{"id":16804,"date":"2023-07-17T17:00:32","date_gmt":"2023-07-17T16:00:32","guid":{"rendered":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/?page_id=16804"},"modified":"2025-07-09T14:17:12","modified_gmt":"2025-07-09T13:17:12","slug":"dechrau-arni","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/dechrau-arni\/","title":{"rendered":"Dechrau arni"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-bootstrap-blocks-container container mb-2\">\n\t\n<div class=\"site-breadcrumbs\"><span><span><a href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\">Cartref<\/a><\/span><\/span><\/div>\n\n\n\n\n<div class=\"wp-bootstrap-blocks-row row\">\n\t\n\n<div class=\"col-12 col-md-9\">\n\t\t\t\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Who-is-responsible-for-fundraising?\"><strong><strong>Pwy sy\u2019n gyfrifol am godi arian?<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Yn y pen draw, saif y cyfrifoldeb am godi arian yn effeithiol gydag aelodau eich Bwrdd ymddiriedolwyr neu bwyllgor rheoli.<\/p>\n\n\n\n<p>Efallai eich bod yn cyflogi staff neu\u2019n dirprwyo gwirfoddolwyr unigol i wneud gwaith codi arian. Ond dyletswydd y Bwrdd Ymddiriedolwyr yw sicrhau bod gan eich mudiad yr adnoddau sydd ei angen arno i gyflawni ei nodau a\u2019i amcanion. Mae hwn yn gyfrifoldeb cyfreithiol i unigolion sy\u2019n rhedeg elusen neu gwmni cyfyngedig, ond mae\u2019r rhwymedigaeth yn gymwys i\u2019r holl aelodau pwyllgor mewn mudiadau gwirfoddol a chymunedol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Comisiwn Elusennau wedi llunio canllaw defnyddiol i gynorthwyo ymddiriedolwyr gyda\u2019u cyfrifoldebau o ran codi arian. Edrychwch ar <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/publications\/charities-and-fundraising-cc20\/charities-and-fundraising\">Charity fundraising: a guide to trustee duties (Codi arian i elusennau: canllaw i ddyletswyddau ymddiriedolwyr) (Saesneg yn unig)<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Understanding-fundraising-strategy\"><strong><strong>Deall strategaeth codi arian<\/strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Waeth beth yw maint eich mudiad, byddwch chi\u2019n rhoi\u2019r cyfle gorau i chi\u2019ch hun i lwyddo drwy fynd ati i gynhyrchu incwm mewn <strong>modd strategol<\/strong>. Hynny yw, dylech lunio cynllun ar gyfer y tymor byr, y tymor canolig a\u2019r hirdymor, gan greu ymdeimlad bod pawb yn mynd i\u2019r un cyfeiriad o ran codi arian a sicrhau y bydd amser ac adnoddau gwerthfawr yn cael eu defnyddio\u2019n effeithiol. <\/p>\n\n\n\n<p>Bydd datblygu strategaeth codi arian, hyd yn oed un byr, yn eich helpu i wneud hyn. Mae angen i\u2019ch strategaeth codi arian gefnogi nodau eich mudiad ac mae angen iddi gyd-fynd \u00e2 dull cyffredinol eich mudiad o gynllunio\u2019n strategol. (Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y broses gyffredinol o gynllunio busnes, gallwch chi ganfod hyn yn ein hadran cynllunio strategol a busnes). <\/p>\n\n\n\n<p>Dylai eich strategaeth codi arian ymdrin \u00e2 3 phrif faes \u2013 eich sefyllfa bresennol, yr hyn rydych chi am ei gyflawni a\u2019r dulliau y byddwch chi\u2019n eu defnyddio i gyflawni hyn. Gallwch chi wneud hon mor fanwl ag y dymunwch. Y flaenoriaeth yma yw bod y strategaeth yn ddefnyddiol a bod modd ei defnyddio.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Ble ydym ni nawr?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Er mwyn llunio strategaeth codi arian effeithiol, mae angen i chi ddechrau drwy edrych ar sefyllfa bresennol eich mudiad, yn fewnol ac yn allanol. Hynny yw, dylech chi edrych ar yr adnoddau sydd gennych chi (staff, gwirfoddolwyr, cyllideb, cefnogwyr y gwyddys amdanynt, cyrhaeddiad ar gyfryngau cymdeithasol, gwefan) a deall sut y bydd cryfderau a gwendidau eich mudiad yn effeithio ar eich gallu i godi arian. Mae hefyd angen i chi fod yn ymwybodol o\u2019r amgylchedd rydych chi\u2019n cynhyrchu incwm ynddo a\u2019r risgiau a chyfleoedd sy\u2019n bodoli. Bydd yr wybodaeth hon yn sicrhau y gallwch chi wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch pa weithgareddau sy\u2019n debygol o fod yn fwy llwyddiannus.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Ble ydym ni eisiau bod?