{"id":10434,"date":"2021-06-07T16:01:12","date_gmt":"2021-06-07T15:01:12","guid":{"rendered":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/?post_type=resource&#038;p=10434"},"modified":"2026-06-11T10:51:10","modified_gmt":"2026-06-11T09:51:10","slug":"polisi-a-gweithdrefn-mamolaeth-templed","status":"publish","type":"resource","link":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mamolaeth-templed\/","title":{"rendered":"Polisi a gweithdrefn mamolaeth (Templed)"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-bootstrap-blocks-container container mb-2\">\n\t\n<div class=\"wp-bootstrap-blocks-row row\">\n\t\n\n<div class=\"col-12 col-md-9\">\n\t\t\t\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Trosolwg<\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"#cyflwyniad\">Cyflwyniad<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#polisi-a-gweithdrefn-mamolaeth\">Polisi a gweithdrefn mamolaeth<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#newid-dyddiad-dechrau-absenoldeb-mamolaeth-arferol-oml\">Newid dyddiad dechrau absenoldeb mamolaeth arferol (OML)<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#genedigaethau-cynnar\">Genedigaethau cynnar<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#camesgoriad-marw-enedigaeth-a-marwolaeth-babi\">Camesgoriad, marw-enedigaeth a marwolaeth babi<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#hawliau-ychwanegol\">Hawliau ychwanegol<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"#buddion-cytundebol\">Buddion cytundebol<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"cyflwyniad\">Cyflwyniad<\/h2>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"alignright size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/05\/pexels-keira-burton-6624259-1024x683.jpg\" alt=\"Oedolyn a phlentyn yn chwarae gyda theganau ar y llawr\" class=\"wp-image-9963\" srcset=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/05\/pexels-keira-burton-6624259-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/05\/pexels-keira-burton-6624259-720x480.jpg 720w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/05\/pexels-keira-burton-6624259-768x512.jpg 768w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/05\/pexels-keira-burton-6624259-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/05\/pexels-keira-burton-6624259-2048x1365.jpg 2048w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/05\/pexels-keira-burton-6624259-360x240.jpg 360w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/05\/pexels-keira-burton-6624259-1800x1200.jpg 1800w, https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/05\/pexels-keira-burton-6624259-624x416.jpg 624w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<p>Dylai mudiadau gael polisi sy\u2019n nodi hawliau cyflogai beichiog i gael absenoldeb mamolaeth a th\u00e2l mamolaeth, gan ystyried hawliau statudol gofynnol yn ogystal \u00e2 threfniadau yn ystod y beichiogrwydd ac ar \u00f4l hynny. Ni ddylai cyflogwr achosi i gyflogai wynebu anfantais na\u2019i diswyddo am reswm sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 beichiogrwydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gan gyflogeion beichiog bedair prif hawl gyfreithiol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Amser i ffwrdd \u00e2 th\u00e2l ar gyfer gofal cynenedigol<\/li>\n\n\n\n<li>Absenoldeb mamolaeth<\/li>\n\n\n\n<li>T\u00e2l mamolaeth neu lwfans mamolaeth<\/li>\n\n\n\n<li>Amddiffyniad rhag triniaeth annheg, gwahaniaethu neu ddiswyddo<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r polisi enghreifftiol canlynol yn ystyried darpariaethau Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996, Rheoliadau Absenoldeb Mamolaeth a Rhiant etc 1999, Rheoliadau T\u00e2l Mamolaeth Statudol (Cyffredinol) 1986, Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 a Deddf Cydraddoldeb 2010. Fe\u2019i darperir fel canllaw yn unig ac ni ddylid ystyried ei fod yn ddatganiad awdurdodol o\u2019r gyfraith.