{"id":10747,"date":"2021-06-23T13:38:58","date_gmt":"2021-06-23T12:38:58","guid":{"rendered":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/?post_type=resource&#038;p=10747"},"modified":"2026-06-07T12:51:50","modified_gmt":"2026-06-07T11:51:50","slug":"polisi-disgyblu-ac-ymddygiad-cyflogeion","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-disgyblu-ac-ymddygiad-cyflogeion\/","title":{"rendered":"Polisi disgyblu ac ymddygiad cyflogeion (Templed)"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-bootstrap-blocks-container container mb-2\">\n\t\n<div class=\"wp-bootstrap-blocks-row row\">\n\t\n\n<div class=\"col-12 col-md-9\">\n\t\t\t\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Trosolwg<\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"#cyflwyniad\" type=\"internal\" id=\"#introduction\">Cyflwyniad<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#pwrpas\" type=\"internal\" id=\"#purpose\">Pwrpas<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#egwyddorion\" type=\"internal\" id=\"#principles\">Egwyddorion<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#atal-dros-dro\" type=\"internal\" id=\"#suspension\">Atal dros dro<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#ymchwiliadau\" type=\"internal\" id=\"#investigations\">Ymchwiliadau<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#trafodaeth-anffurfiol\" type=\"internal\" id=\"#informal-discussion\">Trafodaeth anffurfiol<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#gwrandawiad-disgyblu\" type=\"internal\" id=\"#disciplinary-hearing\">Gwrandawiad disgyblu<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#rhybuddion\" type=\"internal\" id=\"#warnings\">Rhybuddion<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#diswyddo\" type=\"internal\" id=\"#dismissal\">Diswyddo<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#cadarnhau-camau-disgyblu\" type=\"internal\" id=\"#confirmation-of-disciplinary-action\">Cadarnhau camau disgyblu<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#apeliadau\" type=\"internal\" id=\"#appeals\">Apeliadau<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#atodiad-1\" type=\"internal\" id=\"#appendix-1\">Atodiad 1<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#ymwadiad\">Ymwadiad<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"cyflwyniad\">Cyflwyniad<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae [ENW&#8217;R MUDIAD] wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau o safon uchel ac mae\u2019n disgwyl gwaith ac ymddygiad o safon uchel gan bob un o\u2019i gyflogeion.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"pwrpas\">Pwrpas<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r polisi hwn yn gymwys i\u2019r holl staff cyflogedig a\u2019i nod yw sicrhau triniaeth teg a chyson wrth ymdrin \u00e2 materion ymddygiad annerbyniol neu ymddygiad amhriodol. Os oes materion yn ymwneud ag ymddygiad, nod [ENW&#8217;R MUDIAD] yw annog gwelliant. Nodir safonau perfformiad ac ymddygiad disgwyliedig yn Atodiad 1, Ymddygiad Cyflogeion.<\/p>\n\n\n\n<p>Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod unrhyw gamau a gymerir o dan y weithdrefn hon yn deg, a bod cyflogeion yn cael cyfle i gyflwyno eu hachos ac apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad sy\u2019n annheg yn eu barn nhw.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"egwyddorion\">Egwyddorion<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae ein polisi disgyblu yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Caiff pob cyflogai ei hysbysu yngl\u0177n \u00e2\u2019r polisi disgyblu.<\/li>\n\n\n\n<li>Ni chymerir unrhyw gamau disgyblu yn erbyn unrhyw gyflogai nes bydd yr amgylchiadau wedi\u2019u hymchwilio\u2019n llawn.<\/li>\n\n\n\n<li>Ystyrir camau anffurfiol, lle y bo\u2019n briodol, i ddatrys problemau.<\/li>\n\n\n\n<li>Ymdrinnir \u00e2 materion disgyblu cyn gynted ag y bo modd, a gwneir pob ymdrech i gadw at y terfynau amser sydd yn y polisi hwn. Ni fydd y terfynau amser yn cael eu hymestyn oni bai bod y ddwy ochr yn cytuno.