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Bydd angen i chi fod yn eglur ynghylch yr hyn rydych chi eisiau ei gyflawni o\u2019ch ymdrechion codi arian, a dylai hyn gael ei nodi fel nod codi arian. Dylech chi amlinellu pam rydych chi\u2019n codi arian a chynnwys trosolwg o\u2019r prosiectau neu ddatblygiadau penodol rydych chi\u2019n bwriadu eu cefnogi. Dylech chi hefyd ystyried a ydych chi\u2019n gobeithio denu cefnogwyr newydd neu gynhyrchu incwm o ffynonellau newydd (amrywio eich ffrydiau incwm).<\/p>\n\n\n\n<p>Dyma rai enghreifftiau o nodau codi arian \u2013<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Darparu cyllid ar gyfer xxx prosiect 3 blynedd<\/li>\n\n\n\n<li>Sefydlu gr\u0175p \u2018Cyfeillion&#8230;\u2019 sy\u2019n cynhyrchu \u00a32,000 y flwyddyn i gefnogi costau craidd<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Byddwch chi\u2019n manylu ar sut byddwch chi\u2019n cyflawni\u2019r nodau hyn yn rhan nesaf eich cynllun.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Sut ydym ni\u2019n mynd i gyflawni hyn?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Yn y rhan hon, dylai eich strategaeth nodi manylion y gweithgareddau codi arian y byddwch chi\u2019n eu gwneud a sut byddwch chi\u2019n gwneud y gweithgaredd. Yn hytrach na dewis gweithgaredd codi arian ar hap am ei fod yn swnio\u2019n dda, meddyliwch am faint fyddai\u2019n ei gostio i\u2019w wneud, pwy fyddai\u2019n cymryd rhan, faint byddai\u2019r bobl hyn yn debygol o wario\/rhoi, beth fyddent yn mwynhau ei wneud, pa bethau eraill sy\u2019n digwydd ar yr un pryd?<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y penderfyniadau y byddwch chi\u2019n eu gwneud ynghylch y gweithgareddau codi arian y byddwch chi\u2019n eu gwneud yn cael eu llywio gan y dadansoddiad y gwnaethoch chi o\u2019ch mudiad a\u2019r hinsawdd rydych chi\u2019n gweithredu o\u2019i fewn. Byddwch yn realistig ynghylch y mathau o weithgareddau y byddwch chi\u2019n penderfynu mynd ati i\u2019w gwneud a graddfa\u2019r gweithgareddau hyn, gan ystyried yr amser, y gost a\u2019r sgiliau sydd eu hangen arnoch i\u2019w cyflawni.<\/p>\n\n\n\n<p>Cyn ymrwymo i unrhyw weithgareddau codi arian, cofiwch wirio dogfen lywodraethu eich mudiad, oherwydd gallai fod cyfyngiadau ar y math o weithgaredd cynhyrchu incwm y gallwch chi ei wneud (er enghraifft, caiff buddsoddiadau eu cyfyngu\u2019n aml gan gymalau mewn dogfennau llywodraethu).<\/p>\n\n\n\n<p>Unwaith rydych chi wedi penderfynu ar y gweithgareddau codi arian, dylech wneud cynllun prosiect manwl sy\u2019n nodi pa dasgau sydd angen eu gwneud, gan bwy ac erbyn pryd. Dylech hefyd osod eich targedau ar gyfer y gweithgaredd codi arian a nodi ffyrdd o fonitro a ydych chi ar y llwybr cywir. Bydd hefyd angen i chi greu cyllideb ar gyfer eich gweithgareddau codi arian. Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud hyn yn ein hadran ar Gyllidebau a rhagolygon.<\/p>\n\n\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Getting-to-know-your-supporters-(donors)\"><strong>Dod i adnabod eich cefnogwyr (rhoddwyr)<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae canolbwyntio ar <strong>bobl<\/strong> yn rhan annatod o gynhyrchu incwm yn llwyddiannus. Mae\u2019n bwysig eich bod yn dod i adnabod eich cefnogwyr (pwy ydyn nhw a beth sy\u2019n eu cymell) fel y gallwch chi gyfathrebu \u00e2 nhw\u2019n effeithiol a chadw eu cefnogaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Er mai nod cyffredinol codi arian yw dod ag arian i mewn i\u2019ch mudiad, nid yw gofyn am arian er mwyn gofyn (i fod yn sinigaidd) yn mynd i ysbrydoli pobl i roi arian i chi. Mae dull codi arian da yn meithrin cysylltiad \u00e2\u2019r rhoddwr, yn creu pont rhwng eich mudiad a\u2019u gwerthoedd a\u2019u gallu i effeithio ar newid er mwyn byw&#8217;r gwerthoedd hynny. Nid yw pawb eisiau na\u2019n gallu gweithio neu wirfoddoli i elusen, ond mae rhoi arian neu nwyddau yn ffordd y gall rhywun gyfrannu at yr achos(ion) sy\u2019n agos at ei galon; ei achos &#8216;ef&#8217;. Pan fyddwch chi\u2019n deall gwerthoedd a chymhellion eich rhoddwyr, gallwch chi gynllunio eich negeseuon codi arian yn unol \u00e2 hynny.