{"id":17907,"date":"2023-11-20T16:25:25","date_gmt":"2023-11-20T16:25:25","guid":{"rendered":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/?page_id=17907"},"modified":"2025-07-09T14:28:24","modified_gmt":"2025-07-09T13:28:24","slug":"strategaeth-cynllunio-ac-effaith","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/strategaeth-cynllunio-ac-effaith\/","title":{"rendered":"Strategaeth, cynllunio ac effaith"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-bootstrap-blocks-container container mb-2\">\n\t\n<div class=\"site-breadcrumbs\"><span><span><a href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\">Cartref<\/a><\/span><\/span><\/div>\n\n\n\n\n<div class=\"wp-bootstrap-blocks-row row\">\n\t\n\n<div class=\"col-12 col-md-9\">\n\t\t\t\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"What\u2019s-the-point-of-planning?\"><strong><strong>Pam mae angen cynllunio?<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Efallai eich bod yn meddwl eich bod yn rhy brysur yn y presennol i gynllunio ar gyfer y dyfodol, ond peidiwch \u00e2 chymryd yn ganiataol bod gan bawb yn eich mudiad yr un syniad o\u2019r hyn y dylech chi fod yn ei wneud a sut i\u2019w wneud. A pheidiwch \u00e2 chymryd yn ganiataol y bydd eich amgylchiadau allanol bob amser yn aros yr un fath. Ewch ati i gynllunio fel bod pob un ohonoch chi\u2019n gwybod i ba gyfeiriad rydych chi\u2019n mynd, a sut i ddod o hyd i\u2019r ffordd orau o gyrraedd yno. Mae\u2019n bwysig felly bod eich proses gynllunio yn arwain at ryw fath o gynllun ysgrifenedig, sy\u2019n dangos sut rydych chi\u2019n bwriadu gwneud cynnydd at eich nodau dros gyfnod o amser.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae cynllunio yn eich helpu i:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>gael ymwybyddiaeth glir o ddiben eich mudiad;<\/li>\n\n\n\n<li>gosod prif amcanion eich gwaith;<\/li>\n\n\n\n<li>nodi eich blaenoriaethau;<\/li>\n\n\n\n<li>rhestru\u2019r adnoddau y bydd arnoch chi eu hangen &#8211; e.e., arian, person\u00e9l, lle i weithio, sgiliau, cyfarpar &#8211; a sut i\u2019w defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol;<\/li>\n\n\n\n<li>pennu sut byddwch chi\u2019n cael yr adnoddau sydd eu hangen arnoch chi;<\/li>\n\n\n\n<li>rhagweld newid ac osgoi gorfod rheoli argyfyngau;<\/li>\n\n\n\n<li>monitro a gwerthuso eich gwaith;<\/li>\n\n\n\n<li>bod yn rhagweithiol yn hytrach na\u2019n adweithiol yn unig.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Different-types-of-plans\"><strong>Gwahanol fathau o gynlluniau<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Gall yr iaith sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 chynllunio fod yn ddryslyd weithiau, gyda thermau cynllunio busnes gwahanol yn cael eu defnyddio, gan gynnwys beth rydych chi\u2019n galw eich cynllun! Efallai y byddai\u2019n ddefnyddiol meddwl am wahanol fathau o gynlluniau fel rhan o hierarchaeth o ran graddfa a lefel y manylder.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Strategaeth<\/strong> yw cynllun ar gyfer datblygiad hirdymor eich mudiad, fel arfer yn edrych tair i bum mlynedd ymlaen. Mae\u2019n cynnwys lefel uchel o wybodaeth am weledigaeth a diben eich mudiad a\u2019ch blaenoriaethau.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae <strong>cynllun busnes<\/strong> yn ddisgrifiad mwy manwl o sut byddwch chi\u2019n cyflawni eich nodau. Bydd yn disgrifio eich prif weithgareddau, yr adnoddau y bydd eu hangen arnoch a\u2019r amserlenni, cerrig milltir a dangosyddion perfformiad allweddol y byddwch chi\u2019n eu defnyddio.