<\/li>\n\n\n\n<li>Hysbysir y cyflogai yngl\u0177n \u00e2 natur y g\u0175yn\/cwynion yn ei erbyn a rhoddir cyfle iddo gyflwyno\u2019i achos cyn gwneud unrhyw benderfyniad.<\/li>\n\n\n\n<li>Ym mhob cam o\u2019r weithdrefn, mae gan y cyflogai yr hawl i gael cydweithiwr neu gynrychiolydd undeb llafur o\u2019i ddewis gydag ef.<\/li>\n\n\n\n<li>Ni fydd cyflogai yn cael ei ddiswyddo am achos disgyblu cyntaf ac eithrio mewn achos o gamymddwyn difrifol. Bryd hynny, y gosb fydd diswyddo heb rybudd na th\u00e2l yn lle rhybudd.<\/li>\n\n\n\n<li>Gellir rhoi\u2019r weithdrefn ar waith unrhyw bryd os yw\u2019r camymddygiad honedig yn cyfiawnhau camau o\u2019r fath \u2013 nid yw \u201ctramgwydd\u201d cyntaf bob amser yn golygu bod angen rhybudd cyntaf.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae gan bob cyflogai hawl i apelio yn erbyn unrhyw gosb ddisgyblu.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"atal-dros-dro\">Atal dros dro<\/h2>\n\n\n\n<p>Mewn rhai achosion, efallai yr ystyrir bod angen atal cyflogai o\u2019i waith dros dro \u00e2 th\u00e2l. Nid yw atal dros dro yn rhan o gamau disgyblu. Rhaid hysbysu\u2019r cyflogai ei fod yn cael ei atal o\u2019r gwaith dros dro yn bersonol (wyneb yn wyneb, dros y ff\u00f4n neu ar-lein) a chaiff hyn ei gadarnhau yn ysgrifenedig cyn pen 5 diwrnod gwaith gan y rheolwr llinell perthnasol\/Cadeirydd y Pwyllgor.<\/p>\n\n\n\n<p>Dylid ystyried atal cyflogai dros dro os gallai presenoldeb parhaus yn y gwaith:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Beryglu diogelwch neu lesiant unrhyw fuddiolwr, cyflogai neu wirfoddolwr neu<\/li>\n\n\n\n<li>Dwys\u00e1u\u2019r tramgwydd honedig neu<\/li>\n\n\n\n<li>Rhoi\u2019r ymchwiliad mewn perygl neu ymyrryd \u00e2\u2019r ymchwiliad<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"ymchwiliadau\">Ymchwiliadau<\/h2>\n\n\n\n<p>Bydd [ENW&#8217;R MUDIAD] yn cynnal ymchwiliad i faterion disgyblu posibl er mwyn canfod ffeithiau\u2019r achos. Bydd y swyddog ymchwilio a enwebwyd yn llunio adroddiad yn nodi\u2019r honiadau, y canfyddiadau, ffeithiau perthnasol, casgliadau ac argymhellion.<\/p>\n\n\n\n<p>[Lle bo\u2019n ymarferol \u2013 <em>yn seiliedig ar faint a strwythur y mudiad<\/em>] Bydd gwahanol bobl yn cynnal yr ymchwiliad a\u2019r gwrandawiad disgyblu. Ni fydd cyfarfod ymchwilio ynddo\u2019i hun yn arwain at gamau disgyblu.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"trafodaeth-anffurfiol\">Trafodaeth anffurfiol<\/h2>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"alignright size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"624\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/02\/6-1024x624.jpg\" alt=\"Cyfarfod arfarnu\" class=\"wp-image-9445\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/02\/6-1024x624.jpg 1024w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/02\/6-720x438.jpg 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/02\/6-768x468.jpg 768w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/02\/6-360x219.jpg 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/02\/6-624x380.jpg 624w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/02\/6.jpg 1028w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<p>Mae\u2019r mudiad yn gyfrifol am fynd i\u2019r afael \u00e2 materion ymddygiad cyn gynted ag y bo modd ac am gymryd camau priodol. Lle bo\u2019n briodol, cymerir camau i ddatrys materion yn anffurfiol heb orfod defnyddio\u2019r weithdrefn ddisgyblu ffurfiol.<\/p>\n\n\n\n<p>Nod trafodaethau anffurfiol yw annog a helpu\u2019r cyflogai i wella. Dylai adborth fod yn adeiladol, a dylai ganolbwyntio ar ganfod ffyrdd sy\u2019n galluogi\u2019r cyflogai i ddatrys unrhyw ddiffygion.<\/p>\n\n\n\n<p>Os oes angen gwelliant, byddwn yn sicrhau bod y cyflogai yn deall beth sydd angen ei wneud, sut y bydd hyn yn cael ei adolygu a thros pa gyfnod. Byddwn yn monitro cynnydd y cyflogai tuag at wneud y gwelliannau angenrheidiol.<\/p>\n\n\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"gwrandawiad-disgyblu\">Gwrandawiad disgyblu<\/h2>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote has-text-align-right is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p class=\"has-text-align-left\">Caiff y cyflogai ei hysbysu yngl\u0177n \u00e2 chanlyniadau camymddwyn pellach, neu fethiant i wella perfformiad, o fewn y cyfnod penodedig.