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd dod i adnabod eich rhoddwyr neu\u2019r bobl rydych chi\u2019n credu y gallai ddod yn rhoddwyr hefyd yn eich helpu i benderfynu ar ba weithgareddau codi arian i roi cynnig arnynt. Ai gwragedd ydyn nhw\u2019n bennaf, neu bobl dros 55 oed? Defnyddiwch adnoddau syml fel cyfryngau cymdeithasol ac arolygon byr i ganfod sut maen nhw\u2019n hoffi treulio\u2019u hamser, sut maen nhw\u2019n hoffi derbyn cyfathrebiadau a beth maen nhw\u2019n ei hoffi a ddim yn ei hoffi\u2019n gyffredinol. Bydd hyn yn eich helpu i gynllunio gweithgareddau codi arian a fydd yn apelio atyn nhw. Er enghraifft, pe baech chi\u2019n canfod bod llawer o\u2019ch cefnogwyr hefyd yn frwd am rygbi, gallech chi ganolbwyntio ar ddod o hyd i wobrau sy\u2019n ymwneud \u00e2 rygbi ar gyfer ocsiwn dawel. Pe bai nhw\u2019n hoffi mynd i fwytai a rhoi cynnig ar fwydydd newydd, gallech chi gynllunio digwyddiad gyda chogydd gwadd.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Support-your-fundraisers\"><strong>Cefnogwch eich pobl codi arian<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r bobl sy\u2019n gwneud eich gweithgareddau codi arian hefyd yn bwysig. Rhowch gymaint o amser a chymorth \u00e2 phosibl i bwy bynnag sy\u2019n codi arian i chi. Sicrhewch fod ganddyn nhw fynediad at yr wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i gynllunio gweithgareddau da, a gwnewch yn si\u0175r nad ydynt yn gweithio ar eu pen eu hunain. Yn aml, mae codi arian yn rhywbeth cyhoeddus iawn i\u2019w wneud a gall fod yn anodd (yn enwedig mewn amgylcheddau economaidd anodd), felly mae angen i\u2019r bobl sy\u2019n ei wneud wybod bod ganddyn nhw gefnogaeth yr holl fudiad. Wedi\u2019r cwbl, bydd canlyniadau eu gwaith nhw o fudd i\u2019r holl fudiad.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Fundraising-skills\"><strong>Sgiliau codi arian<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae nifer o sgiliau, y gellir eu trosglwyddo o feysydd gwaith eraill, sy\u2019n gallu cyfrannu at weithgareddau codi arian llwyddiannus. Nid oes angen i chi gael un person sy\u2019n meddu ar yr holl sgiliau hyn \u2013 defnyddiwch sgiliau pobl ar draws eich mudiad i gael y canlyniadau sydd eu hangen arnoch chi.<\/p>\n\n\n\n<p>Dyma rai o\u2019r sgiliau allweddol sy\u2019n cyfrannu at weithgareddau codi arian da:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Rheoli cydberthnasau:<\/strong> waeth a ydynt yn gyllidwyr, busnesau, unigolion neu\u2019n wirfoddolwyr, mae magu cydberthynas \u00e2 phobl a mudiadau yn sgil craidd sydd ei angen i godi arian yn dda.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Cyfathrebiadau a marchnata:<\/strong> bydd gallu cyfathrebu effaith eich gwaith yn effeithiol (i\u2019r bobl gywir, ar yr adeg gywir, yn y modd cywir) yn gwneud unrhyw dasg codi arian yn fwy effeithiol<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gwerthu:<\/strong> er nad ydyn ni eisiau meddwl am godi arian yn y modd hwn, mae\u2019r rheini \u00e2 phrofiad o werthu yn gwneud codwyr arian da. Yn yr un modd ag y mae gwerthu yn ymwneud ag egluro sut bydd eich cynnyrch yn diwallu anghenion\/gofynion rhywun, mae codi arian yn ymwneud ag egluro sut bydd cefnogi eich elusen yn helpu i fodloni gwerthoedd rhywun.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Digidol:<\/strong> mae sgiliau digidol yn berthnasol i bob agwedd o godi arian, gan gynnwys ffyrdd o weithio, dulliau o godi arian a chyfathrebu. Gweler rhagor o wybodaeth yn ein hadran Digidol isod.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Cyllidebu:<\/strong> Bydd angen i\u2019ch gweithgareddau codi arian gael eu costio a\u2019u cyflawni\u2019n briodol o fewn cyllideb gytunedig. Bydd angen i\u2019ch cyllideb adlewyrchu\u2019r ffaith y bydd yn cymryd amser i weithgareddau codi arian gyflawni canlyniadau ac na fyddwch, o bosibl, yn adennill costau ar unwaith. Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am sut i fynd ati i gyllidebu yn ein hadran Cyllidebu a rhagweld<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Digital\"><strong>Digidol<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Nid yw codi arian yn wahanol i unrhyw agwedd arall o reoli\u2019ch mudiad \u2013 mae ffyrdd o ddefnyddio digidol a fydd yn cael effeithiau positif o ran amser, cost ac adnoddau eraill. Mae digidol yn ymwneud \u00e2 sut rydych chi\u2019n trefnu\u2019r gwaith codi arian yn fewnol a sut rydych chi\u2019n cyfathrebu \u00e2\u2019ch rhoddwyr. Gall hefyd eich helpu i greu ffyrdd o alluogi pobl i roi i\u2019ch mudiad, er enghraifft, drwy ddefnyddio seilwaith digidol ffisegol fel dyfeisiau rhoi di-arian neu ddefnyddio Facebook i roi er mwyn creu mwy o gyfleoedd i\u2019ch cefnogwyr roi.