{"id":17228,"date":"2023-11-20T10:55:38","date_gmt":"2023-11-20T10:55:38","guid":{"rendered":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/?page_id=17228"},"modified":"2025-07-09T14:25:19","modified_gmt":"2025-07-09T13:25:19","slug":"cyllid","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/cyllid\/","title":{"rendered":"Cyllid"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-bootstrap-blocks-container container mb-2\">\n\t\n<div class=\"site-breadcrumbs\"><span><span><a href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\">Cartref<\/a><\/span><\/span><\/div>\n\n\n\n\n<div class=\"wp-bootstrap-blocks-row row\">\n\t\n\n<div class=\"col-12 col-md-9\">\n\t\t\t\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Opening-a-bank-account\"><strong><strong>Agor cyfrif banc<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Bydd angen cyfrif banc ar eich gr\u0175p gwirfoddol i brosesu ei incwm a\u2019i wariant. Mae\u2019n bwysig cadw llygad ar arian y gr\u0175p a sicrhau ei fod yn cael ei gadw\u2019n gwbl ar wah\u00e2n i arian sy\u2019n eiddo i\u2019r unigolion sy\u2019n rhedeg y gr\u0175p. Bydd hefyd angen cyfrif banc arnoch os byddwch chi\u2019n penderfynu gwneud cais am gyllid grant.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd gofyn i grwpiau sy\u2019n cofrestru fel elusen gyda\u2019r Comisiwn Elusennau ddangos eu hincwm i\u2019r Comisiwn Elusennau fel rhan o\u2019r broses gofrestru. Gallai hyn olygu y bydd yn rhaid i chi agor cyfrif banc cyn i\u2019ch gr\u0175p ddechrau gwneud unrhyw beth.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gan fanciau\/cymdeithasau adeiladu stryd fawr wahanol fathau o gyfrifon banc i grwpiau gwirfoddol ac mae nifer cyfyngedig o fanciau yn arbenigo mewn cyfrifon ar gyfer y sector gwirfoddol. Bydd pob banc yn mynd ati i ymdrin ag anghenion grwpiau gwirfoddol mewn ffyrdd gwahanol, a byddant yn amrywio o ran lefel y gwasanaeth y byddant yn ei chynnig i gwsmeriaid.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd angen i chi wneud gwaith ymchwil ar y cyfrifon banc sydd ar gael i ddod o hyd i un sy\u2019n addas i\u2019ch gr\u0175p. Dyma rai awgrymiadau:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gwnewch yn si\u0175r eich bod yn dewis cyfrif i fudiadau gwirfoddol (a gyfeirir atynt weithiau fel grwpiau a chymdeithasau) ac nid cyfrif busnes safonol.<\/li>\n\n\n\n<li>Meddyliwch am sut rydych chi eisiau defnyddio\u2019r cyfrif banc. Gall fod yn anodd dod o hyd i gangen leol felly bydd angen i chi allu defnyddio\u2019r cyfleusterau bancio ar-lein yn hyderus.<\/li>\n\n\n\n<li>Gwiriwch y ffioedd ar y cyfrif \u2013 yn anffodus, mae\u2019n dod yn fwyfwy anodd i ddod o hyd i fancio am ddim i grwpiau gwirfoddol ac mae llawer o fanciau yn codi t\u00e2l ar grwpiau gwirfoddol am drafodiadau. Bydd angen i chi ystyried hyn wrth ddewis cyfrif.<\/li>\n\n\n\n<li>Sicrhewch fod gennych chi gyfrif lle y mae angen o leiaf dau unigolyn i lofnodi pob siec neu gymeradwyo unrhyw arian a dynnir allan.<\/li>\n\n\n\n<li>Dewiswch lofnodwyr \u00e2 statws credyd da (bydd y banc yn gwneud gwiriadau credyd).<\/li>\n\n\n\n<li>Cyfarwyddwch eich hun \u00e2 gofynion y banc ar gyfer agor y cyfrif \u2013 efallai y bydd angen i chi fynd i\u2019w hadran gwasanaethau busnes ac mae\u2019n bosibl y byddant angen eich dogfen lywodraethu neu dystiolaeth o benodiad eich llofnodwyr. Byddwch yn barod i fodloni\u2019r gofynion hyn.<\/li>\n\n\n\n<li>Efallai yr hoffech chi ystyried a yw eich gr\u0175p yn hapus gyda moeseg y banc rydych chi\u2019n ei ddewis.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n\n\n<div style=\"height:50px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Financial-rules-and-record-keeping\"><strong><strong>Rheolau ariannol a chadw cofnodion<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae gan ymddiriedolwyr gyfrifoldeb cyfunol dros ofalu am arian eich mudiad a bydd angen i chi roi systemau ar waith i reoli a chofnodi gwariant ac incwm.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ein hadran Rheoli Arian a Chyllidebau yn nodi rhagor o wybodaeth am sut i ddatblygu eich systemau, ond dyma rai pwyntiau allweddol sydd angen i chi gytuno arnyn nhw o\u2019r dechrau:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Pa fath o gofnodion ariannol fyddwch chi\u2019n eu cadw? Bydd angen i chi gadw cofnod o\u2019r arian sy\u2019n dod i mewn ac yn mynd allan o\u2019ch gr\u0175p. Efallai bod gennych chi lyfr cyfrifon, cofnodion arian traul, taenlenni ariannol neu becyn meddalwedd cyfrifo rydych chi wedi buddsoddi ynddo, yn dibynnu ar raddfa\u2019r trafodion ariannol a sgiliau eich gwirfoddolwyr. Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am hyn yn ein hadran Rheoli Arian a Chyllidebau.<\/li>\n\n\n\n<li>Pa reolaethau ariannol fydd gennych chi yn eu lle? Mae angen i chi greu rhai rheolau ynghylch gwario arian y gr\u0175p a fydd yn eich diogelu rhag camgymeriadau a thwyll. Ymhlith yr enghreifftiau mae cytuno ar bwy fydd yn trafod yr arian traul a chyfyngu\u2019r swm sydd gennych chi yn eich ffl\u00f4t arian parod, cytuno ar y swm mwyaf y gellir ei dalu allan mewn arian parod, sut rydych chi\u2019n dangos taliadau drwy dderbynebau a chytuno ar broses fel bod yn rhaid i fwy nag un unigolyn gymeradwyo\u2019r gwariant.