{"id":17869,"date":"2023-11-20T16:24:13","date_gmt":"2023-11-20T16:24:13","guid":{"rendered":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/?page_id=17869"},"modified":"2025-07-09T14:25:36","modified_gmt":"2025-07-09T13:25:36","slug":"diogelu-data","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/diogelu-data\/","title":{"rendered":"Diogelu data"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-bootstrap-blocks-container container mb-2\">\n\t\n<div class=\"site-breadcrumbs\"><span><span><a href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\">Cartref<\/a><\/span><\/span><\/div>\n\n\n\n\n<div class=\"wp-bootstrap-blocks-row row\">\n\t\n\n<div class=\"col-12 col-md-9\">\n\t\t\t\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"What-is-data-protection?\"><strong>Beth yw diogelu data?<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r adran hon yn rhoi cyflwyniad i ddiogelu data a sut mae\u2019n berthnasol i\u2019ch mudiad. Mae hwn yn bwnc manwl a bydd y camau y bydd angen i\u2019ch mudiad eu cymryd yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Rydyn ni wedi cymryd yr wybodaeth hon o\u2019r canllawiau a ddarparwyd gan <a href=\"https:\/\/ico.org.uk\/for-organisations\/\">Swyddfa&#8217;r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO)<\/a> a dylech gyfeirio at eu gwefan am ganllawiau manwl a fydd yn helpu eich mudiad i roi\u2019r gofynion angenrheidiol yn eu lle.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae diogelu data yn ymwneud \u00e2 sicrhau y gall pobl ymddiried ynoch i ddefnyddio eu data mewn modd teg a chyfrifol.<\/p>\n\n\n\n<p>Os yw eich mudiad yn casglu gwybodaeth am unigolion am unrhyw reswm, bydd angen i chi gydymffurfio \u00e2\u2019r ddeddfwriaeth diogelu data.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae trefniadau diogelu data\u2019r DU wedi\u2019u nodi yn Neddf Diogelu Data 2018, ynghyd \u00e2 Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) y DU. Mae\u2019n mynd ati mewn modd hyblyg, seiliedig ar risg, sy\u2019n gofyn i chi feddwl am, a chyfiawnhau, sut a pham rydych chi\u2019n defnyddio data.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r gyfraith yn gymwys i unrhyw \u2018ddata personol sy\u2019n cael ei brosesu\u2019, a bydd yn cynnwys y mwyafrif o fusnesau a mudiadau, waeth beth yw eu maint. Mae\u2019n berthnasol i ddata a gaiff ei storio\u2019n ddigidol a chofnodion ar bapur os ydyn nhw\u2019n rhan o system ffeilio.<\/p>\n\n\n\n<p>Yr ICO sy\u2019n rheoleiddio systemau diogelu data yn y DU. Maen nhw\u2019n cynnig cyngor ac arweiniad, yn hybu arferion da, yn cynnal archwiliadau, yn ystyried cwynion, yn monitro cydymffurfiaeth ac yn cymryd camau gorfodi pan fo\u2019n briodol.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"What-is-personal-data?\">Beth yw data personol?<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae deall yr hyn rydyn ni\u2019n ei olygu wrth \u2018ddata personol\u2019 yn eithaf cymhleth. Mae canllawiau\u2019r ICO yn ei egluro fel a ganlyn:<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p><em>Mae data personol yn golygu gwybodaeth am unigolyn byw penodol. Gall hwn fod yn unrhyw un, gan gynnwys cwsmer, cleient, cyflogai, partner, aelod, cefnogwr, cyswllt busnes, aelod swyddogol o\u2019r cyhoedd neu aelod o\u2019r cyhoedd.<\/em><\/p>\n\n\n\n<p><em>Nid oes angen iddi fod yn wybodaeth \u2018breifat\u2019 \u2013 gall hyd yn oed wybodaeth gyhoeddus am fywyd proffesiynol rhywun fod yn ddata personol.<\/em><\/p>\n\n\n\n<p><em>Nid yw\u2019n cynnwys gwybodaeth sy\u2019n gwbl ddienw &#8211; ond os gallech chi adnabod rhywun o\u2019r manylion, neu drwy gyfuno\u2019r wybodaeth \u00e2 gwybodaeth arall, bydd yn parhau i gael ei ystyried yn ddata personol.<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p>Mae enw a chyfeiriad rhywun yn enghraifft o ddata personol, ond gallai hefyd gynnwys pethau eraill fel rhif cofrestru car, rhif Yswiriant Gwladol, neu lun o\u2019r unigolyn ar deledu cylch cyfyng (CCTV).