{"id":17271,"date":"2023-11-20T11:53:47","date_gmt":"2023-11-20T11:53:47","guid":{"rendered":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/?page_id=17271"},"modified":"2025-07-09T14:27:46","modified_gmt":"2025-07-09T13:27:46","slug":"rheoli-risg-ac-yswiriant","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/rheoli-risg-ac-yswiriant\/","title":{"rendered":"Rheoli risg ac yswiriant"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-bootstrap-blocks-container container mb-2\">\n\t\n<div class=\"site-breadcrumbs\"><span><span><a href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\">Cartref<\/a><\/span><\/span><\/div>\n\n\n\n\n<div class=\"wp-bootstrap-blocks-row row\">\n\t\n\n<div class=\"col-12 col-md-9\">\n\t\t\t\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Risk-Management-process\">Y broses Rheoli Risg<\/h2>\n\n\n\n<p>Risg yw\u2019r siawns, mawr neu fach, y bydd y mudiad yn cael ei niweidio mewn rhyw fodd o ganlyniad i berygl penodol. Er enghraifft, mae cebl sy\u2019n llusgo ar y llawr yn berygl baglu, sy\u2019n cyflwyno\u2019r risg o ddamwain neu anaf, a allai arwain at ymgyfreithiad a chostau ariannol i\u2019ch mudiad. <\/p>\n\n\n\n<p>Gall risgiau godi o sefyllfaoedd amrywiol, ac mae materion iechyd a diogelwch fel yr enghraifft uchod yn bryder cyffredin. Ond dylech hefyd fod yn effro i risgiau eraill a all godi mewn gwahanol feysydd o waith eich mudiad. Gallai\u2019r risgiau hyn fod yn ariannol, yn weithredol, yn rheoleiddiol, yn ymwneud \u00e2\u2019ch llywodraethu neu ffactor allanol. Dylech geisio meddwl am yr holl feysydd risg hyn wrth wneud penderfyniadau.<\/p>\n\n\n\n<p>Weithiau, edrychir ar reoli risg fel proses feichus iawn. Ond mae camau syml y gallwch chi eu cymryd i weithio drwy broses rheoli risg. Ni ddylech boeni\u2019n ormodol na fyddwch chi\u2019n cael popeth yn gywir, oherwydd mae unrhyw gamau rydych chi\u2019n eu cymryd i leihau risg yn bendant yn well na pheidio \u00e2 chymryd yr un cam.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"The-cycle-of-risk-management\">Y gylchred rheoli risg<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae rheoli risg yn broses gylchol ac iddi bedwar cam.<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Adnabod risg<\/strong> \u2013 nodwch yr holl ffactorau, digwyddiadau a sefyllfaoedd a allai gyflwyno risg i\u2019r mudiad.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Dadansoddi risg<\/strong> \u2013 ewch ati i ddidoli, sgorio a graddio\u2019r risgiau fel sail i wneud penderfyniadau ynghylch sut i fynd i\u2019r afael \u00e2 nhw. Pan fyddwch chi\u2019n dadansoddi\u2019r risg, mae angen i chi feddwl am ba mor debyg yw\u2019r risg o ddigwydd a\u2019r effaith bosibl.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Rheoli risg<\/strong> \u2013 cymerwch gamau i leihau neu osgoi pa mor debyg yw\u2019r risg o ddigwydd ac i leihau ei heffaith. Gallwch chi hefyd feddwl am gynlluniau wrth gefn ar gyfer rheoli\u2019r senarios gwaethaf y gall ddigwydd.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Monitro risg<\/strong> \u2013 ewch ati i fonitro ac adolygu\u2019r risgiau er mwyn pennu a yw\u2019r camau rheoli risg o dan bwynt 3 uchod yn effeithiol, ac a yw eu natur a\/neu eu tebygolrwydd wedi newid dros amser.<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Controlling-risk\">Rheoli risg<\/h2>\n\n\n\n<p>Wrth benderfynu ar sut i ymdrin \u00e2 risg, mae gennych nifer o opsiynau, a bydd eich camau gweithredu yn dibynnu ar yr amgylchiadau ac ar faint o risg y mae eich mudiad yn fodlon ei derbyn (eich \u2018awydd am risg\u2019). Dyma\u2019r prif opsiynau sydd gennych chi:<\/p>\n\n\n\n<p>Wrth benderfynu ar sut i ymdrin \u00e2 risg, mae gennych nifer o opsiynau, a bydd eich camau gweithredu yn dibynnu ar yr amgylchiadau ac ar faint o risg y mae eich mudiad yn fodlon ei derbyn (eich \u2018awydd am risg\u2019). Dyma\u2019r prif opsiynau sydd gennych chi:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Osgoi<\/strong> \u2013 peidio \u00e2 gwneud y gweithgaredd lle nodwyd risg.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Atal<\/strong> \u2013 cymryd camau i leihau\u2019r tebygolrwydd o golled, er enghraifft, gosod meddalwedd gwrthfeirysau ar gyfarpar TGCh. Mae datblygu polis\u00efau mewnol cadarn yn allweddol i atal.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Lleihau<\/strong>&#8211; cymryd camau i leihau canlyniadau colled os bydd yn digwydd, er enghraifft, gosod system chwistrellu i arafu lledaeniad t\u00e2n.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Derbyn <\/strong>\u2013 efallai y bydd y mudiad yn barod i dderbyn rhai risgiau, er enghraifft, pan fydd cost camau ataliol yn llawer uwch na thebygolrwydd ac effaith bosibl y risg.