{"id":18764,"date":"2024-07-18T12:06:47","date_gmt":"2024-07-18T11:06:47","guid":{"rendered":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/?page_id=18764"},"modified":"2025-07-09T14:23:07","modified_gmt":"2025-07-09T13:23:07","slug":"cefnogi-a-rheoli-gwirfoddolwyr","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/gwirfoddoli\/cefnogi-a-rheoli-gwirfoddolwyr\/","title":{"rendered":"Cefnogi a Rheoli Gwirfoddolwyr"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-bootstrap-blocks-container container mb-2\">\n\t\n<div class=\"site-breadcrumbs\"><span><span><a href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\">Cartref<\/a><\/span><\/span><\/div>\n\n\n\n\n<div class=\"wp-bootstrap-blocks-row row\">\n\t\n\n<div class=\"col-12 col-md-9\">\n\t\t\t\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Volunteer-induction\"><strong>Cynefino gwirfoddolwyr<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Pan fydd gwirfoddolwr newydd yn ymuno \u00e2\u2019r mudiad, mae angen i chi gael proses ar waith i roi\u2019r holl wybodaeth sydd ei hangen arno i ddod i adnabod eich mudiad a theimlo\u2019n gartrefol. Dylai cynefino gynnwys mwy na rhoi polis\u00efau i wirfoddolwyr eu darllen a\u2019u cyflwyno i wirfoddolwyr eraill a staff. Gall cael y broses gynefino\u2019n gywir helpu eich mudiad i gadw ei wirfoddolwyr am hirach a sicrhau bod gwirfoddolwyr yn cael profiadau positif a gwobrwyol.  <\/p>\n\n\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Support-and-supervision\"><strong>Cefnogaeth a goruchwyliaeth<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Bydd angen cefnogaeth ar wirfoddolwyr gan y mudiad i\u2019w galluogi i wneud eu rolau\u2019n dda. Bydd y lefel briodol o gefnogaeth a goruchwyliaeth yn dibynnu ar y r\u00f4l a\u2019r amgylchiadau, y dylech eu hasesu o ran risg. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Ffordd dda o oruchwylio gwirfoddolwyr yw trefnu \u2018sgyrsiau\u2019 rheolaidd i siarad am eu profiadau gwirfoddoli, unrhyw lwyddiannau neu anawsterau ac unrhyw gefnogaeth neu hyfforddiant y maen nhw\u2019n teimlo sydd eu hangen arnynt. Bydd hyn yn eich galluogi i ddeall sut mae pethau\u2019n mynd a dod i adnabod y gwirfoddolwr, ac mae\u2019n rhoi cyfle iddo ef roi adborth. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Gwnewch yn si\u0175r fod pawb yn gwybod pwy sy\u2019n gyfrifol am oruchwylio gwirfoddolwyr.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Dylech wneud yn si\u0175r bod gwirfoddolwyr yn gwybod pwy i gysylltu ag ef os oes ganddyn nhw broblem, a phryd mae\u2019r help hwn ar gael.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Bydd rhai rolau gwirfoddol yn haws eu goruchwylio nag eraill. Bydd angen i chi wneud yn si\u0175r bod yr oruchwyliaeth yn briodol i\u2019r r\u00f4l ac yn caniat\u00e1u i\u2019r gwirfoddolwr fod mor annibynnol \u00e2 phosibl a bod y r\u00f4l yn rhoi profiad positif iddyn nhw.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Training-volunteers\"><strong>Hyfforddi gwirfoddolwyr<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Cyfrifoldeb eich mudiad yw gwneud yn si\u0175r y gall gwirfoddolwyr wneud eu r\u00f4l. Un ffordd o wneud yn si\u0175r eu bod yn fwy na pharod ar ei chyfer yw cynnig hyfforddiant anffurfiol neu ffurfiol (yn dibynnu ar y r\u00f4l). <\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Cadwch yr hyfforddiant yn berthnasol ac yn briodol i r\u00f4l y gwirfoddolwr a\u2019i sgiliau a phrofiad cyfredol. Bydd hyn yn osgoi cymryd gormod o amser y gwirfoddolwr. Mae hefyd yn sicrhau nad yw\u2019r hyfforddiant yn cael ei weld fel bonws neu wobr, a allai wneud i\u2019r gwirfoddoli edrych fel gwaith \u00e2 th\u00e2l.  <\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Os yw eu hyfforddiant yn dda, bydd gwirfoddolwyr yn teimlo\u2019n fwy abl i wneud eu r\u00f4l. Bydd hyn yn debygol o wneud iddynt eisiau parhau i wirfoddoli. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Gallwch chi hefyd gynnig cyfleoedd datblygu i wirfoddolwyr sydd \u00e2 diddordeb mewn cynyddu eu sgiliau a\u2019u profiad er mwyn ymgymryd \u00e2 mwy o gyfrifoldebau neu symud ymlaen i r\u00f4l wirfoddoli arall. Gall y math hwn o gefnogaeth i wirfoddolwyr fod yn bwysig o ran cadw diddordeb a boddhad gwirfoddolwyr. <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Volunteer-expenses\"><strong>Treuliau gwirfoddolwyr<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Mae\u2019n arfer da i ad-dalu gwirfoddolwyr am dreuliau parod. Gellir cynnwys manylion yr hyn y gellir ei hawlio, a sut, yn eich polisi gwirfoddoli, neu eu cynnwys mewn polisi ar wah\u00e2n. Bydd angen ffurflen hawlio ar wirfoddolwyr i hawlio eu treuliau, a all fod am dreuliau ymlaen llaw, neu ar \u00f4l y digwyddiad.  <\/p>\n\n\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Noder, mae\u2019n bwysig nad ydych chi\u2019n talu treuliau y tu hwnt i\u2019r costau gwirioneddol yr aeth gwirfoddolwyr iddynt.