<\/p>\n\n\n\n<p>Eglurodd NCVO ef fel hyn:<\/p>\n\n\n\n<p><ins><a href=\"https:\/\/www.ncvo.org.uk\/help-and-guidance\/strategy-and-impact\/strategy-and-business-planning\/business-planning\/what-is-business-planning\/#\/whats-the-difference-between-a-strategy-and-a-business-plan\">\u2019Os mai\u2019r strategaeth yw llun o\u2019r t\u0177 rydych chi eisiau ei adeiladu, yna\u2019r cynllun busnes yw\u2019r glasbrint llawn \u2013 y weirio, y plymio, y sylfeini a\u2019r gweithwyr.\u2019 (Saesneg yn unig ar y wefan)<\/a><\/ins><\/p>\n\n\n\n<p>Yna ceir y <strong>cynllun gweithredol<\/strong> sy\u2019n nodi cynllun gwaith manwl ar gyfer gweithgaredd neu brosiect penodol.<\/p>\n\n\n\n<p>Efallai y bydd mudiadau mawr yn llunio cynllun strategol sy\u2019n cael ei ddefnyddio fel dogfen gyhoeddus i roi trosolwg o\u2019u mudiad a chynllun busnes mewnol ar wah\u00e2n sy\u2019n cael ei ddefnyddio i lywio\u2019r ffordd y caiff y mudiad ei redeg.<\/p>\n\n\n\n<p>I fudiadau llai, gallech chi benderfynu cynnwys eich strategaeth a\u2019ch cynllun busnes yn yr un ddogfen. Mae templedi o gynlluniau busnes ar gael sy\u2019n dilyn y drefn hon, lle y ceir gwybodaeth am strategaeth y mudiad ar ddechrau\u2019r ddogfen ac yna manylion gweithredol ynghylch sut bydd hon yn cael ei chyflawni. Rydyn ni wedi cynnwys rhai dolenni i dempledi yn yr adran Ysgrifennu eich cynllun a fydd yn eich helpu gyda hyn.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"The-planning-process\"><strong>Y broses gynllunio<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p><strong>Pryd i gynllunio<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Ni ddylai cynllunio cael ei weld fel gwaith beichus, ond yn hytrach, fel proses ddefnyddiol sy\u2019n paratoi eich mudiad at y dyfodol. Bydd angen i chi lunio, neu adolygu eich cynllun:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>pan fyddwch chi\u2019n dechrau<\/li>\n\n\n\n<li>pan fyddwch chi eisiau ehangu neu wneud newidiadau mawr<\/li>\n\n\n\n<li>pan fydd eich amgylchiadau allanol yn newid \u2013 e.e. newidiadau polisi sy\u2019n effeithio arnoch chi, toriadau i gyllid, neu pan fydd anghenion eich defnyddwyr yn newid<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Bydd angen i chi adolygu&#8217;r elfen strategol bob tair i bum mlynedd o dan amgylchiadau arferol er mwyn gwirio bod cenhadaeth ac amcanion lefel uchel eich mudiad yn parhau i fod yn berthnasol ac yn briodol. Efallai y bydd angen i chi ei hadolygu\u2019n amlach na hynny os yw amgylchiadau eich mudiad wedi newid yn sylweddol.<\/p>\n\n\n\n<p>Dylid trin elfennau gweithredol eich cynllun fel dogfen fyw, gan gyfeirio atyn nhw, a\u2019u diweddaru\u2019n rheolaidd.<\/p>\n\n\n\n<p>Os byddwch chi\u2019n penderfynu gwneud cais am gyllid grant, bydd angen cynllun busnes arnoch chi. Bydd hwn yn dangos i\u2019r cyllidwr bod eich mudiad yn gredadwy, yn gallu cyflawni ei weithgareddau a\u2019i fod yn deilwng o\u2019i fuddsoddiad.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Pwy ddylai fod yn gysylltiedig \u00e2\u2019r broses gynllunio?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Yn ddelfrydol, dylai eich proses gynllunio gynnwys ystod eang o bobl oherwydd bydd ystyried safbwyntiau gwahanol yn eich helpu i wneud penderfyniadau da. Hefyd, os bydd pobl yn rhan o\u2019r broses gynllunio, byddant yn teimlo eu bod yn gysylltiedig \u00e2\u2019r mudiad ac yn cael mwy o ddealltwriaeth o\u2019r cynllun, a bydd hyn yn ei wneud yn fwy tebygol o lwyddo.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n bwysig cofio mai\u2019r bwrdd ymddiriedolwyr sy\u2019n gyfrifol am gyfeiriad strategol eich mudiad yn y pen draw, a rhaid iddyn nhw fod yn rhan o\u2019r broses (os nad yn ei harwain) a chefnogi\u2019r penderfyniadau sy\u2019n cael eu gwneud.