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p>Os penderfynir bod achos disgyblu i\u2019w ateb, caiff y cyflogai ei hysbysu am hyn yn ysgrifenedig. Bydd yr hysbysiad yn nodi amser a lleoliad y cyfarfod disgyblu, a bydd yn hysbysu\u2019r cyflogai bod ganddo hawl i gael rhywun gydag ef yn y cyfarfod. Caiff hysbysiad o wrandawiad disgyblu, a fydd yn cynnwys copi o adroddiad yr ymchwiliad a deunyddiau ategol, ei anfon 00 diwrnod gwaith cyn y gwrandawiad.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn y cyfarfod disgyblu, bydd Cadeirydd y panel yn egluro\u2019r g\u0175yn\/cwynion yn erbyn y cyflogai. Bydd yn gwahodd y swyddog ymchwilio i gyflwyno\u2019r adroddiad ac unrhyw dystiolaeth a gasglwyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Rhoddir cyfle i\u2019r cyflogai amlinellu ei achos ac ateb unrhyw honiadau a wnaethpwyd yn ei erbyn. Bydd y cyflogai yn cael cyfle rhesymol i ofyn cwestiynau, cyflwyno\u2019i dystiolaeth a galw tystion perthnasol.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l y cyfarfod disgyblu, bydd y panel yn penderfynu a ellir cyfiawnhau camau disgyblu, a pha fath o rybudd fydd yn cael ei roi, ac yna bydd yn hysbysu\u2019r cyflogai yn ysgrifenedig. Caiff camau disgyblu eu cadarnhau yn ysgrifenedig cyn pen 00 diwrnod gwaith ar \u00f4l y gwrandawiad.<\/p>\n\n\n\n<p>Caiff y cyflogai ei hysbysu yngl\u0177n \u00e2 chanlyniadau camymddwyn pellach, neu fethiant i wella perfformiad, o fewn y cyfnod penodedig.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd gweithred arall o gamymddwyn neu fethu \u00e2 gwella perfformiad o fewn cyfnod penodedig fel arfer yn arwain at rybudd ysgrifenedig terfynol. Os yw camymddygiad neu berfformiad anfoddhaol cyntaf y cyflogai yn ddigon difrifol, efallai y bydd yn briodol symud yn uniongyrchol at rybudd ysgrifenedig terfynol. Gallai hyn ddigwydd os yw gweithredoedd y cyflogai wedi cael effaith ddifrifol neu niweidiol ar y mudiad neu ei gleientiaid, neu os ydynt yn debygol o wneud hynny.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"rhybuddion\">Rhybuddion<\/h2>\n\n\n\n<p>Bydd rhybuddion sydd wedi\u2019u disbyddu yn cael eu tynnu o ffeiliau personol (papur ac electronig) ac yn cael eu dinistrio\/dileu yn unol \u00e2\u2019r amserlenni a nodir yn y polisi hwn.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Rhybudd ysgrifenedig cyntaf<\/h3>\n\n\n\n<p>Os nad yw ymddygiad neu berfformiad yn bodloni safonau derbyniol, bydd y cyflogai fel arfer yn cael rhybudd ysgrifenedig cyntaf, a fydd yn cael ei dynnu o\u2019i ffeil bersonol ac yn cael ei ddinistrio ar \u00f4l chwe mis. Caiff y cyflogai ei hysbysu, yn ysgrifenedig, bod hyn wedi digwydd.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Ail rybudd ysgrifenedig<\/h3>\n\n\n\n<p>Os nad yw ymddygiad neu berfformiad yn gwella ar \u00f4l rhybudd, neu os oes rhybudd cyntaf ar ffeil yn barod, neu os ystyrir bod y camymddwyn yn ddifrifol, rhoddir ail rybudd ysgrifenedig a fydd yn cael ei dynnu o\u2019r ffeil bersonol ac yn cael ei ddinistrio ar \u00f4l deuddeg mis. Caiff y cyflogai ei hysbysu, yn ysgrifenedig, bod hyn wedi digwydd.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Rhybudd ysgrifenedig terfynol<\/h3>\n\n\n\n<p>Os nad yw\u2019r ymddygiad neu\u2019r perfformiad yn gwella ar \u00f4l ail rybudd, neu os oes ail rybudd ar ffeil, neu os ystyrir bod y camymddwyn yn fwy difrifol, rhoddir rhybudd ysgrifenedig terfynol a fydd yn aros ar y ffeil bersonol am flwyddyn.<\/p>\n\n\n\n\n\n<p><em>Efallai y bydd adegau, gan ddibynnu ar ddifrifoldeb y camymddwyn, pan fydd yn briodol troi at y weithdrefn ar gam y rhybudd ysgrifenedig terfynol neu ystyried diswyddo. Nid yw \u2018tramgwydd\u2019 cyntaf bob amser yn golygu bod angen rhybudd cyntaf.