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Thanking-volunteers\"><strong>Diolch i wirfoddolwyr<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Mae\u2019n bwysig bod gwirfoddolwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gwybod bod eu cyfraniad i\u2019ch mudiad yn cael ei werthfawrogi.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Byddai llawer o wirfoddolwyr sy\u2019n rhoi eu hamser o\u2019u gwirfodd i achos sy\u2019n agos at eu calonnau yn gwerthfawrogi cael \u2018diolch\u2019 syml.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Meddyliwch am y ffordd orau o ddweud diolch i wirfoddolwr, yn dibynnu ar amgylchiadau a diwylliant y mudiad a phersonoliaethau eich gwirfoddolwyr. Efallai y byddai rhai unigolion yn gwerthfawrogi diolch cyhoeddus, ond efallai byddai hyn yn gwneud pobl eraill yn annifyr. Os ydych chi\u2019n tynnu sylw at unigolion, gwnewch yn si\u0175r na fydd yn digio pobl na fydd yn cael diolch! Weithiau, gall diolch cyffredinol i ddathlu gwaith y t\u00eem cyfan fod orau.   <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Keeping-volunteers-safe\"><strong>Cadw gwirfoddolwyr yn ddiogel<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Mae gennych chi gyfrifoldebau dros wirfoddolwyr i\u2019w cadw\u2019n ddiogel. Mae hyn yn ymwneud \u00e2\u2019u hiechyd a diogelwch, ynghyd \u00e2 phryderon diogelu ehangach. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r materion hyn yn ein hadrannau Iechyd a Diogelwch a Diogelu.<\/p>\n\n\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Dealing-with-problems\"><strong>Ymdrin \u00e2 phroblemau<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Er ein bod yn gobeithio y byddwch chi\u2019n gallu cynnig cyfleoedd gwirfoddoli gwobrwyol a gwerth chweil i wirfoddolwyr, gall pethau fynd o chwith weithiau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Fel arfer, dylech geisio ymdrin \u00e2 sefyllfaoedd anodd yn anffurfiol os yn bosibl, drwy siarad \u00e2\u2019r rheini dan sylw, cael eglurhad o\u2019r problemau a dod i gonsensws. Weithiau, fodd bynnag, nid yw hyn yn ddigon. Cynghorir mudiadau i gael \u2018gweithdrefnau datrys problemau\u2019 yn eu lle sy\u2019n benodol i wirfoddolwyr.  <\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Dylai eich dull o fynd ati i ymdrin \u00e2 chwynion, anawsterau a phroblemau sy\u2019n ymwneud \u00e2 gwirfoddolwyr ffurfio rhan o sesiynau cynefino gwirfoddolwyr a staff (ynghyd \u00e2 pholis\u00efau perthnasol eraill). Diben hyn yw sicrhau bod pawb yn gwybod y safonau a ddisgwylir a pha gamau gellid eu cymryd os na lynir at y rhain. Os ydych chi wedi llofnodi \u2018cytundeb gwirfoddolwr\u2019, gall hon fod yn ddogfen ddefnyddiol i gyfeirio yn \u00f4l ati.  <\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Mae prosesau goruchwylio, cefnogi a monitro da i gyd yn helpu i fynd i\u2019r afael \u00e2 phroblemau mor gyflym \u00e2 phosibl.<\/p>\n\n\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Dylech wneud yn si\u0175r eich bod yn dilyn eich polis\u00efau a\u2019ch gweithdrefnau ar gyfer ymdrin \u00e2 chwynion ffurfiol. Yn dibynnu ar ddifrifoldeb y broblem, efallai y bydd angen i chi dynnu eich bwrdd ymddiriedolwyr neu bwyllgor rheoli i mewn i\u2019r mater neu ofyn cyngor Adnoddau Dynol. <\/p>\n\n\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\"><strong>Rhagor o wybodaeth<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Mae ein taflen wybodaeth, <a href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/sut-i-sicrhau-bodlonrwydd-gwirfoddolwyr\/\">Sut i Sicrhau Bodlonrwydd Gwirfoddolwyr<\/a>, yn rhoi trosolwg o\u2019r materion sy\u2019n cyfrannu at foddhad gwirfoddolwyr a beth all eich mudiad ei wneud i greu profiad positif i\u2019r gwirfoddolwr.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Mae ein cwrs e-ddysgu am ddim, <a href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/all-courses\/rheolaeth-a-chymorth-ar-gyfer-gwirfoddoli\/\">Rheolaeth a Chymorth ar gyfer gwirfoddoli,<\/a> yn cynnig rhai argymhellion ar gyfer rheoli gwirfoddolwyr.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am bolis\u00efau a gweithdrefnau yn ein hadran, <a href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/\">Rhedeg eich mudiad<\/a>. <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Improving-your-practice-\u2013-Investing-in-Volunteers\"><strong>Gwella eich ymarfer \u2013 Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yw safon ansawdd y DU ar gyfer arferion da wrth reoli gwirfoddolwyr.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Os ydych chi eisiau asesu ansawdd eich ymdrechion i reoli a chynnwys gwirfoddolwyr, profi a gwella effeithiolrwydd eich gwaith gyda gwirfoddolwyr, a gwella enw da eich mudiad, y safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yw\u2019r fframwaith delfrydol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Mae cyflawni\u2019r safon yn dangos i\u2019ch gwirfoddolwyr \u2013 a\u2019ch darpar wirfoddolwyr \u2013 faint y maen nhw\u2019n cael eu gwerthfawrogi ac yn rhoi hyder iddynt yn eich gallu i gynnig profiad rhagorol i wirfoddolwyr.