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Trosglwyddo<\/strong> \u2013 trosglwyddo\u2019r atebolrwydd am y risg i gorff arall. Gallai hyn fod drwy drefniadau contractiol, er enghraifft, is-gontractwr sy\u2019n derbyn y risgiau sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 chyflawni\u2019r contract. Fel arall, gall risgiau sy\u2019n llifo o golled ariannol gael eu trosglwyddo i gwmni yswiriant allanol pan fyddwch chi\u2019n cael yswiriant. Cyfrifoldeb yr ymddiriedolwyr yw sicrhau bod gan y mudiad yswiriant digonol, a byddwn ni\u2019n edrych ar hyn yn ein hadran Yswiriant.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Ffynonellau eraill o wybodaeth<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/publications\/charities-and-risk-management-cc26\">Canllawiau&#8217;r Comisiwn Elusennau ar sut i asesu risg, gan gynnwys gwybodaeth am sut i asesu a sgorio risgiau<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.ncvo.org.uk\/help-and-guidance\/governance\/responsibilities-for-boards\/helping-your-board-meet-their-responsibilities\/how-to-manage-risk\/#\/identify-the-risks\">Mae gan NCVO hefyd wybodaeth am sut i asesu risg (Saesneg yn unig)<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.hse.gov.uk\/simple-health-safety\/risk\/index.htm?utm_source=hse.gov.uk&amp;utm_medium=refferal&amp;utm_campaign=risk&amp;utm_content=home-page-popular\">Rheoli risg yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) (Saesneg yn unig)<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Insurance-requirements\">Gofynion yswiriant<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae gan ymddiriedolwyr gyfrifoldeb dros ddiogelu eu mudiad. Gall yswiriant fod yn ffordd briodol o reoli risg a diogelu rhag unrhyw golled, ddifrod neu atebolrwydd sy\u2019n codi o\u2019r risgiau a nodwyd. Bydd rhai yswiriannau yn ofynnol gan y gyfraith, ac eraill yn opsiynol, a bydd yr hyn y bydd ei angen yn dibynnu ar faint a chymhlethdod eich mudiad a\u2019r gweithgareddau y mae\u2019n ei wneud.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Yswiriannau sydd eu hangen yn \u00f4l y gyfraith<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae\u2019n ofynnol yn \u00f4l y gyfraith i fudiadau sy\u2019n cyflogi staff brynu yswiriant atebolrwydd cyflogwyr<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019n ofynnol yn \u00f4l y gyfraith i fudiadau sy\u2019n berchen ar, neu\u2019n defnyddio, cerbydau modur brynu yswiriant cerbyd<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Mathau eraill o yswiriant<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Dyma enghreifftiau o fathau o yswiriant a allai fod eu hangen i ddiogelu eiddo mudiad rhag colled neu ddifrod:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>yswiriant adeiladau<\/li>\n\n\n\n<li>yswiriant cynnwys<\/li>\n\n\n\n<li>yswiriant digwyddiadau<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Dyma enghreifftiau o fathau o yswiriant a allai fod eu hangen i ddiogelu rhag atebolrwyddau trydydd parti mudiad:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>yswiriant indemniad proffesiynol<\/li>\n\n\n\n<li>yswiriant atebolrwydd cyhoeddus<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae hefyd modd prynu yswiriant sy\u2019n diogelu Ymddiriedolwyr mudiad rhag gorfod mynd i\u2019w pocedi eu hunain i dalu unrhyw hawliadau sy\u2019n cael eu gwneud yn eu herbyn am fethu \u00e2 chyflawni eu dyletswyddau. Gelwir hyn yn yswiriant indemniad ymddiriedolwyr.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Volunteers-and-insurance\">Gwirfoddolwyr ac yswiriant<\/h2>\n\n\n\n<p>At ddibenion yswiriant, cynghorir mudiadau gwirfoddol i drin gwirfoddolwyr yn yr un modd \u00e2\u2019u cyflogeion ac i sicrhau eu bod yn cael eu diogelu gan y mathau arferol o yswiriant y gallai mudiad eu prynu, fel atebolrwydd cyflogwyr neu yswiriant atebolrwydd cyhoeddus.<\/p>\n\n\n\n<p>Dylech chi wirio unrhyw bolisi yswiriant er mwyn gwneud yn si\u0175r o\u2019r pethau canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>ei fod yn bendant yn cynnwys gwirfoddolwyr<\/li>\n\n\n\n<li>sut diffinnir y term \u2018gwirfoddolwr\u2019 at ddibenion y polisi hwnnw<\/li>\n\n\n\n<li>a oes unrhyw derfynau oedran uwch neu is yn berthnasol<\/li>\n\n\n\n<li>bod y polisi yn cynnwys y mathau o weithgareddau y bydd gwirfoddolwyr yn eu gwneud<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Cael cyngor<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Wrth feddwl am gymryd unrhyw fath o yswiriant allan, dylech chi feddwl o ddifrif am gael cyngor annibynnol a phroffesiynol priodol. Fel arfer, y ffordd orau o fynd ati yw defnyddio brocer yswiriant sydd \u00e2 dealltwriaeth o anghenion y sector gwirfoddol ac sydd mewn sefyllfa i drefnu busnes gydag unrhyw un neu fwy o gwmn\u00efau yswiriant amrywiol. Gall mudiadau hefyd fynd yn uniongyrchol at yswiriwr elusennau arbenigol. Y pwynt pwysig yw defnyddio brocer neu yswiriwr sydd \u00e2 gwybodaeth arbenigol o ofynion yswiriant elusennau a mudiadau gwirfoddol i sicrhau bod y lefel gywir o ddiogelwch yn cael ei threfnu am bris cystadleuol.