<\/p>\n\n\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-text-align-left\" id=\"polisi-a-gweithdrefn-mamolaeth\">Polisi a gweithdrefn mamolaeth<\/h2>\n\n\n\n<p>Polisi [ENW\u2019R MUDIAD] yw cydymffurfio \u00e2 llythyren ac ysbryd y gyfraith mewn perthynas \u00e2 hawliau mamolaeth. At y diben hwn, ei nod yw hysbysu cyflogeion am eu hawliau mamolaeth statudol a sicrhau bod cyflogeion cymwys yn deall yr hawliau hynny.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gan bob cyflogai beichiog, ni waeth pa mor hir y mae wedi gweithio i [ENW\u2019R MUDIAD] yr hawl i gael y canlynol:<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">1. Absenoldeb mamolaeth gorfodol (cml)<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n rhaid i gyflogai, o dan y gyfraith, gymryd pythefnos o absenoldeb mamolaeth ar \u00f4l rhoi genedigaeth. Ni chaiff cyflogai ddychwelyd i\u2019r gwaith yn ystod y pythefnos yma.<br><em>(Noder, mae\u2019r cyfnod CLM yn 4 wythnos ar gyfer gweithwyr ffatri)<\/em><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">2. Absenoldeb mamolaeth statudol (sml)<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae Absenoldeb Mamolaeth Statudol yn 52 wythnos. Mae gan bob cyflogai beichiog yr hawl i gael cyfnod o 26 wythnos o Absenoldeb Mamolaeth Arferol (OML), sy\u2019n cynnwys y 2 wythnos o CML, a 26 wythnos o Absenoldeb Mamolaeth Ychwanegol (AML), ni waeth pa mor hir y mae wedi gweithio i\u2019r mudiad na faint o oriau a weithiwyd bob wythnos.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall cyflogai ddewis pryd y bydd yn dechrau ar ei OML, a gall dewis gweithio hyd at yr adeg y caiff y babi ei eni. Fodd bynnag, ni all cyflogai ddechrau OML cyn dechrau\u2019r 11eg wythnos cyn y dyddiad y disgwylir i\u2019r babi gael ei eni. Os caiff y babi ei eni cyn y disgwylir i OML ddechrau, bydd OML yn dechrau\u2019n awtomatig ar y diwrnod ar \u00f4l yr enedigaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer hyn, mae\u2019n rhaid i\u2019r cyflogai hysbysu [NODWCH BWY] heb fod yn hwyrach na\u2019r 15fed wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i\u2019r babi gael ei eni (neu cyn gynted ag sy\u2019n rhesymol ymarferol ar \u00f4l hynny) am y canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ei bod yn feichiog; gellir gwneud hynny ar lafar neu\u2019n ysgrifenedig<\/li>\n\n\n\n<li>Yr wythnos y disgwylir i\u2019r babi gael ei eni ar ffurf tystysgrif mamolaeth (ffurflen MAT B1) sydd ar gael gan fydwraig neu feddyg y cyflogai<\/li>\n\n\n\n<li>Y dyddiad y mae\u2019n bwriadu dechrau ei chyfnod o OML; gellir gwneud hynny ar lafar neu\u2019n ysgrifenedig (y cynharaf yw 11 wythnos cyn y dyddiad y disgwylir i\u2019r babi gael ei eni)<\/li>\n\n\n\n<li>Gall cyflogeion cymwys sy\u2019n rhieni ddewis cymryd absenoldeb yn hyblyg a\/neu rannu absenoldeb gyda\u2019u partner yn ystod blwyddyn gyntaf bywyd eu plentyn. Bydd hyn yn golygu bod y fam yn gorffen ei SML ac yn optio i mewn i Absenoldeb Rhiant a Rennir. Gellir cael rhagor o fanylion gan [NODWCH BWY].<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-text-align-left\" id=\"newid-dyddiad-dechrau-absenoldeb-mamolaeth-arferol-oml\">Newid dyddiad dechrau absenoldeb mamolaeth arferol (OML)<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae gan y cyflogai yr hawl i newid dyddiad dechrau ei OML cyn belled \u00e2\u2019i bod yn rhoi o leiaf 28 diwrnod o rybudd ysgrifenedig (neu cyn gynted ag sy\u2019n rhesymol arferol ar \u00f4l hynny) i [NODWCH BWY] o naill ai\u2019r dyddiad dechrau newydd neu\u2019r dyddiad dechrau gwreiddiol (pa un bynnag sydd gynharaf). Yna, bydd y mudiad yn cadarnhau\u2019r dyddiad newydd ar gyfer dychwelyd i\u2019r gwaith.