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">I lawrlwytho copi am ddim o\u2019r fframwaith Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, neu i ddysgu mwy am sut i gyflawni\u2019r nod ansawdd, <ins><a href=\"https:\/\/investinginvolunteers.co.uk\/download-the-standard\/\">ewch i\u2019r wefan (Saesneg yn unig).<\/a><\/ins><\/p>\n\n\t<\/div>\n\n\n\n<div class=\"col-12 col-md-3\">\n\t\t\t\n\n\t<\/div>\n\n<\/div>\n\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"author":2205,"featured_media":0,"parent":18582,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"ep_exclude_from_search":false,"footnotes":""},"class_list":["post-18764","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Cefnogi a Rheoli Gwirfoddolwyr|Hwb Gwybodaeth<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/gwirfoddoli\/cefnogi-a-rheoli-gwirfoddolwyr\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Cefnogi a Rheoli Gwirfoddolwyr|Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/gwirfoddoli\/cefnogi-a-rheoli-gwirfoddolwyr\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-07-09T13:23:07+00:00\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"5 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/gwirfoddoli\/cefnogi-a-rheoli-gwirfoddolwyr\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/gwirfoddoli\/cefnogi-a-rheoli-gwirfoddolwyr\/\",\"name\":\"Cefnogi a Rheoli Gwirfoddolwyr|Hwb Gwybodaeth\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\"},\"datePublished\":\"2024-07-18T11:06:47+00:00\",\"dateModified\":\"2025-07-09T13:23:07+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/gwirfoddoli\/cefnogi-a-rheoli-gwirfoddolwyr\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/gwirfoddoli\/cefnogi-a-rheoli-gwirfoddolwyr\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/gwirfoddoli\/cefnogi-a-rheoli-gwirfoddolwyr\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Help ac arweiniad\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Gwirfoddoli\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/gwirfoddoli\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":4,\"name\":\"Cefnogi a Rheoli Gwirfoddolwyr\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"description\":\"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"width\":512,\"height\":512,\"caption\":\"Hwb Gwybodaeth\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Cefnogi a Rheoli Gwirfoddolwyr|Hwb Gwybodaeth","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/gwirfoddoli\/cefnogi-a-rheoli-gwirfoddolwyr\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Cefnogi a Rheoli Gwirfoddolwyr|Hwb Gwybodaeth","og_url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/gwirfoddoli\/cefnogi-a-rheoli-gwirfoddolwyr\/","og_site_name":"Hwb Gwybodaeth","article_modified_time":"2025-07-09T13:23:07+00:00","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"5 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/gwirfoddoli\/cefnogi-a-rheoli-gwirfoddolwyr\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/gwirfoddoli\/cefnogi-a-rheoli-gwirfoddolwyr\/","name":"Cefnogi a Rheoli Gwirfoddolwyr|Hwb Gwybodaeth","isPartOf":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website"},"datePublished":"2024-07-18T11:06:47+00:00","dateModified":"2025-07-09T13:23:07+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/gwirfoddoli\/cefnogi-a-rheoli-gwirfoddolwyr\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/gwirfoddoli\/cefnogi-a-rheoli-gwirfoddolwyr\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/gwirfoddoli\/cefnogi-a-rheoli-gwirfoddolwyr\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Help ac arweiniad","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Gwirfoddoli","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/gwirfoddoli\/"},{"@type":"ListItem","position":4,"name":"Cefnogi a Rheoli Gwirfoddolwyr"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","name":"Hwb Gwybodaeth","description":"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.","publisher":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization","name":"Hwb Gwybodaeth","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","width":512,"height":512,"caption":"Hwb Gwybodaeth"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/18764","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2205"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=18764"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/18764\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":20784,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/18764\/revisions\/20784"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/18582"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=18764"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}