{"id":16883,"date":"2023-07-17T17:00:42","date_gmt":"2023-07-17T16:00:42","guid":{"rendered":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/?page_id=16883"},"modified":"2025-07-09T14:19:05","modified_gmt":"2025-07-09T13:19:05","slug":"grantiau","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/grantiau\/","title":{"rendered":"Grantiau"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-bootstrap-blocks-container container mb-2\">\n\t\n<div class=\"site-breadcrumbs\"><span><span><a href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\">Cartref<\/a><\/span><\/span><\/div>\n\n\n\n\n<div class=\"wp-bootstrap-blocks-row row\">\n\t\n\n<div class=\"col-12 col-md-9\">\n\t\t\t\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Getting-fit-for-funding\"><strong>Paratoi ar gyfer cyllid<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Cyn dechrau ymgeisio am gyllid, mae\u2019n bwysig edrych ar eich mudiad o safbwynt rhywun o\u2019r tu allan a gofyn rhai cwestiynau syml i chi\u2019ch hun ynghylch y ffordd y caiff eich mudiad ei redeg.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae angen gwneud hyn oherwydd mae cyllidwyr angen gwybod y gallant ymddiried ynoch gyda\u2019u harian, a bod eich prosiect yn debygol o lwyddo.<\/p>\n\n\n\n<p>Y prif gwestiynau y bydd gan gyllidwr ddiddordeb ynddyn nhw yw\u2019r rhain:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>A ydych chi\u2019n fudiad sy\u2019n cael ei reoli\u2019n dda?<\/li>\n\n\n\n<li>A ydych chi\u2019n rheoli eich arian yn dda?<\/li>\n\n\n\n<li>A yw eich holl ddogfennau llywodraethu\u2019n gyfredol?<\/li>\n\n\n\n<li>A yw\u2019r holl bolis\u00efau priodol yn eu lle?<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n\n\n<p>Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth i\u2019ch helpu chi gyda\u2019r meysydd hyn yn ein hadrannau ar Ymddiriedolwyr a Llywodraethiant, Rheoli arian a chyllidebau a Rhedeg eich mudiad.<\/p>\n\n\n\n\n\n<div style=\"height:50px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Where-to-find-grant-funding?\"><strong>Ble i ddod o hyd i gyllid grant?<\/strong><\/h2>\n\n\n\n\n\n<div style=\"height:50px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Writing-your-application\"><strong><strong>Ysgrifennu eich cais<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Cyn i chi ddechrau eich cais, gwnewch yn si\u0175r eich bod yn gwneud eich ymchwil, ac yn bendant y bydd eich prosiect yn bodloni meini prawf cymhwysedd y cyllidwr. Edrychwch eto dros feini prawf y gronfa, hyd yn oed os ydych chi wedi cyflwyno cais iddyn nhw o\u2019r blaen, oherwydd gall meini prawf newid.<\/p>\n\n\n\n<p>Peidiwch ag edrych ar y pethau y maen nhw\u2019n eu cyllido yn unig; gwiriwch y pethau nad ydynt yn gymwys \u2013 er enghraifft, efallai nad ydynt yn cyllido elusennau cofrestredig, neu\u2019n gwrthod cyllido gwaith cyfalaf, neu efallai eu bod yn gwrthod cyllido rhai gweithgareddau penodol fel ymgyrchu.<\/p>\n\n\n\n<p>Hefyd, gwiriwch y dyddiad cau a sicrhewch eich bod yn cyflwyno cais o fewn yr amser hwn.<\/p>\n\n\n\n<p>Dyma rai awgrymiadau da ar gyfer cwblhau\u2019r cais:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Dilynwch y cyfarwyddiadau, darllenwch unrhyw wybodaeth ganllaw, ac yna darllenwch bopeth eto. Amlygwch y prif dermau a\u2019r hyn y mae\u2019r cyllidwyr eisiau ei gefnogi<\/li>\n\n\n\n<li>Rhowch sylw i\u2019r holl bwyntiau y gofynnir amdanynt mewn unrhyw gwestiwn. Peidiwch \u00e2 chael eich temtio i ysgrifennu llawer yn y rhannau hawdd eu hateb a lliwio ffeithiau pan fydd y pwnc yn anoddach. Os ydyn nhw wedi gofyn y cwestiwn, maen nhw wedi gwneud hyn am eu bod eisiau gwybod yr ateb<\/li>\n\n\n\n<li>Mae ymatebion sydd wedi\u2019u strwythuro\u2019n wael yn anodd eu hasesu. Cadwch bethau\u2019n syml; weithiau, mae\u2019n helpu i ddechrau drwy roi eich ateb mewn pwyntiau bwled ac yna ymhelaethu ar bob un i roi ychydig mwy o wybodaeth a ffeithiau. Sicrhewch fod eich ymatebion yn parhau i ganolbwyntio ar ganlyniadau\u2019r prosiect a\u2019r anghenion rydych chi\u2019n gobeithio eu diwallu. Os yw\u2019r cwestiwn wedi\u2019i rannu\u2019n bwyntiau bwled, ymatebwch i bob pwynt