<\/p>\n\n\n\n<p>Dyma bobl eraill a allai fod ynghlwm \u00e2\u2019r broses:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>staff, os oes gennych chi rai<\/li>\n\n\n\n<li>gwirfoddolwyr<\/li>\n\n\n\n<li>eich buddiolwyr neu ddefnyddwyr gwasanaethau<\/li>\n\n\n\n<li>mudiadau rydych chi\u2019n gweithio gyda nhw<\/li>\n\n\n\n<li>cyllidwyr<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Meddyliwch am ba wybodaeth y byddai ei hangen arnoch gan bobl rydych chi\u2019n eu cynnwys yn y broses a phryd fyddwch chi angen yr wybodaeth hon. Meddyliwch hefyd a oes unrhyw wybodaeth ar goll a sut gallwch chi fynd i\u2019r afael \u00e2 hyn.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Writing-your-plan\"><strong>Ysgrifennu eich cynllun<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Nid oes unrhyw reolau penodol ar sut i ysgrifennu eich cynllun, ond mae\u2019n bwysig ei fod yn adlewyrchiad cywir o\u2019ch mudiad a\u2019r nodau rydych chi\u2019n gweithio tuag atyn nhw.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gan NCVO wybodaeth fanwl ar eu gwefan sy\u2019n <ins><a href=\"https:\/\/www.ncvo.org.uk\/help-and-guidance\/strategy-and-impact\/strategy-and-business-planning\/business-planning\/writing-your-business-plan\/#\/\">nodi&#8217;r adrannau y gallwch chi eu cynnwys yn eich cynllun (Saesneg yn unig).<\/a><\/ins><\/p>\n\n\n\n<p>Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol hefyd wedi llunio <ins><a href=\"https:\/\/www.heritagefund.org.uk\/funding\/good-practice-guidance\/business-plan-template-and-guidance\">canllawiau ar gyfer llunio cynllun busnes.<\/a><\/ins> Mae\u2019r canllawiau hyn yn cyflwyno strwythur ar gyfer cynllun gydag awgrymiadau ar beth i\u2019w gynnwys ym mhob rhan. Er eu bod wedi\u2019u bwriadu i gynorthwyo mudiadau sy\u2019n dymuno gwneud cais i\u2019r Gronfa Dreftadaeth, maen nhw\u2019n ddefnyddiol i bob mudiad, ac yn rhoi syniad i chi o\u2019r lefel o wybodaeth y byddai cyllidwr mawr yn disgwyl ei gweld mewn cynllun busnes. Mae gan Ymddiriedolaeth Cranfield ganllawiau ar gynllunio busnes hefyd, gan gynnwys templed y <ins><a href=\"https:\/\/www.cranfieldtrust.org\/resources\/charity-strategy-and-business-planning\">gellir ei lawrlwytho (Saesneg yn unig).<\/a><\/ins><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"understanding-impact\"><strong>Deall Effaith<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p><strong>Beth yw effaith?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Pan fyddwn ni\u2019n siarad am \u2018effaith\u2019, rydyn ni\u2019n cyfeirio at y gwahaniaeth y mae eich mudiad yn ei wneud. Yr effaith yw effeithiau eang neu hirdymor gwaith eich mudiad. Gall gynnwys yr effeithiau ar bobl sy\u2019n ddefnyddwyr uniongyrchol o brosiect neu waith mudiad, yr effeithiau ar y rheini nad ydynt yn ddefnyddwyr uniongyrchol, neu\u2019r effeithiau ar faes ehangach fel polisi llywodraethol.<\/p>\n\n\n\n<p>Os feddyliwch chi am effaith eich mudiad, bydd rhai pethau\u2019n si\u0175r o ddod i\u2019r cof yn hawdd, a bydd y rhain fel arfer yn ymwneud \u00e2 chenhadaeth eich mudiad neu\u2019r rheswm dros ei fodolaeth. Bydd si\u0175r o fod effeithiau eraill y gwyddoch neu na wyddoch amdanynt. Yr hyn sy\u2019n bwysig yw eich bod yn sylweddoli y gall effaith fod yn bositif neu\u2019n negyddol, gall fod yn effaith a gynlluniwyd neu\u2019n un annisgwyl a gall fod o ganlyniad i flynyddoedd o waith.