<\/p>\n\n\n\n<p>Os bydd y cyflogai yn absenoldeb o\u2019r gwaith am reswm sy\u2019n gysylltiedig \u00e2\u2019i beichiogrwydd unrhyw bryd yn ystod y pedair wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i\u2019r babi gael ei eni, bydd absenoldeb a th\u00e2l mamolaeth y cyflogai yn dechrau\u2019n awtomatig ar ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb salwch.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-text-align-left\" id=\"genedigaethau-cynnar\">Genedigaethau cynnar<\/h2>\n\n\n\n<p>Pan fo\u2019r babi yn cael ei eni cyn y dyddiad y bwriedir dechrau\u2019r absenoldeb mamolaeth, bydd yr absenoldeb a\u2019r t\u00e2l mamolaeth yn dechrau\u2019n awtomatig ar y diwrnod ar \u00f4l yr enedigaeth. Mae\u2019n rhaid i\u2019r cyflogai hysbysu [NODWCH BWY] ynghylch pryd y rhoddwyd genedigaeth cyn gynted ag sy\u2019n rhesymol ymarferol. Gellir gwneud hyn ar lafar neu\u2019n ysgrifenedig drwy ddarparu ffurflen MAT B2.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-text-align-left\" id=\"camesgoriad-marw-enedigaeth-a-marwolaeth-babi\">Camesgoriad, marw-enedigaeth a marwolaeth babi<\/h2>\n\n\n\n<p>Camesgoriad yw pan fo babi yn cael ei eni\u2019n farw cyn diwedd y 24ain wythnos o feichiogrwydd. Nid oes gan gyflogai sy\u2019n dioddef camesgoriad yr hawl i gael Absenoldeb Mamolaeth Statudol na Th\u00e2l Mamolaeth Statudol.<\/p>\n\n\n\n<p>Marw-enedigaeth yw pan fo babi yn cael ei eni\u2019n farw yn ystod neu ar \u00f4l y 25ain wythnos o feichiogrwydd. Mae gan gyflogai y mae ei babi yn cael ei eni\u2019n farw yr hawl i gael Absenoldeb Mamolaeth Statudol ac efallai y bydd ganddi\u2019r hawl i gael T\u00e2l Mamolaeth Statudol. Mae gan gyflogai y mae ei babi yn cael ei eni\u2019n fyw ar unrhyw gam o\u2019r beichiogrwydd ond sydd wedyn yn marw (marwolaeth newyddenedigol) yr hawl i gael Absenoldeb Mamolaeth Statudol ac efallai y bydd ganddi\u2019r hawl i gael T\u00e2l Mamolaeth Statudol.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">3. Amser i ffwrdd \u00e2 th\u00e2l ar gyfer gofal cynenedigol<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae gan bob cyflogai beichiog yr hawl i gael amser i ffwrdd \u00e2 th\u00e2l i fynd i apwyntiadau gofal cynenedigol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae apwyntiadau cynenedigol yn cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Apwyntiadau meddygol sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 beichiogrwydd<\/li>\n\n\n\n<li>Dosbarthiadau ar gyfer iechyd, ffitrwydd neu ymlacio sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 beichiogrwydd<\/li>\n\n\n\n<li>Sesiynau sy\u2019n cefnogi iechyd meddwl a lles yr unigolyn<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae amser i ffwrdd \u00e2 th\u00e2l ar gyfer apwyntiadau cynenedigol yn cynnwys amser teithio. Mae\u2019n rhaid i\u2019r cyflogai ddarparu tystiolaeth bod yr apwyntiad wedi\u2019i drefnu, fel cerdyn apwyntiad. Nid oes rhaid iddi ddarparu tystiolaeth ar gyfer ei hapwyntiad gofal cynenedigol cyntaf.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-text-align-left\" id=\"hawliau-ychwanegol\">Hawliau ychwanegol<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">4. T\u00e2l mamolaeth statudol (SMP)<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae gan gyflogai yr hawl i gael SMP ar yr amod:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ei bod wedi\u2019i chyflogi\u2019n barhaus gan [ENW\u2019R MUDIAD] am o leiaf 26 wythnos erbyn diwedd y 15fed wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i\u2019r babi gael ei eni<\/li>\n\n\n\n<li>Nad