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall mynd ati mewn modd digidol gefnogi ffyrdd di-ri o godi arian, ond os ydych chi\u2019n barod i ddysgu mwy am godi arian ar-lein yn benodol, mae gennym ni arweinlyfr sydd wedi\u2019i ddatblygu gan Local Giving.<\/p>\n\n\n\n<div style=\"height:50px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n\n\n<div style=\"height:50px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Gift-Aid\"><strong>Rhodd Cymorth<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Rhodd Cymorth yw\u2019r cynllun gan Lywodraeth y DU sy\u2019n caniat\u00e1u i elusennau hawlio 25c ychwanegol am bob \u00a31 a roddir gan drethdalwyr y DU. Nid oes angen i chi fod yn elusen gofrestredig i hawlio Rhodd Cymorth. Ni ellir hawlio Rhodd Cymorth pan nad yw\u2019r rhodd wedi dod o\u2019r rhoddwr yn uniongyrchol, neu pan fydd rhywbeth wedi\u2019i dderbyn yn gyfnewid am y \u2018rhodd\u2019, er enghraifft, tocynnau i ddigwyddiad codi arian.<\/p>\n\n\n\n<p>Nid yw Rhodd Cymorth yn costio\u2019r un geiniog i\u2019w hawlio, ond mae tasgau gweinyddol i\u2019w cyflawni, felly dylid cadw amser ar gyfer hyn. Mae mwy na \u00a3500 miliwn y flwyddyn o Rodd Cymorth yn mynd heb ei hawlio, felly mae\u2019n bendant yn gyfle y dylid manteisio arno os gallwch chi roi\u2019r prosesau cywir ar waith.<\/p>\n\n\n\n<div style=\"height:50px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n\n\n<div style=\"height:50px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\" id=\"Code-of-Fundraising-Practice\"><strong>Cod Ymarfer Codi Arian<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Cod Ymarfer Codi Arian yn gosod y safonau sy\u2019n gymwys i weithgareddau codi arian a wneir gan bob sefydliad elusennol a chodwyr arian trydydd parti yn y DU. Mae\u2019r Cod yn amlinellu gofynion cyfreithiol ac arferion da o ran codi arian, ac yn eich cyfeirio at ddeddfwriaethau a chanllawiau eraill (e.e. ynghylch gamblo mewn perthynas \u00e2 loter\u00efau elusennol). Yn ogystal \u00e2 darparu\u2019r fframwaith hwnnw er mwyn gwneud yn si\u0175r eich bod yn codi arian mewn modd cyfreithiol, gall <a href=\"https:\/\/www.fundraisingregulator.org.uk\/code\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">y Cod<\/a> eich helpu i fireinio syniadau os nad ydych chi\u2019n sicr o ba weithgareddau codi arian i roi cynnig arnynt.<\/p>\n\n\n\n<p>Caiff y Cod ei reoli gan y Rheoleiddiwr Codi Arian. Mae\u2019r Rheoleiddiwr yn gyfrifol am godi arian da ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Nhw sy\u2019n ymdrin \u00e2 chwynion ynghylch codi arian, ac maen nhw\u2019n <a href=\"\/www.fundraisingregulator.org.uk\/guidance\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">rhoi cyngor ac arweiniad ar arferion da (gwefan Saesneg yn unig).<\/a><\/p>\n\n\n\n\t<\/div>\n\n\n\n<div class=\"col-12 col-md-3\">\n\t\t\t\n\n\t<\/div>\n\n<\/div>\n\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"author":2205,"featured_media":12126,"parent":16787,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"ep_exclude_from_search":false,"footnotes":""},"class_list":["post-16804","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Dechrau arni|Hwb Gwybodaeth<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/dechrau-arni\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Dechrau arni|Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/dechrau-arni\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Hwb Gwybodaeth\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-07-09T13:17:12+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/09\/shutterstock_1907681809-scaled-1.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1668\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"9 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/dechrau-arni\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/dechrau-arni\/\",\"name\":\"Dechrau arni|Hwb Gwybodaeth\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/dechrau-arni\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/dechrau-arni\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/09\/shutterstock_1907681809-scaled-1.jpg\",\"datePublished\":\"2023-07-17T16:00:32+00:00\",\"dateModified\":\"2025-07-09T13:17:12+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/dechrau-arni\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/dechrau-arni\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/dechrau-arni\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/09\/shutterstock_1907681809-scaled-1.