bwled gyda pharagraff\/pwynt newydd <\/li>\n\n\n\n<li>Sicrhewch nad ydych chi\u2019n defnyddio jargon ac acronymau. Mae angen i\u2019r cais fod yn ddealladwy i rywun heb wybodaeth flaenorol am eich gwaith<\/li>\n\n\n\n<li>Rhowch sylw i ramadeg, atalnodi a sillafu. Gofynnwch i drydydd parti ddarllen eich cais cyn i chi ei anfon. Bydd p\u00e2r newydd o lygaid hefyd yn eich helpu i wneud yn si\u0175r bod eich cais yn gwneud synnwyr ac nad ydych chi wedi ailadrodd eich hun heb angen<\/li>\n\n\n\n<li>Hyrwyddwch eich pwyntiau gwerthu unigryw a\u2019ch arloesedd. Meddyliwch am yr hyn sy\u2019n gwneud eich prosiect chi\u2019n wahanol i brosiectau tebyg \u2013 a yw\u2019r dull gweithredu\u2019n newydd, a ydych chi wedi cael canlyniadau ardderchog yn y gorffennol, a oes angen neu frys difrifol? Pam mai chi yw\u2019r mudiad iawn, a hwn yw\u2019r prosiect iawn, i gyflawni\u2019r canlyniadau rydych chi neu\u2019r cyllidwr wedi mynd ati i\u2019w cyflawni?<\/li>\n\n\n\n<li>Peidiwch ag ysgrifennu ffurflen gais \u00e2 llaw oni bai ei fod yn gwbl ddiosgoi. Cysylltwch \u00e2\u2019r cyllidwr os oes angen cymorth ffisegol arnoch i allu defnyddio\u2019r ffurflen neu\u2019r system ymgeisio<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Contents-of-your-application\"><strong>Cynnwys eich cais<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Bydd yr hyn y bydd cyllidwyr yn gofyn amdano i gefnogi\u2019ch cais yn amrywio o un gyllidwr i\u2019r llall, ond gallwch chi ddisgwyl i\u2019ch cais gynnwys adrannau sy\u2019n ymdrin \u00e2\u2019r canlynol:<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Teitl<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>A allwch chi feddwl am deitl prosiect bachog sy\u2019n cyfleu\u2019r hyn rydych chi eisiau ei wneud?<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Crynodeb o\u2019r prosiect<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Dyma\u2019r peth olaf y dylech chi ei ysgrifennu. Mae angen iddo gyfathrebu prif bwyntiau eich prosiect, a dangos sut mae\u2019n gweddu \u00e2 blaenoriaethau\u2019r cyllidwr.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Datganiad o broblemau<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae angen i chi egluro\u2019r problemau rydych chi\u2019n ceisio mynd i\u2019r afael \u00e2 nhw.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Siaradwch am bobl \u2013 dangoswch eich bod yn cael eich arwain gan angen<\/li>\n\n\n\n<li>Gwnewch y broblem yn soled ac nid yn haniaethol; amlinellwch yr effeithiau drwg, ond yn nhermau bob dydd. Ceisiwch nodi\u2019r broblem ac yna gofyn \u2018wel, beth am hynny?\u2019 er mwyn treiddio\u2019n ddyfnach i\u2019r effeithiau hirdymor<\/li>\n\n\n\n<li>Nodwch y brys, yr achos dros ymyrryd ar unwaith<\/li>\n\n\n\n<li>Dangoswch fod modd datrys y broblem<\/li>\n\n\n\n<li>Rhowch dystiolaeth i gefnogi\u2019r hyn rydych chi\u2019n ei ddweud. Un ffordd o wneud hyn yw drwy ddefnyddio ystadegau, ond mae ffyrdd eraill &#8211; beth am astudiaethau achos, neu ddyfyniadau gan gyn-gleientiaid?<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Rhaglen a dulliau<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Beth ydych chi\u2019n mynd i\u2019w wneud, a sut ydych chi\u2019n mynd i\u2019w wneud? Ar \u00f4l diffinio\u2019r broblem, mae angen i chi egluro sut rydych chi\u2019n bwriadu gwneud gwahaniaeth.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Beth yw eich amcanion \u2013 a allwch chi nodi canlyniadau penodol, mesuradwy? Byddwch yn benodol wrth ddisgrifio\u2019r bobl rydych chi\u2019n eu helpu, maint y gwasanaeth, a\u2019r effaith a ddisgwylir: beth yw\u2019r newid rydych chi\u2019n ceisio ei greu?<\/li>\n\n\n\n<li>Pa weithgareddau byddwch chi\u2019n eu gwneud i gyflawni\u2019r amcanion? A allwch chi gyfiawnhau eich dull gweithredu? A allwch chi ddangos y bydd eich gweithgareddau yn mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r broblem rydych chi wedi\u2019i nodi?<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Gwerthuso<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Sut byddwch chi\u2019n gwybod eich bod wedi llwyddo? Beth fyddwch chi\u2019n ei fesur neu\u2019n ei gofnodi? Sut byddwch chi\u2019n canfod a yw\u2019r gwasanaeth wedi gwneud gwahaniaeth?