<br>Mae gan y mathau mwyaf sensitif o ddata personol ddiogelwch ychwanegol a gallwch chi ddim ond eu prosesu mewn rhai amgylchiadau. Mae\u2019r rhain yn cynnwys data sy\u2019n ymwneud ag euogfarnau troseddol a throseddau a\u2019r rhestr o \u2018gategor\u00efau arbennig o ddata personol\u2019 a nodir isod:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Hil<\/li>\n\n\n\n<li>Tarddiad ethnig<\/li>\n\n\n\n<li>Safbwyntiau gwleidyddol<\/li>\n\n\n\n<li>Credoau crefyddol neu athronyddol<\/li>\n\n\n\n<li>Aelodaeth o undeb llafur<\/li>\n\n\n\n<li>Data genetig<\/li>\n\n\n\n<li>Data biometrig (pan gaiff ei ddefnyddio at ddibenion adnabod)<\/li>\n\n\n\n<li>Data iechyd<\/li>\n\n\n\n<li>Bywyd rhywiol<\/li>\n\n\n\n<li>Cyfeiriadedd rhywiol<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am ddata personol yng <a href=\"https:\/\/ico.org.uk\/for-organisations\/guide-to-data-protection\/guide-to-the-general-data-protection-regulation-gdpr\/what-is-personal-data\/what-is-personal-data\/#pd3\">n<\/a><ins><a href=\"https:\/\/ico.org.uk\/for-organisations\/guide-to-data-protection\/guide-to-the-general-data-protection-regulation-gdpr\/what-is-personal-data\/what-is-personal-data\/#pd3\">ghanllawiau&#8217;r ICO (cynnwys Saesneg yn unig)<\/a><\/ins><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Data-protection-principles\">Egwyddorion diogelu data<\/h2>\n\n\n\n<p>Bydd angen i chi ddeall yr egwyddorion diogelu data a nodir yn y ddeddfwriaeth a\u2019u cymhwyso i waith eich mudiad. Dyma\u2019r prif egwyddorion:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cyfreithlondeb, tegwch a thryloywder &#8211; mae gennych chi sail gyfreithiol dros gasglu data personol ac yn ymdrin ag ef mewn modd teg, agored ac onest<\/li>\n\n\n\n<li>Diben cyfyngedig \u2013 caiff data personol ei gasglu at ddibenion penodol, pendant a dilys, ac ni chaiff ei brosesu mewn unrhyw fodd nad yw\u2019n cyd-fynd \u00e2\u2019r dibenion hynny;<\/li>\n\n\n\n<li>Lleihau data \u2013 mae\u2019r data personol a gesglir yn ddigonol, yn berthnasol ac yn gyfyngedig i\u2019r hyn sy\u2019n angenrheidiol o ran y diben y caiff ei brosesu;<\/li>\n\n\n\n<li>Cywirdeb \u2013 rydych chi\u2019n cymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad yw\u2019r data personol sydd gennych chi\u2019n anghywir na\u2019n gamarweiniol ac yn ei ddiweddaru pan fo angen.<\/li>\n\n\n\n<li>Cyfyngiad storio &#8211; ni chedwir data personol am hirach nag sydd ei angen<\/li>\n\n\n\n<li>Uniondeb a chyfrinachedd (diogelwch) \u2013 mae gennych chi fesurau diogelu priodol ar waith i ddiogelu\u2019r data personol sydd gennych chi.<\/li>\n\n\n\n<li>Atebolrwydd \u2013 mae\u2019r egwyddor drosfwaol hon yn gofyn i chi gymryd cyfrifoldeb dros yr hyn rydych chi\u2019n ei wneud gyda data personol a sut rydych chi\u2019n cydymffurfio ag egwyddorion eraill.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Dylai eich dull o fynd ati i brosesu data personol fod yn seiliedig ar yr egwyddorion hyn. Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am yr egwyddorion ar <ins><a href=\"https:\/\/ico.org.uk\/for-organisations\/guide-to-data-protection\/guide-to-the-general-data-protection-regulation-gdpr\/principles\/\">wefan yr ICO (cynnwys Saesneg yn unig).<\/a><\/ins><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Getting-data-protection-right\">Y ffordd gywir o Ddiogelu Data<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae angen i fudiadau gwirfoddol gydymffurfio \u00e2 gofynion diogelu data er mwyn diogelu\u2019r bobl y maen nhw\u2019n gysylltiedig \u00e2 nhw. Os na fyddwch chi\u2019n dilyn y gofynion, gallech niweidio enw da\u2019r mudiad a gallai\u2019r ICO godi dirwy ariannol arnoch am dorri\u2019r rheolau.<\/p>\n\n\n\n<p>Er mwyn sicrhau eich bod yn cydymffurfio \u00e2\u2019ch cyfrifoldebau, byddem yn eich argymell i fynd i <ins><a href=\"https:\/\/ico.org.uk\/for-organisations\/sme-web-hub\/\">adran yr ICO i fudiadau bach (cynnwys Saesneg yn unig).<\/a><\/ins> Mae\u2019r adran hon yn cynnwys rhestrau gwirio a thempledi y gallwch chi eu defnyddio, a gwybodaeth sy\u2019n ymwneud \u00e2 phynciau sydd angen ystyriaeth fwy manwl fel gweithio gyda phlant, codi arian a marchnata uniongyrchol.