{"id":18747,"date":"2024-07-18T12:06:41","date_gmt":"2024-07-18T11:06:41","guid":{"rendered":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/?page_id=18747"},"modified":"2025-07-09T14:24:37","modified_gmt":"2025-07-09T13:24:37","slug":"sut-gallaf-ddod-o-hyd-i-wirfoddolwyr","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/gwirfoddoli\/sut-gallaf-ddod-o-hyd-i-wirfoddolwyr\/","title":{"rendered":"Sut gallaf ddod o hyd i wirfoddolwyr?"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-bootstrap-blocks-container container mb-2\">\n\t\n<div class=\"site-breadcrumbs\"><span><span><a href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\">Cartref<\/a><\/span><\/span><\/div>\n\n\n\n\n<div class=\"wp-bootstrap-blocks-row row\">\n\t\n\n<div class=\"col-12 col-md-9\">\n\t\t\t\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Canolfannau-gwirfoddoli\"><strong><strong>Canolfannau gwirfoddoli<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Mae yna Ganolfan Gwirfoddoli ym mhob sir yng Nghymru sy\u2019n rhoi cymorth ar wirfoddoli ar lefel leol, i wirfoddolwyr unigol a mudiadau sy\u2019n cynnwys gwirfoddolwyr. Mae ganddyn nhw chwe swyddogaeth graidd: <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"has-medium-font-size wp-block-list\">\n<li>Hyrwyddo a dathlu gwirfoddoli<\/li>\n\n\n\n<li>Datblygu arferion da<\/li>\n\n\n\n<li>Datblygu cyfleoedd gwirfoddoli<\/li>\n\n\n\n<li>Polisi ac ymgyrchu<\/li>\n\n\n\n<li>Datblygiad strategol gwirfoddoli<\/li>\n\n\n\n<li>Gwasanaeth brocera sy\u2019n paru pobl \u00e2 chyfleoedd gwirfoddoli<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Gall eich canolfan gwirfoddoli lleol eich helpu i ddatblygu eich arferion gwirfoddoli a recriwtio gwirfoddolwyr.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">System ddigidol ganolog dros Gymru gyfan yw <ins><a href=\"http:\/\/www.Volunteering-Wales.net\">Gwirfoddoli Cymru<\/a><\/ins> sy\u2019n cael ei defnyddio gan yr holl Ganolfannau Gwirfoddoli i hyrwyddo gwirfoddoli ledled Cymru. Gallwch chi gofrestru eich cyfleoedd am ddim yma a chyrraedd miloedd o ddarpar wirfoddolwyr.<\/p>\n\n\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Proses-recriwtio-gwirfoddolwyr\"><strong>Proses recriwtio gwirfoddolwyr<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Pan fydd cyfle gwirfoddoli yn codi, dylech ddilyn proses recriwtio i hysbysebu\u2019r cyfle a dewis eich gwirfoddolwr.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Byddai creu pecyn gwybodaeth gwirfoddolwyr y gallwch chi ei rannu gydag unrhyw ddarpar wirfoddolwyr yn syniad da. Nid oes angen i hwn fod yn ddogfen hir, ond dylai ddweud digon wrthynt am eich mudiad a\u2019r cyfle fel y gallant benderfynu a fyddai\u2019r mudiad yn iawn iddyn nhw. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Gallwch chi gynnwys y disgrifiad r\u00f4l rydych chi wedi\u2019i ysgrifennu ar gyfer y cyfle gwirfoddoli yn y pecyn hwn.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Hysbysebu-eich-cyfle-gwirfoddoli\"><strong>Hysbysebu eich cyfle gwirfoddoli<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Er mwyn denu\u2019r amrediad ehangaf o bobl i\u2019ch mudiad, byddem yn eich argymell i hysbysebu eich cyfleoedd gwirfoddoli\u2019n gyhoeddus. Er ei fod yn wych cael gwirfoddolwyr sy\u2019n ymuno yn sgil argymhelliad personol, nid yw hynny bob amser yn creu\u2019r cyrhaeddiad ehangaf wrth geisio recriwtio gwirfoddolwyr nac o ran denu ystod eang o bobl. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">I hysbysebu eich cyfle gwirfoddoli, bydd angen i chi greu hysbyseb. Dylai hon nodi\u2019r canlynol: <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"has-medium-font-size wp-block-list\">\n<li>beth mae eich mudiad yn ei wneud a pha achos neu gr\u0175p o bobl sy\u2019n cael budd<\/li>\n\n\n\n<li>y gwahaniaeth y bydd gwirfoddolwr yn ei wneud i\u2019r achos<\/li>\n\n\n\n<li>beth fydd y gwirfoddolwr yn ei gael o gymryd rhan<\/li>\n\n\n\n<li>os byddwch chi\u2019n talu treuliau a beth fydd y treuliau yn ei gynnwys<\/li>\n\n\n\n<li>pwy allant fynd ato os oes ganddyn nhw gwestiynau ynghylch y r\u00f4l<\/li>\n\n\n\n<li>sut gallant gael rhagor o wybodaeth.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Dylech wedyn ddefnyddio\u2019r hysbyseb i hyrwyddo\u2019r cyfle gwirfoddoli. Gall ble y byddwch chi\u2019n hysbysebu\u2019r r\u00f4l ddibynnu ar y math o wirfoddolwyr rydych chi\u2019n gobeithio eu denu. Bydd hyrwyddo\u2019r cyfle ar eich cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyr neu wefan yn eich helpu i gyrraedd pobl sydd eisoes yn eich cefnogi neu eisoes yn ymwybodol o\u2019ch mudiad, ond mae\u2019n debyg y bydd angen i chi hysbysebu\u2019n ehangach i gyrraedd pobl newydd.  <\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Gallech hefyd ystyried rhoi eich hysbyseb mewn lleoliadau cymunedol lleol, fel canolfannau cymunedol neu lyfrgelloedd neu adeiladau cyhoeddus, neu rhowch gynnig ar ffenestri siopau neu hysbysfyrddau cymunedol (y gallwch chi hefyd ddod o hyd iddynt ar gyfryngau cymdeithasol). Os ydych chi\u2019n gobeithio denu pobl ifanc, ceisiwch ofyn i ysgolion, colegau a phrifysgolion a allant helpu. <\/p>\n\n\n\n<div style=\"height:50px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n\n\n<div style=\"height:50px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Proses-ddethol\"><strong>Proses ddethol<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Bydd y broses ddethol y byddwch chi\u2019n ei fabwysiadu yn dibynnu ar eich mudiad a\u2019r gweithgareddau y bydd gwirfoddolwyr yn eu gwneud o\u2019i fewn. Mae angen i bob mudiad sefydlu system a fydd nid yn unig yn addas i\u2019w hanghenion, ond na fydd yn cyflwyno rhwystrau diangen i ddarpar wirfoddolwyr. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Dylai\u2019r broses ddethol fod yn broses ddwy ffordd. Dylai alluogi\u2019r mudiad i benderfynu ar addasrwydd darpar wirfoddolwyr a galluogi gwirfoddolwyr i benderfynu a ydyn nhw\u2019n credu eu bod nhw\u2019n addas i\u2019r mudiad. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Os byddwch chi\u2019n dewis defnyddio ffurflen gais gwirfoddolwr, byddwch yn glir ynghylch pa wybodaeth sydd ei hangen a pham bod arnoch ei hangen. Cadwch y ffurflen mor syml \u00e2 phosibl. Ystyriwch pa fecanweithiau allwch chi eu rhoi ar waith i ganiat\u00e1u i bobl \u00e2 gwahanol anghenion cymorth ymgeisio.  <\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Fel rhan o\u2019r broses ymgeisio, byddwch chi\u2019n ymdrin \u00e2 gwybodaeth bersonol am y bobl sy\u2019n gwneud cais ar gyfer eich cyfleoedd gwirfoddoli a bydd yn rhaid i chi gydymffurfio \u00e2\u2019r ddeddfwriaeth diogelu data. Os byddwch chi\u2019n defnyddio ffurflen ar gyfer \u2018monitro cydraddoldeb\u2019 ac yn gofyn cwestiynau ynghylch nodweddion gwarchodedig, yna mae\u2019r ymatebion yn debygol o gael eu hystyried yn \u2018Ddata Categori Arbennig\u2019 ac felly\u2019n cael mwy o ddiogelwch o dan Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data\u2019r DU. Ond ni ddylai hyn eich stopio rhag casglu\u2019r wybodaeth. Mae\u2019n well rhoi mesurau diogelu data yn eu lle a deall pa mor bell y mae eich cyfleoedd yn cyrraedd. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, edrychwch ar ein taflen wybodaeth Monitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ymhlith Gwirfoddolwyr.    <\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Byddwch chi si\u0175r o fod eisiau gwybod rhywbeth am yr unigolyn cyn ei benodi fel gwirfoddolwr. Gallech chi ei wahodd i \u2018gyfweliad\u2019, ond gallai\u2019r term hwnnw fod yn rhy ffurfiol a\u2019i ddigalonni, felly gallai gofyn iddo ddod am \u2018sgwrs\u2019 fod yn well. Gwnewch yn si\u0175r eich bod wedi egluro diben unrhyw gyfarfod i\u2019r darpar wirfoddolwr fel ei fod yn gwybod beth i\u2019w ddisgwyl ac yn barod amdano.  <\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Pan fyddwch chi\u2019n cwrdd \u00e2 darpar wirfoddolwr, efallai yr hoffech roi sylw i\u2019r meysydd canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"has-medium-font-size wp-block-list\">\n<li>Beth wnaeth ei ddenu i\u2019ch mudiad<\/li>\n\n\n\n<li>Pa brofiad allai fod ganddo, gan gynnwys unrhyw brofiadau bywyd<\/li>\n\n\n\n<li>Pa sgiliau, gwybodaeth a diddordebau perthnasol sydd ganddo, os unrhyw beth<\/li>\n\n\n\n<li>A oes unrhyw ystyriaethau iechyd neu anghenion cymorth yn berthnasol i\u2019w wirfoddoli sy\u2019n gofyn am newidiadau neu addasiadau rhesymol<\/li>\n\n\n\n<li>Beth yw ei ddisgwyliadau a beth mae\u2019n gobeithio ei gael o wirfoddoli<\/li>\n\n\n\n<li>Cadarnhewch yr amserau\/diwrnodau y mae\u2019n debygol o fod ar gael<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Gwiriadau-terfynol\"><strong>Gwiriadau terfynol<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Cyn i chi gymryd y cam olaf a phenodi gwirfoddolwr, dylech ystyried yr angen am unrhyw wiriadau terfynol ar ei addasrwydd i\u2019r r\u00f4l. Argymhellwn eich bod yn gofyn am eirdaon fel rhan o\u2019r broses recriwtio. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Os yw\u2019r r\u00f4l wirfoddoli yn ymwneud \u00e2 gweithio gydag oedolion mewn perygl neu blant neu bobl ifanc, efallai y bydd angen i chi ofyn am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am hyn yn ein hadran DBS. <\/p>\n\n\n\n\n\n\n\n\t<\/div>\n\n\n\n<div class=\"col-12 col-md-3\">\n\t\t\t\n\n\t<\/div>\n\n<\/div>\n\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"author":2205,"featured_media":0,"parent":18582,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"ep_exclude_from_search":false,"footnotes":""},"class_list":["post-18747","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Sut gallaf ddod o hyd i wirfoddolwyr?|Hwb Gwybodaeth<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/gwirfoddoli\/sut-gallaf-ddod-o-hyd-i-wirfoddolwyr\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Sut gallaf ddod o hyd i wirfoddolwyr?|Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/gwirfoddoli\/sut-gallaf-ddod-o-hyd-i-wirfoddolwyr\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-07-09T13:24:37+00:00\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"5 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/gwirfoddoli\/sut-gallaf-ddod-o-hyd-i-wirfoddolwyr\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/gwirfoddoli\/sut-gallaf-ddod-o-hyd-i-wirfoddolwyr\/\",\"name\":\"Sut gallaf ddod o hyd i wirfoddolwyr?|Hwb Gwybodaeth\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\"},\"datePublished\":\"2024-07-18T11:06:41+00:00\",\"dateModified\":\"2025-07-09T13:24:37+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/gwirfoddoli\/sut-gallaf-ddod-o-hyd-i-wirfoddolwyr\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/gwirfoddoli\/sut-gallaf-ddod-o-hyd-i-wirfoddolwyr\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/gwirfoddoli\/sut-gallaf-ddod-o-hyd-i-wirfoddolwyr\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Help ac arweiniad\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Gwirfoddoli\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/gwirfoddoli\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":4,\"name\":\"Sut gallaf ddod o hyd i wirfoddolwyr?\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"description\":\"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"width\":512,\"height\":512,\"caption\":\"Hwb Gwybodaeth\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Sut gallaf ddod o hyd i wirfoddolwyr?|Hwb Gwybodaeth","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/gwirfoddoli\/sut-gallaf-ddod-o-hyd-i-wirfoddolwyr\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Sut gallaf ddod o hyd i wirfoddolwyr?|Hwb Gwybodaeth","og_url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/gwirfoddoli\/sut-gallaf-ddod-o-hyd-i-wirfoddolwyr\/","og_site_name":"Hwb Gwybodaeth","article_modified_time":"2025-07-09T13:24:37+00:00","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"5 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/gwirfoddoli\/sut-gallaf-ddod-o-hyd-i-wirfoddolwyr\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/gwirfoddoli\/sut-gallaf-ddod-o-hyd-i-wirfoddolwyr\/","name":"Sut gallaf ddod o hyd i wirfoddolwyr?|Hwb Gwybodaeth","isPartOf":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website"},"datePublished":"2024-07-18T11:06:41+00:00","dateModified":"2025-07-09T13:24:37+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/gwirfoddoli\/sut-gallaf-ddod-o-hyd-i-wirfoddolwyr\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/gwirfoddoli\/sut-gallaf-ddod-o-hyd-i-wirfoddolwyr\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/gwirfoddoli\/sut-gallaf-ddod-o-hyd-i-wirfoddolwyr\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Help ac arweiniad","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Gwirfoddoli","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/gwirfoddoli\/"},{"@type":"ListItem","position":4,"name":"Sut gallaf ddod o hyd i wirfoddolwyr?"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","name":"Hwb Gwybodaeth","description":"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.","publisher":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization","name":"Hwb Gwybodaeth","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","width":512,"height":512,"caption":"Hwb Gwybodaeth"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/18747","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2205"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=18747"}],"version-history":[{"count":9,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/18747\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":20788,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/18747\/revisions\/20788"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/18582"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=18747"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}