{"id":18375,"date":"2024-03-25T15:46:06","date_gmt":"2024-03-25T15:46:06","guid":{"rendered":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/?page_id=18375"},"modified":"2025-07-09T14:30:57","modified_gmt":"2025-07-09T13:30:57","slug":"rhestr-or-prif-dermau","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rheoli-arian-a-chyllidebau\/rhestr-or-prif-dermau\/","title":{"rendered":"Rhestr o\u2019r prif dermau"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-bootstrap-blocks-container container mb-2\">\n\t\n<div class=\"site-breadcrumbs\"><span><span><a href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\">Cartref<\/a><\/span><\/span><\/div>\n\n\n\n\n<div class=\"wp-bootstrap-blocks-row row\">\n\t\n\n<div class=\"col-12 col-md-9\">\n\t\t\t\n\n<p>Gall yr iaith a ddefnyddir mewn rheolaeth ariannol fod yn eithaf anodd, oherwydd mae gan lawer o dermau ystyron penodol iawn a gallant fod yn eithaf technegol. Rydyn ni wedi dwyn ynghyd y prif dermau y byddwch chi\u2019n eu gweld yn y canllawiau hyn, a gwybodaeth arall sy\u2019n ymwneud \u00e2 rheolaeth ariannol, ac wedi rhoi diffiniad syml. Noder bod gan rai o\u2019r termau hyn ystyron penodol iawn a gall ddibynnu ar amgylchiadau penodol, ond diben y diffiniadau a roddir yn yr adran hon yw rhoi cyflwyniad i chi i\u2019r pwnc hwn.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Adennill costau llawn \u2013<\/strong> ffordd o gostio eich gweithgareddau neu brosiect sy\u2019n galluogi mudiadau gwirfoddol i adennill eu gorbenion sefydliadol, a rennir ymhlith eu prosiectau gwahanol.  <\/p>\n\n\n\n<p><strong>Arian wrth gefn \u2013<\/strong> arian a roddir o\u2019r neilltu i dalu am gostau eitemau\/digwyddiadau posibl na ragwelwyd.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Ased \u2013 <\/strong>eitem o werth sy\u2019n eiddo i\u2019r mudiad ac yn cael ei rheoli ganddo.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Ased anniriaethol \u2013<\/strong> ased heb ymddangosiad ffisegol. Ymhlith yr enghreifftiau, mae eiddo deallusol, adnabod brand ac enw da, cydberthnasau ac ewyllys da.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Ased sefydlog \u2013<\/strong> eitem werthfawr o werth parhaus nad yw\u2019n cael ei defnyddio at ddibenion gweithredu mewn un cyfnod cyfrifyddu blynyddol: mae\u2019n cynnwys tir, adeiladau, peiriannau a cherbydau.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Asedau cyfredol \u2013<\/strong> naill ai arian parod neu bethau y gellir eu troi\u2019n arian parod o fewn cyfnod byr o amser, fel buddsoddiadau tymor byr, stociau masnachol a dyledwyr.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Asedau cyfredol net \u2013<\/strong> y gwahaniaeth rhwng asedau cyfredol a rhwymedigaethau cyfredol (edrych ar yr hyn sydd gennych chi ar hyn sydd angen i chi dalu amdano yn y tymor byr). Os yw\u2019r rhwymedigaethau cyfredol yn fwy na\u2019r asedau cyfredol, yn rhwymedigaethau cyfredol net yw hyn.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Asedau diriaethol \u2013<\/strong> asedau ag ymddangosiad ffisegol. Ymhlith yr enghreifftiau mae peiriannau, adeiladau a cherbydau.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Asedau net \u2013<\/strong> y gwahaniaeth rhwng asedau sefydlog a chyfredol (y pethau sy\u2019n eiddo i chi) a chyfanswm y rhwymedigaethau (y pethau sydd angen i chi dalu amdanynt). Os yw\u2019r rhwymedigaethau\u2019n fwy na\u2019r asedau, yna rhwymedigaethau net yw hyn.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Balansau \u2013 <\/strong>yr arian sydd wedi cronni o arian dros ben mewn cyfnodau cyfrifyddu dilynol.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Credydwyr \u2013<\/strong> unigolyn neu fudiad y mae arian yn ddyledus iddo ac (yn y fantolen) cyfanswm symiau o\u2019r fath.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cronfeydd wrth gefn \u2013<\/strong> rydyn ni\u2019n defnyddio\u2019r term cronfeydd wrth gefn i olygu arian sydd gan eich mudiad y gellir ei wario ar unrhyw un o weithgareddau eich mudiad. (Nid yw\u2019r diffiniad yn cynnwys cyllid cyfyngedig \u2013 gweler isod). I gyfrifo faint o gronfeydd wrth gefn sydd gennych chi, nodwch gyfanswm cyllid y mudiad a thynnwch unrhyw gyllid cyfyngedig, asedau sefydlog ac arian sydd eisoes wedi\u2019i roi o\u2019r neilltu ar gyfer gweithgareddau yn y dyfodol oddi wrtho.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cyfalaf gweithio \u2013<\/strong> cyfalaf sydd ar gael o un dydd i\u2019r llall ar gyfer gweithrediad y mudiad. Y cyfalaf yw eich asedau cyfredol minws eich rhwymedigaethau cyfredol.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cyfnod cyfrifyddu \u2013 <\/strong>cyfnod o amser a ddefnyddir i nodi ac adrodd gwybodaeth ariannol. Y cyfnod cyfrifyddu mawr yw\u2019r flwyddyn ariannol 12 mis. Mae cyfnodau cyfrifyddu blynyddol y sector cyhoeddus yn rhedeg o 1 Ebrill i 31 Mawrth, ond gall cyfnod cyfrifyddu blynyddol fod yn unrhyw 12 mis.