<\/p>\n\n\n\n\n\n<p><strong>Ffynonellau eraill o wybodaeth<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>NCVO &#8211; <a href=\"https:\/\/www.ncvo.org.uk\/help-and-guidance\/digital-technology\/data-protection-and-cybersecurity\/gdpr-data-protection-law-brexit-and-how-keep-top-your-responsibilities\/steps-improve-data-protection-your-organisation\/#\/\">Camau i wella systemau diogelu data eich mudiad (Saesneg yn unig)<\/a><\/p>\n\n\n\n\t<\/div>\n\n\n\n<div class=\"col-12 col-md-3\">\n\t\t\t\n\n\t<\/div>\n\n<\/div>\n\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"author":2205,"featured_media":0,"parent":17952,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"ep_exclude_from_search":false,"footnotes":""},"class_list":["post-17869","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Diogelu data|Hwb Gwybodaeth<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/diogelu-data\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Diogelu data|Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/diogelu-data\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-07-09T13:25:36+00:00\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"4 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/diogelu-data\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/diogelu-data\/\",\"name\":\"Diogelu data|Hwb Gwybodaeth\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\"},\"datePublished\":\"2023-11-20T16:24:13+00:00\",\"dateModified\":\"2025-07-09T13:25:36+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/diogelu-data\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/diogelu-data\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/diogelu-data\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Help ac arweiniad\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Rhedeg eich mudiad\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":4,\"name\":\"Diogelu data\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"description\":\"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"width\":512,\"height\":512,\"caption\":\"Hwb Gwybodaeth\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Diogelu data|Hwb Gwybodaeth","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/diogelu-data\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Diogelu data|Hwb Gwybodaeth","og_url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/diogelu-data\/","og_site_name":"Hwb Gwybodaeth","article_modified_time":"2025-07-09T13:25:36+00:00","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"4 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/diogelu-data\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/diogelu-data\/","name":"Diogelu data|Hwb Gwybodaeth","isPartOf":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website"},"datePublished":"2023-11-20T16:24:13+00:00","dateModified":"2025-07-09T13:25:36+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/diogelu-data\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/diogelu-data\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/diogelu-data\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Help ac arweiniad","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Rhedeg eich mudiad","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/"},{"@type":"ListItem","position":4,"name":"Diogelu data"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","name":"Hwb Gwybodaeth","description":"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.","publisher":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization","name":"Hwb Gwybodaeth","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","width":512,"height":512,"caption":"Hwb Gwybodaeth"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/17869","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2205"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=17869"}],"version-history":[{"count":9,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/17869\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":20790,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/17869\/revisions\/20790"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/17952"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=17869"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}