich mudiad. Bydd dod \u00e2 cheiswyr noddfa i&#8217;ch mudiad yn cyfoethogi safbwyntiau, yn meithrin cydlyniant diwylliannol, ac yn gwella amrywiaeth eich t\u00eem. Gyda&#8217;n gilydd, gallwn adeiladu cymuned gryfach, fwy cynhwysol sy&#8217;n gwerthfawrogi ein dynoliaeth a rennir ac yn dathlu ein gwahaniaethau.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"mewnwelediadau-gan-wirfoddolwyr-a-mudiadau-syn-ymwneud-a-cheiswyr-lloches-a-ffoaduriaid\">Mewnwelediadau gan wirfoddolwyr a mudiadau sy&#8217;n ymwneud \u00e2 &#8216;cheiswyr lloches&#8217; a &#8216;ffoaduriaid&#8217;<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae pobl sy&#8217;n ceisio noddfa yng Nghymru yn aelodau gweithgar o gymunedau Cymreig sydd \u00e2 chymaint i&#8217;w roi, trwy eu croesawu i&#8217;n mudiadau fel gwirfoddolwyr, rydym yn adeiladu cymunedau cryfach, mwy cynhwysol lle gall pawb ffynnu.<\/p>\n\n\n\n<p><em>&#8220;Mae bod yn wirfoddolwr wedi fy helpu i ddysgu sgiliau gwerthfawr, cwrdd \u00e2 phobl, teimlo&#8217;n rhan o&#8217;r gymuned a&#8217;m cadw&#8217;n iach wrth fynd trwy&#8217;r cyfnod anodd hwn \u2013 diolch am fy helpu i deimlo fy mod yn cael fy nghroesawu a theimlo fy mod o ddefnydd!&#8221;<\/em> \u2013 <strong>Gwirfoddolwr Croeso Gwell i Abertawe<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><em>&#8220;Mae gwirfoddolwyr sydd \u00e2 phrofiad bywyd o chwilio am noddfa yn dod \u00e2 safbwyntiau a syniadau newydd, mae gweithio gyda&#8217;n gilydd yn ein helpu ni i gyd i ddeall a chefnogi ein gilydd yn well&#8221;<\/em> <strong>Hazel Nixon \u2013 Dinas Noddfa Abertawe<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><em>&#8220;Rydym yn ddiolchgar i&#8217;r ceiswyr noddfa sy&#8217;n gwirfoddoli gyda ni, nid yn unig am yr hyn maen nhw&#8217;n ei wneud yn y siop, ond hefyd am yr effaith maen nhw&#8217;n ei chael ar gymuned y siop, gan wneud ein siop yn lle mwy diddorol, bywiog ac amrywiol i gyd-wirfoddolwyr, cwsmeriaid a rhoddwyr fel ei gilydd.&#8221;<\/em> <strong>Phil Broadhurst, Rheolwr Siop, Oxfam, Abertawe.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"rhagor-o-wybodaeth\">Rhagor o wybodaeth<\/h2>\n\n\n\n<p><strong>Fusion Films yn cyflwyno &#8211; Sanctuary \u2013 Ffilm sy&#8217;n archwilio Abertawe fel Dinas Noddfa. <\/strong><br><a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=s2F2Eix6ZJc\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=s2F2Eix6ZJc<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Podlediad Croeso i Abertawe:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Welcome To Swansea\" width=\"640\" height=\"360\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/jo6vOgjK_6Y?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>EDI wrth Wirfoddoli <\/strong><br><a href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cydraddoldeb-amrywiaeth-a-chynhwysiant-mewn-gwirfoddoli\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Canllaw i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant i Reolwyr Gwirfoddolwyr<\/a><br><br><\/p>\n\n\t<\/div>\n\n\n\n<div class=\"col-12 col-md-3\">\n\t\t\t\n\n\t<\/div>\n\n<\/div>\n\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gall unigolion sy\u2019n geiswyr lloches neu\u2019n ffoaduriaid fod yn wirfoddolwyr rhagorol.<\/p>\n","protected":false},"author":1175,"featured_media":13520,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"ep_exclude_from_search":false,"footnotes":""},"categories":[760],"tags":[724],"class_list":["post-13512","resource","type-resource","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-gwirfoddoli","tag-volunteering","pillar-gwirfoddoli"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Cynnwys ceiswyr lloches a ffoaduriaid mewn gweithgareddau gwirfoddoli | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"A all ceiswyr lloches a ffoaduriaid wirfoddoli yng Nghymru? Mae cyngor ymarferol ar gael i Reolwyr Gwirfoddolwyr ar recriwtio cynhwysol, rheolau&#039;r Swyddfa Gartref, gwiriadau DBS a threuliau. Creu Cenedl Noddfa heddiw.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-ceiswyr-lloches-a-ffoaduriaid-mewn-gweithgareddau-gwirfoddoli\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Cynnwys ceiswyr lloches a ffoaduriaid mewn gweithgareddau gwirfoddoli | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"A all ceiswyr lloches a ffoaduriaid wirfoddoli yng Nghymru? Mae cyngor ymarferol ar gael i Reolwyr Gwirfoddolwyr ar recriwtio cynhwysol, rheolau&#039;r Swyddfa Gartref, gwiriadau DBS a threuliau. Creu Cenedl Noddfa heddiw.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-ceiswyr-lloches-a-ffoaduriaid-mewn-gweithgareddau-gwirfoddoli\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-06-16T08:44:41+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2022\/05\/Volunteering-scaled.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1707\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"11 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-ceiswyr-lloches-a-ffoaduriaid-mewn-gweithgareddau-gwirfoddoli\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-ceiswyr-lloches-a-ffoaduriaid-mewn-gweithgareddau-gwirfoddoli\/\",\"name\":\"Cynnwys ceiswyr lloches a ffoaduriaid mewn gweithgareddau gwirfoddoli | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-ceiswyr-lloches-a-ffoaduriaid-mewn-gweithgareddau-gwirfoddoli\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-ceiswyr-lloches-a-ffoaduriaid-mewn-gweithgareddau-gwirfoddoli\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2022\/05\/Volunteering-scaled.jpg\",\"datePublished\":\"2022-05-18T14:12:14+00:00\",\"dateModified\":\"2026-06-16T08:44:41+00:00\",\"description\":\"A all ceiswyr lloches a ffoaduriaid wirfoddoli yng Nghymru? Mae cyngor ymarferol ar gael i Reolwyr Gwirfoddolwyr ar recriwtio cynhwysol, rheolau'r Swyddfa Gartref, gwiriadau DBS a threuliau. Creu Cenedl Noddfa heddiw.