{"id":18425,"date":"2024-03-25T16:30:40","date_gmt":"2024-03-25T16:30:40","guid":{"rendered":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/?page_id=18425"},"modified":"2025-07-09T14:29:25","modified_gmt":"2025-07-09T13:29:25","slug":"cyllidebau-a-rhagweld","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rheoli-arian-a-chyllidebau\/cyllidebau-a-rhagweld\/","title":{"rendered":"Cyllidebau a rhagweld"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-bootstrap-blocks-container container mb-2\">\n\t\n<div class=\"site-breadcrumbs\"><span><span><a href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\">Cartref<\/a><\/span><\/span><\/div>\n\n\n\n\n<div class=\"wp-bootstrap-blocks-row row\">\n\t\n\n<div class=\"col-12 col-md-9\">\n\t\t\t\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"What-is-a-budget?\"><strong>Beth yw cyllideb?<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae cyllideb yn nodi gweithgareddau arfaethedig eich mudiad mewn termau ariannol. Trwy fynegi eich cynlluniau mewn termau ariannol, gall cyllideb eich helpu i wneud penderfyniadau da a chadw cyllid eich mudiad o dan reolaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall cyllideb fod ar gyfer gweithrediad yr holl fudiad, a bydd hyn fel arfer dros gyfnod o 12 mis, neu gael ei chreu at brosiect penodol rydych chi\u2019n ei gynnal. Cyllideb sylfaenol yw amcangyfrif o\u2019r incwm a gwariant wedi\u2019i osod ar ffurf tabl.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd angen cyllideb arnoch os ydych chi\u2019n gwneud cais am grant, oherwydd bydd y cyllidwr eisiau gwybod sut mae\u2019r prosiect yn cael ei dalu amdano, a ble fydd yr arian yn cael ei wario.<\/p>\n\n\n\n<p>Pan fyddwch chi\u2019n gosod eich cyllideb ar ddechrau\u2019r flwyddyn, neu ar ddechrau\u2019r prosiect, byddwch chi\u2019n darogan (rhagweld) yr incwm a gwariant tebygol y bydd eu hangen arnoch i gyflwyno\u2019ch gweithgareddau. Gall y ffigurau hyn newid, neu efallai y bydd angen i chi addasu eich cynlluniau a newid y gyllideb. Mae\u2019r broses hon o fonitro\u2019r cyllidebau yn erbyn y sefyllfa wirioneddol a gwirio sut mae eich sefyllfa ariannol yn amrywio yn rhan bwysig o reoli cyllid eich mudiad er mwyn gwneud yn si\u0175r eich bod yn cadw ar y trywydd cywir i gyflawni eich cynlluniau.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"How-to-prepare-a-budget?\"><strong>Sut i baratoi cyllideb?<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Dylai\u2019r broses ar gyfer gosod cyllideb i\u2019ch mudiad, neu i brosiect penodol rydych chi\u2019n ei wneud, gael ei gwneud ochr yn ochr \u00e2\u2019r gwaith o gynllunio eich gweithgareddau gan fod y ddwy broses yn mynd law yn llaw.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd angen i chi lunio rhestr o\u2019r eitemau gwariant sy\u2019n berthnasol i\u2019ch gweithgareddau a\u2019u costio nhw i gyd. Os ydych chi\u2019n creu cyllideb ar gyfer prosiect, gwnewch yn si\u0175r eich bod yn cynnwys y cyfraniad priodol at orbenion (Gweler ein hadran ar Gyllidebau prosiect ac adennill costau llawn).<strong>.  <\/strong>Wedyn, mae angen i chi bennu o ble fydd yr incwm i dalu am y gweithgareddau hyn yn dod, ac a yw\u2019r gweithgareddau\u2019n fforddiadwy.<\/p>\n\n\n\n<p>Ni fydd modd i chi wybod yr holl gostau i\u2019r geiniog, ond gallwch chi eu hamcangyfrif mor gywir ag y gallwch ar sail tystiolaeth a gwaith ymchwil. Dylech hefyd siarad \u00e2\u2019r bobl yn eich mudiad a fydd yn gwneud y gweithgareddau oherwydd fe ddylai fod gan y rhain wybodaeth dda am yr hyn sydd eu hangen.