<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cyllideb<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Efallai y bydd angen i chi atodi dadansoddiad manwl o\u2019r costau, ond hyd yn oed os mai dim ond amlinelliad syml y bydd angen i chi ei ddarparu, dylech wybod y manylion er mwyn gwneud yn si\u0175r y bydd yr arian rydych chi\u2019n gwneud cais amdano yn ddigon i dalu am y costau gwirioneddol o gyflawni\u2019r prosiect. Os ydych chi\u2019n gwneud cais am grant dros nifer o flynyddoedd, yna dangoswch y costau ar gyfer pob blwyddyn a chofiwch gyfrifo chwyddiant. Os na fyddwch chi\u2019n cynnwys cynyddiadau chwyddiannol, bydd eich cyllid yn werth llai erbyn diwedd eich prosiect, ac efallai y bydd angen i chi ddod o hyd i gyllid ychwanegol i dalu am eich costau. Mae gan rai cyllidwyr ffyrdd penodol o ymdrin \u00e2 hyn. Defnyddiwch adennill costau llawn bob amser, oni bai bod y cyllidwr yn nodi\u2019n benodol na fydd yn cyllido hyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Adennill costau llawn yw dull o gyllidebu prosiectau neu wasanaethau sy\u2019n caniat\u00e1u i fudiadau adennill yr holl gostau sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 chyflenwi prosiect neu wasanaeth. Mae hyn yn golygu y byddwch chi\u2019n ystyried cyfran o gost y cymorth cyffredinol y bydd ei angen gan y mudiad i gyflawni\u2019r prosiect.<\/p>\n\n\n\n<p>Gallwch chi ddyrannu costau cymorth i gyllideb prosiect mewn gwahanol ffyrdd a cheir rhagor o wybodaeth am sut i fynd ati i wneud hyn yn ein taflen wybodaeth Adennill Costau Llawn.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cynllun cyllido<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Os nad ydych chi\u2019n gofyn am y swm llawn, yna mae angen i chi ddangos o ble rydych chi\u2019n bwriadu cael gweddill yr arian. Os yw\u2019r prosiect yn un parhaus, mae angen i chi egluro o ble rydych chi\u2019n bwriadu dod o hyd i gyllid ar \u00f4l y cyfnod cychwynnol. Fel arall, bydd disgwyliadau cyllidwyr yn cynyddu am strategaeth ymadael strwythuredig sydd wedi\u2019i datblygu\u2019n llawn.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cais a rhesymeg<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Peidiwch ag ofni gofyn am swm penodol \u2013 gwnewch yn si\u0175r ei fod yn rhesymol o\u2019i gymharu \u00e2\u2019r hyn rydych chi\u2019n ei wybod o ganllawiau\u2019r ymddiriedolaeth neu grantiau eraill.<\/p>\n\n\n\n\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"After-the-funding-decision\"><strong>Ar \u00f4l y penderfyniad cyllido<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p><strong>Os caiff eich cais ei wrthod<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r cyfraddau llwyddo ar gyfer ceisiadau grant yn isel a bydd angen i chi fod yn barod am benderfyniadau siomedig. . Os bydd eich cais yn cael ei wrthod:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>o Gofynnwch am adborth ac os cewch chi ef, darllenwch ef yn drwyadl (yn anffodus, nid oes gan bob cyllidwr y capasiti i ddarparu hyn). Edrychwch eto ar eich cais yn sgil sylwadau\u2019r cyllidwr a meddyliwch am sut gallwch chi gryfhau\u2019r cais ar gyfer y dyfodol. Gallech chi gysylltu \u00e2\u2019ch CVC lleol a chael eu help nhw i wella eich cais.<\/li>\n\n\n\n<li>Gwiriwch eich gwaith ymchwil a meini prawf cymhwysedd y cyllidwr. A wnaethoch chi golli rheswm pam na allai\u2019r cyllid hwn fod yn iawn i chi? A oeddech chi\u2019n anlwcus bod yna geisiadau eraill yr oedd y cyllidwr yn eu ffafrio?<\/li>\n\n\n\n<li>Os oeddech chi\u2019n meddwl bod y cyllid yn ffitio\u2019n dda \u00e2\u2019ch anghenion, edrychwch ar eu rheolau ynghylch pa mor hir sydd angen i chi aros cyn ymgeisio eto. Efallai y byddwch chi\u2019n gallu ymgeisio ar unwaith, ond bydd y mwyafrif o gyllidwyr yn gofyn i chi aros am gyfnod cyn ailymgeisio.<\/li>\n\n\n\n<li>Cofiwch fod llawer o ffactorau a allai beri i\u2019ch cais gael ei wrthod, gan gynnwys faint o geisiadau a dderbyniwyd yn y cylch cyllido penodol hwnnw, faint o arian oedd ar gael, pa brosiectau tebyg allai fod yn cael eu cyllido yn rhywle arall a faint o geisiadau a dderbyniwyd o\u2019ch ardal chi. Dysgwch o\u2019r profiad ac ystyriwch y pethau hyn pan fyddwch chi\u2019n gwneud eich cais nesaf.