yw ei henillion gros (enillion cyn didynnu treth ac Yswiriant Gwladol) yn is na\u2019r terfyn enillion isaf a bennir gan y Llywodraeth bob blwyddyn dreth (\u00a3125 yn 2025\/2026)<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Telir SMP am 39 wythnos ar y cyfraddau canlynol<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-table\"><table class=\"has-fixed-layout\"><tbody><tr><td><strong>6 wythnos gyntaf<\/strong><\/td><td>90% o enillion wythnosol cyfartalog y cyflogai<\/td><\/tr><tr><td><strong>Y 33 wythnos ddilynol<\/strong><\/td><td>\u00a3187.18 (o fis Ebrill 2025) neu 90% o\u2019ch enillion wythnosol cyfartalog (pa un bynnag sydd isaf) am y 33 wythnos ddilynol<\/td><\/tr><tr><td><strong>Wythnos 40 i 52<\/strong><\/td><td>Dim t\u00e2l<\/td><\/tr><\/tbody><\/table><\/figure>\n\n\n\n<p>Telir SMP i gyflogeion cymwys cyn gynted ag y byddant yn dechrau eu Habsenoldeb Mamolaeth Arferol (OML). Mae taliadau SMP yn destun didyniadau treth ac Yswiriant Gwladol. Bydd SMP yn cael ei dalu yn yr un ffordd \u00e2 thaliadau cyflog.<\/p>\n\n\n\n<p>Efallai y bydd gan gyflogeion nad ydynt yn gymwys i gael SMP hawl i gael Lwfans Mamolaeth (MA).<br><a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/maternity-pay-leave\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/www.gov.uk\/maternity-pay-leave<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>[EFALLAI Y BYDD MUDIADAU SY\u2019N CYNNIG T\u00c2L MAMOLAETH SY\u2019N UWCH NA\u2019R LEFEL STATUDOL EISIAU NODI HYNNY YMA]<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">5. Gweithio yn ystod absenoldeb mamolaeth (diwrnodau cadw mewn cysylltiad)<\/h3>\n\n\n\n<p>Gall cyflogeion sydd ar Absenoldeb Mamolaeth weithio hyd at ddeg diwrnod yn ystod eu SML heb i hynny effeithio ar eu yr hawl i gael SMP. Gellir defnyddio\u2019r diwrnodau yma, a elwir yn ddiwrnodau \u2018Cadw mewn Cysylltiad\u2019 neu ddiwrnodau \u2018KIT\u2019 ar gyfer unrhyw waith a gwblheir o dan gontract cyflogaeth y cyflogai, hyfforddiant neu unrhyw weithgaredd a wneir at ddibenion cadw mewn cysylltiad \u00e2\u2019r gweithle. Rhaid cytuno ar y cyflog a delir i\u2019r cyflogai ar y cyd. Rhaid trafod a chytuno ymlaen llaw gyda [NODWCH BWY E.E. RHEOLWR LLINELL\/RHEOLWR ADNODDAU DYNOL] ynghylch y math o waith a fydd yn cael ei wneud.<\/p>\n\n\n\n<p>Nid oes unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol i wneud unrhyw daliad ar ddiwrnod KIT (ar wah\u00e2n i unrhyw SMP neu MA sy\u2019n daladwy), ond fel arfer bydd cyflogeion yn cael y cyflog a delir iddynt fel arfer am unrhyw oriau y maent yn gweithio ar ddiwrnod KIT. Dylech nodi\u2019n glir a yw\u2019r taliad hwnnw\u2019n cynnwys unrhyw SMP neu MA sy\u2019n daladwy neu\u2019n ychwanegol at hynny).<\/p>\n\n\n\n<p>Ni all [ENW\u2019R MUDIAD] fynnu bod y cyflogai yn cwblhau unrhyw waith yn ystod ei habsenoldeb mamolaeth a chaiff y cyflogai ei hamddiffyn rhag wynebu anfantais neu gael ei diswyddo o ganlyniad i wrthod cwblhau diwrnod KIT. Yn yr un modd, ni all cyflogai fynnu ei bod yn gweithio diwrnod KIT ar unrhyw adeg yn ystod ei habsenoldeb mamolaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>At ddiben y weithdrefn hon, bydd rhan o ddiwrnod neu ddiwrnod cyfan yn cyfrif fel un diwrnod KIT. Ni fydd absenoldeb mamolaeth cyflogai yn cael ei ymestyn os defnyddir diwrnod KIT.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">6. Cysylltiad rhesymol<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae gan y cyflogai a\u2019i [NODWCH BWY E.E. RHEOLWR LLINELL\/RHEOLWR ADNODDAU DYNOL] yr hawl i wneud \u2018cysylltiad rhesymol\u2019 \u00e2\u2019i gilydd yn ystod y cyfnod o absenoldeb mamolaeth. Yn ystod y cyfnod o absenoldeb mamolaeth, mae gan y cyflogai yr hawl i gael ei hysbysu am faterion fel swyddi gwag, datblygiadau arwyddocaol yn y gweithle a chyfleoedd hyfforddiant. Nid yw cysylltiad rhesymol yn cyfrif tuag at y 10 diwrnod KIT ac nid yw ychwaith yn dod \u00e2\u2019r cyfnod o absenoldeb mamolaeth i ben.