<\/p>\n\n\n\n<p>Gallwch chi ddefnyddio cyllideb o\u2019r flwyddyn flaenorol fel sail i\u2019ch amcangyfrifon, ond dylech chi graffu ar y ffigurau\u2019n ofalus a pheidio \u00e2 chymryd yn ganiataol eich bod yn gwneud yr un gweithgareddau, am yr un gost. Bydd hefyd angen i chi ystyried y cynnydd mewn costau oherwydd chwyddiant. Byddai hefyd yn ddoeth i chi gynnwys llinell \u2018wrth gefn\u2019 yn y gyllideb er mwyn ystyried unrhyw daliadau brys pe bai rhywbeth annisgwyl yn digwydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd hefyd angen i\u2019r gyllideb ddangos yr incwm rydych chi\u2019n disgwyl ei dderbyn. Mae\u2019n si\u0175r y bydd rhai ffynonellau incwm yn ansicr, felly dylech amcangyfrif y ffigurau hyn mor gywir \u00e2 phosibl.<\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych chi\u2019n gwneud cais am grant ond ddim yn gwybod eto a fydd eich cais yn llwyddiannus, dylech farcio\u2019r cofnod incwm hwn fel \u2018heb ei gadarnhau\u2019. <\/p>\n\n\n\n<p>Dylech gadw nodiadau o sut gwnaethoch chi gyfrifo\u2019r ffigurau ar gyfer unrhyw incwm neu wariant ansicr. Bydd hyn yn helpu yn ystod y broses fonitro i wirio a ydych chi ar y trywydd cywir, ac a oedd y rhagdybiaethau a wnaethoch yn gywir.<\/p>\n\n\n\n<p>Dylech hefyd nodi amseru eitemau allweddol o wariant a derbynebau mawr oherwydd bydd hyn yn berthnasol i\u2019ch llif arian. Fe wnawn ni edrych ar hyn yn yr adran Rhagolygon llif arian.<\/p>\n\n\n\n<p>Unwaith y bydd gennych chi eich holl ffigurau incwm a gwariant, gallwch chi eu nodi ar ffurf tabl er mwyn creu eich cyllideb.<\/p>\n\n\n\n\n\n<p><strong>Ffynonellau eraill o wybodaeth<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><ins><a href=\"https:\/\/www.ncvo.org.uk\/help-and-guidance\/running-a-charity\/financial-management\/planning-and-budgeting\/budgeting\/#\/\">Mae gan NCVO siart lif sy&#8217;n dangos y prif gwestiynau yn y broses gosod cyllideb (Saesneg yn unig)<\/a><\/ins><\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Charity Finance Group wedi creu amrediad o adnoddau ar gyfer mudiadau bach sy\u2019n ymdrin \u00e2 phethau fel cyllidebu. Gallwch chi ddod o hyd i\u2019r wybodaeth hon <ins><a href=\"http:\/\/smallcharityfinance.org.uk\/\">yma (Saesneg yn unig).<\/a><\/ins> <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Approval-of-the-budget\"><strong>Cymeradwyo\u2019r gyllideb<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Yn y pen draw, y bwrdd neu\u2019r pwyllgor rheoli sy\u2019n gyfrifol am gyllid y mudiad ac am gytuno ar y gyllideb.<\/p>\n\n\n\n<p>Un peth allweddol sydd angen i\u2019r bwrdd ei bennu wrth gymeradwyo\u2019r gyllideb yw a oes angen i\u2019r incwm\/gwariant ar y gyllideb gydbwyso. Cyllideb gytbwys, a elwir hefyd yn gyllideb adennill costau, yw un sydd ddim yn creu gwarged na cholled (diffyg). Byddai gwarged ar y gyllideb yn golygu bod mwy o incwm na gwariant, a byddai cyllideb mewn diffyg yn golygu nad oes digon o incwm i dalu am y gwariant. Mae angen i\u2019r penderfyniad hwn gael ei gytuno gan y bwrdd, oherwydd bydd yn effeithio ar sefyllfa ariannol y mudiad.   <\/p>\n\n\n\n<p>Dylai\u2019r bwrdd fod yn glir ynghylch eu gofynion cyllidebol a chyfathrebu hyn i\u2019r bobl sy\u2019n paratoi\u2019r gyllideb cyn iddynt ddechrau ar eu gwaith cynllunio, fel bod pawb yn gweithio i\u2019r un nod. <\/p>\n\n\n\n<p>Rhaid i\u2019r gyllideb derfynol gael ei chymeradwyo gan y bwrdd cyn iddi gael ei rhoi ar waith The final budget must be approved by the board in advance of it being implemented.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Monitoring-the-budget\"><strong>Monitro\u2019r gyllideb<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Unwaith y bydd eich cyllideb wedi\u2019i chreu a\u2019i chymeradwyo, dylech chi ei defnyddio i fonitro sut mae eich mudiad yn perfformio. Unwaith y bydd y gweithgareddau y cyllidwyd ar eu cyfer yn dechrau, gallwch chi gofnodi\u2019r incwm gwirioneddol a dderbynnir a\u2019r gwariant gwirioneddol yr eir iddo er mwyn gwneud yn si\u0175r eich bod ar y trywydd cywir ac yn deall faint o arian sydd gennych chi ar \u00f4l i\u2019w wario.  <\/p>\n\n\n\n<p>Gallai unrhyw amrywiadau sylweddol yn llinellau\u2019r gyllideb fod yn rhybudd bod rhywbeth o\u2019i le, felly mae\u2019n bwysig bod y gwaith monitro hwn yn cael ei wneud yn rheolaidd ac yn drefnus. Gallai problemau cadw at y gyllideb olygu y bydd angen newid cynlluniau, a bydd mudiadau yn creu cyllideb ddiwygiedig, neu amcanestyniad weithiau sy\u2019n seiliedig ar yr amgylchiadau newydd. Os byddwch chi\u2019n llunio cyllideb ddiwygiedig, dylech wneud yn si\u0175r ei bod yn cael ei labelu felly, oherwydd mae angen i chi gael cofnodion eglur a chywir o benderfyniadau ariannol eich mudiad.  <\/p>\n\n\n\n<p>Er y gall y cyfrifoldeb dros fonitro\u2019r gyllideb fod ar ysgwyddau un person, fel y Trysorydd neu glerc cyllid os oes gennych chi un, y bwrdd fydd \u00e2\u2019r cyfrifoldeb eithaf dros gyllid y mudiad. Mae\u2019n bwysig bod y bwrdd yn derbyn diweddariadau rheolaidd ar sut mae\u2019r mudiad yn perfformio yn erbyn y gyllideb. Gallai\u2019r bwrdd ofyn i weld dogfen sy\u2019n nodi\u2019r ffigurau gwirioneddol o\u2019u cymharu \u00e2\u2019r gyllideb, neu\u2019r amrywiant rhwng y gyllideb a\u2019r ffigurau gwirioneddol. Nid oes rheolau penodol ynghylch yr wybodaeth y dylai\u2019r bwrdd ei derbyn, ond rhaid cyflwyno darlun cywir o gyllid y mudiad a bod yn ddigonol iddynt allu gwneud penderfyniadau da.   <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Project-budgets-and-full-cost-recovery\"><strong>Cyllidebau prosiect ac adennill costau llawn<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Adennill costau llawn yw dull o gyllidebu prosiectau neu wasanaethau sy\u2019n caniat\u00e1u i fudiadau adennill yr holl gostau sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 darparu\u2019r prosiect neu wasanaeth wrth wneud cais i gyllidwyr neu gyflwyno tendrau.<\/p>\n\n\n\n<p>Pan rydych chi\u2019n cyfrifo cost prosiect, mae angen i chi ystyried y costau uniongyrchol sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r prosiect ei hun a chyfran y costau cymorth cyffredinol gan weddill y mudiad y bydd eu hangen i gyflenwi\u2019r prosiect. Gall costau cymorth hefyd gael eu galw\u2019n gostau anuniongyrchol neu orbenion a gall gynnwys pethau fel rhent, yswiriant ac amser rheoli. <\/p>\n\n\n\n<p>Pan fyddwch chi\u2019n dyrannu costau cymorth i gyllideb prosiect, mae angen i chi ddefnyddio dull cyfrifo cyson, rhesymegol a chlir. Mae dulliau dyrannu cyffredin yn seiliedig ar nifer y bobl a faint o le sydd ar gael. Mae angen i\u2019ch cyfrifon fod yn drefnus ac mae angen i chi allu cyfiawnhau sut daethoch chi i\u2019r ffigurau hyn.  <\/p>\n\n\n\n<p>Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein taflen wybodaeth, <a href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/adennill-costau-llawn\/\">Adennill Costau Llawn.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Ffynonellau eraill o wybodaeth<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae gan CAPlus daenlenni defnyddiol ar gyfer <ins><a href=\"https:\/\/www.caplus.org.uk\/pricing-and-costing-service-and-specific-products\">dyrannu gorbenion i brosiectau (Saesneg yn unig).<\/a><\/ins><\/p>\n\n\n\n<p>Mae gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ganllawiau ar <ins><a href=\"https:\/\/www.tnlcommunityfund.org.uk\/funding\/funding-guidance\/full-cost-recovery\">adennill costau llawn<\/a><\/ins>.