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/09\/shutterstock_1907681809-scaled-1.jpg\",\"width\":2560,\"height\":1668},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/dechrau-arni\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Help ac arweiniad\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Cyllido eich mudiad\",\"item\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-and-guidance\/funding-your-organisation\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":4,\"name\":\"Dechrau arni\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"description\":\"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Hwb Gwybodaeth\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png\",\"width\":512,\"height\":512,\"caption\":\"Hwb Gwybodaeth\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Dechrau arni|Hwb Gwybodaeth","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/dechrau-arni\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Dechrau arni|Hwb Gwybodaeth","og_url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/dechrau-arni\/","og_site_name":"Hwb Gwybodaeth","article_modified_time":"2025-07-09T13:17:12+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1668,"url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/09\/shutterstock_1907681809-scaled-1.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"9 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/dechrau-arni\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/dechrau-arni\/","name":"Dechrau arni|Hwb Gwybodaeth","isPartOf":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/dechrau-arni\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/dechrau-arni\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/09\/shutterstock_1907681809-scaled-1.jpg","datePublished":"2023-07-17T16:00:32+00:00","dateModified":"2025-07-09T13:17:12+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/dechrau-arni\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/dechrau-arni\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/dechrau-arni\/#primaryimage","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/09\/shutterstock_1907681809-scaled-1.jpg","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2021\/09\/shutterstock_1907681809-scaled-1.jpg","width":2560,"height":1668},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/cyllido-eich-mudiad\/dechrau-arni\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Help ac arweiniad","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-ac-arweiniad\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Cyllido eich mudiad","item":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/help-and-guidance\/funding-your-organisation\/"},{"@type":"ListItem","position":4,"name":"Dechrau arni"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","name":"Hwb Gwybodaeth","description":"Mae\u2019r Hwb Gwybodaeth yn helpu chi i gadw\u2019n wybodus, gwella\u2019ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.","publisher":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#organization","name":"Hwb Gwybodaeth","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","contentUrl":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/app\/uploads\/2023\/09\/cropped-knowledge_hub_favicon-1.png","width":512,"height":512,"caption":"Hwb Gwybodaeth"},"image":{"@id":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/16804","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2205"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=16804"}],"version-history":[{"count":16,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/16804\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":20775,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/16804\/revisions\/20775"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/16787"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/12126"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/knowledgehub.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=16804"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}