<\/em><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-text-align-left\" id=\"diswyddo\">Diswyddo<\/h2>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"alignright size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/09\/Safeguarding-policy-assessment-1024x683.jpg\" alt=\"Dwylo person yn llenwi ffurflenni ar fwrdd\" class=\"wp-image-21313\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/09\/Safeguarding-policy-assessment-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/09\/Safeguarding-policy-assessment-720x480.jpg 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/09\/Safeguarding-policy-assessment-768x512.jpg 768w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/09\/Safeguarding-policy-assessment-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/09\/Safeguarding-policy-assessment-360x240.jpg 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/09\/Safeguarding-policy-assessment-1800x1200.jpg 1800w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/09\/Safeguarding-policy-assessment-624x416.jpg 624w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2025\/09\/Safeguarding-policy-assessment.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<p>Os nad yw ymddygiad neu berfformiad yn gwella ar \u00f4l rhybudd ysgrifenedig terfynol, neu os oes rhybudd terfynol ar ffeil yn barod, neu os oes camymddwyn difrifol, caiff cyflogai ei ddiswyddo.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd diswyddo ar \u00f4l rhoi rhybudd ysgrifenedig terfynol yn digwydd \u00e2 rhybudd neu d\u00e2l yn lle rhybudd. Ystyrir diswyddo am gamymddwyn difrifol yn ddiswyddo diannod, h.y. heb rybudd na th\u00e2l yn lle rhybudd.<\/p>\n\n\n\n<p>Dim ond rheolwr neu ymddiriedolwr sydd ag awdurdod i wneud hynny all wneud penderfyniad i ddiswyddo cyflogai. Dylid hysbysu\u2019r cyflogai cyn gynted ag y bo modd yngl\u0177n \u00e2\u2019r rhesymau dros ei ddiswyddo, y dyddiad y bydd y contract cyflogaeth yn dod i ben, y cyfnod priodol o rybudd a\u2019i hawl i apelio.<\/p>\n\n\n\n<p>Caiff rhai gweithredoedd eu hystyried yn gamymddwyn difrifol, ac maent mor ddifrifol ynddynt eu hunain, neu mae ganddynt ganlyniadau mor ddifrifol, fel y gallant alw am ddiswyddo heb rybudd am dramgwydd cyntaf.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"cadarnhau-camau-disgyblu\">Cadarnhau camau disgyblu<\/h2>\n\n\n\n<p>Caiff pob cam disgyblu ei gadarnhau yn ysgrifenedig; bydd y cadarnhad ysgrifenedig yn cynnwys y canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Natur yr honiad<\/li>\n\n\n\n<li>Y cam disgyblu y cytunwyd arno<\/li>\n\n\n\n<li>Canlyniad unrhyw weithred ganlynol o gamymddwyn yn ystod oes y rhybudd<\/li>\n\n\n\n<li>Y cyfnod y bydd y rhybudd yn aros ar y ffeil ac y gallai gael ei ystyried<\/li>\n\n\n\n<li>Hawl y cyflogai i apelio<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"apeliadau\">Apeliadau<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae gan bob cyflogai yr hawl i apelio yn erbyn unrhyw gosb ddisgyblu. Gwrandewir apeliadau heb oedi afresymol ar adeg y cytunir arni ac mewn man y cytunir arno. Dylid anfon unrhyw ap\u00eal at y Swyddog Disgyblu cyn pen <strong>__<\/strong> diwrnod gwaith ar \u00f4l i\u2019r cyflogai dderbyn y penderfyniad ysgrifenedig. Rhaid i\u2019r ap\u00eal nodi\u2019r rheswm dros apelio.<\/p>\n\n\n\n<p>Ymdrinnir \u00e2\u2019r ap\u00eal gan banel o bobl nad ydynt wedi bod yn rhan o\u2019r achos cyn hyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gan y cyflogai yr hawl statudol i gael rhywun gydag ef yn y cyfarfod ap\u00eal. Gall y cydymaith fod yn gydweithiwr neu gynrychiolydd undeb llafur o ddewis y cyflogai.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall y panel ap\u00eal roi ei benderfyniad ar lafar yn y cyfarfod a bydd yn cael ei gyfleu neu ei gadarnhau yn ysgrifenedig cyn pen 00 diwrnod gwaith ar \u00f4l y cyfarfod. Bydd penderfyniad y cyfarfod ap\u00eal yn derfynol ac ni fydd hawl fewnol bellach i apelio.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"atodiad-1\">Atodiad 1<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-text-align-left\">Ymddygiad cyflogai<\/h3>\n\n\n\n<p><em>Nid yw hon yn rhestr gyflawn \u2013 gwnewch yn si\u0175r eich bod yn cynnwys Rheolau sy\u2019n berthnasol i\u2019ch mudiad, eich buddiolwyr a natur eich gwaith.