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae <strong>ymarfer effaith<\/strong> yn cyfeirio at yr holl weithgareddau rydych chi\u2019n eu gwneud i ddangos y gwahaniaeth positif y mae eich mudiad yn ei wneud. Mae\u2019n ymwneud \u00e2 dysgu\u2019r ffordd orau o wasanaethu\u2019r bobl rydych chi\u2019n eu cefnogi.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae hyn yn golygu: <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>cynllunio pa wahaniaeth rydych chi eisiau ei wneud<\/li>\n\n\n\n<li>casglu\u2019r wybodaeth iawn er mwyn gwybod a ydych chi\u2019n cyflawni eich nodau<\/li>\n\n\n\n<li>asesu pa effaith rydych chi\u2019n ei chael, a<\/li>\n\n\n\n<li>dysgu o\u2019r canlyniadau er mwyn gwella eich gwaith.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Pam edrych ar effaith?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae effaith yn ymwneud ag a yw eich mudiad yn gwneud gwahaniaeth. Dylai fod yn rhywbeth y mae gan y bwrdd ymddiriedolwyr ddiddordeb ynddo, fel rhan o\u2019r gwaith o fonitro perfformiad eich mudiad a gwella\u2019r gwaith rydych chi\u2019n ei wneud. Ond, mae hefyd yn rhywbeth y bydd gan randdeiliaid eraill ddiddordeb ynddo:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Bydd defnyddwyr gwasanaethau \/ cleientiaid \/ cwsmeriaid a\u2019ch gwirfoddolwyr a staff eich hun eisiau bod yn gysylltiedig \u00e2 gr\u0175p \/ gwasanaeth \/ mudiad sy\u2019n cael ei ystyried yn \u2018beth da\u2019 yn eu gr\u0175p cymheiriaid<\/li>\n\n\n\n<li>Bydd cyllidwyr eisiau gweld pa wahaniaeth y mae eu cyllid yn ei gael<\/li>\n\n\n\n<li>Bydd cynghorwyr lleol, aelodau seneddol ac aelodau o Senedd Ewrop eisiau gweld bod eich mudiad yn gwneud cyfraniad positif<\/li>\n\n\n\n<li>Bydd gan fudiadau partner ddiddordeb mewn sut gall eich dylanwad, enw da a\u2019ch gallu i gyflawni eu helpu i gyflawni eu nodau<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n bwysig bod eich mudiad yn gallu dangos y gwahaniaeth y mae\u2019n ei wneud a\u2019i fod yn gallu cyfathrebu hyn yn effeithiol i gyllidwyr, buddiolwyr a\u2019r cyhoedd. <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Develop-your-impact-practice\"><strong>Datblygu eich ymarfer effaith<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Gallwch chi ddod o hyd i ystod o adnoddau a chanllawiau ymarferol ar <a href=\"https:\/\/www.thinknpc.org\/starting-to-measure-your-impact\/\">wefan yr NPC (Saesneg yn unig)<\/a> i\u2019ch helpu i ddatblygu eich ymarfer effaith. Mae\u2019r rhain yn cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>dull gweithredu cam wrth gam y gallwch chi ei fabwysiadu (a elwir yn \u201cCycle of Good Impact Practice\u201d \u2013 Y Gylchred Ymarfer Effaith Dda)<\/li>\n\n\n\n<li>canllaw ar ddeall y jargon<\/li>\n\n\n\n<li>adnodd diagnostig ar ba ddata i\u2019w gasglu a sut<\/li>\n\n\n\n<li>gwybodaeth am yr egwyddorion a ddylai lywio ymarfer effaith (Y Cod Ymarfer Effaith Da)<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Rydyn ni hefyd wedi datblygu cwrs e-ddysgu rhagarweiniol am ddim, Cyflwyniad i Effaith, i\u2019ch helpu chi i ddechrau deall a mesur eich effaith.<\/p>\n\n\t<\/div>\n\n\n\n<div class=\"col-12 col-md-3\">\n\t\t\t\n\n\t<\/div>\n\n<\/div>\n\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"author":2205,"featured_media":0,"parent":17952,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"ep_exclude_from_search":false,"footnotes":""},"class_list":["post-17907","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Strategaeth, cynllunio ac effaith|Hwb Gwybodaeth<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/strategaeth-cynllunio-ac-effaith\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Strategaeth, cynllunio ac