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-text-align-left\" id=\"buddion-cytundebol\">Buddion cytundebol<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">7. Gwyliau blynyddol<\/h3>\n\n\n\n<p>Yn ystod Absenoldeb Mamolaeth Arferol (OML)ac Absenoldeb Mamolaeth Ychwanegol (AML), bydd y cyflogai yn parhau i gronni gwyliau blynyddol yn union fel petai yn y gwaith. [DYLID NODI PRYD MAE\u2019R BLWYDDYN GWYLIAU BLYNYDDOL YN DECHRAU]. Dylai cyflogeion anelu at gymryd gwyliau blynyddol yn ystod y flwyddyn y mae\u2019r gwyliau wedi cronni ynddi ond, os nad yw hyn yn bosibl, gall unrhyw ddiwrnodau nas defnyddiwyd eu cario ymlaen i\u2019r flwyddyn wyliau nesaf. [DYLID NODI\u2019R RHEOLAU YNGHYLCH CARIO GWYLIAU BLYNYDDOL YMLAEN I\u2019R FLWYDDYN WYLIAU NESAF e.e. gallech nodi bod yn rhaid i unrhyw ddiwrnodau o wyliau blynyddol a gaiff eu cario ymlaen eu cymryd yn syth ar ddiwedd y cyfnod SML].<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">8. Cyfraniadau pensiwn<\/h3>\n\n\n\n<p>Os yw cyflogai yn gwneud cyfraniad i gronfa bensiwn, mae\u2019n rhaid iddi barhau i wneud taliadau yn union fel petai hi\u2019n cael cyflog llawn. Dylid nodi hynny yma.<\/p>\n\n\n\n<p>Dylid nodi gwybodaeth am gyfraniad unigol y cyflogai yma e.e. beth ddylai\u2019r cyflogai ei wneud os yw\u2019n dymuno rhoi\u2019r gorau i\u2019w chyfraniadau dros dro yn ystod ei habsenoldeb mamolaeth.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">9. Codiadau cyflog<\/h3>\n\n\n\n<p>Bydd yn rhaid i unrhyw godiadau cyflog a ddyfernir yn ystod y cyfnod OML neu AML ddod i rym pan fydd y cyflogai yn dychwelyd i\u2019r gwaith.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">10. Cyfleoedd hyfforddi a datblygu<\/h3>\n\n\n\n<p>Rhaid hysbysu cyflogeion sydd ar absenoldeb mamolaeth am unrhyw gyfleoedd hyfforddi neu ddatblygu.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">11. Cyfnod gwasanaeth parhaus<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae cyfnod OML cyflogai yn cyfrif tuag at ei gwasanaeth parhaus, a bydd felly yn cyfrif tuag at yr asesiad o lefel swydd a hawliau pensiwn.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">12. Hysbysu am hawliau statudol<\/h3>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l derbyn hysbysiad o feichiogrwydd gan gyflogai, bydd y [NODWCH BWY E.E. RHEOLWR LLINELL\/RHEOLWR ADNODDAU DYNOL] yn hysbysu\u2019r cyflogai yn ysgrifenedig o fewn 28 diwrnod, neu cyn gynted ag sy\u2019n rhesymol ymarferol, am ei hawliau mamolaeth statudol a phryd y disgwylir iddi ddychwelyd o absenoldeb mamolaeth.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">13. Asesiadau risg<\/h3>\n\n\n\n<p>Bydd [ENW\u2019R MUDIAD] yn sicrhau bod asesiad risg yn cael ei gynnal er mwyn asesu unrhyw risgiau posibl i bob mam newydd neu fam feichiog, neu famau sydd wedi hysbysu [ENW\u2019R MUDIAD] eu bod yn bwydo ar y fron.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd [ENW\u2019R MUDIAD] yn sicrhau bod yr asesiad risg yn benodol i\u2019w swydd, a bydd yn ystyried ei phryderon ei hun a phryderon ei hymarferydd meddygol neu ymarferydd iechyd. Bydd nodyn am yr asesiad ac unrhyw gamau a gymerir yn cael eu cofnodi a\u2019u cadw yn ffeil person\u00e9l y cyflogai.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">14. Dychwelyd i\u2019r gwaith ar \u00f4l absenoldeb mamolaeth<\/h3>\n\n\n\n<p>Rhaid i gyflogeion ddychwelyd i\u2019r un r\u00f4l neu r\u00f4l gyfatebol gyda\u2019r un telerau ac amodau oni fydd swyddi yn cael eu dileu.