<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Mae [ENW&#8217;R MUDIAD] wedi nodi\u2019r rheolau disgyblu canlynol, sy\u2019n sefydlu safonau ar gyfer ymddygiad yn y gwaith. Mae\u2019r rheolau hyn yn gymwys i bob cyflogai. Nid ydynt yn gynhwysfawr, ond maent yn helpu i nodi naws gyffredinol ymddygiad derbyniol ac annerbyniol. Cyflwynir cyflogeion i\u2019r rheolau hyn yn ystod y cyfnod cynefino.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Cyswllt \u00e2 buddiolwyr ac aelodau o\u2019r cyhoedd<\/h4>\n\n\n\n<p>Disgwylir i bob cyflogai fod yn gwrtais, yn ystyriol ac yn broffesiynol wrth ymdrin \u00e2\u2019n buddiolwyr a\u2019r cyhoedd, ac i barchu cyfrinachedd.\u00a0<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Ymarfer Proffesiynol<\/h4>\n\n\n\n<p>Rhaid i gyflogeion weithredu er budd pennaf ein cleientiaid a\u2019r mudiad bob amser.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Presenoldeb<\/h4>\n\n\n\n<p>Ni ddylai unrhyw gyflogai fod yn absennol o\u2019r gwaith heb roi gwybod am hynny yn y dull arferol.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Ufuddhau i gyfarwyddiadau<\/h4>\n\n\n\n<p>Dylai cyflogeion ddilyn cyfarwyddiadau rheoli cyfreithlon a rhesymol bob amser.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Gofalu am eiddo<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae gan bob cyflogai ddyletswydd i ofalu am eiddo\u2019r mudiad, ac i roi gwybod ar unwaith am unrhyw beth sy\u2019n mynd ar goll neu sy\u2019n cael ei ddifrodi.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Iechyd a diogelwch<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae gan bob cyflogai ddyletswyddau o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith, a deddfwriaeth gysylltiedig, i sicrhau arferion gweithio diogel. Mae gwybodaeth bellach am gyfrifoldebau penodol i\u2019w gweld yn y Polisi Iechyd a Diogelwch. Ni ddylai staff dorri rheoliadau iechyd a diogelwch, gan gynnwys peidio \u00e2 rhoi gwybod am ddamwain.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Ysmygu, alcohol a chyffuriau heb fod ar bresgripsiwn<\/h4>\n\n\n\n<p>Ni chaniateir ysmygu ar y safle. Dylai pob cyflogai sicrhau nad yw byth yn dod i\u2019r gwaith mewn cyflwr amhriodol oherwydd ei fod wedi yfed alcohol neu gymryd cyffuriau nad ydynt ar bresgripsiwn.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Gwahaniaethu<\/h4>\n\n\n\n<p>Rhaid i gyflogeion ddangos parch at bobl ac ystyried eu hurddas bob amser. Ni ddylai cyflogeion wahaniaethu. Mae cyflogeion yn gyfrifol am hybu cydraddoldeb ac mae rhagor o wybodaeth i\u2019w gweld yn y Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Aflonyddu a bwlio<\/h4>\n\n\n\n<p>Ni ddylai cyflogeion aflonyddu ar gyflogeion neu wirfoddolwyr eraill na\u2019u bwlio. Mae rhagor o wybodaeth i\u2019w gweld yn y Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Priodoldeb ariannol<\/h4>\n\n\n\n<p>Disgwylir i gyflogeion ymddwyn yn briodol wrth ymdrin \u00e2 phob mater ariannol. Rhaid i roddion gael eu cofnodi yn y llyfr uniondeb a gedwir gan y Trysorydd.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Cydberthnasau yn y gweithle<\/h4>\n\n\n\n<p>Bydd y staff yn cadw at derfynau clir wrth ymwneud \u00e2 chleientiaid a gwirfoddolwyr, a byddant yn ymddwyn mewn ffyrdd sy\u2019n briodol i\u2019w swydd broffesiynol.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Diogelu\u00a0<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae pob aelod o staff yn gyfrifol am sicrhau diogelwch y plant a\u2019r oedolion mewn perygl y maent yn gweithio gyda nhw. Ni ddylai staff byth weithredu mewn ffyrdd sy\u2019n niweidio buddiolwyr nac yn eu rhoi mewn perygl o niwed. Cyfrifoldeb y staff yw lleihau\u2019r perygl o niwed drwy hybu arfer da a nodi risgiau posibl. Mae rhagor o wybodaeth i\u2019w gweld yn y Polisi Diogelu.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">E-bost corfforaethol a chyfryngau cymdeithasol<\/h4>\n\n\n\n<p>Rhaid i staff ddilyn ein canllawiau wrth bostio ar y cyfryngau cymdeithasol (Facebook, Twitter) ar ran y mudiad. Ni ddylai staff bostio unrhyw beth, na rhannu negeseuon, a fydd yn pardduo enw da\u2019r mudiad, y staff, gwirfoddolwyr neu gleientiaid.