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Os yw eich cais yn llwyddiannus<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Os yw eich cais yn llwyddiannus, yna gallwch chi weithio ar gyflawni\u2019ch prosiect a meithrin cydberthynas \u00e2\u2019r cyllidwr. Dyma rai awgrymiadau i\u2019ch helpu i reoli\u2019r gydberthynas gyllido honno:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gwiriwch yr amodau ar eich cadarnhad o grant a rhowch bopeth y mae\u2019r cyllidwr yn gofyn amdano iddo cyn gynted \u00e2 phosibl.<\/li>\n\n\n\n<li>Gwiriwch yr wybodaeth ynghylch sut mae\u2019r cyllidwr eisiau i chi gydnabod ei grant (mewn cyhoeddusrwydd ac ati). Gwnewch yn si\u0175r bod pawb sy\u2019n gysylltiedig \u00e2\u2019r prosiect yn gwybod beth sydd angen, a gwiriwch fod y gofynion yn cael eu dilyn.<\/li>\n\n\n\n<li>Gwiriwch erbyn pryd y mae\u2019r cyllidwr eisiau adroddiadau neu wybodaeth gennych chi a lluniwch gynllun i gadw at y dyddiadau cau hynny. Hyd yn oed os na fydd y cyllidwr yn gofyn am adroddiadau, dylech fonitro eich cynnydd yn rheolaidd er mwyn sicrhau eich bod yn cyrraedd targedau allweddol y prosiect, ac ewch ati i adolygu eich perfformiad yn fuan ar \u00f4l i\u2019r prosiect ddod i ben fel eich bod yn dysgu o\u2019r profiad.<\/li>\n\n\n\n<li>Dylai\u2019r cyllidwr roi manylion cyswllt yr unigolyn a fydd yn rheoli eich grant yn ei fudiad i chi. Gwnewch yn si\u0175r eich bod yn anfon eich holl gyfathrebiadau at yr unigolyn hwn ac yn ceisio meithrin cydberthynas bositif ag ef.<\/li>\n\n\n\n<li>Dylech chi gyfathrebu \u00e2\u2019ch cyllidwr pryd bynnag y bo angen. Nid yw hyn yn ymwneud \u00e2 chadw at ddyddiadau cau yn unig; dylech chi hefyd roi gwybod i\u2019ch cyllidwr am unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau neu broblemau sy\u2019n codi gyda\u2019r prosiect fel y gallwch chi gytuno ar sut i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r rhain gyda\u2019ch gilydd. Mae\u2019r cyllidwyr eisiau i chi lwyddo, a byddant yn eich cynorthwyo \u00e2 hyn ym mha bynnag fodd y gallant.<\/li>\n\n\n\n<li>Cofiwch am ofynion monitro a gwerthuso. Bydd angen i chi ddangos bod eich prosiect wedi cyflawni ei nodau ac amcanion, felly mae\u2019n rhaid i chi sicrhau bod gennych chi drefniadau monitro yn eu lle ar ddechrau\u2019r prosiect fel na fyddwch chi\u2019n hepgor unrhyw wybodaeth a thystiolaeth sydd angen eu casglu.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n\t<\/div>\n\n\n\n<div class=\"col-12 col-md-3\">\n\t\t\t\n\n\t<\/div>\n\n<\/div>\n\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"author":2205,"featured_media":12965,"parent":16787,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"template-landing-page.php","meta":{"_acf_changed":false,"ep_exclude_from_search":false,"footnotes":""},"class_list":["post-16883","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Grantiau|Hwb Gwybodaeth<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/grantiau\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Grantiau|Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/grantiau\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-07-09T13:19:05+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2022\/02\/preparing-business-project-together-SNT3A84-1024x683.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1024\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"683\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"9 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/grantiau\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/grantiau\/\",\"name\":\"Grantiau|Hwb Gwybodaeth\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/grantiau\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/grantiau\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2022\/02\/preparing-business-project-together-SNT3A84.jpg\",\"datePublished\":\"2023-07-17T16:00:42+00:00\",\"dateModified\":\"2025-07-09T13:19:05+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/grantiau\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/grantiau\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/grantiau\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2022\/02\/preparing-business-project-together-SNT3A84.