<\/li>\n\n\n\n<li>Beth yw cyfrifoldebau eich trysorydd? Os oes gennych chi aelod Bwrdd sy\u2019n ymgymryd \u00e2 r\u00f4l trysorydd, mae\u2019n bwysig nad yw\u2019n cael ei adael i reoli cyllid y gr\u0175p ar ei ben ei hun. Mae\u2019r Bwrdd cyfan yn gyfrifol am gyllid y gr\u0175p, a rhaid i\u2019r trysorydd adrodd yn rheolaidd i\u2019r Bwrdd ar fanylion sefyllfa ariannol y gr\u0175p. (Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am r\u00f4l y trysorydd a rolau Bwrdd eraill yn ein <a href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/ymddiriedolwyr-a-llywodraethu\/\" data-type=\"page\" data-id=\"16094\">hadran Llywodraethu<\/a>)<\/li>\n\n\n\n<li>Sut byddwch chi\u2019n rhannu ac yn adolygu\u2019r rheolaethau ariannol? Unwaith y byddwch chi wedi cytuno ar eich rheolau ariannol, rhaid i chi eu nodi ar bapur a gwneud yn si\u0175r bod gan y Bwrdd, ac unrhyw un arall sy\u2019n ymdrin ag arian, gopi ohonynt a\u2019u bod yn eu deall. Dylech neilltuo amser i adolygu\u2019r rheolau\u2019n rheolaidd a gwneud yn si\u0175r eu bod yn cael eu dilyn, ac yna eu diweddaru pan fydd amgylchiadau yn newid.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am sut i roi\u2019r rheolaethau ariannol y bydd eu hangen arnoch chi ar waith, edrychwch ar yr adran Rheoli Arian a Chyllidebau.<\/p>\n\n\n\n\t<\/div>\n\n\n\n<div class=\"col-12 col-md-3\">\n\t\t\t\n\n\t<\/div>\n\n<\/div>\n\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"author":2205,"featured_media":0,"parent":17952,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"ep_exclude_from_search":false,"footnotes":""},"class_list":["post-17228","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Cyllid|Hwb Gwybodaeth<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/cyllid\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Cyllid|Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/cyllid\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-07-09T13:25:19+00:00\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"4 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/cyllid\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/cyllid\/\",\"name\":\"Cyllid|Hwb Gwybodaeth\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\"},\"datePublished\":\"2023-11-20T10:55:38+00:00\",\"dateModified\":\"2025-07-09T13:25:19+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/cyllid\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/cyllid\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/cyllid\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Help ac arweiniad\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Rhedeg eich mudiad\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":4,\"name\":\"Cyllid\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"description\":\"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"width\":512,\"height\":512,\"caption\":\"Hwb Gwybodaeth\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Cyllid|Hwb Gwybodaeth","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/cyllid\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Cyllid|Hwb Gwybodaeth","og_url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/cyllid\/","og_site_name":"Hwb Gwybodaeth","article_modified_time":"2025-07-09T13:25:19+00:00","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"4 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/cyllid\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/cyllid\/","name":"Cyllid|Hwb Gwybodaeth","isPartOf":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website"},"datePublished":"2023-11-20T10:55:38+00:00","dateModified":"2025-07-09T13:25:19+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/cyllid\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/cyllid\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/cyllid\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Help ac arweiniad","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Rhedeg eich mudiad","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/rhedeg-eich-mudiad\/"},{"@type":"ListItem","position":4,"name":"Cyllid"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","name":"Hwb Gwybodaeth","description":"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.","publisher":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization","name":"Hwb Gwybodaeth","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","width":512,"height":512,"caption":"Hwb Gwybodaeth"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/17228","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2205"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=17228"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/17228\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":20789,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/17228\/revisions\/20789"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/17952"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=17228"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}