<\/p>\n\n\n\n<p>Nid oes yn rhaid i\u2019r cyflogai roi rhybudd ymlaen llaw i [ENW\u2019R MUDIAD] am ei bwriad i ddychwelyd i\u2019r gwaith ar ddiwedd ei habsenoldeb mamolaeth. Tybir y bydd y cyflogai yn dychwelyd i\u2019r gwaith ar y dyddiad y nododd [ENW\u2019R MUDIAD] y byddai\u2019r cyfnod o absenoldeb mamolaeth yn dod i ben.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n rhaid i gyflogeion sydd eisiau dychwelyd yn gynnar o absenoldeb mamolaeth roi o leiaf 8 wythnos o rybudd i [NODWCH BWY E.E. RHEOLWR LLINELL\/RHEOLWR ADNODDAU DYNOL] am eu dyddiad dychwelyd. Os na fyddant yn rhoi 8 wythnos o rybudd, mae gan [ENW\u2019R MUDIAD] yr hawl i ohirio\u2019r dyddiad dychwelyd tan bod 8 wythnos wedi mynd heibio, neu, tan y dyddiad dychwelyd gwreiddiol (pa un bynnag sy\u2019n digwydd gyntaf).<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gan y cyflogai sy\u2019n dychwelyd i\u2019r gwaith ar \u00f4l OML yr hawl i ddychwelyd i\u2019r swydd yr oedd ganddi cyn yr absenoldeb, gyda\u2019r un telerau ac amodau cyflogaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gan y cyflogai sy\u2019n dychwelyd i\u2019r gwaith ar \u00f4l AML yr hawl i ddychwelyd i\u2019r un swydd yr oedd ganddi cyn yr absenoldeb, gyda\u2019r un telerau ac amodau cyflogaeth, oni bai nad yw\u2019n rhesymol ymarferol, ac os felly dylai ddychwelyd i swydd arall sy\u2019n addas ar ei chyfer ac yn briodol iddi o dan yr amgylchiadau, ar delerau nad ydynt yn llai ffafriol na\u2019r swydd wreiddiol.\u00a0<\/p>\n\n\n\n<p>(Noder, ar \u00f4l i\u2019r cyflogai ddychwelyd o absenoldeb mamolaeth, dylid cynnal cyfarfod gyda\u2019r cyflogai er mwyn trafod unrhyw newidiadau sydd wedi digwydd yn ystod ei habsenoldeb. Bydd hyn yn gyfle i drafod unrhyw faterion mewn perthynas \u00e2 bwydo ar y fron. Dylid annog y cyflogai i ofyn unrhyw gwestiwn neu fynegi unrhyw bryder yn y cyfarfod hwn).<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">15. Hawl i wneud cais am batrymau gweithio hyblyg<\/h3>\n\n\n\n<p>O ddiwrnod cyntaf ei gyflogaeth, mae gan unrhyw gyflogai yr hawl i ofyn am batrymau gweithio hyblyg. Bydd [ENW\u2019R MUDIAD] yn ystyried ceisiadau o\u2019r fath o ddifrif yn unol \u00e2 deddfwriaeth.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">16. Methu dychwelyd ar \u00f4l absenoldeb mamolaeth<\/h3>\n\n\n\n<p>Os bydd y cyflogai yn rhy s\u00e2l i ddychwelyd i\u2019r gwaith yn dilyn absenoldeb mamolaeth, bydd Polisi Salwch ac Absenoldeb [ENW\u2019R MUDIAD] yn gymwys.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">17. Dileu swyddi<\/h3>\n\n\n\n<p>Ni fydd [ENW\u2019R MUDIAD] yn dileu swydd cyflogai am gymryd absenoldeb mamolaeth neu am wneud cais am batrwm gweithio hyblyg er mwyn gofalu am ei phlentyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gan gyflogeion yr hawl i gael cynnig unrhyw swydd amgen addas (pan fo un ar gael) os c\u00e2nt eu dewis ar gyfer dileu swydd (hyd yn oed os bydd cydweithwyr eraill yn fwy addas ar gyfer y r\u00f4l honno) tra eu bod ar gyfnod mamolaeth, mabwysiadu neu absenoldeb rhiant a rennir. Bydd polisi Dileu Swyddi [ENW\u2019R MUDIAD] yn gymwys.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">18. Cyflogeion nad ydynt yn dymuno dychwelyd i\u2019r gwaith ar \u00f4l absenoldeb mamolaeth<\/h3>\n\n\n\n<p>Pan nad yw\u2019r cyflogai yn dymuno dychwelyd i\u2019r gwaith yn dilyn absenoldeb mamolaeth, mae\u2019n rhaid iddi roi hysbysiad terfynu fel yr amlinellir yn ei Datganiad Manylion\/Contract Cyflogaeth.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">19. Gofal i fabanod newydd-anedig<\/h3>\n\n\n\n<p>Os bydd eich plentyn yn cael gofal i fabanod newydd-anedig sy\u2019n dechrau o fewn 28 diwrnod i\u2019r enedigaeth ac sy\u2019n para am o leiaf saith diwrnod llawn, efallai y byddwch yn gymwys i gael absenoldeb a th\u00e2l gofal i fabanod newydd-anedig yn ychwanegol at d\u00e2l tadolaeth. I gael mwy o wybodaeth, siaradwch \u00e2 [NODWCH BWY].