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Cash-flow-forecast\"><strong>Rhagolwg llif arian<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Er mwyn cael darlun gwirioneddol o berfformiad ariannol eich mudiad, dylech fonitro eich llif arian ochr yn ochr \u00e2\u2019ch cyllidebau. <\/p>\n\n\n\n<p>Bydd deall eich llif arian yn eich helpu i reoli eich mudiad a sicrhau bod gennych chi ddigon o gyllid i dalu eich biliau ar yr adeg gywir. Mae rhagolwg neu ddatganiad llif arian yn nodi symudiadau ariannol i mewn ac allan o\u2019r mudiad dros gyfnod o amser, a gall fod yn ddefnyddiol iawn i roi gwybod i chi pan fydd angen i chi weithredu, er enghraifft, i addasu\u2019r amserlenni talu neu fynd ar \u00f4l arian sy\u2019n ddyledus i chi. <\/p>\n\n\n\n<p>Gall methu \u00e2 rheoli\u2019r llif arian yn effeithiol arwain at anawsterau difrifol, gallai eich mudiad orfod cau hyd yn oed, felly mae\u2019n bwysig bod hyn yn cael ei wneud yn rheolaidd ac yn gywir fel rhan o\u2019ch adroddiadau ariannol i\u2019ch bwrdd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae enghraifft o sut i fynd ati i wneud hyn wedi\u2019i nodi yn ein taflen wybodaeth, <a href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/resources\/cadw-cyfrifon-sylfaenol\/\">Cadw Cyfrifon Sylfaenol<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Longer-term-financial-forecasting\"><strong>Rhagolygon ariannol mwy hirdymor<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Bydd llawer o reolaeth ariannol eich mudiad yn canolbwyntio ar ymdrin \u00e2\u2019r cyfnod ariannol presennol, ond mae ganddo hefyd r\u00f4l i\u2019w chwarae mewn paratoi eich mudiad ar gyfer y cyfnod mwy hirdymor. Yn ein hadran ar <a href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/strategaeth-cynllunio-ac-effaith\/#Different-types-of-plans\">gynllunio strategol a busnes<\/a>, rydyn ni\u2019n siarad am yr angen i ddatblygu cynllun busnes ar gyfer eich mudiad sy\u2019n nodi\u2019r nodau ac amcanion mwy hirdymor rydych chi\u2019n gweithio tuag atynt.  Mae hyn yn cynnwys creu rhagolwg ariannol sy\u2019n rhagweld eich incwm a gwariant dros y cyfnod amser perthnasol.<\/p>\n\n\n\n<p>Gallwch chi ddefnyddio eich templed o gyllideb ar gyfer y gwaith hwn, ond bydd eich rhagfynegiadau ynghylch yr incwm a gwariant yn fwy cyffredinol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r math hwn o gynllunio ariannol yn bwysig i lywio penderfyniadau ynghylch cyfeiriad mwy hirdymor y mudiad. Mae hefyd yn helpu i nodi\u2019r risgiau ariannol y gallai\u2019r mudiad ei wynebu yn y dyfodol. <\/p>\n\n\n\n<p>Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am sut i reoli risg yn ein hadran <a href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/rheoli-risg-ac-yswiriant\/\">Rheoli Risg<\/a>. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae gan y Charity Finance Group <a href=\"http:\/\/smallcharityfinance.org.uk\/\">a<\/a><ins><a href=\"http:\/\/smallcharityfinance.org.uk\/\">mrediad o dempledi a recordiad o weminar (Saesneg yn unig)<\/a><\/ins> a fydd yn helpu mudiadau bach gyda chyllidebau a llif arian.<\/p>\n\n\n\n\t<\/div>\n\n\n\n<div class=\"col-12 col-md-3\">\n\t\t\t\n\n\t<\/div>\n\n<\/div>\n\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"author":2205,"featured_media":0,"parent":17210,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"ep_exclude_from_search":false,"footnotes":""},"class_list":["post-18425","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Cyllidebau a rhagweld|Hwb Gwybodaeth<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rheoli-arian-a-chyllidebau\/cyllidebau-a-rhagweld\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Cyllidebau a rhagweld|Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rheoli-arian-a-chyllidebau\/cyllidebau-a-rhagweld\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-07-09T13:29:25+00:00\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"8 