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cyfrif incwm a gwariant \u2013<\/strong> datganiad sy\u2019n dangos pa warged neu ddiffyg sydd wedi\u2019i wneud gan fudiad dros gyfnod cyfrifyddu, a sut mae wedi\u2019i gymhwyso. Yn achos cwmn\u00efau masnachol, gelwir hyn yn gyfrif elw a cholled. Yn y cyfrifon blynyddol, bydd hwn yn cael ei gynnwys fel arfer o fewn y datganiad o weithgareddau ariannol.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cyllid anghyfyngedig \u2013<\/strong> adnoddau yw\u2019r rhain y gellir eu gwario ar unrhyw beth sy\u2019n ychwanegu at ddiben y mudiad.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cyllid cyfyngedig \u2013<\/strong> cyllid lle mae\u2019r rhoddwyr wedi nodi\u2019n gwmws sut dylai\u2019r adnoddau gael eu defnyddio a lle nad oes gan y mudiad y p\u0175er i amrywio\u2019r dymuniadau hynny.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cyllideb &#8211; <\/strong>rhaglen weithredu flynyddol mudiad, a ddiffinnir o ran arian.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cynllun costau \u2013<\/strong> rhestr o elfennau prosiect yn nodi\u2019r costau sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 phob un.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Datganiad o weithgareddau ariannol \u2013<\/strong> un datganiad cyfrifyddu sy\u2019n dadansoddi\u2019r holl adnoddau a gwariant cyfalaf ac incwm, ac sy\u2019n cynnwys cysoniad o\u2019r holl symudiadau yng nghronfeydd y mudiad, gan nodi\u2019r incwm a dderbyniwyd at ddibenion penodol.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Dibrisiad \u2013<\/strong> y gwerth y mae ased yn ei golli am ba bynnag reswm; neu ddileu gwerth ased sefydlog dros ei fywyd defnyddiol. Rhaid i bob ased diriaethol gael ei ddibrisio.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Diffyg \u2013<\/strong> byddai eich mudiad mewn diffyg pe bai ei wariant yn fwy na\u2019i incwm mewn unrhyw gyfnod cyfrifyddu.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Dyledwr \u2013<\/strong> unigolyn neu fudiad y mae arnyn nhw arian i chi ac (yn y fantolen) cyfanswm yr arian sy\u2019n ddyledus yn y modd hwn.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Gorddrafft banc \u2013 <\/strong>blaenswm a roddir i alluogi mudiad i allu rheoli\u2019r llif arian yn y tymor byr. Rhaid ad-dalu gorddrafftiau ar alwad.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Gwarged \u2013<\/strong> byddai eich mudiad mewn gwared pe bai ei incwm yn fwy na\u2019i wariant mewn unrhyw gyfnod cyfrifyddu.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Gwariant cyfalaf \u2013 <\/strong>gwariant ar gaffaeliad asedau.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Gwariant cyfredol \u2013 <\/strong>gwariant ar eitemau bob dydd fel y gyflogres, prynu nwyddau a gwasanaethau, rhent a chynnal a chadw asedau.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Incwm cyfalaf \u2013<\/strong> y cyllid sy\u2019n dod i mewn y byddwch chi\u2019n ei ddefnyddio i dalu am eich gwariant cyfalaf.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Llif arian \u2013 <\/strong>patrwm incwm a gwariant mudiad, a\u2019r effaith ar ei falansau ariannol; (arian i mewn ac allan). Mae \u2018llif arian positif\u2019 yn golygu bod mwy o arian yn dod i mewn i fudiad nag sydd yn mynd allan. Mae \u2018llif arian negyddol\u2019 yn golygu i\u2019r gwrthwyneb: mae mwy o arian yn mynd allan nag sydd yn dod i mewn.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Mantolen \u2013 <\/strong>datganiad sy\u2019n dangos, ar bwynt penodol o amser, asedau a rhwymedigaethau mudiad, eu gwerth, a sut y talwyd amdanynt.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Rhagdaliadau &#8211;<\/strong> incwm rydych chi wedi\u2019i dderbyn cyn oedd yn ddyledus ar gyfer gwasanaethau a fydd yn cael eu darparu mewn cyfnod cyfrifyddu diweddarach. Rhwymedigaeth gyfredol yw hon.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Rhagolwg llif arian <\/strong>&#8211; dogfen sy\u2019n nodi rhagolygon o statws arian parod mudiad, gan ddangos yr arian y mae\u2019n disgwyl ei dderbyn neu ei dalu allan. Mae datganiad llif arian yn dangos pryd fydd balansau yn debygol o fod o dan fwy o straen, pan fydd angen gorddrafft banc neu gyllid tymor byr arall.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Rhwymedigaethau \u2013<\/strong> goblygiadau ariannol mudiad i bart\u00efon eraill.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Rhwymedigaethau cyfredol \u2013<\/strong> y symiau o arian sy\u2019n ddyledus gan y mudiad y bydd angen eu talu yn y dyfodol agos, fel arfer, o fewn blwyddyn \u2013 gan gynnwys credydwyr a gorddrafftiau banc.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Stociau \u2013<\/strong> eitemau a gedwir i\u2019w troi\u2019n arian parod yn ddiweddarach, gan gynnwys deunyddiau, nwyddau gorffenedig, cydrannau, rhannau y prynwyd i mewn a gwaith sydd ar droed. Mae\u2019r rhain wedi\u2019u cynnwys yn yr asedau cyfredol.