<\/p>\n\n\n\n\t<\/div>\n\n\n\n<div class=\"col-12 col-md-3\">\n\t\t\t\n\n\t<\/div>\n\n<\/div>\n\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Canllaw yn unig yw hwn a dylid ei addasu ar gyfer eich mudiad.<\/p>\n","protected":false},"author":1175,"featured_media":10444,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"ep_exclude_from_search":false,"footnotes":""},"categories":[759],"tags":[723,770],"class_list":["post-10434","resource","type-resource","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llywodraethu-da","tag-good-governance","tag-hr","pillar-llywodraethu-da"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Polisi a gweithdrefn mamolaeth (Templed) | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Dylai mudiadau gael polisi sy\u2019n nodi hawliau cyflogai beichiog i gael absenoldeb mamolaeth a th\u00e2l mamolaeth, gan ystyried hawliau statudol gofynnol yn ogystal \u00e2 threfniadau yn ystod y beichiogrwydd ac ar \u00f4l hynny.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mamolaeth-templed\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Polisi a gweithdrefn mamolaeth (Templed) | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Dylai mudiadau gael polisi sy\u2019n nodi hawliau cyflogai beichiog i gael absenoldeb mamolaeth a th\u00e2l mamolaeth, gan ystyried hawliau statudol gofynnol yn ogystal \u00e2 threfniadau yn ystod y beichiogrwydd ac ar \u00f4l hynny.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mamolaeth-templed\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-06-11T09:51:10+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/06\/pexels-j-carter-249211-scaled.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1702\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"12 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mamolaeth-templed\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mamolaeth-templed\/\",\"name\":\"Polisi a gweithdrefn mamolaeth (Templed) | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mamolaeth-templed\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mamolaeth-templed\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/06\/pexels-j-carter-249211-scaled.jpg\",\"datePublished\":\"2021-06-07T15:01:12+00:00\",\"dateModified\":\"2026-06-11T09:51:10+00:00\",\"description\":\"Dylai mudiadau gael polisi sy\u2019n nodi hawliau cyflogai beichiog i gael absenoldeb mamolaeth a th\u00e2l mamolaeth, gan ystyried hawliau statudol gofynnol yn ogystal \u00e2 threfniadau yn ystod y beichiogrwydd ac ar \u00f4l hynny.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mamolaeth-templed\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mamolaeth-templed\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mamolaeth-templed\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/06\/pexels-j-carter-249211-scaled.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/06\/pexels-j-carter-249211-scaled.jpg\",\"width\":2560,\"height\":1702,\"caption\":\"Llun: mam yn chwarae gyda'r babi\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mamolaeth-templed\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Resources\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Polisi a gweithdrefn mamolaeth (Templed)\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"description\":\"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"width\":512,\"height\":512,\"caption\":\"Hwb Gwybodaeth\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Polisi a gweithdrefn mamolaeth (Templed) | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","description":"Dylai mudiadau gael polisi sy\u2019n nodi hawliau cyflogai beichiog i gael absenoldeb mamolaeth a th\u00e2l mamolaeth, gan ystyried hawliau statudol gofynnol yn ogystal \u00e2 threfniadau yn ystod y beichiogrwydd ac ar \u00f4l hynny.