effaith|Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/strategaeth-cynllunio-ac-effaith\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-07-09T13:28:24+00:00\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"7 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/strategaeth-cynllunio-ac-effaith\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/strategaeth-cynllunio-ac-effaith\/\",\"name\":\"Strategaeth, cynllunio ac effaith|Hwb Gwybodaeth\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\"},\"datePublished\":\"2023-11-20T16:25:25+00:00\",\"dateModified\":\"2025-07-09T13:28:24+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/strategaeth-cynllunio-ac-effaith\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/strategaeth-cynllunio-ac-effaith\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/strategaeth-cynllunio-ac-effaith\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Help ac arweiniad\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Rhedeg eich mudiad\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":4,\"name\":\"Strategaeth, cynllunio ac effaith\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"description\":\"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"width\":512,\"height\":512,\"caption\":\"Hwb Gwybodaeth\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Strategaeth, cynllunio ac effaith|Hwb Gwybodaeth","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/strategaeth-cynllunio-ac-effaith\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Strategaeth, cynllunio ac effaith|Hwb Gwybodaeth","og_url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/strategaeth-cynllunio-ac-effaith\/","og_site_name":"Hwb Gwybodaeth","article_modified_time":"2025-07-09T13:28:24+00:00","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"7 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/strategaeth-cynllunio-ac-effaith\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/strategaeth-cynllunio-ac-effaith\/","name":"Strategaeth, cynllunio ac effaith|Hwb Gwybodaeth","isPartOf":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website"},"datePublished":"2023-11-20T16:25:25+00:00","dateModified":"2025-07-09T13:28:24+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/strategaeth-cynllunio-ac-effaith\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/strategaeth-cynllunio-ac-effaith\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/strategaeth-cynllunio-ac-effaith\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Help ac arweiniad","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Rhedeg eich mudiad","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/"},{"@type":"ListItem","position":4,"name":"Strategaeth, cynllunio ac effaith"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","name":"Hwb Gwybodaeth","description":"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.","publisher":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization","name":"Hwb Gwybodaeth","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","width":512,"height":512,"caption":"Hwb Gwybodaeth"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/17907","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2205"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=17907"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/17907\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":20795,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/17907\/revisions\/20795"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/17952"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=17907"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}