<\/p>\n\n\n\n<p>Am ragor o wybodaeth am y pethau i\u2019w hystyried wrth gael yswiriant, edrychwch ar ein taflenni gwybodaeth:<\/p>\n\n\n\n\n\n<p><strong>Ffynonellau eraill o wybodaeth<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/publications\/charities-and-insurance-cc49\/charities-and-insurance#an-overview-of-other-insurance-cover-available\">Canllawiau&#8217;r Comisiwn Elusennau \u2013 Elusennau ac yswiriant (Saesneg yn unig)<\/a><\/p>\n\n\n\n\t<\/div>\n\n\n\n<div class=\"col-12 col-md-3\">\n\t\t\t\n\n\t<\/div>\n\n<\/div>\n\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"author":2205,"featured_media":0,"parent":17952,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"template-landing-page.php","meta":{"_acf_changed":false,"ep_exclude_from_search":false,"footnotes":""},"class_list":["post-17271","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Rheoli risg ac yswiriant|Hwb Gwybodaeth<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/rheoli-risg-ac-yswiriant\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Rheoli risg ac yswiriant|Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/rheoli-risg-ac-yswiriant\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-07-09T13:27:46+00:00\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"5 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/rheoli-risg-ac-yswiriant\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/rheoli-risg-ac-yswiriant\/\",\"name\":\"Rheoli risg ac yswiriant|Hwb Gwybodaeth\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\"},\"datePublished\":\"2023-11-20T11:53:47+00:00\",\"dateModified\":\"2025-07-09T13:27:46+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/rheoli-risg-ac-yswiriant\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/rheoli-risg-ac-yswiriant\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/rheoli-risg-ac-yswiriant\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Help ac arweiniad\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Rhedeg eich mudiad\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":4,\"name\":\"Rheoli risg ac yswiriant\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"description\":\"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"width\":512,\"height\":512,\"caption\":\"Hwb Gwybodaeth\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Rheoli risg ac yswiriant|Hwb Gwybodaeth","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/rheoli-risg-ac-yswiriant\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Rheoli risg ac yswiriant|Hwb Gwybodaeth","og_url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/rheoli-risg-ac-yswiriant\/","og_site_name":"Hwb Gwybodaeth","article_modified_time":"2025-07-09T13:27:46+00:00","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"5 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/rheoli-risg-ac-yswiriant\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/rheoli-risg-ac-yswiriant\/","name":"Rheoli risg ac yswiriant|Hwb Gwybodaeth","isPartOf":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website"},"datePublished":"2023-11-20T11:53:47+00:00","dateModified":"2025-07-09T13:27:46+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/rheoli-risg-ac-yswiriant\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/rheoli-risg-ac-yswiriant\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/rheoli-risg-ac-yswiriant\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Help ac arweiniad","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Rhedeg eich mudiad","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/"},{"@type":"ListItem","position":4,"name":"Rheoli risg ac yswiriant"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","name":"Hwb Gwybodaeth","description":"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.","publisher":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization","name":"Hwb Gwybodaeth","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","width":512,"height":512,"caption":"Hwb Gwybodaeth"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/17271","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2205"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=17271"}],"version-history":[{"count":12,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/17271\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":20793,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/17271\/revisions\/20793"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/17952"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=17271"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}