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mamolaeth-templed\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Polisi a gweithdrefn mamolaeth (Templed) | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","og_description":"Dylai mudiadau gael polisi sy\u2019n nodi hawliau cyflogai beichiog i gael absenoldeb mamolaeth a th\u00e2l mamolaeth, gan ystyried hawliau statudol gofynnol yn ogystal \u00e2 threfniadau yn ystod y beichiogrwydd ac ar \u00f4l hynny.","og_url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mamolaeth-templed\/","og_site_name":"Hwb Gwybodaeth","article_modified_time":"2026-06-11T09:51:10+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1702,"url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/06\/pexels-j-carter-249211-scaled.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"12 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mamolaeth-templed\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mamolaeth-templed\/","name":"Polisi a gweithdrefn mamolaeth (Templed) | Adnoddau | Hwb Gwybodaeth","isPartOf":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mamolaeth-templed\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mamolaeth-templed\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/06\/pexels-j-carter-249211-scaled.jpg","datePublished":"2021-06-07T15:01:12+00:00","dateModified":"2026-06-11T09:51:10+00:00","description":"Dylai mudiadau gael polisi sy\u2019n nodi hawliau cyflogai beichiog i gael absenoldeb mamolaeth a th\u00e2l mamolaeth, gan ystyried hawliau statudol gofynnol yn ogystal \u00e2 threfniadau yn ystod y beichiogrwydd ac ar \u00f4l hynny.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mamolaeth-templed\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mamolaeth-templed\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mamolaeth-templed\/#primaryimage","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/06\/pexels-j-carter-249211-scaled.jpg","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/06\/pexels-j-carter-249211-scaled.jpg","width":2560,"height":1702,"caption":"Llun: mam yn chwarae gyda'r babi"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/polisi-a-gweithdrefn-mamolaeth-templed\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Resources","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Polisi a gweithdrefn mamolaeth (Templed)"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","name":"Hwb Gwybodaeth","description":"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.","publisher":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization","name":"Hwb Gwybodaeth","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","width":512,"height":512,"caption":"Hwb Gwybodaeth"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/10434","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource"}],"about":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/resource"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1175"}],"version-history":[{"count":12,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/10434\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":25648,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/resource\/10434\/revisions\/25648"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10444"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10434"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10434"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10434"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}