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-ceiswyr-lloches-a-ffoaduriaid-mewn-gweithgareddau-gwirfoddoli\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-ceiswyr-lloches-a-ffoaduriaid-mewn-gweithgareddau-gwirfoddoli\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-ceiswyr-lloches-a-ffoaduriaid-mewn-gweithgareddau-gwirfoddoli\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2022\/05\/Volunteering-scaled.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2022\/05\/Volunteering-scaled.jpg\",\"width\":2560,\"height\":1707,\"caption\":\"Llun: gwirfoddoli\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-ceiswyr-lloches-a-ffoaduriaid-mewn-gweithgareddau-gwirfoddoli\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Cynnwys ceiswyr lloches a ffoaduriaid mewn gweithgareddau gwirfoddoli\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"description\":\"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"width\":512,\"height\":512,\"caption\":\"Hwb Gwybodaeth\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Cynnwys ceiswyr lloches a ffoaduriaid mewn gweithgareddau gwirfoddoli | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","description":"A all ceiswyr lloches a ffoaduriaid wirfoddoli yng Nghymru? Mae cyngor ymarferol ar gael i Reolwyr Gwirfoddolwyr ar recriwtio cynhwysol, rheolau'r Swyddfa Gartref, gwiriadau DBS a threuliau. Creu Cenedl Noddfa heddiw.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-ceiswyr-lloches-a-ffoaduriaid-mewn-gweithgareddau-gwirfoddoli\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Cynnwys ceiswyr lloches a ffoaduriaid mewn gweithgareddau gwirfoddoli | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","og_description":"A all ceiswyr lloches a ffoaduriaid wirfoddoli yng Nghymru? Mae cyngor ymarferol ar gael i Reolwyr Gwirfoddolwyr ar recriwtio cynhwysol, rheolau'r Swyddfa Gartref, gwiriadau DBS a threuliau. Creu Cenedl Noddfa heddiw.","og_url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-ceiswyr-lloches-a-ffoaduriaid-mewn-gweithgareddau-gwirfoddoli\/","og_site_name":"Hwb Gwybodaeth","article_modified_time":"2026-06-16T08:44:41+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1707,"url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2022\/05\/Volunteering-scaled.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"11 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-ceiswyr-lloches-a-ffoaduriaid-mewn-gweithgareddau-gwirfoddoli\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-ceiswyr-lloches-a-ffoaduriaid-mewn-gweithgareddau-gwirfoddoli\/","name":"Cynnwys ceiswyr lloches a ffoaduriaid mewn gweithgareddau gwirfoddoli | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","isPartOf":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-ceiswyr-lloches-a-ffoaduriaid-mewn-gweithgareddau-gwirfoddoli\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-ceiswyr-lloches-a-ffoaduriaid-mewn-gweithgareddau-gwirfoddoli\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2022\/05\/Volunteering-scaled.jpg","datePublished":"2022-05-18T14:12:14+00:00","dateModified":"2026-06-16T08:44:41+00:00","description":"A all ceiswyr lloches a ffoaduriaid wirfoddoli yng Nghymru? Mae cyngor ymarferol ar gael i Reolwyr Gwirfoddolwyr ar recriwtio cynhwysol, rheolau'r Swyddfa Gartref, gwiriadau DBS a threuliau. Creu Cenedl Noddfa heddiw.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-ceiswyr-lloches-a-ffoaduriaid-mewn-gweithgareddau-gwirfoddoli\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-ceiswyr-lloches-a-ffoaduriaid-mewn-gweithgareddau-gwirfoddoli\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-ceiswyr-lloches-a-ffoaduriaid-mewn-gweithgareddau-gwirfoddoli\/#primaryimage","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2022\/05\/Volunteering-scaled.jpg","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2022\/05\/Volunteering-scaled.jpg","width":2560,"height":1707,"caption":"Llun: gwirfoddoli"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cynnwys-ceiswyr-lloches-a-ffoaduriaid-mewn-gweithgareddau-gwirfoddoli\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Cynnwys ceiswyr lloches a ffoaduriaid mewn gweithgareddau gwirfoddoli"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","name":"Hwb Gwybodaeth","description":"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.","publisher":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization","name":"Hwb Gwybodaeth","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","width":512,"height":512,"caption":"Hwb Gwybodaeth"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/13512","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1175"}],"version-history":[{"count":19,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/13512\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":26134,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/13512\/revisions\/26134"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/13520"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=13512"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=13512"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=13512"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}