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2022\/02\/preparing-business-project-together-SNT3A84.jpg\",\"width\":8256,\"height\":5504,\"caption\":\"Group of confident creative specialists leaning on table and discussing ideas while preparing business project together in office\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/grantiau\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Help ac arweiniad\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Cyllido eich mudiad\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-and-guidance\/funding-your-organisation\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":4,\"name\":\"Grantiau\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"description\":\"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"width\":512,\"height\":512,\"caption\":\"Hwb Gwybodaeth\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Grantiau|Hwb Gwybodaeth","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/grantiau\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Grantiau|Hwb Gwybodaeth","og_url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/grantiau\/","og_site_name":"Hwb Gwybodaeth","article_modified_time":"2025-07-09T13:19:05+00:00","og_image":[{"width":1024,"height":683,"url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2022\/02\/preparing-business-project-together-SNT3A84-1024x683.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"9 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/grantiau\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/grantiau\/","name":"Grantiau|Hwb Gwybodaeth","isPartOf":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/grantiau\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/grantiau\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2022\/02\/preparing-business-project-together-SNT3A84.jpg","datePublished":"2023-07-17T16:00:42+00:00","dateModified":"2025-07-09T13:19:05+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/grantiau\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/grantiau\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/grantiau\/#primaryimage","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2022\/02\/preparing-business-project-together-SNT3A84.jpg","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2022\/02\/preparing-business-project-together-SNT3A84.jpg","width":8256,"height":5504,"caption":"Group of confident creative specialists leaning on table and discussing ideas while preparing business project together in office"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/grantiau\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Help ac arweiniad","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Cyllido eich mudiad","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-and-guidance\/funding-your-organisation\/"},{"@type":"ListItem","position":4,"name":"Grantiau"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","name":"Hwb Gwybodaeth","description":"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.","publisher":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization","name":"Hwb Gwybodaeth","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","width":512,"height":512,"caption":"Hwb Gwybodaeth"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/16883","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2205"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=16883"}],"version-history":[{"count":10,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/16883\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":20777,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/16883\/revisions\/20777"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/16787"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/12965"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=16883"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}