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Taliadau ymlaen llaw \u2013<\/strong> symiau rydych chi wedi\u2019u talu allan i bobl eraill o incwm blwyddyn cyfredol er budd blwyddyn i ddod. Ased cyfredol yw hwn.<\/p>\n\n\n\n\t<\/div>\n\n\n\n<div class=\"col-12 col-md-3\">\n\t\t\t\n\n\t<\/div>\n\n<\/div>\n\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"author":2205,"featured_media":0,"parent":17210,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"ep_exclude_from_search":false,"footnotes":""},"class_list":["post-18375","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Rhestr o\u2019r prif dermau|Hwb Gwybodaeth<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rheoli-arian-a-chyllidebau\/rhestr-or-prif-dermau\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Rhestr o\u2019r prif dermau|Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rheoli-arian-a-chyllidebau\/rhestr-or-prif-dermau\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-07-09T13:30:57+00:00\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"5 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rheoli-arian-a-chyllidebau\/rhestr-or-prif-dermau\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rheoli-arian-a-chyllidebau\/rhestr-or-prif-dermau\/\",\"name\":\"Rhestr o\u2019r prif dermau|Hwb Gwybodaeth\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\"},\"datePublished\":\"2024-03-25T15:46:06+00:00\",\"dateModified\":\"2025-07-09T13:30:57+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rheoli-arian-a-chyllidebau\/rhestr-or-prif-dermau\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rheoli-arian-a-chyllidebau\/rhestr-or-prif-dermau\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rheoli-arian-a-chyllidebau\/rhestr-or-prif-dermau\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Help ac arweiniad\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Rheoli arian a chyllidebau\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rheoli-arian-a-chyllidebau\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":4,\"name\":\"Rhestr o\u2019r prif dermau\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"description\":\"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"width\":512,\"height\":512,\"caption\":\"Hwb Gwybodaeth\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Rhestr o\u2019r prif dermau|Hwb Gwybodaeth","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rheoli-arian-a-chyllidebau\/rhestr-or-prif-dermau\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Rhestr o\u2019r prif dermau|Hwb Gwybodaeth","og_url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rheoli-arian-a-chyllidebau\/rhestr-or-prif-dermau\/","og_site_name":"Hwb Gwybodaeth","article_modified_time":"2025-07-09T13:30:57+00:00","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"5 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rheoli-arian-a-chyllidebau\/rhestr-or-prif-dermau\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rheoli-arian-a-chyllidebau\/rhestr-or-prif-dermau\/","name":"Rhestr o\u2019r prif dermau|Hwb Gwybodaeth","isPartOf":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website"},"datePublished":"2024-03-25T15:46:06+00:00","dateModified":"2025-07-09T13:30:57+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rheoli-arian-a-chyllidebau\/rhestr-or-prif-dermau\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rheoli-arian-a-chyllidebau\/rhestr-or-prif-dermau\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rheoli-arian-a-chyllidebau\/rhestr-or-prif-dermau\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Help ac arweiniad","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Rheoli arian a chyllidebau","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rheoli-arian-a-chyllidebau\/"},{"@type":"ListItem","position":4,"name":"Rhestr o\u2019r prif dermau"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","name":"Hwb Gwybodaeth","description":"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.","publisher":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization","name":"Hwb Gwybodaeth","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","width":512,"height":512,"caption":"Hwb Gwybodaeth"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/18375","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2205"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=18375"}],"version-history":[{"count":9,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/18375\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":20800,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/18375\/revisions\/20800"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/17210"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=18375"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}