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Seiberddiogelwch<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r staff yn gyfrifol am gynnal diogelwch ein systemau TG a rhaid iddynt ddilyn yr holl ganllawiau yn ein gweithdrefnau TG. Ni ddylai staff rannu cyfrineiriau na chaniat\u00e1u mynediad i\u2019n systemau i unrhyw un y tu allan i\u2019r mudiad.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Ymddygiad anfoddhaol<\/h4>\n\n\n\n<p>Rhestrir enghreifftiau o ymddygiad anfoddhaol isod er gwybodaeth. Ni fwriadwyd i\u2019r rhestr hon gynnwys popeth:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Absenoldeb annerbyniol, di-sail, gormodol neu heb ei awdurdodi o\u2019r gwaith<\/li>\n\n\n\n<li>Defnydd gormodol o e-bost a ff\u00f4n symudol gwaith at ddefnydd personol<\/li>\n\n\n\n<li>Bod yn hwyr neu fethu \u00e2 chydymffurfio ag amseroedd gwaith<\/li>\n\n\n\n<li>Defnydd amhriodol o gyfarpar neu gyfleusterau<\/li>\n\n\n\n<li>Cyflwr neu ymddangosiad anfoddhaol yn ymwneud \u00e2 hylendid personol<\/li>\n\n\n\n<li>Torri polis\u00efau a gweithdrefnau [ENW&#8217;R MUDIAD] dro ar \u00f4l tro<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Ymddygiad y tu allan i\u2019r gwaith<\/h4>\n\n\n\n<p>Gallai cyflogai wynebu camau disgyblu am gamymddwyn y tu allan i\u2019r gwaith, e.e. lle mae ymddygiad cyflogai o flaen buddiolwyr neu mewn digwyddiad allanol yn adlewyrchu\u2019n wael ar y mudiad.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Camymddwyn difrifol<\/h4>\n\n\n\n<p>Y gosb am gamymddwyn difrifol yw diswyddo heb rybudd, a heb roi unrhyw rybudd blaenorol. Nid yw\u2019n bosibl rhoi rhestr gyflawn o enghreifftiau o gamymddwyn difrifol. Fodd bynnag, bydd unrhyw ymddygiad neu esgeulustod sy\u2019n arwain at achos sylfaenol o dorri telerau contract, sy\u2019n dinistrio\u2019r ymddiriedaeth a\u2019r hyder sydd ei angen er mwyn parhau \u00e2\u2019r berthynas waith, ac na ellir ei ddad-wneud, yn gamymddwyn difrifol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r enghreifftiau o dramgwyddau a fydd fel arfer yn cael eu hystyried yn gamymddwyn difrifol yn cynnwys achosion difrifol o:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Haerllugrwydd neu gam-drin geiriol eithafol<\/li>\n\n\n\n<li>Gweithredoedd difrifol o anufudd-dod, gwrthod yn fwriadol neu beidio \u00e2 dilyn cyfarwyddyd rhesymol<\/li>\n\n\n\n<li>Ymladd neu ymosod (digwyddiadau go iawn neu fygythiadau)<\/li>\n\n\n\n<li>Achosion difrifol o beidio \u00e2 chydymffurfio \u00e2\u2019r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth<\/li>\n\n\n\n<li>Aflonyddu neu fwlio difrifol<\/li>\n\n\n\n<li>Achosion difrifol o dorri rheoliadau diogelwch, peryglu eich hun neu bobl eraill, gan gynnwys peidio \u00e2 chydymffurfio \u00e2 rheolau diogelu, iechyd a diogelwch, a diogelwch TG<\/li>\n\n\n\n<li>Postio neu rannu sylwadau difr\u00efol neu sarhaus am y cwmni neu gydweithiwr ar y rhyngrwyd<\/li>\n\n\n\n<li>Difrod bwriadol i eiddo<\/li>\n\n\n\n<li>Esgeulustod difrifol sy\u2019n achosi difrod, anaf neu golled annerbyniol<\/li>\n\n\n\n<li>Achosion difrifol o dorri rheolau cyfrinachedd<\/li>\n\n\n\n<li>Dwyn, twyll neu ffugio cofnodion<\/li>\n\n\n\n<li>Ffugio hawliadau t\u00e2l (e.e. amserlenni, hawliadau treuliau, ac ati)<\/li>\n\n\n\n<li>Defnydd amhriodol neu heb ei awdurdodi, neu ddifrod neu esgeulustod i gerbydau, cyfarpar, cyfarpar diogelwch neu gyfrifiaduron<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"ymwadiad\">Ymwadiad<\/h2>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"alignright size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1800\" height=\"1200\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw.jpg\" alt=\"Pobl mewn cae yn edrych tua'r machlud haul\" class=\"wp-image-24064\" style=\"object-fit:cover\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw.jpg 1800w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw-720x480.jpg 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw-768x512.jpg 768w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw-360x240.jpg 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2026\/05\/tssw-624x416.jpg 624w\" sizes=\"auto, (max-width: 1800px) 100vw, 1800px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<p>Rhwydwaith o fudiadau cymorth i\u2019r trydydd sector cyfan yng Nghymru yw Cefnogi Trydydd Sector Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Ceir ynddo\u2019r 19 corff cymorth lleol a rhanbarthol ledled Cymru, y Cynghorau Gwirfoddol Sirol, a\u2019r corff cymorth cenedlaethol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC).<br>Am ragor o wybodaeth cysylltwch \u00e2<br><a href=\"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/cysylltu\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/cysylltu\/<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r wybodaeth a ddarperir yn y daflen hon ar gyfer cyfarwyddyd yn unig. Nid yw\u2019n amnewid am gyngor proffesiynol ac ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled o ganlyniad i unrhyw un sy\u2019n gweithredu neu\u2019n gwrthod gweithredu arno.<\/p>\n\n\t<\/div>\n\n\n\n<div class=\"col-12 col-md-3\">\n\t\t\t\n\n\t<\/div>\n\n<\/div>\n\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bwriadwyd yr enghraifft hon fel canllaw a dylid ei haddasu ar gyfer eich mudiad arbennig chi.<\/p>\n","protected":false},"author":1175,"featured_media":10743,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"ep_exclude_from_search":false,"footnotes":""},"categories":[759],"tags":[723,770],"class_list":["post-10747","resource","type-resource","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llywodraethu-da","tag-good-governance","tag-hr","pillar-llywodraethu-da"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Polisi disgyblu ac ymddygiad cyflogeion (Templed) | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Mae\u2019r polisi hwn yn gymwys i\u2019r holl staff cyflogedig a\u2019i nod yw sicrhau triniaeth teg a chyson wrth ymdrin \u00e2 materion ymddygiad annerbyniol neu ymddygiad amhriodol.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-disgyblu-ac-ymddygiad-cyflogeion\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Polisi disgyblu ac ymddygiad cyflogeion (Templed) | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae\u2019r polisi hwn yn gymwys i\u2019r holl staff cyflogedig a\u2019i nod yw sicrhau triniaeth teg a chyson wrth ymdrin \u00e2 materion ymddygiad annerbyniol neu ymddygiad amhriodol.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-disgyblu-ac-ymddygiad-cyflogeion\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-06-07T11:51:50+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/06\/pexels-christina-morillo-1181622-scaled.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1709\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"12 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-disgyblu-ac-ymddygiad-cyflogeion\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-disgyblu-ac-ymddygiad-cyflogeion\/\",\"name\":\"Polisi disgyblu ac ymddygiad cyflogeion (Templed) | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-disgyblu-ac-ymddygiad-cyflogeion\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-disgyblu-ac-ymddygiad-cyflogeion\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/06\/pexels-christina-morillo-1181622-scaled.jpg\",\"datePublished\":\"2021-06-23T12:38:58+00:00\",\"dateModified\":\"2026-06-07T11:51:50+00:00\",\"description\":\"Mae\u2019r polisi hwn yn gymwys i\u2019r holl staff cyflogedig a\u2019i nod yw sicrhau triniaeth teg a chyson wrth ymdrin \u00e2 materion ymddygiad annerbyniol neu ymddygiad amhriodol.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-disgyblu-ac-ymddygiad-cyflogeion\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-disgyblu-ac-ymddygiad-cyflogeion\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-disgyblu-ac-ymddygiad-cyflogeion\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/06\/pexels-christina-morillo-1181622-scaled.