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rheoli-arian-a-chyllidebau\/cyllidebau-a-rhagweld\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rheoli-arian-a-chyllidebau\/cyllidebau-a-rhagweld\/\",\"name\":\"Cyllidebau a rhagweld|Hwb Gwybodaeth\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\"},\"datePublished\":\"2024-03-25T16:30:40+00:00\",\"dateModified\":\"2025-07-09T13:29:25+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rheoli-arian-a-chyllidebau\/cyllidebau-a-rhagweld\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rheoli-arian-a-chyllidebau\/cyllidebau-a-rhagweld\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rheoli-arian-a-chyllidebau\/cyllidebau-a-rhagweld\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Help ac arweiniad\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Rheoli arian a chyllidebau\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rheoli-arian-a-chyllidebau\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":4,\"name\":\"Cyllidebau a rhagweld\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"description\":\"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"width\":512,\"height\":512,\"caption\":\"Hwb Gwybodaeth\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Cyllidebau a rhagweld|Hwb Gwybodaeth","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rheoli-arian-a-chyllidebau\/cyllidebau-a-rhagweld\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Cyllidebau a rhagweld|Hwb Gwybodaeth","og_url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rheoli-arian-a-chyllidebau\/cyllidebau-a-rhagweld\/","og_site_name":"Hwb Gwybodaeth","article_modified_time":"2025-07-09T13:29:25+00:00","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"8 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rheoli-arian-a-chyllidebau\/cyllidebau-a-rhagweld\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rheoli-arian-a-chyllidebau\/cyllidebau-a-rhagweld\/","name":"Cyllidebau a rhagweld|Hwb Gwybodaeth","isPartOf":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website"},"datePublished":"2024-03-25T16:30:40+00:00","dateModified":"2025-07-09T13:29:25+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rheoli-arian-a-chyllidebau\/cyllidebau-a-rhagweld\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rheoli-arian-a-chyllidebau\/cyllidebau-a-rhagweld\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rheoli-arian-a-chyllidebau\/cyllidebau-a-rhagweld\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Help ac arweiniad","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Rheoli arian a chyllidebau","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rheoli-arian-a-chyllidebau\/"},{"@type":"ListItem","position":4,"name":"Cyllidebau a rhagweld"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","name":"Hwb Gwybodaeth","description":"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.","publisher":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization","name":"Hwb Gwybodaeth","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","width":512,"height":512,"caption":"Hwb Gwybodaeth"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/18425","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2205"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=18425"}],"version-history":[{"count":11,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/18425\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":20797,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/18425\/revisions\/20797"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/17210"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=18425"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}