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/06\/pexels-christina-morillo-1181622-scaled.jpg\",\"width\":2560,\"height\":1709,\"caption\":\"Image: employee meeting\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-disgyblu-ac-ymddygiad-cyflogeion\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Polisi disgyblu ac ymddygiad cyflogeion (Templed)\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"description\":\"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"width\":512,\"height\":512,\"caption\":\"Hwb Gwybodaeth\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Polisi disgyblu ac ymddygiad cyflogeion (Templed) | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","description":"Mae\u2019r polisi hwn yn gymwys i\u2019r holl staff cyflogedig a\u2019i nod yw sicrhau triniaeth teg a chyson wrth ymdrin \u00e2 materion ymddygiad annerbyniol neu ymddygiad amhriodol.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-disgyblu-ac-ymddygiad-cyflogeion\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Polisi disgyblu ac ymddygiad cyflogeion (Templed) | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","og_description":"Mae\u2019r polisi hwn yn gymwys i\u2019r holl staff cyflogedig a\u2019i nod yw sicrhau triniaeth teg a chyson wrth ymdrin \u00e2 materion ymddygiad annerbyniol neu ymddygiad amhriodol.","og_url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-disgyblu-ac-ymddygiad-cyflogeion\/","og_site_name":"Hwb Gwybodaeth","article_modified_time":"2026-06-07T11:51:50+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1709,"url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/06\/pexels-christina-morillo-1181622-scaled.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"12 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-disgyblu-ac-ymddygiad-cyflogeion\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-disgyblu-ac-ymddygiad-cyflogeion\/","name":"Polisi disgyblu ac ymddygiad cyflogeion (Templed) | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","isPartOf":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-disgyblu-ac-ymddygiad-cyflogeion\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-disgyblu-ac-ymddygiad-cyflogeion\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/06\/pexels-christina-morillo-1181622-scaled.jpg","datePublished":"2021-06-23T12:38:58+00:00","dateModified":"2026-06-07T11:51:50+00:00","description":"Mae\u2019r polisi hwn yn gymwys i\u2019r holl staff cyflogedig a\u2019i nod yw sicrhau triniaeth teg a chyson wrth ymdrin \u00e2 materion ymddygiad annerbyniol neu ymddygiad amhriodol.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-disgyblu-ac-ymddygiad-cyflogeion\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-disgyblu-ac-ymddygiad-cyflogeion\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-disgyblu-ac-ymddygiad-cyflogeion\/#primaryimage","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/06\/pexels-christina-morillo-1181622-scaled.jpg","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/06\/pexels-christina-morillo-1181622-scaled.jpg","width":2560,"height":1709,"caption":"Image: employee meeting"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-disgyblu-ac-ymddygiad-cyflogeion\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Polisi disgyblu ac ymddygiad cyflogeion (Templed)"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","name":"Hwb Gwybodaeth","description":"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.","publisher":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization","name":"Hwb Gwybodaeth","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","width":512,"height":512,"caption":"Hwb Gwybodaeth"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/10747","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1175"}],"version-history":[{"count":15,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/10747\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":24848,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/10747\/revisions\/24848"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10743"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10747"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10747"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10747"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}